CYFARWYDDID IR CYMRU.

A ysgrifenwyd yn 1655.

Printiedig yn Llundain, 1657.

CYFARWYDDID IR CYMRU.

1. Y Cymru hawddgar: Mae llawer yn achwyn fod cimaint o opiniwnau a chroes ffyrdd i droi oddiar lwy­brau 'r bywyd i gromlechydd an­gau, nad oes mo rai yn meiddio tramwy ymlaen. Ond ith gyfar­wyddo di, wele Dyma air o hanes yr Oen, a hanes yr enaid, a hanes yr Oen ar enaid ynghyd. fe a ddangosir i ti yn gyntaf, o ba le yr wyti yn dyfod, i ba le yr wyti yn myned, Pa fodd y daeth y fath ymrysson [Page 2] ynot ti ag ymysg dynion, a pha bryd y rhennir y cwbl yn ddau opiniwn, fel yn ddau feddwl gwreiddiol tragwyddol. Pa ffordd iw llwybr yr Ailenedigaeth yn­ghrist. Mi ymresymaf ath di er mwyn i ti ymresymu ath di dy hunan, canys os adnabyddi dy hu­nan, di a gydnabyddi DDuw ar Oen hefyd ynghyd gidath di.

2. Mae genit ti etifeddiaeth o dair rhan, sef ysbryd ag enaid a chorph. Dy ysbryd di a ddaeth or Tad fel rheswm or meddwl fel gair or galon, fel gwreichionen or eirias, fel ffynnon or mor, neu fel anadl or genau, yr hwn a chwyth­wyd i gorph dyn allan o fonwes Duw, ag sydd i ddychwelyd eil. waith iw fonwes ef, yr hwn sydd yn presswylio mewn plas a elwir tragwyddoldeb. Dy enaid hefyd iw 'r ysbryd naturiol a grewyd or elementau anweledig, yn ôl natu­riaeth y telpyn pridd, yr hwn y [Page 3] mae fo yn lleteua ynddo; er hyny mae 'r enaid yma yn ffurfiwr ir corph, ag yn i agweddu yn ol ei feddwl, i aros yn ei hafod-ty gorph­orol dros amser. Ag etto cwlwm iw 'r enaid yma rhwng yr ysbryd ar corph, a phan wisger ef allan drwy glefydau, neu i dorri ffordd arall, mae 'r ysbryd yn ymollwng oddi­wrth y corph i mewn, fel gwr yn myned oddicar tref. Canys ysbryd y bywydau (medd Moesen) a anadlwyd i ddyn, ag nid vn ysbryd bywyd yn vnig, fel y darllennwch chwi. Mae mewn dyn y naill beth or tû fewn ir llall, fel or vn pren y mae bywyd sugn, corph calon y pren, ai risglin. Am hyny meddaf nid iw'r corph ond rhisglin y pren, neu grustyn dyn, neu ddeilien i gwympo ir ddayar dan draed. Ag fel y mae 'r ddayar megis pwll yn agoryd ei cheg i lyngcu yr holl gyrph (y glandeg fel y gwrthyn) felly y mae vffern yn ymrythu am [Page 4] yr holl eneidiau cnawdol. Ag yma y mae dirgelwch.

3. Fe ysgrifenid hyn yn helac­thach attat, ped fai gennad oddi­fewn, ath glust dithau wedi i chlo­ddio yn ddyfnach. A ddarllenno dealled, A ddeallo dilyned yr hyn a wyr ynddo ei hun, ag fe gaiff oleuni 'r haul yn lle goleuni 'r lle­uad ar sêr yn y galon. Ond nag anghofied hyn, fod ysbryd ynddo yr hwn oedd ymmonwes Duw eri­oed, ag a bery cyd ag y parhatho Duw a dim, a hyny iw byth. Pa le yr oeddit ti (medd Duw) pan syl­faenais i y byd mawr yma? Atteb os gwr o ddysg wyt. Fe ddyscodd yr ailenedig atteb. Yr oeddwn i yn dy lwynau Arglwydd, fel plentyn neu gangen yn y gwreiddyn. Canys Duw iw tâd yr ysbrydoedd, ag Arglwydd Dduw ysbryd pob cnawd.

