DWY Daith i GAERSALEM.
Yn Cynwys yn Gyntaf, Hanes cywir a rhyfeddol o Ymdaith Dau Bererin o Loegr er ys Blynyddoedd, a pha ddigwyddiadau a fu iddynt yn eu Hymdaith o Gaersalem Grand Cairo, Alexandria &c.
Yn Ail, Ymdaith pedwar Gwr ar ddeg o Saeson, yn y Flwyddyn 1669. o Scanderoon i Dripoli, Joppa, Ramah, Caersalem, Bethlehem, Jericho, Afon yr Jorddonen, Llynn Sodom a Gomorah, &c. Ynghyd a Hên bethau, tystiolaethau a Choffadwriaethau lleoedd a sonir am danynt yn yr Ysgrythyr gau T. B.
At ba un y Chwanegwyd.
Gwiwgof Amlygol ar Gy [...]wr yr Iddewon Genedl gvnt ac yn ddiweddar, sef Descrifiad y Tir Sanctaidd, [...]i Gosgorddiad. Ffrwythlondeb &c. 2. Amryw Gaethgiudiad yr Juddewon yn ôl iddynt feddianu 'r lle. 3 Amcan a Thebygol [...]on pa beth a ddaeth o'r Dêg Llwyth a Gaethgludodd yr Assuriaid, ag amryw Hane [...]ion perthynasol i hynny. 4. Cyflwr yr Juddewon er pan aethant ar Alltudiaeth, [...] helynt bresenol Palestine.
Ynghyd ag Ymmadrodd y [...]ghylch y Gynghorfa fawr a gynhaliodd yr Juddewon yngwastadedd Adjady yn Hungaria. yn y flwyddyn 1650 i chwilio yr Yscrythyrau ynghylch Christ. gan S. B. Sais oedd yn y mann ar lle.
Gyda Rhyfeddol Siomedigaeth yr Juddewon gan gau Ghrist yn Smyrna 1666.
Yn ddiw [...]ddaf y Dynghediol a th [...]rfynol Dde [...]rywiad yr Juddewon ym Mhersia yn y flwyddyn 1666 ar Achosion o hynny.
O Gasgliad R. B. yn Saesneg a Chyfieithiad William Lewes yn ddiweddar or Llwyn Derw yn Sir Gerfyrddin, Wr Bonheddig.
Argraphwyd yn y Mwythig gan John Rhydderch ac ar Wert [...] gandd [...] ef yno.
At y Darllenydd.
YR Ymadroddion canlynol sy 'n cynnwys m [...]tterion tra ystyriol a hynod, ni allant lai, yn ddiau na rhyngu [...]odd pob rhyw Ddarllenydd hynaws; canys fe fydd yn rhyw hyfrydwch i ddal sulw pa Ryf [...]ddodau a adroddir am y lleo [...]dd enwog gynt, yn, ac o amgylch Caersalem, a pha Chwedleu newydd a chwanegir a beunydd, megis ac y bydd eu plaid, (hynny yw er budd) yr Offeiriaid.
Am y Gynghorfa fawr yn Hyngaria yn y Elwyddyn 1650 a'r rhyfedd [...]l amryfussedd a oresgynassai 'r Iddewon, trwy Fessiah twyllodrus a gau Grist, yn, ac o amgylch Smyrna, ac amryw Wledydd eraill, befyd eu llwyr ddeol hwynt o Deyrnas a llywodraeth Amberawdwr Persia yn y flwyddyn 1666, ni a all [...]n modd ein Hawdwr, ddal sulw, mor hynod yr estynsai yr holl alluog ei Law yn erbyn 'yr Judd [...]won, oni buassai eu bod tan farnedigol galedrwydd Calon, yn ddiau, b [...]assai 'r gwastadol arwyddion yma o ddigofaint yr Arglwydd yn p [...]ri iddynt wn [...]uthur adgofiad arnynt eu hun [...]in, a thrwy ddifrifol edifeirwch derbyn Athrawiaeth Ein Harglwydd Jesu Grist, y gwir Fessiah ac Achubwr y Byd i ymegnio o ho [...]ynt i dyn [...]u ymaith y felldith bonno, a erfynasau eu hên Deidiau i syrthio arnynt eu hunain au plant, pan y Croeshoeliasant Fab Duw, ag Arglwydd bywyd a gogoniant, tan ba rai dioddefassant flinder creulon tan bob canedl lle a gwascarassid hwynt, er ys dau gant ar bymtheg o Flynyddoedd.
Ac am y gwirionedd yr ymadroddion hyrrion hyn, hwy a 'scrifennwyd i gyd gan amryw o Saeson geirwir dibetrus, y rhai oeddent ar y lleoedd, p [...]n wnaethpwyd y p [...]thau hynod hyn, ac am hynny nid rhaid i mi ymhil, eithr yn hytrach au gyrru i'ch mys [...] iw credu.
Hanes Cywir a RHYFEDDOL: Ymdaith diweddar Dau Bererin o Saeson, a pha Ryfed [...]ol Ddamweiniau a ddigwyddodd iddynt yn eu Hymdaith i Gaersalem, Grand Cairo, Alexandria &c.
ER bod yn ddihareb gyffredi [...] a dichon Ymdeithyddion lefaru chw [...]dlau anwir trwy Awdurdod, Etto 'n hyderus safaf ar Wirionedd fy Ymmadrodd, fyngharedig annerchiad attoch chwi a'm ho [...]l Geraint, o Gaersalem yr ydw y y modd yma, yn dechreu cyfarch gwell i chwi hyspyssir i c [...]wi Scrifennu o honof Lythyr attoch o Rama, yn ôl i'm ymadel a Grand Cairo: [Ramah hon oedd y fan lle clywyd llais Rachel yn wylofain am ei phlant,) yn hwnnw yr hylpyssais i chwi am holl helynt o Grand Cairo hyd at y lle hwnnw. Danfonais ef gyda saith o Lythyrau eraill i Ddamascws yn y Carafan neu 'r giâd: Eithr amheuo o hono [...] na's daethai etto i'ch dwvlaw, mi a welals i fod yn 'gymmwys i mi 'Scrifennu attoch eilwaith ynghylch fy holl helynt; A chyda hynny Ran arall o'm hynt i Gaersalem▪ a'm Carchar a'm trallod yno, a pha h [...]n iddrwydd Coffadwy a welais i yno a lleoedd eraill, hyd fy ymchwoliad yn ol i Alexandria.
Yn gyntaf hyspyssaf i chwi, na ymadawais o Grand Cairo hyd y nawfed dydd o Fawrth, ar y diwrnod hwnnw da [...]thum i'r lle [mal y dywedir] y trig odd Mair gyda ein Jachawdwr Crist. Hyd ymma daeth Anthony Thorps gyd [...] mi, a phedwar eraill, y rhai a ddaethant gyda mid Grand Cairo, eithr yno ymadawsant a ni, gan ddychwelyd o honynt yn eu hol i'r Ddinas eithr myfi a'm Cydymde [...]thydd▪ Sion Bunnel ein dauwedd mewn gwisgad Pererinion, a ddaethom y Nôs honno i Drêf a elwir Canko, lle bu yn dda [Page 2] gennym i gymmeryd ein llettŷ yn y Cyn [...]edd h [...]b un gwely ond y ddaear noeth, y dydd nessas [...]i ymmadawson oddi yno ac a ddae [...]hom i Dref yn hir Gosan, yn y lle hyn y cyfarfuom a lliaws o Dwrciaid, Judaewon, a Christnogion, ac ynghylch 750 o Camelod, y rhain i gyd oeddynt yn myned i Ddamas [...]us trwy 'r anialwch, etto i'r oedd yn e [...] plith hwynt ddau ar hugain o Roegiaid ac Armeniaid, ac amcan eu hymdaith oedd ru a Chaêrsalem, yr hyn a'n gwnaeth yn llawenach o'u Cyfeillach: yn y Dref ymma a elwir Philbits nyni arosassom ddau ddiwrnod a noswaith, yn y cy [...]amser mi a aethum i Dŷ p'le gwelais ddirgelwch rhyfeddo [...] i ddeor cywion trwy wrês celfyddol, mi a welsw [...] o'r blaen yn Grand Cairo y cyfryw, eithr nid yn fath gyfrif a lliosogrwydd ac ymma: y modd ar dull mi a fynegaf, fel y mae 'n [...]anlyn. Pobl y W [...]âd tu fewn i 4 ne [...] 5 Milltir o amgylch y Dref ymma a ddaent au Hwya [...] mewn Clud a fo yn gymmwys i dwyn, a'r Assynod neu Gamalod i'r lle ymma: Ac yno y mae Ffwrn yn gadwedig [...] wrês cymhedrol at y peth hyn, A'r Crâswr neu 'r Meistir yn sefyll yn barod wrth Ddrws bychan yn derbyn yr Wya [...] oddiwrth bob un trwy eu cyfrif, oddieithr i'r cyfrif gyfodi mo'r uchel (megis llwyth dêg Camel neu ragor, yno wrth Rifodi fesur y lleinw ef, ac yn y modd hynny y messura efe y cwbl eraill, Ac mi ddywedaf hyn mal gwirionedd; woled o honof dderbyn yno mewn un diwrnod o Wya [...] gan y Ffwrnydd, Cog neu 'r Pobydd trwy rifedi a Mesur ynghylch pymtheg mil ar hugain neu ddeugain Mil: Ac y ddywedassant wrthyf, nas gwnai efe ddim tros yspaid tri niwrnod onid derbyn Wyau; Ac ymhen deudd [...]g niwrnod, deuent drachefn i dderbyn eu Cywion, ac weithiau ymhen deg neu saith [eithr bydd hynny yn anfynych.] o ddamwain byddai ddau cant o ddynion i fod yn berchenogol o un ffyrnaid, rhai ac iddynt ddwy fil, ac eraill ac un mil, naill a mwy ai llai, yn ôl y maint a rhifedi. Y Ffwrnydd a noda E [...]wau a rhannau pob un a dd [...]l ac Wyau yno; ac os digwydd ga [...]l o hono gant a deg a deugain o filoedd, neu ddeugain can [...]il ar un [...]wymad (mal y digwydd yn fynych) etto efe au cymmysg hwy i gyd [Page 3] ynghyd, heb ddal dim sulw ar y Perchenogion, yno gesyd efe hwy bob yn un ar ei rês, mor agos ac y gallent gytwrdd au gilydd. Eithr gwueuthur o hono yn gyntaf glŵth neu Welŷ iddynt o dail Camelod wedi ei losgi yn lludw, A'r llawr lle bo 'r lludw wedi osod, a wnaed yn deneu jawn o bridd y ddaiar, yn gymmyscedig a thail Camelod wrth ei wneuthur, ac ychydig o dail Clomenod ynghymmysg; etto nid yw y dirgeledigaeth yn sefyll yn hyn yn unic, canys y mae lle ceuol ynghylch tair troedfedd o lêd tani, ac ar hwn y tenir lloriaid arall o dail Camelod, a than hynny y mae 'r lle a byddo yr tân, Etto nis galler yn gymwys i alw ef yn dân, cany [...] ni ymddengys dim yno ond Marwor, ac nis gallwn wybod dim gwahani [...]eth rhyngddo a lludw, yn rhoddi gwres cymhedrol i'r ceuedd nesaf, a chan fod y gwrês yn cael ei Attal a'i ragod gan y lloriaid tail nesaf a [...]to (ar [...]ail ymma yn i osod ar dd [...]rnau o Goed gwywedig, neu yn hyttrach Canghennau o hên Goedwydd) rhydd allan fygdarth mawr jawn, a'r mygdarth hwnnw a ruthra i'r ceuedd nesaf tan yr Wŷau, a mewn ams [...]r fe a à trwy 'r pridd cymmyscedig a ragddywedwyd, ac yn cyfwrdd ar Lludw llê mae 'r Wyau wedi eu gosod, ac felly megis Ystordŷ, Gyfreidiol i dderbyn yr holl Wrês ac sydd yn dyfod oddi tanodd. Ar gwrês Celfyddol hwn yn rhuthro trwy 'r lludw. lle mae 'r Wyau yn gorwedd, ac yn eu gwressogi hwynt, bob ychydig [...]rwy e [...] plisgau ac felly yn tywallt bywyd y [...]ddynt trwy 'r un cyfran o Wrês; yn y modd ymma, tu fewn i saith, wyth, naw, deng, neu weithieu ddauddeng niwrnod can [...]yn bywyd trwy 'r Celfyddol foddion hyn. Ynawr pan ddeall y Ffwrnydd bod bywyd yn ymddangos, a'r plisgau yn torri, yno a dechreu efe ei casclu hwyn [...]. Eithr o gan mil, pan y cas [...]lodd ef driugain mil, weithiau ddeng mil a deugain, ac weithiau ond Ugain Mil os bydd y Dyddiau yn o gymmylog: ac os digwyddi yn y cy [...]amser fellt a Tharanau, neu Wlaw, y [...]o o fil ni's casgla ef mor un, cany [...] erthylant i gyd ac a fyddant feirw
Atgofier hyn hefyd bydded ir tywydd i fod mo'r decced [Page 4] ac y mynno, yr Wybr yn bur ac yn loyw, a phob peth megis ac y dymunent, A bydded or Cyw [...]on gael eu [...]cor, (hath [...]d) yn y modd ger [...]u ac y ddichon fod, etto er hyn i gyd, bydd ganddynt naill ai gormod o Ewinedd, neu eisiau Ewinedd, canys weithiau bydd gan un bum [...]win, neu chwech, eraill ond dwy ymlaen ac un yn ol, ac anty [...]y [...] ac anaml y bydd rhai a chyflawn lun iddynt, Yn ol hynny pan dde [...]o 'r bobi i dderbyn eu cyw [...]on, y Ffwrnydd a rydd i bob un yn gy [...]ran [...]ol mal y caniattao y Ffwrn, gan gadw iddo e [...] hun y degfed am e [...] boen, Llymma i chwi d [...]rgeledigaeth i ddeor Wyau trwy Wresogrwydd [...]chyddo [...] yn Nhref Ph [...]b [...]tts yngwlad Gossan, 'rhyn yr ydwyf o'r dyb mae oferwaith iw arferu yn y Lloeger, o herwydd prin yw 'r Wybr yno yn eglur ddeng Niwrnod ynghyd, ac nid oes hefyd Dail Camelod yno, or bod ganddynt Dail anifeiliaid eraill yn llwyr mo'r wressog: Ac am hynny pan fo yr Haul yn y Cranc, Llew, neu yr Forwyn, gellwch os mynnwch brofi beth ellir i wneuthur. Ond odid, tebyg rhai mai chwedl yw hyn, i'r fath hynny attebaf, ni's gallat gymmell eu Cred hwynt, ddim ym [...]ellach nac mae fy ffydd a'm Gwirionodd i'w perswadio hwynt. Ac os ar hynny nis credant, cymmerant y boen i w [...]euthur eu llygaid eu hun yn dystion, a phan y talont mo'r ddrutted ac y gwnaethum i, (canys golwg ar rhain a phe [...]hau eraill o gostiodd i mi gan Mork mewn deng niwrnod a deugain) cadarnhair eu barn hwynt yn well.
Eithr yn awr at ymdaith tu ar anialwch Arabia, yr hwn yr oedd yn rhaid i mi fyned trosto, cyn y gallwn, ddyfod i'r Tir bendigaid, ni aethom or dref Philbitts, gan ymdeithio o ho [...]om trwy 'r Nôs ynghynulleidfa 'r Carafan (neu 'r glud) O Damascus, ac ar p [...]dwaredd dydd ar ddeg ar Naw or glôch ni wersyllasom yn Baharo yn nhir Gozan, Oddiyno ni aethom y nôs honno, ac ar y 15 dydd y nôs honno ni Wersylla [...]om yn Salbio yr hon sydd tu ar Dwyrain oddiwith Tir Gozan, ac yn sefyll Ynghyffiniau diffaerhwch Arabia, yno arosassom ddau ddiwrnod [...]hag ofn yr Arabiaid Gwylltion, ac ymadawson oddiyno ar y 17 dydd, ac a dramwyassom y Nôs honno dro [...] Bont fawr, tan ba [Page 5] un i'r oedd Dwfr hallt. Y Dwfr hwn a ddaethai o'r môr oddiwrth barthau Dimieta, a thrwy boen dwylo dynion y cloddiwyd lle ir ffrwd ymma saith ugain a deng milltir, oddifewn ir Tir gan Pte [...]omy Brenin yr Aipht yr hwn a amcanassai ddyfod a'r Môr coch a'r Môr Canol dir yn un: Eithr ac efe yn rhagweled, pan orpheuassai efe y gwaith foddasai yn Hwyr ei wlad ei hun, efe a attaliodd, ac a adeiladodd yno Bont i dramwy trosti. y lle ymma sydd yn gwahanu rhwng Arabia a'r Aipht, er cynted ac y tramwyasom y Bont yma, yr Arabiaid gwylltion a ymgodasant yn ein herbyn, Ac er ein bod ni yn gynulleidfa fawr, canys yr oeddem yn rhagor na Mil o wyr] dugwyd oddiarnom Gamel yn llwythog o liain Calico a 4 o'n gwyr wedi eu harcholli ac un yn glwyfedig i farwolaeth.
Eithr yr Arabiaid a ffoesant ymmaith au hyspail ac nid allem eu canlyn hwynt o herwydd i bod hi yn dywyll Nos. Y dydd nesaf ni wersyllasom wrth ffynnon o ddwfr hallt. Eithr anghofiais hyspyssu i chwi ar i SION BUNNEL fynghymdeithydd i ddyfod prin yn ddiangol o'r ymdrech nôs o'r blaen: Yno gorphwysassom hyd 3 ar gloch yn ol hanner dydd, rhwn i maent yn galw Lasara, Canys yr Arabiaid a'r Aiphtiaid a ddosparthant y dydd yn 4 rhan: yno ni a ymmadawson, ar Boreu nessaf gwersyllasom wrth gastell yn y diffaethwch a elwir Carga, yr hwn ydyw un o'r tri Chastell a geidw y Twrciaid yn y diffaethwch er cynnorthwyo 'r ymdeithyddion rhag yr Arabiaid gwylltion: Ac o herwydd hynny talrsom yno ryw fath o deyrnged, sef triugai [...] darn o Arian o bris dwy geiniog bob darn, dros bob gwr neu fachgen, triugain darn ac un ar bymtheg am bob Camel llwythog a phedwar ar ddeg am bob Mul, yn ol talu o honom hyn o Deyrnged ni ymadawson, ac gwersyllasom drachefn y 19, wrth ffynnon hallt arall.
A nyni yn myned rhagddom oddiyno, gwersyllasom yr 20 fed o Fawrth wrth yr all Gastell 'rhwn a elwir Arris, yn gadwedig hefyd gan y Twrciaid yn y diffaethwch hynny, Ac ymma nid oedd ein Teyrnged ni ond [Page 6] ugain darn o Arian am bob ymdeithydd, a deg darn ar hugain am Gamel. oddiyno bagad o filwyr a'n tywysent ac a'n gwilient i'r trydedd Castell, a [...]lwir Raphael, gan wneuthur o honom ein hir Ymdaith o 24 o Orian, yn y lle hwn a dywedir ymladd o Frenhinoedd Judea, ar Aipht yn fynych au gilydd mewn llawer brwydr, y [...] hyn sydd anhebygol jawn, o herwydd nad oes ymma ddim i ymgynnal Byddinoedd ond Tywod a Dwfr hallt.
Yno y talasom dri darn o Arian dros bob un o'r fforddolion, ac ugain am bob Ani [...]ail, ac yn ol hynny gan ymadel o honom oddiyno, 22 fed ar y boreu, ni ddaethom i Gaza ym Mhalostin, Gwlad dda a ffrwythlon, ac ymma diogelwyd ni oddiwrth y diffaethwch, yn y Drêf hon gwelals y lle (mal y dywedant a tynnodd Sampson i lawr y ddwy Golofn ac a laddodd y Philistiaid; ac yn siccr, mae 'n edrych megis yr un rhyw Drêf, o herwydd cyflead y Wlâd, yno y talasom 22 darn o Arian tr [...]s bob Anifail, a deg tros bob un o'r fforddolion.
Oddiyno ni a aethom i le a elw ir yn ARABAEG, CANNE a BBERSHEBA gan y Crist'noglon, ar Gyffinlau Judea, yno ni thalsom ond dau ddarn o Arian tros bob un o honom a 4 tros bob anifall. Gan ymadel o honom oddiyno y 23 dydd yn y boreu, ni a wersyllasom ar Gae gwyrdd lâs tan Furiau Ramoth yn GILEAD: yno arhosais trwy 'r dydd ac a 'Scrifennais wyth o Lythyrau i Loegr, gyd a'r Carafan neu 'r glud a ddywedpwyd o'r blaen oedd yn myned i Ddamascus i gael i hebrwng oddiyno i Constantinopl, ac oddiyno i Loegr. y dydd nesai sef y 24 dydd o Fawrth, ar y boreuddydd, myfi gyda Christianogion eraill a gychwynasom tu a Chaersalem, a'r Carafan fawr neu 'r Glud a aethant y ffordd tua Damsco, eithr nyni a Wersyllasom yn fyrr y Nos honno mewn lle a elwir Cudechelanib yn Arabaeg 16 o filldiroedd oddiwrth Hebron, lle y mae Beddrod Y Tâd Abraham, a phum Milltir byehain oddiwrth Gaersalem. a ni yn ymadel oddiyno y borau, ddydd Gwyl Fair y Cyhydau yn y Grawys, ac ar naw ar gloch y Boraus gwelais Ddinas Gaersalem, gan syr [...]hio [...]honof ar yngliniau a dywedyd [Page 7] Gweddi 'r Arglwydd, rhoddais glôd a moliant o lwyr ewyllys fy nghalon, am dywys o hono [...] yno, i weled lle mo'r Sanctaid [...] ac Ardderchog am llygaid, am yr hwn darllenaswn mo'r fynych o'r blaen.
A ni yn dyfod tu fewn i hyttir neu ystâd o Dir at y Pyrth, myfi gyda Anghymd [...]ithydd Sion Bunnel a [...]ethom rhagddom dan ganu a moliannu Duw, hyd oni ddaethom ar y Gorllewinol Borth y Ddinas, ac yno arhosassom, canys nid yw yn gyfreithlon i Gri [...]ion fyned i mewn heb gennad, fynghydymmaith a'm cynghorau i ddywedyd mae Groegwr oeddwn, yn unig er mwyn ymwrthod, a myned i wrando Mass. Eithr a fi yn anwybodus yn Jaith y Groeg, a naccaes wneuthur hynny, gan ddywedyd wrth ein mynediad i mewn i'r porth, nas gwadwn i na'm gwlâd, na'm Crefydd. Ar hynny a hwy yn gofyn. pwy oeddem, yna Sion Bunnel (gan atteb yn jaith y Groegîaid) a ddywedai mai Groegiaid oedd efe, a Sais oeddwn innau; hyn a rodd gymeradwyad iddo ef at Batriarch y Groegiaid, eithr myfi a'm daliwyd, ac am carcharwyd, cyn i'm aros cyflawn awr yn y Porth, canys y Twrciaid a ommeddasan [...] yn llwyr, nas clywsant erioed ddim hanes am ein Brenhines na'm gwlad, ac nad oedd hi yn talu dim Teyrnged iddynt hwy, y Pennadur y Gwfaint neu 'r Fynachlog, yr hwn sydd yn noddi yr holl Bererinion Crist'nogol (ar hwn oedd y prif annogwr i'm Carcharu; O herwydd nad oeddwn yn cynnyg fy hunan tan ei nawdd ef, eithr yn hyderus sefyll o honof i fod yn hyttrach tan nawdd y Twre na'r Fâb) a wnaeth y Twrc yn Elyn i mi yn gymmaint ac y tebygent mai Spiwr oeddwn ac felly trwy fodd yn y Byd nis cawn ty rhyddhau o'r Carchar.
Ynawr rhoddwch gennad i adrodd pa fodd y rhyngodd bodd i Dduw, ie ar y dydd hwnnw fy yngwaredu, a chaniatt [...]u i mi fod yn rhydd megis Protestant, heb [...]fuddhau i un Ddefod, ond dwyn o honof ganwyll gŵyr yn unic▪ ymhell tu hwynt i'm disgwyliad, ymma y mae 'n rhaid i mi ddwyn ar gof i chwi, pan oeddwn yn aros yn Ramoth yn Gilead y scrifennais wytho Lythyrau i Loegr gyda 'r Carafan Damasco, a mi yno yn cael od [...]a cymmwys [Page 8] oni a aothym i ffynnon i olchi fy llieiniau budr, a mi yno yn bryssur ynghylch fy ngwaith, yn dd [...]symmwth daeth Mŵr (neu un o'r Bobl dduon) attaf ac a gipiodd fy Nillad o'm dwylo, a chan fy ngalw i wrth fy enw, ebr ei, mi ach cymmorthaf chwi, yn ddiamau 'r oedd hyn yn traw ac yn synnedigaeth i mi glywed y rath ddyn yn galw arnaf wrth fy enw, ac mewn lle mo'r belled [...]ddiwrth fyngheraint, fy ngwlad, am cydnabyddiaeth: ac efe yn deall hyn a lefarodd wrthif yn Jaith y Ffrancod, Pa fodd felly Gap [...]en, yr ydwyf yn gobeithio nad ydych yn anghofio, nid aeth heibio etto ddeugain niwrnod, ar pryd a gosodassant fi ar Dir yn Alexandria, gyda eraill o dramwywyr a ddaethant gyda chwi o Argiers yn eich llong ai henw TROIAN: Ac y mae hefyd yn y Carafan (neu glŷd) un arall yr hwn a ddygasach chwi hefyd gyda ni yr han a fydd llâwen jawn o'ch gweled. Gofynnais iddo a oedd efe yn byw yno, at [...]ebai, nag ydwyf? dywedodd hefyd i fod efe ai Gydymaith yn myned yn y Carafan i Ddamascus, yr hon a'i maent yn ei galw Sham, Ac oddiyno i Baget yr hon yr ydym ni yn ei galw Babilon, ac oddiyno i Meccha i wneuthur Clawdd, canys felly a galwir hwynt wedi bod ym Meccha ac ymhellach, efe a ddywedodd i fod ef yn preswylio yn Ninas Ffesse yn Barbary,
Y Dŷn hwn i'm tyb i a ddanfonodd Duw i'm gwaredu yn fuan o Carchar canys yn ôl i mi ddal sulw arno yn graffus, mi atgofiais weled o honoi ef yn fy llong: er nis dichon un yn hawdd adnabod un Dyn ym mhlith 300, Canys y rhifedi hynny a ddugasswn o Argi [...]rs i'r fan honno, o amryw genedl, sef Twrciaid, Duon, Iddewon, Christinogion. Mi a ddymunais ar y Dyn ymma i mi gael golwg ar ei Gydymmaith; yr hwn a wnaeth ef yn ôl golchi o hono fy Llieiniau, adnabum hwnnw yn y man, y ddau hyn a gyttunasant, ar ymadel un o honynt oddiyno a myned gyda 'r Garafau, ar llall i fyned gyda'm fi i Gaersalem yr hwn oedd y Da a ragddywedpwyd a'r digred hwn a gymmerodd y fath ofal caredig am danaf, ac ni's gadawai yn ddi gydymmaith yn y Wlâd ddieithr hon; yr hyn ni's gallaf lai na'i gyfrif i neillduol ragddarbodaeth [Page 9] Duw, i'm rhyddhau o'r Carchar, oni buassai hyn, fe a'm gadawsai mewn cyflwr truenus,
Pan welodd y Dû ymma fi, yn y modd hyn yn Garcharwr Ynghaersalem a'm Carchar yn union gyferbyn a Bêdd Crist, er wylo o hono, etto go [...]chmynnodd i mi gymmeryd Cyssur ac a aeth at Basha y Ddinas ac at y Sanjack, ger bron pa rai a cymme [...]odd efe ei Lŵ mai Morwr a Phenaeth Llong oeddwn, yr hwn a ddygaswn 250 neu 300 o Dwrciaid a auon i'r Aipht o Argiers a Thunis, a'u hymdaith oedd tua Meccha. Y [...]u hwn o herwydd i fod yn Mussleman (neu wir Gredadyn) a ffynodd yn gymmaint gyda hwynt, hyd oni yrrasant gyd ac efe chw [...]ch o Dwrciaid yn ôl attaf i'r carchar, yno galwodd arnaf i'r Drws, ac y ddywedodd o dawn i Dy y Tâd ymddyffynnydd neu Bennadur y Fynachlog, a gostwng o honof tan ei nawdd ef, ni chymmellid un Crefydd arnaf, ond or eiddo fy hun, oddieithr dwyn o honof ganwyll, a hyn mi a gydgordiais yn Ewyllysgar.
Ac felly a mi yn ta [...]u llog y carchar e'm gwaradwyd yn fuan, ac aethpwyd a mi i Fonachlog y Pennadur, yno daeth efe attaf ac a'm cymmerodd erbyn fy llaw, a bod i mi groesaw, gan ryfeddu pa fodd y cyfeiliornais gymmaint yn erbyn Crist'nogaeth, a gossod fy hun tan nawdd y Twrciaid yn hyttrach na'i nawdd ef: mi ai hattebais ef, gan ddywedyd, peth a wnaethum oedd, mal nad elwn i'r mass, eithr cadw o honof fynghydwy bod i'm fy hun: yno gwrthattebodd efe gan ddywedyd ar i lawer o Saeson fod yno, eithr (a chwi yn Catholiciaid, aent ir Mass, gan ddywedyd wrth y Twrciaid yn ymyl y Pyrth mai Ffrancod oeddent, canys ni's gwyr y Twrciaid, beth ydis yn i feddwl wrth y gair Saeson: A'm cynghori ymmhellach, pan ddelai neb o'm cydwladwyr i fyned ar ymdaith, ar iddynt eu galw eu hunain wrth byrth Caersalem yn Ffrancod neu yn Frutaniaid, ca [...]ys adnabyddus jawn ydyw rhei'ny iddynt.
Hyn neu gyffelyb i hyn oedd yr ymddiddan rhyngom: ymhellach gofynnodd i mi o ba oedran oedd mawrhydi 'n Brenhines, a pha reswm oedd ganddi, na roddai ddim tu [Page 10] ac at gynhaliaeth y Bêdd sanctaidd, mal Brenhinoedd a Thywysogion eraill; a llaweroedd o goeg holiadau eraili; mi a hattebais ef yn ôl yr holiadau.
Ar diwrnod ymma wedi dreulio hyd y cyfnos, Sion Bunnel, 'rhwn a gyfrifwyd megis Groegiad heb aflonyddwch yn y byd, a ddaeth i mewn attom ni, er hynny cyfyngwyd ef i'r Mynachty hwn, os amgen nis cai aros yn y Ddinas, canys dwg y Papistiaid gymmaint o rwysg yno ma [...] nas dichoa Cristion dieithr gael i ollwng i mewn, oni bydd ef tan eu nawdd hwy neu beidio a dyfod i'r Ddinas.
Mr. Bunnel a minneu yn sefyll ynghyntedd y Monach-Tŷ, deuddeg o Fonachod Pascedig a ddeuent allan attom, a chan bob un o honynt Ganwyll gŵyr yn llosgi, a dwy Canwyll dros ben hefyd, un i Mr. Bunnel ar llall i minneu; Monach arall a ddawai ac a ddug Gawg mawr yn llawn o ddwfr claear yn gymmy [...]cedig a rhosynau a blodau aroglbêr eraill, a charpet yn dannedig ar y llawr a chlust [...]gau mewn Cadeiriau gwedi gosod yn drefnus: eithr am danom ni Penceidwad y Fynachlog, fe a'n gossodau ni i lawr, gan roddi canwyll i ai 'n dauoedd, yno y [...]aeth un o'r Mynachod a dynnai 'n hossanau, a chan ossod y cawg ar y carpet neu'r llennlliain a olchai 'n traed, er cynted ac y dechreuodd y Monach olchi, y dauddeg Monach a ddechreuent Ganu, gan barhau felly hyd oni olchwyd ein traed, pan ddarfu hynny, hwy a aethant rhagddynt dan ganu a ninneu 'n dau gyda'r Ymddistynnydd a ddaethom i gappel yn y Monachdy, yno dechreuodd un o honynt Araith mewn dull Pregeth yn tueddu tu a'r perwyl hyn: mo'r haeddedigol oedd i ni ymweled y Tir Sanctaidd, ac i olygu y lleoedd cysegredig hynny, a sathrassai traed ein Jachawdwr. yn ol terfynu o'r bregeth, tywysassant ni i Ystafell ymha le i'r oedd Swpper yn barod; yno ymborthassom yn dra ofnus, o herwydd bod gan fwydydd dieithr, gynneddfau dieithr; er hyn, a nyni, yn gossod ein hyder ar Dduw ac ar y cariad Crist'nogol o ymddangosid i ni oddiallan, a ymborthassom yn llawen, ac a Swppersom yn ddigonol, ac yn ol i ni Ogoneddu Duw, llettywyd [Page 11] ni yn woddaidd, Hyd yn hyn ynghylch ein Croesaw. cyntaf Ynghaersalem, yr hyn a fu y 25 o Fawrth, dydd gwyl fair y cyhydeu yn y Grawys. yn ol hyn yn canlyn pa beth a ddanghosodd y Monachod i mi, y rhai a neilltnodd y Pater Guardian, (neu 'r Tâd ymddyffynnydd, Pennadur y Cwfaint neu 'r perwyl hynny. yn fore y dydd nessaf, a cyfodassom, ac yn ôl cyfarchu o honom y Tad ymddiffynnydd pennadur y Cwfaint, efe a bennododd faith o'r Monachod i fod yn Ddeonglwr i ni, ac yn y modd hynny allan yr aethom i weled yr holl Leoedd Sanctaidd yn y Ddinas, y rhai oedd gymwys i mi eu gweled, oddieithr y rhai oedd yn y Bedd bendigaid, canys hwnnw a ofynnai ddiwrnod cyfan ei hunan, Ac ymhob lle syrthiem i lawr ar ein glinia [...], a dywedem Weddi 'r Arglwydd.
Y lleoedd hynod cyntaf a ddangosodd y Monachod i ni oedd y Farnol Lê. y nessaf at dŷ Veronica Sancta: A mi a ofynais pwy Sanct oedd honno. Attebant mai honno oedd hi, yr hon a sychodd wyneb ein Jachawdwr, mal i'r oedd yn myned heibio yn ei [...]ng. A ni yn myned i wared ymhellach yn yr un heol, dangolassant y ffordd yr aeth ein jachawdwr Crist i'w groeshoelio, a alwyd ganddynt hwy y ffordd Ddolurus. Yn ol hynny ar y llaw ddehau yn yr un heol, dangosswyd i mi Dŷ y Glŵth Cyfoethog, wrth ddrws pa un y gorweddai Lazarus dylawd, difri. A nyni yn dal y ffordd i wared yn yr Heol hon, ni ddaethom i ystumiad, yn yr Heol ar y llaw asswy, yn y fan ym a dywodasant, pan oedd, Simon o Cyrone yn dyfod tu a'r ffordd ddolurus, ar i'r milwyr alw arno, ac ai cymh [...]llasant yn ebrwydd yn [...]rbyn ei ewylly [...], i gymmorth [...]in Jachawdwr i ddwyn ei Groes. yna dywedass [...]nt mai yn yr un fan honno yr wylodd y Bobl, a'n Jachawdwr gan atteb a ddywedodd wrthynt, Merched Caersalem, na wylwch o'm plegid i &c. yn ôl hynny dangoshassant yr Eglwys, ymha le a syr [...]hiodd Mair forwyn mewn ing ac yspryd, pan aeth Crist heibio yn dwyn ei Groes. yna daethant a mi i Lŷs Pilat, yr hwn er i fod yn adf [...]iliedig yn llwyr, etto y mae yno Fwa Maen yr hwn a gynhelir gan y Crist'nogion, a chan i fod ef yn sefyll yn unjawn ar y ffordd, ni a aethom tano; yn ddigon tebyg i'r ffordd tan Dŷ Mr. Hamond [Page 12] yn y Caereu, ond bod bwa yma yn uwch, canys ar y bwa yma y mae rhodfa yr hon sy 'n caniadhau tramwy, (tros ein pennau) o un ystlys yr Heol i'r llall: canys Llŷs Pilat a ymystyn dros yr Heol o'r ddau ystlys, Ac i'r oedd gan Bilat ddwy ffenestr fawr yn y Rhodfa hon, i olygu 'r Heol y ddwy ffordd, megis ac i mae gan Mr Hammond, y llesiant hyn ymmhob un [...]i ddwy ffenestr. I'r Rhodfa hon a dygpwyd ein Jachawdwr, pan ddangossŵyd efe i'r Juddewon, rhai oeddent yn sefyll islaw yn yr Heol, a glywsant y geiriau Exte bomo, Wele yr dŷn. Ychydig oddiwrth y lle ymma y mae troed y Grisiau, y fan y cymmerodd ein Jachawdr ei groes gyntaf. Yno dugassant fi i'r lle a cenedlwyd ac ganwyd Mair Forwyn, yr hon yw Eglwys St Anne, ac nid Eglwys Twrcaidd. Nessaf yn ôl hynny dangosassant y Llynn ymha lo y glanhasai Crist y rhai gwahan glwyfus, ac yno i'm tywysassant i Borth St Stephan, ychydig oddifewn iddo ar y llaw asswy dangosswyd i mi rai o'r Cerrig, a'r rhai y llabuddiwyd St. Stephan. Oddiyna canlyn y grisiau oedd yn myned i fynu i Borth Area, yno y mae llaweroedd o Greiriau iw gweled: Porth Dwyreiniol y Deml oedd ef, 'rhwn a adeilassai Salomon ar fynydd Moriah, ym mha un i roedd Sanctum Sanctorum neu 'r Cyssegr, eithr yn awr adeiladwyd Eglwys fawr jawn, yn perthyn i'r Twrciaid.
Llymma fel y treuliais yr ail ddiwrnod, yr hwn oedd 26 o Fawrth, yng Nghaersalem i gyd oddieithr troi o honof i weled y garreg, a pha un llabyddiwyd St. Stephan. Y dydd nessaf, sef 27 o Fawrth yn ol gwneuthur o honom ein dyledswydd i'r Arglwydd a'r Tâd ymddyffynnydd, pennadur y cwfent, cyflogaswn Assennod ir Monachod ar Deonglwyr, mal y marchogaent, a chan fyned o honom o byrth y Ddinas, ni esgynsom ar ein mulod ac a farchogassom yn union-tu ac at Bythinia. yn ystlys fy ffordd a nyni yn marchogaeth, dangosswyd i ni y fan lle buassai y ffigys [...]ren ddiffrwyth, yr hon a felldithiodd Crist. yn ôl hynny Castell Lazarus yr hwn yr oedd Christ yn ei garu cymmaint, canys ei Dŷ ef neu Gastell oedd ym Mythinia, eithr i'r oedd yn adfeiliedig yn llwyr, a dim o hono i weled onid y ddau Ystlys y Mur, yn yr un Drêf dangosasant Dy Mair Fagdalen wedi amharu yn [Page 13] gymmaint nad oedd Dim yn weledig ond darn o'i Fur, yno gwelais hefyd Dy Fartha yn cynnw ys tri darn o'r Mur, oddiyno hwy a ddaethant a mi at y garreg, ym mha fan mynegodd y ddwy Chwaer wrth Grist, farw o Lazarus, oddiyno a nyni yn myned rhagddom, dangosassant y lle y cyfododd Crist Lazarus o farwolaeth, yn ol gorwedd o hono 3 niwrnod yn y Ddaiar, ar lle ei claddwyd efe yn ol hynny, pan fu efe farw drachefen.
Y lle hwn a gadwyd yn hynod er y dechre [...]ad, ac a ddiwygiwyd yn wastadol gan y Crist'nogion: eithr mewn dull lom a thlawd jawn, A hyn yw'r cwbl oll ar y welais i ym Mythinia. oddiyma ni farchogassom i fynydd yr Olewydd, a chan fyn [...]d trwy Bethphage, hwy a'm dugassant i'r lle a cymmerodd ein Jachawdwr yr Assen a'i llwdn, pan y Marchogai efe i Gaersalem ar ddydd Sul y Blodau. A nyni yn Marchogaeth o Bethphage yn union tua'r Gogledd, ni a ddaethom i droed y Mynydd yr Oliwydd, yn y lle ymma, dangosasant Benedicta, neu'r lle a dug yr Angel gennadwri at y Fair forwyn: a chan ddringo o honom i grib y Mynydd, ni a welsom y lle yr Esgynnodd ein Jachawdwr. Ar olygiad yr hwn nyni a ddywedsom ein Gweddi, ac a Orchmynnwyd i ni hefyd ddywedyd pum Pater Noster, a phum Ave Maria, eithr nyni a ddywedasom Weddi 'r Arglwydd, ac y dd [...]liasom sulw ar y llêd, ac ymmadawsom. y lled hwn ydyw 'r fan uchaf ar y Mynydd, ac oddiyma y canfyddir llaweroedd o leoedd hynod, megis yn gyntaf tua 'r Gorllewin, y mae tre [...]yn ar Gaersalem newydd: Ar y Dohen-Orllewin a gwelid tremyn Mynydd Sion, yr hwn sydd gyssylltedig a Chaersalem newydd: hefyd yn y Dyffryn rhwng Sion a'r Mynydd yr oeddwn yn sefyll arn [...], gwelais y Nant Cedron, a llynn Silo, yr Ardd, ymba le a gweddiodd ein Jachawdwr, a'r lle y bradychwyd ef yn ol hynny, A bagad o bethau hynod eraill yn y Dyffryn hwn a elwir Gethsemane, megis Maen fêdd Absalom fâb Dafydd, Maenfêdd Jehosophat ag eraill rhai a grybwyllaf am danynt pan ddelwyf attynt.
Yn union tu a'r Deheu oddiwrth Fynydd yr Olewydd, ni allem ga [...]fod y lleoedd, daethom ddiweddaf o honynt, [Page 14] megis holl B [...]thinia Bethphage. hefyd tu a'r dwyrain-ogleddddwyrain, a gwelyd, yr afon Jorddonen, yr hon sydd 15 Miltir oddiyma, A Jericho 'r hon nid ydyw ymhell, o herwydd i bod hi tu a'r gorllewin oddiwrth yr Jorddonen.
O Fynydd yr Olewydd, tu a'r Dwyrain, a'r ddwyrain dd [...]heu ddwyrain, canfyddir Llyn Sodom a Gomorah, yr hon sydd rhyw gan Milltir o hyd, a deunaw o lêd: mi osodais yr holl leoedd hyn m [...]wn 'Scrifen wrth gwmpas pan oeddwn ar fynydd yr Olewydd, cany [...] yr araosais ar grib y Mynydd ryw ddwy awr a hanner, a chyda mi gwmpas bychan. A nyni yn descyn oddiyno tua throed y mynydd tua 'r Gorllewin, ni a ddaethom i Le, ym mha fan a mynegodd y Monachôd, ar i fenyw a'i henw Pelagia, ddwyn ei phenyd mewn gwisgad gwryw, a mi yn gwenu a'r hynny hwy a ofynasant, pa ham yr oeddwn yn gwenu, mi a'u hattebais, nad oedd yn [...]y nghredo i feddwl fod Pelagia'n Santes, mynegassant i mi, pan y deuwn i'm llet [...]y yn yr hwyr, y dangossent i mi awdwyr bodlonol am hynny. Eithr pan awn i'm Llet [...]y, 'roedd gymmaint i'w wneuthur gennyf fi yn 'Scrifennu nodau o'm Llyfr, hyd nad oedd mo'r odfa gennyf i Edrych eu hawdwyr, ynghylch St. Pelagia. Yn y cyfamser hyn hwy ddaethant a ni i fan, lle rhagddywedodd ein Jachawdwr y farn, yn ol hynny y lle gwnaeth efe y Pader, neu 'r Weddi yr Arglwydd, ac yn ol hynny lle y gwnaeth yr Apostolion y Credo. oddiyno daethom i'r lle yr wylodd Crist oblegid Caersalem, ac oddiyno i'r fan y rhodd Mair forwyn wregys i St. Thoma [...]; ac oddiyno i'r lle, y gweddiodd hi tros St Stephan: yr holl bethau diweddaf ymma a ddangoswyd a nyni 'n dyfod i wared o Fynydd yr Olewydd: tua dyffryn Gethseman [...], ac yno ar ein hynt, ni a ddaethom i Eglwys Fair forwyn, ymha le y mae ei Boddrod hi, a beddrod ei gwr hi Joseph, gyda beddrod Anna, a bagad eraill yn yr Eglwys honno, y mae 'r Eglwys hon yn fefyll wrth droed Mynydd yr Olewydd. ac ai liadeilassid gan Elen meddant hwy fam Cwstenyn Fawr.
Ymma y Monachod a aethant at Fedd y Fair forwyn, ac yno darllenalant naill a'i Mash neu ryw Weddiau eraill, tra buom ni yn ciniawa. Yn yr Eglwys hon [...] mae ffynnon o [Page 15] ddwfr gloyw j [...]wn, ac o herwydd i ni fyned i wared i Ogof tan y ddaiar, lle i clywir Diaspaid neu Adsain anghynefin, oddiymma ni a aethom i ogof, o ba un y daethai Suddas i fradychu Crist pan yr oedd ef yn gweddio, ac oddiyno i'r Ardd lle y gadawsai 'n Jachawdwr ei Ddisgyblion, gan orchymmyn o hono ar iddynt wylo a gwedddio, eithr ar ei ymchweliad, efe a'i cafodd hwynt yn cyscu: yn ôl hynny daethant a mi i'r Ardd ym mha le y daliwyd Crist, y tri diweddat hyn oeddent yn nyffryn Gethsemania. A mi yn marchodaeth i'r Drêf o'r un enw a'r dyffryn, fef, Gethsemania, ag y llaw asswy, gwelais y rhagddywededig Feddau Absolom a Jehosephat, ac ar Llaw ddeheu y Nanr cedron, yn yr hon nid oedd dim Dwfr ar y cyfamfer hwnnw, canys yn wir, nid ydyw onid megis ffôs i drosglwyddo 'r dwfr i Fynydd yr Olewydd a mynydd Sion, pan y glawio hi yn aml. A'r ffôs neu'r nant ym maesydd yn y dyffryn rhwng y ddau fynydd yn agos at y nant Cedron, dangosassant i mi Garreg yn nodedig a thraed a phen Eliniau Crist wrth ei wthio ef i lawr pan y daliwyd, ac yn ôl hynny fyth y mae 'r lluniau ar arwyddion yn sefyll arni.
Oddiyno marchogasson i'r lle yr ymguddiodd St Jago yn jeuaf, ac yn ôl hynny efe a gladdwyd yno: yno hefyd dangosassant y lle y claddwyd Zachariah, mâb Barachiah, ac yn ôl hynny daethant a nn i le arall, yn yr hwn arferai Mair forwyn yn fynych weddio, yna daethom i Lynn Silao, ym mha un Mr. Bunnel a minnai a ymolchassom ein huna [...]n, ae oddiyma dangosswyd y lle y llifiwyd y Prophwyd Esai yn ddarnau: oddiyno tywysassant ni i ffynnon ddofn jawn, ym mha fan (meddant) y cuddiodd yr Iddewon y tân cyssygredig yn amser Nebuchadonozor; ymma esgynnassom o'r Dyffrvn i ystlus y Bryn, yr hwn sydd yn sefyll yn uniawn tua 'r Dehau oddiwrth fynydd Sion; eithr y mae Dyffryn helaeth rhyngddynt a elwir Gehemian, ac yno dangosassant y lle yr ymguddiodd yr Apostolion eu hunain, sef, Ogof mewn Craig. A chan esgyn yn uwch oddiyno, daethant a mi i Faes, neu yn hyttrach a allid i alw yn Graig, lle mae 'r fan cyffredin i gladdu dieithriaid, a'r un lle ydyw (meddant hwy) ac y brynnwyd ar dêg darn a'r hugain o Arian, y [Page 16] rhai a dderbynnasai Suddas, megis gwerth ei Feistir, yr hwn le a elwir Aceldam [...] a'i lun a'i osgedd ydyw mal i mae 'n canlyn. Mae i'r lle hwn dri o dyllau oddiarno, ac ar yr ystlys i mae agoriad i gael gwynt, yn y tyllau oddiarno a gollyngir i lawr y Cyrph meirw tua'r dyfnder ddeg troedfedd a deugain. Yn y lle ymma gwelais ddau Gorph a ollyngasid i lawr yn ddiweddar jawn, a mi yn edrych tu ag i wared, (canys o herwydd oddiarno, y lle y gorweddai y Cyrph oedd yn oleu jawn) derbyniais fath ddrygsawr i'm pen yr hyn a'm gwnaeth yn glâf jawn, yn gymmaint ac bu yn dda gennyf iddeityf ar y Monachod, nad aent ymhellach, eithr ymchwelyd o honynt i'r Ddinas.
Yn ôl hynny ni a ddaethom trwy Ddyffryn Gehemion, ac wrth droed Mynydd Sion, (a chan fod gyd a'm fi Gostrel a dwfr o Lynn Silo,) mi a'i hyfais, ac a orphwysais yno tros ennyd awr gan fwyta ychydig o Raisins a Crawn yr Oliwydden, y rhai a ddugassam gyda ni o Gaersalem y bore hwnnw. Y [...] ôl gorphwys o honof a dadflino fy hun, ni ddechreusom esgyn i Fynydd Sion, ac ychydig i fynu i'r Bryn, dangosswyd y lle yr ymwadodd Peder Grist, a phan glywodd efe y Ceiliog yn canu, efe aeth allan ac a wylodd yn chwerw dôst. A nyni yn esgyn yn uwch dangosswyd tŷ, Annedd Mair forwyn, yr hwn oedd yn agos at y Deml: yno i'm dugassant i'r lle a dugwyd ymmaith y Fendigaid Mair forwyn trwy wrt [...]iau pan oeddid yn ceisio ei dal hi. Oddiyno ni a aethom i Dŷ Caiaphas, yr hwn oedd y [...]hydig yn uwch ar fynydd Sion, ac yno gwelais y Carchar lle caeth [...]wyd ein Jachawdwr. Can fyned rhagddom yn uwch cyfarwyddwyd fi i Gappel bychan, yr hwn a gedwir gan yr Armi [...]iaid, A ny [...]i yn myned i mewn, dangoswyd i mi wrth yr Allor y Garre [...] a ossodwyd ar Fèdd ein Jachawdwr (fel y dywedant hwy) y mae hi yn agos at y lle yr ymwadodd Peder Crist; canys yno dangolasant y Colofn lle 'r oedd y C [...]liog yn sefyll arno▪ pan y canodd oddi yma fe a'm dygwyd i'r lle yr Arlwyodd ein Jachawdwr ei Swpper diweddaf▪ ac oddiyno daethom i'r lle, yr esgynasai yr Yspryd glàn ar yr Apostolion: a ni yn myned rhagddom oddiyno, [...]ngosasant y lle yr ymddangosodd Crist [...]'w Ddisgyblion ar [Page 17] yr wythfed dydd yn ôl ei adgyfodiad, ym mha le dymunodd St. Thomas weled ei archollion ef
Yn agos at y lle hwn ar Fynydd Sion, y bu farw y Fair forwyn, a cher llaw dangosant y lle a brynodd y Pâb gan y Twrciaid, [...]r mwyn claddu Crist'nogîon Europia. o herwydd ni fynnai fod i taflu hwynt i Aceldania: dywedasant y flwyddyn o'r blaen gladdu pump o Saeson yno, yr hyn oedd ryfedd jawn i ni oddigerth i'r Monachod hynny eu Gwenwyno, o herwydd iddynt feirw i gyd yn yr un Wythnos.
Oddiyno daethom i Dŷ Annas yr Arch-offeîriad, yr hwn nid ydyw 'rwan ond dau hên bared, a dim arall i wele [...] o hono, wrth ystlys un o honynt y mae hên Olewydden, wrth ba un y rhwymwyd [meddant hwy Ein Jachawdwr.] A ni yn gofyn rheswm oblegid hynny, dywedassant, fod Annas yn huno, pan ddygpwyd yr Jesu iw Dŷ ef, ac nis dihunent ef, Ac yn y modd hynny yn y cyfamser o'u hymaros i rhwymassant ef wrth yr Olewydden honno, A phan y dihunodd Annas, dygpwyd ef i mewn ac a holwyd: A ni yn ymadel oddiyno tu ac at y Porth Deheu i'r Ddinas, yr hwn sydd hefyd yn sefyll ar Fynydd Sion, ni a ddesgynasom oddi ar ein Hasennod, a chan fyned i mewn, mi a'i nodais yn fy Llyfr, canys gwelsom dair o'r Pedair porth', A mi yn chwennych gweled hefyd y Porth Gogledd ir Ddinas, hwynt hwy a dda [...]thant a mi i Eglwys St Thomas, yr hon sydd tu fewn i'r Mur, i gyd yn amharus oddiyno i Eglwys St. Mark, i ba le daeth St. Pedr, pan ryddhawyd ef o'r Garchar gan Angel, yr hwn a wthiodd y Porth yn agored. Yna dangosasant Dŷ Zebedeus, oddiyno daethom i le cadwedig gan yr Abassines, Ac yno gan esgyn o' honom ar y dechreu trwy ffordd dywyll, a'n harwain a llinyn ni gyrhaeddasom lle uchel gerllaw Sepulh [...]ra Sancta neu 'r Bêdd bendigaid, yno talais ddau ddarn o Arian, er myned i mewn, a phan yr aethom i mewn, gofynnais pa le ydoedd, yr un rhyw le ydyw, (ebr hwy,) a mynnai Abraham Offrymmu ei Fâb Isaac. Yna 'r aethom i'r carchar ym mha un y Carcharwyd St. Pedr a St. Joan, yr hwn oedd y Drŵs nessaf i'r Carchar, y buasswn i ynddo o'r blaen [Page 18] yr hyn a'm gwnaeth yn salwach, o herwydd nad oeddwn mo'r ddedwydd a myned idd [...], a minau mo'r agos atto, oddiyno ni aethom at y Porth Gogleddol, yr hwn oedd ar ystlys Myn ydd Calvary, yn ol edrych o honom yn graffus ar y Porth, ai bod yn hwyrhau, ni aethom yn union i'n Llettŷ: A hyn oedd ein gwaith y trydydd Diwrnod oddifewn ac o amgylch Caersalem, nid ychydig flinderus o herwydd descyn o honom mo'r fynych i weddio: canys ymhob lle a grybwyllwyd o'r blaen, ni ddisgynasom ac a ddywedasom Weddi yr Arglwydd ar ein gliniau.
