Unum Necessarium.
YM mysc yr hôll ddyledswyddau y mae Duw yn ei ddisgwil gan ddyn, nid oes yr un yn fwy bodlongar gan Dduw, ac yn fwy buddiol i ddyn nac yw Gweddi.
1. Mae Gweddi yn Gymeradwy gan Dduw; canys, hôll Addoliant Duw a elwir Galwad ar yr Arglwydd, Psal. xiv. 4. yr Eglwys yw ty Gweddi, Mat. xxi. 13. Duw ei hun a wrendy Weddi. Psal. lxv. 2. ac fel y darfu i bobl Ffrainc roddi mawr barch i Charles y 6. gan fyned ar eu gliniau i gyd, pan oedd ei fawrhydi ef yn unic yn marchogaeth ei geftyl; [Page 2] felly, trwy Weddi 'r ym ni yn talu arbennig anrhydedd i Dduw, gan gydnabod ei odidowgrwydd, a rhoddi ein hôll ymddiried ynddo. Wrth wrando arno ef, nid ym ni yn gwneuthur ond y peth y wnêl pôb discybl iw feistr; ond wrth Weddio, 'r ym ni yn ei gydnabod ef megis ffynnon a dechreuad pôb daioni yr ym ni yn ei ddisgwil: megis Awdwr ein hanfod ni, a gwrthddrych ein Addoliant ni: mewn gair, trwy hyn yr ym ni yn ei gydnabod ef yn Dduw i ni; gan mai dymma ysprydol Symbyliad naturiol Grefydd, i erfyn yn ostyngedig ar y Duw y mae yn ei adnabod: megis yr oedd y cenhedloedd (y rhai oedd yn addoli gweithredoedd eu dwylo eu hunain) yn cydnabod fod Gweddi yn Ddyledswydd bwysfawr. ac fel y mae Gweddi yn gymmeradwy gan Dduw; felly
2. Mae Gweddi yn fuddiol i ddyn; canys, dymma 'r offeryn cryf i gyrhaeddyd pôb daioni oddi-uchod; Gweddi yw 'r agoriad in gollwng ni i ystordy aneirif y Goruchaf, a'r clô i attal pôb drwg oddiwrthym. dymma 'r yscol ar hyd yr hon yr ym ni (pryfed gwael y ddaiar) yn dringo i fynu ir nêf, ac yn cael yr anrhydedd i ymbil a mawrhydi Duw. Gweddi sy 'n peri ir wyneb ddiscleirio, wrth Siarad a Duw o fynydd Sion, fel y discleiriodd wyneb Moses wrth chwedleua a Duw o fynydd Sinai, Exod. xxxiv. 29. dymma 'r grâs sy'n bywhau ac yn ysprydoli ein hôll weithredoedd ni, ac yn gwresogi ein [Page 3] calonnau, megis y tân yr hwn a ddygodd Prometheus of nêf, heb wybod i Jupiter, i fywhau ac i ysprydoli y dyn a wnaethai ef o glai 'r ddaiar. fel y dywedodd y prydyddion. Gweddi (megis y colofnau cwmmwl a thân ir Israeliaid) yw 'r hyfforddiad oreu trwy anialwch, maglau, drysni, profedigaethau, a gorthrymderau y byd hwn; in Cyfarwyddo ni megis hyfforddwr diffaeledig i wlâd yr addewid: ac fel y mae 'r ddihareb heb Dduw heb ddim, &c, felly heb Weddi, heb râs. ac mae 'r Yspryd glân yn rhoi 'r brifnôd hon ar golledigion, ni alwasant ar Dduw. Psal. xiv. 4. mae 'r Prophwyd Dafydd a'r Prophwyd Jeremi yn cydweddio am ddigofaint Duw ar y rhai ni alwasant ar Dduw; tywallt dy lîd ar y cenhedloedd y rhai nith adnabuannt, ac ar y teuluoedd (neu 'r teyrnasoedd) y rhai ni alwasant ar dy enw. Jer. x. 25. Psal. lxxix. 6. a phan feddyliodd Eliphaz i Job fwrw ymmaith ofn Duw, a darfod i Dduw ei fwrw ef allan oi ffafr, mae yn ei argyoeddi am attal ei weddi ger bron Duw; gan wneuthur y naill yn achos or llall. Job xv. 4. or tu arall fe addawodd Duw, Pwy bynnac a alwo ar euw 'r Arglwyd, cadwedig fydd. Rhuf. x. 13. ac os yr un peth yw grâs a Gweddi. (Zech. xii. 10.) Na ofelwch am ddim: eithr ym mhôb peth mewn Gweddi. &c.
Yn lle agoryd y geiriau hyn megis pregethwr, yn lle Phylosophyddiol a moesawl ymadroddion, a thafodiaeth hygoel; m i a ymegniaf, yn enw [Page 4] y Tâd, y Mâb, a'r Glân Yspryd, i atteb ir Cyrmo anllythrennog un Cwestiwn, (angenrheidiol iw wybod) yn yr hwn atteb (tebyg gennifi) y mae 'n gynwysedig holl (neu y rhan fwyaf o) ymarferol Athrawiaeth Gweddi. dymma 'r Cwestiwn. Bêth yw Gweddi? Atteb. Gweddi (yn ei hôll Sylwedd, ac ar fyrr) yw mynych a difrifol gyfodiad or galon at Dduw 'r Tâd, yr hwn sydd bôb amser yn abl ac yn ewyllysgar i wrando ac i atteb ein Gweddiau: Trwy wîr ffydd yn Nuw 'r Mâb, er mwyn yr hwn y derbynnir ein Gweddiau; a chymmorth Duw yr Yspryd Glân, yr hwn sy 'n dyscu i ni Weddio; am bethau cyfreithlawn ac angenrheidiol in cyrph an hencidiau ni ein hunain, ac eraill: gan amcanu bôd yn ddiffuant yn ddiolchgar, a mynegi moliant Duw nid â'n gwefusan yn unic, eithr yn ein bucheddau, trwy ymroddi iw wasanaeth, a thrwy rodio ger ei fron ef, mewn sancteiddrwydd ac uniondeb hôll ddyddiau ein heinioes. allan o ba eiriau mi a Ystyriaf, mai,
1. Gweddi cyfodiad y galon yw, ni thyccia i ni feddwl mai ymarferol eiriau a leferir â'r genau Sydd ddigon; canys, o helaethrwydd y galon y llefara y genau. Mat. xii. 34. pan orchymynodd y gorthrymmwr Trajan agoryd Ignatius, maent yn dywedyd fôd yn scrifennedig ar ei galon ef, mewn llythrennau o aur, y geiriau hyn, JESU GRIST. ac nid ym ni ond gwatwar, lleshenwi, a chymmeryd enw Crîst yn ofer á'n gwefusau, oddieithr [Page 5] in gweddiau ni yn gyntaf wreiddio yn y galon; a thyfu allan o honi. ac fell y dywedodd y Bardd am ganu,
felly y gallafi ddywedyd am weddi, mai nid pôd un sydd yn dywedyd, Arglwydd, Arglwydd, a daw i mewn i deyrnas nefoedd; eithr yr hwn (trwy weddio) sydd yn ceisio cyflawni ewyllys fy Nhâd, yr hwn sydd yn y nefoedd. Mat. vii. 21. canys, yr hollalluog Dduw, ir hwn y mae pôb calon yn agored, a pbôb-deisif yn gydnabyddus, [...] ac rhag yr hwn nid oes dim dirgel yn guddiedig; ni fynn moi watwar. mae Duw yn gweled pôb peth yn eglurach, trwy ein teiau ni o glai; nac yr oedd Drusus yn gweled trwy ei Dy o wydr. nid oes ar Dduw eiseu mor ffenestr (fel yr oedd Momus yn deisyf) i edrych i galonnau dynion. canys llygad i gyd yw ef. un or Phylosophyddion a dynnodd lun Duw fel hyn, fe roes ffonn ar ben brynn, ac un llygad ym mhen y ffonn, y ffonn i arwyddoceau hollalluowgrwydd, nerth, a chadernid Duw; ar llygad i hyspysu ei bresennoldeb a'i hollwybodaeth ef; yr hwn a chwilia y calonnau ar arennau. Psal. 7. 9. Yspryd yw Duw; a rhaid ir rhai a'i haddolant ef, addoli mewn Yspryd a gwirionedd. Joan. iv. 24. pe llefarwn â thafodau dynion ac Angelion, ac heb [Page 6] fôd gennif Gariad, perffaith (a chalon bur) yr wyf fel efydd yn seinio, neu Symbal yn tingcian. 1 Cor. xiii. 1. mae St. Basil dy wedyd fòd swn y gwyr a'r gwragedd a'r plant (yn ei amser ef) wrth weddio yn gwneuthur trwst megis tonnau 'r môr wrth guro 'r tyfod. ond beth yw hyn heb enaid defosionol? O berwydd bôb y bobl hyn (med Dduw) yn nessàu attafi a'i genau, ac yn fy anrhydeddu a'i gwefusau, a phellbâu eu calon oddiwrthif, &c. am hynny wele fi yn myned rhagof i wnenthur yn rhyfedd ym mysc y bobl byn, &c. Esay xxix. 13, 14. os edrychaf ar anwiredd yn fynghalon (medd Dafydd) ni wrendy Duw arnaf. Psal. lxvi. 18. Aberth yr annuwiol sydd ffiaidd gan yr Arglwydd. medd Salomon. Dihar. xv. 8. medd Duw gan hynny, Dihar. xxiii. 26. fy mâb moes i mi dy galon: yr hyn sy 'n arwyddoccau y deall, yr ewyllys, a'r serch. felly Hannab oedd yn gweddio yn ei chalon, yn unic ei gwefusan a symmudent, a'i llais ni chlywid. 1 Sam. i. 13. aberthau Duw ydynt yspryd drylliedic: calon ddrilliog gystuddiedic, ô Dduw, ni ddirmygi. Psal. li. 17. etto nid yw hyn yn esceusodi, ond yn hyttrach yn cynnwys Gweddi lefarawg, a chorphorol ostyngeiddrwydd; a Rheswm da, gan fôd y cwbl ôll yn rhy fychan i addoli y goruchaf Dduw; ac fel y mae dyn wrth scrifennu yn helpu ei goffadwriaeth, er bôd y peth yn ei feddwl ef or blaen, felly, drwy lefarawg weddi, a chorphorol ostyngeiddrwydd, mae dyn weithiau yn helpu [Page 7] i gynnyddu i zêl oddisewn. os yw'r galon yn traethu pethau da, y tasod hefyd a ddyleu sôd yn bin scrifennydd buan. Psal. xlv. 1. ni a ddylem dderchafu ein llygaid a'n dwylo, at Dduw yn y nefoedd Galar. iii. 41. a phylgu ein gliniau at Dâd ein Harglwydd Jesu Grîst. Eph. iii. 14. Cymmerwch eiriau gydâ chwi (medd y Prophwyd) a dychwelwch at yr Arglwydd, dywedwch wrtho, madden yr hôll anwiredd; derbyn ni yn addaionus, a thalwn it loi (neu ffrwyth) ein gwefusau Hos. xiv. 2. Heb. xiii.15. er bôb rhagrith oddifewn weithiau yn ymguddio yn y galon, pan fyddo 'r corph yn ymddangos yn wîr ostyngedig oddiallan, etto os oes gwrthnysigrwydd oddiallan, nid teby gol fôd gwîr ddifrifwch ondifewn: a'r nêb sydd mor falch, mor wrthnysig, mor anystwyth a dirmygu myned ar liniau ei gorph o flaen y goruchaf, mae 'n deby gol fôd gliniau ei enaid ef mor anghymmalog ac anystwyth, ac nad all ef wasanaethu Duw, oddieithr i Dduw yn gyntaf gymmeryd ymmaith y galon galed garegog, a rhoddi iddo ef galon feddal o gîg. ond beth a orchymmynnodd Dafydd? Na chaledwch eich calonnau: eithr deuwch, addolwn, â syrthiwn i lawr, a gostyngwn (neu awn) ar ein gliniau ger bron yr Arglwydd ein gwneuthyrwr Psal. xcv. 6.
