Am ddŷdd yr Arglwydd.
MODD y byddeu i chwi ychwaneg o amser, i'w dreulio yn eich duwiolder neil lduol; Dymunaf arnoch godi cŷn foreued ag y gellwch, yn ôl y cyflwr y bô eich Cŷrph ynddo. Dywedaf hyn, oblegid os byddwch yn flîn yn ôl y boen a gymerasoch y diwrnod o'r blaen, gellwch gysgu ychydig hwy ar ddŷdd Sûl y boreu, nac ar amseroedd eraill. Canys gan fod y Sabboth yn ddŷdd o Orphywysdra cystal ag o Dduwiolder, diammeu ni ddyleu gŵr dâ naccau iddo ef ei hun a'i weinidogion, yr esmwythaâd y mae efe yn i roddi iw ei anifeiliaid.
Er hynny, pan ddeffrowch, derchefwch yn ebrwydd eich calonnau at Dduw, a sancteddiwch eich meddyliau cyntaf mewn rhyw dduwiol fyrrion Ocheneidiau: Mewn sanctaidd ryfeddiad, a diolchgar adnabyddiaeth o ddoethineb a daioni Duw, yn Creu'r Bŷd, ac yn Prynnu Dynol Riw; Yr hyn y mae'n rhaid i chwi yn bendifaddef eu cofio ar y dŷdd yma; Gan ddywedyd,
Gogoniant i Dduw Dâd, yr hwn a'm gwnaeth i a'r hôll fŷd.
Gogoniant i Dduw Fâb, yr hwn a'm prynnodd i, a phôb rhyw ddŷn.
Gogoniant i Dduw Yspryd glân, yr hwn sydd i'm sancteiddio i, a hôll etholedig bobl Dduw.
[Page 5] Y Gogoned, lân, Fendigaid Drindod, trî Pherson, ac un Duw trugarha wrthif wîr bechadur.
Tra y byddwch yn gwisco am danoch, derchefwch eich Eneidiau yn y myfyrdodau hyn.
Dyma'r Dŷdd a wnaeth yr Arglwydd, gorfoleddwn, a llawenychwn ynddo. Psalm. 118. 24.
Crîst a gyfodwyd oddiwrth y meirw, ac a wnaed yn flaen ffrwyth y rhai a hunasant. Canys, gan fod marwolaeth trwy ddŷn, trwy ddŷn, hefyd y mae adgyfodiad y meirw. Oblegid, megis yn Adda y mae pawb yn meirw, felly hefyd ynGhrîst y byaheir pawb. 1
Cor. 15. 20, 21, 22.
Yr hwn a newidia ein Corph gwael ni, fel y byddo yn gyffelyb iw Gorph gogoneddus ef, yn ôl y galluog weithrediad, trwy yr hwn y dichon efe ddarostwng pôb dim iddo ei hun.
Phil. 3. 21.
Pan ddarffo i chwi ymwisgo, ac y byddwch barod i'ch defosiwn, offrymmwch eich Aberth o Foliant i Dduw yn y geiriau yma, neu'r cyffelyb.
Gweddi foreuol i ddŷn ar ei ben ei hun.
BEndigedig fyddo dy Enw, O rasusol Dduw, am dy hôll drugareddau a roddaist i mi, er dŷdd fy nganedigaeth hyd y munudyn yma. Ynot ti, O Arglwydd, yr wŷf yn bŷw, yn symmud ac yn bôd. Tydi a'm gwnaethost trwy dy allu dy hun, pan oeddwn yn ddiddim. Tydi a'm prynaist trwy farwolaeth dy anwyl fâb, pan oeddwn yn waeth na dim.
[Page 6] Bendigedig yn dragywydd fyddo dy Enw, ddarfod fy ngeni i o fewn dy gorlan briodol dy hun, yr Eglwys Gristianogawl. Llê i'm cyssegrwyd yn gynnar i ti trwy Fedydd; ac y bûm hyd yn hyn gyfrannog o'r hôll gymmorthau Ysprydol hynny, a alleu fy nghynorthwyo i i gwplhau'r Adduned a wnaethum i yno i ti. Ac er o'm gwirfôdd neu trwy esceulusdra y torrais yr Adduned honno; Etto cymmaint yw dy ammynedd, fel i'm harbedaist hŷd yn hyn, ac a roddaist i mi ychwaneg o amser i edifarhau.
Dy râs di, O Arglwydd, yn unig a'm hattaliodd i oddiwrth y pechodau mwyaf, ac a'm gwnaeth i yn abl i wneuthur y daioni lleiaf. Am y rhai hyn a phob rhŷw fendithion Ysprydol eraill, fy Enaid a fawryga'r Arglwydd, a chwbl sydd ynof a fawl ei Enw Sanctaidd ef.
Yr wŷf yn dy foliannu di hefyd am yr amryw fendithion hynny oddiallan yr wŷf yn eu mwynhau; megis Iechyd, Cyfnesyfiaid, Rhydd-did, Ymborth, a Dillad: Y Cyssurau yn gystal a'r angenrheidiau o'r bywyd hwn: Am fy amddiffynniad y Nôs hon, oddiwrth Dân a Lledrad, a phôb rhyw ddigwyddiadau Echryslon eraill.
Bydded i'th drugareddau hŷn, O Arglwydd, fy nhywys i i Edifeirwch; a chaniadhâ na bo i mi yn unig offrwm i ti ddiolch a moliant, ond trefnu hefyd fy ymwareddiad yn union, môdd y gallwyf o'r diwedd weled Iechydwriaeth Duw, trwy Iesu Grîst fy unig Gyfryngwr a'm Dadleuwr; Yr hwn a ddysgodd i mi weddio, gan ddywedyd,
Ein Tâd yr hwn wŷt
&c.
[Page 7] GWedi i chwi fel hyn ddechreu sancteiddio y dŷdd yma; chwi a ellwch ofalu, fel y gwelwch angenrhaid, am eich bysnessoedd bydol. Fy all yr Hwsmon rodio ei gaeau, a gweled fôd ei anifeiliaid yn ddiogel, a bod trefn ar bôb peth a berthyn iddo.