Y Dydd nesaf sef yr 28, ar y boreuddydd ni gymmerasom ein Hassennod, ac a farcho [...]asom trwy 'r Gorllewinol Borth, trwy ba un yr aethom ar y cyntaf, a chan fyned o honom tua'r Dehau, ni a ymadawson Fynydd Sion ar y llaw Asswy wrth droed yr hwn dangosasant Dŷ Uriab, a'r Ffynnon lle yr ymolchai Bethsheba ei hunan, pan y ca [...]fyddai y Brenin Dafydd hi o'i Dyrrau. oddiyno yr aethom i'r lle y cymmerodd yr Angel Habaca [...] erbyn gwallt ei ben, i ddwyn lluniaeth i Ddaniel yn ffau y llewod. nesaf yn ôl hynny ni ddaethom i r lle a cafodd y gwyr Doethion y Seren, pan y collasam eu golwg arni, ac yno, lle y gorphwysodd Mair forwyn tan bren, mal ir oedd hi yn dy [...]od o Bethlehem i Gaersalem, yr hwn eu maent yn wastadol yn ei adnewyddu, gan blannu pren wrth yr hên wreiddiau, oddiyma Marchogasom i Dŷ Elias y Prophwyd, yno dangosswyd y lle arferedig ganddo i gyscu ai Dy êf yn sefyll felly ar y Bryn mal y gwelem oddiyne Bethlehem ym mhell oddiwrthym.
Oddiyno ni aethom at hên Dŷ amharus, yr hwn a ddywedasant mai eiddo Jacob oedd ef: Yr hyn a ymddengys yn eglurach i fod felly. canys yn y maes sy yn gyffiniol a hwnnw y mae Bêdd Rachel, gwraig Jacob: ac ynghylch Dwy filldir oddiwrth y Bêdd hwn, yn yr un Maes y mae Tref ai henw Batesula y Trigolion yno ydynt Grist'nogion i gyd; yn y Maes helaeth hwn, [rhwng Caersalem a Bethlehem) a bu gwersyllfa Senacheri [...] pan amgylchynassai Gaersalem. Oddiyma Marchogaslom i'r Maes. lle y dygasai yr Angylion Newyddion da o lawenydd mawr i'r Bugeiliaid, yr hwn sydd ddwy filldir oddiwrth Fethlehem, ac oddiyno [Page 19] ni a Farchogasom i Fethlehem i'r Monachty yno, yn yr hwn i'r oedd deg o Fonachod, y rhai a'm Croeshawsant yn twyn jawn, ac a'm dygassant yn gyntaf i Eglwys fawr, ac oddiyno i gyntedd helaeth, ym mha fan y gwelais enw Mr. Hugh Stapers wedi osod ddwy waith, un uwch ben y llall, a rhwng y ddau gosodais inneu fy enw. yno i'm tywyshasant i wared i'r grihau i ogof, ym mha le 'r adeiladwyd Cappel er Natalig ein Jachawdwr, yn cynnwys efe, yn gystal a'r Preseb a gosodwyd em Jachawdwr ynddo, ac hefyd y lle yr Anrhegwyd ef a rhoddion gan y Doethion. goruwch y Capel hwn i mae Eglwys helaeth, a adeiladwyd gan y Frenhines Helen Fam Cystenyn fawr, (meddant hwy heb law hyn gwelais yno amryw Faenfeddau gwyr Sanctaidd, ac eraill yn ol i mi fyned i fynu i ben y Tŷ, mi a welais enw Mr. Hugh Stapers yn Ysgythredig eilchwaith ar y llen Blymmaidd yno, yr hyn a wnaeth i mi chwilio yn fanolach am enwau eraill o'r Saeson, eithr pan ni chawswn un, mi a gerfiais fy henw ac a ddaethum ymmaith: yna 'r aethom i mewn ac a Ginhiawsom gyda 'r Monachod. Yn ôl ciniawa o honom, hwy a'm dygassant i'r lle yr ymguddiodd Mair pan fynnid ei llâdd ar Plant [...]ychain.
Ac yn ôl hynny gan gymmeryd ein cennad o Bethlehem, a rhoddi i'r Monachod dri darn o Aur, am ein Ciniaw, a'm Cymdeithion, y rhai oeddy [...]t wyth o rifedi, ni esgynasom oddiar ein Assennau, ac a farchogasom at y Ffynnon, lle y cyrchasai tri Thywysog [...]afydd ddwfr iddo trwy ganol [...]u y Philistiaid; yr hon sydd yn sefyll [...]chydig odd [...]wrth Bethlehem tua Chaersalem, ac y mae i hon dri o Leoedd i dynnu dwr. oddiyma yr a ethom ar frys yn ôl i Gaersalem, gan fyned o honom i'r Porth ar bedwar o'r Glôc [...] yn ôl hanner dydd, ac ar bump gollyngodd y Twrciaid ni i mewn i'r Sepulchra Sancta, sef y Bêdd bendigaid [...]an dalu pob un o honom [...]aw darn o Aur ar ein dyfodiad ni i mewn. cyn gynted yr aethom ni i mewn, hwy a gloesant y Pyrth, felly yno ni a arosafom hyd 11 ar gloch tran [...]oeth▪ ac yn ôl hynny ni ddaethom allan: yn awr y canlyn pa beth a welais yn Sepulchra Sansta, yn gyntaf mi ddaliais sulw ar gant (o leiaf) o linynau a thannau yn dibynnu oddiallan i'r [Page 20] Porth, ac yn y Porth y mae twll helaeth mal y dichon Plentyn yn h [...]wdd ymystyn i mewn, a mi yn gofyn rheswm am hyn, attebasant, niai 'r twll y wnaed er rhoddi lluniaeth i mewn i'r rhai sydd yn gorwedd oddifewn yn yr Eglwys, y rhai ydynt oddiar 300 o Bobl, Gwyr a Gwragedd. Cristnogion i gyd, ac yno maent yn Bucheddu yn wastadol Nôs a dydd, ac ni's cant [...]ynediad allan na dyfodiad i mewn, oddieithr agor or Twrciaid y Porth i ryw Bererin; yr hyn ni ddigwydd weithiau mewn 14 o ddyddiau: Ac oblegid hynny y li [...]ttywyr Crist'nogol ymma yn yr Eglwys ydynt a'u holl deul [...] gyda hwynt, a'u Bythod llettyfon hwy a adeiladwyd o Ynyllod, y llinynnau yn dibynnu wrth y Porth, oeddynt wedi siccrhau wrth glychau y llettyfon; a phan ddel eu gweision, y rhai ydynt oddiallan a lluniaeth iddynt, pob un o honynt o'r nailldu a ganant y glôch a fyddo yn perthyn iw Deulu ef, a hwynt hwy oddi [...]ewn a adwaenant bob un ei Glôch ei hun, ac a ddeuent yn ôl hynny i dderbyn eu lluniae.n. Mi a hyspysaf bob rhyw o Grist'nogion ar a wela [...]s yn yr Eglwys mewn trefn. Yn gyntaf y Rhufeiniaid, canys hwynt hwy a gynhaliant y Rheolaeth mwyaf ô honynt eu gyd, yn ail, y Groegiaid, canys hwynt hwy yw 'r nessaf mewn rhifedi, er nad ydynt fawr amgena [...]h na chaethwerhon i'r Tyrciaid. Yn drydedd yr Arminiaid, rhai a fuasse [...]t yn hir o amser yn weision i'r Twrc, gan anghofio o honynt eu Hiaith eu hunain, arferant eu holl ddefodau yn Jaith Arabaeg, ac yn yr Jaith honno a clywais i hwynt yn bedwaredd, y Nestoriaid, rhai ydynt gaeth weision i'r Twrc, ac nid oes un jaith arall ganddynt, ond yr Arabaeg, yn bummed, Abassiniaid, sef Pobl o Wlâd Prester John, yn chweched, Jacobiniaid, rhai ydynt Gristnogion Enwaededig, yn gaeth Weision hefyd i'r Twrc yr holl rai hyn, [Crist'nogion mewn enw) a brynnassant gan y Twrc eu hamryw Leoedd yn yr Eglwys, ae ystafellodd eraill er mwyn, eu gorweddfa, gan nad ydyw y chwe rhyw lai na 250 neu dri c [...]ant yn wastadol yn gorwedd yno, ac yn Gweddio yn ol eu harier.
Y lleoedd i maent yn gyffredinol yn arfer i fyned a dywedyd eu haddunedau ydynt llun ymma mal y mynegaf, [Page 21] ac megis a dygodd y Monachod Rhufeiniaidd ni attynt (1) yn gyntaf y Golofn wrth ba un y fflangellwyd Ein Hiachawdwr. (2) Y lle y carcharwyd ef, tra buont yn paratoi neu wneuthur y Groes. (3) Lle yr rhannodd y Milwyr ei Ddillad ef. (4) y lle y cafodd y Frenhines Helen y Groes, yr hwn sydd wrth droed Mynydd Calfari, ac yn agos at hwnnw i mae Cappel y Frenhines Helen. (5) y lle y coronwyd Chtist a Choron o Ddrain, yr hwn ni chawn weled hyd onis rhoddais i'r Abissiniaid, y rhai oeddent geidwaid ar y lle, ddau ddarn o Arian, (6) y lle y gossodwyd y Groes o hyd ar y llawr, ac a hoehwyd Ein Jachawdwr wrthi. (7) y lle a'r ben brynn Calfari ym mha fan gosodwyd y Groes pan ddioddefodd ef, (8) y Graig a rwygodd pan Groeshoeliwyd ef, y peth hyn sydd gymmwys i ddal sulw arno yn Fanol, canys holltwyd hi, megis ped fuassid yn ei hagor a Gyrdd a chynion oi phen ucha yn agos hyd y gwaelod, trwy ei chano [...], yr hollt sy cyn lletted mewn rhai mannau, fel y gallo gwr ymguddio ynddo, eithr y mae yn mynêd yn gulach tu ac i wared (9) y lle 'r Eneiniodd y tair Mair o Grist yn ol iddo fârw, (10) y lle yr ymddangosodd efe i Fair Fagdalen mewn dull Garddwr, ac yn ol hynny y Bedd, yr hwn ydyw 'r lle diweddaf yr arferent Weddio. oddiyno ni aethom i weled Bedd feini Baldwyn a Godffrey, o Bullen Brenhinoedd Caersalem.
A mi yn dychwelyd at y Bêdd, mesurais y cyfrwng ne [...] pellder rhwng lle a lle, gan dreulio fy amser, o bump ac gloch Brydnhawn y daethwn i mewn hyd 11 ar Gloch y Dydd nesaf, pryd y daethwn allan. gan yscrifennu o honof bob peth ac y dybiwn i fod yn gymmwys i ddalsulw arno. Mr. John Bunnel fy nghyfaill a minnau, yn dy [...]od yn y modd ymma o'r Eglwys, ni aethom at Bennadur y Cwfent i Giniawa, yno clywsom newyddion ddyfod o Bump, o Saeson eraill at Byrth y Ddinas ar eu hymdaith i Aleppo, eu henwau oedd Cwilym Bedl yr hwn oedd Bregethwr i Farsiandwyr Lloegr, y rhai oeddynt yn byw yn Aleppo, Edward Abbot gwasanaethydd i'r Ardderchog Sr Sion Spencer. Jeffrey Cerby gwas i'r Ardderchog, P. [Page 22] Banning a goruchwylwyr trostynt yn Aleppo: y Gwyr jeuaingc eraill o [...], naill oedd Sion Elkins, a Jasper Timm [...]: A'r pump ymma pan glywsant ein bod ni yno, a ddaethant i gyd i'r Tŷ: A rhai hŷn [er na welsant fi yn y Garchar, ac nad oeddent gyda mi yn gweled y pethau tu fewn ac o amgylch Caersalem, a allant dystiolaethu y pethau a hyspysais iddynt wrth y Pyrth, a thystio ŷ gwirioneddau eraill heb law hynny. y Gwyr ymma, ac hefyd fynghyfaill Sion Bunnel a adawais i yn ol, yng-Haersalem. Gan ymadaw o honof oddiyno i weled lleôedd eraill yn Nhir Palestine. Eithr cenhadwch i mi yn gyntaf i fynegu i chwi, pa beth a ddaliais sulw arno yngosodiad y Ddinas o herwydd perwyl i mi gredu, cyn dyfod o honof i'w gweled, i bod hi yn gwbwl adfeiledig, neu syrthio o honi yn liŵch, er hynny, pan i gwelais hi, cefais hi mewn gwedd arall, a chan fod gennyf gwmpas bychan▪ mi a gylleais y lleoedd mal y gallwn ddyfod yn agos atti.
Gwybyddoch yn gyntaf fod Sylfaeniad Canol yr hên Ddinas ar fynydd Sion a Mynydd Mariah, ar y Gogledd ô hom i'r oedd Mynydd Calfari allan o Byrth yr hên Ddinas ynghylch ergyd carreg, a dim yn ychwaneg, eithr yn awr mi a gefais y Ddinas newydd yn gyfleuedig mo'r belled tua 'r Gogledd, hyd onid ŷw yn agos yn gwbl ymmaith o fynydd Sion, ac etto ni adawodd hi yn llwyr Fynydd Moriah, yr hwn oedd rhwng Mynydd Sion, a Mynydd Galfari, ac felly yn ddiammau, y cyfleir Muriau o'r Deheu 'r Ddinas ar droed Gogledd Mynydd Sion, Y Mur y dwyrain, yr hon sydd ar gyfair Mynydd yr Olewydd, y ddarn o'r hên Fur, ac felly o'r gongl Dehau ddwyrain. tua 'r Gogledd, pedwaredd rhan o f [...]illdir tua chefn Mynydd Calvary, ac yn y modd hynny, cefais Fynydd Calvary, yr hwn oedd gynt ergyd carreg allan o'r Ddinas, ar lle pennodedi g i'r arferol ddihenydd, yn awr yngh [...]nol y Ddinas, nid yw Mynydd Calvary mo'r uchel, mal y gallid ei galw hi yn Fynydd, eithr yn hyttrach Craig Bicca, canys dabais sulw yn fanol ar ei chyflead ni, yn gystal pan i'r oeddwn ar ei chribin hi, a phan ddaethum at y Bêdd, yr hwn oedd 173 [Page 23] troedfedd oddiwrth droed y Mynydd megis ac y M [...]surais i ef, Ac oblegid hynny yr ydwyf yn cyfrif fod lle Claddedigaeth yr hwn a gloddiodd Joseph o Arimathea îddo ei hun, yn 173 troedfedd oddiwrth Mynydd Calvary tua 'r Gorllewin, ym mhale i mae Bêdd ein Jachawdwr. Y Bêdd ei hun ydyw ddwy droedfedd a hanner o uchder oddiar y llawr, wyth droedfedd o hyd, a phedair troedfedd o lêd namyn tair Modfedd yn gauedig, a liêch neu Garreg wenn dêg ei lliw, uwch ben y Bedd adeiladwyd Cappel a'i fur tu a'r Gogledd yn gyssylltied [...]g ac Ystlys Gogleddol y Bêdd, a'r Cappel fydd o'r cyffelyb Gerrig a'r Bêdd, ac yn cynnwys pymtheg troedfedd o lêd, pum troedfodd ar hugam o hyd, ac yn ychwaneg na deugain Troedfedd o uwchder. Yn y Cappel hwn y llosgir yn wastadol deg ar hugain neu ddeugain o Lampau; eithr ar ddyddi [...]u gwylion ragor: rhain a gynhalir ar draul rhoddion a roddau Crist'nogion ar eu Marwolaeth yn Hispaen, Fflorenc, a lleodd Pabyddaidd eraill, a'i cynnal hwynt i losgi yn wa [...]tadol, ar gwyr hael ac sydd yn rhoddi rhain; sydd au henwau yn Gerfiedig o amgylch eu ymylon ucha mewn Llythyrenau o Aur yn sefyll mewn Cylch o Aur neu Arian, cynhwysir y Cappel ac Eglwys, ac etto nid hwnnw yn unig, eithr cynhwysir gyda hwnnw yr holl Leoedd Sanctaidd a rhagenwyd, sef, lle y Fflangellwyd Crist, lle a Carcharwyd ef, lle rhannwyd ei Ddillad: lle cafwyd y Groes, lle coronwyd efe a Drain, lle a hoeliwyd wrth y Croes, lle 'r oedd y Groes yn se [...]yll pan y dioddefodd, lle rhwygodd llen y Deml: lle yr Eneiniodd y Fair Mair ef, lle yr ymddangosodd i Fair Fagdalen, Ac yn fyrr, yr holl bethau hynodaf, naill ac o amgylch Mynydd Calvary, neu o amgylch Maes Joseph o Arimathea a gynhwyswyd tu fewn i amgylchiad yr Eglwys yma, yr hon a adeiladwyd gan Helen Fam Cystenyn fawr, hi oedd (megis ac y darllenais mewn rhyw Awdwyr) Frittwn a Merch Brenin Coel, yr hwn a adeiladodd Colchester, y hyn pan honnais iddynt, hwy ai gwadasant. Myfi a fesurais yr Eglwys hon oddifewn ac y cyfrifais hi yn 422 o Wrydau oi hamgylch, cefais un ochor iddi hefyd yn 130 o Wrydau, A hyn yma [Page 24] ynghylch Mynydd Calvary, yr hwn sydd yn awr ynghanol y Ddinas. o'r gongl ogledd-ddwyrain y Ddinas hyd at yr Ogledd-orllewin ydyw 'r hyd lleiaf o'r Ddinas, ac o'r Gongl-ogledd-Orllewin trwy 'r Deheu orllewin, ydyw cyn belled ac ydyw 'r Deheu ddwyrain i'r Ogledd ddwyrain. eithr o'r Dehau orllewin i'r Deheu-ddwyrain, sef y Mur Deheu, yr hon sydd yn sefyll ar droed Mynydd Sion, myfi a'i Mesurais ac ai cafai [...] yn 3775 o droedfeddi, yr hyn sydd dri chwarter Milltir.
Ar yr ystlys deheu hon o'r Ddinas, i mae porth mawr o haiarn, ac o amgylch porth i mae 17 o fangnelau rhyfel, neu Ganonau o Efydd. y mae 'r Porth yma gymmaint o faint ar Porth Orllewin o Dŵr Llundain, ac yn gadarn ragorol, ar muriau yn dra thrwchus ac ar yr ochor ddehau 50 neu 60 troedfedd o uwchder hyd yn hyn ynghylch y Mur ar ystlys ddeheu y Ddinas. nid yw y Mur Gogleddol yn gwbl gymmaint uchder. Eithr yn gadarnach o lawer, canys goresgynnwyd hi yn fynych. Du 'r ochor Gogledd, eithr ar yr ochor ddehau ni oresgynnwyd erioed: ar yr ochor ddwyreiniol i mae hi yn anorchfygol, oblegid Serthrwydd llymder y brynn y mae 'n sofyll arno, yr hwn sydd bumwaith yn uwch na'r Mur. Ar yr ochor Gogleddol i mae 35 o Ganons o Efydd yn agos i'r Porth, yr hwn sydd o haiarn h [...]fyd, eithr pa gyfrif sydd mewn lleoedd eraill sef yn y Cornelau yr Conglau, ni allwn weled, ac i ymofyn ni feiddiwn. Ar y mur Dwyreiniol, yn cynnwys y porth lle llabuddiwyd St Stephan ychydig oddiallan iddi ac a elwir hyd y dydd heddyw Porth St Stephan, ni welais ond pump o Ganons, Ac i'r oeddent rhwng y Porth a charneddau Porth Aurea, yr hwn sydd tua 'r Dehau. Am y Gorllewinol ochor y Ddina [...], trwy Borth pa un yr aethwn i mewn ar y cyntaf, y mae yn dra chadarn hefyd, ac i mae iddi 15 o Ganons yn agos at i gilydd o efydd i gyd, y porth hwn hefyd a wnaed o Haiarn, ac y mae 'r Mur yma yn y Gorllewin cyhyd yn llwyr a mur y Dwyrain, eithr y mae 'n sefyll ar y tir uchaf; canys a chwychwi yn dyfod o'r Gorllewin i Fur y Gorllewin, ni ellwch weled dim oddifewn i'r ddinas onid y Mur yn unig, eithr ar fynydd [Page 25] yr Olewydd, a chwi yn dyfod tua 'r Ddinas o'r Dwyrain, i mae gennych lawn olwg ar y ddinas, o herwydd bod y Ddinas yn sefyll ar fin y brynn. i ddiweddu y Ddinas Gaersalem yma, ydyw 'r cadarnaf o'r holl Ddinasoedd ar y welais etto yn fy Nhaith er pryd yr ymadawa [...]s a Grand Cairo: eithr y parthau eraill o'r Wlad, a orchfygir yn hawdd jawn, etto yn Ninas Gaersalem y mae tri o Gristnogion am un Twrc, a bagad yn y Wlad o amgylch, eithr y maent yn byw i gyd yn Dlawd tan Lywodraeth y Twrc.
Y pethau a ganlyn gan ein hymdeithydd, ydyw cymmaru o hono y Trefydd a lleoedd o amgylch. Llundain a'r trefydd a'r lleoedd sydd o amgylch Caersalem, gan bennodi o hono y Ddinas Llundain yn lle Caersalem, a'r Trefydd, Lleoedd, a'r Afonydd cyn belled oddiwrth Gaersalem ac y mae Trefydd, Lleoedd ac Afonydd, y rhai y mae ef yn eu henwi oddiwrth Llundain, megis Bethlehem, yr hon sydd oddiwrth Caersalem, cyn belied ac y mae Wansworth oddiwrth Lundain. Hynny yw pum Milltir. Gwâstadedd Mamr [...] megis Guilfford oddiwrth Lundain 25 Milltir, yn agos at hynny y mae Dînas Hebron, lle y claddwyd y Tâd Abraham. Beersheba sy megis Alton o Lundain 39 Milltir. Ramoth Gilead o belldra Reading o Lundain 32 Milltir. Gaza yn y Deheu Orllewin i Palestine megis Salisbury oddiwrth Lundain 70 Milltir, Ascalon sy o'r Dwyrain Ogledd i Gaza. Joppa megis Alisbury oddiwrth Lundain▪ 34 Milltir. Samaria megis Royston oddiwrth Lundain 33 Milltir, Dinas Nazareth megis Norwich o Lundain 91 Milltir. o Nazareth i Fynydd Tabor a Hermon y mae 5 Milltir i'r Gogledd-Ddwyrain. Mynydd Sinai sy yngogledd Ddwyrain daith deng Niwrnod ôddiwrth Gaersalem, ni welais i mo rai o'r mannau yma, eithr y Pum Sais rhagddywedig a rodd i mi y cyfri hyn, i ba rai mi a roddais finai gyfri o'm holl daith drwy Palestine, y lle yr ymprydiodd ein Harglwydd 40 Niwrnod a 40 Nos, a elwid Quaranto, sy oddiwrth Caersalem megis Chelmsfford oddiwrth Lundain 25 Milltir. Yr Jorddonen megis Epping, 12 Milltir Llynn Sodom a Gommorah megis Graves End oddiwrth Lundain 20 Milltir. Afon yn yr Jorddonen sy 'n ei thywallt [Page 26] ei hunan i'r Llynn hallt hwn, a rhyfeddol y llwngc y Llynn yr Afon oni chollir hi yn ddiyngwrth Dwfr, y Llynn sy mo'r hallt ac ireiddlyd, os a nâ Chorph Dŷn nac Anitail wedi marw iddo, fe a ddeil heb suddo ar Wyneb y Llynn, yr holl fudreddi a ddug yr Jorddonen sy 'n nofio ar Wyneb y Dwfr, a thrwy gynhyrfiad y Gwynt yn gyfan Gyfannedd, mae mewn amser yn ceulo 'n ewyn, a phan ddelo i'r lann, a gresir trwy fawr Frydaniaeth yr Haul, mae myned yn ddu megis Pŷg, ac a elwir gan y Bobl Bitumen; mi a ddaethum a rhyw fesur o hono adre! Mae 'r Llynn yn agos i 19 Milltir o lêd, ac i Cant o hyd, o'r Gogledd lle y mae Aton yr Jorddonen yn syrthio iddo.
Y Maesydd lle daeth yr Angylion a newyddion da i'r Bugeiliaid sy oddiwrth Gaersalem megis Greenwich oddiwrth Lundain 4 Milltir, Mynydd yr Olewydd megis Bow oddiwrth Lundain. Bethany megis y Black wad. Bethphage megis Mile End. Dyffryn Gethsemane megis Maesydd Ratcliff, Nant Cedron megis Houndsditch, y rhai sydd oll bur agos i Luondain. Mynydd Sion ar Gyffiniau 'r Ddinas megis Suthwark wrth Lundain.
Llymma D [...]scrifiad y Ddinas Caersalem, megis ac y mae wedi ei hadeiladu yn awr gyda 'r holl leoedd hynod oddifewn iddi ar Wlâd o'i hamgylch; trwy 'r gymhariaeth uchod y gallwch ddeall cyflead y rhan fwyaf o'r lleoedd yn agos [...]tti; a thrwy hyn gallwch wybod, nad oedd hi ond gwlâd fechan, a gronyn o dir a feddiannodd Plant Israel yngwl [...]d Canaan, yr hon sydd yn awr yn Wlâd anffrwythlawn jawn, canys tu fewn i bymtheg Milltir oddiwrth Gaersalem, Y mae 'r Tir yn llwyr anffrwythlawn, yn llawn o Greigiau a Cherrig. Ni wn i am un parth o honi y dydd heddyw ac fydd ffrwythlawn, onid yw ynghylch gwastadedd Jericho, pa beth a fu hi yn yr amseroedd gynt, mi a'ch gorchmynnaf at yr yspysiad y mae 'r 'Scrythur lan yn i roddi am dani, fy nhŷb i ydyw, pan i'r oedd hi yn ffrwythlawn, ar Tir yn llifeirio o Laeth a Mêl, yn yr amser hwnnw bendithiodd Duw hi, ac yr oedd ei thrigolion y pryd hynny yn cadw Corchymynion yr Arglwydd, eithr yn awr gan ei phreswylio gan ddigrefyddion, [Page 27] y rhai a halogant enw Crist ac yn Bucheddu buchedd aflan ac Anifeiliaidd) Melltithiodd yr Arglwydd hi ac y wnaed mo'r ddiffrwyth, mal nad allwn gael Bara, pan ddaethym yn agos atti: canys un Noswaith a mi yn llettya yn fyrr ac yn ffaelu cyrhaeddyd Caersalem, mewn lle a elwir yn Arabaeg, Cuda Chenaleb, gyrrais fy Moor neu 'r Dŷn du, [nid ymhell oddiwrth y fan a gwersyllasom ynddo) i gyrchu Bara, Ac efe a ddugodd air yn ei ol attaf, nad oedd dim Bara yno iw gael, ac na fwytasai Gŵr y Ty hwnnw Fara yn holl amser ei Fywyd, na neb o'i dylwyth eithr eu llun [...]aeth oedd datau sychion yn unig: trwy hyn a gellwch wybod anffrwythlonder y Wlâd y dŷdd heddyw, yn unig, (mal yr ydwyf yn meddwl) o herwydd y [...]elldith a ôsododd Duw arni: canys arferant bechod Sodom a Gomorah yn y Wlâd honno: mal y byddo yn dda jawn gan y Crist'nogion anghenus yno, briodi o honynt eu Merched ar 12 oed a Christ'nogion, rhag i'r Twrciaid i treisio hwynt ac i ddibennu, nid oes un fathar Bechod yn y Byd, nas harferent ymmysc y Bobl anghredadwy hyn y rhai a gysaneddant y Wlâd honno, Ac etto er hyn gelwir hi yn Terra Sancta, ac yn Arabaeg Cushe a hynny yw Tir Bendigaid, gan gymmeryd o honi yr Enw yn unig a dim ychwaneg, canys deolwyd Sancteiddrwydd oddiyno gan y lladron hynny y Twrciaid bryntion anghredadwy y rhai a drigasant yno.
Yn ol cael o honof fy Sertificate, yn se [...]edig gan y Quadrian, a Llythyr, i ddangos ymolchi o honof yn yr Afon Jorddonen, mi a ymmadawais a Chaersalem, ynghymdeithas y du yn unic, yr hwn a'm Cymhorthodd allan o'r Carchar gan adel Edward Abbot, Sheffrey Kerbie, Sion Elkins, Siasper Timme, a Mr Bodl y Pregethwr, rhai a gyfarfuom o ddamwain yno, heb wybod o'u dyfodiad, ar fy ol yng Nhaersalem, a pheth a'm blinodd fwyaf, y gwr Bonheddig o Midleborough, Mr. Sion Bunnel, with ei enw, yr hwn a gyfarfum yn Grand Cairo, a'r hwn y Gydymdeithodd a mi oddiyno i Gaersalem, ymmadawodd a mi yno, ac a arossodd Ynghaersalem, gyda'r pum Sais arall, ae yn y modd yma a'm gadawyd fi yn unig gyda 'r Dŷn du yr hwn a gadwodd [Page 28] gymdeithas gyda mi, a nis ymadawodd oll, hyd onis daethom i Gairo fawr. Ynawr pa beth a ddigwyddodd i mi yn fy Ymdaith o Gaersalem i Gairo, ac oddiyno i Alexandria, ym mha le safai fy Llong, mynegaf o hyn allan.
Yn ol i ni fyned o Gaersalem, ni a ddaethom yn ddifraw i Rama, ac oddiyno ni aethom i Ascalon, ac oddiyno i Gaza yr hon fydd yn ymmyl diffaethwch Arabia, yn un o'r ddau le ymma gobeithiais i gael fy nhrosglwyddo ar y Môr naill ai i Alexandria neu i Damicta, gan ddarfod o'r gobaith o hynny, synnodd arnaf ac nis gwyddwn pa beth a wnawn, pa un ai dychwelyd o hono [...] i Gaersalem, neu fwrw fy hun yn enbydus ar dwylo 'r Arabiaid gwylltion, fal yr i'm hebryngwyd ganddynt hwy i Gairo fawr: i'r oedd yn anghenrhaid i ni gymmeryd un o'r ddau ymma: nid oedd dim gobaith am drosglwyddiad, Ac etto i'r oedd gennif obaith arall, y gallwn gael trosglwyddiad yn Joppa. Ac o achos hynny, gan ddanfon fy Nŷn Du i Joppa, i ymofyn am drosglwyddiad, mi ai harosais ef yn Gaza, eithr nid oedd yno un i'w gael, o'r diwedd gan ystyried, fod yn anghenrhaid i mi fyned ar frys i'r Aipht, canys gadawswn fy ngwâs Waldred Ynghairo gyda'm cyfoeth, o fil a dau cant o Bunnau, a'm Llong a arosasai yn Angorfa Alexandrîa, a thriugain Gwr ynddi, heb wybod pa un y wnaent a'i aros am danai ai Peidio, canys pan ymmadawswn a hwynt i fyned ar hyd Nilus i Gairo, nid oedd fwriad gennyf i fyned i Gaersalem: A'm helynt yn sefyll yn y modd ymma. fe a'm gyrrwyd i'r eithaf ymma, sef i fwrw y mmaith fy holl dda bathol ac oedd o'm hamgylch, a gosod fy hun yn nwylo dau o Arabiaid gwylltion, y rhai a gymorasant arnynt fy nwyn i ar du, (heb pa un ni feiddiwn fyned) i Ddinas Cairo, mewn pedwar niwrnod, ac myfi a dalwn iddynt bedwar Sulton ar hugain o Aur, pan y delwn i Materia yn agos i Cairo, Ac ar yr Ammod ymma hwy a'n dodent yn ddifraw yno, os Amgen, dywedasant hwy a'm dugent yn Garcharwr gyda hwynt, neu torrent fy ngwddf.
Ac yn y modd hynny gan gyttuno a hwynt; trwy fy Moor yr hwn a ddywedasai trosof, ac a sicrhaodd trostynt ar i [Page 29] mi fyned yn ddiogel, gan dyngu na ymadawai a mi er dim ac a ddigwyddai, y ddau Arabiaid wylltion, a ddarbodasant ddau o Ddromedariaid i ni farchogaeth arnynt, y Moor 2 minnau a Farchogasom o'r blaen, a'r Arabiaid ar yn ol ni, dau ar bob Dromedari, ac yn y modd ymma, yr ymadawson o Gaza, ynghylch dau ar gloch yn ôl hanner dydd, ac y Farchogasom yn galed jawn: Canys yr Anifeiliaid hynny a ânt mo'r fuan ac mo'r arw, hyd onid oeddwn mewn peder awr mo'r flinderog, a dymuno o honof arnynt i adel im ddescyn a gorphwys ychydig yr hyn a wnaethom y nghylch chwech ar gloch yn ol hanner dydd, yn ol i ni ddescyn, yr Arabiaid a glymasant ddau droed flaen ir Dromedariaid ynghyd, mal i'r oedd eu harfer hwynt, gan beri iddynt benlînio ar y Ddaiar, yn ôl gwneuthur o honynt hynny, nyni a e isteddsom i lawr, i fwy [...]a ychydig o Resinau a Biscedau, y rhai a ddugasom gyda ni yn ein Codau; yn y cyfamser un o'n Dromedariaid a dorrodd ei gebystr ac a ddiangodd yn ôl tua Gaza, yno un o'r Lladron (sef 'r Arabiaid) a gymmerodd y Dromedari arall, ac a yrrodd yn ei ôl ef, hyd onid oeddent eill dau allan o'n golwg ni: yno 'r Arabiad arall, yr hwn a arhosodd yn ôl gyda ni, ar redodd yn eu hôl hwynt, mal a gadawyd ni yn unic yn Niffaethwch gwyllt Arabia, o'r'diwedd a hi yn nôs [...]au ein dau dywyfyddion a'n Dromedariaid wedi myned ymaith, i roeddem yn dau mewn dychryn nid bychan, pa beth a ddawai o honom; yn y cyflwr yma, gan adel o honof fy Moor gyda 'n Codau (ymha r [...]i dugem ein hymborth) mi a aethum i ben Brynn tywodlyd, nid ymh [...]ll oddiyno i ddisgwyl a allwn ganfod ein dau Leidr, cyn gynted ac yr aethum i ben y Brynn, mi welwn bedwar o Arabiaid gwylltion yn rhedeg tu [...]c attaf o'r ochor arall i'r Brynn tywodlyd, yr hyn a mi yn deall, rhedais yn dra buan at fy Moor, etto ni allwn redeg mo'r gynted, onid oedd un o'r lladron wrth fy Sodlau, a chan dynnu allan ei Gleddyf, fe a orchymynodd i'r Moor fy nhraddodi iddo ef: Eithr y Moor a berodd iddo fy chwilio, (canys gwyddai yn dda, nad oedd dim o'm hamgylch a dalai ddim ond fy hugan Gamlet) ac a ddywedodd ym mhellach wrtho, y gwar hwn, (hynny yw, yr Anghredadwy hwn) sydd i gael ei hebrwng i Gairo mewn [Page 30] pedwar niwrnod, gan ddau o'ch cyfeillion, ac yno efe au henwodd hwynt, i'r hyn attebasant i gyd, od oedd hynny yn wir, ni wnaent ddim niwed i mi, eithr os eu cyfeillion na ddawent yn ôl, yno dugent ni ymmaith gyda hwynt; eithr o fewn i ddwy awr yn ol hynny liw nos, fy nau Arabiaid a ddawent yn ol a'u dau Dromedari gyda hwynt, Ac yno 'r oeddent yn Gyfeillion Lladron. Nyni a roddasom iddynt ychydig o Raisiniau a Dwfr, ac yn ol hynny ni a ymmadawsom, ac ar y pedwaredd Nos, daethom i le yr oedd Pabessau gan yr Arabiaid, ac yno rhoddasant i mi Laeth Camelod, ac edrychasant arnaf mo'r fanwl, megis ped fuasont heb weled Dŷn gwyn erioed o'r blaen: Oddiyno ni ymmadawsom, a'r ail Nos ni ddaethom i Salhia, yno, gan fy mod wedi fy ysgwyd yn dost yn fynghorph, er fyngwregysu yn ddwys a rhwymynau) er hynny fe orfu arnai ddymuned ar fy llwybreiddwyr roi heibio 'r Dromedariau, a cheisio i ni Geffylau, y rhai a gawsant oddiwrth rai o'u cyfeillion, y Dromedari ydyw fath ar Anifail, yn debyg i Gamel, ond bod ei ben yn llai, a'i Wddf yn fain jawn, eithr i mae ei Goesau cyhyd, ac nid oes dim rhagor o wahaniaeth rhwng Camel a Dromedari, nac sydd rhwng Cestowci a Milgi: ni fŵytu 'r Anifeiliaid ymma o [...]d ychydig, a llai a yfant, canys ni yfasant tra bum gyda hwynt; a dywedant hefyd na's yfant mewn wyth neu ddeng niwrnod ynghyd, eithr nis gal lant ymattal cyhyd heb fwyd, Wrth hyn gallwch wybod i mi ymdeithio mewn pedwar Niwrnod cyn belled, ac i roeddwn yn myned mewn dauddeng niwrnod o'r blaen. yr ydwyf yn meddwl a cerdd Cephyl d [...] mo'r fuan, ond ni pharhau ef, eu cerddedlad ydyw garwduth ystynol, ond yn erwin ac yn fuan. O ymyl Salhia yr hon sydd o'r Dwyrain i Gozan, cymmerais Geffyl: eithr yr achos pa ham y Caniattaodd yr Arabiaid Geffylau i ni, nid o herwydd tosturio o honynt arnaf, oblegid fy mlinder, eithr o herwydd nas meiddient ddyfod yn agos i Wlâd Cyfaneddol a'u Dromedariaid: Ac yno arhosoddd un o honynt, ar llall a ddaeth gyda mi i Fatteria, o ba le mi a yrrais fy Moor i Gairo, i gyrchu eu cyflog hwynt, ac yno y tela is chwe darn o Aur rhai a gyflogasant eu Ceffylau, a thelais hefyd i'r ddau Arabiaid gwyllt, pedwar darn ar hugain o Aur, ac yno i'm rhoddassant [Page 31] yn ddiogel i Gadwraeth fy Moor, tu fewn i dair Milldir i Ddinas Cairo, ym mha le im Croes [...]awyd gan yr Uche [...]faer (consul) ac eraill yno yn ymaros. Ac yno y talais i'm Moor ffyddlon chwe darn o Aur, ac y brynnais amryw gy [...]reidi [...]u iddo iw gynnorthwyo ef yn el ymdaith i Fecha, ym mhae Daith, bu efe farw fel yr oedd yn dyfod yn ôl drachefn.
Ynghairo arhosais ddau ddiwrnod, ar saithfed nos yn ôl hynny mi ddaethum i Ballac, ac yno cymmerais Lestr, ac mewn tri diwrnod, mi ddaethum i war [...]d ar hyd yr Afon Nilus i Roseta, ac yno a mi yn cymmeryd Ceffyl a Janisary gyda mi, mi a syrthiais i fwy o Berygl nac un a gawswn yn fy holl Daith, canys rhwng y Drêf honno ac Alexandria yr oedd llaweroedd o Janizariaid enwog yr rhai a ddaethant o Gonstantinopl, ac a diriasant yn ddiweddar yn Alexandria, a hwy wedi blino eu Ceffylau, a fynnent gymmeryd ein dau Fûl ni odditanom, yr hyn a ommeddwyd gan fy Janisary, a chyda hynny tynnodd allan ei gleddyf, a hwy yn chwennych ymddial a ddaethant tan redeg i'm dal i, a chan osod eu dwylo arnaf, pedwar o honynt a'm pwyasant yn dôst greulon, ac a'm gyrrasant i o'r ffordd o'r naill du, ac yno mynnent fy llâdd; a'm Janisary yn de [...]ll hynny, a gweled nad oedd dim a'u llonyddai hwynt ond y ddau Fûl. yn ôl iddynt ei Archolli ynteu yn dost, efe a roddes y ddau Fulod i'r Janisariaid, eraill, ac oni fuasai hynny fe a'n Lladdasid yno, yn ôl fy ymdaith hir a blinderus, a minnai o fewn i bum Milltir at fy Llong, yr hon oedd yn sefyll yn Anghorfa Alexandria: Ac efe yn dôst friwiedig, a minnau wedi fy mhwyo yn dost, o'r diwedd daethom at Byrth Alexandria, eithr, yr oedd hi mo'r hwyr, mal na's gallwn gael myned i mewn, eithr gorfu ar nom ni aros trwy 'r Nôs honno hyd y Borau ar y Cerrig noethion, ar y Boreuddydd mi a aethum i'm Llong, wedi bod oddwrthi ddeng niwrnod a deugain: ac felly terfynais fy Mhererindod boenus i Gaersalem.
TAITH I GAERSALEM: NEU Ymdaith 14 o Saeson i Gaersalem, yn y Flwyddyn 1669.
FE Wasanaethu y rhain i hebrwng cyfrif o'm Hymdaith i'r Tir Bendigaid, ar ba rai gallaswn ei'ch bwrw chwi at eraill, rhai a reddasant cywreiniach Ymadrodd ynghylch y Pereriadod honno, er hynny yn ol eich Dymuniad Anerchaf chwi a'r Descrifiad ymma.
DYDD Mawrth y trydydd o Fai 1669 ni godaswn hwyliau o Scanderoon gyda Gwynt Ogledd-ddwyreiniol yn y Margaret, Thomas Middleton, yn Bennadur neu Benswyddwr, ac oeddem bedwar ar ddêg o Saeson, o gydtasnach Aleppo ynghyd, eithr, A ni yn cael ein gwthio i droi yn ôl dairgwaith, trwy wynt gwrthwynebol, erbyn y Degfed o Fai ni gyrhaeddasom Dripoli: Porthlâdd pa un a ymddiffynnir a chwech o Gestill bychain, gerllaw 'r Môr, ac un Castell mawr ar y Tîr, ac ymddyffynnir rhag Tymhestloedd tu a'r Gorllewin, ac Ynysoedd, a thua 'r Dwyrain a phen Tîr, ac yn y modd ymma nid oes dim ond Gwynt y Gogledd a ddichon ddrygu Llongau yn y Porthlâdd hwn: y mae 'r gwaelod yn gerrigog, yr hyn a yrrodd y Capteiniaid i wthio i fynu eu Cyrt, a'r Llongau yn Angori mewn chwech neu saith Wrŷd o Fôr, Y Drêf sydd ynghylch Milltir oddiwrth y Môr, wedi eu gosod [Page 33] ar lether Bryn, ac i mae iddi un Castell cadarn iw hamddiffyn, y mae 'r Drêf yn amharus, ac nid oedd nemor o Bobl i'w gweled, ar y cyfamser hwnnw, o herwydd i bod hi yn amser Gwau sidan Cwyn, a'r holl bobl yn eu Gerddi.
Mai y 13 yn ôl tri diwrnod Croesawiad gan y Consul (tros y Saeson, Ffrancod ar Dutch) ynghyd a Mwyeidd-dra rhagorol, ynghylch pedwar ar Glôch yn ôl Brydnhawn, ni a osodasom tua Mynydd Lebanon, a Marchogfa dwy Awr o Dripoli, ni a wersyllasom yn y Pentre Cofferffi [...]no: Y Trigohon ydynt Grist'nogion ac yn byw mewn Tai a adeiladwyd a Chyrs ac o dywod, a Gwrysg ar ffordd i'r Pentre yma sydd dda a hyfryd, gan fyned iddi trwy Goedwig o Oliwydd, ac yn y Dyffrynnoedd y mae Gerddi Morwydd, a pha rai porthant y Sidan bryfed, Dydd Gwenor Mai y 14 ni yminadawson a Cofferfinuo ynghylch 4 ar Glôch y Borau, ni gawsomffordd dda, a thrwy Wastadeddau yn hauedig o Wenith: ynghylch 6 ar Glôch aethom tros Fynyddau yn gyffelyb i Feini Mynor, onid oeddent y rhei'ny, or lle ymma cawsom olwg eglur▪ ar ffrwythlonder y Dyffrynnoedd. rhwng y mynyddoedd hyn ar esgyniad Bryn cawsom Ffynnon, yno bwytawsom ein Boreu-fwyd, ar saith ar y Glôch codasom oddiwrth y Ffynnon, a chwedi myned o honom tros Fynydd tra embydus a garw, ynghylch naw a'r Gloch, ni ddaethom i Eden Pentre bychan a gyflewyd yn hyfryd ragorol, gan i fod yn amgylchedig a Morwydd neu (Mulberies) Cyll ffrengig, ac amryw eraill o Goed: yn enwedig, Cnau Ffreinig a gawsom yn aml ar y Mynydd yma: ni aethom i Dŷ 'r Esgob, bwthyn amharus a [...]hlawd jawn, yno a'r Escob yn dyfod i'n Croesawi; ymddangosai yn debyccach i Garthwr tommen nac i Escob. Ymofynasom iddo o ba beth y cafodd y Dyffryn yma ei Enw, y Maronitiaid, (rhai a breswyliant y Mynyddoedd y rhan fwyaf) a ddywedant yn y lle hwn y troseddodd Adda gan fwyta y gwaharddedig ffrwyth. Eithr yr Esgob a ddywedodd, mai yn y Nefoedd, ir oedd tri Phren y gwaharddwyd Adda i fwyta o un o honynt, yr hwn oedd Ffigusbren, eithr ac efe yn ei Fwyta, efe a syrthiodd o'r Nêf ac a gwympodd ym mysc y Cederwydd, y rhai ydynt oddifewn i Daith 2 awr ar Geffylau oddiwrth Dŷ 'r Escob) ac yno dechre [...]odd wrtlithio a [Page 34] thrin y Ddaiar. Eithr gan fod yr Escob yn anwybodus yn y pethau hyn, ni arbedsom ymofyn ym mhellach. Yr y dys yn dangos anrhydedd mawr, i'r Escob, pob un yn Cusanu ei law ef ar eu Gliniau ac yn benoeth: y mae ganddo yn ei Dŷ Eglwys amharus, ac Allor ynddi; ac ychydig tu hwynt ei Dŷ ef, i mae Cappel bychan, ger llaw blaen Nant, yr hwn sydd yn Porthi i Dŷ ef a Dwfr, yno gwelsom fagad o Bobl ac enwau Ffrangaidd, y rhai a arhosasant yno er y Flwyddyn 1611.
A Hanner Dydd yn pwyso, yr Escob a ddarbododd, y peth a allai ei Dŷ ef, i rodditu ac at ein Cinio, gan lâdd dau Fynn a Gair, a chan roddi i ni yr Gwîn gorau a ddygai 'r Mynydd Gwyn a chôch pur archwaethus. A'r Nôs yn dyfod yn ôl Swpper, ni a gusanasom ei Law; ar Boreu nesaf a ni ynawr ond 12 ynghyd. (canys arhosodd dau o honom i ddisgwyl ein ymchweliad yn ôl Dripoli) a aethom i gymmeryd ein Cennad oddiwrtho ef, ac a cyflwynasom ef ac anrheg Oliver, heblaw a roesom î'r Gwalanaeth-ddynion, mal i mae 'n arferol i Bererinion y rhaia gymmerant yr hynt hon. Dydd Sadwrn Mai 15, ynghylch pump ar Glôch y Boreu, ni gychwynasom oddiyno ac ynghylch wy th ar Glôch ni ddaethom at y Cedrwydd cymmaint ac sydd yn ôl o honynt, ydynt tu fewn i amgylchiad bycha [...] [...]awn Ni dreuliasom beth amser yn torri Priciau, yn cerfio ein Henwau ar y coed mawr, yn y lle ymma Tywysog pentref, ai henw hi Upshara, awr o Farchogaeth o'r Cedrwydd.
Ar ein ffordd wrth fyned yn ôl a'n gwahaddodd i Giniawa yn ei Bentre ef, yr hyn a gymmeradwysom, ac yn ol Ciniaw o honom ni wnaethom Anrheg iddo, Maronydd yw 'r Dŷn ymma, ac y mae fo yn codi Caffar neu Doll oddiar y Twrciaid, y rhai a ânt heibio y ffordd honno au Defaid ac Y chen: Y mae ganddo Gant o Filwyr tan ei Arglwyddiaeth, y rhai ynt i gyd yn Grist'nogion. Ynghylch tri a'r Glôch ni gymmersom ein Ceffylau, ac yn ôl tair Awr o Farchogaeth ni ddaethom i oriwared dwfn jawn, troedig mewn ac allan yr hon yw 'r ffordd i Dŷ Patriarch y Maronyddion, ai Enw yw Cannibend, Monachlog dda bur ydyw, ac yn gorwedd is [...]aw Craig, y mae ganddynt Glôch yn ei Heglwys megis ac yn [Page 35] Europe, ac ânt at eu gweddiau Forau a phrydnhawn: yn ôl Cusanu o honom law 'r Patriarch, ni ofynasom iddo pa beth hynod oedd i'w weled yno, A'r Dryggerman neu 'r Cyfieithydd a'n dug ni i weled Cro [...]s St. Marrenna am ba un a datcanent y chwedl hwn
Yn yr amser ac i'r oedd y Ffrancod yn meddiannu 'r Wlâd, Gwr o Venice a ddaeth a'i Wraig ac un Ferch i fucheddu yno, ac yn ôl rhai o Flynyddau bu i'r Wraig farw, yno efe a fwriadodd fyned i Fonachlog i fucheddu Buchedd Grefyddol, ac o herwydd hynny gofynnai i'w Ferch ymadel ac ef, eithr nis gallai ei holl ymbil a' [...] eiroldeb ef, droi dim arni, ni, eithr yn hytrach nac ymadel o honi a [...] Thâd, bi wiscai ddillad gwryw, a bucheddu bywyd Defosionol gydag ef, yr hyn a gyttunodd ef o'r diwedd, (nid o'i wirfodd) canys teg ei phryd ac jeuaingc oedd hi: yno buant fyw yn ddefosionol jawn tros amryw o Flynyddoedd, yn ôl hynny bu ei Thâd farw: Ar Brodyr llygol a'r Henaduriaid yn myned i'r Maes [mal yr arferant) i ddiwyllio neu lafurio yr Tir, nid ai hi ond anfynych gyda hwynt o herwydd blaenor y Fynachlog neu 'r Abbad a'i cadwai hi gartref (gan ei fod ef yn caru 'r fâth Lengcyn jeuaingc têg mal i'r oedd ef yn [...]chygu Ar hyn dechreuasant wrwgnach am na ddaethai St. Morrana gyda hwynt; Ac felly o'r diwedd i fodloni yr Brodyr, efe a yrrwyd i'r Maes i weithio yn ei plith hwynt gerllaw y Pentref Twrsa, ychydig yn ôl hynny bu 'r un o'r gwyryfon y Pentref hynny feichiogi, ac y ddaeth i'r Fonachlog, ac a fwriodd y Weithred ar St Marronna, Ar hyn hi a oscymunwyd yn ddiat treg, yn ôl hynny hi a fu byw yn o Grefyddol, mewn Ogof gerllaw 'r Fynachlog, tros yspaid saith Mlynedd, Ac ef yn cael ei ollwng yn ol drachefn i'r Fynachlog, ac yn wastadol yn byw buchedd dôst a chaled, ef a [...]u ym mhen ennyd farw, a'r Henaduriaid yn dyfod mal yr arferent i eneinio yr Corph, hwy a'i cawsant ef yn fenyw: yno, dechreu [...]ant ymgroesi a gofyn maddeuant am ei Hescymuno hi, ac Adeilasant Allor yn yr Ogof ac y galwent ef wrth enw St. Marrena, megis ac y mae ganddynt mewn bagad o Ogofau o amgylch yno, er costadwriaeth o'r Creiriau Crefyddol, y rhai a fuasent yn byw ynddynt, a phan ddygant rai i'w [Page 36] gweled hwynt, syrthiant i lawr yn y man i Weddio.
Ynghylch Lêg oddiwrth y Monachdŷ, y mae dau Wr o Wlâd Ffraingc, y rhai fydd 'n byw buchedd meudwy yn cael do [...] o Fara a Gwin gan y Patriarch: A hi yn noshau, ni a aethom i Swpperu gyda'r Patriarch, ac Esgob Aleppo, a dau Esgob arall, gan Arlwyo o honynt y peth a ganiatta y lle: A nyni yn Swpperu hwy a ddugasant allan Gwppan mawr o Wydr gloyw, yr hwn a gynhaliai ddau Gwart, a pha un y gwnaeth yr hên Ddŷn ei hun yn llawen, gan ddywedyd wrthym fod y Llestr Gwydr hwnw yn perthyn î'r Fonachlog er ys mwy nachant o flynyddoedd, ac i'r Twrciaid ddyfod un waith i anrheithio y Gwfent neu 'r Fonachlog.
Ac yn canfod y Cwppan Gwydr, a ddywedodd wrth un o'r Monachod, os efe a allai yfed i lonaid ef i gyd o Wîn pur, yno 'r arbedais ef y Cwfent, Ac un o honyn [...] yn gwneuthur hynny y Twr [...]iaid a aethant ymmaith, gan ryf [...]ddu fath Bobl oeddynt. Mai yr 16 ni gymerasom ein Cennad oddiwrth y Patriarch, ac a anrhegsom ef a rhai Livers, ac heryd ir Brodyr Anghenus, a'r Bobl a berthynant i'r Cwfent, ac yn ôl hynny cymmersom ein hynt tua Thrippoli, yn ôl i mî gael golwg eglur ar y Mynyddoedd, ar Wlâd gyfagos, lle y mae llaweroedd o Bentrefydd têg, a llaweroedd o Ddyffrynoedd ffrwyth lawn, hauedig, ac ŷd, ac amlder o Erddi Morwydd; canys gwbl gwaith y trigolion ydyw gwneuthur sidan.
Ni a ddychwelasom i Dripoli, i Dŷ y Consul y Nôs honno, yno yn ol gorphwys o honom ddau ddiwrnod, a chael croeso da dros ben, ni gymmerasom ein Cennad oddiwrth y Consul Mai 18, ynghylch hanner Nôs ni hwyliasom tua Joppa gy [...]a Gwynt llwyddianus, ar y Borau daethom i olwg y [...]enrhyn Blanco, yno a'r gwynt yn wrthwynebol fe'n gyrrwyd ni i Forio yma a thraw ddau niwrnod, cyn y gallem Forio heibio 'r Penrhyn; A'r Gwynt yn llwyddo gyda ni, ni a foriasom heibio 'r Penrhyn, ac a ddaethom mewn golwg i Benrhyn Carmel, a'r ddau Benrhyn hyn a wnant y Rhodfa, ar yr hwn y mae Cwfent o Fonachod gwynion, ac yno dangosasant Fedd-faen Elisha. A thair awr neu beder o hwylio ymlaen, ni ddaethom mewn golwg i Cœsarea [...]y 'nawr yn amharus ac yn gyfaneddol gan fintai o Arabiaid [Page 37] gwylltion y 23 o Fai, ni gyrhaeddasom Joppa, ir hon nid oes un ymddiffynfa i gadw Llongau rhag Temestl, eithr y mae Anghorfa dda iddi, ynghylch deng Gwrhyd o Ddwir, Tref Dylawd ydyw hi, ac y mae un Castell iddi i ymddiffyn y Llongau a ddont yn agos i'r Tîr, eu Marchnadyddiaeth pennaf ydyw Hudw i wneuthur Sebon, a ychydig o Wlân coed Cottens ac Edafedd o'r gwlan Coed, y rhai y mae y Ffrancod yn eu dwyn oddiyno. 24 o Fai cyrhaeddasom Ramah, Trêf hyfryd, a Marsiandaeth fawr. Y Trigolion sy'n gwerthu Filladoes, Y Bobl ynt yn Dlawd, a chynheiliaeth y Gwragedd yw nyddu i'r Farsiandaeth. Croeshawyd ni yno yn y Cwfent, hyd oni phrysyrid cennad i'r Cwfent Ynghaersalem er cael caniat [...]âad i fyned yno, o herwydd ffygiol chwedlau a ae rhai allan, ar fod haint y Nodau yn terfyscu yn y lle a daethom o hono y Gennad a ddaeth yn ol y Nôs honno.