Er bod dyn yn gwybod i fod ef yn bechadur fisoedd cyn i ddy­fod [Page 5] ir byd, Ni wyr ym mha fangre yr oedd ychydig flynyddoedd cyn i eni. Nid iw naturiaeth ond cys­god y naturiaethwr. Ag ymbell a genfydd hyn drwy 'r goleuni trag­wyddol, pa fodd y lluniwyd ef ynghroth ei fam a pha ham: Oble­gid mae ysbryd Duw yn chwilio dyfnion bethau Duw a dyn, ag os hwn a ddysg, fe all dyn drwyddo weled mwy nag a ganfyddai cer­ddwr Israel yr hwn (yn ei amser) a ddywedodd. ô mor rhyfedd ag mor ofnadwy im gwnaed? Mae pob peth o Dduw, ag fel y daeth, felly y dychwel medd Salomon, naill ai ir llid ai ir cariad tragwy­ddol.

4. Ond (meddi di) A ddaeth neb allan ohono ef yn ei ddigofaint. Yr atteb yw. Er dyfod y rhan fwyaf allan or natûr dragwyddol mewn cynhyrfiad tânllyd, etto ni ddaeth neb allan o Dduw mewn digter. Canys cariad iw Duw ag [Page 6] nid oes dywyllwch ynddo. Os ystyriol wyt ag ysbrydol, deall y gwahaniaeth. Ond ni ddichon ysbryd dyn ddeall mo bethau Duw, ag nes iddo gael yspryd Duw, ni fedr ef ganfod o ba le i daeth.

5. O enaid. I ba le yr wyt ti yn myned? Ni wyddost di mo hyn chwaith, mwy na gwr ar ei daith, pa le y lleteua, na pha gwmnhiai cyfer­fydd. Nhw ddywedant ynghymru fe wyr pan el ni wyr pan ddêl. Ond am yr enaid, ni wel o ba le i daw nag i ba le ir â. Hynod iw hyn, mai ir bedd ar ddayar yr â 'r cnawd, ar anadl cnawdol ir chwalfa, y corph a brosir yn ffwrn y bedd, yr enaid a ymlyn wrth yr ysbryd (yr hwn iw calon y pren) ar ysbryd a erys byth yn y naturiaeth a chweny­chodd ef fwyaf. Y corph nid iw ond megis erfyn yn llaw yr enaid ffurfafennol. Yr enaid nid iw ond anadliad yr ysbryd dirgelaf. Yr ysbryd iw 'r droell oddifewn syn [Page 7] troi 'r enaid ar corph llei mynno, am a allo. Y corpws iw 'r brethyn o amgylch dyn, yr enaid sydd me­gis y corph yr hwn a wisgwyd a phridd, ond yr ysbryd iw canol y creadur.