Yn gwneuthur hyn, nid ydych yn halogi Sabboth yr Arglwydd, fel y mae rhai pobl ofer-goelus yn meddwl; ond yr ydych yn hytrach yn cadw y dydd yma yn ôl arfer y duwiolaf o'r Iddewon. Canys fel hyn y mae ein Iachawdr bendigedig yn dywedyd ynghylch cadw y dŷdd Sabboth.
Assŷn neu ŷch pa un o honoch a syrth i bwll, ac yn ebrwydd ni's tynn ef allan ar y dŷdd Sabboth?
Luc. 14. 5.
Ond, nid rhaid i mi eich cynghori chwi ynghylch eich rhydd-did Cristianogawl, yr hwn yr ydych yn ddigon chwannog i gymeryd o honoch eich hunain. Myfi a ddywedais i chwi hŷn yn hytrach môdd y gallwn gymeryd achlyssur oddiymma i'ch rhybuddio, Mae pan fyddech yn rhodio eich caeau, y dylech gofio, mae dŷdd yr Arglwydd yw hwn; Dŷdd wedi ei eidduno iw wasanaeth ef, ac wedi ei neilltuo er llesâad i'ch eneidiau chwi. Ac am hynny gweddus yw i chwi, tra byddech yn rhodio, alw i'ch côf y petnau a ddigwyddasent yr wŷthnos o'r blaen.
Cofiwch pa beth a wnaethoch. Pa fôdd y darfu
[...] chwi ymddwyn eich hunain tu ac at Dduw, a thu ac a
[...] eich cymydogion. Pa drugareddau neu farnedigaetha
[...] nodedig a ddigwyddasant i chwi; ar cyffelyb.
[Page 8] Yn ôl y meddyliau duwiol yma, gan ddychwel i'ch tŷ, gweddiwch drachefn: Gan roddi diolch am y trugareddau a dderbyniasoch, a chan ddarostwng eich Enaid am y pechodau a wnaethoch, a chan ofyn maddeuant yn daer am danynt.
Yr hyn ddarostyngiad ac edifeirwch ydynt mewn môdd enwedigol yn angenrhaid cyn i ni ddyfod i'r gynnulleidfa; am yr achos yma,
Ni wrendŷ Duw ar bechaduriaid; Sef, y rhai sydd a'u llawn frŷd ar barhau mewn drygioni. Ac y rhai ni wellhânt ac ni adnewyddant eu bucheddau a feddylir yn ddiammeu eu bod yn parhau fellŷ.
Ein dyledswydd ni yw gan hynny, cyn i ni feiddio myned i'r gynnulleid fa,
i ddileu ein pechodau rwŷ Edifeirwch. A chyda'r Prophwyd
Moses, i lynnu ein Esgidiau, cyn i ni sathru ar dîr sanctaidd.
Hyn yn wîr a ddylid ei wneuthyr bôb dŷdd. Ond gan eich bôd o herwydd eich bysnessoedd bysol, yn rhŷ chwannog i esceuluso yr edifeirwch yma ar ddyddiau yr wythnos; etto ni ddylech oedi gwneuthyr i fynu y diffyg yma ar ddŷdd yr Arglwydd, pan gaffech fwy o amser: gan weddio fel hyn,
HOll-alluog Dduw, i'r hwn y mae pôb calon yn agored, a phob deisyf yn gydnabyddus, c oddiwrth yr hwn nid oes dim dirgel yn guddedig; glanhâ feddyliau fy nghalon trwy Yspryd
[...]liaeth dy lan Yspryd, er mwyn Iesu Grîst fy Arglwydd.
Amen.
[Page 9] HOll-alluog a thragywyddol Dduw, yr hwn ni chashêi ddim ar a wnaethost, ac a faddeui bechodau pawb y sy edifeiriol; cre
[...] a gwna ynof newydd a drylliedig galon; fel y bo i mi gan ddyledus ddolurio am fy mhechodau, a chyfaddef fy nhrueni, allu caffael gennit, Dduw yr holl drug
[...]redd, gwbl faddeuant a gollyngdod, trwy Iesu Grîst fy Arglwydd.
Amen.
HOll-alluog Dduw, Tad ein Harglwydd Iesu Grîst, gwneuthurwr pob dim, barnwr pob dŷn; Yr wyf yn cydnabod ac yn ymofidio dros fy amryw bechodau ac anwiredd, y rhai o amser i amser, yn orthrwm a wnaethym, ar feddwl, gair, a gweithred, yn erbyn dy dduwiol fawredd. Megis y rhan arall o'm bywyd, pan wnaethym fel hyn ac fel hyn
(yma adroddwch eich pechodau mwyaf) Felly yn enwedigol yr wythnos ddiweddaf
(yma henwch yr holl bechodau a ellwch chwi gofio er y Sùl o'r blaen) gan annog yn gyfiawnaf dy ddigofaint a'th far i'm herbyn. Yr wyf yn ddifrifol yn edifarhau, ac yn ddrŵg gan fy nghalon dros fy ngam-weithredoedd hyn. O na cherydda fi yn dy lidiawgrwydd, ac na chospa fi yn dy lîd. Na âd i un o'm pechodau godi yn fy erbyn yn y bŷd yma i'm cywilyddio, nac yn y bŷd a ddaw i'm barnu. Ond trugarha wrthif, O Arglwydd trugarha wrthif. Er mewn Iesu Grîst fy unig eiriolwr a'm Cyfryngwr, maddeu i mi yr hyn ôll a aeth heibio. Ac am yr amser a ddêl yr wŷf yn proffessu yn dy ŵŷdd di; Fy môd y dŷdd heddyw
[Page 10] yn offrymmu fy hun yn hollawl i ti; mewn llawn frŷd ar ymadel a'm holl ffŷrdd pechadurus, ac yn amcanu yn hollawl bŷth i'th ddigio mwyach.
Ond gan y gwyddost fy niffygiadau, ac nad yw fy ngwendid guddiedig rhagot; dymunaf arnat, O Arglwydd, ddangos dy nerth yn fy ngwendid, a chryffhau fy enaid clywfus yn fy nuwiol fwriad.