Y 25 o Fai ar y Boreu ddydd cymmerasom ein Ceffylau er ymdeithio tua Chaersalem, ac y twytasom wrth Eglwys St Jerom ynghylch dauddeg ar Glôch, ychydig luniaeth ar oedd gyda ni: a gwrês y dydd yn myned heibio, ni aethom ymlaen ar ein hynt; ac ynghylch pedwar ar Glôch Brydnhawn ni gyrhaeddsom Gaersalem, ac aethom i mewn i Borth Joppa, yno arosassom hyd onid aeth y Dryggerman, y Cwfent at y Caddy am Gennad i ni fyned i mewn i'r Ddinas; pan y cawsom hynny, ni ymmadawsom a'n Cleddyfau ac a [...]fau eraill ar oedd gyda ni mal y dugid hwynt i'r Cwfent, ni aethom i mewn i'r Ddinas ar ein Traed, ac a hebryngid ni gan y Cyfarwyddwr i Gwfent y Latingiaid, a dau neu d [...]i o'r Henaduriaid yn dyfod gyda ni. ni au cafasom hwynt ar eu Gweddi ac yn ol hynny ni aethom i Ystafell pennadur y Cwfe [...]t, yr hwn a'n cofleidiodd ni, ac a'n Croeshawodd ni, fe 'n dygwyd ni i'n Llettŷ, a'r Henadur, yr Arglwydd a ddaeth attom ac a roddes [...] ni weneithus Eiriau gan ddwyn Dwy neu da [...]r o Gostrelau o'r Gwîn goreu, a ddymuno o honof arnom i alw am y peth a fyddai eisiau arnom, Dymma 'n Croesaw cyntaf. Eithr mi ddylaswn roddi hyspysiad i chwi, ynghylch ein Cyfarwyddwr, Malliniais Salley wrth ei Enw, yr hwn a'n hebryngodd ni o Joppa, trwy 'r Mynyddoedd i fynu i Gaersalem. buasai hwn yn yspeiliwr ei hun, ac oblegid hynny [Page 38] gallasa [...] efe 'n dwyn ni trwy 'r Arabiaid yn well y rhai sydd yn gormesu y Mynyddoedd hynny ac yn byw ar eu hanrhaith Groegwr oedd ef o herwydd ei Genedl a' [...] Grefydd. Yn awr i'n Croesawi ni ymhellach Ynghaersalem, y Boreu nesaf y Penadur Tomaso llygol Frawd, un yn ddwys ddifrifol a chrefyddol yn eu ffordd hwy, a ddaeth i'n Ystafell ni a Llaeth a Gwin, a Ffrwythau coed, [a bendith yn ei enau) A'r tymmor yn Frŵd jaw [...]: ae ynghylch dauddeg ar Glôch ni aethom i Giniawa, a d [...]u neu dri o'r Llŷg-frodyr yn gweinyddu wrth ddrws y Neuadd a Chawg o Ddwfr glân i ni ymolchi ynddo, A ni yn myned i mewn i'r Neuadd yr Henaduriaid a safent o'r naill ochor i gyd yn agos at eu gilydd, ac a ddywedent râs yn Llading, ac yn ôl hynny canent weddi 'r Arglwydd ynghyd; ac yn ôl hynny ymgryment tu ac at lun ein Jachawdwr ar Swpper gyd au Apostolion, yr hon a gyflewyd uwch ben Pennadur y cwfont, yn harddedig a chroesau oddi amgylch &c. Y mae Bwrdd y Penadur ynghanol yr Ystafell yn unig, a dau o Fyrddau hirion ar bob Ystlys i'w Ystafell, un i'r Pererinion a'r llall i'r Henaduriaid; yn ôl iddynt Gusanu 'r llawr, ni a eisieddasom i gyd, ac y gawsom bob un ei ddogn mewn discyl fechan, o ba rai nid oedd eisiau arnom, tair neu bedair cyfnewydiad o amryw fwyd, ein Gwîn, Dwfr, a ffrwy thau coed a osodasid yn barod i ni. Y Gwîn oedd ynghylch Quart, [...]'r Dwfn ychydig lai, hyn oedd rhan i ddau ddŷn, ac i'r oedd dwy Phiol o Wydr yn perthyn iddo. Ynghylch canol Cinio daeth un o'r Brodyr, ac y newidiodd ein Dwfr mal y gallai yfed yn groywach. A'n Ciniaw yn darfod, y Pennadur a gurodd, a'r Monachod a gyfodant ac a benliniant, au hwynebau tu ac at iun ein Jachawdwr gyda ei Ddiscyblion ar Swpper, a chan sibrwdu rhyw beth wrthynt eu hunain, cusana [...]t y llawr, ac yn ôl hynny dechreuant ddwyn ymmaith y gweddillion, y naill yn cymmeryd y Dysclau ymmaith, a'r llall y Cyllill, pob un o honynt yn cael ei orchwyl, ac yno rhoddant ddiolch yn yr un modd, ac y gwnaethant o flaen Cinio, ymolchent wrth y Drŵs, ac yn ôl hynny aent i'r Eglwys i Weddio, tros bedwaredd ran o Awr, yr hyn a wnaent beunydd, gan godi o honynt yn forau yn wastadol, ac yn y Nôs hefyd i fyned i'r Mass.
[Page 39]Ar y cyfamser ymma daethai dau neu dri o Grist'nogion o Fethlehem, a'u celfyddyd oedd, gwneuthur llun Bedd em Jachawdwr, neu ryw hanesion Sanctaidd eraill, mal ac y mynech, ar eich braich: gwnant ef o liw glas, ac y ddiben [...]id trwy hir bigo 'ch braich a dwy Nodwydd; aethant yn y man i weithio ar rai o honom, gan ddangos i ni gynlluniau o amryw o brintiadau, mal y gal [...]ai pob un o honom ddewis yn ôl ei feddwl ei hun.
Y Dydd nesaf y 27 o Fai, cytunasom i gyd i fyned i'r Deml, ac ynghylch pedwar ar y Glôch Brydnhawn, yr aethom yno y mae yno yn byw ynghylch Dêg neu ddaudd [...]g o Henaduriaid yn oestadol, ac y mae ganddynt Eglwys yno. Y Drŵs a Seliir a Sêl y Caddy, ac pan elo neb i mewn efe a dâl bedwar Liver ar ddêg; a nyni yn myned i mewn i'r Deml, yr Henaduriaid a ddaethant ac a gyfarchasant well i ni, ac a'n cyd ddugasant i'w lletyoedd hwynt; yno 'n ôl i ni aros ynghylch Awr, paratoisant i fyned mewn Processiwn i'r holl Leoedd Sanctaidd, gan roddi i ni bob un o honom, Lyfr o Ganiadau Sanctaidd, ar bob lle yn Llading.
Ac yn y modd hynny gosodasom allan, yr Henaduriaid a ymwisgid mewn Gwenwisgoedd, a'r pennaf o honynt a Brethyn Arian oddi ar ei Wenwisg, gyda dau arall wedl eu trwsio mewn cyffelyb wisgad iw dywys ef: dugid hefyd o'i flaen ef Groes fawr o Arian a llun ein Jachawdwr yn groeshoeliedig ar y Groes, a dau Wr yn myned o bob Ystlys iddi, yn dwyn Llestri o Arogldarth, mal y pêr aroglent bob lle Sanctaidd a ddaem iddo. Ac yn y modd ymma 'r aethom i'r Lleoedd hyn sy 'n canlyn.
(1) Y Colofn wrth yr hwn y rhwymwyd ein Jachawdwr pan ei fflangellwyd ef, (2) y lle a Carcharwyd ef, [3) y lle a rhanwyd ei Ddillad ef. (4) y lle y cafodd St. Helen Groes ein Jachawdwr. (5) Y Golofn wrth yr hwn y rhwymwyd ef pan Coronwyd ef a Drain. (6) Y Mynydd Calvary lle y croeshoeliwyd ef. (7) y lle yr hoeliwyd ein Jachawdwr wrth y Groes. (8) Y lle yr eneiniwyd ef. (9) Bêdd Crist. (10) Y lle yr ymddangosodd êin Jachawdwr ei hun i Fary Magdalen, mewn dull Garddwr, (11) Cappel Mair forwyn lle yr ymddangosodd efe ei hun gyntaf iddi yn ôl ei Adgyfodiad, mi [Page 40] allwn roddi i chwi Ddesgrifiad pennodol o harddwch y lleoedd yma; Eithr i fod yn fyr, i mae Lampau wrth bob un yn llosgi, rhai a balmantid a Meini mynor neu Farbl, eraill a harddid a phaentiadau; y lle y gosodwyd ein Jachawdwr i lawr iw hoelio ef wrth y Groes, a balmantid a Meini mynor hefyd. Eithr y lle pennodol a safai y Croes arne. A orchguddyd y Meini mynor yno ac Arian, gyda Lampau Arian, a chanhwyllau Cŵyr yn llosgi yn oestadol; a'n Jachawdwr yn Groeshoeliedig yn sefyll arno: Y Bêdd hefyd a orchuddiwyd a Meini mynor, a Lampau Arian yn llosgi yn oestadol arno; Ac felly y mae ar y garreg Eneiniedig: y mae yn rhaid myned i'r Bêdd yn droednoeth, ac felly i fynydd Calvary.
Y mae gan bob rhyw o Gristnogion Eglwysydd: y Groegiaid, sydd ar rhai goreu, y Ladiniaid, yr Arminiaid, y Coptyiaid, a'r Syriaid, sydd bob un o honynt ac Eglwysydd ymma: y Groegiaid a'r Ladingiaid ydyw ddwy grefydd gadarnaf yn y Deml. i mae rhain yn oestadol er swm fawr o Arian, a'r ymddiried sydd ganddynt Yng Honstantinopl, yn prynu y lleoedd Sanctaidd yma o ddwylo eu gilydd; y pleidiau eraill ydynt anghenus; ac oblegid hynny, gwthid hwynt i ran fechan o'r Deml; cyningodd y Ladingiaid unwaith ddeng Mîl o Livers am ddernyn o'r groes, yr hwn a brynodd y Groegiad ou dwylo hwynt; Ni chynnal y Bobl grefyddol ymma ond ychydig o barch i'w gilydd, y naill yn dywedyd yn wael ac yn ddibris jawn am y llall. Yn ôl y Processiwn, ni a aethom i weled yr holl leoedd a'r Eglwysydd eilwaith: Y mae gan y Groegiaid le ynghanol eu Heglwys, yr hwn a ddywedanti fod, ynghanol yr Bŷd; y mae ganddynt le arall gerllaw Carchar Crist, a dau dwll i osod Traed ynddo: y mae hefyd lwybr cyfyng rhwng dau golofn, yr hyn sydd mewn Cyffelybiaeth i gyfyngdra y Llwybr i'r Nêf, trwy'r hwn yr yml [...]sca yr Groegiaid. yn Eglwys y Syriaid, y mae Bêdd a amcanwyd i Joseph o Arimatheae a Nicodemus, Ac yn agos i'r Garreg eneiniedig y mae Bedd faen, lle y claddwyd Jeffre [...] a Baldwyn Brenhinoedd Caersalem. Ac yn yr un lle y mae Rhwygiad y Graig, yr hwn sydd yn dechreu oddiarno yn agos at y lle a Croeshoeliwyd ein Jachawdwr, ac yn y rhwygiad hwnnw y cafwyd pen Adda, pa [...] rodd ein Jachawdwr i fynu yr Yspryd, yn ôl [Page 41] i ni yn y modd ymweled y Deml: ni ddychwesasom i'r Cwfent.
Yr 28 o Fai ni aethom allan o'r Ddinas trwy Borth Ddamascus, a chan droi o honom ar y llaw Ddehau, ni ddaethom at un o'r Pyscod lynnoedd, a berthynasai i'r hen Ddinas, a chwarter Milldir ymhellach, ni ddaethom i'r Ogof, lle 'Scrifennodd Jeremiah ei Alarnad, ar y Llaw Asswy ar y mynediad y mewn i mae gorweddfa yn y Graig ynghylch un uchder lle, meddant hwy, y cyscai Jeremiah; ac odditani gyferbyn a'r Drŵs y mae twll a amcauwyd i wneud ei Fedd [...]f: a chan fyned o honom trwy Ddrŵs amharus, ni ddaethom i gynteddfa, yn y lle yr oedd ei Ffynnon ef, tarddiant o ddwfr gloywlâs mesus; yno telir un Liver yn ôl hynny gan dramwy ar hyd llether bryn Mynydd yr hwn sydd o'r un uchder ar Ddinas, ychydig eu hwynt i Fêdd Jeremiah, ni ddaethom at Fêddfeini y Brenhinoedd, y mynediad i mewn i'r Ystafell gyntaf oedd mo'r gyfyng ac isel, hyd onid oedd yn rhaid i ni ymlusgo iddi, yno i'r oedd saith o Fêddfeini, wedi eu torri o'r Graig: yn yr ail Ystafell i'r oedd wyth o Fêdd feini yn rhagor; yn y trydydd i'r oêdd chwêch ar hugain a llaweroedd rhagor mewn amryw Ystafelloedd eraill. Y mae Drws o garreg ar un o'r 'Stafelloedd wedi ei naddu or Craig, ac yn agor ac yn cau megis Drws a cholynnau neu fachau wrtho; y Drws hyn a berthyn i'r Ystafell lle claddwyd Jehosophat. ei Arch ef oedd o Garreg, a chaead iddi, ai ochreu a weithiwyd yn harddwych jawn a blodau megis ac y mae bagad o honynt yn yr Ystafell gyntaf. Eithr nis gwyddant pwy Frenhinoedd ydynt; y mae yno un ystafell arall, i hon yr ymlusgasom, Ac felly y mae yno i gyd 42 o Feddfaodd tan y Ddaear ac nid oes onid un Drws i fyned i mewn attynt, y maent i gyd yn addurnedig a chywrainrwydd rhyfeddol; eithr am fi yn anhyddysg ac yn anneallus iw datcan hwynt mewn priodol Eiriau: ni yn ôl hynny a ddychwelsom i'n Cwfent. gan fyned i mewn trwy 'r un Porth ac y daethom. Y 29 o Fai ni orphwysasom, a rhai o'n mintai oeddent yn cael eu nodi, y 30 o Fai ni gymmerasom ein Ceffylau i fyned i Fethlehem, ac aethom allan trwy Borth y Gorllewin ac enw Porth Joppa, a chan droi ar y Llaw Asswy, a chymmeryd y llwybr isa', ni [Page 42] aethom ar hyd y Ffordd fawr, a gymmerodd Mair Forwyn pan ddaethai hi a'n Jachawdwr i'r Deml iw gyflwyno ef i'r Arglwydd; a hanner Milltir o'r Ddinas y mae 'r lle a tyfasai y pren Tirabinsha, tan yr hwn eisteddasai Mair forwyn i roddi bron iddo: eithr pan dorrwyd y Pren i lawr, amgylchynwyd y lle a Mur. Ar y llaw asswy gwelid Tŷ Dafydd lle 'r oedd ef, pan y canfu ef Bethsheba yn ymolchi, ar y llaw ddehau ychydig allan o'r ffordd y mae Tŷ Simeon niroesog a thŷ Elias; a'r pedwaredd ran o f [...]lltir ymmhellach ni ddaethom a [...] Ffynnon, ym mha fe gwelodd y Gwyr Doethion y Seren gyntaf; ychydig ymlaen y mae 'r Maes lle 'r oedd y Medelwyr yn gweithio pan ddaethai Habakek a Bwyd iddynf. A'r Angel a'i cariodd ef erbyn Gwallt ei ben, ac ai dugodd i Babilon at Ddaniel i ffau y Llewod, yn ôl hynny ni a welsom Dŷ Jacob a Bryn yn gyffelyb i Dorth Sugar, lle arhosodd y Ffrancod ddeuga in Mhlynedd, yn ôl ei gyrru hwynt allan o Gaersalem Monachdy o Fonachod o drefn St. Tavola Pawla Romana, sydd nesaf y rhai'n pan fo'nt Feirw a Gleddir ym Monachtŷ Bethlehem.
Milltir y [...]hellach y mae 'r lle yr ymddangosodd yr Angylion i'r Bugeihaîd, ac a gyhoeddasant Gloria in Excelsis. &c. Pan Enid ein Jachawdwr, yno y bu y Monachtŷ, eithr yn awr nid oes yno ond ceudwll o fwa Maen. yno talsom Arian i'r Arabiaid: pan ganfyddent neb ryw Ffrancod yn myned yno marchogent ar [...]rŷs ymlaen i feddsannu yr lle, i ynnill rhyw faint oddiwrthynt, pedwaredd rhan o filldir oddiyno ar y ffordd i Ffynnon Solomon, y mae Dyffryn y Bugeiliaid, o'r tu cefn i hynny y mae Ffynnon, a'r hon a deisyfai Mair forwyn yfed, eithr a'r Trigollon yn naccau o roddi Dwfr iddi, hi lifodd ar frŷs mal y gallai hi yfed▪ ychydig oddiwrth y Dyffryn yma, mae Ty Joseph, ac yn ôl hynny ni ddaethomi Ardd Solomon yn gorwedd ar lethr, wrth waelod hon y mae 'r ffordd fawn Grand Cairo, ac o amgylch ei ben ef, y ffrydia 'r Dyfrffôs, yr hon sydd yn porthi Caersalem a dwfr (oddiyno cawfom olwg ar Tecoah yn sefyll ar frynn uchel) ar Dwfr sy 'n dyfod o'r ffynnunau â lanwant Ddwfr Lestri Solomon, a ni yn myned Filltir o hyd ystlys y Dwfr-ffos, ni ddaethom at Ffynnonau Solomon [Page 43] y rhai ydynt dair, nid oedd dim Dwfr yn y gyntaf, ac allai fod ynghylch dau gant llath a dêg a deugain o hyd, a thriugain llâth o lêd, ac o ddyfnde [...] mawr Yr oedd yn yr all ychydig o Ddwfr, ac yr oedd yn llai o faint; y [...]rydydd oedd yn llawn o ddwfr, a chymmaint ei maint a'r gyntaf; Y maent yn rhedeg o un i'r llall, ac y lenwid a'r Pfynnon sydd yn porthi y Ddinas. Yr Henaduriaid a ddywedant mai or nofio ynddynt a gwnaed hwynt, o herwydd adeiladu hwy a grisiau i fyned i wa [...]ed iddynt: eithr tebygid eu hamcan hwynt yn hyttrach, oedd er cadwraeth Dwfr i'r Ddinas neu 'r Gerddi, gan fod iddynt rediad i'r ddau: yn agos i'r Gerddi i mae Castell hagar dilun yn yr hwn yr annedda rhai taeogion, y rhai a tallom un Liver i bob un o honom am Gennad i fyned i'r Ogof, lle mae 'r Ffynnonau sydd yn porthi 'r Ddinas ar dwfr ffosydd. y mae 'r Ogof yn helaeth ac i mae yno dair ffynnon, a chloddfa helaeth wedi ei thorri trwy 'r Graig tu ac at y Dwfr ffosydd, yn dramwyadwy i ddŷn eithr nid aethom ni i'r eithaf o honi.
Ni gymmerasom ein Ceffylau ac aethom rhagddom ar ein hynt, gan adel y Castell ar y llaw ddehau, ac ennyd oddiwrthym, ni welsom Eglwys St. Siors, yno modd yr Henaduriaid, y mae etto y Ca [...]wynau, a pha rai y rhwymwyd St. Siors, yr rhai'n a jachâant Ddyn ynfyd ar frys, os rhwymid ef a hwynt ac yn ôl awr a hannor o Farchogaeth, daethom yn agos i Fethlehem yno, a ni yn myned trwy hoel gyfyng, yr amddiffynnwyr o bedwar neu bump o Fwscedyddion a dderbyniasant gan bob un o honom bum Liver, a'n cyfieithydd a gafodd dri Lîver gan bob un o honom: ac yn ol i ni ddylod i'r Monachdŷ, ni dalasom un Liver ar ein mynediad i mewn, a chwedi r ni gael ein Croesawi gan yr Henaduriaid, ni a orphwysasom hyd bump ar y Glôch yn yr hwyr; ac yn ôl hynny ni barotasom i fyned mewn Processiwn at y lleoedd bendigaid yn yr [...]n wedd, ac y gwnaethom yn y Deml Ynghaersalem, y lleoedd a ymwelsom oeddynt y rhai hyn.
(1) Y lle a ganwyd ein Jachawdwr, (2) Beddrod St. Joseph yr hwn a ddyweddiwyd i Fair forwyn. (3) Beddau y Gwirioniaid. (4) Lle a anneddodd St Jerom ynddo pan y cyfieithiodd ef yr 'Serythur lân i'r Llading. (5) Beddle St. Jerom. [Page 44] (6) Beddfaen St. Jerom (7) Beddfaen St. Paul. [8] Merch St Eustabhia. (9) Bêdd St. Eusebius, Abbad Bethlehem (10) dychwelasom i Gappel St Catherine, yr hwn mal y dywedant o Adeiladodd St. Paul. Nesaf at hynnŷ y mae 'r Eglwys fawr allan o'r Monachdy, yr honisydd ac wyth a deugain o Golof [...]au o feini Mynor ynghylch tair llath o hyd, i gyd mewn cyfan waith. yn yr hwyr ni aethom i weled lle Genedigaeth ein Jachawdwr, yr hwn a berthynasai gynt i'r Ladingiaid, hyd onis prynodd y Groegiaid o'u dwylo hwynt; ac yn y modd hynny y mae 'r Ladingiaid, pan elont i Brossessiwn yn gweddio wrth y Drws, trwy 'r hwn yr aent i mewn o'r blaen. Y mae i'r Precipio ddau Ddrws, un yn gymmwys gyferbyn a'r llall, y rhain a wynebwyd yn ddwys a haiarn c [...]rfiedig, ac a ddiogelwyd a Phiccellau Haiarn, ni aethom i mewn yn droed noeth, ac ar y llaw ddehau ar ein mynediad i mewn, yr oedd y lle meddant hwy a ganwyd ein Jachawdwr ynddo, yr hwn a wynebwyd a meini clais, ac ynghanol yr 'Stafell y mae lle bychan yn lloriedig ac Arian, yno rho'nt Ddyscl i dderbyn Elus [...]ni, ar y llaw Asswy y mae 'r Preseb, yn yr hwn a gosododd Mair Forwyn Ein Jachawdwr; wynebwyd hwn hefyd a Meini clais, ar naill ben i'r Preseb ar y llaw dde hau, y mae llun St Jerom yn naturiol yn y Maen clais, yr hyn y mae 'r Henaduriaid yn ei gyfrif yn wrthiau mawr, gyfer [...]yn a'r Preseb, y mae 'r lle a safasai y tri Doethion, pan ddae [...]hant i Addoli ein Jachawdwr: ac ar y fan eithaf o hono mewn congl, y mae twll a wnaed o Faen mynor, yn yr hwn (meddant) a gosododd Mair Forwyn y Dwfr yn ôl golchi ei dwylaw ynddo; uwch ben yr hwn y mae Lusern yn Llosgi yn wastadol: ac y mae llaweroedd o Lusernau yn llosgi yn wastadol mewn lleoedd eraill yno, uwch ben y Precipio hwn yn yr Eglwys fawr, y mae Allor yr Enwaediad, ar yr hon yr Enwaediwyd ein Jachawdwr.
Yn ôl gweled y pethau Godidoccaf Ymethlehem, mai 31 ar y Boreuddydd, cyfodasôm i fyned ymlaen ar ei n hynt, yn yr hon gwelsom y lleoedd hyn sydd yn canlyn, (1) yr Ogof lle ymguddiodd Mair forwyn pan rybuddiwyd i ffoi i'r Aipht, a'i llaeth yn rhedeg o'i Bronnau, a wnaeth i'r Ddaiar droi yn Wynn, yr hwn y mae 'r Catholiciaid yn ei brisio yn fawr [Page 45] jawn. [2) Y ffôs ddyfrodd Dafydd. (3) Yr Ogof yn yr hon trigasant Joseph a Mair, cyn cael o honynt Dy Annedd. (4) Bêdd-faen Rachel Gwraig Jacob, yr hon i mae 'r Twrciaid yn ei brisio yn fawr. (5) Y Maes Senacherib, yn yr hon lladdodd yr Angel mewn un Nôs gant a phedwar ugain, a phum o'r Syriaid, yn y lle yma y mae Pentref ai enw yw Botochelle, yn yr hwn, medd yr Henaduriaid ni ddichon un Twrc fyw. (6) Y lle yr adeilasid Colofnau Monach [...]y Rama. (7) Y Wiallan o'r hon y cymmeras [...]i 'r Spiwyr y Wlâd Canaan Swp a rawnwîn i ddangos ffrwythlonder y Wlâd; yno hefyd y mae'r ffynnon yn yr hon bedyddiodd Philip Eunuch y Frenhines Sheba. (8) Anialwch Joan Fedyddiwr, ac yn ôl awr o farchogaeth ni ddaethom i Ffynnon Joan Fedyddiwr, yno i'r oedd ei Ystafell ef, a Chraig yn yr hon i'r oedd lle wedi ei naddu megis Maingc i fod yn Welŷ iddô; os torrai neb ddim o'r Graig hon, euog a fyddai hwnnw o Esgymmundod. [9) Tŷ Zacharias, yr hwn daeth Mair Forwyn i gyfarch gwell i'w chares Elizabeth, canys yr Angel a lefarafai wrthi y byddai iddi hi feichiogi, a llefarodd hefyd fod e'i chares yn feichiog; ac ar ei hannerchiad, llammodd ŷ Plentyn yn ei chrôth hi; yn agos at y tŷ hwn y mae ffynnon a dwy ffôs ddwfr iddi au henwau ynt Ffynonnau Elizabeth. (10) Y mae carreg ar yr hon y Pregethai Joan Fedyddiwr, a rhai (meddai yr Henaduriaid) ymorchestai y Twrciaid i thorri yn ddarniau, ac ni's gallent. (11) y lle a ganwyd Joan Fedyddiwr, yn awr yn Farchdy, gynt yn Eglwys, yn yr hon ar ddydd Gwyl Joan Fedyddiwr dygai 'r Henaduriaid eu Horgan yno, ac addurnent y lle ar hyder Gweddio ynddi, (12) Beddau y Maccabeaid, y rhai a welsom o hirbell, a chan ei bod hwynt wedi amharu, ymddangosent megis yr un nifer o fwae meini. (13) ni aethom heibio i Bentref, yn hwn i'r oedd y gwyr i gyd yn Dwrciaid a'r Benywod yn Grist'nogion, canys ar bobl yn dlawd ac yn anghenus, y Twrciaid oeddynt ffyrnig wrthynt am eu Harach; (rhyw fath o Drêth (a hwy yn anabl i'w thalu ar unwaith a droesant yn Dwrciaid &c. (14) ni ddaethom i'r Mynydd Erapil; o rai o'r Coed a dyfasant yno gwnaed Croes ein Jachawdwr, ac yn y lle y tyfodd y pren adeiladwyd Eglwys deg jawn, yr hon sydd yn meddiannau y Groegiaid a'r [Page 46] lle pennodol a tyfasai y Pren ynddo, a orchguddiwyd ac Arian, ac ymma gosodant ddiscl i dderbyn eich Elusen. Llawr yr Eglwys hon a weithiwyd yn gywraint a gwaith Mosaic, ac yn baintiedig a hanesion o'r 'Scrythur; ac yn lle Cloch curant Ystyllen ynghrôg, a'r hon a roddai sŵn yn o debyg i Gsôch.
Ac ynawr ni awn ymlaen tua ac at y Gwfent Ynghaersalem gan fyned heibio y Bryn Gihon, lle 'r Eneiniwyd Solomon yn Frenhin, a hi yn Nôshau ni ddaethom i'n llettŷau, gan wneuthur o honom hynt ddau ddiwrnod i weled lleoedd Bendigaid, a thramwyo Mynyddoedd Judea, ni hunasom yn ddiogel y Nos honno, eithr er hyn y mae gennym ragor o Bererindodau. Mehefin y cyntaf, ni orphwysasom yn llonydd, i ddadflino 'n hunain, yn ol yr hynt i Fethlehem, eithr yr Henadwr Tomaso, o'i serch tu ac at [...]om, oedd yn fliniedig jawn am i ni fyned i weled lleoedd eraill, yr hyn sydd yn dra obrwyol yn Eglwys Rhufain, ped fuasem ni ou Crefydd hwynt, buasai yn amhosibl i fethu cael o honom y Nêf; canys cawsem faddeuant tros ein hell fuchedd; yr ydwyf yn deisyf na's twylla y coeg feddwl yma ormodd o ddynion. Mehefin yr 2 ni ddechreusom chwilio am y lleoedd Bendigaid, y rhai ydynt mal y canlyn, [1] Aberthiad Jsaac gerllaw y Deml wrth enw Mynydd Mariah, y lle hwn a wynebwyd ac Arian, a Discyl a osodir yma i dderbyn eich Offrwm. 2 Carchar Pedr yn Garchar etto gan y Twrciaid, ar y cwrr eithaf o hono; y mae twll yn y Wal, yn yr hwn meddant hwy, a cethrwyd y gadwyn, yr hon oed d yn rhwymo Pedr, gan anghofio o honynt pa sawl gwaith y destrywiwyd Caersalem a bod Cerrig yr hên Wal mewn teby golrwydd mo'r ddyfned tan y Ddaear, ac mae'r rhain uwch law 'r Ddaear. 3 Monachlog Marchogion Malta adeildŷ têg jawn, mewn un Ystafell [...] hono i'r oedd amryw wahan leodd i osod Gwelau, a thwll yn y canol, o herwydd os byddai i neb o honynt i fod yn glâf neu yn rhŵth, gosodir hwynt yno, ar dwfr yn ddrwg ar awyr yn afiachus a gogwydda hwynt i'r fath glefydion (4] Teml Solomon, i'r hwn od a un Cristion, neu segyn o hono y gweision, i mae 'n rhaid i hwnnw droi yn Dwrc, ni oddef ei losgi, mi a roddaf hanes o gywreinrwydd hwn pan ddelwyf i dre mynt o hono. (5) Yspytty St. Helen; yno i mae saith o geiriau yn yr rhain arferai hi drin bwyd i'r tylodion beunydd, talsom un Liver am [Page 47] gennad i fyned i mewn. 6 Porth y Farn, trwy 'r hon daethpwyd a'n Jachawdwr i mewn: ychydig oddiwrth y Porth y mae 'r lle yr euog farnwyd ef. (7) Y llwybr dolurus yr hon yw i'r ffordd yr aeth ein Jachawdwr i gael i Groeshoelio, ac ar y ffordd y mae Tŷ St Veronica, yr hon a rodd i'n Jachawdwr Napcyn i sychu ei Wyneb, wrth fyned o hono heibio: yno hefyd y mae Tŷ Lazarus, a thŷ 'r Glŵth cyloethog, a'r lle y llewygodd ein Jachawdwr, (meddant hwy) ac y cymmerodd Simon y Groes i fynu; ac yn agos at hyn y mae 'r Eglwys, lle safodd Mair forwyn iw weled ef yn myned heibio, ac a lesmeiriodd o herwydd tristwch; Yn awr a gelwir yn Eglwys Fair. (8) Neuadd dŷ Herod, ynawr yn adfeiliedig ac yn Seraglio. i'r Basha; mewn un 'Stafell amwisgwyd ein Jachawdwr a Phorphor. (9) Tŷ Pilat, yno dangosasant y lle y Coronwyd ein Jachawdwr a Drain, a'r golofn wrth yr hon y cadwynwyd ef, yr hon a ddugwyd oddiyno ac osodwyd yn y Deml: yn ôl hynny, ni aethom i mewn i'r Neuadd, lle golchodd Pilat ei ddwylo, ac a lefarodd ei hunan yn ddieuog o Waed ein Jachawdwr, o'r lle hwn cawsom dremynt amiwg ar Dêml Solomon, yr hon a adeiladwyd ynghanol llanerch helaeth, yn balmantedig ac yn dêg, Y mae bagad o Fwae meini, Rhodfeydd hytryd, ac adeiladoedd oi amgylch, y Deml a weithiwyd, a gwaith Mosaic, ac yn ôl Geiriau y Twrciaid yn Gyfoethog jawn oddifewn o herwydd i fodyn un o'r Moscaid, ac er bod hanner Lloer ar bob un o'u Temleu hwynt neu Mosciaid, etto hon yn unic sydd a Chroes trwy ei chanol: yr Henaduriaid a ddywedant na safai hi hyd onis gwnaed y Groes (10) Y lle y fflangellwyd Crist yr hwn ydyw 'nawr yn Siop Lliain; eithr y Golofn, wrth yr hon y rhw ymyd ein Jachawdwr, a ddugwyd oddiyno ac osodwyd yn y Deml. [11) Tŷ Annas, yno Ein Jachawdwr yn cael i wthio o hyd gyda rhuthr fawr ar goriwared, ac efe yn ymattal ei hun, rhag syrthio a afeilodd ar Gongol Gwal, lle y mae yn awr afeiliad yn un o r Cerrig yn gymmwy [...] i law Dŷn, yr hyn y mae 'r Henaduriaid yn ei gymmeryd yn wrthiau mawr; (12) Tŷ Simon y Phariseaid lle y mae Carreg a llun troed ynddi, yr hyn; meddant, a wnaeth Ein Jachawdwr pan y safodd efe i wneuthur maddeuant i Fary Fagdalen am ei Phechodau: yr Henaduraid a ddywedant, ar i'r Twrciaid amc anu yn fynych i symud [Page 48] y Garreg, eithr o amser i amser dawai yn ôl i'r un lle drachefn. (13) Tŷ Joachim ac Anna, adeiladaeth uchel a thêgac i wared mewn 'Sta ell ar lawr, a naddwyd o'r Graig, ydyw 'r lle a ganwyd Mair forwyn.
(14) Y Llynn Bethesda, lle y gorweddau y cleision mal y jachaid hwynt, yr Angel yn dyfod o Flwyddyn i flwyddyn i derfyscu y Dwfr, a'r neb a elai yno yn gyntaf a jachaid, ond yn awr yn sych ac yn hanner llawn o lŵch. (15) Porth St. Stephan, ac ychydig allan o'r Ddinas mae 'r lle a llabuddiwyd St. Stephan: a'r Henaduriaid a fynnent i ni goelio, fod llun ei Ddwylo, ei Wyneb ai Luniau yno; pan syrthiodd et i lawr, (16) Dyffryn Jehosophat yr hwn sydd wrth Waelod y Bryn, rhwng y Bryn ar yr hwn y mae Caersalem yn sefyll, a Mynydd yr Olewydd. (17) lle y claddwyd Mair forwyn; yno, a chwi yn myned i wared laweroedd o Risiau carregog, chwî ddowch i Ogof helaeth, lle y mae gan Grist'nogion Allorau or naill du, o herwydd i bod hwy o neillduol Opiniwnau, eithr y Twrciaid a Christ'nogion ynghyd a losgant Lampau uwch ei Bêdd hi, yma talwn un Liver am fyned i mewn; a deugain ac Wyth o Risiau i fynu y mae Bêdd Joseph, a chyferbyn a hwn y mae Beddau Joachim ac Anna. (18) lle a chwysodd Grist Waed, a'r Angel yn ymddangos i'w gyssuro ef, ydyw gerllaw gweled Mynydd yr Olewydd. (19) Lle a gweddiodd ein Jachawdwr, ar i'r Cwppan hwnnw fyned heibio oddiwrtho ef, ac yn agos at y lle hwnnw y mae 'r Graig ar yr hon yr eisteddasai ei Ddisgyblion, pan yr aeth efe i Weddio, rhwng y ddau le hwn y daliwyd ef; y mae 'n awr yn ymyl Gardd Gethsemane, eithr fe allai gynt i fod yn rhan o'r Ardd, ac ar esgyniad i Fynydd yr Olewydd; yno a'r Werin yn Chwennych dwyn ein Jachawdwr ymmaith, torrodd Pedr Glûst Malcus, yn y ffordd tu ac at y Ddinas. (20) Y lle, mal y dywedant, a Gweddiodd Mair Forwyn tros Stephan pan Labuddiwyd ef (21) Y lle yr wylodd ein Jachawdwr tros Gaersalem, sydd yn agos i ben uchaf y Mynydd yr Olewydd. (22) Y lle y [...] escynnodd ein Jachawdwr i'r Nêf, gan adel, meddant hwy lu [...] ei Droed ar Garreg; y mae yno 'nawr Gappel wedi ei adeil [...] [...]rosto, a phedwar ar ddeg o Golofnau meini Mynor oi amgylch y mae hwn a'r ben uchaf Mynydd yr Olewydd, ac ychydi [...] [Page 49] o ffordd oddiwrtho y mae 'r lle a safasai Gwŷr Galilee, pan ofynnodd yr Angel iddynt pa ham y sefwch yn edrych tu a'r Nêf, (23) E ddangoswyd y lle y dywedodd yr Angel wrth Fair, a cyfoda i mewn tri diwrnod; (24) Sef Pelagius oddiyi o Bethphage, lle y clymmwyd llwydn yr Assyn. (25) Y Pren tan yr hwn safodd ein Jachawdwr, pan Bregethodd ef Bregeth y Farn. (16) Yr lle y gwnaeth efe Weddi 'r Arglwydd. (27) Yr lle y gwnaeth yr A postolion y Credo, Ogof ydyw oddauddeg bŵa. [28) Beddau y Prophwydi y rhai ydynt Saith a deugain o gyfrif, a naddwyd o'r Graîg, a chan fyned i mewn trwy Ddrŵs, ni a ddaethom; Ogof helaeth, yno yr oedd amryw leoedd naddedig o'r Graig ynghymesur i gynnwys Arch Corph yma talsom un Liver. (29) Y Pren a yr ymgrogodd Suddas ei hun arno, (30) Y Bêdd yr amcanodd Jehosophat iddo ei hun, eithr o herwydd i fod efe yn Frenin, claddwyd êf ym Mêdd y Brenhinoedd. (31) Colofn Absolom neu Fêdd ef, yr hwn a naddwyd o'r Graig, ac ynghylch maint Ystafell fechan, a cholofnau naddedig o'u hamgylch: yn y wedd hynny y mae 'r Stafell megis ped Adeiladid hi i ryw ddyn uuig, Y mae uchde [...] têg ynddi, ac y mae rhyw faint o ysgythrau o'u hamgylch. (32) meddant hwy, y mae 'n agos yma Lu [...] Traed ein Jachwdwr Crist; canys pan y dugid efe i Gaersalem ymattallodd wrth y Nant Cedron, ac y ddymunodd yfed o honi. Nid yw y Nant hon onid o waelod cûl, ac nid oedd dim Dwfr yndd [...] oan oeddem yno; eithr yn y Gaiaf, y Dwfr a ddaw i wared o'r Mynyddoedd ac y wna ffrŵd fechan. (33) Nesaf at hyn ydyw 'r lle yr ymguddiodd St, Jaco dri diwrnod a thair Nôs, lle ydyw cloddiedig o'r Graig, yr hwn a wnaed yn ddia [...] i wneud trigfa ynddo: yn agos yma y mae [...]êdd Zacharias fa [...] Barachias yn gloddiedig o'r Graig (34) ar lechwedd y Bryn lle yr Addolodd Solomon Moloch, y mae 'Stafelloedd cloddiedig o'r Graig, yn y rhai (meddant) a cadwai Solomon dri chant o Wragedd, a Mîl o Ordderchiadon (35) Ffynnon Fair forwyn yr hon yr ewch i wared iddi ar hyd grisia [...] Cerrigog▪ ei dwfr hi sydd mo'r felus, hyd onis gallai Dŷn coegddall lai na thebygu mai Dŵr a llaeth ydyw. (36) y lle y llifiwyd y Prophwyd Esai yn ddau ddarn: i mae ei Fêdd efe tan Graig yn agos at y man hwnnw (37) Ffynnon Siloah wrth hon y ma [...] [Page 50] Pydew lle ymolchai Pererinion gynt, eithr yn awr yn adfeiliedig, ac yn llawn o Gerrig a Marian, etto cyfrifir ei dwr hi yn dda ar lês y golwg; ac yn agos i'r lle hwn y mae Golgotha. [38] Yn agos at y lle hwn mewn Dyffryn y mae Ffynnon, lle y dywedir guddio o Nehemiah y Tân Bendigaid, pan gaethiwyd Plant Israel: a phan ddychwelasant ddeugain Mhlynedd yn ôl hynny, dywedir gael yr un Tân hwnnw yn y Ffynnon. (39) A ni yn myned i fynu i'r [...]ryn, ni ddaethom at Feddfeini Annas a Chaiaphas, rhai a fuasant yn Arch offeiriaid. (40) Ac yn agos i mae 'r lle yr ymguddiodd yr Apostolion; ac yno a ni yn myned i mewn trwy le cyfyng, ni ddaethom i Ystafell tan y Ddaiar, oddiwrth y rhain y mae bagad o dyllau, ym mha rai y gorweddan yr Apostolion. (41) yno ni ddaethom i Aceldama, Ogof ydyw, yr hon a geidw 'r Arminiaid yn lle Claddedigaeth, dywedir dreulio o'r Ddaear ymma gyrph Dynion mewn wyth Awr a deugain: Y mae bagad o wynt-dyllau ar y pen uchaf i ollwng allan y drygfawr, ni aethom i wared tan Graig, i le y gallem edrych oddifewn, ac yno gwelsom lûn Dŷn yn gyfan, gan eu bod hwy yn unig yn eu gosod hwynt i mewn, heb eu cuddio a Daiar, [40] ni ddaethom i Ffynnon Beersheba, yr hon sydd wrth droed Mynydd Sion, nid oe [...] ynddi ynawr ond ychydig jawn o Ddwfr, cawsom aros pedwaredd rhann o Awr cyn cael un llymmaid.
Yn ôl i ni weled yr holl bethau hynod yn y parthau hyn, ni aethom tu ac at y Monachdŷ, gan gael o honom lawer jawn o Glôd gan yr Henadwr Tomaso; o herwydd ein bod ni mo'r Serchog a cherdded o honom o bump ar y Glôch y Bore hyd hanner dydd: eithr efe er ein cyssuro ni, a fyddai ymla enaf yn wastadol; ac y ddywedai bob amser fod rhyw le arall teilwngach i'w weled, nac un a welsom o'r blaen, ac [...]r ei fod ef yn ŵr oedranus a'r tywydd yn boeth, etto wrth fyned o honom i fynu i Frynn, rhedai efe, mal y gallai fod yn flaenaf, rhoddes yr holl Eiriau cyssurus ac allai i'n cadarnhau ni Protestaniaid, rhai byth ni obeithiem nac y feddyliem ryglyddu o honom ddim oblegid hynny: eithr o'r diwedd ni ddaethom i'r Cwfent drachefn; a ni yn flinderog jawn, pob un o honom a neillduem [...]n Llettŷodd.
M [...]hefin y 3 dydd ni orphwysasom yn y Cwfent, yn ôl cinio, [Page 51] un o'r Henaduriaid a ddaeth attom, gan ddywedyd, y myai 'r Penadur y Cwfent olchi ein Traed, ni ddeisyfasom gael em hesgusodi o herwydd cyfrif o honom i fod yn ormod o barch eithr diriwyd ni i ufuddhau i Ddeddfau y Cwfent, gosodid Gawg, yr hwn oedd gymmaint a phair wrth ochor Cadair, fo osodid dail Rhoswydd a llyfieu yn y Dwfr, yr Henaduriaid a safant i gyd mewn Rhês yn canu caniadau Sanctaidd; n eisteddasom, a'r Henadur y Cwfent a blethodd dywel o amgylch ein Gliniau, i gadw 'n Dillad rhac y Dwfr, yno dechreusant rwbio 'n Coesau a'n Traed, a hwy yn Feistri ar eu Crefft) i'r oedd dau o'r Monachod yn gweinyddu, naill ar un Goes, a'r llall ar y goes arall; yn ol sychu o hono y Troed Asswy, y Monach ai cusanai hi, ac y gwisgai hi a Sleperd, ac yn ol hynny sychu y Troed ddeheu; ac y blethai Dywel o amgylch Gwadn y Troed, a chan i gosod hi ar ei lin, efe a orchg'uadiodd y bodiau a'i Law, ac yno daeth yr holl Fonachod ac i cussanant hi, yn ôl gwneuthur hyn, rhoddes i ni ganwyll fechan, a ni yn derbyn hi yn ein dwylo, cusanasom ei Law ef, ac felly cyfodasom a safasom heibio, hyd onis golchwyd eln Cymdeithion i gyd yn yr un modd. yno 'r aethom mewn Processiwn, o amgylch eu Cappel hwynt, a'n hwy yn dywedyd amryw Weddiau, wrth eu tair Allor, ac yn ol hynny dychwelasom i'n 'Stafelloedd. Mehefin y 4 yn ol Cinio ni aethom i'r Gegin, yno gwelsom yr holl Henaduriaid, a Napc [...]nau ou blaen, yn golchî'r Dysclau pob un yn cymmeryd ei waith, ie hyd yn ôed y Penadur ei hun, rhai a lanhaent, rhai eraili yn gosod hwy heibio; eithr trwy 'r amser yn gyttunol dywedant ryw Weddi, gan fod yn debygol ymegnio o honynt i wneuthur pob peth i Ogoniant Duw.
Yn ôl hyn aent i gyd i'r Cappel i Weddio, ac ni's cewch weled un amser y Cappel heb rai o honynt, wrth eu gweddiau cyfodent ddwy waith neu dair yn y Nôs at eu Gweddi. Ar ddydd Sulgwyn addurnwyd y Cappel, mewn gwêdd hardd ac anarferol, ac fe osodid Llenn Gyfoethog jawn ar y Llaw Ddehau i'r Allor uchel, i'r Penadur i eistedd tani, pan ddechreuwyd y Weddi, yr Penadur a ddeuni i'r Cappel ac a eist [...]ddodd, tan y llen honno i'r oedd tri neu bedwar o'r Henaduriaid wedi eu trwsio mewn Brethyn Arian, yn agos i wêdd [Page 52] Herald: dau o honynt a weinyddent o amgylch y Penadur, a dau a safen [...] gyferbyn ac e [...], ac yno yn ôl hynny dechreuent drwsio yr Penadur mewn gwifgoedd gwylion, ac yn ôl darllain o honynt ddwy neu dair Lein, gosodant ddarn o Liain brodiog o amgylch ei Wddf, ac yn ôl hynny ei Wenwisg a darllain bob amser rhwng dau o Wisgoedd a osodid am dano, yn ôl hynny gorchuddid ef a Mantell o Sattin cyfoethog, a Brethyn Arian; ar ddau oedd yn sefyll gyferbyn a blygent ar ryw Elriau. Ai Gorph wedi drwsio yn y modd yma, y ddau Henadur a osodant Feitr ar ei ben, gan wneud hynny gyda 'r parch mwyaf ac allid ddychymmyg, yn ôl Gweddi ferr, cymmerent y Penadur erfydd ei Law, ac ai hebryngent ef at yr Allor, gan sefyll o hono yn y canol rhwng y pedwar Henaduriaid, yn ei wych drwssad mal y dywedpwyd uchod; yr Henaduriaid eraill a wisgant eu Gwenwisgoedd, a'r Organ a ganai; yno gan wneuthur o honynt Weddi ferr wrth yr Allor hebryngent y Penadur yn ôl iw le drachefn, ac yn ol darllain ychydig, cymmerent ymmaith ei Feiter, ac a eisteddai yn ben noeth, hyd terfynu o'r Weddi: Yn ôl hynny gosodid ar ei ben Feitr arall; y cyntaf oedd o Frethyn Arian, yr ail oedd o Frethyn Aur, yn llawn o Rubies a Diamwnd, a Gemmau eraill; yn ôl hynny tynnasant hwnnw ymmaith, ac amwisgwyd ei ben ef a Meitr arall o frethyn Aur, yn rhagori peth oddiwrth y rhai eraill; yn ôl tywys o'r Henadur at ac oddiwrth yr Allor tros en [...]yd, o'r diwedd pan ddaethan [...] i ddarllain i'r fan y descynnodd yr Yspryd glân ar yr Apostolion yn gynnulledig ynghyd, yr oedd Henadur ar y Grisiau, a bennodwyd i daflu i lawr Glommen wen yn drwsiedig ac Eddi neu Ribanau mewn cyffelybrwydd o'r Yspryd glân, eithr efe a attaliwyd gan ryw rwystr, canys caewyd y Ffenestr mo'r galed, mal na's gallai ei hagor yn hir o amser, hyd oni bu debygol fyned o honom ymmaith heb eu Hyspryd glân hwynt, eithr yn ôl gorchfygu 'r anhawsder hwnnw, efe a wnaeth i'r Glommen ddescyn yn ein plith; yn ôl hyn, a Gweddio diosgwyd y Penadur drachefn, gan ddarllain o honynt trwy 'r holl amser a diosgid ei wisgoedd ef ac felly terfyn y Gwasanaeth y Dydd hwnnw.
Yn awr dechreuasôm amcanu fyned o honom at y Môr marw, a [...] Afon yr Jorddonen, o'r achos hynny gofynasom pa beth [Page 53] a fyddai 'n côst ni, attebai 'r Henaduriaid, pum Liver ar hugain, eithr ni gyttunasom ymhlith i gilydd na [...] roem oddiar ugain. danfonodd yr Henaduriaid ein hamcan ni at y Bassa, yr hwn a rôddes i ni yr atteb ymma, os aem ni, gorfyddai arnom dalu dau Liver ar hugain; ac os nid aem, caem dalu dêg Liver bob un o honom; A ni yn bwriadu ein bod ni tan ei orchymmyn ef, ni fynnem gynhyrfu y Cwfent, canys byddai arnynt hwy i gynnal yr [...]oll golledion, megis ac y gwnaethant tros laweroedd, eithr i Dduw mae 'r diolch ni ddigwyddodd dim yn ein hamser ni. Nyni a ymroesom i gyd i fyned, ond Mr. T. H. ac un Sais yn rhagor, ac un Dwitch, gan debygu o honynt nad oedd y Bassa yn dywedyd o ddifri; eithr o herwydd nad aethont. gorfu arnynt dalu dêg Liver am ddim, yno daethom i Bethannia Pentre bychan y dydd heddyw, yno a ni yn myned i Ogof tan y Ddaiar, gwelsom Fêdd o'r hwn cyfodasai 'n Jachawdwr Lazarus yn ôl marw o hono cynnifer o ddyddiau. ymma cawsom Wylwyr y Bassa, i fod yn Wiliadwriaeth i ni, rhac ofn yr Arabiaid, y rhai ydynt tu hwynt i'r Jorddonen yn Nhîr Moab, y rhai a wnaent ymgyrchiadau yn fynych ac ymdrechent wrth flaen gwayw-ffyn, yn erbyn rhai sydd yn byw 'r Ochor hyn yngwlâd yr Addewyd; y Bassa â gymmera i arno, a gorfyddai iddo ddanfon deng Gwr a deugain gyda ni, ond ni chawsom ond pedwar ar ddeg neu un ar bymtheg: yn ôl gorphwys o honom ar y llawr, ynghylch naw o'r Glôch o Nôs ni gymmerasom ein Ceffylau, a chan fyned o honom trwy 'n troeadau a Chylchiadau y Mynyddoedd, ni ddaethom ar y Boreu i droed y Mynydd ymprydiol, yno descynasom odd [...]r ein Ceffylau; a chan wneuthur o honom y Ddaiar oer yn Welau i ni, ni hunasom ddwy neu dair o Oriau, gwedi rhwymo 'r Ceffylau wrth ein dwylo o'r blaen; pan gododd yr Haul, nyni a gyfodasom hefyd, ac a rodiasom i Ffynnon Plisha oddifewn ergyd Carreg oddiyno; a chyn bod yr Haul yn rhŷ wresog, ni gymmerasom ein Ceffylau wrth droed y Mynydd ac felly dechreusom i ddringo, gan i bod hi yn foriwared mawr: yn ôl escyn o honom i uchder mawr, ni a dd [...]ethom i'r lle y cysgodd ein Jachawdwr, pan ymprydiodd ddeugain niwrnod; ac oddiyno cafodd y Mynydd ei Enw, y lle hwn sydd yn agos i eithaf uchd [...]r y Mynydd, eithr ni wyr neb y [Page 54] ffordd i ben y mynydd ond yr Arabiaid yn unig, y mae yma Eglwys lle Anneddau gynt Henuriaid, hyd onis lladdwyd hwy gan yr Arabiaid. îs law hyn o le i mae bagad o ddalfaoedd o ddwfr, ac amryw dal-wynebau Gappelau, eithr y llwybr astynt a dorrwyd ymmaith; mal i'r oeddem yn myned i fynu, meddylfryd o'r perygi i ddyfod i wared a ddawai i'n Pennau, a chanfod lladmerydd Amherodwr Germania, Deonglwr jeithodd y Wlâd ymma yn ofnus jawn, cyflogodd dau Dwrc iw hebrwng ef i wared o'r Mynydd, ac yn ôl i ni ddyfod yn y modd ymma i gyd yn ddifraw o'r Mynydd, ni farchogaesom yn ôl yn liawen jawn i Ffynnon Elisha, yr hon a tuasai gynt yn chwerw: eithr efe yn taflu dyrnaid o halen ynddi, ei dyfroedd a drowyd yn groyw. Yma gorphwysasom hyd bedwar a'r Glôch, ac yn ôl i Wrês yr Haul leihau, ni gychwynasom tua Jericho, ac yno daethom ynghylch Pump ar Glôch, nid ôes yno 'nawr ond ychydig fythod yn unig, ni a wersyllasom wrth bren Zacheus, y Trigolion ydynt o rhan fwyaf, Arabiaid, ac ychydig o Roegiaid, ymma daeth Tywysog y Pentref i groesaw i'r Bassa au Wyr, marchogai Gaseg o brîs Mîl o Livers' canys Cessig sydd yn unig mewn bri yn eu plith hwynt; yma gorphwysasom, hyd onid oedd yn bedwar ar Clôch y Boreu tan Glawdd pwdr, nid oedd ond ychydig o hyfrydwch i ni yn ein Cyfeillion sef Gwybed a Chreaduriaid brathedig eraill.