2. Rhaid i hyn sôd yn fynych. Y Papistiaid yn eu hofergoel dywyll, mewn tafodiaeth anadnabyddus, (am hynny yn ddiadeiladaidd. [Page 8] 1 Cor. xiv. 15.) sy 'n rhuo ac yn mwmlio ugeuniau o Ave Mariau, a Phater Nosterau. Macarius a weddiodd 50 waith yn y dydd, un Paulus a wnaeth 300 ô weddiau y boreu, Sisinus a weddiodd bôb amser yn daclus dros dair blynedd, &c. ond i bassio hên chwedlau y Papistiaid; mi a ddarlennais fôd y Turciaid hefyd or uchaf rhyd yr ifaf, pa le bynnac a bônt, bêth bynnac a wnelont, yn gweddio bum waith yn y dydd, ond ysywaeth pa sawl Christion sydd nid yw yn gweddio cyn amled yn y mîs yscatfydd! roedd y Cristnogion yn y brîf Eglwys yn treulio llawer noswaith gyfan i wilio. nid oedd Dafydd yn unic yn cyfodi hanner nos, Psal cxix. 62. eithr yn gweddio hefyd saith waith yn y dydd. Psal. cxix. 164. hynny yw yn fynych. heb weddi yr ym ni megis Dinas ddigaerog yn ddarostyngedig ir gelynion. gan hynny (fel y gorchymmynnodd Crîst.) gweddiwch fel nad eloch mewn profedigaeth. Luc. xxii. 46. gweddiwch yn ddibaid. (medd yr Apostol.) 1 Thes. v. 17. mae yn angenrheidiol beunydd gasclu Manna nefawl, mae mor angenrheidiol i luniaeth yr enaid, ac yw bwyd a diod i luniaeth y Corph: ac os ynfyd yw yr hwn a newyna ei gorph, eisieu ei ymborthi; pa faint mwy ynfyd yw 'r hwn a newyna ei enaid? am hynny (medd yr Apostol) yr wyf yn ewyllysio i'r gwyr (neu i bawb) weddio ym mhôb man, gan dderchafu dwylo sanctaidd, heb na digter na dadl. 1 Tim. ii. 8. Ymma mi a [Page 9] ystyriaf gan hynny. 1. yr amser, bôd amser. 2. y lle, ym mhôb lle. 3. y môdd, gan dderchafu dwylo sanctaidd, &c.
1. am amser Gweddi. mae St. Augustin yn crybwyll mâth o bobl [Euchitæ] y rhai oedd yn tybied fôd y gair [DIBAID] yn arwyddoccau y dylem ni ym mhôb lle, bôb amser arferu llefarawg weddi, &c. ond amhossibl yw hynny; ac mae dyledswyddau eraill iw cyflawni. ond y ddau Dext ymma [1 Thes. v. 17. 1 Tim. ii. 8.] sy'n arwyddoccau, 1. Naill a'i y dylem ni bôb amser, ym mhôb man dderchafu ein calonnau ir nêf, er maint a fo ein gorchwyl ni an trafferth; neu yn hyttrach yn 2. amlder gweddi lefarawg. &c. (i fôd y ddistaw yn arfer Eglwys Duw, a phobl Grîst) o leiaf ddwy waith yn y dydd. 1. y boreu. 2. yr hwyr.
1. y Boreu. dechreuad hylwydd sy'n cyrchu at ddiben dedwydd. os ystyriwn ni ein gwan an gwael natur ein hunain, a bôd y byd hwn yn ‘llawn o beryglon anadnabyddus, yn llawn o fieri a drysni a maglau, i rwydo yr enaid, megis maes o wellt rhywiog yn llawn o seirph gwenwynllyd, ni ryfygwn ni fyned ym mhlîth y mieri hyn, cyn ymbil a Christ am ein dilladu ai gyfiawnder; neu rodio yn droednoeth trwy 'r maesydd pryfedog hyn, nes cael ein traed wedi eu hymwisco ag escidiau paratôad efengil tangnheddyf; a gweddio fôd y sarph brês yn wastadol yngolwg ein ffydd.’ os ystyriwn ni, [Page 10] fel y dylem ni, godi a myned o lawer dyn yn iâch allan oi ddrws y boreu, heb ddychwelyd byth yn ei ol drachefn, oddieithr wedi ei gael yn sarw cyn y nos; ni a geisiwn cyn gwisco ein dillad, wisco am danom yr Arglwydd Jesu Grîst. Rhuf. xiii. 14. a chyn golchi ein hwynebau, olchi ein calonnau mewn dagrau o edifeirwch, a chyn edrych ar ein hwynepryd mewn drych, chwilio ac yspio ein cydwybod, drych yr Enaid. oblegid nid yw ein hymdrech ni yn erbyn gwaed a chnawd, ond yn erbyn tywysogaethau, yn erbyn awdurdodau, yn erbyn bydol lywiawdwyr tywyllwch y byd hwn; yn erbyn drygau ysprydol yn y nefolion leoedd. am hynny, (y boreu) Cymmerwch attoch hôll arfogaeth Duw, fel y galloch wrthsefyll drwy 'r dydd; sefwch gan hynny wedi amgylch wregysu eich lwynau a gwirionedd, gydâ tharian ffydd, â'r hon y gellwch ddiffoddi hôll biccellau tanllyd y fall—gan weddio bôb amser, a phôb rhyw weddi, a deisyfiad yn yr yspryd, a bôd yn wiliadwrus at hyn ymma, trwy bôb dyfal bara Eph. vi. 12, 13, 14, 16, 18. Origen a hyspysodd hyn am dano ei hun, ddarfod iddo, y dydd yr aberthodd ef yn warthus i ddelwau, anturio myned allan y boreu, cyn cyflawni ei arferol weddiau; y cythraul gan ei gael ef yn ddiarfog, a gymmerodd fantais i osod arno ef, gan wybod nad oedd ganddo ef yr amser hynny ond gwr gwael neilltuol i ymdrechu ag ef, yr hwn a fforffediasei (eisieu erfyn) noddfa Duw; ac fel mae gweddi [Page 11] yw 'r ermig cadarnaf yn erbyn y fall, felly esceulusder yr unrhyw yr 'r cyfrwng mwyaf iw wahadd ef. och! ydyw amddyffyniadau Duw i fôd yn Ganolddydd, i lewyrchu yn unic hanner dydd? ydech chwi yn tybied fôd diafol yn cadw oriau, ac nad yw ef yn dyfod allan in temptio ni hyd brydnhawn? er ein bôd ni yn ei alw ef Tywysog y Tywyllwch, etto mae ef yn codi yn foreu, ac yn lle myned yn hwyr i gyscu, mae ef beunydd yn amgylchu 'r ddaiar (fel yr ym ni yn darllen yn y bennod gyntaf o Job) fel llew rheibus gan geisio yn wastadol y nêb a allo ei hudo. oni rown ni ein heneidiau i Dduw y boreu trwy weddi, maent megis y ty gwâg a grybwyllir yn yr Efengil, yn drysordy addas i bôb yspryd aflan i gyfanneddu ynddo.
2 yn hwyr mae yn rhaid i ni weddio. wrth godi 'r ym ni yn diolch i Duw am ein hymwared ni rhag pôb drwg yn ein cwsc, wrth fyned ir gwely 'r ym ni yn deisyf ar Dduw ein hymwared ni yn ein cwsc, y boreu 'r ym ni yn deisyf ar Dduw roddi i ni ddydd da, yn hwyr yr ym ni yn diolch iddo ef am hynny. cwsc yn yr scrythyr lân a gyffelybir yn fynych i farwolaeth; ac yn eu diwedd ni welodd rhai ddim rhagor rhwngddynt, canys llawer a fuont feirw yn eu cwsc; mae dyn yn myned iw wely megis iw fêdd, ac nis gwyr nêb a gyfyd ef byth drachefn, oddiethr ir adgyfodiad. pwy gan hynny ond ynfyd a anturia fyned ir tywyllwch a chyscod [Page 12] angau, cyn gwneuthur fel Dafydd, yr hwn a dyngodd wrth yr Arglwydd, ac a addunedodd i rymmus Dduw Jacob, na ddeuai ef o fewn pabell ei dy, na ddring au ef ar erchwyn ei wely, na roddai gwsc iw lygaid, na hun iw amrantau; hyd oni chaffai le ir Arglwydd, preswylfod i rymmus Dduw Jacob. Psal. 32. 2. &c. yr hwn ni weddia cyn myned iw wely, mae yn debygol mai 'r cythrael yw ei gywely. pe gweddiem ni fel hyn, rwyfi yn meddwl y tyfai ein Duwioldeb ni yn hael, gydâ Dafydd, i chwanegu at y boreu a'r hwyr, ddyledswydd y prydnhawn hefyd. Psal. lv. 17. a'r hanner nos, Psal. cxix. 62. oblegid gwîr ddefofionau sy'n prifio ac yn cynnyddu, megis cwmmwl bychan Elias o faint cledr llaw gwr yn derchafu or môr, ond ar fyrder yn ymledu dros y tîr. 1 Bren. xviii. 44.