Canys, oh, nid allaf o honof fy hun wneuthyr dim daioni; nid cymmaint a meddwl un meddwl dâ: Ond trwy dy râs di yn fy nghynorthwyo, gallaf wneuthyr pob peth. Bendigedig fyddo dy enw yn dragywydd am dy raslawn addewid hwnnw, Y rhoddi dy Yspryd glân i'r sawl a'i gofynnant. Wele, Arglwydd, yr wŷf yn ostyngedig, yr wŷf o ddifrif yn gofyn dy lân Yspryd. O cyflawna yn awr dy raslon addewid i mi. O caniattâ i mi yr Yspryd glân hwnnw yr wŷf yn gweddio am dano, i buro fy natur llygredig; i gryfhau fy ngwendid; i'm cyssuro mewn trallodau; i'm cynnal mewn gorthrymderau; i'm cymmorth mewn profedigaethau; ac i'm cynnorthwvo yn fy holl ddyledswydd; yn enwedig yn nyledswyddau y dŷdd sancteiddiol yma. Môdd y gallwyf bŷth o hyn allan dy wasanaethu a'th foddhau di, trwy fŷw yn sobr, yn gyfiawn, ac yn dduwiol, yn y bŷd sydd yr awrhon. I Ogoniant dy Sanctaidd Enw trwy Iesu Grîst fy Arglwydd.
Amen.
Holl-alluog Dduw, Tâd ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn nid wŷt yn deisyf marwolaeth pechadur, Eithr yn hytrach ymchwelyd
[Page 11] o honaw oddiwrth ei anwiredd, a bŷw, ac a addewaist faddeu y rhai oll sydd wîr edifeiriol, ac yn ddiffuant yn credu dy Sanctaidd Efengyl di; myfi a attolygaf i ti o'th fawr drugaredd ganiattau i mi wîr Edifeirwch, a'th Yspryd glan, fel y byddo bodlon gennit y pethau yr wŷf y prŷd hyn yn ei wneuthyr, a bôd y rhan arall o'm bywyd rhagllaw yn bûr, ac yn sancteiddiol, fel y delwyf o'r diwedd i'th llawenydd tragywyddol, trwy Iesu Grist fy Arglwydd.
Amen.
O Arglwydd, maddeu gyfeiliorni ac oerder yr erfynion hyn, a gwna a mi nid yn ol fy ngweddiau a'm haeddedigaethau, Eithr yn ol fy angenrheidiau i, a'th ddirfawr drugareddau dy hun yn Grist Iesu, yn Enw ac vngeiriau bendigedig pa ûn y terfynaf fy ammherffaith weddiau hyn, gan ddywedyd,
Ein Tâd yr hwn wyt
&c.
Gwedi i chwi orphen fel hyn eich gweddiau neillduol, Galwed Gŵr y Tŷ ei deulu ynghyd, o unfryd i ofyn gan Dduw ei rás a'i gymmorth yn yr Addoliad cyffredin, yn y weddi yma, neu'r cyffelyb.
Gweddi foreuol i Deulu.
O Sanctaidd Arglwydd Dduw galluog, yngŵydd pa un y mae pôb glin yn plygu, ac
[...] ba un y mae pôb Creadur yn y Nêf a'r ddaia
[...]
[Page 12] yn ymostwng, ac yn ufuddhau. Wele yma Greaduriaid gwael, euog, yn ostyngedig yn ymostwng o flaen dy Orseddfa; yn addoli dy fawredd; yn rhyfeddu ar dy ddaioni; ac yn dymuno dim ychwaneg, ond yn ffyddlon i'th wasanaethu di holl ddyddiau ein bywyd; Canys tydi yn unig wŷt Sanctaidd; tydi yn unig wŷt Arglwydd; A Gogoniant fyddo i ti, O Arglwydd goruc
[...]af.
Moliannus fyddo dy Enw, O Arglwydd, o godiad haul hyd ei fachludiad. Tydi yw ein Duw, nyni a dd olchwn i ti; Tydi yw ein Duw, nyni a'th clodforwn. Nyni a orweddasom, ac a gyscasom, ac a gyfodasom eilwaith, canys yr Arglwydd a'n cynhaliodd. Tydi a oleuaist ein llygaid, fel na hunasom yn marwolaeth. Tydi a'n gwaredaist oddiwrth ddychryn y nos, ac oddiwrth y drŵg sydd yn rhodio yn y tywyllwch. Oddiwrth Dân, a lledrad, a phob riw echryslon ddigwyddiadau eraill. Yr wŷt yn adnewyddu dy drugareddau i ni bôb boreu; ac a roddaist i ni un dŷdd ychwaneg, ie dy ddŷdd dy hun, i'th wasanaethu di ac i alw ar dy Enw.
Yr ŷm yn gorfoleddu yn y gwynfydedig rydddid yr wŷt yn awr yn ganiattau i ni, i neillduo ein meddyliau oddiwrth drafferthion y bŷd, i edrych i fynu attati ein gwneuthurwr. I addoli a moliannu dy dragywyddol allu, doethineb, a daioni. I gydnabod ein hyder arnat. Ac i roddi parch i ti. O gad i'th Râs a'th lân Yspryd ein cyfarwyddo a'n cymmorth yn yr holl ddyledawyddau hynny yr ŷm rwymedig i'w cyflawni.
Bendithia dy Weinidog yr hwn a osodaist
[Page 13] arnom i
weini mewn pethau sancteiddiol, I weddio trosom, i'n haddyscu, ac i
wilied ar ein Eneidiau ni. Pâr i fôd ef yn ddysgedig, vn ddiwyd, yn dduwiol, ac yn rhoddi esampl dâ ini. Gwilied arno ef ei hun, a'i athrawiaeth, fel wrth bynny y dichon efe wared ei hun, a'r sawl a wrandawant arno.
Atteb, O Dduw, yn rasusol yr Eirch bynny a roddir i fynu y dŷdd hwn dros dy bobl. A chaniadhâ i'r addysc hwnnw a roddir i ni, weithredu felly arnom, modd y byddem mewn rhyw fôdd neu i gilydd yn well erddo. Fel wrth fôd nid yn unig yn wrandawŷr, ond yn wneuthurwŷr, v Gair, v byddem yn fendigedig; Trwy Iesu Grist: Yn enw a geiriau pa un v terfvnwn ein ammerffaith weddiau hyn, gan ddywedyd.
Ein Tâd yr hwn wŷt &c.