Cychwynasom tu a'r Jorddonen, yno cyrhaeddasom gyda chlais y dydd, ac arosasom i nofio yn yr Afon ynghylch awr; i mae 'r ffrŵd yn grêf ac yn gyflym; a ni ddichon cryfder gŵr nemor ond ei gwrthsefyll hi; y mae yn llifeirio tu a'r Môr marw, ein gwilwyr oeddent daer am i ni ymadel oddiyno, gan ofni honynt y cae eu Gelynion afel ynddynt; Am hynny paratoesom ein hunain i fyned rhagddom tua 'r Môr marw, ynghylch dwy Awr yn ôl hynny ar ein ffordd tu a'r Môr marw, ni acthom trwy le Melltigedig, anhyfryd a diffrwyth, nid oedd yno gymmaint a Llysieuyn glâs na glaswellt yn tyfu; ac wyneb y Ddaiar a orchguddid a halen, ac er eu fod yn sych, etto 'n ceffylau a syrthient ynddo hyd gymmalau eu cluniau. ni ddaethom o'r diwedd i'r Môr marw, yr hwn sydd ynghylch deg a thriugain neu bedwar ugain Milldir o hyd ac ynghylch [Page 55] daunaw o lêd. nid yw yn weledig i ba le i mae 'r Dyfroedd sydd yn dyfod iddi, yn myned allan: oddieithr fyned o honynt tan y Ddaiar; ac ni ymddengys hefyd i fod ef yn mwyhau trwy ddyfroedd yr Afon Jorddonen. a bagad o ddyfroedd eraill yn llifeirio iddo, bu gynt yn ddyffryn ffrwythlawn, ac a gystadlid o herwydd ei hyfrydwch i Baradwys, ac a alwyd yn Bentapolis (pum ceiriog) o herwydd ei phum Dinas, ac yn ol hynny de [...]trywiwyd hi a thân o'r Nêf, ac a drowyd yn llynn budr, ddiffaethwch diffrwyth o'u hamgylch. Ac i wneuthur Prawf o rhinwedd a ddiwedyd i fod yn y Dwfr. sef, na's gallai Dŷn suddo ynddo, rhai o'n mintai aethant i'r Môr, ac y cawsant yn amhosibl i osod eu Cyrph tan y Dwr, prin y cadwent eu Coesau tan y Dwr. y mae 'r Dŵr yn frwmstanog, a [...] ni's gallir lefaru eithaf ei halltrwydd ef: pan ddaethant allan o'r Dwfr: yr oedd Olew pur ar eu Cyrph, yn ôl bodloni o honom ein golwg a phethau hynod ac odidog, brysiasom gymmaint ac allem yn ôl tua Chaersalem. mi ddylaswn roddi cyfrif, ar fod carneddau un o'r Dinasoedd a anrheithiwyd am Sodomaidd-dra yn sefyll yn awr ennyd oddiwrth y Dwfr, ac a debygid mai Zeboim yw hi.
Yn awr cynydda 'r Haul mewn gwrês, ac yn boeth anarferol, a thrwy wrth-darddiad a'r y Ddaear; yn gwneuthur y gwrês mo'r nerthol, hyd onid oedd eu hwynebau yn edrych, megis ped fuasai y Crwyn wedi eu blingo ymmaith, o achos Marchogaeth yn yr Haul, o'r Boreu hyd bedwar ar glôch yn ôl hanner dydd; eithr yr Henaduriaid, yn arferol a chyfwrdd ac ymdeithyddion tyner eu Hwynebau, a ddarparasant ryw feddyginiaeth ar frŷs, i laesu y Poen yr hwn a gynhyddodd yn fwy oblegid halltrwydd dwfr y Mor marw: ni gymherasom ond ychydig o fodlonrwydd mewn Bwyta. eithr rhagor mewn cysgu, gan na's cawsom ond ychydig yn ein hymdaith. Yn awr yn ol i ni weled y cwbl o'r lleoedd yn y Tîr bendigaid, y rhai y mae Pererinion yn arferrol i weled, darparasom 'n hunain i ddychwelyd. Mehefin y 9. A ni 'n bwriadau myned ymlaen ar y Bore yr Penadur a ddaeth attom ac y rodde [...] i Fendith i ni, ac y dannellodd ni a Dwfr bendigaid, gan ddeisyf arnom i escuso gan waeled ein croesaw ac os bu i ni gael ar un amser ddim ac anfodlonai ni, bydda i ni anghofio hynny. [Page 56] eithr ni a wyddem nid oedd hyn ond gwe [...]jaith, canys cawsom yn Llettŷa mo'r Groesawgar ac allai un ddychymmyg; cymhell jawn rhag ein hanfodloni ni; canys nid oedd un o honynt nad oeddent yn barod, nid yn unig i fod yn weision, ond yn gaeth-weision, ie fy nghyfenw yr Henadur Tomaso, a ym orchestai o'r Bore, hyd oni byddai nôs i ddyfod naill ai a Llu niaeth a'i a Diod, neu ofyn i ni a'ioedd dim yn eisiau arnom; Ac yn awr am ei Wasanaeth ef tros bedwar diwrnod ar ddeg nid oedd un mewn un modd mewn gallu i dalu 'r pwyth: canys nis derbynent ddim Arian ond am ein Bwyd, ac am ryw wasanaeth gwael arall; ni oblegid hynny a gyflwynasom y Cwfent bob un o honom a deg ar hugain o Livers, a rhai ac oedd a Gweision ganddynt a roddasant fwy. Y Dirpwywr a'i derbyniodd, ac a roddodd ein henwau i gyd mewn Llyfr a'r cyfrif a roesont, ni gawsom olwg ar y Llyfr, yn yr hwn Yscrifennodd henwau yn unig, ac y gymhersom gopiad allan o hono o Enwau 'r Saeson ac oedd ynddo, o'r Flwyddyn 1591 hyd y dydd heddyw, ac oeddent 158 o gyfri.
A ni yn cymmeryd ein cennad oddiwrth yr Henaduriaid, dangoshasant i gyd lawer o ferch a chariad trwy wylo, a hyspysu i ni eu dymuniad i fwynhau 'n cyreillach ni yn fwy, a'n dymuniad ninneu oedd yn gymmaint i fod yn nês at yn cartref mal y gallem gael Hanes am ein Ceraint.
Mehefin y 4 ni ymadawsom, ein Mulyddion a ddarparasant Geffylau i ni; a'n hamcan oedd i gymmeryd Emaus, ar ein ffordd, eithr y nôs yn neshau; ni wnaethom Eglwys St. Jerom i fod yn lle i ni Gysgu: buasai gynt Henaduriaid yn anneddu yno eithr yr Arabiaida ddaethant arnynt ar hyd nôs, ac y dorrasant eu gwddfau hwynt i gyd: yr Eglwys hon a adeiladwyd yn dêg, a harddwyd a lluniau ar y Wal, y mae rhai yno y dydd heddyw; ynghylch dwy awr o Farchogaeth o Gaersalem, ni aethom tros Nant, o'r hon y casglodd Dafydd y Cerrig llyfnion a pha rai lladdodd ef Goliah. Mehefin 5 ni ddaethom i'r Cwfent yn Ramah, ynghylch deg ar Glôch y Bore; yno arosasom hyd ynghylch hanner Nôs, ar y cyfamser hwnnw yr oedd Llong yn ymadel, a rhai o honom a amcanasom i Longwrio, ac eraill o honom a gymmerent Lestr bychan megis cymmaint a Barge Gravesend; ni osodasom yn cynheiliaeth, sef Bara a [Page 57] Gwîn yn y Llong, ac yn y modd hynny ni osodasom i'r Môu a chadw ein hunain yn wastadol yn agos i'r Tir, rhag ofn Temestl. Yn ôl tri Diwrnod o hwylio ni gyrhaeddasom Aerica gynt a elwid Ptolemais, yr oeddem yn dyfod yn wastadol i Anghorfa bob Nôs, nid yw 'r lle yma yn enwog am ddim ond, ei charneddau; yr Anghorfa yma sydd mo'r golledig, hyd mai braidd y geill Llywydd y Llong wneuthur dim rhagor ond cadw ei Rhaftau ynghyd: Marchnadaethau y lle hwn ydvw y Gwlânbren neu Cottwm, lludw i wneud Sebon, a rhai [...]ilettos, ym mhen dau Ddiwrnod yn ôl hynny ni ddaethom i Dripoli, yno buom yn hŷ ar ein hên Lettŷ; y Consul an croeshawai ni yn dra llawen, a'n hamcan oedd i ymadaw y Dydd nesaf, eithr a'r haint y nodau yn brydio yn Aleppo, y Consul a'n cymhellodd ni i aros gyd ac ef, ddauddeg neu bedwar diwrnod ar ddeg; yn yr holl gyfamser cawsom ein Croeshawi mal Tywysogion, ac yn ôl hynny trwy ei gennad ef ni a Longwri [...]som mewn Llestr Môr o Holand i Scanderoon, ac eraill o'n mintai (rhai a adawsom yn Aerica er mwyn gweled Môr Galilea) yn dytod attom. Mehefin y 26 ni ddaethom i Scanderoon, yno rhai oedd wedi Marw, rhai eraill yn Marw, a'r naill yn ffoi rhac y llall. Ni arosasom ar y Bryn, ac ar Fwrdd y Llong tros ryw faint o amser: a'r Ail o'r Gorphenhâf ni ddaethom i Aleppo bu farw yno 'r amser hwnnw ddeg a thriugain neu bedwar Ugain yn y Dydd o'r Haint y Nodau, a Llymma derfyn ein Taith.
Desgrifiad Byrr o Balestine neu Wlâd Canaan, Gyda Hanes o'r hên a Phresennol gyflwr y Gwledydd hynny.
YN yr Oesoedd gynt, Yr oedd hon yn un o'r Taleithiau Godidoccaf yn Syria, hi alwyd yn gyntaf; Tîr Canaan, oddiwrth Fâb Cham, Fâb Noah yr hwn trwy ei fynych erlid a gymhellwyd i berchenogi a phreswylio ynddi. (2) Fe 'i galwyd hi Tîr yr Addewyd o herwydd addaw [Page 58] Arglwydd hon i'r Patriarchiaid Abraham, Isaac a Jacob, a'u hâd hwynt. (3) Israel, oddiwrth yr Israeliaid, a alwyd felly oddiwrth Jacob, yr hwn a gyfenwyd Israel. (4) Judea, oddiwrth yr Juddewon, neu 'r Bobloedd o lwyth Judah. (5] Palestine yn ôl Ptolomy ac eraill megis Philistines. Tir y Philistiaid, Pobl gadarn rhai a breswylient. (6] Tir Sanctaidd neu Fendigaid, a gyfenwyd felly gan Grist'nogion, o herwydd yn hon y cyflawnodd Crist y Weithred o'n Hiechydwriaeth.
Y Wlâd hon a gyflewyd ynghanol y Bŷd, rhwng y drydydd a'r bedwaredd Climat, ynghylch 52 Grâdd yn y Gogledd i linyn y Cyhydedd, a'r Dydd hwyaf yn bedair Awr ar ddêg a Chwarter, rhwng y Môr Canol-dir ac Arabia. oddiwrth pa un a diogelwyd hi tu hwynt i'r Jorddonen a pharhaus Restr o Fynyddoedd; ar y Dwyrain y mae Calosyria ac Arabia Petrea neu Arabia Gerrigog; Ar y Dehau Jaumea, Anialwch Pharam o'r Aipht, Ar y Gorllewyn, Darn o Phaenica; a'r Môr Canoldir, ar y Gogledd, y mae Mynyddoedd Libanus a darn o Phaenica: ei phellder oddiwrth y Llinyn y Cyhydedd ydyw un: Grâdd ar ddeg ar hugain, ac yn ymystyn i'r trydydd ar ddêg ar hugain, ac yn ôl hynny ei hyd yw o Dan i Beersheba, ynghylch 200 o Filldiroedd, a lle i mae hi lettaf, nid yw oddiar ddêg a deugain, eu holl Amgylchoedd sydd ynghylch 400 o Filldiroedd, Y Tir enwog ymma a glodforw yd gynt tu hwynt i'r holl Wledydd tan yr Haul, yn enwedigol o herwydd ei jachusrwydd a Hwyl-dda ei Hwybr, gan i chyfleu tan Climate tymherus, lle nad iw yr Gaiaf yn rhy Oer, na'r Hâf yn wresog; ac am ei ffrwythlondeb, Tir yn llifeirio o Laeth a Mêl, wedi harddu a Mynyddoedd teg a Dyffrynnoedd hyfryd, y Creigie yn pistyllio Dyfroedd jachus, ac heb un ddarn o honi yn anhyfryd ac yn ddifuddiol, canys y Meisydd a ddygent bob math ar-ffrwythau yn ddigonol a helaeth lawn Gnŵd.
Y mae 'r Wlad hon yn llawn o ffynonau peraidd a phorfeydd hyfryd ymha rai y Pescant laweroedd o Ddiadellau o ddefaid, a Bugeilfa o Ddâ a Gwartheg, yr rhain a ro'nt Laeth rhagorol, yn gystal a'r goreu yn y Bŷd: y mae yno hefyd hela ac hebocca hyfryd, am Geirw cochion, Geifr, 'Scyfarnogod, Petrissiaid, Sofljeir, ac [...]nod eraill; hefyd y mae pob math ar Adar, a bagad o Lewod, Arthod a Bleiddiau.
[Page 59]Ac er bod amryw Awdwyr yn rhoddi allan na ddylaem ni farnu 'r Tîr Sanctaidd fel y mae 'r Olwg arno 'r Dydd heddyw gan ei bod wedi syrthio tan Lywodraeth y Tyrciaid a'r Arabiaid, y rhai trwy Ryfel parhaus au hanrhaith, au gwnaethant agos yn Anghyfannedd ac yn Anialwch, megis lle gwrthodedig gan Dduw, etto amryw Ymdeithyddion yn ddiweddar sy 'n dywedyd, na ddy lid coelio 'r cyfan, y mae rhai sy 'n Tramwyo o Joppa ac oddiyno dros y Mynyddoedd i Gaersalem, ac yn ôl drachefn at y Môr rhag ofn yr Arabiaid; Lle y bu eraill mo'r Galonnog ac Anturio trwy ganol y Wlâd, y rhai sy 'n rhoddi llawer gwell hanes o honi, na'r lleill ai rhodîodd hi ar eu Traed tros Fynyddoedd Judea, y rhai ni chymmerwyd un Amser yn enwog, hyfryd nag yn ffrwythlon. Yr Ymdeithyddion hyn a fynegant i ni, er bod Wyneb y Ddaiar yn Afluniaidd yr Olwg arni, eisiau ei choledd a'i Llafurio, a'i gwrteithio ym mysg y rhai digrêd; Ac sy 'n debyg yn gruddfan tnn drom Felltith Duw, o herwydd Pechodau ei Thrigolion gynt, etto y mapeth o ôl Traed ei hên Ardderchowgrwydd gynt, yma a thraw iw weled dan wirio ei Godidowgrwydd yn yr hên Oesoedd, Ac yn enwedig yngoror Galilee, O'r tu Gogleddig i ba un y mae Rhesir o Fynyddoedd a elwir Lebanon ac odditanynt y mae Dyffryn neu Wastadedd 25 Milltir ar hugain o hyd, a deg a deugain o lêd, Ynghanol pa un y mae Dinas Damascus, a'i hamgylch yw chwe Milltir, sy wedi 'i Chadarnhau â Mûr â Chlawdd dau ddyblyg, y Wlâd oddiamgylch sy ffrwythlawn rag [...]rawl, o herwydd ei hyfrydwch fe ai gelwir Gardd Eden hyd y Dydd heddyw, ar Gwastadedd hynny yw 'r Olwg hawddgara a eill Llygaid i ganfod ar y Ddaiar. A Mr. Biddulph Difinydd o Sais wrth Dramwyo tros Fynydd yn agos i Fôr Galilee, ai cafodd hi 'n bur hyfryd, yn llawn o amryw Feillion a Llysiau Blodeuog ym mhlith y Gwyrdd Lysiau, ar Olwg arnynt megis yn gwenu yn eu Hwynebau; neu chwerthin a Chanu, fel y Traetha y Salmydd. A'r holl Fynyddoedd ar Gwastadedd y ffordd y Teithiasant y Dwthwn hwnnw, oedd yn dra ffrwythlon yn ôl Descrifiad Moses, Deut. 8. Maesydd Bashau neu Bethshan, yn Samaria oedd felly, ac mewn lle a elwyd Jemne, neu Enganîm, yn yr 'Scrythur hwy a welsant Erddi prydferth, [Page 58] [...] [Page 59] [...] [Page 60] Perllannau â Ffynnonau Dwfr, ac o Du Gogledd i Lidd [...], yn agos i Gastell Angia yn y Dalaith honno, hwy aethant i fewn Coedwig ragorol, yn llawn o Goed uchel a hyfryd, yn gymmyscedig a Dyffryn Blodeuog a Thoreithiog, felly nid allai dim fod yn fwy Croesawus, ao odid i'r holl Fŷd allu dango [...] golwg mo'r dirion ar fann honno.
Y mae yn Judea rhwng Ramah a Chaersalem Borfeuydd breision a da ynghylch Chwe Milltir o hyd, mae Esgyniad y Mynyddoedd ym mhlith Dyffrynnoedd ffrwyt [...]lon. Dyffrynnoedd Rephaim, Eshcol, a Jericho sydd dra hyfryd, oddigerth y rhei'ny sy 'n agos i Fôr Sodom, Ar holl Wlâd yn gyffredinol a ganmolir gan amryw Awdwyr, Ac a Ddarlunir megi [...] Paradwysydd Hyfrydol. Ac er bod y Wlâd Fendigedig ho [...] yn sefyll mewn Ardal boeth, yn gyd râdd o Wrês a thuedd losgedig Barbary, etto oblegid y Mynyddoedd, Dyffrynnoedd Ffynnonydd ac Afonydd, ar Môr Gorllewinol, etto Gwlâd Dymherus yw wrth ystyriaid eraill o'r unrhyw Osodiad.
Ffrwythau 'r Wlâd yn enwedig yw 'rhain, Bawm, Mêl Pêr Lyfiau, Myrrh, Gnau o amryw fath, ni ddylid gollwn [...] yn Ango na'i Gwenith; na'i Holew, â pha rai y mae'nt y [...] Masnach ym Marchnad Tyrus, nag y chwaith eu Haidd Rice Cymmysg ŷd, Afalau Euraid, Chworwddwr, Ffigus, Manna [...] Per-Aroglau, Afalau Gronynog, Ffenigl, y Fedwen Chwerw Ac Winwyn dri chymmaint a dim o'n rhai ni, pur beraidd heb ddim Arogl gwrthwynebus, ac yn Archwaethus i'r Cyll▪ A hynny oedd yr achos fod yr Israeliaid yn eu chwenych [...] cymmaint. Mwstard hefyd, yr hwn yw 'r lleia' o holl Hada [...] Gerddi, ac etto yn dwyn y Pren mwya' yn enwedig yn nhuedd y Dwyrain, Am ba un y Traetha Llyfr Talmud yr Jud [...] ewon Hanes neu Ddwy; sef fod yn Sichem fonyn o'r Co [...] Mwstard a thair Cangen arno, un o'r Canghenni hynny a dorrwyd i lawr i orchguddio neu i Doi Bŵth Crochenydd, ta [...] ba un y byddai ef yn llunio ei Lestri Prîdd yn amser Hâ', a [...] iddynt hela cymmaint o Hâd Mwstard oddi ar y Gangen honn [...] ac anneu mewn lle pedair ar hugain o Fffgys. Mae Rab [...] Simeon yn Traethu ymhellach yn y Talmud, fod ganddo [...] yn ei Ardd Bren Mwstard, yr hwn cymmaint ac y byddai [...] arferedig o ddringo i'w ben megis i ben Ffigusbren. Bucksto [...] [Page 61] yr hwn a Draethodd yr Hanesion hyn, nad yw e 'n ei rhoddi allan iw Cyflawn Gredu, eithr ei wirio fod y Planhigion hynny yn tyfu 'n fawr jawn yn y Wlâd honno, ac felly 'n Cryfhau Geiriau ein Jachawdwr oblegid hynny. Ym Mynyddoedd Juda ac Ephraim i'r oedd Gwinllanoedd mawrion, yr Hanes a roddodd yr Yspiwyr a ddanfonodd Moses, y rhai a ddygodd y Grawnswp mawr Ryfeddol hwnnw o Eshcol sy ddifai tystiolaeth o'u Maintioli; os cystadlir hwy ar rhei'ny o Spaen, Ffraingc ac Italy. O amgylch Jericho yr oedd Palmwydd o faint aruthrol, ai sydyn Dyfiad ar ôl eu Ysgythru neu torri i lawr, ar unig tan o'r Bŷd i gael Balm jawn ydyw. Mae 'r Mynyddoedd hefyd yn rhoddi allan Fwn Aur, Haiarn ac Efydd. I ddibennu yn y Wlad hon, (neu Ardd Duw) y mae pob peth ac sy'n Anghenrheidiol er lleshâd Dynol-ryw.
Ffrwythlondeb y Wlâd a'r gofal a gymmerwyd gynt iw gwrteithio a'i Diwyllio, sy hawdd i ni gydnabod, gan ystyried ei lleied, a'i bod hi 'n Meithrin cynnifer rhifedi o Ddynion. Canys er ein dŵyn ni i well Dealltwriaeth o honi y mae Gwr Celfyddgar yn crybwyll am bellder Dan oddiwrth B [...]ersheba, mae St. Jerom yn cyfri nad ydynt ddau Can Milltir oddiwrth eu gilydd, a Llêd cyffredinol y Wlâd rhwng deng Milltir a deugain a thriugain. Y mae 'n cynnwys o Faintioli o Dîr yn gyffelyb i Ddarn neu gwrr o Loegr, megis ped faed yn tynnu Llinyn o Bortsmouth i Yorc, ac yn cyrraedd oddiyno i'r Dwyrain hyd Fôr Germany: Neu nid hwyrach nad yw 'r cwbl ddim helaethach na Thywysogaeth Cymru, Gadewch dynnu Llinyn yr hwn a gynnwys yr holl Wlâd o Fristo i Gaerlleon ar Ddyfrdwy, yr hwn wrth y Mesur newydd a gynnwys 145 Milltir oddiwrth eu gilydd, a pha faint bynnag sy 'n eisiau o hŷd, y Llêd a eill ei gyflawni. Hefyd nid oedd yr Israeliaid yn ymboeni eu hun [...]in ond ag yc hydig Farchnadoedd Morawl, i'w harlwyo a phethau o Wledydd dieithr, yr hyn sy 'n Siccrhau yn fwy dilys ryfeddol ddigonoldeb y Wlâd honno; Yn unig un peth sy i ddalsulw arno, eu bod hi yn Wlâd lawn o Fynyddoedd, yr hyn ai gwna hi 'n helaethach o Lawer na Gwlâd wastad; Canys f [...] ddywedir am Scotland ei bod hi Gan milltir yn hwy na Lloegr, a Chan Milltir yn fyrrach, yr un peth a ellir i ddywedyd am Palestine, ei bod hi wrth hyd ei Graddau yn fyrrach o Gan Milltir, Ac i'r sawl a Ymdeithio [Page 62] i fynu ac i lawr tros i Brynniau ai Mynyddoedd hi, hi a gyrraedd gan Milltir ym mhellach o hyd. Mae 'r un Awdwr yn dywedyd hefyd, gan ei bod hi yn Fynyddig, a bod yr Awel weithiau yn oerllyd yno, ar Gwynt yn eglurhau 'r Wybr, o darth a chaddug, Ac od oes un Lle yn Lloegr a ellir i gyffelybu o Garenydd yn y Bŷd i Wlâd Canaan, mae 'n tybiaid mai Defon Sir yŵ 'r debycca iddi, ond bod Caanan yn Ffrwythlonach o lawer, a'i Mynyddoedd yn îs, oddigerth Carmel a Lebanon, Gan hynny yn gyffelybiaeth iw mân Fynyddoedd, a'i Bryniau lled isel, a Dyffrynnoedd hyfryd, a rhai Gwastadoedd, mae e'n cyffelybu y rhan Fynyddig o Hartfford Sir i fod yn debycca iddi, ei hamryw Neintydd hyfryd, a Llwyni, a Gelltydd ferchogaidd o'i hamgylch, A chwedi hardd wisgo a Llysoedd a Phalasau Pendefigion a Boneddigion; Eithr y mae Gwlâd Caanan yn rhagori ar hon mewn un peth, gan ei bod hi yn cael golwg hyfryd ar y Môr gorllewinol, gwynt pa un sy fwy buddiol, ar Trigolion gan mwya' yn jachusach, na'r sawl sydd dan Effaith y Dwyreiniol Wynt y Môr.
Gan fod Gwlâd Jsrael wedi ei chau mewn Cyffiniau a Therfynau cyn gaethed ac y sonir am deni, y mae 'n gofyn bod Gŵr a ffŷdd gre' ganddo i gredu 'r cwbl y mae 'r Yscrythur yn i grybwyll yn ei chylch hi, Pan aeth yr Israeliaid gynta i'r Wlâd tan Josuah, yr oeddynt uwchlaw Chwe chan Mîl yn dwyn Arfau, o Ugain hyd yn nhriugain Oed, Ac ni a ddarllenwn yn y Barnwyr, fod yn Rhyfel Gibeah yn unig o Lwyth Benjamin, y lleia o'r cwbl, fod o honynt Fyddin o Chwe Mil ar hugain o Wyr, a'u bod hwy i gyd yn bedwar Can Mîl. Brenhin Saul a ymdeithiodd a Dan Can Mîl a deng Mîl o Wŷr yn erbyn yr Amaleciaid, pan ddadwreiddiodd ef hwynt, Brenhin Dafydd a gadwodd yn gyfannedd 12 Llu o Wyr Traed, o bedair Mîl ar hugain bob un, y rhai oedd yn gwneud Gwasanaeth Misawl iddo, ac oeddynt i gyd yn ddau can Mil a phedwar Ugain Mil o Wyr. Ac wrth Rifo 'r Bobl, yr hyn a enynnodd Lidiawgrwydd yr Arglwydd yn ei erbyn, fe gafwyd yn y Droellen fechan honno o Ddaiar, bymtheg Cant a thriugain Mîl, a deng Mîl yn Israel a Juda yn tynnu Cleddyf, ac yn gymmwys i'r Rhyfel, [Page 63] heblaw Gwyr Lefi a Benjamin, a Gwragedd a Phlant, a'r hên Bobl ar rhai clwyfus, ynghyd a Dieithriaid a Chenhedioedd, gweddillion y Philistiaid, y rhai oedd heb eu dadwreiddio allan yn amser Dafydd, nid oedd neb o'r rhei'ny wedi rhoi i mewn yn Rhifedi Joab. 1 Chron. 21.1. Nid Llywydd Jehosaphat y chwaith yn fyrr jawn o'r cyrri hwnnw yn ôl ei gyf [...]an, er nad oedd ganddo er fawr gyda 'r drydedd Rann o Deyrnas Dafydd; etto efe a faentumiodd Luoedd mawr, y rhai y wnaent un Cant ar Ddêg Mil, a thriugain Mil o Wyr Effeithiol, heblaw y rhai oedd ganddo, yn yr Ymddiffynfeuydd ar lleoedd cedyrn, 2. Sam. 24.9.
Pa fodd bynnag nid oes dim yn hyn yn Anghredadwy, heblaw yr A [...]urdod ddiamheus, a Gwirionedd yr Yscrythur Sanctaidd, yr hyn a ddylae gael ei gredu 'n ddiammau, ni allwn daro wrth y cyfryw 'Samplau mewn Hanesion Cyffredin: Fe g [...]odd Thebes fawr yn yr Aipht Saîth gan Mîl o Filwyr grymmus o'i Thrigolion ei hunan yn unig yn Rhufain ym Mlwyddyn gynta' Seferus Tullius, yr honno oedd y ganfed ar wythfed a phedwar ugain Mlwyddyn ar ôl ei sylfaen, fe rifwyd yno Bedwar ugain Mîl o Ddinasyddion cryfion yn gallu dwyn Arfau, a'r rhêi'ny i gyd yn gynnwysedig yn y tîr o amgylch Rhufain, lle y mae 'r rhann fwya 'r awrhon yn llwm ac yn ddi-Drigolion; Canys nid oedd i Harglwyddlaeth nepell o bedair Milltir ar hugain i 30, yna 'r oedd cyfrwysta'r gwyr gyn [...] yn sefyll ac yn rhuthro am ben a Chythryblu eu Cymmydogion, hwy wnaethant eu gorau ar gynnydd y Pobl a gwrteithio eu gwlâd, pa un bynnag a'i llawer ai Ychydig, I wneud Priodasau yn ddedwydd, au Bywyd yn esmwyth, i gynnyrch Jechyd a llwyddiant; ac i dderchafu eu Tiroedd yn doreithiog; Hwy a ymarferent ei Dinasyddion i Ddiwydrwydd, gan eu Cynhyrfu i garu eu gwlâd, i fyw mewn Undeb ym mhlith eu gilydd, i ufuddhau i'r Cyfreithiau: Y pethau hyn a gyfrifent hwy 'n gyfrwystra.
Nid hwyrach i rai fod y Rhesymmau hyn yn dêg, ni awn at bethau pennodol, a dangos y modd ŷ gallai gwlâd cyn lleied a Phalestine fagir a Maethu cymmain [...] o Rifedi o Bobl Cyfair o dîr da, a ddug bum Chwarter, Comb, a Mesur o Wenith, o fesur Llundain a wna Ymborth digonol i bedwar o [Page 64] Wyr tros Flwyddyn, gan roddi i bob un, ddau Bwys a chwech Wns o Fara bob Dydd, yr hyn ydyw ynghylch tri Mesur bob Mis. ac un mesur ar bymtheg ar hugain i bob Gwr tros Flwyddyn, Eithr gan fod ein Israeliaid ni 'n Bobl fwytteig, gadewch iddynt gael y ddau cymmaint o Luniaeth, hynny ydyw pedwar pwys a deuddeg Wn [...] bob Dydd o Fara: Felly cyfair o Dir a rydd ymborth digonol i Ddau o Bobl, ac wrth y cyfri hwn ni a gawn Dir yngweddill etto: Canys Leag, neu Dair Milltir o Dir pedwar Onglog neu Scwâr a wna o gyfeiriau bum Mil chwechant a phump ar hugain Cyfair, wrth gyfri 3 Mil o Paces neu Gamrau Geometrical, mewn Leag pum Troedfedd mewn Pace, ugain Troedfedd mewn Gweilging ne [...] Droftan, a chant Gweilging mewn Cyfair, Teyrnas Judea o'r fan lleia' oedd yn ddeg ar hugain Leag, o hyd, a thros ugain o lêd, wrth gyfri ei Hyd o'r Dwyrain i'r Gorllewin yr hyn sydd chwechant o Leagau, ac wrth hynny yn cynwys Tair Myrddiwn tri Chant a phum Mîl a thriugaiu o gy [...]eiriau. Ac yn ol y Cynnulliad yma a eill Feithrin y dau cymmaint o Drigolion, hynny ydyw Chwe Myrddiwn Saith gant a Deng Mîl a deugain o Bobl, Eithr nyni a adawn allan hanner y Tîr tu ac at leoedd diffrwyth a diffwys, Creigiau, traethau Tywodlyd, Anialwch i fynu ac i lawr, Gwinllannoedd a Phorfeuydd, ac hefyd y gorphwysfa y mae Tir yn ei ofyn, megis Blwyddyn mewn saith, Etto y mae digon yngweddill i Feithrin Nifer o Ddynion, gogyfair a Chasgliad y Cyfeiriau, hynny ydyw, Tair Myrddiwn tri chant a phum Mîl a thriugain: Gan hynny gwaith esmwyth oedd Casglu yn y Wlad honno ddeuddeg Canmil o Wyr yn tynnu Cleddyf, lle 'r oedd pawb yn dwyn Arfau, a chanddynt Yd bob amser iw werthu i Ddieithriad tu ag at brynu Anifeiliaid; Ac onid oedd y Diadellau o fagwraeth y Wlâd honno yn ddigonol iw Gwafanaethu a Gwlân a Chig. nid oes ammau nad oedd llawer o Anifeiliaid yn dyfod iddynt yn Deyrnged oddiwrth Ddieithriaid, Fe a dderbyniodd Jehosophat heblaw 'r Arian Teyr [...] ged a ofynnodd ef gan y Philistiaid, oddiwrth yr Arabiaid faith mil a phum cant o Hyrddod ac o Eifr hefyd yr un Nifer. Y mae hanesion eraill am y cyfryw Deyrnged, Hefyd yr Israeliaid oedd yn byw yn gynnil, ac yr oedd [...] holl Diroedd [Page 65] gorau hwy gwedi eu gwrteithio 'n rhagorol; Gan nad oedd fawr Goedydd na Cheodwigod i hela ynddynt na diffaethwch nag Anialwch, na dim Tîr hebcor, ni wel wn Ynghaniadau Solomon, fod eu Gerddiyn llawn o ffrwythau Coed, a Phlanhigion; A diammau yw fod yn haws Arlwyo Llettyson na Chynheiliaeth iddynt, gan fod hanner, ie y Bedwaredd rann o Gyfair o Dir yn llawn ddigon, nid yn unig i Wasanaeth un Gŵr ac Ymborth ond Teulu cyfan.
II. Amryw Gaethgludiadau'r Jeuddewon Genedl yn ôl iddynt Berchenogi neu Feddianu Gwlad Canaan.
Y Wlâd ddedwydd honno a Ranesid gynt yn ddeg ar hugain o Deyrnasoedd neu Dywysogaethau, pan ddarfu i, r Israeliaid tan Reolaeth eu Penllywydd Josuah a thrwy Orchymmyn Duw oresgyn y Wlâd, y rhan fwya o'r hê [...] Drigolion a yrrwyd allan o'r Tir neu a ddifawyd gan Gleddyfyr Israeliaid o herwydd eu ffieidd dra y rhai gwedi hynny a Reolodd y Wlâd gan D'wysogion a Barnwyr hyd amser Samuel, ynghylch pum Can Mhlynedd, nid oedd y Rheolwyr neu 'r Barnwyr hynny i gyd yn deilliaw o un Llwyth; eithr y rhai Heneiddia, synwyrola, a mwya Pwyllog a ddewisid allan o bob Llwyth. O'r diwedd yr Israeliaid a flinodd ar y rheolaeth tan ba un y darfu i'r Hollalluog eu gosod. Ac ar eu difrifol erfyniad ar gael o honynt eu Rheoli megis Cenhedloedd eraill. Yr Arglwydd a roddodd iddynt Frenhin, felly newidiwyd honno o osodiad Duw, i un o Unbennaeth neu Archdeyrniaeth. Tan ba Reolaeth y canlynasant o Flwyddyn y Bŷd▪ 2909. hyd y flwyddyn 3416. Ym mha amser trwy eu hamryw Ddefw addoliaeth, Gorthrymder, a'u Beiau mawrion eraill y [...] llidio yr Arglwydd nes eu Caethiwo gan amryw Frenhinoedd dieithrol, y rhai oedd chwannog i gyssylltu 'r Wlâd ddedwydd honno at ei heiddo 'u hunain; o'r diwedd gan Erlid a rhoi i Farwolaeth y Seinctiau a'r Prophwydi a ddanfonasai Duw i'w plith, A Chroeshoelio unig F [...]b Duw; Arglwydd y Gogoniant, ac Jachawdwr Dynol ryw, au dwylo Llofruddiol, ac yn bendifaddau erfyn ar Euogrwydd ei Waed Gwirion ef syrthio ar e [...] pennau hwynt au Plans, yr hyn a ddygodd eu [Page 66] Llywodraeth au Gwlâd i lwyr Ddistryw ac Anghyfannedddra.
Dengwaith y Caethgludwyd neu y dygwyd yr Israeliaid i Gaethiwed, Pedair gan Sanherib, neu Senacherib, pedair gwaith gan Nebuchadnezzar, unwaith gan Titus Vespasian, ac unwaith gan Adrian Ymerawdwr Rhufain, fel y mae'r Yscrythur yn Tystiolaethu, ac yn ôl cyfri Josephus, a hanesion eraill.
Y Gaethglud gyntaf y wnaeth Sanherib, yr hwn a ruthrodd am ben y Tîr ac a Ddiblannodd y Reubiaid, y Gadiaid a hanner Llwyth Manasseh. Fe a ddygodd ymmaith hefyd y Llo Aur a wnaethai, Jerob [...]am Fâb Nebat, fe a ddygodd yr Israeliaid i Hela, Habor hyd Afon Gozan, ac i Ddina [...]oedd y Mediaid. Y Gaethglud hon a ddigwyddodd yn amser Peckah Fâb Remaliah, yn y Flwyddyn er [...]readigaeth y Bŷd 3262.
Yr Ail Gaethglud a ganlynodd ar frŷs, canys Hoseah Fâb Elah (a addawsid yn ôl aladdodd Peckah Fâb Romaliah Frenin Israel, ac yna fe aeth yn Wasanaethwr ac yn Ddeiliad i Sanherib saith Mlynedd; Yna Sanherib yr Ail waith a ddygodd ymmaith Lwyth Aser, Issackar, Zebulon, a Nepthali; eithr efe a ryddhaodd un o bob Wyth, ac a gymmerodd ymmaith hefyd Lô arall o Bethel.
Y Drydydd Gaethglud y fu 'n Nheyrnasiad Zedekiah Fâb Ahaz. yn y Bedwaredd Flwyddyn o Deyrnasiad pa un, Sanherib y ddaeth ac a fwriodd glawdd oddiamgylch Samaria, ac ymmhen tair Blynedd o Warchauad, efe ai cymherodd hi yn y Chweched Flwyddyn a Deyrnasiad Hezekiah, felly efe a gymmerodd ymmaith yr Israeliaid oedd yn trigo yn Samaria, a Llwyth Ephraim a gweddill Llwyth Manasseh.
Y Bedwaredd Gaethglud gan Nebuchadnezzar, yr hwn yn ôl iddo Deyrnasu Wyth Mlynedd, a Ryfelodd yn erbyn Caersalem, gan ddwyn gydag ef Hereticiaid Clinteon o Fabilon, Ethiopia, Hemates, Areim a Sephitvain, Fe a gymmerodd Gant a deg a deugain o Ddina [...]oedd Juda, ym mha rai yr oedd Dau o Lwyth Juda a Simeon, y rhai a ddygodd ymmaith gydag ef, ac ai danfonodd yn ddiymaros i Halab a Habor, Ne's i Frenhin Ethiopa Wrthryfela yn ei erbyn, Teyrnas pa un oedd o'r tu Dehau i'r Aipht, yna efe a gymmerodd Lwyth Jud [...] a Simeon gyd ag e' ac a Ryfelodd yn erbyn Brenhin Ethiopia, [Page 67] Felly Duw Fendigedig a Sanctaidd a'i gosododd hwy yn y Mynyddoedd tywyllion. Gan hynny y Dêg Llwyth trwy 'r pedair Caethglud a ddygw [...]d ymmaith i Alltudiaeth a Deol iad gan Sanherib a Salmanasser. Fe adawyd yn ôl o Juda. Gant a Deng Mil, ac o Benjamin Gant a Deng Mil ar hugain yn Ninas Caersalem a Hezekiah yn Teyrnasu arnynt, Drachefn Sanherib neu Senacherib Frenhin Assyria a ddaeth o Ethiopia yn erbyn Caersalem ac un Gan Mil a deng Mil o Wyr mewn Arfau eithr yr Hollalluog Dduw a 'u Gorchfygodd, Canys Angel yr Arglwydd a drawodd mewn un Noswaith Gant a phedwar ugain a phum Mil. Y Lladdfa honno a fu yn y Bedwaredd Flwyddyn ar ddeg o Deyrnafiad Hezekiah. Ym Mlwyddyn y Bŷd 3294, O'r amser hwnnw nes dyfod Nebuchadnezzar i ruthro am ben yr Juddewon yn Nheyrnasiad Jehoiakim yr oedd Gant a saith Mlynedd.
Y Bummed gaethglud a [...]u yn y Bedwaredd flwyddyn o Deyrnasiad Jehoiakim, pan ddaeth Nebuchadnezzar y tro cynta' ac a ddygodd ymmaith 3023 o Lwythi Judah a Benjamin, A saith Mîl o'r Gwyr gwrola o Lwythi eraill a rwymasant mewn Cadwyni.
Y Chweched Gaethglud a fu ynghylch Saith Mlynedd ar ol hynny, pan ddaeth Nebuchadnezzar i Daphne Dinas o Antioch, o ba le fe a ddygodd ymmaith i Gaethiwed, bedair Mîl a chwechant, o Lwyth Juda a Benjamin Ddengmil a deugain, ac o'r Llwythi eraill Saith Mîl, hwy a symmudwyd i Babilon.
Y Seithfed Gaethglud a ddigwyddodd ynghylch naw mlynedd ar ol hynny; Canys yn y Nawfed Flwyddyn o Deyrnasiad Zedekiah y daeth Nebuchadnezer yn y ddegfed flwyddyn o'i Deyrnasiad y drydedd waith i Gaersalem, ac a orchfygodd Zedeciah, gan losgi 'r Deml, a chymmeryd ymmaith y Golofn, y môr o Brês, ar Dodrefn y wnaethai Solomon a [...]oll Le [...]tri Tŷ 'r Arglwydd, a Thryssorau Tŷ 'r Brenhin yr hwn oedd Ynghaersalem, ac a'u danfonodd oll i Babilon, hefyd efe a laddodd naw Cant ac un mîl o'r Israeliaid, heblaw y rhai a laddwy [...] [...]i ddial Gwaed Zacharias, Y Lefiaid a faiasa [...]t dan ga [...]u Cerdd tra buwyd yn gwneud Lladdfa arnynt, eithr ni allasant ddiweddu cyn i'r gelynion fyned i mewn i'r Deml, a'u cael [Page 68] hwy 'n sefyll yn eu Lleoedd au Telynau yn eu dwylo, gan hynny fe a ddygodd ymaith o'r Achos yn y Gaethglud honno 6000 o'r Lefiaid, y rhai oeddynt Hâd Aaron, y rhai pan ddygwyd gan y Cenhedloedd at Ddyfroedd Babilon, gan eu cymmell i Ganu un o ganiada [...] Sion, Ar hynny yr Offeiriaid o'r Achos a gnôdd ymmaith bennau 'u Byssedd au Dannedd; gan ddwedyd pa fodd y canwn ni Caniad yr Arglwydd mewn gwlâd ddieithr? Ar Arglwydd Bendigedig medd Josephus, (gan na chanant ganiad) a helaethodd arnynt ac au gosododd y tu pella i Sambatia. Nebuchadnezar a ddygodd ymaith hefyd Wyth gant a Deng mîl ar hugain y rhai oedd oll o Lwyth Juda a Benjamin, heb adel ond Chwe mîl yn unig Ynghaersalem, ac a wnaeth Gedeliah Fâb Ahikam yn Rheolwr arnynt yr hwn a laddwyd gan Ismael Fâb Nehemiah, a'r Israeliaid a ofnasant ac a ddiengasant o'r achos i Wlâd yr Aipht, ym mlwyddyn y Bŷd 3416.
Yr Wythfed gaethglud, a ddigwyddodd yn yr Wythfed Flwyddyn ar hugain o Deyrnasiad Nebuchadnezzar, efe a gymmerodd yr Aipht a Thyre, fe foddodd yr Juddewon oedd yno; a'r Cenhedloedd oedd yn deilliaw o Moab ac Ammon, ar wlâd oedd yn terfynu ar Israel, ac a ddygodd Jeremiah a Baruch gyd ag ef i'r Aipht, a phedair mil a chwechant o wyr yn ychwaneg. Hynny o Israeliaid a adawyd yn fyw yn yr Aipht a ymsymudodd i Alexandria, lle y darfu iddynt mewn ychydig amser amlhau a chynnyddu 'n amryw filoedd lle 'r oedd ganddynt eu Cyssegr, ai Hallor, Offrymmau, Thusserau tai, Llyfr-gellau a llawer o Ysgolion Dysg, ac mewn byrr amser hwy aethant yn dra Chyfoethog a Galluog. Eithr Troganus Ddrygion us a Ryfelodd yn eu herbyn, ac a laddodd amryw o honynt. Dyma 'r yr wythfed Gaethiwaid a ddigwyddodd ir Jaddewon tra y Safodd y ty Cynta' a'r Deml. ddengmlynedd a thrugain yn ôl eu Hanrheithio. Hyd oni ddarfu i Cyrus Brenhin Persia, ddanfon at Nehemiah, Zerobabel, Baruch, au holl Gyfeillion. Gan orchymmyn iddynt Adailadu 'r Ail Tŷ ar Deml, yno yr aeth Ezra allan o Babilon a Deugain Mil gyd ag ef, wedi bod yr Israeliaid dair Blynedd ar ddeg ar hugain yn Orthrymmedig, gan orfod dioddef pob math ar watworgerdd, drwg enilib a chabledd eu Gelynion, ac yn barod i gael torri [Page 69] eu Gyddfau ar Orchymmyn lleiaf y Brenhin Galluog hwnnw, fel ymddengus wrth yr Ordinhad greulon honno a dderbyniodd Haman yn eu herbyn, au hymddiffyniad trwy Esther. Hwy fuant ugain Mlynedd cyn gallu gorphen Adailadu 'r Deml yn ôl eu Dychweliad cynta' hwy fuant Driugain Mhlynedd ymhellach cyn adeiladu 'n gyfan gwbl Gaerau Caersalem, yr hyn i gyd y fu Bedwar ugain mlynedd yn ail sefydlu. Tra y pharaodd Brenhiniaeth y Persiad yn ôl hynny hwy fuant fyw yn Heddychol mewn math ar Reolaeth gyffredin tan yr Arch Offeiriaid a Chyngor Deg a thriugain o Henuraid.
Alexander Brenhin Macedonia a Anrheithiodd Deyrnas y Persiaid, ac a Deyrnasodd Ddeuddeng Mlynedd ac a fu farw. A Phedwar Gormesdeyrn a ganlynodd: y rhai a Orthrymodd yr Israeliaid tros gant a deunaw a deugain o Flynyddoedd, Wedi hynny daeth Meibion Asmonani y rhai a laddodd y Gormeswyr ac a gymerasant y Rheolaeth oddiarnynt, gan Deyrnasu eu hunain Gant a thair Blynedd yno Rheolodd un Herod Gwâs i Afmonani, yn ôl iddo lâdd ei Benllywydd ar holl Deulu ond un [...]erch ifangc a garai ef, yr hon a ddringodd i ben y Tŷ, Gan ddywedyd. Nid oes un byw o Dy Fy Nhâd ondy fi'n unig. Ar hynny hi ai taflodd ei hunan i lawr bendramwngi ac a fu farw. Herod ai gosododd hi mewn Mêl, ac ai cadwodd-tros yspaid saith mlynedd, ac fe ddywedir fod iddo a wnaeth ai Chorph flynyddoedd yn ôl ei Marw. Yn ei ôl ef Herod Agrippa ei Fâb a Manasah ei nai a Feddiannodd y Deyrnas Gant a thair Blynedd. Ac felly y bu tros bedwar Cant a thair blynedd, tra safodd yr ail Tŷ ar Deml hyd eu llwyr gwymp.
Y Nawfed Gaethglud yr Juddewon yr hwn a fu tan reolaeth y Rhufeiniaid, ar Juddewon yn ol iw Pechodau redeg trosodd yn gyflawn, trwy roddi iw Farwolaeth Arglwydd y Bywyd, Barnedigaethau Duw yn ôl eu haeddiant, a Phrophwydoliaeth ein Jachawdwr Bendigedig au gorddiwesodd yn fuan. Canys Byddin alluog y Rhufeiniaid a warchauodd ac a Ysglysaethodd Ddinas Caersalem trwy Din, newyn, Cleddyf, ag Anghyttundeb yn eu mysg eu hunain & [...] Un Can Mil ar ddeg a gollodd eu bywyd.
[Page 70]Ac er [...]od y Nifer yn fawr jawn, etto y mae i ni le iw Credu wrth Ystyriaid, i'r Gwarchau ddechrau, yn Nyddiau 'r Pasc, pan oedd yn agos holl Wyr Judea wedi 'u hamgylchu Ynghaersalem, Pob Eglwys neilltuol oedd yr amser hwnnw yngwasanaeth y Fam Eglwys, sef y Deml, felly 'r oedd mwy o Ddieithriaid yn y Ddinas na'i Thrigolion sefydlog, felly y Pasc yn gynta' a sefydlwyd gan Dduw mewn Trugaredd i gadw 'r Israeli [...]id rhag Marwolaeth yn yr Aipht, ac a arferwyd y tro hwn mewn Cyfiawnder 'i frysio eu Dinistr, ac i gasglu ynghyd yr holl Genedl, megis Dyrnaid iw taflu yn Nhân ei Ddigofaint,
Heblaw 'r rhai a Laddwyd, fe a gymmerwyd dwyfil ar bymtheg a phedwar Ugaîn yn Gaethweision, a'r sawl a brynnodd ein Jachawdwr am ddeg dryll ar hugin o Aria [...], gan Suddas; a werthwyd bob yn ddeg ar hugain am un Geiniog,
Pen Llywydd y Rhufeiniaid yn y Weithred hon oedd Titus Vespasian, Ymerawdwr Rhufain, Tywysog o'r fath Gynneddfau rhagorol, o'r Achos fe'i galwyd ef Anwylyd Dynol Ryw; wrth y Rhinweddau yr oedd ef yn Gyfranol o honynt, fe ellid ei Haeddedigol gyfri e 'n Ogoniant yr holl Genhedloedd ac yn gywilydd i'r Rhann fwya' o Grîst'nogion, a gresyn mawr oedd na chowsai 'r fath Gangen Ddaionus ei thyfiad o well Gwreiddyn. Felly Henafiaid Genedl yr Juddewon, y rhai a ellid gynt eu galw Anwyliaid yr Hollalluog a Ddifrodwyd oll, Ac Ardderchog Ddinas Caersalem a gowsai eu difrodi ai Hysglyfaethu bum waith o'r blaen, a Ddinistriwyd yn llwyr gwbl
Ei sylfaenydd cynta' oedd un o Dywysogion y Canaaneaid, fe alwyd yn ei Jaith ei hunan y Brenhin Cyfiawn, ac yn wir felly 'r oedd, canys efe oedd yr Offeiriad cynta' a Aberthodd i Dduw, ac a Gyssegrodd y Deml yno a elwyd Solyma, Ond Dafydd Brenhin Israel a yrrodd allan y Canaaneaid, ac a'i rhodd i'r Juddewon i'w Phreswylio, ac yn ôl 464 o Flynyddoedd a thri Mîs, Fe ai Diniftriwyd gan y Babiloniaid; ynghyd a Mawredigrwydd y Brydferthaf Deml Solomon Frenhin, ar ba un y gweithiodd un Cant a deng Mil a deugain o Wyr yn gyfan gyfannedd nes ei gorphen; Rhwysg y lle Gogoneddus hwnnw a ellwch Ddarllain am dano yn yr Yscrythur [Page 71] lân. Caersalem wedi hynny a Ysglyfaethwyd ac a gymmmerwyd gan Aso [...]heus Brenhin yr Aipht, wedi hynny gan Antiocbus a Phompey, ac yn ddiwaetha' gan y Rhufeiniaid, ac er pa [...] Deyrnasoedd Dafydd Frenhin; yr hwn oedd yr Juddew Cynta' a Deyrnasodd yno, hyd i Ditus ei Difrodi, oedd 1179 o Flynyddoedd, ac er pan Adeiladwyd hi gynta' hyd ei Hanrheithiad, oedd 2177 o Flynyddoedd, etto er hynny nid allodd Heneiddrwydd, Cyfoethogrwydd, nai henwogrwydd, nag Anrhydedd eu Crefydd, leshad yn y Bŷd, i attal eu Hanffortun galed, y cyfryw ddiwedd oedd Gwarchauad Caersalem pan nad oedd neb ychwaneg wedi 'i adel iw Lâdd, na dim yng weddill i'r Milwyr, i'w gael, neu i Ymarfer eu Gwroldeb, y rhai oedd wedi ymroi na adawent hwy ddim ar eu hôl ac allent i Ysglyfaethu.
Titus y wnaeth ei orau ar Achub y Deml, ar rhai foedd o'r tu fewn iddi, Eithr yr Juddewon oedd mo'r fyrrbwyll gyndyniog, au gwnaethant eu hunain yn Anhaeddol o Drugaredd, ac o'r achos fe orfu arno o'r diwedd ddinistrio y Ddinas a'r Deml ynghyd, y Deml lle 'r Offrymmasid gymmaint o boeth Offrymmau, y wnaed yr amser honno yn Offrwm ei hunan, ac a losgwyd yn Ulw; ac ni adawyd Carreg ar Garreg o'r Adail uchel Ardderchog honno a Rhyfeddod yr Apostolion, Pechodau 'r Juddewon, y rhai oedd yn Ymddlffyn y lle, ie. a siglodd, sigodd; ac a Adfeiliodd fwy ar Furiau yr Ddinas, nag y wnae Offerrynau a Magnelau Hyrddod y Rhufeiniaid yn ei hymgyrch, fe au gwnaed yn gyd wastad ar llawr onid tri Thŵr yn unig, y rhai oedd fwy prydferth na'r lleill, sef. Phiselus, Hippicos, a Mariamne, a'r Mur o du 'r Gorllewin oedd yn sefyll, a feddyliwyd i adel yn Ymddiffynfa, ac yn Goffadwriaeth o Gryfder a gwroldeb y Rhufeiniaid, y rhai â orchfygasent Gadernid y cyfryw Genedl a lle, yr holl fannau eraill oedd wedi gwneud mo'r wastad, nad oedd argoel yn y Bŷd wedi 'i adel i'r sawl na adwaenent y lle o'r blaen, fod rhai yn Preswylio 'r cyfryw fann.