2. am le Gweddi, fel y mae 'r amser, bôb amser; felly y lle, yw pôb lle; nid yn unic Jerusalem. etto (fel or blaen) llefarawg weddi a arferir fynychaf ddwy ffordd.
1. yn gyhoeddus a chyffredinol. 2. yn Brifat a neilltuol.
1. y gyhoeddus sy'n gyffredinol yn yr Eglwys, yr hon a elwir, ty Gweddi Mat. xxi. 13. a llygaid Duw a fyddant yn agored, a'i glustian yn ymwrando ar weddi a wneir yn y fan honno 2 Cron. vii. 15. pan oedd tân ofnadwy yn Ninas Constantinopl yn dechreu llosci yr Eglwys, fe aeth yr Escob at yr Allor. a chan syrthio ar ei [Page 13] liniau, fe weddiodd nes iw ddagrau ef ddiffoddi y ân yr hwn oedd yn fflammio trwy bôb drws a ffenestr. ac fe achubwyd yr Eglwys. pan ddeuai cennadau o wledydd dieithr at yr Atheniaid i gyhoeddi rhyfel, ni chaent un atteb nes iddynt fyned ir Deml i weddio, ac i ymgynghori a'i Duwiau ffeilsion. Numa Pompilius (2 frenin Rhufain,) a ordeiniodd na chai nêb gadw swn a thrwst yn y deml amser gwasanaeth. ac mae nhwy yn dywedyd na lefys nêb yngwlâd Prester John bassio heibio ir Deml ar ei geffyl. ac nid yw y Mahometaniaid presennol yn canniadhau i nêb eistedd yn ei Moschos, neu weddio heb ostyngeiddrwydd ac iselder. Ond y sywaeth! gweddiau cyffredinol yr Eglwys sydd gan lawer Christion (megis Sara gan Hagar) yn ddirmygus. os deuant hwy i mewn ar ddechreu 'r Bregeth neu yscatfydd i graffu ar feiau y pregethwr, neu i gyscu ar eu dyrnau tra byddo 'r cythraul yn yscwyd y cryd iddynt, maent yn tybied fôd hynny yn ddigon. maent megis yn dwyn y Moabiaid a'r Ammoniaid ir Deml. Deut. xxiii. 3. gwêl. 1 Cor. xi. 22. Crîst a daflodd y trafferthwyr bydol allan oi dy gan eu ceryddu, gelwir fy nhy i yn dy gweddi, Ir hôll genhedloedd, ond chwi ai gwnaethoch yn ogof lladron. Marc. xi 17. Sancteiddrwydd a weddei i'th dy, O Arglwydd, BYTH. (medd Dafydd) Psal. xliii. v. ond pe na bae ef felly, a phe na bae raid i ni ufyddhau i bob (cyfreithlon) ordinhâd dyn o herwydd yr Arglwydd [Page 14] ac o berwydd cyd wybod hefydd, Rhuf. xiii. 5. 1 Pet. ii. 13. etto os ydys yn treisio teyrnas nefoedd gan ddifrifol zêl un unic erfynniwr, pa faint mwy o lawer gan liaws o gynnelleidfaon? mae Eglwys Crîst yn ofnadwy megis llu banneroc. Can. vi. 4. ac nid yw un amser gryfach na phan fo ar ei gliniau, mae 'r stori eglwysig yn crybwyll fôd lleng o Gristianogion yngwersyll Marcus Aurelius y rhai yr agwedd ymma a orchfygasant ddau beth periglus ar unwaith, y gelynion (sef 970000) a syched. yr anadl a ddanfonasant hwy i fynu mewn gweddi, a ddychwelodd yn ei ôl, ac a gynnorthwyodd y lliaws. mae mantais ynghwmpeini rhai duwiol; y cafodau o fendithion y mae eu gweddiau hwynt yn eu ddwyn i lawr, ydynt mor helaeth, ac y gall rhai dafnau (o leiaf) ddescyn ar bennau y rhai sydd oi hamgylch; Eliseus er mwyn Jehosaphat a ddioddefodd wynepryd Jehoram, yr hwn y mae yn prosfesu ni fynnasei ei weled ffordd arall, fel mai byw Arglwydd y lluoedd, yr hwn yr wyfi yn sefyll ger ei fron, oni hai fy môd i yn perchi wyneb Jehosaphat Brenin Juda, nid edrychaswn i arnat ti, ac nith welswn 2 Bren. iii. 14 felly y gall Duw wneuthur ymma. ac fel y bendithiodd yr Arglwydd dy Potiphar er mwyn Joseph. Gen. xxxix. 5. felly Duwioldeb rhai a all dueddu at fudd eraill.
2. mae gweddi Brifat neilltuol. a hon ddwy ffordd, 1. yny Teulu. 2. yn fwy neilltuol.
[Page 15] 1. yn y Teulu, yr hon yw 'r gynnelleidfa fâch, lle mae 'r Tâd neu 'r meistr yn, cyfla wni lle 'r offeiriad, ac yn paratoi ysprydol yn gystal a chorphorol fwyd iw hôll deulu: canys fel y mae nhwy i wasanaethu dano ef, megis ir Arglwydd, ac nid i ddyn; Eph. vi. 7. felly mae ynteu yn rhymmedig i borthi eu heneidiau hwynt, yn gystal au cyrph; gan wybod fôd ei Arglwydd ynteu yn y nefoedd, ac nid oes derbyn wyneb gydag ef. Eph. vi. 9.
2. mae gweddi fwy neilltuol, a hon etto ddwy ssordd.
1. rhwng gwr a gwraig ynghyd, y rhai er nad ynt ond un cnawd, etto mae i bôb un yscatfydd lawer o geraint a rhieni i weddio trostynt.
2. gan ddyn yn unic yn y dirgel, yr hon a elwir gweddi wahanredol. dymma orchymmyn Dafydd. Psal. iv. 4. ymddiddan a'th galon, yn dy stafell, ar dy wely. a phan weddiech (medd ein Jechawdwr) na fydd fel y rhagrithwyr, canys hwy a garant weddio yn sefyll yn y synagogan ac ynghonglau yr heolydd, fel yr ymddanghosant i ddynion i weddio: ond tydi pan weddiech dos i'th stafell, ac wedi cau dy ddrws, gweddia ar dy dâd yr hwn sydd yn y dirgel: a'th Dâd yr hwn a wêl yn y dirgel, a dâl i ti yn yr amlwg. Mat. vi. 5, 6. ond y weddi wahanredol hon, heblaw gweddi bublic, sydd megis canwyll wedi ei chuddio tan lestr, neu ei dodi tan wely Luc. viii. 16. ystyriwn
[Page 16] 3. pa fodd i weddio. sef, gan dderchafu dwylo sanctaidd &c. ni thyccia i ni godi ein dwylo tua 'r nêf, ac yn y man ei codi hwynt yn erbyn y nêf: nid all Duw aros i ni dderchafu y bysedd hynny tuag atto ef, sy'n ddisymmwth yn rhyfela yn ei erbyn. y fâth zél sydd megis tân poethlyd yn enynnu tân arall yn ei erbyn yn y nêf. gan hynny
3. Rhaid in gweddiau ni fôd yn ddifrifol, yn ddiragrith, yn daer. gwrandewch bêth a ddywedodd yr yspryd wrth Angel Eglwys Laodicea, am dy fôd yn glaiar, ac nid yn oer, nac yn frwd, mi a'th chwydaf di allan om genau. Datc. iii. 16. mae goglaiarwch a llygoerni mor ffiaidd gan yr Arglwydd, a'i fôd ef yn ei chwydu, megis y mae dyn ddwfr claiar. canys pa obaith sydd ir rhagrithiwr er elwa o honaw ef, pan dynno Duw ei enaid ef allan? a wrendy Duw ar ei lêf pan ddelo cyfyngder arno? Job xxvii. 8, 9. os ni chai nêb yn yr Olympiaidd ymdrech, mor gwobr, ond yr hwn a ymegnia yn wrol ac yn gyfreithlon; os ni ettyb yr Ecco neu 'r garreg Ilefain mo ddyn a fo 'n sisial yn isel, (o ran na thâl llais difraw moi atteb) os ni roir eulusen i gardottyn balch neu a fo 'n erfyn mewn rhyw fodd ddicra; felly ni selia 'r yspryd moi addewidion i eneidiau mwythus, ond ir rhai sydd ganddynt zêl a difrifwch a gostyngeiddrwydd i gydnabod eu hanheilyngdod i dderbyn mawr drugareddau Duw. Jacob pan gyfarfu ag Angel [Page 17] yr Arglwydd, a ymdrechodd ag ef nes codi 'r wawr, nes llaessu cysswylt ei forddwyd, ai fôd ef yn glôff o'i glun, îe, er hyn i gyd ni pheidiodd nes ir Arglwydd ei fendithio ef, Gen. xxxii. 24. &c. felly wrth weddio rhaid i ninnau fôd yn wresog yn yr Yspryd, gan wasanaethu yr Arglwydd Rhuf. xii. 11 canys llawer a ddichon taer weddi y cyfiawn. Jac. v. 16. byddwn haerllug gan hynny, na chymmerwn un nacca gan Dduw, na rown heibio nes tyccio o'n gweddi ni.