ERbyn hyn y mae yn debyg y bydd y Clochau yn eich galw i'r Eglwys: Ar ba rai y dylech ddyfal ymwrando, megis ar alwad Duw gan gydnabod mae'r Arglwydd ei hun sydd yn eich gwahodd iw gyfarfod ef yn ei Deml sanctaidd.
A dymunaf arnoch dresnu eich bysnessoedd felly, fel y deloch i'r Eglwys ar ddechreu'r gwasanaeth: Gan wneuthyr cydwybod o fôd yno ar ddechreu y gweddiau, cystal ar Bregeth.
Ac yma y cymeraf gennad i ddywedyd i chwi, fod llaweroedd i'm gwybodaeth i, vn feius iawn yn hyn o beth: Yr wŷf yn ofni fod y fath hynny yn bodloni eu hunain, eu bod hwy yn llwyr
[Page 14] gyflawni gwasanaeth y dŷdd hwn, os deuant i'r Eglwys, ond erbyn dechreu'r Bregeth.
Yn awr, i uniawni y cam-gymeriad yma: dymunaf arnoch ystyrio, Eich bod yn dyfod i Dy Duw, nid i wrando pregethau yn unig; ond achos pennaf eich dyfodiad yno, yw, i addoli eich Gwneuthurwr, i'w berchi, ac i'w wasanaethu ef. Fel y mae cyngor ein Heglwys ni o flaen y gwasanaeth beunyddiol yn dangos i chwi. Yno i'ch dygir ar gôf, fod pedwar achos, pa ham yr ŷm yn ymgynnull ac yn cyd-gyfarfod yn Nhŷ Duw. (1) I dalu diolch am yr aml ddaioni a dderbyniasom ar ei law ef. (2) I ddatcan ei haeddediccaf foliant. (3) I wrando ei Sancteiddiaf air ef. (4) I erchi y cyfryw bethau ac a fyddo cymmwys ac angenrheidiol yn gystal ar lês y Corph a'r Enaid.
Yn hyn y gwelwch; mae, pe i wrando Gair Duw, fyddeu yn unig i wrando y Bregeth (yr hŷn nid yw; Canys y
Psalmau, yr
Hymnau, y
Llithoedd, yr
Epistol, a'r
Efengyl, y rhai hyn yn unig ydŷnt Air Duw. Ond am y Bregeth nid yw ddim amgen nag Y spysiad o Air Duw, gyda cyngorion ac argyoeddiadau, wedi eu sylfaenu arno) Ond, meddaf, pe i wrando Gair Duw fyddeu yn unig i wrando y Bregeth; etto yr hwn sydd vn bresennol yn unig ar y Bregeth, y mae yn Esceuluso trî rhan mewn pedwar o'i ddyledswydd, sef,
Gweddi, Moliant, a Diolch.
Deuwch, meddaf, gan hynny ar ddechreu y Gwasanaeth. A dygwch eich Teulu, a phawb yn perthyn i chwi, gyda chwi: Nid yn unig eich
[Page 15] plant, y rhai sydd mewn oedran a synnwyr, ond y rhai ievengaf hefyd; yn enwedig os bydd ganddynt gymmaint o Synnwyr, ag i ymddwyn eu hunain yn weddus, ac yn ddistaw, heb aflonyddu y gynnulleidfa
Canys, er nad ydynt yn deall yr hyn a ddywedir, neu a wnelir; Etto y mae eu presennoldeb hwy yn Nhŷ Duw yn hyfryd lddo.
Myfi a'ch dygais erbyn hyn i'r Eglwys: I ba lê Ewch i mewn trwy Barch, ac ag issel galon, a lleferydd ostyngedig, dywedwch,
Yn amlder dy drugaredd y deuaf i'th Dŷ, ac yn dy ofn yr addolaf tu a'th Deml Sanctaidd.
Psal. 5. 7.
Gwedi dyfod i'ch maingc, yn ebrwydd ymostyngwch elch hun o flaen mawrhydi Duw, a dymunwch gael ei rasusol gymmorth, a'i dderbyniad o honoch eich hun ac eraill, yn yr holl ddyledswyddau hynny yr ydych ar fedr eu cyflawni; gan ddywedyd,
Gweddi neillduol yn yr Eglwys.
O Arglwydd, yr wyfi trosof sy hun, a'r holl gynnulleidfa yma yn ostyngedig yn erfyn dy lan Yspryd, i gynorthwyo ein gwendid y pryd hyn; ac i ogwyddo ein calonnau i dduwiolder; môdd y byddeu ein gweddiau a'n diolchiadau yn gvmeradwy yn dy olwg di, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Amen.
[Page 16] BEndigedig Arglwydd, yr hwn a beraist fod yr holl vscrythur lân yn scrifennedig er mwyn ein athrawiaeth a'n addysc ni; caniadhâ ar i ni mewn cyfryw fôdd eu gwrando, eu darllain, eu chwilio, a'u dyscu, ac i'n mewn eu mwvnhau, fel y gallom trwy ammynedd a chvssur dy gvssegredig air, gofleidio ac ymgynnal wrth dy fendigaid obaith y fuchedd dragywyddol, vr hon a roddaist i ni, drwy ein Iachawdwr Iesu Grist.
Amen.
O
[...] byddwch yn yr Eglwys o flaen yr Offeiriad (yr hyn sydd weddus iawn, ac yr wŷf o ddifrif yn dymuno hynny oddiarnoch) darllennwch y 84 neu y 122
Psalm, neu y ddwŷ os cewch ennyd: neu rvw ran arall o'r Yscrythur lân, nes i'r Offeiriad ddechreu y gwasanaeth.
Ond ar yr amser hwnnw, rhowch heibio eich holl feddyliau, a'ch duwiolder neillduol, ac ymrowch trwy barch a llawn frŷd i gyduno yn y gwasanaeth cyffredin; a pharhewch felly nes darllen y fendith.
Yn ôl y Fendith; dywedwch,
BEndigedig fyddo dy Enw mawr a gogoneddus, O Arglwvdd ein Duw, am yr achlysur yma i wrando dy Air di; i'th foliannu am dy drugareddau, ac i wneuthyr ein anghenion yn gydnabyddus i ti, trwŷ haeddedigaethau ein lachawdwr Iesu Grist.
Amen.
[Page 17] Yn ôl hyn, gan godi yn barchedig oddiar eich gliniau Ewch allan o'r Eglwŷs.