Eithr tra fu 'r holl Derfysg hwnnw ar yr Juddewon Anghredadwy, yr oedd tawelwch ym mysc y Christ'nogion, y rhai a Ragrybuddiwyd trwy Eiriau, ac amryw bethau Aruthrol eraill, hwy a ddiengasant mewn pryd o Gaersalem i Dref fechan [Page 72] a elwid Pela tu hwynt i'r Jorddonen, y fan a wasanaethodd eu tro megis Zoar fechan i'w cadw oddiwrth Ddinystr echryslon.
Ac am Weddillion yr Juddewon, digofaint yr Arglwydd au canlynodd hwy 'n wastadol, ni's difa y rhan fwya o honynt. a'r lleill a wasgarwyd trwy 'r holl Fŷd hyd y Dydd hedd [...]w; Canys yn gynta' Trigolion Caesaria a laddodd o honynt mewn un Diwrnod ugain Mil, ar rhai a ddiengodd a ddaliwyd ac a Garcharwyd gan Florus Rhaglaw Judea; I ddial llîd y Lladdfa honno'r Juddewon a ruthrodd ar y Syriaid ymmha Frwydr y lladdwyd Dengmil ar hugain o'r Juddewon, Pobl Alexandria a laddodd o honynt a'r Cleddyf ddengmil a deugain, Gwyr Damascus a laddodd o honynt ddeng Mîl. Antonius Tywysog Rhufeinaidd a laddodd ddengmil yn Ascalon, a Cestius Tywysog arall a laddodd o'r Juddewon oddiar Bedair Ugain Mil. Vespasian Tâd Titus yngwarchau Apheca, a laddodd ac a gymmerodd yn Garcharorion ddwyfil ar bymtheg a chant a deg ar hugain o Wyr. Yn Samaria un mil ar ddeg a chwe chant. Yn Josapata, deugain Mîl a dau Cant. Yn Joppa y lladdwyd ac y foddodd eu hunain gymmaint oni hwdodd y Môr i fynu bedair Mil a dau Cant o Gyrph Meirwon, ar gweddillion a ddarfu am danynt oll, fel nad oedd un o honynt wedi 'u adel i ddwyn newydd i Gaersalem fod y dre wedi ei chol [...]i.
Fe laddwyd yn Ninas Tarichea ac y wnaed yn Gaethweision bum mil, a Deugain heblaw y rhai a roddwyd i Frenhin Agrippa: Fe drengodd yn Gamalia, Ddeng mil a phedair ugain, heb adel un yn fyw ond Dwy Wraig; Fe laddwyd ar Cleddyf bum Mil yn Gascala; Fe laddwyd yn Ninas Gadata Ddeng-mil ar hugain a Dau Cant, heblaw aneirif au boddodd eu hunain. Yr holl anghyfanedd-dra hyn a ddigwyddodd cyn dinystr Caersalem, ym mha un fel y dywedais i or blaen y bu feirw or Iuddewon, un cant ar ddeg o Filoedd trwy Gleddyf newyn, y gwaetha o'r ddau; Ac fe gafwyd dwyfil yn feirwon mewn Geudai, a Charthleoedd budron, pa nifer nid yw debyg o fod yn Anhygoel; Canys heblaw y Rhifedi o'r blaen, y mae 'n ddiamau pan oedd Cestius yn Rhaglaw Judea, I'r Arch Offeiriad ar ei ddymuniad ef, Rifo 'r Bobl a ddaeth i Fwyta 'r Oen Pasc, ae au cafodd hwy [Page 73] yn ddwy Fyrddiwn a Saith gan mil o Eneidiau, eu gyd mewn Jechyd gwedi 'n Glanhau. Yr holl Laddfeuydd hyn ynghyd ag amryw a adawyd allan, Ag Aneiri ai lladdodd eu hunain yn y Maesydd a Phentrefydd, y rhai a foddasant eu hunain ag eraill a wnaeth am danynt eu hunain yn ddirgel, sy'n dynn ar ddwy fyrddiwn. o Bobloedd, a ddifetnwyd mewn yspaid pedair Blynedd, fe a ddechreuodd yn y ddegfed flwyddyn o Ymerodraeth Nero ac a ddrweddodd yn yr ail Flwyddyn o Ymerodraeth Vespasian. Y ddegfed Gaethgl [...]d ar ddiwaetha or Juddewon a ddigwy [...]dodd yn amser yr Emerawdwr Aelius Adrianus ynghylch 60 mlynedd gwedi, yr hwn a Adeila dood Gaersalem gan eu Symud beth tuar Gogledd. ai Galw yn ol ei Enw ei hunan Æ [...]us: Efe a Adeiladodd deml yn union uwch ben Bêdd Ein Jachawdwr heb yn waetha i'r Christnogion â delw Jau a Gwener, ag un arall ym Methlem i Adonis ei Chariad, ac i gythruddio 'r Juddewon, efe a osododd i fynu lun Mochyn ag Iuddew tan ei Draed uwch ben Pyrth Caersalem, yn Arwydd o'u Gwarrogaeth: An hwy wedi ennyn mewn llidiawgrwydd o herwydd mawr Lygredigaeth eu Gwlâd, hwy a wrthryfelasant yn gyhoedd, gan ymgyssylltu ag un oedd yn cymmeryd fod y Messiah, gan ei alw ei hunan Barchochab (neu Bencozbi) fe dybir eu bod ill dau or un feddwl, sef Mâb y seren, gan ddywedyd ir 'Scrythyr ragfynegu am dano, lle y dywyd. Fe ddaw Seren allan o Jacob, &c. Ac athraw Akiba oedd wr clodfawr yn y dyddiau hynny, pan welodd ef, fe ddywedodd, Hwn yw 'r Brenhin Messiah; rhai a ddywedai fod y Barchochab yng Haersalem cyn ei goresgyn, ac Akiba a roddodd atto ef Ei riau'r Prophwyd Haggai. dymuniad yr holl genhedloedd a ddaw atro; ac nid y Bobl gyffredin yn unig, eithr y Doctoriaid a Phrif athrawon yr Juddewon, y rhai oedd yngweddill yn ol dinistriad Caersalem a ddarfu addef a chynorthwyo eu Messiah newydd gan wneud Dinas ai galw Eitter megis Pris Ddinas a Gorseddfaingc ei Deyrnas, gan gyhoeddi'r gau Grist hwnnw 'n Frenhin arnynt; Adrian yr Ymerawdwr a'u gwarchauodd yn y ddinas honno, ac ai cymmerodd ef mewn amser, ac a dorrodd Ben Bencozbi; Fe laddwyd yn y Rhyfel hwnnw wrth y cyfri manyla bum mil a deugain or Juddewan, fe wnaed y fath Hafog ar yr [Page 74] holl genedl, nad allasont mwyach hyd y Dydd heddyw ymgynnull yn nifer mawr mewn un rhann o'r Bŷd. Adrian a Drosglwyddodd y Caethweision i Spaen, a'r Tir Sanctaidd wedi 'i Anrheithio, gan ymadael au Phobl a ffrwythlondeb y 'Tir mewn mesur mawr ar unwaith: Fe wrafunwyd iddynt fyned i Gaersalem, nag edrych arni oddiar un lle uchel; Eithr Ymerawdwyr a ddaeth ar ei ôl a gennadodd iddynt unwaith yn y flwyddyn fyned i mewn ar y degfed dydd o Awst, sef y Diwrnod y cymmerwyd y Ddinas, i Alaru o herwydd Dinis [...]riad y Bobl â'r Deml, gan gyttuno a'r milwyr y rhai oedd yn disgwyl arnynt, am ryw rifedi o Arian am eu hamser pennedol i aros yno, ac os arosent yn Hwy, yr oedd yn rhaid iddynt roi ychwaneg o Arian, felly fel y dywedodd St. Jerom, y Sawl a Brynodd Waed Christ, a fu dda ganddynt brynu eu Dagrau eu hunain.
Union Farn Digofaint sy arferedig o geryddu a gwialenodau, yno â ffrewyllau, ac oni wasnaethu hynny 'r tro ag yscorpionau: Yr Juddewon a deimlodd bob un o'r tair Râdd hyn, ac ni wnaed Bobl yn y Bŷd erioed yn fwy Siamplau o Ddigllonodd yr Arglwydd na'r rhain ei Ddewisol [...]tifeddiaeth ei hunan, eu neilltuol Bobl y rhai a allasent ofyn Hawl, neu Ddeheulaw cynenid ar holl Ddynolryw; Ac o [...] ystyriwn ni 'r Achosion o'r tosturus Aflwydd, ni allwn ddal 'Sulw. Eu Balchdor, Anghydfod, Yspryd gwrthryfelgarwch a fu waeth Tynghedfen iddynt na'u Hanheddychol Elynion. Ac er eu bod hwy yn euog o amryw feiau Drygionus, etto ym wrthod ag Arglwydd y Bywyd ar gogoniant, ai groeshoelio ef oedd yr Achosion penna 'ou Halltudiaeth Ofnadwy; Canys ni lwyddodd dim gyda hwy yn ôl y weithred Ysgrethrin honno: A phe na bae un achos arall i gynnhyrfu 'r Juddewon i droedigaeth, fe ddylai or diwedd fod (y Barnedigaethau trymion y maent yn tuchan tanynt hyd y Dydd heddyw,) yn ddigon i beru iddynt gredu mai Jesu ydyw Christ; etto y mae rhai o'u Dyscawdwyr au Hathrawon sydd wedi ymddyrysu o'r Achos, gan ddal sulw a chrymmu eu Hysgwyddau, ac weithiau dorri allan y Cyfryw Gyfaddefiad, Yn ddiammau na byddai i'r Trallodion meithion hyn barhau dros gymmaint o Oesoedd ond o achos Croeshoelio [Page 75] un oedd fwy na Dŷn. Hyn ynghyd a pherffaith gwbl gyflawniad Prophwydoliaeth ein Jachawdwr Bendigedig, ynghylch eitna dinystr eu dinas, y D [...]ml a'u Cenedl, sy ddigon i oleuo gwybodaeth pwy bynnag, oddigerth caledrwydd Calon y Genhedlaeth gyndyniog drofaus honno, ac yn ddigon iw bodloni nad oes gyffelyb i'r Jesu o Nazareth na neb arall o ddynol ryw yn Gydrâdd ac ef, neu a eill gael y cyfryw An [...]hydedd, parch, Urddas neu swydd y Messiah wedi 'i Phriodoli iddo; ac er bod rhai Gau Fessiaid, neu rai yn cymmeryd arnynt yr Urddas hwnnw, etto 'r Juddewon eu hunain a ymwrthod [...]sant a'n hwy, megis Hudolion neu rai yn camdwyso 'r Bobl, ac y fuont achosion o drueni ac aflwydd eu Cenedl, un o'r rhei'n [...] oedd Theudas a Judas o Galilee, y rhagddywededig Ben [...]osbi, ac eraill ar ôl hynny; Ac yn Nheyrnasiad Theodosius yr Ail, un Moses o Crete, a Chwaradd allan ran Gau Jachawdwr, ar Chwaryddfa 'r Bŷd, gan roddi allan mai ef oedd yr Ail Moesen, a Phrophwyd yn debyg i hwnnw a dda [...]fonasai Duw o'r Nefoedd, ac yr arweiniau ef yr holl Juddewon yn draed sych o Ynys Crete trwy 'r Môr i Balestine gan hyfed oedd Addewydion y Siomwr hwn yn porthi 'r Juddewon beunydd tros Flwyddyn gyfan, fe a w [...]ithiodd cym mhelled ar lawer o hônynt, nes iddynt ymadel o'r dinasoedd a'r Trefydd lle 'r oeddynt yn Preswylio, a'i ddilyn ef, gan gredu y llwybreiddiai ef hwynt i dir yr Addewid, ac ar Amser pennodol, Lliaws o Wyr, Gwragedd a Phlant a ymgasgl odd atto ef, y rhai a ddygodd e' i ben Craig uchel oedd yn erogi uwch ben y Môr, a llawer o honynt wrth ei Orchymyn ef au bwriasant eu hunain i lawr, rhai o honynt a foddodd, eraill a Achubwyd gan Bysgodwyr o Grist'nogion; y rhai au Cynghorodd hyd eitha' eu gallu i'r gwrthwyneb rhag amcanu bod mo'r ynfyd a bod yn Euog o'i Llofruddio eu hunain; pan gydnabu 'r Juddewon yr Hudoliaeth, hwy a feddyliasant ddal y Twyllwr; eithr y gau Foesen, megis gwir Gythraul, a ddifannodd ou mysg na wybu neb i ba le; yr hyn a fu Achosion i amryw o'r Juddewon gofleidio 'r grefydd grist'nogol, ac ymadel ar ffordd Juddewaidd, yr hon oedd euog o'r fath beryglon a dichellion siomedig a drydion.
Yn y Flwyddyn 1135 Un Dafydd Ettoi, neu Dafydd [Page 76] a gyhoeddodd mai fe oedd y Messiah, ac mai Duw ai danfonasai ef i waredu Israel ei Bobl, A Brenhin Persia ai cymmerodd ef, tan Lywodraeth pa un yr oedd ef yn byw, ae yntau yn Swyngyfareddwr cyfrwys, fe ddiangodd oi ddwylaw, efe a wnaeth bethau a enynnodd ddigofaint y Brenhin hwnnw yn erbyn yr Juddewon. Hwythau i ragflaenu y dinistr oedd yn dyfod am eu pennau o'i Achos ef, a wnaethant Wlêdd fawr i'r gau Fessiah, a hwy a dorrasant ei Ben ef pan oedd yn Cysgu yn ei Fedd-dod, âc ai cyflwynasant i'r Brenhin, yr hyn ai llaryeiddiodd ac ai cymmododd a hwynt. Fe ddarllenir hefyd am un a elwid Brenhin Thabor, yr hwn a fynnai gyhoeddi ei hunain mai ef oedd y Messiah, a Charles y Cynta' Ymerawdwr Germany a barodd ei losgi ef; A Maimonides sy 'n rhifo pedwar eraill o gau Gristiau a gododd yn Spaen a Ffraingc ym mysc yr Juddewon, yr hyn a ddygodd flinder a thrafferth yn eu mysg eu huna in a'î Canlynwyr. At ba rai fe ellir chwanegu y Siomwr mawr hwnnw yn Smyrna yn y Flwyddyn 1666. am ba un y mae cyfri helaeth yn niwedd y Llyfr hwn, wrth hyn i gyd y mae 'n gwirio 'n ddiwâd, nad oes un wrth liw yn y Byd na thebygolrwydd, a ellir feddw ei fod yn Fessiah, ond ein Bendigedig Arglwydd, a'n Hiachawdwr Jesu Grist.
III. Amcan a thebygolion, pa beth y ddaeth o'r Dêg Llwyth a Gaethgludodd yr Assyriaid, ag amryw Hanesion perthynasol i hynny.
YN ôl gwasgaru a symmudo 'r holl genedl Iddewig allan ou gwlâd eu hunain, trwy 'r Dêg Caethgludiad a grybwyllwyd am danynt, mae 'r Juddewon yn dywedyd presennol mai o Lwyth Benjamine, y mae 'r holl rai sy wedi 'u sefydlu yr awr hon yn Italy, Poland a Germany, gwlad y Twrc a'r holl Ddwyreiniol Rannau a pharthau 'r Môr Canoldir, Llwyth Juda y mae'nt yn ei feddwl sy wedi 'u Sefydlu yn Portugal a Barbary, ac yn siccrhau fod Miloedd o Deuluoedd o'u Hiliogaeth yno, y rhai gan mwya' a gymeran arnynt eu hunain ddynwared Christnowgrwydd, cymhelled [...] bod yn Offeiriadau Rhufeiniaidd; ac rhag ofn Chwiliwyr y [Page 77] Pabyddion hwy a ymgyssylltant eu hunain ar Groes, ac ar achosion a ail dderbyniant eu Crefydd eu hunain, pan fo'nt yn cael cyfle diberygl; un o honynt a ddywedodd mai ei gyd [...]yniad ef, oedd yn unig o'r Cnawd a'r Gewynau, ac nad oedd dim o'r Galon yn perthyn i'r peth. Hwy ddisgwyliant eu Messiah o Bortugal, drwy Ymddiddan ynghylch hynny yn siriol Wresog, a'i ddysgu iw Plant, ac Esponio 'n yr Jaith honno yn eu Synagogau.
Eithr am y Dêg Llwyth a ddygwyd ymmaith yn Gaethweision gan Salmanaser Brenhin Assyria (ym Mlwydd yn y Bŷd 3280 ac ynghylch 720 cyn geni ein Jachawdwr. Tu hwynt i Alon Euphrates, a grybwyllir 2 Bren. Pen. 17, Mae 'r rhan fwya o'r Juddewon yn gyffredin yn dywedyd na wyddant beth y ddaeth o honynt. Etto amryw Grist'nogion a fanwl chwiliodd am danynt, y rhai a chwennychent i'r Genedlaeth honno droi o'u cyndynrwydd au hanghrediniaeth, ac y mae amryw Debygoliaethau i ba Wledydd y dygodd yr Assyriaid y Dêg Llwyth; Ymhlith eraill y mae Dr. Fletcher yr hwn oedd Brif Gennadwr tros y Frenhines Elizabeth gyda Ymerawdwr Russia, ai Dŷb ef ydyw y gellid taro wrthynt ym mysg y Tartariaid, o ran y Gair Tartar yn Jaith y Syriaid sy 'n Arwyddoc [...]au gweddillion, ac y mae ef yn rhoddi am [...]yw Resymmau ynghylch hynny, oddiwrth ei Gyfarchwyliad ef yno, tra fu yn aros ym mhlith y Russiaid.
Megis yn gynta', y lle 'r Adblanwyd hwynt oedd Dinasoedd Media, y rhai sydd o amgyich y Môr Caspian, Gwlâd helaeth sy 'n awr ym meddiant y Tartariaid, a thrwy gydsyniad yr holl Ystoriaw yr a Scrifennodd ynghylch Brenhiniaeth yr Assyriaid a'r Persiaid, eu bod hwy yn preswylio yno er Amser a Theyrnasiad Cyrus; yr hwn ol cyrraedd y Deyrnas, a ruthrodd yn gynta' am ben y Scythiaid, Bugeiliaid neu Bobl Tartary, ynghylch dau Can Mhlynedd ar ôl hynny y dygwyd yr Israeliaid yno, y rhai oedd wedi cynyddu yr amser hwnnw yn Bobl gadarn Ryfelgar, hwy a lwyr ymwrthodasant a'r Assyriaid, yn y Ddegfed Flwyddyn o Fsharbaddon a chwedi cyd uno mewn un gyfeillach, gan lysu Ymgymdeith. asu â neb rhyw Bobl eraill.
2. Eu Trefydd au Dinasoedd oedd or un fath neu 'n agos [Page 78] i'r un henw ac oedd Trefydd a Dinasoedd yr Israeliaid. En Prif Ddinas yw Samarchan er ei bod yn ddrwg yr olwg arni ac yn Adfeiliedig, ac mae Ymdeithyddion yn datgan fod ynddi amryw bethau hynod ym mysc yr Juddewon lle [...] Tey [...]asodd Tamerlain fawr yr hwn a ddygodd o Amgylch Bajazet Ymerawdwr y Twrc mewn Carchar dellt Haiarn, nid oes nemawr o Wahaniaeth rhwng yr Enw hwn a Samaria, gorseddfaingc Brenhinoedd Israel nag sydd rhwng amryw Ddinasoedd yn y Bŷd; mae ganddynt hefyd Fynydd Tabor, Dina [...] a elwir Jericho, Corazin ac amryw fannau eraill a grybwyllir a [...] danynt yn yr Ysgrythur, Fe breswylir y Dinasoedd Tartaraidd hyn gan gymmaint ac sy o allu iw hamddiffyn rhag gelyniaeth y Persiaid, ac eraill oi hamgylch, Eithr y rhan fwya', y rhai a elwir yn gyffredin Bugeiliaid Scythia; nid ânt braidd un Amser i fewn Dinas na Thai sefydlog oddigerth yn amser gaia' y rhai a drigant mewn Pebyll neu Daia ddygir ar Olwynion, megis Cer [...]weni neu Fenni. Yr rhai'n yn Amser Haf pan dyfo 'r gwellt yn borfeuydd, a rodiant au Diadellau Praidd, i'r gogledd a'r gogledd Ddwyrain, or Dehau Ddwyrain [...]uedd lle'u Canlynant trwy 'r holl Hâ' yn Fyddinoedd ynghyd, tan Lwybreiddiad Tywysogion a Llywiawdwyr wrth Orchymyn eu Hymerawdwr mawr Cham. gan bori a phorfau ar hyd y ffordd nes eu myned i le eu gorphwys [...]a bennodol, gan ymwersyllu eu Tai symmudol a gludant ar Olwynion, un ddull a Dinas fawr, ac amryw Heolydd, au perthynasau, gan aros yno nes i'r Anifeiliaid bori 'r cwbl ou hamgylch, felly 'rant ymlaen Deithiau byrrion, nes iddynt fyned i gwrr eitha 'r gogledd, ac yno dychwelyd tu ar Dehau a thuedd y Dwyrain ffordd arall yn ôl, au Hanifeiliaid i borfeuydd newyddion heb eu profi o hyd, nes y delon [...] yn ol drwy Deithiau esmwythion i Fro yr Dehau Ddwyrain, i gyffiniau 'r Môr Caspian cyn gaia' i Wlâd mwy Tymherus a chlaearach, lle y Preswyliant trwy 'r holl Aia' o tu fewn iw Dinesydd neu 'n Certwyn Dai wedi eu Cyssylltu ynghyd ar ddull Tre' fawr jawn, nes i Wyneb blwyddyn eu cymmell allan i w hunrhyw Daith.
3. Y maent wedi 'u rhannu yn Amryw Finteioedd neu Lwythau, wedi eu cyd-uno tan yr un Llywodraeth a Chymmundeb [Page 79] ymmhob peth oddigerth Priodasau Cymmysgedigrhag anrhefn mewn Carrennyd oni byddai 'n rhaid gwneud hynny er mwyn ymddiffyniad a diogelwch yn Gyffredin, fod yn Anghenrheidiol eu Cyssyllu 'nghyd megis un Bobl. Ac ni arferodd Cenedl arall yn y Bŷd ond yr Juddewon, eu Dosparthu eu hunain yn llwythi yn ddi gymmysgiad, yr hyn a gynhalir yn Grefyddol hyd heddyw ymysg y Tartariaid.
4. Nifer eu Llwythi yw 'r unfaint, sef dêg, dim mwy na llai na 'r Jsraeliaid, oddiwrth un o'r rheiny fe debygir i'r Tyrciaid gael eu dechreuad.
5. Y mae Traddodiad gan y Tartariaid oddiwrth eu Henafiaid, fod eu Hachau hwy yn Deilliaw or Jsraeliaid, y rhai a Adblanwyd yn fagos i'r môr Caspian neu 'r Hircânian; O ba Draddodiad Fe ddywedir i Tamerlain fawr ymffrostio i fod ef yn Deilliaw o Lwyth Dan.
6. Er na wyddis etto beth yw Jaith y Tartariaid, o herwydd eu bod yn byw megis Pobl Anifeiliaidd, heb Gyfeillach na Masnach â Chenedloedd eraill, na chynnwys neb i ddyfod i'w mysg; etto y mae 'r Russiaid yn dwedyd fod amryw Eiriau Arabaeg yn eu Hiaith. Ac nad oes fawr Ragoriaeth rhyngddynt ag Jaith y Tyrciaid, ac y mae amryw ymdeithyddion yn dal Sulw, fod crynn Gyfathrach rhyngddi a Hebreaeg.
Yn ddiweddaf, mae 'r Tartariaid yn [...]i Henwaedu eu hunnain megis yr oedd yr Israeliaid a chenedl Juddewon, eithr am y Ddau Lwyth eraill sef Judah a Benjamin, y rhai o Achos eu hynod Anffyddlondeb, au dirmyg ar Fâb Duw, a Labuddiwyd, y wasgarwyd, ag a Gaethgludwyd gan y Rhufeiniaid; Fe wyddir yn dda ddigon ym mha le y maent, a pha fodd y maent yn byw, nid yn wahanol wrth ei Lwythi nag y chwaith eu wedi huno yn un Llywodraeth a Chymmundeb, eithr wedi ymwasgaru 'n rhifedi bychan, a chwedi colli 'r cwbl oddigerth yr Enw, yr hwn a gynhaliant yn swy er eu gwarth nau anrhydodd, a Chenedloedd yn dal Sulw arnynt, mai hwy yw 'r rhai a wrthododd Duw o herwydd eu Hanffyddlondeb.
Os ymliw rhai megis i fod yn beth annheilwg ac Anwêddùs Rhwng Duw mawr Trugarog ai Bobl y rhai a deilyngodd [Page 80] ef eu hethol o flaen holl Genhedlaethau 'r Bŷd, eu dewis yn bobl iddo ei hun, oddef eu dirywio 'n Dartariaid, y rhai o ddal Sulw arnynt, ydynt y Genedl fwya' gwaeledd, a llygrediccaf yn yr holl Fŷd. Fe ellir atteb, fod yn gythwys i hynny, y Sancteiddiaf a pherphei [...]hrwydd Barnedigaeth i ddarostwng y Cyfryw Bobl ddrygionus a Gwrthryfelgar yn erbyn eu Duw ag oedd yr Israeliaid, au bwrw i lawr o'r Nefoedd ucha, i eitha' gwarth a gwradwydd.
Mae eraill yn meddwl mai Trigolion cynta' America oedd yr Israeliaid, y rhai a yrrodd, y Tartariaid ymaith gan eu Goresgyn a chw [...]di hynny a ymguddiasant trwy Ragluniaeth Duw y Tu ôl i Fynyddoedd Cordillerae. A chan na Chaethgludwyd hwy oll ar unwaith, eithr yn Nheyrnasiad amryw o'i Brenhinoedd, fel y clywsoch yn barod, felly hwy a wasgarwyd i amryw Daleithiau, sef, America, Tartaria, China Media,: Tu hwnt i'r Afon Sabothaidd, ac i Ethiopia; Dyma Debygoliaeth Manasseh ben Israel, yr hwn oedd Ben Disinydd Hebreaeg â Philosophydd, yr hwn a fu 'n aros yn Lloegr yn y Flwyddyn 1650, a oedd Ben Erfyniwr ar gael o'r Juddewon eu cynnwys i'r Deyrnas hon, gan y rhai oedd yn Rheoli y pryd hwnnw. Fe a rôdd allan Lyfr a alwodd ef Gobaith Israel; ym mha un y mae ef yn rhoddi amryw Hanesion i gryfhau 'i Debygoliaeth, yn Enwedig hwnnw o Aaron Levi yn y Flwyddyn 1644.
Ebr ef yr Aaron Levi hwn a rodd i mi 'r Hanes ganlyn [...]l, ac i amryw Wyr enwog o Bortugal yn Amsterdam yr Amser rhag-ddywedodig, Ynghylch dwy Flynedd o'r blaen i fod e 'n myned oddiwrth Borth Honda yn Spaen Ogleddig India yn America i Lwybreiddio rhai Assynnod i Wr o'r India a elwyd Cast [...]llan, i Dalaith Quity, Ynghymdeithas Indiaid eraill; ym mhlith pa rai 'r oedd un a elwyd Francis Cazicus. Hi a ddigwyddodd yn Demeftl fawr pan oeddym yn myned tros Fynyddoedd Cordillerae. yr hon a daflodd yr Assynod llwythog i lawr, ar Indiaid yn achwyn o herwydd eu mawr golledion yn y Demestl, etto gan addef eu bod yn haeddu mwy Cospedigaeth na hynny am eu hamryw feiau Dryglonus. Francis a ddymunodd arnynt fod yn Ammyneddgar ac y cae'nt dawelw [...]h cyn pen hir; Hwy Att [...]basant, gan ddweyd eu hod yn [Page 81] anha [...]ddol o hono, a bod echryslon greulondeb ŷ Spaniaid tu ag attynt gwedi 'u ddanfon gan Dduw, o herwydd iddynt eu hymddwyn eu hunain yn ddrygionus tu ag at eu Bobl Sanctaidd ef, y rhai oedd gwbl ddieuog. yno hwy ym [...]oesant i aros ar ben y Mynydd trwy 'r Nôs, ac Aaron Lefi a gymmerodd Fara a Chaws a rhyw amheuthyn arall allan o Flŵch oedd ganddo ac ai rhoddodd i Francis, gan liwiaid iddo siarad mo'r Wradwyddus yn erbyn y Spaenwyr, yntau a attebodd na tynegasai mo hanner y blinder a'r Trallod a ddioddefasant oddiwrth y Genedl greulon honno, eithr hwy a ddiolid trwy gynnorthwy Pobl oedd Anghydnabyddus iddynt.
Ar ôl hynny Aaron Levi aeth i Carthag [...]na, lle'i Carcharwyd ef tros dro, ac o'r diwedd a ollyngwyd yn rhyod; ae yntau wedi hoffi 'r Ymmadrodd a glywsai ef gan Francis, gan feddwl wrth hynny mai 'r Hebreaid neu 'r Juddewon oedd y Bobl Ddiniwaid hynny a soniasai 'r Gwr o India am danynt: efe a ymrodd i ddychwelyd i Honda, i edrych am hwnaw, a phan drawodd wrtho, ac a ofynnodd iddo a oedd ef yn cofio y peth a ddywedasai wrtho ar y Mynydd? yntau a ddywedodd ei fod yn berffaith ddigon, Ar hynny Aaron ai Cyflogodd i gymmeryd Taith gydag ef, gan roddi iddo ef dr [...] Darn o Wythau ei brynu 'i Angenrheidiau. Pan a [...]thont allan o'r Ddinas, Aaron a [...]ddefodd mai Hebread o Lwyth Lefi oedd ef, ac mai 'r Arg [...]wydd oedd ei Dduw ef, ac nad oedd yr holl Dduwiau eraill ond ynfydrwydd, y Gwr o India a Ryfeddodd gan ofyn iddo Enw ei Rieni, ynteu a Attebodd mai Abraham, Isaac, a Jacob, Ebr Francis oes gênnych un Tâd arall, Oes ebr yntau, Henw 'Nhad oedd Ludovicus Montezinus Mae 'n dda geni hynny ebr Indian, canys anhawdd oedd geni 'ch coelio tra fydda 'ch Rhieni yn anghydnabyddus i chwi. fe ofynodd y Gwr o India iddo, a oedd e' yn Fâb Israel? yntau a wiriodd ei fôd, gan ddymuno ei eglurhau ei hunan iddo 'n fwy cyflawnach,, yn ol iddynt eistedd i lawr a bwrw eu lludded, Francis a ddywedodd fel hyn.
Od oes gennych ewyllys i'm dilyn eich Blaenor, chwi a gewch wybod beth bynnag a ddymanoch, yn unig beth bynoag yw 'r Daith, mae 'n rhaid el cherdded hi ar Draed, ni [...] oes dim iw fwyta ond Maiz wedi grasu ac ŷd India, ac na [...] [Page 82] adewch ddim heb wneud a barwy i chwi. Aaron a fodlonodd i bob peth a geîsiodd, ar ail Diwrnod oedd Ddŷdd Llun, Francis a barodd iddo fwrw ymmaith beth bynnag oedd ganddo yn ei Yscrepan, a rhoddi am ei draed Esgidiau a wnaethpwyd o Edau Bynnau, a chymeryd Ffonn ai ddilyn ef, ar hynny Aaron a fwriodd ymmaith ei Gochl, ei Gleddyf a phethau eraill oi amgylch, ac a gychwynasant eu Taith. Francis a gymmerodd ar ei Gofn dri Mesur o Faiz a dwy Râ [...]f, un yn llawn clymmau a Fforch fachog i ddringo 'r Mynyddoedd, ar llall i fyned tros Gorsydd ac Afonydd a Bwyall fechan, ag Esgidiau y wnaed o Edeu Bynnau. A chwedi eu harlwyo eu hunain fel hyn, hwy a deithiasant trwy 'r Wythnos, hyd y Dydd Sabbath, a gorphwyso arno, ar Dydd nesa' hwy aethant ymlaen, ae ynghylch 8 ar y Glôch y borau Ddydd Mawrth hwy ddaethant i lann Afon fawr, Ebr Francis yma y cewch chwi olwg ar eich Brodyr. Ac fe a wnaeth Arwydd a Lliain côch yr hwn a wisgai yn lle Gwregys, ar hynny hwy a welent Fŵg mawr or tu arall i'r Afon, ac yn sydyn ar ôl hynny, wedi gwneud Arwydd drachefn megis o'r blaen, fe ddaeth tri o Wyr ag un Wraig mewn Cafn bychan tan Rwyfo tu ag attynt, a phan ddaethont yn agos, y Wraig a ddaeth i'r lann, (ar Gwyr a arosodd yn y Cafn,) ac a siaradodd yn hir a Francis Jaith nad oedd Aaron yn ei ddeall; yno hi a ddychwelodd i'r Cafn, ac a ddywedodd i'r trywyr beth a ddeallodd hi oddiwrth Francis, ar Gwyr gan ddal craft sulw ar Aaron a ddaethant yn sydyn allan or Cafn, ac ai Cofleidiasant ef, ar Wraig a wnaeth yr un modd, wedi hynny un o honynt aeth yn ôl i'r Cafn, a Francis a ymgrymmodd wrth draed y Ddau Wr ar Wraig, Hwy au cymmerasant i fynu ac ai cofleidiasant yn garedig, gan siarad yn hir jawn ag ef. Yn ôl hynny Francis a erchodd i Aaron fod yn gefnog, ac na thybiai ef y doent atto drachefn nes iddynt gyflawn wybod y pethau y rhai a draethent iddo y tro cyntaf. Yno 'r Ddau ŵr a safasant un o bob tu i Aaron, ac a Draethasant yn Hebreaeg y Bedwaredd Adnod o Deut [...]ronomi. 6. Gwrando O Israel, yr Arglwydd ein Duw ni, yw un Duw. Gan chwanegu 'r peth sy 'n canlyn, gan wneud attaliad byrr rhwng pob pwngc.
1. Ein Tadau yw Abraham, Isaac, Jacob ac Jsrael, y pedwar hyn a arwyddoecaent wrth ddal i fynu Dri Bŷs, ac yno [Page 83] Reuben wrth ddal i fynu Fŷs arall. 2. Ni a roddwn amryw leoedd i'r sawl a ddelo i fyw gyda ni. 3. Joseph sy 'n Preswyiio Ynghanol y Môr, gan wneud Arwydd a dau ou Bysedd ynghyd, ac yno eu gwahanu hwy 4. Hwy a ddywedasant yn yn gyflym mae 'n rhaid i rai o honom fyned ymaith i weled ag i Sangu au Draed. wrth ba Firiau hwy amneidiasant gan i sathru tan Traed. 5 Ni gawn ryw Ddydd Ymddiddan oll ynghyd ac a ddeuwn ymaith allan o'r Ddaiar ein Mam. 6 rhyw Gennadwr a ymmaith. 7. Francis a gaiff ddweyd i i chwi 'chwaneg o'r cyfryw bethau. gan wneud Arwyddion au Byssedd na ddylid Siarad Gormodedd. 8 Ganiadha i ni ein ymddarparu 'n hunain, yno gan droi ou Hwynebau i bob ffordd, hwy weddient, o Dduw na hir aros. 9. Anfon ddeuddeg Gwr, ac Arwyddoccau mai Gwyr Barfog â fynnent i ddyfod attynt, y rhai y fyddau Ysgrifenyddion Celfyddgar.
Pan ddarfu 'r Ymddiddanion hyn, yr unrhyw wyr a ddychwelodd Ddŷdd Mercher a Dŷdd Jau, ac a Ail-adroddasant yr un rhyw bethau heb ymchwanegu Gair, Aaron o'r diwedd oedd yn fawr ganddo na Attebent ddim o'r Holiadau a ofynai e' iddynt, na'i gynnwys ef y chwaith i fyned tros yr Afon; efe a neidiodd i'r Cafn, a hwy ai gyrrasant allan, ac a Sy [...]thiodd ir Dwfr lle bu agos iddo a boddi, eisiau medru Nofio, a phan aeth e allan hwy a ymddangosent yn ddigofus wrtho, o achos ei Amcanion hurt, a bod yn rhyfanwl i wybod mwy o bethau nag oeddynt hwy 'n eu heglurhau iddo. yr hyn a ddangossasant trwy Arwyddon a Geiriau, fel y Deong [...]odd. Francis hwy i Aaron, Pan ymadawodd y pedwar hynny fe ddaeth yn ôl bedwar ychwaneg yn yr un Cafn y rhai a ail Adroddoad air yngair y rhagddywedig naw peth; h [...]b chwanegu un Gair, ac yn y Tri Diwrnod y buant yno, fe ddaeth ynghylch trichant yno ac a ddychwelasant yn ôl Drachein. Y Gwyr hynny oedd wedi llosgi pe [...]h gan yr Haul, rhai au Gwallt yn crogi i lawr hyd at eu Gliniau, eraill yn gwttoccach, a Chyrph hardd, yn drwsiadus or amgylch eu Traed au Coesau a math ar Liain wedi rwymo o amgylch eu Pennau
Pan amcanodd Aaron ymadel brydnhawn Ddŷdd Jau hwy fuant dra Charedig, gan Arlwyo a rhoddi iddo ef Lob 'Angenrheidiau i Ddychwelyd yn ol i'w Taith drachefn; gan ddwyn [Page 84] ar ddeall iddynt, fod, ganddynt ddig [...]n o Fwyd, Dillad, Anifeilliaid, a phob pet [...] Angenrheidiol. Yn ôl cymmeryd ei cennad ar Dieithriaid Cresowgar nynny, Aaron a Francis a ddiaethant i'r lle y Gorphwysasant y noswaith o flaen eu mynedad at yr Afon; Yr ydych chwi yn cofio Francis ebr Aaron, i'm Brodyr ddweyd i mi, y Dadguddi [...]ch i mi ryw beth, Gan hynny mi a ddymunat ar [...]och fod cyn fwyned ai Adrodd i mi For Francis mi a ddywedaf i chwi 'r Gwn am y wypwy, fel ac y Derbyniais inau ef gan ty Hên Dadau, Gan hynny gwrandewch beth sydd genni' iw ddweyd.
Dy Frodyr yw Meibion Israel, y rhai a ddygwyd yma trwy Ragluniaeth Duw, ac y wnaeth lawer o Wyrthiau er eu mwyn, a braidd y gellwch gredu y cyfri a gefais i oddiwrth fy Nheidiau, nyni 'r Indiaid a Ryfelasom a'n hwy, ac au triniasom yn fwy ciedd nag y mae 'r Spaeniad yn ein Teimlo ninau 'r Awrhon, a thrwy Annogaeth Dewiniaid y rhai a alwn ni Mohanes, ni aethom mewn Artau i'r lle y gwelsoch eich Brodyr ar hyder eu Digalonni hwy, ond ni ddaeth un o'r rhei'ny yn ôl drachefn; Gan hynny ni a gynnullasom Lu mawr, ac a osodasom arnynt yr Ail waith, eithr yn ddilwydd ac ni ddiangodd un, a'r trydydd tro a ddigwyddodd yr un môdd felly 'r India oedd agos wedi 'i Difuddio oi holl Drigolion, oddigorth Hên Wyr a Gwragodd, gan hynny 'r Hên Wyr a'r gweddillion oedd yn fyw, a fyddyliodd fod y Dewiniaid yn gwneud twyll trwy ymddiried iddynt, ymroesant ae a gyttunasant ar eu llwyr Ddifetha, a lladdwyd llaweroedd o honynt, y lleill a Addawsant ddadguddio iddynt ryw beth na's gwyddent ddim oddiwrtho; ar hynny yr hen wyr a attaliodd eu Dwylo o lâdd y Dewiniaid a Adroddasant fel y canlyn.
Mai 'r Gwir Dduw yw Duw meibion Israel, y rhai a fuoch chwi Achosion o'u Distrywiad. Mai Gwir yw cwbl sy wedi Argraphu ar eu Llechau hwy, ac y byddant hwy ynghylch diwedd y Bŷd yn Arglwyddi ar yr holl Ddaiar, fod rhai a ddygai iddynt leshad mawr ac yn ôl cyfoethogi 'r Ddaiar â phethau Rhagorol, Plant Israel ant allan ou Gwlâd, hwy ddygant yr holl Genhedloedd tanynt, fel ag y gorchfygodd eu Henafiaid eu gelynion, a dedwydd yw 'r sawl a allo ammodi a hwy.
[Page 85]Felly Pump o Benaethiaid yr Indiaid y rhai a elwid Cazici, ar rhai oedd fy Henafiaid i, [pan ddeallasant Brophwydoliaeth y Dewiniaid, yr hyn a ddyscasent hwy gan Ddoethion yr Hebreaid,) a aethant yno, ac yn ôl hir ymbil y gawsant eu Dymuniad, wedi gwneud yn gynta' e'u bwriad yn gydnabyddus i'r Wraig a welsoch chwi yn deongli [...] mi, Canys ni fynn eich Brodyr chwi ddim cydfasnach ar Indiaid, ac os a neb o honom ni drosodd i'w Gwlâd hwy, hwy au lladdant yn ebrwydd, ni dd [...]w neb o honynt hwythau trosodd attom ninnau. Yn awr trwy Gynnorthwy 'r Wraig honno, nyni a gyttunasom a hwynt.
1. Fod ein pum Cazics ni fyned attynt heb neb ond eu hunain unwaith ym mhen pob Deng Mis a thriugain.
2. I bwy bynnag y Dadcuddid y dirgolion, fod yn rhaid i hwnnw fod tros Oedran tri Chan Lleuad neu Fisoedd, yr hyn sydd ynghylch 30 Oed.
3. Na Ddadguddient ddim ond o flaen Cazicus yn unig, ac yn y Diffaethwch, y Dirgelwch hwnnw meddai e' a gadwent yn eu plith eu hunain, gan obeithio dderbyn Caredigrwydd mawr, oddiwrthynt, a thaledigaeth am dyrne da a wnaethant i lawer o'i Pobl, eithr nid yw Gyfreithlon i ni ymweled a'u hwy hyd ôl deng Mis a thriugain, oddigerth i ryw beth newydd a dieithr jawn ddigwydd. Yr hyn a ddigwyddodd Dair gwaith yn fy amser i.
Yn Gynta' pan ddaeth y Spaeniaid i'w Tîr hwy.
Yn Ail, Pan ganfyddwyd rhai Llongau ym Môr y Dehau, ac yn Ddiwaethaf, Eich Dyfodîad chwi, yr hyn a [...]ir Ddisgwyliason am dano.
Y maent yn llawenychu 'n fawr o herwydd y tri Phethau newyddion hyn, o herwydd hwy a ddywedant od hynny yn gyflawniad o amryw Brophwydoliaethau, ac felly diweddodd Ymadrodd y Gŵr o'r India.
Aaron Lefi a ddywedodd hefyd i Francis ddanfon tri eraill, o'r Cazics atto ef i Honda, y rhai a'i Cofleidiodd ef yn Gresowgar, ond ni's addefent eu Henwau; Eithr hwy a ofynasant i Aaron o ba Genedl yr oedd ef yn Deilliaw? Yntau a attebodd mai Hebread o Lwyth Lefi, ar Duw hwnnw sef Duw Israel oedd ei Dduw ef: Ar hynny ai Cofleidiasant ef drachefn [Page 86] gan ddywedyd, fe ddaw amser y ceweh ein gweled a'n cydnabod; Ni oll ydym eich Brodyr trwy Ragluniaeth Duw? yno canasant yn Jâch iddo gan ymadel, a dweyd eu bod yn myned ynghylch eu Gorchwylion; a Francis a adawyd ar ol, yntau yn ôl eyfarch gwell i Aaron a gymmerodd ei gennad, gan ddywedyd, ffarwel fy Mrawd, mae geni bethau eraill iw dwneud, mî âf i ymweled am Brodyr, ac eraill o'r Hebreaid Cazici, y rhai sy'n ddiogel yn y Wlâd hon, canys ni a reolwn yr holl India, a phan ddib [...]nom ni ein gwaith ar Spaenwyr drygionus, nyni a'ch rhyddhawn chwi o'ch Caethiwaid trwy Gynnorthwy Duw; Heb ammau na bydd i'r Duw geirwir i'n Cymmorth ni yn ôl ei Air ai Addewyd.
Yr Aaron Lefi hwn medd Manasseh Ben Israel, yr hwn a rodd yr Hanes o'r blaen, oedd Juddew o'r un Drefn ag ef, fe a Anwyd yn Villefleur ym Mhortugal o Rieni cy wir, ei Oedran oedd ynghylch deugain, gwr geirwir diryfygus, ac e haeddau gael oi gredu o flaen amryw eraill: Efe a aeth i'r India ac a gymmerwyd i fynu yno gan y chwiliwr neu 'r Inquisition o herwydd i ddyfod yn lle neu 'n Etifedd i Juddew ym Mhortugal. Yr hwn y wnaeth Don Manuel y Brenhin, ac fe orfu arno o'i anfodd heb na Chyfraith na Chrefydd droi yn gristion, etto efe a ddilyn Grefydd yr Juddewon yn ddirgel, a phan ollyngwyd e 'n rhydd o'i Drallod, fe a chwiliodd allan yn ddyfal y pethau hyn, Ac ni bu ef Esmwyth nes dyfod i Amsterdam, i fynegu i ni yr Newyddion da hyn, Mi fum yn gydnabyddus ac ef fy hunan dros chwe Mîstra fu ef yn Preswylio yno, Ac ymbell waith mi wnaethym iddo gymmeryd ei Lŵ o'r peth o flaen gwyr gonest, fôd y peth a ddywedasai 'n wir, Ac efe a gymmerodd yr unrhyw Lŵ, 2 Flynedd ar ôl hynny ar ei glâf Welŷ.
Y mae 'r un Awdr yn rhoddi allan amryw Hanesion eraill i bron ei Debygoliaeth mai 'r Juddewon a fu yn gwladychu yngynta' yn America, wedi eu gyrru ymaith drwy gynddarodd eu gelynio [...].
Esdras sy 'n dywedyd am y Dêg Llwyth a Gaethgludodd Salamanser, (yn Nheyrnassad y Brenhin Hoshea) tu hwynt Euphrates, feddwl myned i Wledydd anghysbell, lle na byddai neb yn byw. Lle y gallent hwy Ystyriaid eu Cyfraith yn [Page 87] well, ac fel yr oedd yn myned tros ryw Goingcian o'r Afon Euphrates, Duw trwy ei wrthiau a attaliodd ffrŵd y Llif hyd onid aethant trosodd, wrth hynny mae 'n debyg eu myned i Feddiannu dwy Deyrnas, sef Spaen newydd a Phoru y rhai oedd yn ddi Drigolion yr Amser hwnnw, a hwy a allent fyned yno trwy Tartary a Greenland, a trwy gyfyngfôr Darian neu Arrian i America, nid yw hi basio deg Militir a deugain o ffordd. A La. Vega, Awdwr Enwog o Spaen sy 'n 'Scrifennu fod yn Collai Talaith Ardderchog yn y Gorllewinol India, yn agos i Lynn a elwir Chuta, ym mysg hên bethau hynodol ac Adeiladoedd mawrion, fod yno iwweled Adeilad fawrwych urddasol, sy a Llys o bymth [...]g Gwrl yd o lêd, a Mûr yn ei hamgylchu ddwy Ffurlong neu 'r bedwaredd ran i Filltir o uchder; Mae Ystafell o'r naill du iddi sy 'n bum Troedfedd a deugain o hyd, ac yn ddwy ar hugain o lêd, a bod y Llys, y Mur, y Llechlawr, yr Ystafell, y Nenn, y Cyntedd, Pilerau dau Borth yr Ystafell, ar Mynediad i mewn, wedi wneuthur i gyd o un Garreg yn unig; y mae tri ystlys y Mûr o gyfelin o drŵch, Yr Indiaid a ddywaid, gyssegru 'r Ty hwnnw i Wneuthurwr y Byd, ac a fernir ei Adeiladu ef yn Synagog gan yr Israeliaid, o herwydd na wyddai 'r Indiaid ddim oddiwrth Haearn, a'r hwn y Cyssylltir yr Adail ynghyd, Rhai eraill o'r Indiaid, pan ofynnir iddynt ynghylch hynny, a ddywedant iddynt glywod gan eu Teidiau, Adeiladu 'r Ty hwnnw gan Bobl Wynnion a Barfau ar eu Hwynebau megis yr Yspaeniaid a fasai 'n byw yno yn hîr o flaen i'r Indiaid ddyfod i Breswylio yno, ac a drigasent yno dro ar ôl hynny, nes eu hymlid hwy ym mhellach i'r Gogledd, i'r Byd newydd.
Y mae 'r Indiaid yn dal amryw Ddefodau 'r Hebreaid, a dybir iddynt eu dysgu gan yr Israeliaid, canys hwy a enwaedant ar eu Plant mewn amryw fannau, Hwy rwygant eu Dillad o achos rhyw sydyn Aflwyddiant, neu neb rhyw Farwolaeth; Hwy losgant Dân yn gyfan gyfannedd ar eu Hallorau a gyssegrwyd i'r Haul, gan warafyn i Wragedd fyned i mewn nes e [...] glanhau, Hwy a gynhaliant Jubil [...]c ym Monico bob Deng Mlynedd a deugain, Prif Ddinas Peru, ynghyd a Gorfoledd mawr, mae pawb yn rhwymedig ar y Seithf [...]d Dydd, neu 'r Dydd Sabbath, i fod yn bresennol yn y Deml, [Page 88] eu Offrymmu eu Haberthau defodawl; Hwy a ysgarir oddiwrth eu gwragedd ar ach [...]sion aniweirdeb, ac a Briodant Wragedd gweddwon eu Brodyr a fo feirw, Mae ganddynt hefyd ryw Wybodaeth o greadigaeth y Byd, a'r dwfr diluw, yr holl bethau hyn sy 'n dangos i'r Cenhedloedd hynny Ddysgu 'r Defodau hyn oddiwrth yr Juddewon a fu yno yn byw gynt.
Ym mhellach y mae 'r Indiaid yn Wineuon, ac heb Farfau eithr fe gafwyd rhai Pobl wynion a Barfau ar eu hwynebau yn y Byd newydd, y rhai na fu ddim Masnach rhyngddynt erioed ar Spaeniaid. Yr Ymerawdwr Charles y pummed a ddanfonodd Philippus Utre, i chwilio allan y Parthau gogloddig o America, ac i blannu 'r 'Spaeniaid yno, a chwedi cael gwybodaeth gan eu Cymmydogion o fawredd y Bobl hŷnny oedd yn Preswylio yno; eu Synwyr au Rhyfeloedd, fe a ymrodd i'w gorescyn.
Yn ôl iddo Ymdeithio Cantoedd o Filltiroedd, o'r diwedd fe ddaeth yn agos at Ddinas gyfoethog yn llawn o Drigolion, ac Adeiladaeth dêg, fe a ganfu yn o hirbell ddau o Wyr yn llafurio 'r Ddaiar, y rhaia feddyliodd y Milwyr eu cymmeryd yn garcharorion, fel y gallent ddangos y ffordd iddynt i'r Ddinas; y Ddau Wr a redasant yn gyflym, tua 'r Ddinas; Philip Utr [...] au Wyr Meirch a'u Herlidi [...]sant yn galed a phan oeddynt yn barod îw cymmeryd, ar hynny y Ddau wr a drôdd attynt, ac au gwayw-ffyn a archollasant Philip yn ei frwysged trwy eu Ddwyfronneg Wlân a wnaethyd i attal Saethau; Fe a ryfeddodd eu gweled mo'r hylaw, gan farnu mai gwell oedd iddo roi heibio, a pheidio a myned ddim pellach i'r Dalaith honno, yn erbyn Cenedl mo'r gelfyddgar mewn Rhyfel, y rhaia feiddient yn unig a gwayw ffyn wrthsefyll gwyr Arfog; Ac ar y Diwrnod fe a ddychwelodd yr un ffordd ac y daethau; Ac ni feiddiodd neb fyned at y Bobl hynny hyd y dydd heddyw, na gwybod y chwaith pa ffordd i fynd yno.
Drachefn un Pizarro yr hwn oedd un o Gapteiniaid y Spaniaid wedi cilio oddiwrthynt a aeth i chwilio allan Wledydd Newydd yr India, y rhai sy 'n byw yn y Gogledd Ddwyrain, nifer pa rai ni wybuwyd crioed, O herwydd mai 'r Gair fod y Wlad yn cyrrhaedd tros Ddwyfil o Filltiroedd o hyd. Captain [Page 89] arall a elwyd Peter Osna aeth a rhyw Rif [...]di o Filwyr gydag ef mewn Canoes [...]eu Gafnau i fynu ar hyd rhyw Afon fawr, o'r diwedd daethant gyferbyn a Gwastadedd helaeth, llo 'r oedd amryw dai wedi 'u Hadeiladu gan yr Indiaid, ar lann yr Afon, Hwy aethant ymlaen tros Wythawr a deugain ynghyd, lle 'u gwelsont lawer o Dai gwynion ac uche, y rhai hwy ofnent fyned i mewn iddynt o herwydda mled y Trigolion, a hwy glywent sŵ [...] Morthylion megis Gofaint Aur, Yr Indiaid a ddywed fod y Trigolion yn dal, ac yn deg yr olwg arnynt, a Barfau mawrion, ac yn Rhy [...]elwyr Nerthol megis y Spaeniaid.
Wyth eraill o'r 'Spaeniaid a ymdeithiasant naw Mis, i Ogledd-Orllewinol barthau America, hwy y ddaethantat Fynydd, a thrwy lwyr boen ac enbydrwydd hwy aethant [...]w ben, o ba fann hwy a ganfyddent Wastadedd yn Amgylch Afon hyfryd, Ar lann pa un yr oedd Pobl wynion yn gwladychu, a Barfau iddynt; Ac yn Nheyrnasiad y diweddar Philyp y Trydydd Frenhin Spaen, fe ddanfonwyd pum Llong o Panama i chwilio allan Diroe [...]d na adwaenwyd yn America. Braidd yr aeth y Cadp [...]n i Fôr y Deh [...]u, nes iddo ef da [...]o wrth Dîr, yr hwn a alwodd e' Ynysoedd Solomon a Chaersalem.