4. rhaid i ni weddio ar Dduw 'r Tâd yr hwn sydd bôb amser yn abl ac yn barod i wrando ac i atteb ein gweddiau ni: gwneler eich deisyfiadau chwi yn hyspys ger bron Duw, (medd y Text) yr hwn air sy'n arwyddoccau 'r Drindod; ond o ran trefn, fe ddywedir ein bôd ni yn gweddio ar Dduw 'r Tâd, trwy gyfryngdod Duw 'r Mâb, a help Duw 'r Yspryd Glân; canys ef yn unic a wrendy weddi. Psal. lxv. 2. a phôb rhoddiad ddaionus, â phôb rhôdd berff aith, oddiuchod y mae yn descyn oddiwrth Dâd y goleuni Jac. i. 17. efe (megis Tâd trugarog) a dosturia wrth angenrheidiau ei blant. os chwychwi (medd Crîst) y rhai ydych ddrwg, a fedrwch roi rhoddion da i'ch plant chwi, pa faint mwy y rhydd eich Tâd or nêf yr Yspryd Glân ir rhai a ofynno ganddo? Luc. xi. 13. os bydd or nêb o honoch eisieu gofynned gan Dduw yr hwu sydd yn rhoi yn haelionus i bawb &c. Jac. i. 5. canys ni ddryllia gorsen yssig, ac ni ddiffydd lîn yn mygu. Esay xlii. 3. swynwyr a all [Page 18] roi 'r cythraul ar waith, ond gweddi sy'n peri i Dduw weithio: ac os gwîr yw 'r stori a ddarlennais i, fe ddygodd Luther ddyn anobaithiol o Wittemburg yn ei ôl allan o Uffern, trwy weddi. ac a ddygodd yr scrifen o law 'r cythraul, yr hon oedd yr scrifen rhwngddynt. ac fe ddywedir hefyd i Luther iachau ei ffrind Myconius or Consumsiwn trwy ei weddi. ond hyn sydd ddiammeu, ddarfod i Dduw, iachau Abimelec, a'i wraig, a'i forwynion, a hwy a blantasant, pan weddiodd Abraham ar Dduw. Gen. xx. 17. Elias o gyfododd fâb y weddw o Sarepta o farw i fyw, trwy weddi. 1. Bren. xvii. 21, 22. Eliseus a gyfododd fâb y Sunamites o farw i fyw trwy weddi. 2 Bren. 4. St. Paul. a gyfododd Eutychus o farw i fyw. Act. xx. 10. pan oedd Petr yngharchar rhwng dau filwr, wedi ei rwymo a dwy gadwyn, etto wrth weddiau yr Eglwys, Angel yr Arglwydd a'i dygodd ef allan yn fuan. Act. 12. pan daflodd Nabuchadonosor Sadrach, Mesach, ac Abednego i fwrn o dân poeth rhagorol, trwy eu ffydd hwynt a'i Gweddi, Angel yr Arglwydd a'i gwaredodd hwynt, fel na ddeifiodd blewyn o'i pen, er ir fflam lâdd y gwyr a'i bwriodd hwynt i fynu. Dan. 3. Daniel yr hwn oedd yn gweddio ar Dduw dair gwaith yn y dydd ar ei liniau, pan daflodd Darius ef i ffau 'r llewod, Angel yr Arglwydd a gaeodd eu safnau hwynt. Dan. vi. 10, 22. Jonah o fol uffern a weddiodd, a Duw [Page 19] ai clybu, ac a'i dygodd ef ir lan. Jonah ii. 2. pan gâdd Hezeciah rybydd o'i farwolaeth gan y Prophwyd Esay, efe a drodd ei wyneb at y pared, ac a weddiodd at yr Arglwydd &c. ar Arglwydd a chwanegodd at ei ddyddiau ef bymtheng mhlynedd. 2 Bren. xx. 1, 2, 6. er bôd y ddaiar yn hayarn a'r nêf yn brês, a'r wybren megis dur, etto elias a weddia nes ir nefoedd wylo nid yn unic ddagrau, ond hefyd drwm gafodau o law. 1 Bren. xviii. 45. rhai a weddiasant am blant, eraill am drugareddau erail (darllen Gen. xxiv. 12, 15.) ac nid àeth nêb er ioed a ddeuai a chalon ffyddlon ostyngedig i weddio, heb i neges. canys, gweddi y gostyngedig a â trwy 'r cymylau, ac nis diddenir hi nes dyfod yn agos; nid ymedu hi nes ir goruchaf edrych. Ecclss. xxxv. 16▪ 17. pan oedd Amalec yn ymladd ac Israel, Moses gan dderchafu ei dwylaw, a siccrhaodd yr orfoledd. Exod. 17. mae St. Ambros yn mynegi hyn am Theodosius, ddarfod iddo pan oedd ef yn ymladd ar gorthrymmwr Eugenius, ac agos wedi ei orchfygu, ddescyn oddiar ei geffyl, a chan syrthio ar ei liniau o flaen ei bobl, yn wyneb y gelynion, fe lefodd, gan ddywedyd, Pa le y mae Duw Theodosius? ac felly ese a ennillodd y maes a'r dydd. pan waeddodd Samuel ar yr Arglwydd tros Israel, yr Arglwydd a'i gwrandawodd ef, a'r Arglwydd a daranodd a tharanau mawr yn erbyn y Philistiaid [Page 20] ac a'i drylliod hwynt,, a lladdwyd hwynt a flaen Israel. 1 Sam vii. 9, 10. pan ymgynnullod pum Brenin yr Amoriaid yn erbyn Gibeon. Jos. 10. ni bu ac ni bydd er ioed y fâth ddiwrnod, fel y gwrandawei yr Arglwydd ar lef dyn. gwers 14. canys yn ôl llaferydd Josuah, yr haul a safodd yn Gibeon (neu ynghanol y nefoedd) ac ni fryssiodd i fachludo dros ddiwrnod cyfan gwers. 13. a'r lleuad â arhosodd yn Nyffryn Ajalon. gwers. 12. ac yno y cyflawnwyd Tyb Copernicus, yr hwn oedd yn meddwl nad yw 'r haul yn ymsymmud. pan fynegwyd i Jehosaphat fôd tyrfa fawr yn dysod yn ei erbyn ef o'r tu hwnt ir môr, o Syria; ac wele maent hwy yn Hazazon Tamar, honno yw engedi. Jehosaphat a ofnodd ac a ymroddodd i geisio 'r Arglwydd, ac a gyhoeddodd ympryd trwy hôll Juda. gwers. 2, 3. a'r Arglwydd a wrandawodd ei weddi ef. canys meibion Ammon a Moab a gyfodasant yn erbyn trigolion mynydd Seir, iw difrodi ac iw difetha hwynt: a phan orpbenasant hwy drigolion Seir, hwy a helpiasant ddifetha pawb i gilyd. gwers. 23. 2 Cron. 20. pan ddanfonodd Senacherib Brenin Assyria lythyr yn llawn cabledd at Hezeciah Brenin Juda, Hezeciah a weddiodd ger bron yr Arglwydd, gwers. 15. a Duw a wrandawodd ar yr hyn a weddiodd ef, gwers. 20. canys y nosson honno 'r aeth Angel yr Arglwydd, ac a darawodd yngwersyll yr Assyriaid, bump a phedwar ugain a chant o filoedd: a phan gyfodasant yn foreu dranoeth, wele hwynt ôll yn [Page 21] gelaneddau meirwon. gwers. 35. 2 Bren. 20. ac fe all pawb sydd a llygaid yn eu pennau, weled mor angenrheidiol, mor ddyledus, mor fuddiol, ac mor rhesymmol yw Gweddiau yn yr oes, yr amser, ar Deyrnas ymma. os oedd y cenhedloedd yn tybied cael eu gwrando wrth weddio ar eu Duwiau ffeilsion, yr rhai yr oedd genau iddynt heb lefaru, llygaid heb weled, a chlustiau heb glywed, ac nad oedd ychwaith anadl ynddynt; Psal. cxxxv. 16, 17. os yw 'r Papistiaid yn meddwl y tyccia iddynt weddio ar eu delwau mudion, byddar, anfywiol: pa faint mwy y dylem ni weddio ar y Duw byw, yr hwn a wyr ac a ettyb ein erfynion cyn y gofynnom, fel yr ym ni yn darllen Esay. lxv. 24. canys oni chlyw yr hwn a blannodd y glust? oni wêl yr hwn a luniodd y llygad? Psal. cxiv. 9. ar Dduw, ac ar Dduw yn unic yr ym ni i weddio, ac nid ar Ddelwau; a meldigedic yw 'r gwr a wnêl ddelw garfedic, neu doddedic, sef ffieidd-dra gan yr Arglwydd, gwaith dwylo crefftwr, Deut. xxvii. 15. melldigedic fyddo 'r gwr a hydero mewn dyn, ac a wnelo gnawd yn fraich iddo, a'r hwn y cilio ei galon oddiwrth yr Arglwydd. Jer. xvii. 5. yn Nuw yn unic yr hyderwn ni (ac nid yn y Pâb) canys ef yn unic sydd ddiffaeledig, ac mae 'r Pâb yn fwy ffaeledig am gymmeryd arno fôd yn ddiffaeledig. bydded Duw yn eirwîr (medd yr Apostol) a phôb dyn yn gelwyddoc. Rhuf. iii. 4. ac os celwyddoc yw pôb dyn, felly y mae 'r Pâb, os dyn yw, ac os gellir coilio 'r Apostol. y priodoliaethau hyn, [Page 22] Doeth, Trugarog, Galluoc, yr rhain a fynnei un or cenhedloedd i Brintio ar frêst ei Dduw ffals, sydd wir am y Duw byw; megis ymadrodd Abraham wrth ei fâb Isaac, Deus providebit. Gen. xxii. 8. yr hyn oedd Motto neu hoffaidd a neillduol eiriau Maximilian yr Emerodr. dyscwn wers gan yr anifeiliaid anrhesymmol: Cyw iâr pan ddêl y barcuttan yn agos, sy'n cleccian am amddiffynfa. y cenawon llewod a rûant am ysclyfaeth, ac a geisiant eu bwyd gan Dduw. Psal. civ. 21. Duw sy'n rhoddi i'r anifail ei borthiant: ac i gywion y gig-fran pan lefant. Psal. cxlvii. 9. llygaid pôb peth a ddisgwiliant wrtho ef, ac mae yn rhoddi iddynt. Psal. cxlv. 15. nid yw hwnnw ond peth gwael na thâl ei ofyn, a gwael yw 'r pethau a rydd dynion er eu gofyn; gan hynny yr ydym ni yn dibrisio ac yn diystyru trugareddau Duw, eifieu eu gofyn hwynt; ond mae Duw yn drugarog nid yn unic am roddi i ni (pryfed gwael y ddaiar) gennad i ofyn, ond hefyd am ganiadhau ein gofynion: gan hynny, gofynnwch, a rhoddir i chwi: ceisiwch, a chwi a gewch: curwch, ac fe agorir i chwi. canys pôb un sy'n gofyn, sy'n derbyn, a'r neb sy'n ceisio, sy'n cael, ac ir hwn sydd yn curo yr agorir. Mat. vii. 7.