Gwedi dyfod i'ch Tai, gan fyned i'ch Ystafell, gweddiwch fel hyn.
Gweddi ferr gartref, gwedi dyfod o'r Eglwys; cyn Ciniaw.
GOgoniant fyddo i ti, O Arglwydd Dduw galluog; Gogoniant fyddo i ti, yr hwn a adewaist i mi ddyfod o'th flaen y dŷdd heddyw.
O pe gallwn aros fel hyn yn Nhŷ'r Arglwydd hôll ddyddiau fy Einioes, i weled glendid yr Arglwydd, ac i ymofyn yn ei Deml ef.
Arglwydd maddeu fy hôll ddiffygiadau yn dy wasanaeth di y dŷdd hwn: cyfeiliorni ac oerder fy ngweddiau a'm diolchiadau; Er mwyn fy mendigedig Iachawdwr trugrahâ wrthif.
Amen.
Arglwydd, gwnâ fi yn wneuthurwr dy Air, ac nid yn wrandawr yn unig rhag i mi dwyllo fy Enaid fy hun.
Yn ôl Ciniaw ewch eilwaith i'ch ystafell, a pharhewch eich Gweddiau fel hyn.
Gweddi yn ôl Ciniaw.
BEndigedig fyddo dy Enw, O Dâd trugaredd, am dy anfeidrol gariad ymrhynnedigaeth y Bŷd trwy ein Harglwydd Iesu Grist, am y
[Page 18] moddion o Râs ac am Obaith Gogoniant.
Yr wyf yn dy fendithio, O Dduw, ddarfod fy ngyssegru yn gynnar i'th wasanaeth di trwy Fedŷdd; pan i'm gwnaethwyd yn Aelod o Grist, yn Blentŷn i Dduw, ac yn Etifedd Teyrnas Nêf.
Ond myfi a ddiystyrais ac a ddirmygais yr holl fendithion hynny. Arglwydd, trugarhâ wrthif, a maddeu i mi fy mhechod, canys mawr yw.
Ac mewn hyder ar dy raslawn ddaioni di, yr wŷf yma o Eigion fy nghalon, yn adnewyddu, O fy Nuw, yr adduned honno, yr hon a dorrais i cyn fynyched.
Yr wŷf yn ymwrthod a Diafol a'i holl weithredoedd, rhodres a gorwagedd y Bŷd anwir hwn, a holl bechadurus chwantau'r cnawd. Yr wŷf yn credu holl byngciau ffŷdd Grist. Ac myfi a gadwaf wynfydedig ewyllŷs Duw a'i Orchymmynion, ac a rhodiaf ynddynt holl ddyddiau fy mywyd.
Hyn ôll, O fy Nuw, yr wŷf yn rhwymedig i gredu ac i wneuthyr; a thrwy dy nerth di felly y gwnaf. Ac yr wŷf yn mawr ddiolch i ti, O Dâd nefol, yr hwn a'm galwaist i'r Iechyd wriaeth hyn, trwy Iesu Grist fy unig Iachawdwr. Ac yr wŷf yn attolwg i ti, O Dduw, roddi i mi dy Râd, modd y g
[...]llwyf aros ynddo holl ddyddiau fy Einioes.
Amen.
[Page 19] YMa rhaid i chwi yn osalus alw ar gôf y Bregeth; ac atgoffau y Cyngorion da a roddodd y Pregethwr i chwi. Ar ail-adroddiad yma o Bregethau yr wŷf yn ddifrifol yn orchymmyn i chwi; canys heb y myfyrdod yma, fy fydd y Bregeth yn ddiffrwyth.
Ac os bŷdd yr amser yn caniadhau, rhaid i chwi ddarllen hefŷd rhyw ran o'r Yscrythur lân. Yr hyn ddarllenniad o'r Yscrythyrau Sanctaidd sydd raid i chwi yn ofalus ei arferu; canys pobl sydd yn poeni ac yn gweithio i ynnill eu bara beunyddiol, [er mwyn pa rai a cyfieithais i y llyfr hwn] nid vdynt yn cael amser i ddarllen ar ddyddiau'r wŷthnos.
Fel hyn y mae'n rhaid i chwi dreulio eich amser, nes i'ch gelwir i'r Eglwys eilwaith ymmhâ lê y mae'n rhaid i chwi arseru yr un Barch a'r Duwiolder, ac a ddarfu i chwi y boreu Gwedi dvchwelyd i'ch tai, neillduwch eich' hunain i Weddio [megis cyn, ac yn ôl Ciniaw a threuliwch y rhan arall o'r Dŷdd, yn Darllen yn Gweddio, yn athrawu eich Plant a'ch Gweinidogion, yn ymweled ar clâf, yn gwneuthyr
[...] fynu Cwerylon ac Ymranniadau rhwng Cymmydogion, gyda dyledswyddau Cristianogaw eraill.
Ac os byddwch fel hyn yn ofalus yn ngwasanaeth Duw: ac fel hyn yn gydwybodol y
[...] cadw y Sabboth yma ar y ddaiar; trwy drugaredd Duw cewch gadw Sabboth tragywyddo
[...] yn y Nefoedd.
[Page 20] Tu ar hwŷr, galwed Gŵr y tŷ ei Deulu ynghŷd, a darllenned rhyw ran o'r Yscrythyr lân, yn enwedig y Testament newydd, yno caned Psalm, ac yn ol hynny gweddied yn y geiriau yma, neu'r cyffelyb.
Gweddi Brydnhawnol i Deulu.
O Sanctaidd Arglwydd Dduw galluog; yngŵydd pa un y mae pob glin yn plygu, ac i ba un y mae pob Creadur yn y Nêf a'r ddaiar yn ymostwng, ac yn ufuddhau. We'e ymma greaduriaid gwael, Egwan, Euog, yn ostyngedig yn ymostwng o flaen dy orseddfa; yn addoli dy fawredd, yn rhyfeddu ar dy ddaioni, ac yn dymuno dim ychwaneg ond yn ffyddlon i'th wasanaethu di holl ddyddiau ein bywyd; Canys tydi yn unig wŷt Sanctaidd; tydi yn unig wyt Arglwydd; A Gogoniant fyddo i ti, O Arglwydd Goruchaf.