Yn Nhrefn ei Fordwyad fe ddaliodd yn agos i Dir yr Yn ysoedd, lle y gwelai y Brodorion neu Drigolion y Wlad, y rhai oedd Bobl Win [...]uon, efe a gymmerodd lawer o honynt; eraill oedd yn trigo mewn Ynysoedd oedd fwy a flrwythlonach, y rhai oedd Wyr gwynnion, ac yn gwisgo Dillad llaesion o Sidan: Y Pen Llongwr a ddygodd un o'r Llongau yn rhy agos i'r Lann, yr hon a ddrylliodd ar graig, A Phobl yr Ynys yn rhedeg yn frawychus i weled hynny. Y Cadpen a ymadawodd ar Ynys, ac aeth ymmhellach i chwilio am Dir Cyfaneddol; A chwedi Mordwyo ynghylch tri Chan Milltir yngolwg y Lann, fe a gydnabu wrth y Mŵg fod Trigohon yno, gan hynny efe a aeth i mewn i Borthlâdd, lle daet [...] amryw Wyr gwynion, Wallt felynion at Ystlysau 'r Llongau, y rhai oedd cyfuwch a Chowri, mewn gwisgoedd gwychion, a Barfau hirîon. Un arall o'i Longau ef a ddrylliodd yn yr Aber, O'r achos fe orfu arno droi yn ôl i'r Môr. Ar hynny gwyr y Wlad a ddanfonodd atto ddau ou Penaethiaid, y rhai oedd Wineuddu [Page 90] megis y rhei'ny o'r Ynys gynta, ac a ddaethont a Defaid a ffrwythydd ac Ymborth iddynt, y rhai a roddasant iddynt yn rhâd ac yn rhwydd, gan orchymmyn iddynt ymadel yn ddimeiriach au tuedd hwynt tan boen bywyd. Y Cadpen a gymmerodd y ddau Bennaeth hynny gydag ef i Spaen, etto niallent gael gwybodaeth yn y Byd ganddynt, ond trwy Arwyddion, ac yn lle rhoddi Atreb (pan ofynid iddynt) hwy a ddangosent eu Barfau, megis fod yr Arglwyddi au danfon [...]asai yn gyfryw Wyr. ac os gofynnid iddynt ddim ynghylch Crefydd, hwy a dderchafent eu Bysedd tu a'r Nêf, gan arwyddoccau nad oeddynt yn Addoli ond un Duw. Hwy fuant feirw yn Spaen cyn pen hir, ac felly y bu 'r Cadpen; Yr hwn trwy Orchymmyn y Brenhin oedd yn bwriadu myned yno 'r Ail waith a Llu mawr, i ddarostwng y Genedl Alluo [...] honno.
Yn Ddiweddaf, Llongwr o Ddwits a hwyliodd yn ddiwed [...]ar yn agos i'r Wlâd honno, ac aeth i fewn Porthlâdd mewn Afon dêg, lle y trawodd ef wrth Indiaid y rhai oedd yn deall Hisp [...]eneg, fe a brynnodd ganddynt Ymborth a Choed Lliwyddion, y rhai ai Llwybreiddiodd ef i Hwylio i fynu 'r Afon fawr, yr hyn y wnaeth ef tros Yspaid Dau Fis, ym mha le efe a darrawodd wrth Wyr gwynion a Barfau iddynt, mewn Gwisgoedd gwychion, y rhai oedd yn llawn o Aur ac Arian, ac amryw Feini Gwerthfawr, y rhai ni buasai Fasnach rhyngddynt ar Spaeniaid, wrth y cyfri hwn fe debygid mai Is [...]aeliaid oeddynt, a rhai o'r Juddewon oeddynt yn bwriadu ei dda [...]fon ef yno drachefn i'r un lle, i ymofyn ychwaneg ynghylch y peth, eithr ei Farwolaeth ef yr hyn a ddigwyddodd yn sydyn ar ôl hynny; a ataliodd Ddadguddiad y Wlad rhagllaw.
Trwy 'r yspysiad rhagflaenol, mae 'r Athraw Manasseb yn ymegnio i wneud allan Debygolrwydd fod rhann o'r Dêg Llwyth wedi 'u sefydlu yn America; Dyma ryw faint ychwaneg tuag at gadarnhau 'r Debygoliaeth; allan o'r Hanes a roddodd Mr. William Penn, ynghylch Trigolion Pensylvania, yr hon yw Rhann o America, a Breswylir yn Ddiweddar gan Saeson a Chymru tan ei Lywodraeth ef.
Yr wy 'n credu [medd ef) fod eu dechreuad o Genedl yr [Page 91] Juddewon, a Hiliogaeth y dêg Llwyth. canys.
Yn gynta' yr oeddynt i fyned i Wlâd ddiblaniad, ac Anghydnabyddus, yn ddiammau fod Asia ac Affrica yn gydnabyddus onid oedd Europ hefyd, ai amcanion ef yn y Farnedigaeth anfeidrol hono arnynt, f' alle wneud eu mynediad yn haws iddynt o Ddwyrain Ba [...]choedd Asia i Orllewin America.
Yn Ail; Y mae'nt o'r cyfryw wêdd neu Wynebpryd, a'u Plant mo'r fyw [...]ol yr olwg arnynt, fel y tebygai Wr ei hunan yn Nhŷ Dug yn Llundain, p'le bynnag y mae 'r Juddewon yn trigo.
Yn Drydydd, y mae'nt yn Cyttuno yn eu Cyneddfau au Cer [...]moniau, y mae'nt yn bwrw eu cyfri wrth Nifer y Lleuadau, Offrymmant eu Blaen ffrwyth, Hwy gadwent fath ar Wyl y P [...]bill, Fe ddwedir eu bod yn Adeila [...]u eu Hallorau a Deuddeg Carreg, ar ba rai yr Offrymmant y Carw tewa a fo ganddynt, Hwy alarant ar ôl y Marw, flwyddyn, eu harferion ynghylch Gwragedd ag amryw bethau eraill, sy 'n gyt [...]unol jawn ar Gyfraith Juddewaidd. Mae 'n dywedyd hefyd fod eu Hiaith yn uchel jawn, ac yn debyg i'r Hebreaeg, eu bod hwy yn credu fod Duw ag Anfarwoldeb yr Enaid, Canys dywedant mai Brenhin mawr au gwnaeth hwynt, ai fod ef yn Preswylio mewn Gwlâd Ogoneddus ar duedd y Dehau oddiwrthynt, ac y caiff Eneidiau 'r Cyfiawn fyned yno, lle'u byddant byw drachefn.
Ym mhellach Manasseh Ben Israel sy 'n dwedyd, gan oresgyn y Dêg Llwyth cyn fynyched, ni allwn feddwl eu dwyn hwy i amryw Barthoedd o'r Bŷd, megis y credau e' fyned rhai o Greenland i'r Gorllewin India, trwy Rŷd Annian, felly i eraill fyned i Tartary yn China, ŵrth y Mûr enwog sy Ynghyffiniau 'r Ddwy wlâd, mae un Rheswm wedi gymmeryd allan o Hanes Dau Offeiriad Pabaidd y rhai a godasant i fynu Golegau yn y Wlâd honno, y rhai a Draethasant iddynt daro wrth yr Juddewon a ddaeth gynt i'r Gwledydd hynny. A rhyw Juddew a ddaeth at un o'r ddau Off [...]iriaid a elwyd Dr. P. Riccius ym Pequin, a chwedi darllen mewn Llyfr a 'Scrifennasa i rhyw Ddoctor o Chinea mai nad Tyrciaid oedd yr Offeiriaid Pabaidd, ac na adwaenent hwy neb rhyw Dduw, ond Arglwydd Dduw 'r Nêf oedd ar Ddaiar, Fe fynai ei berswadio [Page 92] ef ei fod yn Addef ac yn proffesu Cyfraith Moesen; gan fyned i'r Eglwys Babaidd, fe ganfu Ddelw Mair Forwyn, a'r Plentyn yn ei Breichiau, a St Joan F [...]dyddiwr, yn ei Addoli; Ar hynny yr Juddew a feddyliodd mai Delw Rachel a'i Dau Feibion Jacob ac Esau oedd hi; [...]fe hefyd a ymgrymmodd i'r Ddelw, gyda 'r Esgus hwn, er nad oedd ef Addoli dim Delwau, etto ni fedrai ef lai nag Anrhydeddu y rhai a fuasai gynt Hên Deidiau 'r Genedl Juddewig, a chan weled y pedwar Efangylwr wedi 'u Darlunio o ddeutu 'r Allor, fe ofynnodd ai pedwar o Feibion Jacob oedd y rhei'ny. Fe ddeallodd P. Riccius wrtho ef, fod Dêg neu ddeuddeg Teulu o'r Israeliaid yn Penquin, lle y darfu iddynt Adeiladu Synagog dêg, ym mha un hwy au T [...]idiau o'i blaen a gadwasant bum Llyfr Moesen yn dra pharchedig tros y chwe chan mhlynedd aeth heibio. Yr oedd e yn Siccrhau hefyd fod mewn Talaith arall o China a elwir Chequin Rifedi mawr o'r Juddewon a Synagog ganddynt, y rhai na wyddai ddîm oddiwrth Ddyfodiad a Dioddefaint ein Harglwydd Jesu Grist, gan hynny fe dybir mai rhai o'r Dêg Llwyth ydynt, y rhai sy 'n cynnal amryw o Ddefodau 'r Juddewon.
Mae iw weled yn Hanesion Persia, yn Nheyrnasiad yr Ymerawdwr Zeno. I Firuz Ryfela ddwy waith yn erbyn Llwyth Nephthali, ym mha un yr Anrheithiwyd ef o'r diwedd, wedi yned i le Anghydnabyddus mewn rhyw fann cyfyng. heb wybod pa ffordd i'w ddad ddyrysu ei hunan o'r fann [...] efe a dderbyniodd Heddwch, ar Ammodau iddo ef dyngu, na chynnygiai ef fyth rhagllaw ddim cynddrygen yn eu herbyn, a bod iddo ef Ymddarostwng i Orfodogaeth a Rheolaeth Naphthali, tan Arwydd Ufudd dod neu Warrogaeth; Fe orfu ar Ben llywydd y Persiaid i ymddarostwng ei hunain tan yr Ammodau hynny, Eithr trwy Gyngor y Dewiniaid, efe a gyflawnodd ei Ymddarostyngiad yn gyfrwys, Canys efe a ymgrymmodd tu ar Haul Ddwyreiniol, yr hwn y mae 'r Persiaid yn ei Addoli, fel y gallai ei Bobl ei hunan feddwl i fod e' yn gwneuthu [...] hynny mewn ffordd o Addoliad, Ac nid er Anrhydedd i'w Elyn, ac ni ddarfu iddo gyflawni y rhann arall o'r Cyttunde [...] er eu siccrhau trwy Lythyrau Awdurdodawl, eithr heb fo [...] yn fodlongar or Gwradwydd o Ymgrymmu i'w Elyn, efe [Page 93] gynnullodd Fyddin o Newydd, ac a aeth yn eu herby [...] yr ail waith, eithr y tro hwnnw hefyd fe faglwyd trwy ddyrysni 'r Wlâd, ac efe ynghyd ac amryw eraill a gollasant eu Bywyd mewn Llyngclynn a ddarfasai yw Elynion, y Naphthaliaid i ddarparu ar ei ffordd ef, wedi ei Orchguddio a Chorsenau a Thywyrch ar ei Wyneb. Ar Ammodau o [...]eddwch oedd wedi grogi ar flaen Gwaywffon gyferbyn ag ef. Fel y gallai 'r Tywysog anffyddlon ei weled, ac wrth hynny gofio am ei Lŵ, [...]c Edifarhau a throi heibio oddiwrth y cyfryw Orchwyl ffromwyllt, eithr ac efe yn llwyr ddiyffyru ei Lŵ, fe aeth ym mlaen mo'r Danbaid, nes iddo ef ar rhann fwya o'i Fyddin, o'r diwedd syrthio i'r f [...]ôs Ddwfn, o ba le nid oedd le i gael ym wared. Pan gydnabu wrth y Cwymp disymmwth hwnnw, fod yn darfod am dano, efe a dynnodd o'i Glust ddehau Berl Gwynn mawr jawn, ac ai [...]aflodd ym mhell oddiw rtho, naill ai i rwystro Adnab [...]d ei Gorph ef, neu i attal neb ar ei ôl ef fod yn berch [...]nnog o'r cyfryw Dlŵs Gwerthfawr. Mae 'r Awdwr yn siccrhau mai Juddewon oedd y rhain, a Gweddillion Llwyth Naphthali, y rhai a ddygodd Tiglah Pil [...]sar yr Assyriaid i'r lleoedd hynny. 2. Bren .15.29. Eu hwynebpryd sydd Wynn eu Llywodraeth; Moesau, au hamryw amgylchiadau eraill sy 'n gwirio 'r peth.
Ortelius y Geographer mawr, sy 'n 'Scrifennu, fod yngwlâd Tab [...]r yr hon sy ar Gyffiniau Pe [...]sia, y Bobl yn byw, er iddynt golli eu Sanctaidd 'Scrifennadau, etto yn ufuddhau un Brenhin, Brawd pa un a elwyd Dafydd y Reubiaid, a ddaeth i Portugal yn y Flwyddyn 1530. Yr hwn a gâdd Olwg ar yr India yn ei Daith, yr hwn a wrthdrôdd Gyfrinachwr y Brenhin i'r Grefydd Juddewaidd; ac a ddiengodd o Lisbon gydag of ai alw ei hunan Selomah, Mo, ho; Ac mewn ychydig amser f' aeth mo'r G [...]lfyddgar yn y Gyfraith Juddewaidd, i. e. Yn yr holl Gabala, sef eu Dirgelwch gyfrinachol, hyd onid oedd holl Italy yn ei ryfeddu Y Cyfrinachwr gyda 'r Reubiaid, a ymegniasant i dynnu 'r Pâp Charles y V. Ymerawdwr Germania, a Francis y Gynta' o Ffraingc, i'r Grefydd Juddewaidd, Mo, ho, a gymmerwyd ym Mantua, a losgwyd yn fyw yn 1540 Etto fe gynnygiwyd ei fywyd os troe ef drachefn yn Gristion. Y Reubiad a ddygwyd yn Garcharor gan Charles y [Page 94] Pumm [...]d i 'Spaen. Lle y bu ef Farw cyn pen hir. Y Dafydd hwnnw oedd yn haeru 'n Wastadol, fod Dau o Lwythi 'r Israeliaid yno, a Llwythi eraill ychydig ymmhellach, tan eu Bronhinoedd au Tywysogion eu hunain, au bod hwy yn Bobl o Nifer Anfeidrol. Nid hwyrach mai 'r un Dalaith ydyw, Tabor ar Habor, a sonir am deni yn yr [...]. Bren. 17. lle y dywedir fod y Dêg Llwyth wedî 'u dwyn gan Salmanasser i Habor a Hala.
Y mae hefyd rann o'r Dêg Llwyth yn byw yn Ethiopa yn Nheyrnas yr Abyssiniaid megis y Traethodd llawer o'r Wlâd honno yn Rhufain. a Boterus sy 'n mynegu fod Dwy Genedl Alluog yn trigo yn agos i flaen yr Afon Nilus un o'r rhei'ny ynt Israeliaid, y rhai sy dan Lywodraeth Brenhin Nerthol. Oddiwrth ba rai y tybir ir Abyssiniaid ddysgu 'u Henwaedu eu hunain, Cadw 'r Sabbath, a Chyneddf [...]u Juddewig eraill, Ac yn ddiammau mêdd fy Awdwr, y mae'nt yn Preswylio ym Media, Canys Josephus sy 'n 'Scrifennu fod holl Israel yn Preswylio ym Media, Ac mai Dau Lwyth yn unig au sefydlodd eu hunain yn Asia ac Europ, ac yn Ddeiliaid i'r Rhufeiniaid, ar dêg eraill sy 'n byw yr tu arall i Euphrates, lle y mae'nt yn Rhifedi mawr tros ben, Brenhin Agrippa oedd yn credu hyn yn ddiammau, pan areithiodd ef wrth Bobl Caersalem iw Cynghori hwy i beidio a Gwrthryfela yn erbyn y Rhufeiniaid. fe ddwodai fal hyn, pwy Gynn [...]rthwy 'r ydych yn ei ddisgwyl i gyd ymgyfeillachu a chwi yn eich Gwrthryfelgarwch? Onid yw 'r holl Eŷd cydnabyddus yntalu Teyrng [...]d i'r Rhufeiniaid, Fe allai eich bod chwi yn disgwyl cymm [...]rth y rhai sydd tu hwynt i Euphrates.
Yn Ddiweddaf, mae fy Awdwr yn dywedyd fod pawb yn tybiaid fod y Dêg Llwyth yn Preswylio tu hwynt i'r Afon Sabbothaidd, hynny ydyw ynghylch y Môr Caspian. Y mae Tystiolaeth Josephus yn hynod am y peth hyn. (medd ef) Yr Ymerawdwr Titus yn myned rhwng Area a Raphanes, Dinasoedd yn perthyn i'r Brenhin Agrippa, efe a welodd yr Afon Ry [...]eddol honno, er ei bod yn wyllt, etto y mae [...]n sych bob seithfed Dŷdd, a phan elo 'r Dydd hwnnw heibio, y mae 'n ail gymmeryd ei Thaith arferedig fel na bae ddim cyfnewid ynddi, ac y mae bob amser yn dilyn eu harfer, Fe ai gelwir Sabbathaidd, [Page 95] o herwydd ei bod yn dynwared eu Gorphwys [...]a ar y Seithfed Dŷdd, ar ba u [...] y Gorphwysodd Duw ei hunan yn ôl Creadigaeth y Byd. Yr A [...]on honno a rêd trwy 'r holl Wythnos cyn wyllfed a hylled, gan ddwyn i lawr gyda hi y Tywod ar Cerrig, yr hyn yw 'r achosion o fed y Llwythi gwedi 'u cau i fynu tu hwnt i'r Afon, ac nis gallant eu gwneud eu hunain yn gydnabyddu [...], Canys er bod yr Afon ar y Seithfed Dydd yn llonydd ac yn gotphwys, etto y mâe 'n Waharddedig i'r Juddewon ymdeithio ar y Diwrnod hwnnw, a dyna 'r achos sy 'n peri iddynt yno mo'r guddiedig Ryfeddol tros amryw Oesydd. Ac nid yw hynny cyn rhyfedded ychw aith, gan fod llawer o bethau a adwaenom ni, ac etto ni fedrwn nî roddi cyfri ou Dechreuad. Onid ydym ni hyd y dydd hwn yn angaydnabyddus a blaenau neu godiad y Pedair Prif afonydd, sef, Nilus, Ganges, Euphrates, a Thygris, a llawer o Wledydd helaeth, sy heb ei Datguddio etto, i, e, Rhai lle'oedd sy anghydnabyddussy 'n sefyll tu hwnt i rai Mynyddoedd. Felly y digwyddodd yn Nheyrnasiad Ferdinando ac Isabela, ynghylch y Flwyddyn 1400. daro wrth rai o Wyr o Spaen ar ddamwain yn Barneca, ynghylch deng Milltir oddiwrth Salamanca yn Spaen, y rhai a ddiengasai yno pan oedd y Moors neu 'r Bobl Dduon yn meddiannu Spaen, a hwy a breswyliâsant yno Wyth gan mhlynedd cyn taro wrthynt. Mae Manasseh Ben Israel yn dywedyd ymmhellach ynghylch yr Afon Sabbathaidd, iddo ef glywaid gan eu Dâd, (ac nad yw Tadau arferedig o siomi eu Plant,) fod un o Arabia yn Lisbon ym Mhortugal, yr hwn oedd awr Wydr yn llawn o Dywod a gymmerasid allan o Waelod yr Afon honno, yr hon sy 'n rhedeg drwy 'r Wythnos hyd y Sabbath, ac yn gorphwys y Diwrnod hwnnw, a bod yr Arabiaid hwnnw yn rhodio oddiamgylch yr Heolydd bob Dŷdd Gwener Brydnhawn, gan ddangos yr awr-Wydr i'r Juddewon y rhai oedd yn cymmeryd arnynt fod yn Crist'nogion, gan ddywedyd, Chwy chwi Juddewon ceuwch i fynu eich Masnachdai, canys y mae 'r Sabbath yn dyfod. Ni [...]aswn i yn sôn am y Gwydr hwnnw medd ef, ni basai fod awdurdod yn Rheoli yn fawr, ac nad allai i lai na chredu fod y Gwrthiau hynny yn deilliaw oddiwrth Dduw.
[Page 96]Bydded i'r Darllennydd gredu yr faint a welo ef yn gymmesur o'r Hanesion hyn a roddais i ar lawr, mi a feddyliais eu bod hwy yn addas ac yn ddifyrr iw cyfleu i mewn, o herwydd eu rhyfedded, myfi a Ddibennaf, gyda 'r Dilyniad y mae 'r Awdwr Juddewaidd yn ei gasclu oddiwrth y cyfan, yn enwedig, 1. Fod America neu Orllewin India gynt yn ei Phreswylio. gan rann o'r Dêg Llwyth, y rhai aeth yno o Dar [...]ari drwy gyfyng rydiau Annian. 2. Nad yw 'r Dêg Llwyth mewn un lle 'n unig, eithr mewn amryw Leoedd, o herwydd Rhagfynegu o'r Prophwydi y byddai 'u Dychwehad yn ôl i Balestine allan o amryw leoedd; 3. Na ddychwelodd y Dêg Llwyth hynny, pan Adailadwyd yr ail Deml. 4. Eu bod hwy hyd y Dŷdd heddyw yn dal y Grefydd Juddewaidd 5. Fod yn Angenrhaid cyflawni 'r Prophwydoliaethau ynghylch eu Dychweliad i'w Gwlâd. 6. Y Dychwelant o bob Parth o'r Bŷd, ac a ymgyfarfyddent yn Assyria a'r Aipht, Duw a ddarpara iddynt ffordd hawdd ac Esmwyth yn llawn o bob peth, fel ydywaid Isaiah, Pen 40. Oddiyno hwy a'nt ar frys i Gaersalem megis adar i'w Nythod. Yn Ddiwaetha', Na rennir mo'i Teyrnas mwyach, eithr y Deuddeg Llwyth a fydd tan Lywodraeth un Tywysog, yr hwn a fydd tan y Messiah Fâb Dafydd; ac na yrrir mwyach hwy allan ou Gwlâd.
IV. Cyflwr yr Juddewon yn ôl eu Halltudiaeth, a helynt Bresennol Palestine.
YN anghyfanedd dra Caersalem yr Juddewon a wasgarwyd ar lêd y Bŷd, yn enwedig i Spaen, lle y Gorchymmynodd yr Ymerawdwr Adrian iddynt Breswylio, etto ni chawsant ond Cro [...]saw bychan mewn lle 'n y byd, gan orfod talu Trethi a Phridwerthi llwyr drymion yn aml, nes eu taflu or diwedd i gyd allan o Europe.
Y Brenhin Cristionogawl cynta' a ymlidiodd yr Juddewon allan oi Lywodraeth, oedd yr ardderchog Frenhin Edward y Cyn [...]a', yr hwn y fu hefyd Fflangell dôst i'r Scotiaid, ac fe debygir i amryw Deuluoedd o'r Juddewon alltud hynny ddiangc i Scotland, lle 'r amlhasant yn Lluoedd mawrion, fe Dystiolaetha hynny ff [...]idd dra 'r Genedl honno i Gîg Môch, ynanad neb arall.
[Page 97]Ni bu 'r alltu [...]eth honno o herwydd eu Crefydd, [...] eu Beiau drygionus; megis Gwenwyno Ffynhonnau, c [...]athu Arian, ffugio Sêlau, Croestioelio Plant Christ'nogion, a phethau croulon eraill. Hyn a ddigwyddodd yn y Flwyddyn 1292. Ac ymhen 12 Mhlynedd ar ôl hynny, Ffraingc a ddilynodd ein Esampl [...]i; ynghylch dau can mlynedd ar ôl hynny Ferdinand au gyrro [...]d hwy ymmaith o Spaen; A phum mlynedd ar ôl hyn Emanuel o Bortugal a wnaeth yr un modd.
Eîthr y Gwledydd y gyrrwyd hwy allan o honynt ddiwaetha' oedd Naples a Sicily, yn y Flwyddyn 1539. Y m [...]e llawer jawn o honynt etto yn preswylio mewn amryw fannau Ynghrêd, sef yn Germany 'r ucha' ar isa' Bohema, Lithuania Polanda, Russia; ac yn Italy hefyd, eithr nid oes un o honynt mewn Gwlâd yn y Byd tau Lywodraeth Brenhin Spaen.
Y mae'nt yn trigo yn llonyddol ddigon yn Rhufain tan Drwyn y Pâp yno, ac nid oes betrusder ar St. Marc er eu croesawi hwy yn Venice. Y mae llaweroedd o honynt tan Lywodraeth y Twrc, yr ydys yn tybiaid fod Yng-Henstantinopl a Thessalonica, yn unig, yn agos i Ugain Mîl.
Mae Asia yn llawn o honynt, megis Aleppo, Tripoli, Daus ascus, Rhodes, ie ym mhob Lleoedd y bo Masnach; Marchnadyddiaeth; Y mae llawer hefyd ym Mhersiia, Arabia, ac ym mhob lle hyd yn Cranganor yn yr India.
Yn Affrica y mae ganddynt eu Synagogau, sef, yn Alexandria, Grand Cairo, Fesse, Tramesen, ac amryw fannau yn Nheyrnas Morocco: Y mae ynghylch Can Teulu o honynt Ynghaersalem, eithr y lle y mae'nt yn fwya digymmysg yw Tiberias, y lle hwnnw a ro [...]dodd y Tyrciaid i Mendes yr Juddew am ryw Wasanaeth Rhagorol y wnaeth erddynt, y maent yn fynych yn danfon neu 'n dwyn Ffgyro eu Caredigion yn ol eu Marwolaeth y rhai sy wedi gadael rhoddion helaeth, am gael eu Claddu yno.
Dinas Caersalem a Ail Adeiladwyd gan Elius Adri [...]mus, ac ai rhoddodd i'r Crist'nogion, oddiwrth ba rai fe ai cymmerodd Cofroes ar Persiaid yn y Flwyddyn, 615, Hi a ddygwyd o Drais oddiarnynt gan Haumar ar Saraciniaid yn y Flwyddyn 637. Ac yn nesa' hi a syrthiodd i Ddwylo Cutla Moses ar Tyrciaid yn y Flwyddyn 1009. Yn ol hir [...]ddian tan [...] [Page 98] Gorthrymderau hynny. Petr y Meudwy a Gynhyrfodd Dywysogion y Gorilewin i ryddhau 'r Christ'nogion o'u Trallodion, amcan pa rai a ddaeth i ben yn ôl eu Dymuniadau, tan Fanner y Tywysog Buddugoliaethus hwnnw, sef Godffri o Bullen. yn y Flwyddyn 1093. Yr oedd y Godffri hwnnw o rann ei Haeddedigaeth i gael ei A ddurno a Brenhinol Goron blêth mawrhydi, yr hyn a wrthododd, gan ei dybiaid ei hunan yn anaddas i wisgo Coron Aur, lle'i darfuasai i'n Jachawdwr wisgo Coron o Ddrain; etto er llêshâd Cyffredinol, efe a fodionodd i gymmeryd yr Enw arno; Yn ôl pa un fe Lywodraechodd y Tywysogion Cristnogawl hyn, sef Baldwin y cynta', Baldwin yr Ail, Fulk Jarll Anieu. Baldwin y trydydd Baldwin y pedwerydd. Baldwin y Pummed, Guy o Lusignan Brenhin diwaetha' Caersalem, yn amser pa un Saladine Brenhin neu Sultan yr Aipht a ynnillodd y Deyrnas, yr non a ymddiffynnodd i Etifeddion ar ei ôl yn erbyn pob rhuthrau hyd y Flwyddyn 1317. Pan ddarfu 1 Selinus Ymerawdr cynta' Gwlâd y Twrc gymmeryd y Tîr Sanctaidd ynghyd a'r Aipht tan ei Ymerodraeth; ac felly hôll Wlâd Palestine, a Dinas Caersalem sydd dan Lywodraeth y Tyrciaid, hyd y Dydd heddyw; etto y mae Cristnogion yn trigo ynddi, y sawl sy 'n e [...]el mawr fudd oddiwrth ddangos Bêdd Christ; ac yn ddiweddar gan y Bobl dduon, Arabiaid Groegiaid, Ladingiaid, Tyrciaid, Juddewon, i. e. mi alla' ddywedyd gan Bobl o bob Gwlâd.
Yr holl Wlâd sy 'n Cynwys pedair Ardal, sef, Idumea, Iudea, Samaria, a Galilee, Idumea sy 'n dechreu ym mynydd Cassius, neu fel y mynn rhai ym mhwll Sirion, gan gyrraedd i hyd Ddwyrain Judea; Y Prif Ddinasoedd yw Maresa, Rhinocerura, Rapha, Antodon, Ascalon, Azotus, a Gaza ym Maersa y ganwyd y Prophwyd Micah. Yn agos i'r Dref ymy Gorch [...]ygodd Judas Machabeus Gorgias, nid yw Rhinocoa rura, Raphae, ac Anteden ond Trefydd go wael. Y mae Sr. Geroge Sandis yn ei ymdaith yn Ysgrifennu fel hyn, nad yw hi Dref o Enw mawr moni, ond bod y yrciaid yn cadw ym ddiffynfa yno. Hi fu gynt yn Barchedig ym mysg y Cenhedlodd, o achos Teml Dagau, a Ganedigaeth Semiramis a Genhedlodd y Dduwies D [...]creta yr non trwy wressowgrwydd Cariad [Page 99] ar wr Ifangc oedd yn Aberthu iddo, a ymddygodd iddo Ferch, a a chwedi cywilyddo o achos ei haniweirdeb, hi ai gyrrodd ef ymaith, ac a fwriodd y Plentyn ir Anialwch, a chan lwyr Dristwch hi a'i taflodd ei hunan i Lynn llawn o Bysgod yn ymyl y Ddinas. Y Decreta yma a ddywedir oedd Dagon Delw 'r Agrotonitiaid a Sonir am danyat yn yr 'Scrythur, yr hyn sy 'n arwyddoccau blaen ffrwyth Trallod; yr oedd ei Theml hi yn agos i'r Llynn, a'i Delw ar Lun Pyscodyn, oddigerth yr Wyneb, oedd Debyg i Wyneb Merch; Y Plentyn y Faethwyd gan Glomennod, y rhai a ddygasant Laeth iddi o'r Porfeuydd, yr hon wedi a fu yn Wraig i Ninus a Brenhines Assyria, Gan hynny efe ai Galwyd hi Semiramis, yr hyn sy 'n Arwyddoccau Colomen yn y Syriaeg, Y mae 'r Babiloniaid er Coffadwriaeth o honi yn dwyn Clommen yneu Bannerau, yr hyn a gyflawnir ym Mhrophwydoliaeth Je, remiah yr hwn sy 'n rhagfynegu Anghyfannedd-dra Judah gan eu Cynghori 'i Ddiainge rhag cleddyf y Glommen.
Azotus, Lle 'r adailadodd Rhaglaw Demetrius Deml Ardderchog, Wyth Milltir tu hwynt i hynny y mae Atcheton neu Ekron yn sefyll, lle 'r Addolid Beelzebub, at ba un y danfonodd Ahaziah i ymofyn am ei jechyd.
Yn ddiw [...]ddaf, Gaza neu Aza, un o'r Pum Dinas bennaf sy 'n perthyn i'r Palestiniaid, (y rhai elwyd Philistiaid yn yr 'Scrythur:) Gaza sy 'n arwyddoccau crŷf, ac yn Jaith y Persiaid Trysor, felly y dywedir ei Galw gan Gambyses yr hwn a ddanfonodd yno yr holl Gyfoethogrwydd a Ynnillasai ef wrth Ysclyfaethu 'r Aipht, mewn Rhyfel yno; Fe ai Galwyd hi Constantia, gan yr Ymerawdr Constantine yr hwn oedd ein Cydwladwr ac a elwyd yn Gymraeg C [...]stenyn fawr, yr hon a fu Gynta' 'n enwog o herwydd Gweithredoedd Sampson yno, yr hwn oedd yn byw ynghylch amser Rhyfel Caerdroia, yr hwn trwy ei Nerth ai Dynghedfen Lwyddianus a ddywedir fod yn Achosion i'r Prydyddion Ddyfeisio Hercules, yr hwn oedd yn byw ychydig o flaen hynny, Ar lle a fu 'n hynod ar ôl hynny o herwydd dau Archoll a dderbyniodd Alexand [...]r fawr yno, hi a gyfrifwyd wedi hynny yn Brif Ddinas Syria.
Yno hefyd y mae Joppa, yn awr Jafta, Tre' Farchnad enwog, a Phorthlâdd têg; lle y cymmerodd Jonah Long i ddiaingc [Page 100] i Tarsus, lle'i codedd Petr Dorcas o farw yn fyw, a phan oedd ef yn aros yn Nhy Simon y Barcer mewn Gweledigaeth a ddysgwyd i weithio Troedigaeth y Ce [...]hedloedd. Fe ddywedir adeiladu 'r Ddinas honno cyn y [...]uw. Yno y Rheolodd Cepheus Fâb Ph [...]nix, Ai Fe [...]c [...]. Andromeda a ryddhaodd Persous oddiwrth Anghenfil Morawl, Esgyrn pa un a fyddid arferedig ou dang [...]s i Ddie [...]thriaid, nes i'r Rhufeiniaid ddyfod iw Rhwysg. Yno y maè Gath hefyd, Gwlâd y Cawr mawr Goliah.
Judea ydyw y rhan bena o Balestine ac yw yr un faint yr awrhon a phan oedd hi yn Deyrnas Judea, ac a fu 'n Gynheiliaeth ir ddau Lwyth fawrion hynny, sef, Juda a Benjamin. y mae hi yn sefyll rhwng y môr Canoldir ar môr marw a rhwng Samaria ac Idunica: Hi a gasodd yr Enw hwn oddiwrth Lwyth Juda; y ymmha un a mae 'n sefyll Dina [...] Caersalem yr hon a ru gynt yn Ardde [...]chog.
Heblaw Caersalem y mae hefyd amryw Drefydd a Dinasoedd enwog yn y Wlâd honno. sef, Jericho, Turris Stratonis, a alwyd gwedi Caesaria, Hebron gynt yn awr Arbea; Mambre a Charint [...] hefyd, hynny Tre 'r pedwar Gwr lle 'i ganwyd Judas Iscariot, yr hwn a fradychodd ei [...] Hiachawdwr Jesu Grist Emarus ac eraill; hefyd tu hwnt i'r Jorddone [...] y mae Martreb [...]us, tref ac ymddiffynfa gadarn iddi. Yno y bu Trefydd Sodom a Gomorrah, y rhai oblegid eu ffieidd dra au hadgafrwydd a lwyr Ddinistrwyd ac a ddifeithwyd gan dan o'r Nê [...]oedd, ac yr awrhon yn gorwedd yn gladdedig yn y Llynn Melltigedig hwnnw, Asphlaltites, a alwyd felly o herwydd y Pŷg y mae yn i chwydu allan, Fê alwyd hefyd y Môr marw, ond odid am na fâg ef un Creadur byw, neu ei Ddyfroedd trymlly [...] [...]in eu Syflir gau un math ar wynt, môr hallt, a p [...]th bynnag 'a deflir iddo ni fudda 'n hawdd. Vespasian i brofi hynny y wnaeth rwymo bagad, au Traed a'u Dwylaw, au taflu iddo, eithr hwy a lynasant ar Wyneb y Dwfr fel ped fasai rhyw Yspryd yn eu cynnal i fynu, fe ddywedir, am Adar a hedant uwch ei ben, a syrthiant, fel ped fae'nt trwy swyn Gyfaredd wedi 'u ragu neu Gwenwyno gan y Tarch a'r Caddug sy'n derchafu oddiwrtho. Samaria sydd yn y Canol rhwng Judea a Galilea, Y Wlâd a elwir felly, [Page 101] oddiwrth Samaria y Brif Ddinas, a Adeiladwyd gan Omri Frenhin Israel, ac a elwir yr awrhon Sebasti; Y Trefydd sy ynddi a elwyd Sichem yn awr Necapolis, Caper naum, Bethsaida, a Chorazin.
Galilee sydd rhwng Mynydd Libanus a Samaria, ac a ronnir yn Galilee uchaf ac isaf, Y Galilee uchaf sy ai Chyffiniau ar Tyrus, ac a elwir mewn modd arall Galilee Gentium neu Galilee 'r Cenhedloedd, Galilee isaf sydd yn agos i Lynn Tiberias, ac i Nazareth; a Gadara. Y Wlâd Pendigaid a gyfleuwyd rhwng dau Fôr, ac Afon yr Jorddanen. Y mae ynddi amryw Ddyfroedd Mordwyawl, A Llynnoedd yn llawn Pysgod, Afon yr Jorddonen sy 'n rhedeg trwy g [...]nol y Wlâd yma, gan ei Rhannu yn ddwy Ranu. Mae St. Jerom yn 'Scrifennu, fod yr Afon honno yn tarddu allan o ddwy Ffynnon nad ynt nepell oddiwrth ei gilydd, un a elwir Jôr, ar llall a elwir Dan, gan saethu allan megis dau Gorn, y rhai sy 'n ymgyfarfod ynghyd, y wnant Afon fawr yr Jorddonen, y Mynyddoedd pennaf yn y Wlâd Fendigaid yw Mynydd Hermon sy 'n sefyll yn y Dwyrain, a Mynydd Tabor yn y Gorliewin, ar ddau hynny sydd fawrion ac uchel, ac nid yw 'r Mynyddoedd eraill sy o'i hamgylch ond megis Breichiau a Changhenau o honynt hwy: Canys Mynyddoedd Ebal, Betherson, Maspa, neu Mospoa, a Bethel a gyfrifir eu bod tan Fynydd Hermon, Gilboa, Gerazin, Saron, a Mynydd Carmel wrth Ystlys y Môr a rif [...]r tan Fynydd Tabor.
Y mae hefyd o amgylch Caersalem, Fynydd Sion, Moriah Mynydd yr Olewydd, Mynydd Calfari, ag eraill. A choedydd têg a Choedwigoedd yn llawn o bob math o Eifr a Cheirw, ac Anifeiliaid gwylltion eraill.
Yn y Wlâd yma, yn enwedig o amgylch Caersalem, yr oedd Adeiladoedd Mawr-wych ae uchel, megis, Dons Morius, a Chastell y Jebusitiaid, i ba un y dygodd Dafydd Arch yr Arglwydd, lle 'r Arhosodd nes gorphen adei [...]adu Teml Solomon, gweddillion o Fagwyrau 'r Adeiladoedd hynny sydd yw gweled hyd y Dydd heddyw, i. e fe ddywedir mai yn y lle hwnnw y darfu i Grist Ein Harg [...]wydd fwyta 'r Oen Pasc gyda 'u Ddisgyblion; Mae yno hefyd Feddrod y Brenhin Dafydd. ac eraill o Frenhinoedd Judah; A Thŷ Dafydd [Page 102] yr hwn sy 'n cynnal Enw Tŵr Dafydd, Ar Fynydd Moriah mae peth o Weddillion Millo iw weled ac o flaen y cwbl ni a ddylaem Adgofio, yr Ardderchoccaf Brydferthaf Deml y Brenhin [...]olomon, ar ba un y bu Gan mîl, a dengmil a deugain o Wyr yn Gweithio dros Saith Mlynedd yn gyfang yfannedd nes ei gorphen. Ni adwn ddarllain yn yr Ysgrythur am Odidowgrwydd a mawrhydi 'r lle Anrhydeddir y Deml a Bêdd Christ yn ddirfawr pan adailadwyd gynta gan Grist|'nogion o'r [...]arthoedd hynny; Ac a fynych gyrchir hyd y Dydd heddyw gan Bererinion o bob lleoedd tan Lywodraeth Eglwys Rhufain, ac amryw [...]oneddigion or Eglwysydd adgweiriedig, Rhai o ran Rhodres a Manylrwydd eraill er mwyn Heneiddrwydd y lle. Y mae Creaduriaid y Pâp yn talu Ardreth neu Deyrnged i'r Tyrciaid am y lle, a phwy bynnag a Gynhwysir i gael Golwg ar y Bêdd a gaiff dalu Naw Coron i Swyddogion y T [...]rciaid; Felly fe dal y Deyrnged i'r Grand Seignior wyth Mîl o Ddwoatau bob Blwyddyn.
Am y Dêg a thriugain Deongl [...] [...]r Cyfraith Moesen.
YN ôl i Alexander Fawr, Brenhin Macedonia a Gwlâd y Groeg Oresgyn y rhann fwya' ac oedd o'r Bŷd yn gydnabyddus yn ei amser ef, Fe fu farw yn jeuaingc, ond braidd Ddêg ar hugain O [...]d; Yn ôl ei Farwolaeth ei Deyrnas a ranwyd yn bedair r [...]nnu rhwng Pedwar o Brif Benaethiaid eu Lu. Megis y mae 'n 'Scrifennedig yn Dan. 8. Ei Frenhiniaeth of a dorrir a [...]hedair Brenhiniaeth a g [...]fodant o'r un genedl. Efe a adawodd ar ei ôl Fab yn ei Febyd a elwyd Archelaus, ac e 'n debyg i fod yn ddoeth ac yn Rymmus, ei Geidwad a roddodd iddo Ddiod Wenwynig ai lladdodd ef; a chwedi hynny a Lywodraethodd yn Ormesdeyrn ar ei holl Dywysogaeth [...]. Y Pedwar Penciwdod hynny a Ryfelodd y naill yn erbyn y llall. Un o honynt a elwyd Ptolomeus Philadelphus a ymrodd gael Cyfraith Moesen wedi 'u Chyfieithu i'r Groeg, trwy fwriadu wrth hynny gael lle i ennyn Cynnen neu i Ymrafaelio ar Juddewon, ac iw dwyn Ymmaith oddiwrth eu Cyfraith a'i Crefydd; Can hynny efe a Bennododd Ddêg a thriug [...]in o Hên Athr [...]wo [...] Juddewaidd, i gyflawni 'r [Page 103] gwaith, y rhai a gaeodd ef i fynu mewn Ystafelloedd or nailldu, bob un ar ei ben ei hun, fel na fyddai iddynt ddim Cymdeithas y naill ar lla [...]l; a phan orphenasant y Gwaith; er iddynt new [...]d tri ar ddêg o leoedd yn yr 'Scrythur, etto hwy a gyttunasant cyn gyflawned yn Synwyr ac Ystyriaeth y Geîriau, yn gymmaint a phed fuasai wedi i Gyfieithu gan un gŵr, yn unig; Yr hyn a ellir ei gy [...]ri yn Wrthiau, mwy na digwyddiad arall yn y Byd. Y Trydydd lle ar Ddêg yw 'r rhain.
1. Gen. 1. Hwy Gyfieithasant, Duw a Greawdd yn y Dechreuad. &c. Heb roddi na Gair na dim yn y Bŷd o flaen Enw Duw, yr hyn sydd Gyffredin yn yr Jaith Groeg, yr hyn a allai rwystro 'r Brenhin rhag cymmeryd y Gan Berisheth, neu 'r Dechr [...]uad i fod yn Greawdwr, ac Elohim neu Dduw am y Creadur.
II. Gen. 1 26. Yn lle Gwnawn, Hwy gyfieîthasant, mi wnâf Ddŷn ar fy Nelw fy hun, mi, yn lle nym, fel na byddai i neb dybiaid fod mwy o Dduwiau nag un, neu fod yr Hollalluog yn ymgynghori a neb arall ynghylch hynny.
III. Gen. 2.1. Hwy Gyfieithasant, a Duw a orphenodd ar y [...]hweched Dŷdd, ac a Orphwysodd ar y Seithfed, yn lle, ac ar y Seithfedd Dydd, y gorphennodd Duw ei waith yr hwn a wnaethai efe, y Chweched yn lle 'r Seithfed, rhag bod tebygoliaeth yn y Bŷd ar iddo ef wneud dim ar y Seithfed Dŷdd, na gorphen ei Waith ar y Diwruod hwnnw.
IV. Gen. 11.7. Hwy Gyfieithasant, Mi af i lawr, ac a gymmysgaf yno ei Hiaith hwynt, yn lle. deuwch disgynnwn, rhac tybiaid ei fod e'n llawer.
V. Gen. 18.12. Hwy Gyfieithasant, A Sarah, a chwarddodd, gan ddywedyd wrth y rhai oedd yn ei hymyl; yn lle Sarab a Ghwarddodd rhyngddi a hi ei hun; gan ddywedyd rhag i Ptolomy ein gwaw [...]io ni, a dywedyd pa fodd y gwyddoch chwi pa beth a ddywedodd hi wrth ei hunan.
VI. Gen. 49.6. Ynghylch Geirîau Jacob wrth Simeon a Lefi, Hwy Gyfie [...]thiasant, Canys yn eu dig y lladdasant Wr, ac o'i gwirfodd diwreiddiasant Gaer, Yn lle Llâdd Ych fel y mae Ynghwrr Dalen [...]au rhai o'n Biblau ni, fel na byddai i'r Brenhin eu gwatwor o nerwydd i Simeon a Lefi ddial eu llîd ar Anifail.
[Page 104]VII. Exod. 4.20. A Moses a gymmerodd ei Wraig ai Feibion, ac ai rhoddodd i Farchogaeth ar beth a allai gynnal Gŵr, yn lle Asyn, rhag i'r Brenhin chwerthin am bon y Tywysog mawr, a rhoddwr y Gyfraith sef Moesen, o herwydd iddo Farchogaeth ar Asyn: yr hyn oedd beth dirmygus ym mhlith y Groegiaid, a rhag iddo wrthresymmu, pa fodd y gallai Asyn ddwyn Gwraig a Dau o Blant? Ae na fuasai raid iddo fyth wneuthur hynny oddîgerth i fod ef yn Gardo [...]tyn.
VIII. A Phreswyliad Meibion Israel tra y trigasant yn yr Aipht, oedd ddengmlynedd ar hugain a phedwar Can Mlynedd, Exod. 1 [...].40. Er hynny i gyd ni thrigasant yn yr Aipht ond Dau Cant a deng mlynedd, fel y Rhagfynegodd eu Tâd Jacob iddynt, na oftyngwch (arwyddoccâd y Cyfryw Lythyre [...]nau yn yr Hebreaeg sy 'narwyddoccau 210) chwi chwaith; felly y Cyfrio 430 Mlynedd sy 'n dechrau Ynganedigaeth Isaac yr hwn oedd Sanctaidd Hâd Abraham; Gan hynny hwy a'i Cyfieithasant a Pnreswyl [...]a Plant Israel yn yr Aipht (a lleoedd eraill) oedd 430 o Flynyddoedd.
IX. Ac i'r rhai bychain o Blant Israel efe a eftynodd allan ei Law, Exod. Hwy roesant rai bychain yn Dywysogion, rhag i'r Brenhin ddywedyd y Gwyr mawr a waredwyd, eithr y Plant a Meibion Israel a gospwyd.
X, Num. 16.15. A Moses a ddywedodd, ni chymmerais un Asyn oddiarnynt, Hwy a Gyfieithiasant, Ni chymmerais o'u Heiddo werth dim, fel na ddywedai Ptolomy, er na chymmerodd ef Asyn, etto f' allai iddo ef gymmeryd yn wobr oddiarnynt bethau mwy gwerthfawr a dymunol.
XI. Deut. 4, 19. Hefyd rhag derchafu o honot dy Lygaid tu a'r Nefoedd, a gweled yr Haul, a'r Lleuad, ar Sêr, holl Lu y Nefoedd, yr rhai a rannodd yr Arglwydd dy Dduw, (neu a Gyfrannodd) i'r holl Bobloedd, dan yr holl Nefoedd; Hwy chwanegasant, yr Arglwydd dy Dduw a Gyfrannodd (i lewyrchu) ar yr holl Genedloedd; rhag iddo ef ddywedyd i'r Sanctaidd Fendigedig Arglwydd rannu 'r Haul, Lleuad, a'r Sêr i'r holl Bobloedd, a rhoddi iddynt Gennad i'w Haddoli hwynt.
XII. Deut 17.3. ac a aeth ac a Wasanaethodd Dduwiau [Page 105] dieithr, yr hyn ni Orchymmynais, (Hwy chwanegasant iw Haddoli) rhag i'r Brenhin ddywedyd i'r Arglwydd Orchymyn iddynt Wasanaethu rhai Duwiau eraill, heblaw efe ef hun.
XIII. Hwy Gyfieithasant Ysgyfarnog, Traed bychain, o achos maî felly y gelwid y Frenhines, fel na chae 'r Brenhin Achlyssur i feddwl eu bod yn gwawdio am i ben.
Pan ddarfu i'r Dêg a thriugain Honuriaid Gyfieithu 'r Cyfraith Juddewaidd i'r Groeg Jaith, Ptolomy yn lle anfodd. hau wrthynt, a lawenyehodd yn fawr o herwydd eu Doethineb au hundeb, gan eu Ha [...]rhydeddu hwy a Gwisgoedd Tywysogawl ac a rhoddion, Gan eu danfon adre' yn llawen ae ynhoenus, Ynghyd ac Aberthau ac Offrymmau helaeth i Dduw Israel.
Adroddiad Cywir o ymddiddan y Cynghorfa fawr yr JUDDEWON, Ymgynulledig yngwastadedd Adjady yn Hungaria, ynghylch 30 o Legau oddiwrth Buda, er mwyn chwilio 'r Scrythrau ynghylch Crist, ar y 12 o Fîs Hydref yn y Flwyddyn 1650.
FE a ddymunodd llawer o Gristnogion da a chyfrifol, ar i mi wneuthur yn gyhoedd adroddiad o Gymanfa 'r Juddewon, yr hon a amcanais i gyfran [...]u yn unig i'm Ceraint yn neillduol; eu prif reswm, trwy 'r hon am heiriolant i wneuthur hwn yn gyffredin, oedd oherwydd tybiaid o honynt y byddai hi yn barattôad, ac Arwydd obeithiol o d [...]ead yr Juddewon, Ar hyn o fyddai yn newyddion da i Eglwys Crist: Ac oblegid hynny, mi a ganiathâais i fodloni eu dymuniadau hwynt. Ac fel hyn yr oedd.
[Page 106]Ymgynullasant i'r lle rhagddywededig ynghylch 300 o Rabbiaid neu Juddewon o amryw Barthau 'r Bŷd i chwilîo 'r Scrythyrau ynghylch Crîst. Y mae 'n debygol fwriadau o honynt y lle hwnnw yn fwyaf cyfleus, o herwydd nad oes nemawr o Drigolion yn preswylio yn y parth hynny o'r Wl [...]d; oblegid y rhyfeloedd gwaftadol rhwng y Twrc a Brenin Hungaria. Yno (mal y clywsom) ymladdasant gynt ddwy Frwydr waedlyd. Etto y Tywysogion ymma ill deuwedd er bod amrafel rhyngddynt a ganiat [...]asant i'r Juddewon i gynnal eu Hymgynghorfa yno er mwyn eu cyfleus dra eu hunain, a wnâent amryw Bebill i orphwyso ynddynt, ac amlder o gynheiliaeth a ddygid attynt o fannau eraill o'r Wlâd, cyhyd ac y byddent yn eistedd yno. A'r Juddewon yn gwneuthur (mal y dywedasom) amryw babelloedd, cyfodasant un fawr helaeth ir ymgynghorfa yn unig i eistedd ynddi, ir oedd ef yn agos yn bedrongl, nid oedd y parth Gogleddig ar Deheuol mor helaeth, ar Dwyreiniol a'r gorllewinol. Nid oedd onid ûn Drŵs iddo, a hwnnw agorai tu ar Dwyrain. Ynghanol y Babell i'r oedd Bwrdd yn sefyll a chadair i'r ymholwr i eistedd arni, ai wyne [...] tu ac at Ddrŵs y Babell. Ar ymholwr oedd o Lwyth Levi, ai Enw Zacharias. Ac oddi fewn i'r Babell ymma i'r oedd Meinciau ou hamgylch wedi gosod, i'r holl rai eraill i eistedd arnynt. Argauwyd hwynt i gyd oddi fewn i Gafell yr hon oedd yn sefyll onnyd oddiwrthynt er attal yr Estroniaid, a'r cyfryw nad allent eu profi eu hunain yn Juddewon, a gwneuthur allan eu bod yn Juddewon trwy Dystiolaeth cof lyfrau neu y rhai ni's gallent ymddadleu yn 'r Jaith Hebreâ [...]g, yr hona a nghofiodd llaweroedd o honynt y rhai a drigent yn y Cyfryw Wledydd, ple' ni's Ganatthaid iddynt i harferu hi yn eu Synagogau; megis ac yn Ffrainc, Hispain, a'r parthau hynny a'r Italy, ac sydd yn p [...]rthyn i Frenin Hispain, a Brenin Naples; gyd ac Ardaloedd Apulia, Scicilia, Calabria, â S [...]rdinia: Yn y lleoedd hynny, o byddai i gael Juddew, yn gwadu'r Grefydd y Babuaid Euog farnid of i Farwolaeth, a dihe [...]yddid am hynny: Ac er hynny, am elw a bûdd eu deuant hwy ei fyw yn yr Ardalodd hynny er eymmaint a fo eu braw au perygl; Ac y maent yn ewyllysgar eu hunain i esceulusso dyscu Jaith [Page 107] eu Mamman iw Plant, ynghyfraith nac y collont gyfle ynnill elw. Ac eilwaith, Rhai o honynt a losgassant, yr hên Gôf Lyfrau eu llwythau au Teuluoedd, mal nas Da [...]guddid hwynt trwy chwilio, neu ryw fodd arall. Ac o herwydd, y Diffyg hwn, sef, nas gallent brofi eu Llwythau au Teu [...]uoedd, ni chaniattaid iddynt ddyfod tu fewn ir Gafell, yn amser eu ymgynghorfa hwynt; Eithr Gorchymmynyd iddynt aros gyd a'r Eitroniaid, y rhai a ymwylient yno i weled diben y ddae or Gymanfa hon. Yr ydwyf yn tybied, fôd cyfrif y bobl rhai a ymwylient yno i weled diben ou hamcanion, ynghylch tair Mil, a Germaniaid oedd y rhan fwyaf o honynt, ac Almaniaid, Dalmatiaid a Groegiaid rai, a nifer bychan o Italiaid, Eithr nid oedd un Sais yno ond myfi hun; Canys hyspysswyd i mi am Frenin Hungaria yr hwn ni ymgeleddai y Grefydd Protestanaidd na roddai ddim annogaeth i Eglwysydd Protestanaidd, i ddanfon eu Difinyddion yno. Eithr caniathau o hono, ar ddanfon rhai o Rufain i fôd yn blaid yno, au dyfodiad hwynt yno a fu yn anffawd fawr i'r Gymanfa Obeithiol hon.