5. Gweddiwn trwy wîr ffydd; canys fel mae gweddi yw 'r agoriad in gollwng ni i ystordy Duw, felly ffydd yw 'r llaw i droi 'r agoriad. heb ffydd amhossibl yw rhyngu bôdd Duw, oblegid rhaid yw ir nêb sydd yn dyfod at Dduw, gredu ei fôd ef, a'i fod yn wobrwywr ir rhai sy' yn ei geisio ef. Heb. [Page 23] xi. 6. gofynned Dyn mewn ffydd, heb ammeu dim (medd St. Jaco) canys yr hwn sydd yn ammeu, sydd gyffelyb i donn y môr, a chwelir, ac a deflir gan y gwynt; canys na feddylied y dyn hwnw y derbyn efe ddim gan yr Arglwydd. Jac. i. 6, 7. os ni fyn gwr daiarol i ni ammeu ei onestrwydd ef, pa faint mwy eiddigus yw yr Arglwydd o'i ffydlondeb, yr hwn sydd yn cofio ei ammod, a'i wirionedd yn parhau o genhedlaeth i genhedlaeth byth? pa bêth bynnag a ofynnoch mewn gweddi, gan gredu, chwi a'i derbyniwch. Mat. xxi. 22.
6. Danfonwn ein gweddiau at Duw 'r Tâd trwy wîr ffydd yn enw Duw 'r Mâb. canys, efe yw 'r ffordd, a'r gwirionedd a'r bywyd: nid yw nêb yn dyfod at y Tâd ond trwyddo ef. Joan. xiv. 6. ond y Pâb-addolwyr ydynt eulun-add-olwyr, a seinct-addolwyr; canys maent yn gweddio ar St. Roch amser plâ, ar St. Leonard amser caethiwed, ar St. Nicholas amser gorthrymder, a'r fair forwyn ar enedigaeth dyn bâch. &c. ond ni thyccia i ni rannu rhwng Crîst a seinctiau, mwy nac rhwng Crîst a mammon. os yr Arglwydd sydd Dduw, ewch ar ei ôl ef; ond os Baal ewch ar ei ôl yntef; eb Elias. 1 Bren. xviii. 21. felly os Crîst yw 'r triacl yn Gilead, y Physygwr i wellhâu iechyd merch fy mhobl. Jer. viii. 22. gweddiwch trwyddo ef, ond os Seinctiau dilynwch hwynt. ond nid oes iechydwriaeth yn nêb arall; canys nid oes enw arall tan y nêf, wedi ei roddi ym-mlîth dynion, drwy yr hwn y [Page 24] mae yn rhaid i ni fòd yn gadwedig, ond enw Jesu Grîst o Nazareth Act. iv. 12, 10. a thrwy ffydd yn ei enw ef. Joan. iii. 18. y rhai sy'n myned at Baalzebub, Duw Ecron, nid gwiw iddynt fyned at Jehova, Duw Israel. ai am nad oedd Duw yn Israel, yr ydych chwi yn myned i ymofyn â Baal-zebub Duw Ecron? eb Elias. 2 Bren. i. 3. felly a'i am nad oes fywiol iechawdwryn Eglwys Rhufain, yr ydych chwi Rhufeinwyr yn ymofyn ach anfy wiol ddelwau? yn Ghrîst yn unic y bodlonwyd Duw. Mat. iii. 17. pan welodd Alexander fawr Jaddus yr Archoffeiriadd yn dyfod iw gyfarfod ef o Jerusalem, mewn gwisc urddasol, o barch efe a arbedodd y ddinas: os gwiscwn ninnau trwy ffydd ddillad Crist am danom, (y wîr. wisc priodas Mat. xxii. 11.) mae i ni groesaw gydâ Duw. canys arogl Myrr, Aloes, a Chasia sydd ar hôll wiscoedd Crîst. Psal. xlv. 8. pan ddinoethodd Antonius yscwyddau Aquileus o flaen y cynghorwyr, efe ai hachubodd ef rhag marwolaeth; a phan ddanghosoch chwithau archollion a gwaedlyd friwiau ein Harglwydd Jesu Grist ar y groes, tros eich pechodau, mae Duw er ei fwyn ef, yn tosturio wrthych. ym myse y Molossiaid pan fyddei drygwr wedi ei farnu a'i gondemnio i farwolaeth, os gallei ef gippio mâb y Brenin yn ei freichiau, a myned at yr Allor, a'i gusanu a'i gofleidio of yno, fe gae faddeuant a rhyddhad: os cymmerwn ninnau (y rhai o ran ein drygioni ydym yn darostyngedig [Page 25] i farwolaeth dragwyddol) Grîst mâb Brenin nefawl yn ein breichiau, a myned ag ef at yr Allor, neu orsedfainc grâs, ai gofleidio ai gusanu ef yno, hynny yw, i garu ef an hôll galon, ac an hôll enaid, mae i ni ollyngdod: a'r pethau a ofynnom ni yn ei enw ef, ni ai cawn. cymmerwn ei air ef am hyn, yn wîr yn wîr, meddaf i chwi, pa bethau bynnag a ofynnoch ir Tâd yn fy enw, efe au rhydd i chwi. Joan. xvi. 23. gweddiwn yngeiriau yr Eglwys trwy Jesu Grîst ein Arglwydd. Amen.
7. Gweddiwn trwy help Duw 'r Yspryd Glân. canys y mae 'r Yspryd yn cynnorthwyo ein gwendid ni, canys ni wyddom ni beth a weddiom, megis y dylem, eithr y mae 'r Yspryd ei hun yn erfyn trosom ni, ag ocheneidiau annhraethadwy. &c. canys y mae efe yn ôl ewyllys Duw yn erfyn tros y Sainct. Rhus. viii. 26. 27. ac er bôd Duw yn ein rhagflaenu ni, etto yr ym ni i arferu 'r moddion, canys scrifennedig yw, fôd y Tâd yn rhoddi yr Yspryd glân ir rhai a ofynno ganddo. Luc. xi. 13. gweddiwn gan hynny am ei Yspryd ef, a thrwy help ei Yspryd.
8. Gweddiwn am bethau cyfreithlon ac angenrheidiol; cyfreithlon yr ydwyfi yn galw y pethau hynny sydd yn tueddu at ogoniant Duw, yn erbyn y rhain bethau ni ragordeiniodd Duw ddim yn y gwrth-wyneb; Angenrheidiol yw 'r pethau sy'n tueddu at dragwyddol iechydwriaeth ein eneidiau, ac amserol ddedwyddwch ein cyrph ni. ac fel y dywedodd y Duwiol barchedig [Page 26] ddyscawdwr Dr. Hammond, mae Duw yn rhoddi i ni y pethau yr ym ni yn gweddio am danynt, neu bethau gwêll; a phan fom ni yn gweddio am danynt, neu pan welo Duw fôd yn dda. canys rhaid iw canniadhau hyn iddo ef, (yr hwn a wyr ein hangenrheidiau cyn y gofynnom, a'n hanwybodaeth yn gofyn;) fôd yn abl i ddewis nid yn unic y peth, ond hefyd yr amser iw rhoddi i ni; canys lawer gwaith y peth yr ym ni yn ei ddeisyf, (pe caniadteid i ni, yr Amser yr ym ni yn ei ddeisyf,) y fyddeu ddrwg ar ein llês ni, neu a dueddai yscatfydd at ein dinistr ni: Duw gan hynny gan naccau rhan neillduoll ein Gweddiau ni, sy'n caniadhau y rhan gyffredinol; oblegid hynny sydd well er ein llês ni. nid yw 'r Arglwydd yn oedi ei addewid (fel y mae rbai yn cyfrif oed) eithr hirymarhous yw efe tu ac attom ni, heb ewyllysio bôd nêb yn golledig, ond dyfod o bawb i edifeirwch. 2 Pet. iii. 9. etto mae Duw weithiau yn oedi caniadhau ein deisyfiadau ni, fel y byddom ni yn fwy gostyngedig, ac y rhoddom ni fwy prîs ar ei drugareddau ef a'i fendithion, ac fel y gweddiom ni yn daerach ac yn fwy difrifol, fel y gallom ni megis hogi ein gweddiau, a'i gwneuthur yn finniog, megis Jacob wrth ymdrechu ar Angel; neu o ran i Dduw ragordeinio y gwrthwyneb; megis pan rag-ordeinir dinistr Teyrnas neu Ddinas, er bôd y try-wyr hyn Noah, Daniel, a Job yn ei chanol bi, fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, ni waredent na mâb, [Page 27] na merch: hwynt hwy yn en cyfiawnder a waredent eu heneidian eu hun yn unig. Ezec. xiv. 20. Antigonus, pan ofynnodd y Philosophydd geiniog iddo, a attebodd, fôd hynny yn rhy fychan i frenin iw roddi; pan ofynnod ef dalent, fe attebodd, fôd hynny yn ormod i Philosophydd iw dderbyn. felly os digwydd i ni ewyllysio (neu weddio am) welltyn i wneuthur rhyw chwaryddiaeth ag ef, rwyfi yn meddwl yn bôd ni wrth ddeisyf y cyfryw oferedd yn gwneuthur cam a mawrhydi Duw; ac ar y llaw arall, os yw dyn yn dymuno bôd yn benaeth brenhiniaeth ddaiarol, neu gyd ag un o feibion Zebedæus (Mat. xx. 21.) eistedd ar ddehaulaw Duw yn ei frenhiniaeth nefawl, tra byddo ef yn bechadur cnawdol, fe all ofyn mwy nac a haeddai. ond hyn yw'r hyfder sydd gennym tu ac at Dduw, ei fôd ef yn ein gwrando ni, os gofynnwn ddim yn ôl ei ewyllys ef. 1 Joan. v. 14. ac fel y mae yn rhaid ir pethau yr ym ni iw gofyn, fôd yn gyfreithlon, felly, rhaid iddynt fôd yn angenrheidiol hefyd in cyrph ni a'n heneidiau;
1. In cyrpy, megis iechyd, llwyddiant, heddwch, bwyd, diod, a dillad, &c. a hynny mewn cymmedroldeb, megis Agar yr hwn a weddiodd fel hyn; dau beth yr ydwyf yn eu gofyn, na ommedd hwynt i mi cyn fy marw. Tynn ym mhêll oddiwrth if wagedd a chelwydd; na ddyro i mi na thlodi, na chyfoeth; portha fi am digonedd o fara. Rhag i mi ymlenwi, a'th wadu di, [Page 28] a dywedyd, pwy yw 'r Arglwydd? a rhag i mi fyned yn dlawd, a lledratta, a chymmeryd enw fy Nuw yn ofer. Dihar. xxx. 7, 8, 9. nid am ddrwg in gelynion, neu ormod o gyfoeth i ni ein hunain &c. er mwyn bodloni chwantau 'r cnawd: megis yr hên leidr, yr hwn cyn myned allan y boreu oedd yn gweddio er iw Dduwies Laverna roddi iddo ef yspail fawr, a diangfa ddirgel. canys nid yw ein Duw ni yn gwrando y cyfryw bechaduriaid. Joan. ix. 31. gofyn yr ydych, (medd St. Jaco) ond nid ydych yn derbyn, (pa ham?) o herwydd eich bôd yn gofyn ar gam, fel y galloch eu treulio ar eich melys-chwantau. Jac. iv. 3. 'r ym ni i weddio am bethau a fo'n unic mor angenrheidiol ir Corph, ac y gallo 'r Corph fôd yn wasanaethgar ir enaid. ond yn enwedig gweddiwn am bethau angenrheidiol
2. I'n heneidiau, am feddeuant on pechodau, yn erbyn ein pechodau, am bôb dawn daionus, megis bywiol ffydd, gobaith pur, glendid Cariad, gwîr edifeirwch, a'r hôll nefawl radau an gwnelo ni yn Greaduriaid newyddion. 1 Cor. v. 17. i fôd yn-Ghrîst. ac er ei fwyn ef, ac yn ôl ei orchymmyn ef a'i siampl, gweddiwn hefyd tros bawb eraill. yr hyn y mae rhannau 'r Text a Gweddi yn i arwyddoccau. maent yn gyffelyb ir Afon a aeth allan o Eden, i ddyfrhau yr Ardd, ac a rannwyd ac a aeth yn bedwar pen. Gen. ii. 10.