6. Mae dyn ar i redeg yn y bywyd yma, ag mae ai cyferfydd ag a ofyn iddo. I ba le y mae yr enaid ar ysbryd yn myned? Pa elw sydd i ddyn ddawnsio a mynd i lawr i bwll diwaelod mewn dif­yrrwch amserol? Oni chosba Duw di am i ti ledratta dy galon oddi­wrtho? A wyt ti yn meddwl mai byrr iw Byth, ag mai hir iw einioes dyn dayarol? Ai gwell genit ti ddioddef taranau digofaint cyfi­awnder byth, gida gwawd y cy­threuliaid (am it fyw mewn pe­chod fel nhwythau) na dioddef gwatwar dynion dros fynud awr yma? Onid Duw iw 'r Câr gorau, ar gelyn gwaethaf? Pam [...]r wyti yn porthi dy gnawd i newynu dy [Page 8] enaid? ag yn llochi dy enaid, neu dy reswm cnawdol i ddifetha dy ysbryd? Mae gwybedyn ar dy ffordd di yn dy rwystro i ddaioni, ond ni all Angel Duw moth rwystro ir pechod. A wnaeth Christ y cyfan drosot ti? Ag oni chlywi di ar dy galon wneuthur dim drosto fo? A ddioddefodd vnig fab Duw golli gwaed ei galon (yn yr hon yr oedd y bywyd ei hunan) ar cwbl drosot ti? Ag oni ddio­ddefi di ddim er ei fwyn ef, neu (or lleiaf) er mwyn dy enaid dy hun? A ollyngi di 'r Aur ysbrydol oth law i lenwi dy law ath feddwl yn llawn ar bryntni? A golli di ysbryd y bywyd tragwyddol i gael y dim amserol? Beth meddi di sydd lai na Dim? Yr holl fyd amserol sydd lai na Dim (medd Esay) yngolwg Duw. Ag a ofni di (neu a ofeli di) am y peth sydd lai na Dim? A hoffi di 'r byd ai chwant yr hwn wedi i roddi oll [Page 9] ynghyd sydd lai na dim medd yr yscythurau sanctaidd? (canys y byd ai chwant sydd yn myned heibio, a chwant y byd iw ysbryd difyr y naturiaeth yn yr hon yr wyti yn byw) Pam nad wyti yn edrych mewn pryd beth a ddaw ohonot ti pan losgir (pan ddiddimir) y byd? Eistedd di ychydig ag aros mewn dealldwriaeth a meddwl am dy ddiwedd cyn iddo ddyfod; Ai gwell genit ti gysgu dros fynyd awr, ag yno deffro yn y tân tragw­yddol na deffro yr awron, a myned allan oth ewyllys dy Hunan i ochel y tân aniffoddadwy? Pam yr wyti yn eistedd ynot dy Hunan gartref (oddicartref oddiwrth Dduw) yn­ghornel simne dywyll dy feddwl dy Hunan, heb y mofyn am y Duw byw nag ynot dy hunan nag mewn eraill chwaith? Pam yr wyti etto yn ymborthi ar y cibau gida 'r môch, a digon o fara yn nhy dy Dad yn aros amdanat? Pam yr [Page 10] wyti yn rhedeg gidag anifeiliaid gwylltion, sef dynion drygionus, ag yn troi heibio, drwy wrthod cwmnhi angelion sanctaidd Duw? Pam yr wyti yn ymdreiglo yn nhommen y byd ar cnawd, ag yn diflasu y Manna ar bywyd a bery byth? Pam yr wyti yn ynfydu ar ol pibellau y gwagfoneddigion a rhesymau cythreuliaid, ag yn di­ystyru llais mawr Duw, yr hwn ath farna pan na allo neb ddadleu drosot? Ai Luciffer (gwalch y byd hwn) sydd yn dy ddal di fyth ag etto yn ei ewinedd? A ydiw cadwyn gadarn dy ewyllys di dy hun yn rhwymo dy feddwl? A oes vn pysygwr yn Gilead, nag vn gydwybod yn dy fonwes? A oes neb a fedr ddangos y ffordd i ti? neu yn hytrach, a wyti yn ymofyn amdani? Beth wyti well er dy lyfr gwasanaeth? ath di fyth yn caru gwasanaeth y pechod. Mae ffordd well, ped fait ti yn i hymo­fyn [Page 11] i ti i weled iechydwria [...] yn y tragwyddoldeb. Pa le y byddi di ymhen mil o flynyddoedd? Gadel ar Dduw (meddi di) ond mae Duw yn gadel arnat tithau, heb ewyllysio marwolaeth y pechadur? Dyma ganwyll i ti (ô enaid anwyl) ith gysuro ag ith gyfarwyddo.

7. Ond di a ofynni i mi (wedi hyn i gid) ni wn i pa ffordd a gy­meraf. Mae cimaint o opiniwnau vn y byd ag sydd o wallt ar fy mhen i: Bei gwyddwn i y ffordd orau or cwbl, mi ai dilynwn hyd y diwedd drwy help Christ. Ond mae 'r naill wr duwiol dyscedig yn erbyn y llall, ag mae nhwy i gid yn byw yn dda. Ond ith atteb di ô Ddyn. Wele di a wyddost swy nag yr wyt ti yn i wneuthur, ag mae mwy o nerth Duw gidath di i wneuthur nag yr wyti yn i arferu, Nid oes gan ddyn ohono ei hunan na goleuni na nerth nag ewyllys i ddaioni, ond mae gan [Page 12] ddyn [...]ddo ei hunan fwy o oleuni ag o nerth oddiwrth Dduw (yr hwn sydd yn bywhau pob peth) nag y mae 'r dyn yn i arfer. Arfer y dalent a roddwyd i ti (hyd yr eithafoedd) ag di gei adnabod y wir ffordd nefol frenhinol, ymysg yr holl lwybrau eraill.