Y Dydd cyntaf, pan ymgyfarfyddodd y Gymanfa gyntaf. treuliasant rywfaint o'r amser i Gyfarch gwell iw gilydd, a (fel y ma [...] eu harfer hwynt cusanasant [...]ochau eu gilydd;) gan, ddangos llawenydd mawr au dedwyddol ymgyfarfod. Ac yn awr a phob beth yn barod tu ac at eu cyfleusdra hwynt, ystyriassant pwy Juddewon a ganiataid i fod yn aelodau o'r ymgyngorfa yma; Canys y hwynthwy yn unig a genhadid i fôd yn Aelodau y rhai a allent trwy Gof-scrifen brofi eu bôd yn Juddewon cynhwynol. Ac mi a ddalais sulw ar iddynt wrthod a throi ymmaith ynghylch pum Cant. Er, yn ddiamau eu bod hwy yn Juddewon Cywir, etto, ni's gallent trwy cof-scrifen profi eu hunain felly. Ac oblegid hyn ni dderbynid hwynt i fod yn Aelodau o'u Cynghor hwy, eithr Gorchmynnid hwynt i aros oddiallan i'r Cynghor ymmhlith yr Estroniaid, rhai a wylient yno, cyfrif y rhai a allan brofi eu hunain yn Juddewon trwy Gof-scrifen oeddent dri Chant; y rhai a oddefwyd i eistedd yn y Cynghor; dyna wnaed y dydd Cyntaf.
Yr ail dydd, a'r Gymanfa yn llawn, yr Ymholwr (ai Enw ef oedd Zacharias, o Lwyth Lefi) a safodd i fynnu ac y [Page 108] wnaeth Araith, ynghylch amcan eu eyfarfod hwynt. Ac hwn (meddai ef) ydyw, i chwilio 'r Scrythyrau ynghylch Crist, pa un ai wedi dyfod y mae efe, neu, ai ydym ni i ddisgwyl ei ddyfodiad ef. Wrth drin yr ymholiad ymma, chwiliasant y scrythyrau gyda gofal a phoen mawr y rhan fwyaf o'r dydd hwnnw, mal y bodlonid hwynt yn y Gwirionedd, Hwy chwiliasant yr hen Destament, trwy ofal a diwydrwydd mawr y rhan fwya o'r Dydd hwnnw, gan fod ganddynt fagad o Fiblau i'r perwyl hwn ynghylch y pwngc yma dechreuodd ymddadl fawr, yr hon o barhârdd laweroedd o Oriau: yr hon or diwedd a ogwyddodd tu a'r diben hyn, ar fôd yr rhan fwya or Gymanfa ymma o'r dŷb, fod Crîst heb ddyfod. Eithr eraill or Gymanfa, yn ol chwilio o honynt yn fanol yr 'scrythyrau, a gweled yn eglur ynddynt i fod ef i ddyfod a ogwyddid i debyg fod Crist wedi i dyfod. Gan gyffroi o honynt yn hytrach i dybiaid hynny trwy ystyried y Farnedigaeth a ddaethai arnynt er ys 1600 o flynyddoedd. O herwydd y Rheswm hwn, gadewyd hwynt megis gwrthodedigion a Phobl crwydraidd: yn gymmaint ac i ystyriaeth y farn hen arnynt: Ynnill môr belled ar laweroedd o honynt, hyd onis gyrrwyd hwynt nid yn unig i debygu eithr hefyd gyfaddef fôd Crîst wedi dyfod yr ydwy 'n cofio yn dda, ar fod un o honynt mewn ymddiddan ac eraill yno yn syniol jawn o'r mawr a hîr ddifrawd eu cenedl hwy oddiar amser eu Hanrheithiad hwynt gan Ymhe [...]odraeth Rhufain, a Chyfrifai efe eu holl orthrymderau au Hanedifeirwch hwynt, am y mawr ddrwg a wnaethant o Lâdd o honynt yr Arglwydd o'r Nêf. A chyffelybu o hono eu Barnedigaeth presennol, a Barnedigaethau eraill, y rhai a oddefasai eu Cenedl hwynt, cyfaddefod, d yn onest jawn, mal am ryw ddrygioni y credai efe yr hwn i r oedd eu Cenedl hwy yn Euog o hono, Ac un ou pechodau mwyaf, tebygai efe, oedd tywall [...] gwaed y Prophwyd a ddanfonassid gan Duw a [...] 'n cenedl ni: a chynifer o Lofruddiaethau a wnaethid gan amryw obleidiau a therfysgodd yn eu plith hwynt. Canys medd efe, nid ydym eulyn addolwyr, nac ydym ni hefyd yn euog o Eulun Addoliaeth: Ac oblegid hynny, mi debygwn nas cawsom y Farnedigaeth drom hon am hynny; eithr yn ddiammau i ni am dywyllt Gwaed Jesu [Page 109] Prophwyd Duw; Ac am ddwyn o honom fywyd amryw ai carasant ef; A llymma yn fyrr y peth yr ymddadleuwyd yr ail ddwirnod ou cyfarfod, ac yn y modd yma yr oeddyd yr ymddadl y bore nessaf.
Y Trydydd dydd, an hwy wedi ym gynnull ynghyd drachefn, y pwngc yr ymddadleuwyd bennaf oedd ynghylch y wedd o ddyfodiad Crist. A hwnnw a ddylasai (meddant hwy fôd mal Tywysog galluog mewn cadernid ac awdurdod Brenin. i. e. mewn mwy o Alluowgrwydd nac y fu gan un Brenin erioed. Ac y byddai iddo waredu ei Cenedl rhag holl Orthrymder eu Gelynion a'i hedryd hwynt iw Teyrnas drachefn. Ac y byddai i'r holl Genhedloedd fod ou crefydd hwy, ac Addoli o honynt yr Arglwydd yn yr un wedd a hwy canys hwy ddalient nas newsdiai 'r Messiah mo'u crefydd hwynt pa bryd bynnag y delai. Ac o herwydd hynny dechreusant bennodi a chyngloi, na ddaethai Crïst. Canys, Jesu 'r prophwyd mawr (meddant hwy) pan y daethai, a ddechreuodd gyfnewid eu Crefydd: Ac o blegid hynny, nid y gwîr Messiah ydoedd. A dywedant ymmhellach; pan y daethai 'r Jesu, yr hwn y mae rhai yn ei alw r gwîr Fessiah, efe a ddechreuodd yn y man dynnu i lawr ein Crefydd ni a derchafu un o'r Eiddo ei hûn: Ac am hynny nid y Gwir Fessiah ydoedd Felly yr ymddibynai rhai o honynt, eithr eraill a wrthnebent hyn. Eithr hwy a aethant o'r ymddadl hon i un arall ynghylch ei Rieni: cyd gordiasant i gyd yn hyn, sef mai o wyryf ferch y genid efe, yn ôl Prophwydioliaethau y Prophwydi yn yr hên Destament, ac yn hyn hefyd, y genid o'r fath wyryf-ferch ac a fyddai gwael ei bri, ai Rhieini, ymmhlith eu cenedl hwy, megis ac i'r oedd Mair Forwyn yr hon a Esgorodd ar Jesu Prophwyd mawr o Dduw, Ac o herwydd hyn, bagad o honynt a ogwyddassant i debygu fôd Crist wedi dyfod eithr nis terfynnassant ddim ar hynny, eithr gadel o honynt hynny hyd y dydd nessaf, pan ymgynullent ynghyd drachefn.
Y pedwaredd Dydd ar Gymanfa wedi ymgynnull ynghyd yr ymholwr a ymofynodd pa beth a dybygent hwy ai oedd Crîst wedi dyfod, ai nid oedd: dywedassant, eu bôd hwy a'r dŷb i fod efe wedi dyfod. Eithr attebasant yn llyn, os daethai [Page 110] ef, nid oedd ef neb arall onid Elias, o herwydd dyfod o Elias gynt mewn Cadernid ac Awdurdod mawr y datganodd, ef hyn gan Lâdd o hono Offeiriaid Baal ac o ran gwplâu o hono y Scrythyrau, ymosododd yn ei erbyn ef Ahab a Jezabel. Ac yn y modd hynny, cyfrifent y dyn yma yr hwn yr ydys yn alw 'r Jesu, mai 'r un ac Elias oedd ef, heb law hyn, dywedai rhai eraill eu bod hwy o'r dyb ei fôd efe yn rhagor na Dŷn marwol, o herwydd Esgyn o honaw i'r Nefoedd môr rhyfeddol, y peth y welodd rhai o'n Henafiaid, a hyn oedd y cwbl ac y wnaed y pedwaredd dydd.
Y Pummed dydd, A'r Gymanfa ynghyd, aethant ynghylch yr un ymddadl a ymresymassant oi blegid y dydd o'r blaen. Felly cymerassant yr un ymofyniad drachefn, mal attebent rhai a ddywedassant mai nid Elias oedd y Messiah, y cyfryw ac oedd wrthnebol o dŷb ymhonnassant y cariad ar gofal oedd gan Elias er llefiant eu Cenedl hwy; efe a adawodd ei ddiscybl Elisha ar ei ôl i ddyscu ac Athrawiaethu 'r bobol: A hyn a gyfrifent i fod yn swydd y Messiah. A rhai ymma oedd y rhesymmau pennaf i gynnal eu tŷb. yn yr un dydd Brydnhawn daeth ymofyniad yn eu plith hwynt, pa beth oedd efe yr hwn a lefarodd mai Mâb Duw oedd efe 'r hwn a groeshoeliassid gan eu Henafiaid hwynt eithr o herwydd mai ymofyniad mawr oedd hwn yn eu plith, oediassant yr ystyriaeth am dano hyd y dŷdd nessaf.
Y Chweched dydd, pan ymgynullodd y Gymanfa ynghyd drachefn i'r oedd yno rai Phariseaid, rhai a cyfodassant i fynu gan i bôd yn wrthnebwyr mawr yn erbyn Crîst, ac y lefarassant, a chymmerent hwy arnynt Atteb yr ymofyniad diweddaf; ac ni fynnent yn un modd gyfaddef mai Críst oedd ef. A dymma y rhesymmau a roddassant am eu tŷb: (1) Oherwydd (meddant hwy ddyfod o hono i'r bŷd mal dyn gwael a chyffredin, nid gyda Theyrnwialen a gallu Brenhinol. Canys ymhonnent, y byddai i adcyfodiad ef yn ogoneddus (2) Yr ail Rheewm yr ymddadleuid yn ei erbyn oedd gwaelder ei Enedigaeth ef. Mai saer oedd ei Dâd ef; A hyn (meddant hwy) oedd fath ammharch, na fyddai Crîst, pan ddelai ef yn Euog oi dderbyn y trydydd rheswm oedd hwn, cyhuddant i fod yn gau Grîst, ac yn wrthnebol i Gyfraith Moesen gan wneuthur [Page 111] o hono a gadel iw Ddisgyblion wneuthur Peth angyfreithlawn ar ddydd Sabbath. Canys eredasant, (meddan [...] hwy) cadwai yr Messiah yn berffaith Gyfraith Moesen, ac er gwrthatteb hyn tyftiolaethau yr Efengyl am Grist, iddo gwplhau Cyfraith Moesen, etto gwrthodent yr Atteb hwn, o herwydd na's credant, na cnyfaddefant yr Efengyl, eithr daliais sulw' na's bodlon au y Rhesymmau hyn mo'r Gymma, eithr trigai rhyw amheuon yn oestadol ynddynt ynghylch Crist.
Yn ol darfod o'r Phariseaid lefaru, fafodd i fynu un Rabbi, ai enw Abraham, ac wrthymddadlodd yn erbyn y Phariseaid, gan ddywedyd, y Gwrthiau a wnaeth Críst tra bu ar ŷ ddaiar, sef adgyfodi o hono y meirw i fywyd drachefn, gwneuthur o hono yr Cloff [...]d i gerdded y Deillion i weled, y Mudion i lefaru, trwy bwy allu, fy Mrodyr, a gwnaeth efe hyn? Gyda hyn ymgyfododd y Phariseaid, ac a ddymunassant gael Atteb, iddo a thymma 'r Atteb a roddassant ger bron y Gymanfa: Nid hwyrach (meddant hwy) mai Twyllwr a Hudolydd oedd yr Jesu hwn, ac yn y môdd hynny yn cael gallu i wneuthur y Gwrthiau hynny. Ac o'n rhan ni credwn wneuthur o hono 'r hôll ryfeddodau a'r y wnaeth efe. trwy Hudoliaeth a swyn gyfareddwr trwy 'r hyn yr edfrydwyd hwy i'r un cyflwr ac i'r oeddent o'r blaen ynddo. ni rôdd yr Atteb ymma ond ychydig o fodlonrwyd ir Gymanfa yn enwedigol i'r Abraham hwnnw: Ar hyn cyfododd i fyni ac wrthattebodd Drachefn, pa fôdd gallasai y Crîst hwn wneuthur twyn gyfaredd, ar y Deillion, y Cloffion, a r mudion er pan enid hwy, felly, eyn geni o Grist megis i'r ymddengys fôd rhai o honynt felly. Ymddangossodd hwn megis ymddadl Orchestl i'r Phariseaid; ac yn ddiau canlyniad o'r Rheswm ymma a osododd y Phariseaid agos i dewi: Eithr o'r diwedd dechreuodd y Phariseaid lefain drachefn, ac y rhoddasant yr Atteb ymma. (er i fôd yn un gwael a gwan) nid a hwyrach (meddant hwy) nag i'r dynion gweinion hynny gael i gwneuthur felly gan rywswynwyr naill, a'u cyfareddu i fôd yn gloffion, deillion amudion &c. Ac er nis Ganefid efe y pryd hynny, pan anwyd hwynt ar gwendid hynny arnynt, etto A'r Jesu hwn yn ledrithiwr mawr, ac yn gyfrwysach nac un hudolydd oi flaen ef, gallu a roddwyd iddo [Page 112] gan y Diawl i symmud y cyfareddau hynny, a osodasai rhaî un waith arnynt. eithr i'r oedd u [...] Ph [...]riseaid ymhlith eraill, a [...] Enw Zebedee, yr hwn ymhlith yr holl Pharis [...]d yno ymgynnu [...]edig a wradwyddodd Gr [...]t yn dra s [...]rhaus ac yn g [...]blaidd; ac y ddirwasgodd y pet [...]au hynny yn haerllug yn ei erbyn e [...] i'r Gymmanfa; eith [...] yr ydwyt o'r meddw [...] n [...]d oedd ei ymadroddio [...] yn gymmeradwy i neb o ho [...]ynt nac i'r Ae [...]odau y cynghor, nac i'r Phariseaid chwaith Ac megis, ac y gwnaeth y Phariseaid ei Rhann y d [...]wrnod hwn [...]w yn erbyn Crist, felly gwnaeth y Saduceaid yn yr un wedd hefyd: Canys rhai or Gymanfa oedd o'r b [...]a [...]d honno rhai ymorch [...]st [...]nt i wneuth [...]r Crist yn ddibris ac yn gas i r Juddewon eraill.
Mi dda i [...] s [...]ulw ar fod yr awr hon rhwng y Pharisea [...]d a'r Saduceaid m [...]l y bu gynt rhwng Herod a Philat. Er nas cydgo [...]d [...]ai rhain ymhlith ei gilydd ar amseroedd eraill, etto cyttu [...]ent ai gilydd i Groeshoelio Crîst. Felly yr Phariseaid a'r Saduceaid, er i bôd hwy yn anghyttunol ymhell yn eu piniwnau ymhlith eu gilydd etto cyttunasant yn rhy dda ar yr amse [...] hwn i wradwyddo Crîst au celwyddau a'i bloeddau a Chabledd: Canys y Saduceaid yn gystall ac Phariseaid ai cyhuddent ef i fôd yn hudo [...]ydd' mawr ac yn Swyn Gyfareddwr, herwydd dysgu o ho [...]o yn ei Efe [...]gyl [...]dgy [...]odiad y meirw yr hwn (meddant) yr ydym ni yn ei ymwadu. Eithr nid rhyfedd yw gweled ym [...]aniadau yn cyttu [...]o mewn rhyw ddrwg amca [...]ion yn erbyn eraill; m [...]l y gwela [...]st wy brofiad yn y flwyddyn 1650 Yr hon oedd flwyddyn eu blwyd [...]yn Jubilee neu gorfo [...]edd, Ar y cyfamser hwn i'r oedd ymryson mawr rhwng 'r es [...]itiaid a Brodyr o D [...]efn St. Augustine. Ac er distawi'r ymryson rhyngddynt trwy ofal a diwydrwydd ydd y P [...]b f [...]l na ddalodd y byd ddim sulw mawr tros y tr i hwnnw; etto 'r tân hwn a dor [...]odd allan drachefn yn ff [...]gl mwy (mal y dywed [...]yd) nag o'r blaen; i ymddadleu cyhoedd ac ymgenne [...]u e [...] [...], naill yn e [...]byn y llall, ge [...] ago [...] rhyferthwy o amryfuseddau, ac ymraniadau gilydd. Ac mil hyn yn ym [...]roaestu i wradwyddo eu [...]ilydd y Pâb a fygyth [...]odd esgy [...]nna [...] Awdwyr y [...] holl Lyfrau farhaus rhai a dywedant i ammharch [...] gwŷrl [...]ên [mal y geilw efe hwynt) a'n gwneuthur yn enllibus ir Bŷd; eithr y pethau hyn ar ddamwain.
[Page 113]Y seithfed Dydd, ni ddaethom nawr ir seithfed dydd ou cyfarfod, hwynt yn y Cymanfa; ar y diwrnod hwn, y Prif ymofyniad oedd [...]d oedd Crîst wedi dyfod, pa Reo [...]au a threfn a adawodd e [...]e yn e [...]ol i rodio ynddynt ymo [...]yniad mawr oedd hwn yn eu p [...]th. Canys nis credant yr Efengyl nar 'r Testament newydd, ac nis mynnent eu cyfarwyddo ganddo, Eithr ymgeisiant ryw Athrawiaeth, arall [...]w cyfarwyddo au tywys hwynt yn y pwngc hwn. Ar hyn chwech o'r Ofeir [...]aid Rhufenaidd y rhai a ddanfonwyd gan y Pab i'r perwyl hynny i Ymgynghori yn y gymanfa [dau o'r rhemy oeddent Jesuitiaid, a phedwar oeddy [...]t Frodyr, dau o Drefn St. Austin a dau o Drefn St. Ffrancis) A i hwy yn cael i cenhadu i 'r Gymanfa, a ddechre [...]sant agor iddynt Athraw [...]aeth a Rheo [...]au y Sanctaidd Eglwys Rufain; yr hon a g [...]odforasant ger i bron, ac i bôd yn Eglwys Sanctaidd G [...]tholic Crist, a'u Hathrawiaeth hwynt i fôd yn Athrawiaeth ddidwyll Crîst, a [...] Rheol [...]u hwynt fôd yn Rheolau a adawodd yr Apostolion yr Eglwysi gael eu [...]adw byth, A bôd y Pab yn Fic [...]ar Santaidd Crist a dilyniawdwr St. Peder. Am bethau neillduol, ymhonnas [...] cywir Presenoldeb Crist yn Swpper yr Arglwydd. Y Cyfarchwyliad Cre [...]ydd [...]l o'r holl Ddyddiau Gwylion. Cyfarch y Seinctiau, eu Gweddiau at y Forwyn Fair, ai gallu gorch [...]mmynedig yn y Ne [...]oedd oddiar ei Mâb. Ymarferiad Sanctaidd or Groes, ar Delwau, eu G [...]u Dduwiaeth ai Hofergoelion Addoliaeth; Ar ho [...]l bethau hyn a ganmolasant, gan ddal mai Athrawiaeth a Rheolau 'r Apostolion ydynt.
Eithr cyn gynted ac y clybu 'r Gymanfa Juddewig y pethau hyn gan y Pabyddion, ac a fu ddrwg a [...]uthrol ganddyn [...] glywed y cyfryw, gan fonllefain yn greulon yn eu herbyn, gan waeddi allan, dim Crîst, dim Mair Forwyn, dim Duwferch, dim cyfryngiad y Seinct [...]au, dim Croes [...]u Sanctaidd, dim Addoliad Delwau, &c. [...]u gofid au blinder oedd gymmaint ac y basai 'r galon galetta yn dolurio ei gweled au clywe [...]: canys hwy a rwygasant eu Dillad au Gwallt. ac a fwriasant [...]wch ar eu Pennau, Gan waeddi allan. Cabledd, cabledd Cabledd yn Cablaidd yn erbyn Jehofah a Christ ein Brenhin Ac yn y fath ofid a blinderus gythryfwl y Gymanfa a chawlodd ymaith.
Eithr an hwythau 'n ewyllysgar i wneuthur rhyw beth ac [Page 114] heb ymfodloni eu hunain mewn dim, hwy a gyd ymgynnullasant ynghyd yr wythfed dydd; a chymmaint ac y wnaethant y dwthwn hwnnw, oedd gyttuno ar gael ail ymgylarfod Juddewig ymmhen tair Blynedd ar ôl hynny; a chwedi ymgyttuno ar hynny hwy lwyr ymadawsant.
Rwy 'n credu medd yr Adroddwr fod yma amryw or Juddewon a allesid yn hawdd eu perswaidio i Addef ein Harglwydd Jesu Grist. Ac y rwy 'n siccrhau i chwi am Wirionedd, er Parch i'r Grefydd Brotestanaidd. ac er cyssur i'n Difinyddion, un or Rabbiaid yr hwn oedd Wr enwog yn eu mysg, yr hwn wrth gyd-ymddiddan am fi, yr hwn a adroddodd i feddwl i mi ynghylch y peth fel hyn. iddo ef gydnabod ar y cynta' y byddai i'r rhai a ddanfonasid o Rufain, ennyn Anghydfod a bod yn niweidiol i'r gymmanfa, 2, Yn ail efe a Dystiolaethodd i mi gan lwyr Addef fod ei Ddymuniad ef yn fawr ar gael rhai on Difinyddion Protestanaidd yn bresennol yn en Cymmanfa, ac yn Enwedig rhai o wyr, Eglwysig neu Beriglorion Lloegr, am ba rai 'r oedd ganddo ef well tŷb na neb eraill yn y bŷd, Canys yr oedd yn credu fôd gennym ni gariad mawr iw cenedl hwy: Ar achosion o'i fawr greduniaeth dda am ein gweinidogion ni [oedd fel y dywedodd ef i mi] o herwydd iddo ef glywaid yn fynych eu bod hwy 'n Arferol a Gweddio 'n gyffredinol am droedigaeth eu Cenedl; yr hyn oedd e'n i gyfaddau i fod yn Arwyddion o fawr gariad tuag attynt hwy: Yn Enwedig efe a Ganmolodd Eglwyswyr Llundain. am Bregethiad rhogorol; ac am e'u Helusengarwch tuag at eu Cydwladwyr fel y clywsai ef gan amryw ymdeithyddion. Fe a ddywedodd ymmhellach, i fod e'n cyfri Eglwys Rufain yn Eulun Addolgar: Ac o'r achos na addefai ef mo'i Crefydd. Eithr wrth gyd-ymddiddan ag eraill o'r Juddewon, mi a gydnabum nad oeddynt yn meddwl fod un Grefydd Gristionogawl arall yn y Byd, ond honno o Eglwys Rufain, ac o Achos yr Eulunaddoliaeth Rufeiniaidd, hwy a lwyr feddyliasant fôd yr Holl grefydd gristnogol yn feius ac yn wrthwynebus, wrth hynny y mae 'n dangos yn eglur mai Rhufain yw 'r Gelyn mwya yn erbyn Troedigaeth yr Juddewon.
Am ail ymgyfarfod yr Juddewon, nesa, y lle appwyntied [Page 115] yw Syria mi fum yn y Wlad honno hefyd; ac a fum yn y siarad a rhai o Gred y Rechabiad, y rhai sy 'n cynnal eu hên Ddefodau au Rheolau i fynu. Ni Phlanant, ni Hauant, ac ni Adâiladant Dai, eithr byw, mewn Pebyll; ac symmudant yn aml o le i le, au holl Deuluoedd, au Dodrefn. [...]aith yr Idal sy wedi ymledu hyd y Bŷd, ar Juddewon a ymddiddanant cyn fynyched yn honno au Hiaith eu hunain, or achos y fi a gyd Siaradias a'n hwy 'n gystal a phed fasai 'n eu Hiaith eu hunain, ac os rhydd Duw im gennad ac Odfa, mae f. ewyllys gael bod yno yn Dyst o'u Cynghorfa nesa', yr hon sy' i fod yn y flwyddyn 1653. yr Arglwydd a'i Llwyddo.
Cof-restr byrr ynghylch yr JUDDEWON, O'r Flwyddyn o oed Christ 1650, i'r Flwyddyn 1666. Gan Nath. Homes, D. D.
WRTH weled yn, eglur yn yr Hanes o'r blaen, yr hyn y wnaed ar Gyhoedd ac nid mewn Congl yn y fllwyddyn 1650 Tu ag at Alwedigaeth yr Israeliaid; A pha cymmhelled y dygwyd llawer o r Cynghoriaid hynny i Addef Christ ein Messiah; a pha gymmaint ymmhellach y basai llawer eraill o'r Cynghoriaid ŷn Cydnabod Crist, oni basai i'r Offeiriadau Pabaidd fod yn Faen tramgwydd i'r Gynghorfa, gan gymmeryd arnynt fod Sothach y Grefydd Babaidd, sef Fulun addoliaeth yn ordinhadau Christ. Nid oedd yno gymmaint ag un Difinydd o B [...]otestant yn bresenol i ymresymu 'n eu herbyn.
Chwi a glywsoch hefyd pa beth a ddarfu iddynt ymroi ar [Page 116] or cyffelyb natur, i fod yn y flwyddyn 1653. Ond nid oes gennym ddim Hanes [...]w roddi am hynny, pa un a wnaeth Mr. Samuel Brett ai byw hyd hynny, neu a gafodd ef ruddhâd i gyflawni ei Addewid o fod yno [...]eu os oedd e'n fyw pa un y wnaeth ef ai 'scrifennu Hanes Cyfarfod y Flwyddyn honno; (a phar un y wnae 'r Gwr ai bod yn fyw a'i peidio) etto nid oes i ni le [...] feddwl na bu 'r Cyfryw ymgyfarfod, yr hwn a ddar [...]u i ordeinio mor Gyhoeddus ac i'r cyfryw ddiben [...]wysfawr [...]id oes ammeu na chyflawned e'n ô [...] yr amser ar lle, er em bod ni y rhai sy 'n byw cymmhelled oddiwrthynt heb glywaid oddiwrtho. Etto hyni a glywsom ynghylch yr amser honno, neu 'n fuan ar ôl hynny; I rai o'r hên Athrawon rybuddio ymmlaenllaw eu Cydwladwyr oni ddeuai ir cyfryw Fessiah ad yr oeddynt yn ei ddisgwyl mewn ychydig Flynyddoedd ar ôl hynny, Hwy a Addefont y Messiah Christ'nogol am y gwir Fessiah. A hyn hefyd a allwn m'i Siccrh [...]u pa [...]th a by [...]ag a ddaeth oddiamgylch yr amser hwnnw ynghylch Galwad yr Juddewon, etto fe ellir cyfri a chyfadd [...]fu'n dda ddi [...]on hynny at 1290 o [...]lynyddoedd. ( [...]an. 12 [...]) Er pan Orphwysodd yr Aberth beunyddiol, os rhoddwn i lawr eitha G [...]rphwysfa 'r Aberth beunyddiol wrth y cyfri, os Dechreuwn ni yn ôl y mae y Dyscedig Bucholcerus yn y Flwyddyn 363. Ac yno ['n ôl y cyfri hwn] y 1290 o Flynyddoedd sy 'n dibennu yn y Flwyddyn o Oed Christ' 1653.
Yn y Flwyddyn 1658 Ebrill 12. Ni dderbyniasom Lly [...]hyr o dan Law un Dysgedig a Chrefyddol. I un Rabbi Na [...]b [...]n Sephira, ddanfon o Gaersalem at yr Eglwysydd Christnogol Protestanaidd yn Europia, i dderbyn rhydd Ewyllysgarwch tuag at Cynnorthwyo 'r Juddewon yn eu Cyfyngder, yr hwn a ddywedodd fel y canlyn; Ebr ef, y rwy 'n addef fod y 53 Ben. o Isaiah, Yn meddwl y Messiah. yr hwn a ddug ain Pechodau er Adda. Ac am Athrawiaeth Christ, yn y bummed, chweched ar seithfed Bennod o Fatthew, yr wy n cyfaddef i fod yn rhagori pob Doethineb: A phwy bynnag a rodia ar eu hôl sydd gyflawnach na ni. Am yspryd y Messiah, fe ddywedodd i fod yn ymddangos ar amryw amseroedd. megis He [...]ekiah, yn Habukkuk, yn ein Iesu, y rhai y darfu i'n Cynteidiau [Page 117] eu rhodai i Farwolaeth ar gam, ar pechod hwnnw sy 'n gorwedd yn arwm arnom hyd [...]eddyw. Ar Broffes (Ebr e [...]) nid wy n gwneud yn unig troswy fy hun, eithr tros eraill yng Haersalem, lle mae 'r Juddewon Du [...]iola yn pres [...]lio; I rhai trwy ymp [...]ydio, [...]wilio, ac yma [...]ferion eraill o Edifeirwch sy 'n [...] iw Had [...]ymodi 'u hunain a'i holl Genedl a Duw. Hyd yma R. Nat [...]an Sephira, yn awr hyn a p [...]a beth bynnag arall a dd [...]gwyddodd ynghylch y Flwyddyn 1658. Tuag at A [...]wediga [...]t yr Juddewon, a all hefyd i gyt [...] ai gyfaddasu i'r B [...]ynyddoedd 1290 at Flwyddyn Ch [...]ist 367 F [...] eiriau sydd fel hyn. Anno 367. Terre M [...]tum [...]ngens totum ferre &c. Hynny ydyw, yn y Flwyddyn 1637. Da [...]argryn fawr a ysgwyd agos yr Holl Fŷd: Diluw a ddita Nice, ac amryw Yn [...]soedd, Cenllysg mawrion Y [...]g Ho [...]stantin [...]p [...] a guirant Ddynion i lawr hyd y Ddaiar, [...]c a'i ddfiryw [...]a hwy hefyd Teml Caersalem yr hon a Ail Adeila [...]wyd gan Ju [...]an yr ymerawdwr, a syrth i lawr ac a losgir gan [...]an o r Ne [...]oedd, Ac yn ôl y cy rihwnnw, 1290. Blynyd [...]oedd, sy 'n diwedd yn y Flwyddyn 1657. wrth sodl [...]u pa un y mae 'n canlyn y rhagddywededig &c. yn y flwyddyn 1658.
Functius Ddysgedig sy 'n rhoddi i'r Daiargryn. Llifeirfa [...]t, a Themestl Danllyd Dis [...]ywiad [...] ar [...] o eitha Gorphwy [...]ra 'r Aberth b [...]u [...]yddiol,) ym mlwyddyn Christ 369. A rhoddwch hynny at 1290 efe a wna 1659.
Os daw gô [...]vn, pa fodd y mae 'r Gwyr Dysgedig yn cymmeryd ŷ cyfryw rydd-dîd, yn ôl y Gwirionedd, eu bod hwy 'n ymrafaeliedig cymmaint oddiwrth eu gilydd yn rhoddi i lawr Gorphwys [...]ra 'r Aberth b [...]unyddiol, fel y dywedpwyd o'r blaen, ac felly 'n gwneud eu Cym [...]u [...]iadau trwy y rhifedi-a rhoddir ynghyd a hwynt a'i dibenion yn gwahanu cymmaint. Ni attebwn, nid hwyrach wrth ystyrio gorphwyster 'r Aberth beunyddiol, o achos y [...]a [...]nedigaethau Rhyfeddol Rhagddywededig, Destrywiad Adail newydd y Deml, pob un or ddau sy 'n gofyn bod ymrhaid, cryn yspa [...]d o amser, h. y. Rhaid bod amser go he [...]aeth i Ail Adailadu 'r Deml yn gyhyd ac y cyfrifwyd ymmysg Historiaw yr fod yn ei Hail Adailadu hi. A rhaid ystyriaid cryn amser tuag at Cyflawni 'r [Page 118] Barnedigaethau hynny; megis Difrodiad y Gwaith Coed, troi i fynu yr holl waith Cerrig, a gwneud y ffordd yn anhygyrch i fynd atto trwy amryw Farnedigaethau Aruthrol, fel y mai Buchelcerus yn Siccrhau, yr hyn ar amryw amseroedd a attaliodd y gweithwyr oddiwrth y Gwaith. Y pethau hynny, a wnau allan hir amser, o ddech [...]euad yr orphwysfa honno, er eu gwrthgiliad wrth Mamre, a thra ouont yn ymddarparu am, ac ail adailadu 'r Adail, hyd Ddestrywiad yr un rhyw. Ac wrth y cyfri hwn rhai a ddichon ddechreu eu cas gliad o ddechreuad y Gorphwystra, eraill oddiwrth ei ddiweddiad.
Ebrill 1663. Fe ddaeth i mi Lythyr oddiwrth wr Duwiol a Dysgedig, iddo ef weled Llythyrau oddiwrth un Celfyddgar yn yr Hebreaeg, mewn Prew ardderchog o eiddo 'r Protestaniaid: gan Gyhoeddi ddyfod amryw wyr Parchus atto ef, a Ad [...]êfent eu hunain yn Juddewon o waedoliaeth, a chen [...]dl, a Chrefydd; Oddieithr eu bod yn a ddef yr JESU, ai fôd ef yn Fessiah, gan ofyn Cyngor ir Hebread Dysgedig hwnnw, ynghylch cymmeryd arno 'r Enwaediad: Yr hwn a'i Cynghorodd hwy fod eu Teyrnas hwy 'n Brotestanaidd, na chynwysent hwy Gristnogion Juddewaidd yn eu plith: Hwy a ymadawsant ac aethont i Deyrnas Bretestanaidd arall lle mae 'r cyfryw Gymmysg Grefydd yn gynnwysedig, eithr heb ei chymmeradwyo.
Yn yr un Flwyddyn 1663. Medi 4 Mi a dderbyniais Lythyr oddiwrth Wr Dysgedig yr hwn sy a chryn Gyfeillach rhyngddo ag amryw or Athrawon Juddewaidd. er bod yr Juddewon yn ymddangos mo'r Rhyfygus yn eu Presennol Gyflwr truenus, etto er hynny i gŷd, eu bod hwy 'n Dystion ir Bŷd, Fod Duw mewn Gw [...]rionedd; i. e. A bod Christ hefyd, yr hwn a ddarfuasai iw Cynteidiau ei groeshoelio; yr hwn a wnaethau fawr wrthiau, ac yr oedd ei Ddisgybliôn yn dal ei Adgyfodi oddiwrth y meirw▪ &c.
Yn yr unrhyw Flwyddyn 1563. Rhagfyr 3. Mi a dderbyniais Lyfr bychan, a ddanfonwyd i mi o Ffranckfort; A Ewyd Judeorum Excit atulum macutinum; yn Cynnwys llawer o bethau ynghylch galwad yr Juddewon yn Neshau, fel y mae Enw 'r Llyfr yn arwyddoccau.
[Page 119] Mai 12. 1663. Mi a dderbyniais oddiwrth gyfaill Parchedig fel y canlyn: Rhyw Juddew ac Athraw y bum i yn ei Gymdeithas. sydd or lle hwnnw yn Isaiah 34.8. Canys diwrnod dial yr Arglwydd, Blwyddyn talodigaeth yn a [...]hos Sion, yw. Rhowch at, fod y peth megis yu tueddu at y Flwyddyn, ym mha un y cymmer yr Arglwydd mewn Llaw hawl Sion, fel y gallo ef dalu 'n ddau Ddyb [...]yg i'r rhai sydd hyd yn hyn yn ei Thrallodi hi, Y gair Hebreaeg ( [...]br ef) i Ddatcan Taledigaeth, yw Shillumen. Fe allai fod yn ddigonol ddywedyd, hwn ydyw D [...]wrnod dial, Oddiger [...]h bod gan yr Yspryd Glân Ewyllys, megis tan gudd i Rag arwyddoccau y Flwyddyn sef; ym mha Flwyddyn or Chwemil y d [...]chrau 'r un fawr Sabbothaidd; a bod yr Yspryd Glan yn rhag-arwyddoceau tra byddo ef yn gyssylltiedig ar gair Blwyddyn, Y Gair Shillum yn y Llythrennau Rhifyddiaeth, am ba air pan yscrifennir yn yr Hebreaig y wna 426. sef y Flwyddyn bresennol 1663. Fe gyfrifir gan yr Juddewon er y Creadigaeth. 5424. At ba rai os cyssylltwch ddwy flynedd y mae gennych yn y Chweched Mil 426. Ac os nyni a rifa er Ganedigaeth Christ, mae gennym ym mhen dwy Flynedd Rifedi 'r Anifail, sef 666. Os digwydd i neb ddywedyd fod ar hyn eisiau cyfander, Yr wy 'n Atteb, fod hyn yn gymwys i'm hamcan, sef disgwyliad o Alwedigaeth yr Juddewon cyn pen hir; Canys yr Achosion or Casgliad hwn ydoedd sef ar iddo ef gymmeryd arno Ddarogan megis ag yspryd Prophwydoliaeth, mai ym mhen Dwyflynedd y digwyddai rhyw beth hynodol i'r Juddewon, naill ai er gwell ai er gwaeth, a phan ofynid iddo o ba le y darfuasai iddo ef gasglu hynny? Yn Atteb i'm Holiad yntai a ddangosodd y lle yn Isaiah 34.8. Ar ba fan y gwnaeth ef y cyfryw Gynnulliad.
Fel hyn y daethum i ar Darllennydd i lawr o 1650, hyd fin y flwyddyn 1665. Gan roddi o hyd iddo beth trumedd neu Lewyrch o fod galwedigaeth yr Jddewon yn Neshau. (ond pa cyn nesed sy beth mwy nag a ellir eu ddywedyd) ac am y flwyddyn bresennol 1665. Yr hon sydd o fewn pum niwrnod iw therfyn, ni bu i mi a wnaethum ai Hanesion o herwydd, Poccedi rhai sy'n llawn o Lythyrau, eu Dwylo 'n [Page 120] llawn o Bappurau eu Clustiau yn llawn o newyddion a [...] etto, au [...] yn [...]glu [...] [...]ô [...] y [...] Juddewon yn gadae [...] heibio [...]u Mas [...]ach, gan Lwytho, ty [...]u ac ymdeithio. Ar holl ysty [...]ieth o [...] cyfan i [...] gyda Daniel ymmherthynas Ga [...]edig [...]eth yr I [...]raeliaid, Pen. 12.10. Llawer a [...] ac a [...], ac a [...]om: [...]thr y rhai drygionus a wnant ddrygioni, ac ni ddeall yr un o'r rhai ddrygionus, Ga [...] hynny Ddarllenydd rwy n canu 'n [...]ch iti.
Ol Ymadrodd.
WRTH yr H [...]nesion o'r blaen ni a allwn ddal Sulw, pa feddyli [...]u, [...] [...]wyliadau, or dy [...] dda oedd gan amryw Gristnogion yn [...]hylch Galwad a Dy [...]hweliad yr Juddewon yn y Flwyd [...]yn 1666 ac yn E [...]wedig am y Swn aethae ar [...]ed y B [...]d o Herwydd y Gau [...]essiah Sabata [...] Sevi, Y hwn yn union yn y cyfamser hwnnw, a gymmerodd môr [...] yr Enw ar [...]o gau G [...]boed [...]i i fôd e'n dyfod i wa [...]eau 'r Jedde [...]on o'r Caethiwaid. a'i dyg [...]d i Gaersalem. i De [...]rnasu arnynt yno; Felly mae'r Hanes ganl [...]nol yn gwirio ' [...] ddid [...]edd Weith [...]edoedd a Marwol [...]eth, y sioniwr gwael hwnnw, ar Anair a ddygodd yr Juddewon arnynt eu hunain em gredu a h [...]ffi'r [...] yw bethau'n rhy hawdd; Hy [...] hef [...]d eill fo [...] er Coff [...]dwriaeth i bob Dynystyriol fod petheu dirgel yn pe [...]thyn i [...] yn unig ac a ddatcuddir i D [...]ynion fel y [...]adwom ei G [...]fr [...]thiau. Awdwr yr Hanes hon oedd Sais o wr Bo [...]b [...]ddig [...], ac yn y cyf yw Alwedigaeth, a gallu i gael j [...]wn ys [...]srwydd a chwbl wirionedd or peth, ac am hynny yn baeddol iw Gredu.
Y Messiah Siommedig; neu gau Grîst yr JUDDEWON, Yn Smyrna. Yn y Flwyddyn 1666.
YN ôl Rhagddywediad amryw 'scrifennyd [...]ion Christnogawl, yn enwe [...]ig y rhai a Espo [...]iodd ar y Datcuddiad, ynghylch y Flwyddyn 166 [...]. Hwy a ddangosasant y byddai droeau dieithr Rhyfeddol yn y Flwyddyn honno, drwy 'r Bŷd. Ac yn enwedig, er llwyddiant i'r Juddewon, nai [...] a'i ynghylch ei Troedigaeth i'r ffydd Gristnogol, neu eu Dychweliad iw Teyrnas Dymmhorawl. Y Dyb hon oedd wedi ymledu a chwedi 'i gadarnau yng N [...]wle [...]ydd lle mae 'r Crefydd wedi Hadgyweirio; megis sy [...]thiad y Pâp. ac Anghr [...]st, a mawrhad yr Juddewon, cymmhe [...]led ac ir Bobl gyfrwys hynny, Farnu i bod hi 'n amser cyfaddas i Gynhyrfu ac i gymmwyso eu hunain yn ôl y [...]ymmor ar Daroganau Diweddar; Ar hynny newyddion a redodd o le i le o ymdaith L [...]uoedd o Bobloedd o Barthoedd Anghydnabyddus, i Arghysbell Anialwch Arabia. Gan Dybiaid mai 'r Deg-llwyth a hanner, a gollwyd er y [...] amryw Oesoedd. Fo [...] L [...]ong wedi dyfod i duedd Gogledd Scotland ai Hwyliau a'i Chyrt o Sidan, ar Llongwyr yn Siarad Hebreaeg, ar Da [...]luniad yma ar yr Hwyliau. Deuddeg Llwyth Israel. Ar Hanesion hynny a gyttunodd yn agos ir Darogahau o'r blaen, gan roddi 'r fath wyllta o Bobl y Byd, mewn Disgwyliad o ryw Ddamweiniau Rhyfeddol, y Flwyddyn honno, ymmherthyn [...]s ir Archdeyrniaeth Juddewig.
Yn y modd yma Myrddiwnau o Pobloedd oedd wedi ymchwyddo o debygoliaeth pan ymddangosodd Sabatai Sevi [Page 122] gynta 'n Smyrna, ac a Gyhoeddodd ei hunan yn Fessiah yr Juddewon, gan amlygu mawredd eu Teyrnas oedd neshau a Llaw gre 'r Arglwydd yn eu Gwaredu hwy o'i Caethîwaid, au casglu o bob Parth o'r Bŷd; A Rhyfedd oedd fel y rhedodd y Newyddion yma, a chynted yr Aeth Hanession Sabatai a'i Athrawiaeth trwy holl Wlâd y Twrc lle 'r oedd yr Juddewon yn byw; Au Meddylieu oedd yn rhedeg ai Creduniaeth ynghylch eu Teyrnas newydd, ai Chyfoethogrwydd, ac amryw o honynt a Derchaf [...]ad i Swyddau tan y Llywodraeth Bri â Mawrhydi, Ac ymmhob man o Gonstantinopl i Buda (llê bu i mi ddamwain i ymdeithio y Flwyddyn honno) mi a ddeliais Sulw ar gyfnewidiad Rhyfeddol yn yr Juddewon heb neb o honynt yn troî mo ben eu Gorchwylion, oddigerth i ddirwyn i fynu eu Negesseuau o'r blaen; Ac iw ymddarparu eu hunain au Teuluoedd iw Taith tua Chaersalem: Eu holl ymmadroddion, Breuddwydion, a threfniad eu Trybestod oedd yn unfryd i gael eu hail Sefydlu 'n Nhir yr Addewid, er Mawrhydi, Gogoniant, Doethineb, ag Athrawiaeth y Messiah, Dechreuad, Ganedigaeth, a dygiad i fynu pa un oedd i roddi cyfri am dano 'n gynta'.
Sabatai Sevi oedd Fâb i Mordecai Sevi a Anwyd ac a fagwyd yn Smyrna, yr hwn a ynillai ei fywioliaeth, wrth wneuthur rhyw Farchnadyddiaeth tros Farsiandwr o Loegr yn y lle hwnnw; Corph pa un cyn ei farw oedd afiachus, or Gymalwst a Chlwyfau eraill. Eithr ei Fâb Sabatai Sevi, a ymroddodd ei hunain i Astudio, ac a aeth ymlaen yn hynod yn yn yr Hebreaeg ac mewn Goruwch Naturolion bethau, ac a aeth ymalaen mewn Dichellion yn Nisinyddiaeth a phethau eraill hyd oni ddarfu iddo ddefeisio Athrawiaeth newydd yn eu Cyfraith hwynt, nes iddo dynnu ar ei ôl gymmaint o Ddisgyblion ir Gelfyddyd honno, nes codi o honynt un Diwrnod Derfysg yn y Synagog; Yr hwn a Farnwyd gwedi ac y droed allan o'r Ddinas gan y Chochamiaid Esponwyr y Gyfraith.
Ac yn amser ei Alltudiaeth efe a Ymdeithiodd i Thessalonica a elwir yr Awrhon Salonica, lle y Priododd ef Ferch Dlôs, naill ai eisiau medru Llywodraethu Gwraig, neu fod arno ryw wendid tuag at wragedd fel y dwedwyd neu nad [Page 123] oedd hoff ganddo hi; efe a wnaeth Lythyr yfgar rhyngddo ef a hi, ac a gymmerodd ail Gwraig yr hon oedd dlysach na 'r gynta', eithr rhyw anfodlondeb a gododd rhyngddynt; ac efe a fynnodd Lythyr ysgar rhwngddo efe a hinthai hefyd. A chan ei fod wedi ymruddhau oddiwrth drafferhtion Teu [...]uaidd, ei Ben ansefydlog ai cynnhyrfodd ef i ymdeithio trwy Morea. Oddiyno i Drippoly yn Syria, Gaza a Chaersalem; Ac ar y ffordd efe a drawodd Wrth wraig o Leghorn, yr hon a gymmerth ef yn Drydedd wraig merch i un o'r Poloniaid neu 'r Ellmyn, eithr ni wyddid yn dda moi Dechreuad nai Rhieni, a phan ddaeth e'i Gaersalem efe a ddechreuodd ddiwygio 'r Gyfraith Juddewaidd a Diddymmu Gwyl Tamuz yr hwn a gadwant hwy ym Mis Mehefin ac efe a gyfarfu rhyw Juddew a elwyd Nathan, yr hwn oedd offeryn cyfaddas i yrru 'mlaen ei Fwriadau, efe ai gwnaeth ef yn gydnabyddus ai Gyflwr, a Threfn eu Fuchedd, ac hefyd ei amcan ai fwriad ar ei Gyhoeddi 'i hunan yn Fessiah y Byd; yr hwn a fasid cyhyd yn ei ddisgwyl gan yr Judddewon; Y Bwriadau hyn a fu Ragorol gan Nathan; Ac o herwydd iddynt dybiaid yn Angenrheidiol yn ôl yr Ysgrythyr ar hen Brophwydoliaethau, fôd Elias i ddyfod o flaen y Messiah, fel ac y bu Joan Fedyddiwr o flaen Christ, Felly fe a feddyliodd Nathan nad oedd neb gymmesurach i chwarau [...]han Prophwyd nag ef ei hun; A chyn gynted ac y Cyhoeddodd Sabatai 'i hunan yn Fessiah, Nathan hefyd a ymddangosodd ei fod ynteu yn Brophwyd iddo. Efe a waharddodd holl ymprydiau 'r Juddewon yng Haersalem, Gan Cyhoeddi fod y Priodfâb wedi dyfod, ac na ddylae fod dim ond llawenydd a Gorfoledd tu fewn iw Preswylfod; gan 'scrifennu at holl Gymanfaoedd yr Juddewon i beri iddynt gredu hynny.
Ar hynny y dechreuodd y Rhwygiad, a llaweroedd or Juddewon a gredodd y peth yr oeddynt yn i hir ddisgwyl, Nathan gan ddangos ei hyfdra ai wroldeb a gymmerodd arno ei hu [...]an Brophwydo, y byddai mewn un Flwyddyn, or 27 o Kisley (yr hwn ydyw Mis Mehefin) ir Messiah ymddangos gerbron y Twrc mawr neu 'r Grand Signior, a chymmeryd oddiarno ei goron. a'i arwain mewn cadwyni megis Caethwas.
[Page 124] Sabatai yn Gaza hefyd a Bregethodd ynghylch Edifeirwch y [...] Juddewon ac a [...] dodiddo 'i hunan ai Athrawieth, bod dyfodia [...] y Messias yn agos: Yr amheuthyn newyddion hynny y fu or [...]ath Effaith ŷmmhlith yr Juddewon oedd yn trigo 'n y Parthau hynny, Hwy a Ymroeiant eu hunain yn gyfan at eu gweddiau, Eluseni au Duwiol Swyddau; Ac i gryfhau eu Crediniaeth ymmhellach, fe ddigwyddodd ar yr un amser iddynt ddanfo [...] ar frys o Gaza newyddion or holl bethau hynny a ddigwyddodd yno, gan wneud eu brodyr, a dwyn ar ddeall iw Brodyr sy 'n Byw mewn lleoedd Anghysb [...]ll; Ar gair am y Messiah a danodd mor gyflym ac a gadd y tath dderbyniad, hyd onid oedd newyddio [...] o [...] peth wedi tanu drwy bob parthoedd a Gwledydd lle 'r oedd yr Juddewon yn Preswylio, trwy Lythyrau i Gaza a Chaersalem gan Gydlawenychu o herwydd dedwyddwch eu Gollyngdod, a gerpheniad amser eu Caethrwaid, trwy ymddangofiad y Messiah, At ba un hwy gyssylltiasant Brophwydo [...]aethau pertnynasol i Lywodraeth y Messiah tros yr holl Fŷd: Ai fod ef i ddiflannu ymaith tros naw Mis; tros ba amser yr oedd yn rhaid i'r Juddewon ddioddef ac y byddai raid i amryw a honynt ddioddef merthyrdod: Eithr y Dychweliad drachefn a fydd ar gefn Llew Nefolaidd, ai ffrwyn wedi gwneud o Se [...]rph a saith ben arnynt. ynghymdeithas yr Juddewon ai Frodyr, y rhai sydd yn byw or tu arall ir Afon Sabothaidd, efe a gydnabyddid yn unig Ben [...]dur ar yr holl Fyd, ac yno 'r Deml Sanctaidd a ddisgynai o'r Nefoedd, wedi ei Hadailadu, ei Sylfaenu ai Phrydferthu; ym mha un y caent hwy Aberthu eu Hoffrymmau tros byth.
Ac yma y gadawai chwi i ystyriaid mor rhyfeddol yr hudwyd y Bobl hyn, pan roent y cyfryw oglud ar y fath wael Hanesion a Breuddwydion o Alluowgrwydd, a Theyrnasoedd. Yr hyn a ddarfu eu cyfan Drosglwyddo hwy oddiwrth eu cyffredin ffyrdd o Fasnach, au Bûdd.
Y si ar Swn o'r Messiah a ddechreuodd lenwi pôb lleoedd, Sabatai Sevi; a ymrodd i ymdeithio tua Smyrna, Bro ei Anedigaeth. Ac oddiyno i Gonstantinopl y Brif Ddinas, lle 'r oedd y gwaith Penaf o Bregethiad iw gyflawni: Nathan a feddyliodd yn anadda Dario 'n hir ar ei ôl ef; Gan hynny [Page 125] efe a ymdeithiodd hyd ffordd Damascus, [...] 'r ymrodd ef i aros dros dro er rhoddi allan ei [...]thra [...]iaeth newydd y [...] ac yn y cyfamser fe a yscrife [...]no [...]d y Llythyr Canly [...]ol [...] Sabatai Sevi 22 K [...]jv [...]n o'r Flwyddyn [...]on.
I'r Brenhin, e [...] Brenhin, Arglwydd [...] ein Arglwydd, yr hwn a g [...]sgl yng [...]yd yr [...] aeth ar g [...]fei [...]o [...] yr hwn a bryn ein Caeth [...]wa [...]d. Dyn [...]o [...] wedi [...] De [...]c [...]; u [...]hder pob Goruchanaeth Messiah Duw Jac [...]b y gw [...]r Fessiah, y Llew Nefol Sabatai [...] D [...]erche [...]ir, Ai Arglwyd [...]iaeth a gyfyd mewn [...], ac yn Dragywydd Amen. Yn ol i mi gusa [...]u 'ch Dwylo ac ysgubo 'r Llwch oddiwrth eich i [...]ra [...]d fel y mae fy N [...]ledswydd i [...]re [...]h [...]n y Brenhinoedd m [...]wrhyd [...] [...], Ai ymerodraeth a helaethir; Hyn sydd i ddw [...]n [...]r d [...]eall ir Goruchel Arddercho [...] o'r lle hw [...]nw yr hwn sydd wed [...] ei Addurno a Phryd [...]erthwch e [...]ch Sa [...]cte [...]ddwydd ac i Air y Brenhin, ai Gyf [...]aith Lewy [...]chu 'n [...] wyneb: Y Dwthwn hwnnw fu ddydd Cyffredin Gyssegredig i Israel, ac yn Ddiwr [...]od o ol [...]u [...]i i'n Rheolwy [...] Canys nyni a ymroasom ein hunain yn dd [...]yng [...]th, [...] g [...]flawni eichGorchymmy [...], f [...]l y mae 'n Dyle [...]s [...]ydd; [...] er i ni glywa [...]d [...]mryw bethau rh [...]feddol, etto 'r [...] yn Ge [...]rog, A'n C [...]lonn [...]u megis Ca [...]on Llew; Ac [...] ymo [...]yn yn [...]hylch Achosio [...] pa beth [...] ei wneud, Canys Rhyfeddol yw 'ch Gweithredoe [...] a thros ben gael gaf [...]el arnynt, ac yr ym ni wedi ' [...] Ca [...]arn [...]u 'n ein ffyddlo [...]deb heb [...] yn y Bŷd, gan roddi i fynu [...]n Ene [...]diau er Sa [...]cte [...]ddio 'ch [...]nw; yr awr hon ni ddaethom cymmhe [...]e [...] a Damascus, a'r fedr ar fyrr [...] rhag y [...] blaen yn ein taith i Scanderoon, yn ôl eich [...] chw [...] fel y gallom dde [...]chafu a [...]wele [...] wyne [...] [...]uw me [...]n Goleuni megis Go [...]eu i wy [...]eb Bre [...]hin y Bywyd: A [...]i wasanaethwyr e [...]ch Gwasanaethwyr ch [...]i a lanh [...]wn y llwch oddiwrth eich T [...]ae [...] Gan [...] Ardderchowgrwydd Gogo [...]eddus ryg [...]d [...]u o'ch [...]reswyl [...]a, gymmeryd gof [...]l am danom a' [...] Cy [...]no [...]thw [...]o ni a ne [...]th Deheulaw'ch Cry [...]dwr, a [...] o'n blaen ni; Ac mae ein Golygon ninnai ar Jah, yr hwn a [Page 126] brysura i'n Cynorthwyo, a'n achub, fel nad allo plant Anwiredd mo'n niwedio, ar ôl y rhai y mae 'n Calonnau 'n deheuad, gan dreulio o'n mewn. yr hwn a rydd i ni Grafangau Heyrn, i fod yn addasi sefyll dan gysgod eich Assyn, Dyma Eiriau Gwas eich Gwasnaethwyr, yr hwn a ymddarostwng ei hunan iw Sathru gennych tan wadnau 'ch Traed.