1. Ymbiliau sy'n perthyn i gyffes ac adnabyddiaeth o bechod (gan erfyn nawdd am Dano) [Page 29] angenrheidiol i bôb pechadur (hynny yw i bôb dyn) ym mhôb man, bôb amser. a feiddia drygwr, yr hwn a fforffediod ei fywyd ir gyfraith, ddyfod yn rhyfygus at ei Dywysog, ac heb ystyried ei feiau, erfyn rhyw ffafr ganddo? wrth y cyfryw y gall Duw ddywedyd, fel y dywedodd Augustus Cæsar wrth wr a'i croesawodd ef islaw ei fawrhydi, ni wybym mi or blaen ein bôd ni mor gyfeillgar. ni thyccia i ni fôd yn ddreng neu yn rhyfygus yn ein Gweddiau; ond cyn gofyn dim daioni, dymmunwn ar Dduw droi ymmaith bôb drwg oddiwrthym: drwg pechod yn gystal a drwg cospedigaeth; yr hyn a elwir Adolwyn, (ac a gyfrifir gan rai i wneuthur y pumed ran o weddi.) ond yr ail ran yw
2. Gweddi, (yr hon a elwir hefyd Archiad) a hon yw erfyn ar y goruchaf pa bethau bynnag sydd arnom ni eisieu in cyrph an heneidiau, naill ai yn neillduol dros ddyn ei hun, ai fel yr ym ni yn aelodau o deuluoedd, o Deyrnasoedd, o Grêd, o ddynol ryw. ond ynghylch hyn y mae 'r hôll destyn: a Gweddi yw 'r gair cyffredinol sy'n cynnwys y cwbl ôll.
3. Deisyfiadau yw cyfryngiad tros eraill; yn gyffredinol tros bôb dyn; ond yn fwy neillduol dros frenhinoedd a phawb mewn goruchafiaeth. gwêl. 1 Tim. ii. 1, 2.
1. Am bôb dyn, Anghredynwyr, Juddewon, eulun-addolwyr, anuwiolion, yscymmunwyr, Hereticiaid, a gelynion; er i Dduw roddi i Anghredynwyr [Page 30] ffydd, i Juddewon oleuni, i eulynaddolywyr wirionedd, ir anuwiol ra's, i yscymmunwyr droad, i Hereticiaid edifeirwch, i Schismaticiaid ostyngeiddrwydd, ac in gelynion ni Gariad perstaith. Philo yr Juddew wrth grybwyll Ephod Aaron, yr hon yr oedd ef yn ei wisco wrth weddio, sy'n dywedyd, ei bôd yn arwyddoccaâd or holl fyd, gan fôd ynddi liwiau yn arwyddoccau pôb stât a grâdd o ddynion: er nad ym ni yn gweddio am dragwyddol iechydwriaeth y rhai gwrthodedig, etto o ran nas gwyddom ni, pwy sydd golledig yn neillduol, 'r ym ni yn gweddio am iechydwriaeth pawb yn gyffredinol. canys er bôd dyn yn ei dybied ei hun yn colledig, megis Spira o Padua, etto fe all Duw ei rag-flaenu ef: ar hwn sydd heddyw olewydden wyllt, a ellir i impio i mewn. canys Duw a ddichon ei impio ef i mewn drachefn. Rhuf. xi. 17, 23. 'r ym ni hefyd i weddio am amserol ddedwyddwch y colledigion; canys mae Duw yn peri i'w haul godi ar y drwg a'r da, ac yn glawio ar y cyfiawn ar anghyfiawn. Mat. v. 45. fe all rhai dybied (er eu bôd yn camgymmeryd yn ddirfawr. Dih. xix. 17.) fod rhyw escus am ansyberwyd, canys wrth roddi ir tlodion, maent yn meddwl ei bod megis yn eu tlodi eu hunain. ond nid ym ni ddim tlottach er gweddio tros eraill. ni thyccia in amherffaith gariad ni fod megis Calender iechydwriaeth rhyw rai yn neillduol; nid yn unic y rhai sydd mewn perigl, [Page 31] anghenoctid, a thrwblaeth. &c. ond hefyd ein gelynion, erlynwyr, ac ysclandwyr sydd i gyfranogi on cyfryngiadau ni. megis y gweddiodd Stephan tros ei labyddwyr, gan ddywedyd, Arglwydd, na ddodd y pechod hwn yn eu herbyn Acts vii. 60. yr un modd ein Harglwydd Jesu Grîst tros ei groeshoelwyr, O Dâd maddeu iddynt. Luc. xxiii. 34. dymma 'r esampl ar gorchymmyn a roes efe i ni, Mat. v. 44. Cerwch eich gelynion, bendithiwch y rhai ach melldithiant, gwnewch dda ir sawl ach casânt, gweddiwch tros y rhai a wnêl niwed i chwi, ac a'ch erlidiant. fel y dywedodd Crîst wrth eu Apostolion ynghylch Pregethu, i ba Ddinas bynnag neu dref yr eloch, oni bydd yn deilwng, dychweled eich tangneddyf attoch, Mat. x. 11, 13. felly y gallaf finnau ddywedyd ynghylch gweddio, onid yw eraill deilwng, yngeiriau 'r Psalmydd, dy weddi a ddychwel i'th fynwes dy hun. Psal. xxxv. 13. felly Maximinus yr emerodr ac erlidiwr y Cristnogion, pan glefychodd ef, gan ddeall mai am erlid y Cristnogion yr ymwelod Duw ac ef, efe a'i galwodd hwynt allan or creigiau a phob ogof, (y tylleu neu 'r nythod lle 'r oeddynt yn ymguddio rhag ei greulondeb ef) i weddio trosto ef: ond y rhai a fedrent wneuthur gwrthiau, codi y marw i fyw, symmud mynyddoed, cau safnau llewod, agoryd y groth i gael Plant, agoryd drysau y nêf i gael glaw, trwy eu gweddiau, nis gallent gael un defnyn o drugaredd i'w gorthrymmwr [Page 32] anrhugarog: ond rhaid iddo ef farw mewn cyflwr atcas. nid all nêb ei dorri ei hun oddiwrth ei frawd, oddieithr iddo ef hefyd ei dorri ei hun oddiwrth Dduw; gan hynny anghall oedd Padriach Jerusalem am achwyn ar Epiphanius am weddio trosto ef, canys fe attebodd Epiphanius, na byddei ef byth mor anghariadus wrth nêb, a diystyru yr hwn a wnaethei Duw. ac mae Sanct Ambros yn rhoddi rheswm am hyn, gan fod pob dyn yn gweddio tros bawb, gweddied pawb tros bob dyn. dymma'r peth y mae 'r Apostol yn ei orchymmyn neu yn ei gynghori o flaen ac yn hyttrach na dim yn y byd. 1 Tim. 2. Bennod. cyngbori yr ydwyf (medd et) ym mlaen pôb peth, (bêth yw i gyngor ef? yn gyntaf yn gyffredinol) fòd ymbiliau, gweddiau, deisyfiadau, a thalu diolch, dros bôb dyn: gwers. 1. ond
2. mae ef yn hyspysu tros bwy y dylem ni weddio yn fwy neillduol ac enwedig, sef, dros frenhinoedd, a phawb sy mewn goruchafiaeth. gwers. 2. ac mae ef yn rhoi dau reswm da am hyn. 1. fel y gallom ni fyw yn llonydd, ac yn heddychol, mewn pôb Duwioldeb ac honestrwydd. gwers. 2. yn 2. canys hyn sydd dda, a chymmeradwy ger bron Duw, &c. gwers. 3, 4. pan nad oed'd yr un Brenin yn Israel, roedd pawb yn gwneuthur yr hyn oedd dda yn eu golwg eu hunain; ond pan oedd Addoliant Duw yn sefydlog yn eu plîth yn nyddiau Salomon, yr oedd Juda ac Israel yn preswylio yn ddiogel, bôb un tan ei winwydden, a [Page 33] than ei ffigysbren, O Dan hyd Beerseba. 1 Bren. iv. 25. os mynei 'r Apostol weddiau a diolchgarwch tros frenhinoedd, a phawb mewn awdurdod; pan oedd Nero yn meistroli, yr hwn ydoedd y fâth orthrymmwr anghenfilaidd, a bôd llawer yn ei gymmeryd ef yn lle Anghrîst; a phan oedd pôb swyddog yn erlyniwr echryslon or efengil; pa faint mwy rhwmmedig ydym ni i weddio tros ein grasusaf Frenin, ir hwn nid all fy mhîn gwael scrifennu i roddi ei deilwng ganmholiaeth; ond mi a ddywedaf yngeiriau Philo, Gwelwch Lun mynydd mawr mewn modrwy fâch. os ystyriwn ni fôd Brenhinoedd a Brenhinesau yn dadau a mamau ymgeleddgar ir Eglwys, a'i fôd ef yn Dâd i'w Deyrnas; os ystyriwn ni y trugareddau y mae Duw yn eu roddi i ni tan ei reolaeth ef, trugareddau mwy nag a allwn ni eu mesur, neu eu haeddu; os ystyriwn ni fôd Brenhinoedd, (a goruchafwyr hefyd, yn enwedig y rhan fwyaf, ac yn fynychaf) nid yn unic mewn siars fawr; ond hefyd yn wastadol mewn amry w beryglon; tystiolaethed Dafydd, yr hwn a erlidiwyd yn echryslon gan Saul; a Joas, yr hwn y sychedwyd am ei einioes gan ei nain Athalia, 2 Bren. xi. 1, 2. a Chonstantin, yr hwn pan ei cadwyd yn ei iefengctid yn llys Dioclesian, a ddyscwyd, trwy ddichell Maximinus, i ymdrechu a llew; a Mauritius, yr hwn pan oedd fachgenyn yn sugno, y gwelodd ei fam ellyllon yn fynych yn dyfod atto iw dynnu oi gryd, ac [Page 34] iw ddifetha; a pheryglon y frenhines Eliz▪ chwi ai gwyddoch; ac ymdaith a phererindod ein presennol Arglwydd frenin ni, yr hwn (megis Dafydd) a ffôdd rhag creulondeb ei erlynwyr, or rhain ni haeddei O. Crumwel y Protector gael ei gyffelybu i Saul. ond Duw, (ac iddo ef mawr ddiolchwn am hynny) a ailosododd ein Brenin ni yn ei Deyrnas ei hun, canys ni ddyfn wreiddia planhigion bastardaidd, ac ni esyd sylfaen siccr. Doeth, iv. 2, 3. ac echryslon fradychiad ei Dâd duwiol dyscedig ef, gan y ffiaidd ragrithwyr, y rhai oedd yn cymmeryd arnynt fôd yn Elynion i Eglwys Rhufain. roedd yn rhyfedd gan S. Joan yn y Datcuddiad weled puttain yn feddw gan waed y Seinct; ond fe allasei weled ymma gythrailiaid o ddynion, (gan eu galw ei hunain yn Seinct) yn feddw gan waed Brenin, Brenin cyfiawn, er ei fôd yn Sonct gorthrymmedig ar y ddaiar, ac yn awr yn Sanct bendigedig, ac yn ferthyr gogoneddus yn y nêf; ac fel hyn yn unic y gwnaethont hwy ef yn ogoneddus, fel y darfu iddynt yn fynych or blaen fostio y gwnaent ef. os darfu ei gydwybod Dafydd ei geryddu êf am dorri cwr gwisc Saul, pa gydwybod, pa galon oedd gan blant Belial am dorri pen tair teyrnas ag un dyrnod, yn ôl ewyllys Caligula? canys pwy a estynnei ei law yn erbyn eneiniog yr Arglwydd, ac a fyddei ddieuog? 