8. Os byddi di ffyddlon i Dduw gan ei groesatu yn llestr dy gyd­wybod oddifewn, drwy fod yn gymeradwy genit gadw Duw yn dy wybodaeth, efe ath arwain di i adnabod Christ a hanes yr oen ar enaid ynghyd. yr oen yma iw go­leuni dynion, a bywyd y Byd. Hwn oedd ddifyrrwch y Duw anfesurol cyn dechreuad y byd. Hwn oedd y Gair a wnaeth bob peth yn y dechreuad, Hwn iw 'r golofn ddifesur sydd yn cynnal pob peth. Hwn a wnaethpwyd ynghyflawnder amser yn gnawd ag yn naturiaeth ddynol. Hwn a ddioddefodd dros ddyn waeth­af [Page 13] digofaint; Dyma 'r hwn oedd vwchlaw pob peth, ag a ddescyn­nodd islaw pob peth, fel y galle ef escyn eilwaith yn greaduriaidd vwchlaw pawb, i fod vwchben pob enw, er mwyn iddo lenwi pob peth Hwn sydd ymhob dyn fel y mae fo yn Air Duw, a chida 'r rhai sydd yn i vfyddhau fel brenin, ag yn darostwng ei hewyllys i angau 'r groes, i fyw yn ewyllys Duw. Hwn meddaf a ddywaid. Os oes neb a fyn wneuthur ewyllys fy nhâd, efe a gaiff wybod am y ddysceidiaeth ag adnabod pob llwybr daionus.

9. Deall hyn hefyd ynghylch y ddau Adda, y pren cyntaf a blannodd Duw ymmharadwys, ar Ail Adda Christ Jesu, yr hwn a blannodd Duw yn ein cnawd ni. Yr Adda cyntaf a bechodd (ninnau oeddem yn sylweddol ynddo ef, ag a bechasom cystal ag yntau) am hyny y mae ei natur [Page 14] front ef yn deilliaw i ni drwy ene­digaeth o oes i oes. Ag ni chy­frifasai Duw byth moi bechod ef i ni, oni bai ein bod ni ynddo ef y pryd hwnnw yn pechu (fel L [...]ui yn Abraham) ag yntau ynom nin­nau yn pechu etto. Canys oni bai yn bod ni yn bwytta y ffrwyth gwaharddedig yn Adda, ni buasai ar ein dannedd ni mor dingcod. yr vn modd hefyd y mae i ni ddeall yr Ail Adda a marwolaeth Christ? yr Ail Adda a ddiodde­fodd, ag yr oedd yr holl rai cad­wedig ynddo ef y pryd hwnw, ag ir rhain y mae yntau drwy genhed­liad yr ail enedigaeth yn deilliaw, ag yn danfon ei ysbryd glan, se [...] anian Duw. Ag ni chyfiawnheir neb, ond y rhai ynddo ef a ddiodd­efasont gydag of, yn y rhai y mae yntau yn byw i Dduw. Felly dyma 'r atteb i ti enaid truan yr hwn wyt yn ymofyn y ffordd. Yr vnig ffordd ir nef iw 'r ailenedi­gaeth [Page 15] yn yr Ail Adda. Heb hyn nid oes wr o ddealldwriaeth ar wyneb y ddayar. Oni chlywaist di nad oes vn gwr o ddysg dan yr haul? Nag oes, vn ond Christ, y gwr sydd yn aros ynghalonnau ei ffyddloniaid sanctaidd. Oni wyddost di beth a ddywedodd Esay. Pe baent ynfydion ar ffordd ddieithr ni chyfeiliornant, os byddant fodlon i Ghrist ynddynt iw rheoli.