Moliannus fyddo dy Enw, O Arglwydd, o godiad Haul hyd ei fachludiad. Tydi yw ein Duw, nyni a ddiolchwn i ti; Tydi yw ein Duw, nyni a'th clodforwn. Bendigedig fyddo dy Enw, ddarfod it' ein gwneuthyr yn greaduriaid rhesymmol; yn gallu dy adnabod di, ac yn gallu dy fwynhau di.
Ond bendigedig fyddo dy Enw yn dragywydd ein bod yn Gristianogion; ddarfod ein cyssegru i ti trwy Fedydd; ac y buom hyd
[Page 21] yn hŷn gyfrannogion o'r holl gymmorthau Ysprydol hynny a alleu ein cynnorthwŷo i gwplhau'r Adduned a wnaethom ni yno i ti. A chan ein bod yn rhŷ chwannog i lwytho ein calonnau a gofalon y bywyd hwn; moliannus fyddo dy Enw, ddarfod i ti orchymmyn i ni neillduo un Dydd mewn Saith; i roi heibio ein holl feddyliau a'n bysnessoedd bydol; i ystyrio Tragywyddoldeb; ac i ofalu am ein Eneidiau. Yr ym yn diolch i ti am yr achlysur gwynfydedig a roddaist i ni y Dŷdd hwn i ymgyfarfod yn dy Dŷ di. Atteb yn rasusol yr Eirch hynny a roddwyd i fynu dros dy bobl. A chaniadha i'r addysc a roddwyd i ni weithredu felly arnom, modd y byddem mewn rhyw fodd neu i gilydd well erddo. Fel wrth fod nid yn unig yn wrandawyr, ond yn wneuthurwŷr y Gair y byddem yn ddedwydd.
Ac yr ym yn chwennych, ti a wyddost, daioni pôb Dŷn. Yr ŷm yn dymuno yn bennaf dy Drugareddau tu ac at y Teyrnasoedd yma, ymmhâ rai yr ŷm yn bŷw. Arglwydd, cadw ac amddiffyn y Brenin, a siccrhâ ei Deyrngader ef mewn Cyfiawnder; fel y gwelom lawer o ddyddiau gwynfydedig tan ei Reolaeth ef. Bendithia pôb grâdd o ddynion yn ein plîth, yn yr Eglwys, ac yn y Deyrnas: Fal y gallo pôb un o honynt yn gywir ac yn uniawn gospi drygioni a phechod, a maentumio dy wîr grefydd di, a rhinwedd ddâ.
Bendithia ein hôll Geraint a'n Cyfeillon.
[Page 22] Y sawl a wnaethont ddaioni i ni, Arglwydd gobrwya hwynt. Y sawl a wnaethont, neu a chwennychasant niwed i ni, O Dâd maddeu iddŷnt. Bydded dy Fendith ar y Teulu yma, a phawb a berthynnent i ni, y nos hon. Cadw ni rhag Tân a Lledrad, a phob rhyw ddigwyddiadau echryslon eraill. Caniadha i ni gŵsg esmwyth a chymmedrol, y cyfryw ac a'n cymhwysa ni i ddyled swyddau'r Dydd sy'n canlyn. Fal yn ôl yr ychydig ddyddiau a'r nosweithiau sydd i ni i'w treulio yn y Bŷd hwn, y gallom ddyfod i'th Orphywysfa dragywyddol, gyda Christ Iesu. Yn Enw ac yn Geiriau pa un y Gweddiwn ymmhellach, gan ddywedyd,
Ein Tâd yr hwn wyt,
&c.
CYNGOR bŷrr i annog dynion yn fynychol i dderbyn Sacrament Swpper yr Arglwydd. Hefyd rhai Gweddiau i'w harferu, Cyn, Ar, a chwedi Cymmuno.
Y CYNGOR.
PAn i'ch rhybuddir, gan eich Offeiriad, mai ar y dydd, ar dŷdd y ministrir i bawb ffyddlon a defosionol, tragyssurus Sacrament Corph a Gwaed Crist. Ystyriwch ynoch eich hunain, cyn dyfod yr amser; ddarfod eich gwahodd i ddyfod, nid yn unig i bresennoldeb, ond at fwrdd Duw; i fod yn un o wahoddedigion Arglwydd yr hôll Fŷd. Pa fath Gariad yw hwn a Eglurhaodd y Nefoedd i ni? Pwy all ymattal oddiwrth ddagrau o ofid a thristwch, i feddwl am ei anniolchgarwch ei hun; ac oddiwrth ddagrau o lawenydd, i feddwl am ryfeddol fwynder yr Arglwydd? A ellwch chwi edrych arno ef yr hwn a wahanwyd dros eich pechodau chwi, ac heb wylo a thristau? A ellwch chwi weled ei archollion gwaedlyd ef, ac heb ofidio? Diammeu, nid all calon un dŷn fôd mor galed. Ac etto pan ystyriwch, mae trwy y fflangellau hynny i'ch iacheir chwi; ddarfod i Grist eich golchi chwi oddiwrth eich pechodau yn ei waed ei hun; ac y dichon Eneidiau y ffyddlon gymeryd
[Page 24] noddfa yn ei friwiau ef, a bôd yn ddifraw ac yn ddiogel; nid ellwch lai na gorfoleddu yn yr Arglwydd, a llawenychu yn ei Iechydwriaeth ef.
Crist, i ddangos ei fawr Gariad tu ag attom, a roddodd i ni o'i Fara ei hun, ac o'i Gwppan ei hun: Efe a roddodd i ni ei Gorph ei hun megis yn Fara, a'i Waed ei hun megis yn Wîn, er maeth i'n Eneidiau.
Ystyriwch gan hynny y gofal mawr a ddangosodd Crist tu ag attoch, yn ordeinio y Sacrament ymma, ac yn ei roddi i chwi bechaduriaid truain: Yn wîr, yr oedd hyn yn Gariad pûr; gan nad ellid roddi dim mwy rhagorol, a mwy gwerthfawr. Ac yn awr a geiff chwantau'r Bŷd fôd yn fwŷ yn eich calonnau na chariad i'r Arglwydd? A geiff amserol blesserau pechod foddi y coffadwriaeth o Ogoniant Crist yn y Sacrament Sancteiddiol yma? Nid yw eich Einioes chwi ond dyrnfedd; ac etto gwell a fyddeu i chwi ped fae yn fyrrach, nag i chwi ei dreulio mewn esceulusdra o Dduw. Gwell a fyddeu i chwi farw, a bôd ar goll yngoffad wriaeth y Bŷd, nag angofio eich Prynnwr. Rhowch heibio gan hynny eich hôll fŷsnessoedd bydol, a chymerwch boen i barottoi eich hunain i'r rhan neillduol yma o wasanaeth Duw; ac nad ymabsennwch oddiwrth y Sacrament bendigedig.