1 Sam. xxvi. 9. nid rhaid i ni with lythrennau cochion yn ein Halmanac i gofio 'r dydd, ymofyn am y dyddiau gynt [Page 35] &c. a fu megis y mawr beth bwn? neu a glybuwyd ei gyffelyb ef? Deut. iv. 32. ond rhag cywilydd, nac adroddwch hyn yn Gath, na fynegwch yn heolydd Ascelon: ac rhac llawenychu merched y Philistiaid, rhac gorfoleddu o ferched y rhai dienwaededic. 2 Sam. i. 20. os ystyriwn ni hefyd fôd gelynion Brenhinoedd, yn cyrhaeddyd at Deyrnasoed, tystiolaethed hefyd cythraulic frâd y powdwr gwn, y powdwr a ddarparwyd yn y dirgel, a'r tân a ddarparwyd ym mol y ddaiar (fel y mae Dafydd yn siarad am yr Embryo yngrôth di fam) a phe digwyddasei ir tân ymma, wedi ei enynnu a thân Uffern, ddyfod allan or grôth honno yn ôl ewyllys y Papistiaid, hwynt hwy a ymhyfrydasent gydâ Nero gan chwerthin, wrth weled Dinas Llundain, a theyrnas Lloegr yn y fflam; ac anadl y bobl yn hedeg i fynu yn y mwg: mae zêl y gwyr ymma mor boethlyd; Pâb a ordeiniodd gyfraith i losci Hæreticiaid, mae Ignatius a Ffaux ei ddyscybl yn arwyddoccau tân gwresog. mewn gair, gwaeth drygioni na'r Powdr gwn ni allasid ei fwriadu or tu hwynt i Uffern, oddiethr y diweddar fradwriaeth, a ragordeiniwyd gan hiliogaeth yr unrhyw Grefydd. canys os dynion ydynt, pa ham y maent yn gwneuthur fel cythrailiaid? os Cristnogion ydynt, pa ham y maent yn gwneuthur yn waeth nag anifeiliaid? pa fôdd y daeth i fynwes Christnogion greulondeb llewod, cynddeiriogrwydd cwn, ynfydrwydd anifeiliaid, gwenwyn gwenwynllyd seirph gwiberog? medd St. Cyprian. [Page 36] pan ddeloch chwi yn anuwiol, yn greulon, yn fradychwyr, heb wybodaeth, ni elwir chwi mwyach yn Gristnogion, medd Lucifer Calasitanus am eraill. y bardd a ganodd
ffi etto o honynt, anghenfilaidd bobl, y rhai sy'n bwytta eu Duw, ac yn lladd eu Brenin, trugareddau pa rai sydd echryslon; y rhai nid oes ganddynt feddeginiaeth yn y byd i iachâu teyrnasoedd, ond wrth ollwng gwaed, a thorri 'r wythen; y rhai a fynnent ddistrowio hôll gorph ein Israel ni, pen a chynsson, gwreiddin, a changen. canys os gwnant hyn yn y pren îr, pa beth a wneitr yn y crîn? Luc xxiii. 31. y rhai sy'n arferu cleddyf Paul, pan ffailio agoriad Petr; ac yn dyscu nad yw yn unic yn ddy ledus, ond hefyd yn suddiol, ac yn haeddedigol lâdd Hæreticiaid (îe Brenhinoedd) ar cyfryw yw Protestaniaid. Romulus adeiliad wr Rhufain a sugnodd fleiddiast, a llawer Pâb a alwyd Leo, maent yn rhuo drwy eu eu Bul-lau neu eu Teirw am waed, gwaed Brenhinawl, heb ddim gorthrymder cydwybod; ni fynnei yr Jesu iw weision gymmaint a thorri clust gwâs yr Arch-offeiriad ar cleddyf, pan oddynt yn dyfod iw ddal ef. Mat xxvi. 52. canys os iw nêb yn lladd a chleddyf, rhaid yw ei ladd ynteu a chleddyf; dymma ymmynedd a ffydd y Sainct: Datc. xiii. 10. yn yr [Page 37] achos ymma rhaid i ni arferu yn unic cleddyf yr Yspryd, yr hwn yw gair Duw; gan weddio bôb amser &c. Eph. vi. 17, 18. ond y cythraul a ddyscodd y wers hon ir cigyddion gwaedlyd hyn: canys, lleiddiad dyn oedd efe or dechreuad. Joan. viii. 44. fe wybu y Pregethwr, drwy ei ddoethineb, mae mam fsals oedd honno, yr hon oedd mor greulon a dymmuno cael rhannu 'r plentyn ym mhellach, os ystyriwn ni fôd gan y llwynogod ymma gast cyfrwys i gogio dynion, ni a allwn weled mor beryglus ydynt mewn teyrnafoedd, mae ganddynt ffordd i lyncu llwon, gan ddyscu na ddylent mo gadw eu gair a Hæreticiaid neu Brotestaniaid, ac er, mwyn budd ni wnant gydwybod oi llw at Dduw, ai ffyddlondeb at ddynion: y llygod yn yr hen-chwedl niymddiriedent ir gâth er iddi gneifio ei choryn: pa fôdd y gallwn ninnau hyderu yn y dynion hynny, y rhai pan gospir a marwolaeth, sy'n gwadu eu hôll anufydd-dod a'i bradychiad, ac yn chwanegu twng anudon at eu gwrthryfel: os ystyriwn ni (meddaf) wrth hyn, fôd Brenhinoedd (yn enwedig Protestaniaid) a'i goruchafwyr, (y rhan fwyaf ac yn fynychof) mewn amryw beryglon anadnabyddus, mae yn rhaid i ni gydnabod fôd i ni achos a rheswm da i weddio trostynt. tystiolaethed yn ddiwaethaf (i fôd yn ddistaw am ychwaneg) angrhistianus fradychiad Sr. Edmond-bury Godffrey am ei onestrwydd a'i ffyddlondeb iw Frenin a'i Deyrnas. a phe [Page 38] cowfant eu hewyllys, saethasent ergyd drwy galon y Plantos nis ganwyd etto. ond bendigedig fyddo 'r Arglwydd yr hwn nin rhoddodd ni yn ysclyfaeth ir cigyddion gwaelyd hyn. cofia, Arglwydd, blant Edom yn nydd Jerusalem, y rhai a ddywedasant (am dy Eglwys di a'th Efengil) dinoethwch dinoethwch hi hyd y sylfaen, O ferch Babylon a anrheithir, gwyn ei fyd a dalo i ti fel y gwnaethost a ninnau. Psal. cxxxvii. 7, 8. dymmunwn bawb heddwch ein Jerusalem, a dywedwn, llawenydd ir rhai a'th hoffant, heddwch fyddo o fewn dy ragfur, affynniant yn dy balassau &c. Psal. cxxii. 6. gweddiwn ar i Dduw fendithio ein grasusaf Frenin ni, megis a ffynniant a dewyddwch yn y byd hwn, felly a choron o dragwyddol ddewyddwch yn yr ail: ar iddo ei gynnescaeddu ef a gwroldeb Josuah, duwioldeb Dafydd, a doethineb Salomon, fel y gallo ef yn dduwiol ac yn heddychol reoli 'r deyrnas hon a draddodwyd iddo, fel yr elo ei elynion ef ar wascar, ac y ffô y rhai ai casânt ef oi flaen: ar i Dduw dywallt amlder ei fendithion ar ein grasusaf frenhines Catherin, Jaco 'r Duc o Efrawg, a phôb un or frenhinawl deulu: ar i Dduw rwymo ei dywysogion ef wrth ei ewylls, a dyscu doethineb iw Henuriaid ef; ar iddo fendithio ein Brenin ni ai Deynas mewn doeth, ffyddlon a bucheddol foneddigion; mewn ymddiriedus, ufydd, a bucheddol swyddogion; mewn grymmus, darostyngedig, a bucheddol gyffredin; [Page 39] ond yn enwedig, mewn duwiol, dyscedig, a bucheddol Eglwyswyr; fel y gallom ni i gyd yn ein hamryw leoedd a'n galwedigaethau, ymarferu i gael cydwybod ddirwystr tuag at Dduw, a dynion yn wastadol. Act. xxiv. 16. gan dalu yr eiddo Cæsar, i Cæsar; a'r eiddo Duw i Dduw. Mat. xxii. 21. fel na chaniadhao Duw i amryw bechodau yr oes hon roddi in gelynion ychwaneg o fantais yn ein herbyn, ond fel y byddo grâs Duw megis banner ar lêd tros y deyrnas hon yn wastadol. ar ir Arglwydd ein nerth, yr hwn sydd yn dyscu ein dwylo i ymladd a'n byssedd i ryfela: ein trugaredd, a'n hamddiffynfa, ein twr, a'n gwraredydd, yn tarian, yn yr hwn yr ym ni yn gobeithio; yr hwn sydd yn darostwng pobl danom; yr hwn sydd yn rhoddi iecbydwriaeth i Frenhinoedd, yr hwn sydd yn gwaredu Dafydd ei wâs oddiwrth y cleddyf niwidiol, ostwng ei nefoedd a descyn; anfon ei law oddi-uchod, an hachub, a'n gwared ni o law meibion Estron; y rhai y llefara eu genau wagedd, ac y mae eu deheulaw yn deheulaw ffalster. fel y byddo ein meibion fel planwydd yn tyfu yn eu hieuenctid; a'n merched fel conglan nâdd wrth gyffelybrwydd Palâs. fel y byddo ein celloedd yn llawn yn trefnu pob rhyw luniaeth, a'n defaid yn dwyn miloedd a myrddiwn yn ein heolydd. a'n hychen yn gryfion i lafurio, heb na rhuthro i mewn, na myned allan, na gwaedd yn ein heolydd. Amen.