10. Rhaid iw dangos hefyd Pam y mae cimaint o ffyrdd yn lle vn ir nef ymysg plant Adda, a pham y mae dynion yn ymrafaelio fel brodyr Joseph wrth geifio mynd adref at y tad Jacob. Fel hyn y mae 'r peth. Dyn (neu Adda) a wnaed ar v cyntaf yn ddelw ir Gwneuthurwr, yr ysbryd ar ei lun ef, yr enaid ar ei ddelw ef, ar corph or ddayar. Ond Adda y gwreiddyn, a ninau oll ynddo ef (fel canghennau yn ei gwraidd) [Page 16] a gafodd gwymp a chodwm tostu­rus erchyll, oddiar Graig yr Oesoedd, i bwll y dyfnderoedd. Ag yn y cwymp yma fe a ymrannodd ynddo ei hu­nan, fel y gweli lestr pridd wrth ei gwymp yn mynd yn ddarnau. Ynddo ef yr ymagorodd yr ewy­llys ar gydwybod ar gwyniau ar rhesymau y naill yn erbyn y llall. Yn ei gorph ef hefyd yr ymddan­gosodd y ddayar ar tân ar dwfr ar awyr mewn rhyfel i farwolaeth (canys cyn y cwymp roedd yr ymryson yn guddiedig) Ag er bod y rhain yn ymladd ymhob vn o blant Adda (sef ynghorph pob dyn) etto ni all y naill fod heb y llall er hyny. Ag dymma wreiddyn clefydau 'r corph ag achos angau naturiaeth (fel y mae 'r ymryson arall oddifewn.) Ag fel y mae 'r Môr afreolus wedi gwahanu y naill ynys oddiwrth y llall, felly y mae 'r pechod (a thywysogion yr awyr ynddo) wedi didoli dyn [Page 17] oddiwrth vndeb Duw, wrth rannu dyn ynddo ei hun, yn gymnynt nad oes dyn yn y ddayar yn medru cydtuno ynddo ei hunan, yn ei gorph ai gydwybod, ai feddyliau ei Hunan: Ond mae ei resymau ef yn ymrafaelio, ag yn cûro y naill y llall, fel y gweli di ganghennau yr vn pren tra fo y dymhestl arnynt. Am hyny Dau sydd yn erbyn tri, a thri yn erbyn dau yn yr vn enaid, cystal ag yn yr vn teulu.

11. Nid oedd ond vn Jaith ar y cyntaf yngeneuau dynion; A hono o achos balchio or bobloedd yn ei Hundeb a holldwyd yn yscyrion lawer, fel nad iw 'r cymru chwaith mwy nag eraill yn deall moi gilydd, na nemor vn yn deall ei holl eiriau ei hun wrth ei gymydog llai o lawer beth y mae 'r galon yn i chwedleua ddydd a nos. Ag wedi danfon y plant i y scolion llygredig i gasglu rhai o flodau 'r ieithoedd, mae ei briallu hwynt yn gwywo [Page 18] cyn y delont adref at Dduw, neu attynt ei hunain. Er darfod iddynt ddisgu canu llawer caingc ar delyn tafodau gwahanedig naturiaeth, maent bellach bellach, yn lle bod nes nes, i ganu i Dduw gerdd wrth ei fodd, am nad iw fo yn chwen­nych clywed vn iaith mwy nai gilydd, ond peraidd dafodiaith ei ysbryd glan ei hun yn y galon isel.

12. Nid oedd ond vn grefydd ar y cyntaf ymmonwes Adda, yn Aberth Abel, ymmywyd Enoch, yn Arch Noah, yn nheulu Abraham, ag ymysg y rhai cadwedig, Ond yr awron, ni a welwn, mai pan godo 'r mwg or pwll diwaelod, llawer a goethant ar ei gilydd heb fawr yn beio fwyaf ar ei gnawd ai enaid ei hun Rhai yn dilyn y Pâb ar budredd, eraill ffydd ei brenin, beth bynnag fo hi: Rhai yn cadw ei gwyliau, eraill yn dilyn ei tadau (i ba le bynnag yr aethont.) [Page 19] Rhai yn eistedd yn llonydd ag yn pydru yngharchar y tywyllwch ar cyndynrwydd, llawer yn dilyn Mahom neu Mammon, ar rhan fwyaf yn myned ar ôl y tywysog garw Luciffer, ag yn dawnsio yn ddifyr yn chwantau 'r cnawd ar ol ei bibell ef, Ag er hyny yn breudd­wydio y cânt fyned yn vnion ir nef, ag yn gweddio am awr dda, heb ymofyn am naturiaeth dda oddiwrth Dduw. Fel hyn y mae 'r holl fyd yn i twyllo ei hunain, yn ymladd ai gilydd, yn tristhau yspryd Duw, ag yn peri ir cyth­reuliaid chwerthin wrth edrych ar ei hynfydrwydd. O [...]d ni phery hyn nemor o oriau, Canys mae 'r swyddog mawr, sef mab Duw, wrth y drws. A phan ddel i mewn, ag ymddangos yn y byd yma, fe orchymyn gasglu yr holl ddefaid ynghyd ar y naill law iddo, ar holl eifr ar y llaw arall. Ag yno y terfy nir yr holl ymraniadau neill­duol [Page 20] ag ai llyngeir yn yr vn dido­liad yma. Tyred Arglwydd Jesu Tyred chwippyn. Amen.