[Page 25] Yr Iddewon a groeshoeliasant yr Iesu unwaith a'u dwylo; ond yr ydych chwi yn ei groeshoelio ef eilwaith, ie, bob dŷdd trwy eich pechodau: Pwy ydych chwi gan hynny sydd yn meiddio dyfod at Grist, heb lif o ddagrau; pan fyddo ef yn dyfod attoch chwi mewn afonŷdd o waed? Pwy all fyfyrio ar Gorph archolledig Crist, heb Enaid archolledig? Neu edrych ar ei Ystlys wahanedig ef, heb galon wahanedig? Derchefwch eich calonnau trwy ffydd; ac yno pa beth bynnag yw eich gorthrymder a'ch gofid, y mae i chwi rinwedd feddiginiaethus i'w gael yn Gwaed Crist. Y mae i chwi faddeuant o'ch pechodau, a heddwch cydwydod wedi ei siccrhau i'ch Eneidiau trwy y Sacrament bendigedig yma, megis Sêl o Ras, a Gwystl o Ogoniant.
Nessewch gan hynny chwychwi Eneidiau cystud liedig at y Bwrdd Sancteiddiol, a gwelwch Oen Duw yn marw trosoch. Fy ddangosodd Crist y ffordd i ddyfod atto ef; na fydded yn flîn gennych chwi rodio atto. Na fyddwch gyflŷm i erlid oferedd y bŷd; ac yn llêsg yn Gwasanaeth Duw; Na redwch ar ol trafferthion darfodedig y bywyd yma; ond pryssurwch i ddyfod at Fwrdd Sancteiddiol Crist.
Ond pa ham yr ydych mor wrthwynebus i ddyfod at fwrdd yr Arglwydd; ple y gellwch yfed Gwîn a Llaeth heb arian, ac heb brîs ple gellwch gael eich digoni megis â mêr
[...]
[Page 26] brasder, a bwytta o'r Bara bywiol hwnnw, yr hwn pwy bynnag a'i bwytti, fŷdd bŷw yn dragywydd.
A angofiasoch chwi Orchymmyn Crist;
Gwnewch hyn er côf am danaf. Ai dyma gofio eich anwyl Brynnwr? I feddwl am dano unwaith yn y flwyddyn, neu nid hwyrach unwaith mewn saith mhlynedd? Oni ddylech chwi ei gofio ef cyn fynyched ac y caech ennyd ac achlyssur? Ped fae eich Iachawdwr heb feddwl am danoch chwi, ond pan feddyliech chwi am ei Angeu a'i ddioddefaint ef; Be mor druan fyddeu eich cyflwr? A ellwch chwi feddwl yn rhŷ fynych am ei gariad ef? Ydŷch chwi yn ofni bod yn rhŷ grefyddol, ac yn rhŷ gariadus a'r Iesu yma? Ydych chwi yn ofni y gwneiff golwg o waed tywalltedig Crist, i chwi dywallt allan ormod o Ddagrau, Gweddiau,
[...] chlodforeddau o'i Gariad ef? Gan ystyrio mor sŷnn, ac mor farwol yr ydych; angenhaid a fyddeu i chwi ddyfod yn fynychol i'r
[...]acrament, i gael conorthwyo eich serch trwy verthfawr VVaed Crist. Ydych chwi yn ofni
[...]dnewyddu eich Edifeirwch, eich ffŷdd, eich Gobaith, eich Cariad yn rhŷ fynych? Pa myn
[...]ched y deuwch i'r Cymmun Bendigedig yma,
[...]wy fŷdd eich Cydnabyddiaeth a'ch anwyl
[...]rynnwr. Nid oes i nêb fwy o groesaw wrth
[...] Bwrdd yma, nag i'r ufudd a'r cystuddiedig;
[...] nid oes nêb yn cael ei dderbyn â mwy o
[...]afr, na'r Tlawd yn yr Yspryd. Ymbarottowch
[Page 27] chwithau eich hunain gan hŷnny yn awr, a deuwch at Fwrdd yr Arglwydd; A'r Tad tragywyddol a ddywed wrthych, Byddwch lawen, maddeuwyd i chwi eich pechodau.
Gweddi cyn derbyn y Cymmun.