4. Y rhan ddiwaethaf or Text a Gweddi, yw Diolchgarwch▪ mae cyfraith natur yn gwneuthur [Page 40] dyn yn rhwymmedig i gofio ac i gydnabod cymdeithas ffafr, a phôb twrn da. mae'r Psalmydd yn clodfori Duw am ei drugareddau, cystal ac yn gweddio am danynt: ac yn fynych yn cloi ei Psalmau ar cyngor a'r gorchymmyn hwn, Molwch yr Arglwydd. a chan ein hannog ni ir ddyledswydd bwysfawr hon, Psal. cxxxvi. mae ef yn treulio hanner y Psalm, neu ddiwedd pôb adnod i ddangos rhesymmoldeby pêth, O herwyd ei drugaredd sydd yn dragywydd. os ystyriwn ni mai ynddo ef yr ydym ni yn byw, yn symmud, ac ac yn bôd; Act. xvii. 28. ac fel y dywedodd Ammianus Marcellinus nad oedd un (neu odid un) dydd yn y flwyddyn na fyddei yr haul ryw amser yn llewyrchu ar Ddinas Alexandria, felly nid oes un munud yn myned tros ein pennau ni, nad ydym ni yn rhwymmedig i Dduw am rym Drugareddau neu gilydd. os ystyriwn ni hyn (meddaf) nid allwn ni mor bôd megis môch (cyhyr llygaid pa rai ni adawant iddynt edrych i fynu) y rhai sy'n casclu 'r blîsc heb ystyried y llaw sydd yn ei hyscwyd i lawr. mae aniolchgarwch (yn cynwys ynddo ac) yn arwyddoccau pôb mâth o bechod: ac (roedd y cenhedloedd, îe) mae 'r Cythraul (megis) yn ei gondemnio: ai yn ddiachos y mae Job yn ofni Duw? Darllenwch Job. i. 8, 9, 10, 3. amlder trugareddau Duw (ac ym mysc rheini ei ddiweddar drugared ef, gan ddatcuddio a dyddymmu bwriadu y Papistiaid yn erbyn ein Brenin ni, ein heglwys, an teyrnas) [Page 41] sy'n galw am amlder a gwresogrwydd diolchgarwch. fel yr oedd delw Memnon yn seinio yn uchel, pan lewyrchei yr haul yn wresog arni. na fyddwn aniolchgar fel ein tadau yr Israeliaid, y rhai a demptiasant Dduw yn eu calon, gan ofyn bwyd wrth eu blys. Psal. lxxviii. 18, 19. anghofiasant Ddun en hachubwr, yr hwn a wnelsei bethau mawrion yn yr Aipht: pethau rhyfedd yn nhîr Ham; pethau ofnadwy wrth y môr côch, Psal. cvi. 21, 22. o! pwy a dybygei fôd y trugareddau wrth y môr côch, gwedi eu claddu mor ddysymmwrth mewn mor dyfnach o anghoffadwriaeth? y cyfryw oedd trugareddau Duw, a'r fâth oedd eu haniolchgarwch hwynt, (canys pobl wrthryfelgar oeddynt) a bôd Dafydd yn achwyn ac yn ymofidio bedair gwaith yn yr un Psalm, a'r un geiriau, O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a'i ryfeddodau i feibion dynion. Psal. cvii. Ephraim a Manasses fy'n arwyddoccau llawnder ac anghoffadwriaeth, ac maent yn fynych yn yscwyd dwylaw. 'r ym ni yn darllen. Exod. xxxii. 6. a'r bôbl a eisteddasant i fwytta ac i yfed, nid oes dim sôn am râs o flaen bwyd: ac a godasant i fynu i chwarae, nid oes dim crybwyll am râs gwedi bwyd. pan iachâodd Crîst ddêc o wahan-gleifion, Luc. 17. ni chaed a ddychwelasant i roi gogoniant i Dduw, ond un estron. gwers. 18. ac felly ni chafodd Duw ond (megis) y degwm o honynt. ond fel yr ym ni i weddio ar y goruchaf, selly 'r ym ni i ddiolch ir goruchaf am ei hôll drugareddau [Page 42] ysprydol ac amserol: ond yn arbennig am ddanfon ei fâb wedi ei wneuthur o wraig, wedi ei wneuthur tan y ddeddf: fel y prynai y rhai oedd tan y ddeddf, fel y derbyniem y Mabwyfiad. Gal. iv. 4, 5. mawr ddiolchwn i Dduw am bôb peth a wnaeth ac a ddioddefodd ein Harglwydd Jesu Grîst trosom ni, ac am bôb daioni yr ym ni yn ei dderbyn er ei fwyn ef.
Er gwneuthur o Dduw ni yn rhydd-weision yn-Grîst, etto fe a gadwodd ddiolchgarwch megis ardreth neilltuol iddo ei hun, nid all yr Arglwydd (yr hwn sy'n disgwil medi lle mae yn hau) aros mor bôd yn esceulus, ac mor afradlon a gwneuthur y peth ni wnêl un gwr doeth, sef, gwascaru ei drugareddau lle nid yw yn casclu hyn o ardreth. os crybwyll Parisiensis ddiolchgarwch llew &c a Lipsius ddiolchgarwch ceffyl, a Scaliger ddiolchgarwch cî, ac scrifennydd o'n teynras ni ddiolchgarwch yr aderyn bâch a elwir Rhobin frongoch. &c mewn gair, os yw y Psalmydd yn annog y creaduriaid nefol a daiarol i foliannu Duw, pa faint mwy y dylen y rhai rhesymmol wneuthur hynny? Brenhinoedd y ddaiar ar hôll bobloedd, tywysogion a hôll farnwyr y byd, gwyr ievangc a gweryfon hefyd; henaf-gwyr a llanciau: Psal. cxlviii. 11, 12. a hynny nid yn unic a'u gwefusau, eithr o eigion eu calonnau, gan adel iw goleuni lewyrchu o flaen dynion, fel y gwelont eu gweithredoedd da, ac y gogoneddont ei Tâd nefawl. Mat. v. 16. canys yn hyn y gogoneddwyd [Page 43] fy nhâd, ar ddwyn o honoch ffrwyth lawer. medd Crîst. Joan. xv. 8. fel y mae 'r pryr coppyn yn deuchreu ei we yn y canol, felly clodforwn ninnau Dduw 1. yn ein calonnau, gan y msynnio yn barchedig o hono. 2. yn ein geiriau, gan anhydeddu ei enw ofnadwy rhyfeddol, gogoneddus ef, yn ol y trydydd gorchymmyn. 3. yn ein bucheddau, gan roddi ein cyrph yn aberth byw, sanctaidd, cymmeradwy gan Dduw; yr hyn yw ein Rhesymmol wasanaeth ni. Rhuf. xii. 1. dymma 'r fforddi i ddyn i foliannu ac i glodfori Duw. 1. gan adel iw galon wresogi oddi fewn; a thra fyddo yn myfyrio enynned tân, (tân defosiwn) 2. llefared ai dafod. Psal. xxxix. 3. ac 3. fel y dywedodd St. Augustin, hwnw sy 'n moliannu Duw a llais bywiol, yr hwn sy'n ei foliannu ef ai lais, ac ai fuchedd hefyd: onid e nid yw ond rhagrithio, yn lle bendithio Duw. dymma 'r ffordd i fôd yn ddiffuant yn ddiolchgar, sef, gan fynegi moliant Duw nid an gwefusau yn unic, eithr yn ein bucheddau, trwy ymroddi iw wasanaeth, a thrwy rodio ger ei fron ef mewn Sancteiddrwydd ac uniondeb hôll ddyddiau ein heinioes. Amen.
Chwi a welwch ymma 1. beth yw Gweddi, sef mynych a difrifol gyfodiad or Galon at Dduw &c. 2. mor gymmeradwy yw Gweddi gan Dduw. 3. mor fuddiol yw i ddyn. 4. dymma 'r un peth angenrheidiol y mae 'r Apostol ymma yn ei orchymmyn, na ofelwch am ddim: eithr ym mhôb peth mewn Gweddi &c. ac fel y mae yn y [Page 44] wers ar ôl y Text, A thangneddyf Dduw, yr hwn sydd uwch law pôb deall a geidw eich calonnau a'ch meddylian yn-Grîst Jesu. Amen.
Psal. lxv. 1, 2. Mawl ath erys di yn Sion, o Dduw, ac i ti y telir yr adduned (yn Jerusalem.) ti yr hwn a wrandewi Weddi, attat ti y daw pôb cnawd. gogoniant a tyddo i ti, O Arglwydd goruchaf. dyweded pawb. Amen.