13. Am yr hyn a ysgrifennwyd yma or blaen, fe allai na ddeelli di ar y cyntaf mor meddwl, ond yr wyfi yn deisyf arnat ochelyd barnu heb ystyr, rhag cwympo ohonot i fysg y rhai sydd yn cablu yr hyn ni wyddant, ag yn cyfarth yr hyn ni ddeallant. Hyn sydd eglur, nad oes neb yn gadwedig ond drwy ffydd ynghrist, ag nad oes gan neb iawn ffydd, ond y rhai sydd yn bodloni Duw, ag nad oes neb yn i fodloni ef ond y rhai sydd debig iddo. Wedi i hail-wneuthur ar ôl llun a delw Duw ei hunan. Os wyti debig i Ghrist, cadwedig wyt. Os wyti anhebig iddo, yr wyti mewn cyflwr colledig. Gwir grefydd iw bod yn debig i Dduw ynghrist. Nid â neb i mewn ir nefoedd (o ba opiniwn bynnag i [Page 21] bôat) ond y rhai sydd ar ddelw Duw yn y byd. Ag ni fwrir neb i vffern, ond y rhai sydd anhebig ir Arglwydd. Cyfiawnder iw Duw. A wyt tithau yn gyfiawn ymhob peth, ag yn vniawn yn dy ffyrdd? neu ai byw yn ffals yr wyti mewn rhagrith a chamwedd, yn attal oddiwrth Dduw a dyn ei heiddo. Purdeb iw Duw, A wyt tithau yn sanctaidd ag yn ddigymysg dy feddwl? Doethineb iw 'r Arglw­ydd a Goleuni. Ai doeth a gwy­bodus wyt tithau yn dy holl ym­wareddiad. Yna yr wyt ti yn ddelw i Dduw, ag di gei fod gidag ef. Cariad iw Tad yr Arglwydd Jesu, Ai cariadus a hyfryd ahaw­ddgar wyt tithau? Mae fo yn dio­ddef, ag yn cydddwyn, ag yn talu da am ddrwg i bawb. Onid wyti tithau felly, nid wyti blentyn iddo. Ysbryd addfwyn llonydd iw ei ysbryd ef. Ond aflonydd ag an­fodlon iw plant y cythrael. Mae [Page 22] Christ yn ddiwyd ag yn fywiog, yn ddibaid yn gweithio ag yn rhoi, pob daioni ymhob man heb na huno na heppian. Ai swrth wyti ag esceulus i beb gweithred dda? yna vn o blant y byd hwn wyti, ag nid o Dduw. felly Wrth hyn, Edrych ar ba ddelw yr wyti ag di gei weled wrth hyny i ba le yr wyt ti yn myned byth. Canys yr eneidiau sydd debig i Dduw ym­hob man a gedwir, ar lleill oll a gollir, o ba grefydd bynag y bônt.

14. Gwir iw fod rhyfel ynot ti rhwng dwy naturiaeth, neu rhwng dy bechod ath gydwybod. Ond edrych pa vn or ddau iw dy Ar­glwydd, pa vn sydd ben ynot ti, Ai dy lygredigaeth ai yr wybodaeth o Dduw. I ba vn bynag yr wyti yn vfyddhau, i hwnw yr wyti yn was, ag yn ôl dy waith y bydd dy wobr. Os yn dy ewyllys dy hun y byddifyw, achubed dy ewyllys di wrth farw. Ond os gwadu [Page 23] a wnei di dy ewyllys dy hun a rhodio yn ewyllys Duw yn erbyn dy naturiaeth dy hun, yna ewyllys Duw ath gymer allan or corph i aros gida Duw ei hunan, Ewyllys yr Hunan iw 'r gadwyn gryfaf sydd gan ddiafol o amgylch yr enaid. Ceisied yn nerth croes Christ dorri honno yn gyntaf, a dysgu hebcor a chroesi ei ewyllys ei hunan, ag fe gaiff gyngor ymhellach oddiwrth Dduw. Ond dan hyny os rhoir gair arall iddo mae fo yn i dderbyn neu yn i ddarllen yn ei ewyllys ei hun, ag yn gwyro yr hyn a ysgri­fenwyd iw ddinistr ei hun. Ond yr Arglwydd an catwo ni rhag tramgwyddo wrth y mâen tram­gwydd. Amen.

TERFYN.

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this EEBO-TCP Phase II text, in whole or in part.