O Wynfydedig Iesu, yr hwn a'th offymmaist dy hun trosofi unwaith ar y groes, ac wŷt yn dy gynnig dy hun i mi'r awrhon yn y Cymmun; na âd, yr wyf' yn attolwg i ti, i'm hanedifeirch, neu i'm hanneilyngdod i wneuthyr y trugareddau anfeidrol hyn yn anfuddiol i mi, Eithr cymhwysa fi trwy dy Ras i dderbyn cyflawn ffrwyth o honynt. Y mae arna'i, O Arglwydd, dy eisieu di'n ddirfawr; ond yr wyf wedi fy llyfetheirio ag Euogrwydd, a chwedi fy nal i mewn â rhaff fy mhechod, fel na allaf symmud tu ag attat ti; O gollwng fi yn rhŷdd o'r rhwym hwn; a thywys fi modd y gallwyf redeg ar dy ol di. Trugarhâ wrthif, O Grist, trugarhâ wrthif, canys y mae fy Enaid yn ymddiried ynot, ac ynghromlechŷdd dy archollion y bŷdd fy noddfa, nes i lidiawgrwydd dy Dâd fyned heibio. O tydi yr hwn megis fy Arch-Offeiriad a aberthaist trosof, Eiriol hefyd trosofi▪ a dadleu haeddiant dy ddioddefaint er fy mwyr i; ac na âd, O fy mhrynnwr, i brîs dy waed t
[...] fyned yn gwbl ofer: Ond caniadhâ,
O Arg lwydd, megis y mae fy mhechodau i yn am
[Page 28] i'w maddeu, felly y bo i mi garu llawer. Tydi, O wynfydedig Iesu, a fuost farw i'm gwaredu i oddiwrth bob anwiredd,
O na âd i mi fy ngwerthu fy hun drachefn i weithredu drygioni; ond caniadha i mi nessau attat y pryd hyn a llawn fwriadau disigl a difrifol o adnewyddiad hollawl, a gâd i mi dderbyn y cyfryw Râs a Gallu oddiwrthiti, fal y gallwyf yn ffyddlon eu cwplhau hwynt: Y mae fy Enaid, O Arglwydd, yn gruddfan tan amryw bechodau hên cynnefinol
(Yma traetha allan dy bechodau mwyaf) Ac er cyhyd y gorweddwyf wrth lynn
Bethesda, er mynyched y delwyf at dy fwrdd, Etto oni bydd yn wiw genniti estyn allan dy feddiginiaethus rinwedd, hwy a barhâant yn wastad heb eu iachau. O tydi wynfydedig Bysygwr Eneidiau, iachâ fi, a chaniadhâ fod i mi felly dy gyffwrdd di yr awrhon, fel yr attalio pôb un o'r diferlif ffiaidd hyn yn Ebrwydd, ac fel na bo'r clefydau hyn i farwolaeth, ond i ogoniant dy drugaredd yn maddeu, ac i ogoniant dy Râs yn glanhau creadur truan mor halogedig. O Grist, gwrando fi, a chaniadhâ fôd i mi yr awrhon nesau attat â'r cyfryw Osty ngeiddrwydd, cystudd calon, cariad a duwiolder, fal y bo'n deilwng gennit ti ddyfod attaf, a phreswylio gyda fi, trwy dy gyfrannogi dy hun i mi, ynghyd a hôll haeddedigaethau dy ddioddefaint. Ac yna, O Arglwydd, na fydded i'r un o achwynion Satan neu 'nghydwybod fy hûn, fy mrawychu na'm cythrwblio, ond gan fôd gennif heddwch gyda thydi, gâd i mi gael heddwch
[Page 29] hefyd ynof fy hun; fel y bo i'r Gwîn hwn lonni, ac i Fara'r bywyd hwn nerthu fy ngalon, am gwneuthyr yn abl i redeg ffordd dy orchymmynion. Caniadhâ hyn, drugarog Iachawdwr, er mwyn dy dosturi a'th ymyscaroedd dy hun.
Amen.
Yn ebrwydd o flaen derbyn, dywedwch,
YR wyf yn dyfod, Arglwŷdd Iesu, yr wyf' yn dyfod: O tŷnn fi attat dy hun, canys yr wŷt' yn fy ngharu i, ac a ddarperaist fwrdd i mi yn Eisteddfa cariad.
O Sanctaidd Iesu, yr wyf' yn dy weled wedi dy ystyn ar y groes, a'th freichiau ar lêd yn barod i gofleidio, a derbyn i'th fynwes hôll ddynol riw.
O fendigedig Iesu, gad i'r gwaed a redodd o'th fendigedig galon, olchi fy Enaid oddiwrth pôb pechod ac anwiredd, a phrynnu i mi dy nefol Râs a'th Fendith.
Oen Duw, tydi a ddywedaist, mae yr hwn sydd yn bwytta dy gnawd, ac yn yfed dy waed, a gaiff fywyd tragywyddol.
Wele Wasanaethŷdd yr Arglwydd, bydded i mi yn ôl dy Air
Arglwydd, nid wyf' deilwng i ti ddyfod dan fy nghronglwyd; ond dywed y gair, Arglwydd, a'th wâs a iacheir.
Wrth dderbyn y Bara, dywedwch,
TRwy dy Gorph croeshoeliedig di gwared fi oddiwrth gorph y farwolaeth hon.
Gwedi derbyn y Bara, dywedwch,
BEndigedig fyddo Enw fy ngrasusaf a'm bendigedig Iachawdwr Iesu, am roddi i mi ei werthfawr Gorph i fôd yn ymborth i'm Enaid: Caniadhâ O Grist, am y peth a roddaist i mi er maddeuant fy mhechodau, na bŷdd trwy fy mai i yn anchwanegiad o honynt. Ac yn awr O Dduw, yn ufudd y cyflwynaf i ti fy ngorph a'm Enaid; Cymmhwysa di hwynt i'th wasanaeth di; fel megis y rhoddais fy aelod ru i bechod ac aflendid; felly y gallwyf o hyn allan rodio mewn cyfiawnder a sancteiddrwydd o'th flaen di, hôll ddyddiau fy mywyd.
Amen.
Cyn derbyn y Gwppan, dywedwch,
PHiol Iechydwriaeth a gymeraf, ac ar Enw'r Arglwydd y galwaf.
O bydded i'th Waed ti buro fy ngydwybod oddiwrth weithredoedd meirwon i wasanaethu y Duw byw.
Arglwydd os mynni, tydi a elli fy nglanhau i.
O cyffwrdd a mi, a dywed, mynnaf, bŷdd lân.
Gwedi derbyn y Gwppan, dywedwch,
GOrphennwyd; Bendigedig fyddo Enw ein grasusaf Dduw; Bendith, Gogoniant, Moliant ac Anrhydedd, Cariad ac ufudd-dod fyddo
[Page 31] i'r hwn sydd yn Eistedd ar yr Orseddfaingc, ac i'r Oen yn dragywydd.
O Dduw, tywallt i lawr dy Radau arnom ni, cyfarwydda ein cerddediad yn dy ffŷrdd, cryfhâ ni yn dy ofn, cadarnha ni yn dy gariad, a dôd i ni yn y diwedd etifeddiaeth dy blant.
YR awrhon, Arglwydd, y gollyngi dy wâs mewn tangneddyf yn ôl dy air.
Canys fy Ilygaid a welsant dy Iechydwriaeth.
Yr hon a barottoaist ger bron wyneb yr hôll bobl.
I fôd yn oleuni i oleuo'r Cenhedloedd, ac yr Ogoniant i'th bobl Israel.
Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân;
Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awrhon, ac a sŷdd yn wastad yn oes oesoedd.
Amen.
Yma gan godi i fynu, dywedwch,
HAlelujah; Iechydwriaeth i'n Duw ni, ac i'r Oen yn dragywydd.
Amen.
DIWEDD.