Ac fel y gallai ef Gyhoeddi ei Athrawiaeth ei hunan a'r Messiah yn fwy eglur; efe a 'scrifennodd o Damascus y Llythyr Canlynol at yr Juddewon yn Aleppo ar Parthoedd oddiamgylch.
I Weddillion neu Relyw 'r Israeliaid Tanghneddyf di ddiwedd.
FYngeiriau hyn sy i'ch Rhybuddio fy mod i 'n dyfod mewn Tanghneddyf i Damascus wele fi 'n myned i Gyfarfod wyneb ein Harglwydd, mawrhydi pa un a Ddyrchefir, Canys efe yw Llywydd Brenhin y Brenhinoedd, ai ymerodraeth a helaethir. Yn ôl a Orchymmynodd ef i ni y Deuddeg Llwyth i Ddewis deuddeg Gwr, a felly y darfu i ni; Ac ni awn yr awrhon i Scanderoon wrth ei Orchymmyn ef, i ddangos ein wynebau ynghyd, gyda rhan o'r rhai pennaf o'i Garedigion arbennig, i ba rai y rhoddodd ef Gennad iddynt ymgynnull ynghyd yn y lle hwnnw, ac yn awr yr wy 'n dyfod i'ch gwneud chwi yn gydnabyddus, er i chwi glyed pethau rhyfeddol am ein Harglwydd ni, etto na lesmeiried eich Calonnau ac na ofnwch, Eithr ymgadarnhewch eich hunain yn eich Ffŷdd, o herwydd bod ei holl weithredoedd ef yn wyrthiau Dirgeledig, y rhai na all Deall Dynol-ryw eu Hamgyffred; A phwy a ddichon dreuddio iw heithaf? I fod yn fyrr pob peth a wneir i chwi yn eglur yn eu Purdeb; a chwi a gewch wybod, ac ystyriaid, a'ch Athrawiaethu gan y Dychymygwr ei hunan; Bendigedig yw 'r hwn sy 'n disgwyl ac a dderbyn Jechydwriaeth y Gwir Fessiah, yr hwn ar frys a Gyhoeddai ei Awdurdod ai Ymerodraeth arnom ni yn awr, ac yn dragywydd.
[Page 127]Erbyn hyn o bryd yr oedd holl Ddinasoedd Gwlâd y Twrc lle 'r oedd yr Juddewon yn Preswylio yn llwyr ddisgwyl Dyfodiad y Messiah, dim masnach, na dilyn ffordd i ynnill; ond pob un oedd yn meddwl y byddai iw heiniar beunyddiol, Cyfoethogrwydd, anrhydedd a Llywodraeth ddiscyn arnynt drwy ryw ffordd neu wyrthiau anar [...]eredig: Esampl o ba un sy i ddal sulw arm oblegid yr Juddewon yn Thessalonica, y rhai erbyn hyn oedd yn llawn o siccrwydd o Ddychweliad eu Teyrnas, a chyflawnder yr amser o Ddyfodiad y Messiah yn agos, gan eu barnu eu hunain yn rhwymmedig i ymchwanegu eu Defosiwnau, ac eu buro eu Cydwybodau oddiwith bechodau a Chamweddau yr hyn a fyddai hawdd heb fanwl chwilio, ir hwn oedd yn dyfod iw mysg wybod Meddyliau a thueddiadau Dynol-ryw; ym mha weithred amryw o'u Hosteiriad [...]u a Appwyntiwyd i addysgu 'r Bobl yn eu Gweddiau, ymp [...]ydiau â phethau eraill ymmherthynas iw Haddoliant. Ond pob un oedd mo'r [...]awenllaw yn y we [...]thred ou penydio ei hunain, na ddarfu eu lawer o honynt aros am hyfforddiad, llwybreiddiad na rheolau 'r Athr [...]won, eithr hwy a ymroesant eu hunain i ymprydio 'n ddimeiriach: A rhai yn y cyfryw foddion tu hwnt gallu eu Naturiaeth▪ ac heb gymmeryd dim math ar ymborth dros yspaid saith niwrnod▪ hwy a newynasant i Farwolaeth; Eraill au Claddasant eu hunain yn eu Gerddi gan orchguddio eu Chyrph noethio [...] mewn pridd hyd at gyrn eu Gyddfau. ac aros yn eu Gwelau i riddlyd, fferru a rhynnu o anwyd o lleithdra. Eraill a ddioddefai dywallt Cwŷr roddedig am ben ei ysgwyddau; eraill am ym [...]reigle [...]t mewn Eira, Gan daflu eu Cyrph yn amser Gaia' yn yr oerfel mwya' yn y môr neu Ddwfroedd r [...]ewlyd: Eithr y ffordd fwy cyffredinol o'u Cystwyo eu hunain, oedd yn gynta bigo eu Cefnau an Hystlysau â Drain ac yno rhoddi iddynt nam yn un deugain gwialenod. â phob Gorchwyl gwedi 'i roi he [...]bio, nid oedd neb yn gweithio nag yn egor eu Marchnattai, oddige [...]th i arloesi eu Tryssordai o bôb Marchnadyddiaeth am y pris y gae'nt am beth bynnag oedd feddiannol o lawer o Ddodrefn Tŷ, au gwerthent am beth bynnag y gaent am danynt, ond nid i neb or Juddewon, canys yr oeddynt hwy wedi 'u gwahardd rhag elwa mewn masnach [Page 128] yn y Bŷd; tan boen cae eu Hescymmuno, Trethi trymion a Chospedigaeth Gorphorol: Pôb Gorchwylio [...] a Galwedigaethau ar cwbl er Profedigaeth eu Ffŷdd. Heb ammau na byddai pan ymddangosai 'r Messiah ir Juddewon, gael dyfod yn Llywodraethwyr ar Diroedd a meddiannau 'r Anffyddloniiaid, hyd oni byddai iddynt eu [...]odloni eu hunain ar bethau 'n unig angenrheidiol i ymddiffyn a chynnal i fynu fywyd. Ac o herwydd nad pob un yn berchennog, o gymmaint Golud a heiniar, a gallu byw arnynt eu hunain heb Lafur eu dwylo; Gan hynny i roddi hebio waedd y Tlodion ac i Ragflaennu Gormmodedd eraill, ac or achos yr ai rhai yn grwydriaid, ac ymadael au Dinasoedd; Fe gymerwyd gofal arbennig i wneud Casgliadau, y rhai a gyd roddodd môr syber; oni Chynnaliwyd i fynu yn Thessalonica 'n unig 400 o Dlodion, ar wir Eluseni 'r rhai Cyfoethocca. Ac fel yr amcanasant lanhau eu Cydwybodau o Bechod; Ai ymroddi 'u hunain i weithredoedd da, fel y gallai 'r Ddinas fod gwedi ymddarparu i dderbyn y Messiah; rhag iddo ef eu Cyhuddo hwy am esceulusiad or Gyfraith, ac yn enwedig o herwydd eu Hesceulustra or hen Orchymmyn hwnnw, sef ffrwythwch ac Amlhewch; Hwy a Briodasant ynghyd Blant o ddeng mlwydd Oed, a rhai Jeuangach; Heb ddal dim sulw ar Gyfoethogrwydd na thylodi, Cyflwr nag Ansawdd, Eithr yn gymmysgedig hwy a'u Cyssylltiasant ynghyd, hyd rifedi ynghylch 6 neu 7 Cant Cawpl, Eithr pan ddaethont yn well attynt eu hunain, ac oeri eu meddyliau, ac yn datguddio twyll y Gau Fessiah, neu eu disgwiliad o'i Ddyfodiad, gwedi darfod, hwy gawsant Lythyr ysgar ir Plant ac au Gwahanwyd yn rhyddion y naill oddiwrth y llall
Ymrydaniaeth yr holl sôn ar Siarad yma, Sabati Sevi a ddaeth i Smyrna Dinas ei Enedigaeth, yn ol anfeidrol ddymuniad yr Juddewon cyffredin; Eithr y Chochams neu eu Hathrawon Cyfraith y rhai ni chredent fod fawr nsu ddim Gwir yn y peth yr oedd ef yn ei gymmeryd arno, ac nis derbyniasant hwy ef 'n groesawus, o herwydd nas gwyddent pa ddrygioni, neu Anghyfannedd-dra, a allai 'r Athrawiaeth neu 'r Brophwydoliaeth o Deyrnas newydd ddwyn i ben. Etto er hynny i gyd Sabatai Sevi a ddygodd gydag ef Dystiolaethau [Page 129] o'i Sancteiddrwydd, Ei Fuchedd Dduwiol, Doethineb, a Dawn Prophwydoliaeth, wedi dwys wreiddio ynghalonnau 'r Bobl Gyffredinol, ei fod ef yn Sanctaidd yn Ddaeth, a chan hynny o herwydd Gwas gwychder a hyfrdra efe aeth i fynu i 'mddadleu a'r Chocham mawr (yr hwn yw 'r Pennaf a Phrif Esponiniwr y Gyfraith, a phen Golygwr eu Hewyllus au Llywodraeth) rhwng pa rai y Ddadl a gynnyddodd yn uchel, a'i Hymmadroddion cyn boethed hyd oni ofnodd yr Juddewon y rhai oedd yn Caru Athrawiaeth Sabatai, Awdurdod y Chochams, a chan betruso ynghylch beth a fyddai Diben y peth, N [...]feroedd o honynt a ymddangosodd gerbron y Cadi yn Smyrna i gyfiawnh [...]u ei Prophwyd yn erbyn pob Achwynion a gyfodai yn ei erbyn. Y Cadi (yn ol Defod y Tyrciaid) oedd yn llyngcu 'r Arian o bob tu, a chwedi hynny eu Rhyddau hwy i dderbyniad eu Barnedigaeth eu hunain, yn y môdd hwnnw Sabatai oedd yn ynill Tir beunydd; Ar Chocham mawr ai ymbleidwyr yn colli Caredigrwydd ac ufudddod y Bobl, efe a droed allan oi Swydd, ac un arall y wnaed yn ei le yr hwn oedd fwy hoffaidd a Chyttunol a'r Prophwyd newydd, Galluowgrwydd pa un a gynyddai beunydd, trwy eu hadroddion hyderus, ai Elynion oedd wedi 'u tarro a gwallgo a Chynddeir [...]ogrwydd, nes eu bail edfryd iw tymmer au synwyrau fel o blaen trwyddo ef, Fe aeth yn hoff ganddynt ef ac aethont yn Ddisgyblion iddo gan ei Ryfeddu. Ni wnaed Gwahoddedigaeth yn y Byd gan yr Juddewon yn Smyrna y pryd hynny, na Phriodas, na Gwlêdd, nac enwaediad heb Presenoldeb Sabatai yn eu mysg ynghyd gymdeithas Lluoedd o'i Ddilynwyr, ar Heolydd wedi 'u hilio â Lliain lleiniau a Brethynnau Meinion iddo ef rodio arnynt, eithr y cyfryw Ostyngeiddrwydd a ymddangosodd yn y Pharisead hwnnw, yr ymostyngai ef, gan droi or nailltu y Llieinlleiniau hynny, fel ag yr ae e' heibiô, A chwedi i gadarnhau 'i hunan yn Rhyfeddol yn Nhyb y Bobl. Efe a ddechreuodd gymmeryd arno 'i hunan Enw 'r Messiah, ac unig Fâb Duw, ac i wneud y Cyhoeddiad Canlynol i holl Genedl yr Juddewon, yr hwn a Ysgrifennasid yn gynta yn yr Hebreaeg, a dyma Gyfieithad o honno.
Sabatai Sevi yr unig, a Chyntaf-annedig Fâb Duw, [Page 130] Messiah ac Jachawdwr Israel, i holl Feibion Israel Tangnheddyf. Er pan wnaed chwi 'n addas o gael golwg ar y fath waredigaeth mawr ac Jechydwriaeth Israel; a chyflawniad Gair Duw, a Addawyd gan eu Prophwydi au Cynteidiau, a chan ei Anwyl Fab Israel: Bydded i'ch chwerw Dristwch droi 'n llawenydd, a'ch ymprydiau yn Wleddoedd, Canys ni wylwch mwyach, Oh Israeliaid fy Meibion, A Duw yn rhoddi i chwi'r Cyssur Anrhaethadwy hwn, ymorfoleddwch ymorfoleddwch gyda 'r Drymmau, Organau, a Pheroriaeth Gan roddi Diolchgarwch iddo am gyflawni ei Addewydiôn trwy 'r holl Oesoedd; Gan wneuthur bôb dydd yr hyn a fyddech arferedig o'i wneuthur ar y Lleuadau newyddion; Ar Dyddiau a gyssegrwyd i Dristwch ac Alar; Trowch i Lawenydd o herwydd sy 'mddangosiad i: Nac ofnwch ddim, Canys chwi gewch Lywodraethu 'r holl Genhedloedd, ac nid yn unig ar y rheiny sy ar y Ddaiar, Eithr ar y Creaduriaid hynny hefyd fy 'n nyfnderoedd y Mor: A hyn i gyd sydd er eich Cyssur a'ch Diddanwch.
ER amled oedd Discyblion Sabatai Sevi, etto 'r oedd rhai yn Gwrth sefyll ei Athrawiaeth, gan haeru ar gyhoedd mai Twyllwr a Siomwr y Bobl ydoedd, ymmhlith eraill un Samuel Penia, Gwr o grynn Feddiannau a gair da iddo yn Smyrna, yr hwn a ymresymmodd yn y Synagôg, nad oedd yr Arwyddion presennol o'r Messiah yn eglur yn ol Athrawiaeth yr ysgrythur, nag athrawiaeth eu Hoffeiriadau, yr hyn a gododd Anghyttuneb a Ghythryfwl mawr ymmhlith yr Juddewon, yr hyn ni ffynnodd yn unig yn erbyn Dadl, eithr hefyd yn erbyn ei Fywyd; Oni basai iddo ef, fyned ymaith o'r Synagog, ac felly ddiaingc o Ddwysaw 'r Dyrfa, y rhai erbyn hyn a allent ddioddef Cabledd yn erbyn cyfraith Moses a Llygredigaeth y Cyssegr, yn gynt na gwrando Croesddadlu dim Anghrediniaeth yn erbyn Athrawiaeth Sabatai. Ond pa fodd bynnag y digwyddodd, Pennia mewn ychydig amser a ddychwelodd ac a Bregethodd i fynu, Sabatai mai efe oedd Fâb Duw, a Gwaredwr yr Juddewon; Ac nid efe 'n unig Eithr ei holl Deulu, Ei Ferched a Brophwydodd gan syrthio [Page 131] i lewygfae rhyfeddol; Ac hefyd heblaw ei Dŷ ef; Fe Brophwydodd pedwar Cant o Wyr a Gwragedd ynghylch liwyod iant Teyrnas Sabatai, a Phlant bychan, y rhai na fedrai ond braidd Siarad un Gair, etto hwy fedrent lefaru 'n eglur Enw Sabatai, y Messiah a Mâb Duw. Hyd yn hyn y Cennadodd Duw i'r cythraul hudo 'r Bobl, fod eu Plant dros ryw amser yn feddianol o Gythreuliaid hyd o'ni chlywid lleisiau a llafar o'r tu fewn iddynt ac yn eu Hymysgaroedd, ar rheiny mewn oedran a syrthient, yn gynta mewn llewyg, a'r ewyn yn dyfod o'i safnau, gan gyfri eu Llwyddiant rhagllaw a Gwaredigaeth yr Israeliaid, eu Gweledigaethau ynghylch y Llew o Juda, a Gorfoledd Sabatai, yr holl bethau hyn oedd yn gwirio mai hudoliaeth Gythreulig oedd y peth, fel y cyfa addefodd yr Juddewon eu hunain wrthi fi.
Sabatai Sevi trwy 'r cy [...]ryw Ddamweiniau Llwyddianus a aeth yn fwy Rhyfygus, ac fel y gallai ef gael cydnabyddiaeth o Brophwydoliaethau ynghylch Mawredd ac Arglwyddiaeth y Messiah, efe aeth rhag ei flaen i Ethol Tywysogion y rhai oedd i Reoli 'r Israeliaid, yn en Taith tu ar Tir Sanctaidd, ac felly i roddi allan Farnedigaeth a Chyfiawnder yn ôl eu Dychweliad. Fu Henwau hwy oedd fel y canlyn y Gwyr hyn a Adwaenyd yn dda ddigon yn Smyrna, y rhai na ddae [...]ai iw meddyliau (Duw ai gwyr) erioed debygoliaeth i goel yr Enw o fod yn Dwysogion, nes i ryw goeg yspryd eu twyllo au Hudo gan eu Gynnhyrfu nid yn unig obeithio ei fod yn bosibl, eithr siccr ddisgwyliad o'r peth.
- Isaac Silvera
- Brenin David,
- Salomon Lagnado
- oedd Solomon,
- Salom. Lrgnado jun.
- a elwyd Qu [...]vau
- Joseph Caphen
- Uzziah,
- Moses Galente
- Josaphat,
- Daniel Pinto
- Hilkiah,
- Abraham Scandalo
- Jotham,
- Mokiah Gospar
- Zedekiah,
- Abraham Leon
- Achas,
- Ephraim Arditi
- Joram,
- Salom. Carmona.
- Achab,
- [Page 132] Matassia Aschenesi
- Asa,
- Meir Alcaira
- Rehoboam,
- Jacob Loxas
- Ammon,
- Mordecai Jessurun
- Jehoachim,
- Chaim Inegna
- Jeroboam,
- Joseph Scavillo
- Abia,
- Conor Nehemias
- oedd Zorobabel,
- Joseph del Caire
- a elwyd Joas,
- Eliakim chavit
- Amasia,
- Abraham Rubio
- Josiah.
Ac yn y moddion hyn y rhedodd pethau mo'r rhyfeddol i'r Ynfydrwydd eitha' yn Smyrna, ym mhlith yr Juddewon, a'r fath fawredd nad oedd fath ar Chwaryddion chwerig abl i ddangos allan y fath Watworgerdd a haer [...]ugrwydd a oedd yno 'n gydrychiol. A chan na feiddiai neb yn gyhoeddus ddangos eu petrusder na 'u gwan dyb o'r Grediniaeth gyffredinol, etto er cryfhau 'r Juddewon yn eu ffydd, ac er gyrru syndod ar y Cenhedloedd; fe farnwyd yn Angenrheidiol i Sabatai Sevi ddangos rhyw wrthiau, fel y byddai i'r holl fyd Gredu mai ef oedd y gwir Fessi [...]h, ac fel yr oedd yr achosion presennol yn gofyn cael Tystiolaeth ddisiommedig o'r Gwirionedd hwnnw, ac felly yr oedd y Bobl Gyffredin yn ei ddisgwyl beunydd mo'r ddiymynedd, yr hyn oedd addas i'w tueddfryd Amheuthynaidd; y rhai oddiwrth bob Gweithred a chynhyrfiad a wnai i Prophwyd, gan dechreu teimlo rhyw Ragoriaeth neu Oruwch naturiaeth; Sabatai ei hunan oedd mewn cwlwm dyrys, eisiau gwybod pa fodd i ddangos rhyw Wrthiau; Ac ofergoelion y Bobl oedd yn rhedeg cymhelled ar Olwynion, mai'r troead Llaw lleia 'n y Byd oedd ddigonol i Wasanaethu 'r tro yn yr Amser hwnnw am [Page 133] ryw fath ar Ryfeddod, îe, o gymmaint cymmeriad a hwnnw o darro 'r Graig am Ddwfr gan Moses, neu Wahanu yr Môr Côch; Ac fel'y Odfa gymhe [...]ur a ddigwyddodd i'r perwyl hwnnw, Canys a ymddangosodd ger bron y Cadi neu Barnwr y Ddinas, i erfyn Rhyddhâd oddiwrth ryw Orth [...]ymder oedd yn eu Trallodi hwy, fe a feddyliáid fod yn Anghenrheidiol arno ef ddangos rhyw wyrthiau ar hyn o bryd o's gwnae e' byth, a Sabatai yn ymddangos mo'r ffu [...]fiol a phwyllog Phariseaid, rhyw rai yn ddisymmwth a haerasant iddynt ganfod Colofn o Dân rhwngddo ef a'r Cadi, ar gair o hynny a redodd ar frŷs trwy 'r holl Ystafell, yr hon oedd lawn o Juddewon o'r naill ben i'r llall, Ynghymdeithas Sabatai, rhai o honynt a feddyliodd iddynt eu weled gan dyngu 'r peth hyd adre', Eraill oedd yn y cyntedd o'r tu allan i'r Tŷ, y rhai nad allent fyned gan y Dorf yn agos i weled na chlywaid dim a ddigwyddai yn y Tŷ; Etto Alarwm y Chwedl a gredwyd ac a dderbyniwyd gan yr holl Liaws, ac ni bu dra hir nes cyrraedd i Glustiau 'r Gwragedd ar Plant gartre', felly Sabatai Sevi a ddychwelodd yn ôl iw Dŷ yn Orfoleddus wedi 'i [...]iccrhau Yng-Halonnau 'u Bobl, ac nid oedd raid wrth amgenach Gwrthiau iw sylfaenu hwy 'n eu Ffŷdd au Crêd, A Sabatai a Ardderchafwyd fel hyn, ac nid oedd un Gwr addas o Gymdeithas ond y sawl a gredai mai 'r Messiah oedd ef: Eraill a alwent hwy Kophrim, Anghredadwy, neu rai Gau Grêd, ac ac oeddynt euog o Farnedigaeth Yscymmundod; ac nid oedd Gyfreithlon i gymmaint a Bwytta gyda 'r cyfryw rai; Pawb a ddaeth au Tryssorau, Eu Haur au Gemmau, gan eu hoffrymmu hwy wrth Draed Sabatai, felly efe a allasai gael wrt'h ei holl Orchymmyn holl Olud Smyrna, eithr yr oedd eyn rhy gyfrwys i dderbyn eu Harian, rhag i hynny ddangos yn rhy eglur fod ei twriadau e 'n drachwantus. Erbyn hyn yr oedd Sabatai Sefi wedi eu gyflawn siccrhau ei hunan yn Smyrna a lleoedd eraill wedi ei llenwi weld a chlywed hanesion ei gld, Efe a fynegodd iddynt fod Duw yn i alw ef i ym, weld a Chonstantinopl, lle 'r oedd y rhann fwimmbmny11* wya o'i waith ef iw gyflawni; A thuag at hynny ef a gymmerodd Long ac a ymadawodd yn ddirgel yngym [...]thas rhyw ychydig ym Mis Ionawr 1666. Rhag i Liaws o'i Ddisgyblion ymorchescu [Page 134] iw ganlyn ef ac i hynny wneud ei Daith ef yn enbyd gerbron y Twrc, yr hwn oedd yn barod yn dechreu Sarhau wrth yr Hanesion ai Prophwy [...]o [...]aeth oedd yn ei gylch ef. Ac er na Chymmerodd Sabatai ond ychydig [...] gydag e i'r Llestr etto Lluoedd or Juddewon a ym [...]eithiasant ar hyd y Tir fel y gallent ei Gy [...]a [...]fod et drachem Yng F [...]onstantinopl, Ar ba un yr oedd eu llygaid a'i holl obaith yn disgwyl, Ar Gwynt yn dal o'r tuedd Gogleddig fel y mae 'n amla yn yr Hedespont a Phropontus, Sabatai a fu nam yn ei [...] Deugam Diwrnod yn ei Fôr ymdaith, a [...] Lle [...]r heb gyrraedd iw Borthladd y chwaith, nid oedd ddim Rheolaeth gan y Messiah hwnnw ar y Môr ar Gwyntoe [...]d, yn y cyfamser fe ddaeth y newydd i Gonstantinopl fod Messiah yr Juddewon yn agos, a bod y Bobl hynny wedi ymdd [...]paru iw dderbyn ef ai cyfryw lawenydd diba [...]l, ac a wnaethon mewn lleoedd eraill lle y basai ef ar Grand Vizi [...]r (y pryd hwnnw Yng-Horstantinopl ac heb ymadel etto iw Gyrch i Gandia) yr hwn a glywodd Sŵn a [...] mawr ynghylch y Dŷn hwnnw, ar Afreol ar Cynddeirogrwydd a godasai oi herwydd ym mhrith yr Juddewon, t [...]a yr oedd y Llong y [...] methu dyfod i Dir gan wyntoedd Gwrthwynebus, efe a dd [...]nfonodd ddwy ysgra [...]gan Orchymnwn iddynt ddwyn Sabatai Sevi yn Garcha [...]wr gyda 'n hwy ir Porthladd, a hwy wnae [...]hant yn ol hynny a Sabatai wedi dy [...]od a O [...]chymmynwyd i'r Carchar tywylla a ffieiddia yn yr holl Dre', ac i a [...]os yno ymmhe [...]ach i ddisgwyl Barn [...]digaeth y Vizier. Ni d [...]galo [...]odd hyn Môr Juddewon y chwaith er cynddrwg croesaw yr oedd eu Prophwyd yn i dderbyn, [...]ithr ymgry [...]hau ymmhellach yn eu Cred am dano fod hynny tu [...]g at be [...]ffe [...]thio y Prophwydoliaethau o'r cyfryw bethau ag oedd a d [...]eill [...]aw oddiwrth ei anrhydedd a'i Argwyddiaeth ef; yr ystyriaeth o hynny a wnaeth i'r rhai penna' ymmhlith yr Juddewon ymweled ag ef ai Hareithiau, ar un rhyw Gynneddfau a Pharch iddo yn y Carchar a phedfasai ei wedd 'i Dderchafu ar O [...]sedd faingc Israel; Un Amacago wrth ei Enw, Gwr o Barch a bri ymmysg yr Juddewon ac amryw eraill, a safasant ddiwrnod cyfan oi flaen ef au Llygaid tuag i lawr, a'i Cyrph yn gogwyddo ymlaen, au Dwylo (a grocho [...] ger ei fron ef, (y rhain iw ymddygiad Gostyngedig [Page 135] a Gwasanaethgar yn y Gwledydd Dwyreiniol,) ni wna anweddusdra 'r lle na 'r Presennol Warrogaeth, leihau dim ar eu nuchel Feddyliau a'u Parchedigaeth tuag at ei Berson ef. Yr Juddewon Yng Honstantinopl, oedd wedi myned mor gyndde [...]og a gwallgofus ac oeddent mewn lleoedd eraill, Pob Masnach a Marchnatta wedi 'i Wahardd; Ar sawl oedd yn Dyled Arian i eraill, nid oeddynt yn gofalu am wneud [...]odlo [...]deb yn y Bŷd am danynt Ym mhirth y cyfryw yr oedd rhai yn nyled ein Marsiandwyr ni yn Galatia, y rhai na wyddent pa fodd ei gael eu Harian, naill a'i o ran eu budd, ai ran eu Manyldra, Hwy a feddyliasant yn Addas i ymweld a Sabatai, Gan wneud eu Hachwyniaeth i amryw o'r Juddewon ar ei Ddyfodiad ef, iddynt fod cyn hefyd au twyllo a'i Colledu am eu heiddo, a dymuned arno ef wneudd y peth yn gydnabyddus iw Ddeiliaid, a bod yn wiw ganddo eirioli amryw fod [...]ondeb iddynt; Ar ba [...]rfyniad Sabatai yn gyflawn o serchowgrwydd a gymmerodd ei Bin mewn Llaw ac a scrifennodd i'r ystyr Can [...]ynol.
I bod Genedl yr Juddewon, y rhai sy 'n disgwyl ymddangosiad y Messiah, ac Jechydwriaeth Israel, Tangnheddyf byth heb ddiwedd. Fe ddarfu fyngwneud i yn gydnabyddus fod amryw o honoch chwi yn Nyled y Saeson Genedl; Ni a welwn yn Gyflawn ac yn uniawn i chwi wneuthur iddynt gyflawn fodlonrwydd am ddim ac yr ydychwi yn ddyledus iddynt: Os y chwi a ommedd ufuddhau i ni 'n hyn o beth, Gwybyddwch na bydd i chwi ddyfod i mewn gyda ni i Lawenydd ein Harglwyddiaeth.
Sabatai Sevi, yn y modd hyn a arhosodd yn Carcharor Yng Gonstantinopl tros yspaid dau Fis, ac yn Niwedd hynny o amser Ar Vizier yn Arwyddoccau ei Daith i Candia, wrth ystyriaid y Swn ar An [...]hydfod a wnaethai presenoldeb Sabatai yn bardo Yng-Honstantinopl, fe a feddyliodd na byddai diogel i adel ef yn y Brif Ddinas, tra y byddai 'r Senior mawr ac yntai ei hunan o [...]diyno: Can hynny efe a newydiodd Gorchar ir Dardanelli neu Gastell Abdos, yr hwn sydd o Du Europia Heliespont, gyferbyn a Sestos lleoedd Ardderchog. Mewn Prydyddiaeth Groeg, ar symudiad hwnnw ar Sabbatai Sevi o waeth Carchar i fann lle 'r oedd yr Awel [Page 136] Jachusach, yr hyn a gryfhaodd yr Juddewon yn ei goglud o'r Messiah, gan dybiaid nad oedd yngallu 'r Vizier, na neb o [...]wyddogion y Twrc wneud niwaid yn y Bŷd iw Gorph ef, ac [...] na basent hwy byth yn gadael iddo fyw cyhyd o amser yn gymmaint a bod eu Prif ymadrodd hwy i roddi heibio bob math a r wan obaith ynghylch eu Hadfeiliad yn eu cyflwr, drwy Farwolaeth rhyw un yr oeddyd yn ei ofni, yr hwn a ddylasant hwy 'n amgenach i gyflawni ar Sabatai, yr hwn a ddarfuasai iddo nid yn unig ddatgan ei hunan yn Frenin Israel, Eithr efe a Gyhoeddoedd hefyd Brophwydoliaethau Tynghedfennol yn erbyn y Grand Seignior a'i Deyrnasoedd yr ystyriaethau hyn ac eraill oedd yn Deilliaw, ar Juddewon yn heldio 'n niferoedd mawrion at y Castell, lle 'r oedd ef yn Garcharor, nid yn unig o Barthoedd y Gymmydogaeth, eithr he [...]yd o Poland, Germani, Leghorn, Venice, Amsterdam, a mannau eraill lle i'r oedd yr Juddewon yn preswylio; Ac yntau a gyfrannodd arnynt oll, megis am eu Traul au Llafur yn eu Hymdaith, Sabatai meddaf ai llwythodd hwy â helaethlawn Fendithion, gan addo iddynt Gynnyddiad o'i Heiniar, a meddiannau helaeth yn y Tir Sanctaidd. A chymmaint oedd ymgyrchiadau 'r Juddewon i'r lle hwnnw, hyd oni feddyliodd y Tyrciaid wneud elw o honynt, nid yn unig codi ymmhris yr ymborth, eu Llettyau, ac Angenrheidiau eraill; Ond ni adawent i neb gael golwg ar Sabatai, heb roddi iddynt Arian, gan ddal y pris weithiau 'n bump Dollar, ar amseroedd eraill yn ddeg, mwy neu Lai, gan farnu 'n ol eu gallu, neu gynnefrwydd tuag at y Gwr, ac er mwyn yr ynnill ar budd a ddae ir Tyrciaid, oddiwrth y peth, ni ddanfonent ddim achwynion na newyddion ynghylch hynny i Adrianapol am niferoedd y Bobl a ddeuent i ymweled ag ef, neu beth oedd Rhesymmau 'r Juddewon o herwydd y peth yn y lle hwnnw, eithr hwy a ymddygent eu hunain yn gymwynasgae tuag attynt, gan gyd-ddwyn a'n hwy, yr hyn a wasanaethodd er Profedigaeth ymmhellach i rwydo 'r Bobl druain hynny 'n eu Crêd am y Messiah.
Sabatai yn y cyfamser a gâdd odfa i Gasglu a Phennodi ffordd newydd o Addoliant i'r Juddewon, ac yn enwedigol pa fôdd i gadw a chynnal Dŷdd er Anedigaeth ef a rodde [...] ef iddynt fel hyn.
[Page 137]Fy Mrodyr am Mhobl Grefyddol Trigolion Dinas Smyrna Ardddrchog lle mae 'n byw wyr Gwragedd a Theusuoedd, Tanghneddyl y fyddo i chwi oddiwrth Arglwydd y Tangnheddyf, ac oddiwrthwyi, ei Anwyl Fab Solomon Frenhin yr wy 'n Gorchymmyn i chwi ar y Nawfed Dydd o Fis Ab (yr hwn yn ô [...] ein cyfri ni y flwyddyn honno oedd yn Atteb Mîs Mehefin) nesa sy 'n dyfod Gwnewch hwnnw 'n ddydd Gwahoddedigaeth o Lawenydd mawr, Ai Gyssegru, ynghyd a Gwleddau ar bob Danteith fwyd a Diodydd hyfryd, amryw Ganhwyllau a Lusernau, A Pheroriaeth â Chaniadau, o [...]erwydd mai Diwrnod Ganedigaeth Sabatai Sevi ydyw, uchel Frenhin goruwch holl Frenhinoedd y Ddaiar. Ac am achosion llafurio ach Cyffredinol orchwilion eraill, gwnewch fel y bae gweddus i chwi ar ryw wyl arall, ai bod hi yn anghyfreithlon i ymgylfeillachu ar Christnogion y Diwrnod hwnnw, bod eic [...] ymddiddanion ynghylch pethau disalw; Pôb Gwaith sydd waharddedig, eithr dadseinio Osterynnau Peroriaeth sy Gyfreithlon, hyn a gaiff fôd yn sylweddeich Gweddi [...]u ar y Ddŷdd Gwyl hwnnw. Yn ôl i chwi ddywedyd, Bendigedig y fych di o Dduw Sanctaidd! Yno ewch rhagoch gan ddywedyd, Di an dewisaist ni o flaen yr holl Bobloedd, an Ceraist ni, ac ymhyfrydaist ynom, ac an Darostyngaist yn fwy nag un Genedl, ac an sancteiddiaist ni a'th Ordinhadau, ac a'n dygaist yn agos i'th wasanaeth a Cwasanaeth Ein Brenhin, Dy Sanctaidd Enw mawr ac Ofnadwy a Gyhoeddaist yn ein plith; Ac a roddaist i ni o Arglwydd yn ôl dy Garedigrwydd, amser o Lawenydd, a Gwyliau, ag amser Gorfoledd, ar Diwrnod hwn o Gyssur, er Cyhoedd ymgynnull Sancteiddrwydd, am Anedigaeth y Brenhin Messiah Sabatai Sevi; dy wasanaethwr a'th gyntaf Anedig mewn Cariad, trwy ba un yr ŷm yn Coffau ein Dyfodiad o'r Aipht ac yno bydded i chwi Ddarllain am eich gwers yn yr ail, ar Drydydd Bennod o Deuteronomy hyd y 17 Adnod gan appwyntio 5 o wyr iw Ddarllain mewn Bibl perffaith ac anllygredig; Gan roddi at hynny Foreuol Fendithion, megis y mae'nt wedi 'u gosod am Ddyddiau Gwylion, ac am y wers o'r Prophwydi a Ddarllennir yn y Synagog bob Dydd, chwi gewch Ddarllain y 31 Bennod o Jeremiah at eich Gweddi a elwir [Page 138] Mustaff a arferir bob Dydd Sabbath, yn y Synagog ar bob Gwyl bennodol, chwi a gewch gyssylltu yr Wyl bresennol ynghyd ar rhei'ny yn lle Chwanegiad yr Aberth, wrth ddychwelyd yw le 'n ol, rhaid i chwi ddarllain a lleferydd uchel, a Llaiseglur. y 95 Psalm. Ac i'r moliadau cynta 'n y Bore, yn canu Psalm 91. A chyn Canu y Psalm 98, ail Adroddwch y Psalm 132, Ond yr Adnod ddiwaetha' lle y dywedir am ei [...]lynion, mi ai Dillada hwy a gwradwydd; eithr ei Goron a flodeua [...]n no ef, yn lle arno ef [ei hunan] darllennwch ar y Goruchai; Yn ol hynny y canlyn y 126 Psam, ac hefyd y 113 hyd 119.
Ar [...]yssegriad y Gwin ar y Noswyl, rhaid i chwi grybwyll y Cyssur, yr hwn yw Dydd ganedigaeth ein Brenhin y Messiah, Sabatai Sefi dy Wasanaerhwr, a'th Fâb Cyntaf anedig, gan roddi 'r Fendith fel y canlyn: Bendigedig wyt ti ein Duw ni, Brenhin y Bŷd, yr hwn a wnaeth i ni fyw; ac wyt yn ein amddiffyn ni, ac a'n cynhaliaist yn fyw hyd yn hyn. Ar y Noswyl rhaid i chwi ddarllain hefyd yr 81 Psalm, hefyd y 132 ar 126 Psalm, y rhai sydd wedi Appwyntio i'r mawl Boreuol. Ar Dydd hwn afydd i chwi er Coffadwriaeth a fydd yn Ddydd Cystegredig gyhoedd trwy 'r holl Oesoedd, ac yn Dystioliaeth Dragywyddol rhyngwy i a Meibion Israel.
Heblaw 'r gorchymmyn hwn, ar Drefn o Weddiau er Cyssegr gyhoeddiad ei Anedigaeth, efe a roddodd i lawr hefyd Reolau eraill er gwsanaeth beunyddiol, ac yn enwedig efe a gyhoeddodd Faddeuant a Rhagorfraint i bob un ag y Weddiau wrth Fêdd ei Fam, megis ped fasai e 'n cymmeryd arno i' hunan fyned yn Bererin i Weddio, ac i Aberthu i Gaersalem.
Ymddygiad a Duwîol-swyddau 'r Juddewon oedd yn cynnyddu fwy fwy tuag at y gau Fessiah hwn, Ac nid Penaethiaid y Ddînas yn unig a aeth i ymweled ag ef, ac i gynnyg eu gwasanaeth iddo ef yn ei gaethiwaid, Eithr hwy a drwsiasant hefyd eu Synagog mewn Llythrennau Aur S. S Gan wneuthur [Page 139] iddo ef Goron ar y mur, wedi i amgylchu, ar 91 Psalm o hyd yn Llythrennau têg, Gan Briodoli 'r Graddau hynny ar Sabatai, ac Esponio 'r scrythyrau yn y cyfryw foddion er ffaffrio i ymddangosiad, fel ac y gwnawn ninnau am ein Jachawdwr: Pa fodd bynnag, yr oedd rhai o'r Juddewon heb fynd i gyd o'i Co, ymmysg pa rai yr oedd un Chocham yn Smyrna yr hwn oedd wresog am y Gyfraith, ac er mwyn Dajoni a Diogelwch ei genedl: A chan ddal Sulw pa wylltineb yr oedd yr holl Bobl Juddewaidd wedi rhedeg yngwysg eu pennau ar y fath sy [...]aen a chred wael ynghylch ei Messiah, gan roi heibio'u Gorchwylion au Marchnadoedd, a'u ffordd o fywiolaeth, gan Cynoeddi allan Brophwydoliaethau am eu Teyrnas ar ddyfod; am eu diangf [...] allan o greulondeb y Tyrciaid, Ac Arwain y Grand Sienion ei hunan i Gaethiwaid mewn Cadwynau; Y cyfryw bethau oedd enbydus o Euogrwydd a'r Cyflwr yr oeddynt ynddo 'n byw fel y gallid eu hunion gosp [...] hwy am Fradwriaeth a gwrthryfelgarwch, a'u gadael hwy i Drugaredd a Barnedigaeth; yr hyn a'r y drwg dyb lleia 'nghylch matterion o'r Natur yma hwy 'fyddent arferedig o ddadwreiddio Teuluoedd, a Dymchwelyd trigfae 'u Pobl eu hunain; chwaethach Cenedl yr Juddewon; Ar ba rai y byddai dda gan y Tyrciaid gael rhyw Achlyssur iw yspeilio o'i meddiannau a'i Golud ac euog farnu eu holl Genedl i Gaethiwaid tragwyddol. Ac yn w [...]r Rhyfeddod mwy oedd na basent o achos ymddangosiad Sabatai yn Annog y Tyrciaid i gymmeryd m [...]ntais oddiwrth yr holl Afradlondeb a wnaethant, ac wrth hynny eu dinystrio eu hunain, ac i gymmeryd nifer o Arian odd [...]arnynt, a rhoi eu holl Genedl dan Bridwerth i'r Tyrciaid, oni basai i'r pethau hyn syrthio yn y ffordd, a throi pob peth yn wawd ac yn watwor gerdd ac na fae gwiw ganddynt ddal sulw ar bethau mor wael ac isel, y Chocham hwnnw wrth ystyriaid y pethau hynny, ac i gael o hono ef ei lanhau 'u hunan oddiwrth euogrwydd Gwaed eu Gydwladwyr, ac na byddai iddo ef a wnelai na dim llaw yn eu Destrywiad, ef aeth o flaen y Cadi ac a Gyhoeddodd ei feddwl yn erbyn yr Athrawiaeth newydd gan ddatgan nad oedd ganddo ef Law yn y Bŷd yn gosod i fynnu y Sabatai hwnnw, ai fod o'n elyn a'i holl Ddilynwyr, [Page 140] y rhydd did hyn a gymmerodd y Chocham, a lidiodd yr Juddewon yn greulon o herwydd y Sarhâd, ac ni thy bient Gospedigaeth yn y Bŷd yn ddigon iddo, yn rhy dost yn erbyn y [...]ath Droseddwr a Chablwr eu Cyfraith, a Sancteiddrwydd y Messiah, gan hynny trwy Arian a Rhoddion a roesant ir Cadi, gan achwyn ar y Chocham o herwydd eu Anufudddod o'r Natur ucha yn erbyn eu Llywodraeth, felly hwy gawsant Farnedigaeth yn ei erbyn gael Eillio ei Farf ef, a chael e farnu i'r Llongau, neu 'r Gallies. Erbyn hyn nid oedd o [...]m yn eisiau tuag at ymddangosiad y Messiah ai gyhoeddus ddyfodiad, ond eisiau Presennoldeb Elias, Dyfodiad pa un yr oedd yr Juddewon yn ei Ddisgwyl beunydd i. e. bob awr eu myfyrdodau au bwriadau gwresowglyd, a phôb Breuddwyd neu Goelcerdd, au Pennau yn meddwl fod Elias yn dyfod, yr oeddynt yn taeru ac yn rhoddi allan i weled ef mewn rhai mannau mewn amryw ddull a moddion nad ellid ei Adnabod yn hawdd, nes dyfod y Messiah, Canys y Goelgrefydd oedd wedi rhedeg cymmhelled au siccrhau'n eu mysg, eu bod hwy 'n eu Teuluoedd cyftredin yn gosod Bwrdd i Elias y Prophwyd, hwy wahoddent hefyd Bobl dlodion iw gwlêdd gan adael y penna 'i Elias yr hwn a feddylient hwy fod yn Anweledig ymysg y Gynnulleidfa, ai fod e'n Bwytta ac yn yfed yn ddidorr or Dysclau ar Cwppannau, Rhyw wr ymmysg yr Juddewon a orchymmynodd iw Wraig yn ol Swpper fel hyn, i adel Cwppanaid o win yn llawn, ar Bwyd i sefyll tros nos fel y cae Elias wlêdda, ac i lawenychu ei hunan; A chan godi yn forau dranoeth; efe a siccrhaodd i Elias ymborthi 'n ddanteithiol, ac er Arwyddoccâd oi Ddiolchgarwch Cymmeradwy ef am dano, efe a adawsai 'r Cwppan yn llawn o Olew yn lle 'r Gwîn. Y mae arfer Bennodol ym mhlith yr Juddewon brydnhawn ddydd Sabbath, i adrodd amryw foliadau i Dduw, (a elwyd Havalia) yr hyn sy 'n Arwyddoccau, Dosparth a Gwahaniaeth ar y Sabbath oddiwrth y Diwrnodau llygredig (fel y galwant hwy) ar moliadau hynny a gyflawnant hwy yn y môdd hyn, un a gymmer Gwpan ac ai lleinw yn llawn o wîn ai dywallt hyd yr holl Dŷ. Gan ddywedyd, Elias y prophwyd, Elias y Prophwyd, Elias y Prophwyd tyred ar frys attom ni ar Messiah, Mâb Duw, a Dafydd; [Page 141] gan haeru fod hynny 'n gymmeradwy gan Elias, Ac nad oes arno ef ffael un amser o Amddiffyn y Teulu hwnnw, y sawl sydd wedi 'u Haddunedu eu hunain felly, a'u bod hwy 'n cynnyddu mewn Bendithion rhagliaw. A llawer o bethau eraill y mae 'r Juddewon yn haeru yn wradwyddus ar Elias nad ym gymhessur i'w traethu allan, ym mhlith pa rai y mae un peth nad yw bell oddiwrth em pwrpas ni; Canys pan so'nt yn Enwaedu i'r ydys yn gosod Cadair mewn trefn i Elias, a Sebatai Sevi y wahaddasid unwaith i Smyrna i Enwaediad Mâb Cyntafa nedig un Abraham Culliere Câr i Sabatai Sevi a phob peth wedi 'u wneud yn barod i'r Enwaediad, Sabatai Sevi a gynghorodd Rieni 'r Plentyn î Attal ychydig hyd oni roddai ef iddynt Orchymmyn, ac ynghylch pen hanner awr, fe barodd iddynt fyned ym mlaen yn eu gorchwyl, a thorri blaen-groen y Plentyn, yr hyn a gyflawnwyd yn ddiattreg, er llawenydd a bodlondeb eu Rieni: Hwy a ofynnasant iddo wedi hynny beth oedd yr achos: wnaeth iddo ef beri attal y peth tros hynny ò amser? Ei Atteb oedd, na ddarfuasai i Elias hyd hynny gymmeryd ei Eisteddle, eithr cyn gynted ac i'r oedd ef wedi 'i sefydlu 'i hunan, fe a [...] roesai iddynt Orchymmyn i fynd rhag eu blaen, ac yr awrhon Elias a ymddangosai 'i hunan cyn pen hîr, gan gyhoeddi newydd o Jechydwriaeth Cyffredinol.
Hyn oedd y Dyb gyffredinol ym mhlith yr Juddewon, ac maî Sabatai Sevi oedd y Messiah, a chwedi dyfod yn un o Erthyglau 'u Crefydd, nid oedd anhawdd eu perswadio, fod Elias wedi dyfod yn barod, au bod hwy 'n ei Cyfarfod yn eu Dysclau, yn y tywyllwch, ac yn eu hystafellydd, neu ym mha le bynnag arall yn anweledig, yr un modd ac y mae 'n Pobl Gyffredin ninnau Ym Mrydain am wâg Ysprydion; Ellyllon neu 'r Tylwyth teg. Canys felly y digwyddodd pan wnaeth un Solomon Cremona Wledd fawr, efe oedd yn byw yn Smyrna. Ac a wahoddodd Benaethiaid Smyrna, ac yn ôl iddynt fwyta eu gwala, un a neidiodd i fynu, ac a haerodd iddo ef weled Elias ar y Fagwyr, ac ar hynny efe a ymostyngodd ac a ymgrymmodd iddo gyda 'r Costyngeiddrwydd ar Ufudd-dod mwya: Rhai eraill yr un ffunyd a daerasant iddynt weled rhyw beth, au pennau wedi Yscafnhau gan bwys gormodedd o [Page 142] Wîn, mewn moddion go salw i gydnabod gwahaniaeth rhwng trummedd Cysgodion a phethau o amgyffred; Hwy a gyttunason yn ddiyngwrth ar y Gwrthrych, ac nid oedd un o'u Cymdeithas a wadai na welsent hwy ef, âc yr oedd pob un o honynt ar y drummedd ddisymmwth honno, au trawodd hwy yn y fath Om a dychryn arswydus; nes i'r rhai ffraetha 'n eu mysg ollwng eu Tafodau trwy Lawenydd a Gwi [...], gan lwybreiddio eu Hareithiau au Cerddau moliant, au Gweithredoedd o Ddiolchgarwch i Elias, Ymddwyn yn garedigol dan Ymgyfarch ac ef; fel y gwnae Gwyr Ifaingc mewn rhyw ath o Fyfyrdodau Haerllug tuag at eu Cariadon, Juddew arall Ynghonstantinopl, a roddodd allan iddo ef gyfarfod Elias yn yr Heol yno ryw Ddiwrnod, yr un wisgiad a Thwrc, ac iddynt gyd ymddiddan dros dro ynghyd, ac ynghwanegu eu Cyfarchwyliad o [...]mryw Ceremoniau oedd wedi 'u hesgeuluso ac yn enwedig y Zezit. Num. 15, Adnod 38. Llefara wrth Feibion Israel, a dywed wrthynt am wneuthur iddynt Eddi ar Odre eu dillad, trwy eu Cenedlaethau; a rhoddant bleth o sidan glâs ar Eddi y godre. Hefyd yn Lefiticus 19.27, Na thalgrynwch odre ei [...]h pen, ac na thorr gyrrau dy Farf. Yr ymddangosiad hwn o'r Elias, a gredwyd gynta ac y Cyhoeddwyd a phob un yn ufuddhau i'r Weledigaeth, gan roddi Eddi ar odre eu dillad; ac am eu pennau er eu bod hwy 'n arferedig bob amser o'i Heillio, yn ôl Arfer y Tyrciaid a Phobl y Dwyrain, a hwy a adawsant [...]w gwallt dyfu, y peth oedd drwm ac Anhawdd eu ddiod lef i rai oedd anferedig ou wisgo felly, etto hwy a ddechreusant adnewyddu 'u hen Ceremoniau cym mhelled ac y bae bossibl iddynt, a phawb yn gadael Cidyn o bob tu iw ben megis harddwch iw weled, îs law eu Capiau, Yr hyn y fu yn fuan ar ôl hynny yn Arwydd o neillduaeth rhwng y Credadwy ar Rophim, Enw gwael yn Arwyddoceau 'n gymmaint Anghredadwy ar digrêd, yr hwn a roddwyd i'r rhai nad oeddynt yn Cyffesu Sabatai i fod yn Fessiah; Ar sawl ni ddilynai 'r Arfer honno a gyhoeddyd a bygythion Elias, Plant yr Juddewon y rhai oedd i ddyfod oddiwrth yr A fon Sabothaidd, fel y crybwyllir yn yr Ail o Esdras. Pen 13. Y bydd llidiawgrwydd yn erbyn y rhai a fyddo Euog o Esceulustra.
Eithr i Ddychwelyd trachefn at Sabatai Sevi ei hunan yr [Page 143] hwn oedd trwy 'r holl amser yn Garcharor Ynghastell Abydos, ar yr Hellespont gan ei Ryfeddu a'i [...]awrygu gan ei Proyr, a mwy o Anrhydedd nac or blaen, a Phererinion o bob parth yn ymweled ag Ef, cymmhel [...]ed ag yr Aethae Sôn am y Messiah, ymysg eraill un Nehemiah Cohen o Poland, yr hwn oedd o Enw anrhydeddus, am ei ysgolheictod mawr yn yr Hebreag, Syriaeg ac Jaith y Caldeaid, a chwedi ei athrawiaethu ei hunan yn hylithr ynghabaliau'r Rabbiaid, ac om basaî i Sabatai ei Ragflaenu yn ei fwriadau, ei fod e'n ei dybiaid ei hunan mor addas i chwareu rhai y Messiah ar llall. Pa fodd bynnag hi aethai 'n rhy ddiwedda [...] [...] ymmhel ar peth, Sabatai oedd yn barod yn berchennog o un rhan ai ddeg o'r gyfraith, trwy fod yn Feddiannol o'r swydd, a chyda hynny galonnau a Chrêd yr Juddewon, Nehemiah a Ymfodlo [...]a [...] ac ychydig Ymddibyniad a Charennydd ar Messiah, gan hynny i ddangos ei fwriadau 'n well gael o hono Ymddidda ag ef yn ddirgel, ar ddau Athraw, neu Rabbiaid mawr ynghyd, hi a dyfodd yn Ddadl wresog cyd rhyngddynt. Canys Cohen a haerodd mai 'n ôl yr Ysgrythr, ag Flponiad y Dysgedigion arnynt, yr oedd dau Fessiah i fod, sef un ai Enw Ephraim a'r llall Ben Dafydd. Y cynta' a ddylasai fod yn Bregechwr y Gyfraith, yn dlawd ac y ddiystyr, ac yn Wasanaethwr i'r Ail, a'i Ragflaenw [...]; A'r llall oedd i fod yn fawr ac yn gyfoethog, ac i Ddychwelyd yr Juddewon i Gaersalem, ar Orseddfaingc Dafydd, ac i weithredu a Chyflawni pob gorfoledd a Buddugoliaeth, yr hwn a ddisgwylir oddiwrth Sabatai. Nehemiah oedd fodlon i fod yn Ben Ephraim, y Messiah tlodaidd a thrallodus, a Sabatai [am ddim ar a glywai [...] i,] oedd yn ddigon bodlongar i'r peth fod felfy; Eithr Nehemiah a achwynodd arno am fod yn rhy flaenllaw iw gyho [...]ddi y Messiah blaena' cyn bod gwybodaeth i'r Bŷd y [...] gynta' am Ben Ephraim; Sabatai a gymmerodd y sarhâd hwnnw cynddrwg, naill a'i o Falchder, neu feddwl am ei Anallu ei hunan, neu dybio am Nehemiah, os cennadid ef unwaith am Ben Ephraim y byddai iddo ef yn sydyn gan ei fod ef yn un Môr Ddysgedig, y perswadiau e 'r Bŷd mai efe oedd Ben Dafydd, ni fynnai ef mewn modd yn y Bŷd, gydnabod na derbyn yr Athrawiaeth; Ben Ephraim am swyddwr Angenrheidiol: Ac ar hynny 'r [Page 144] Ddadl aeth cyn boethed, ar ymryson môr Anghymmodlon nes ir Juddewon ddal sulw o'r peth. Y rhai a ddechreuodd ymbleidio ynghylch hynny yn eu mysg eu hunain, eithr Sabatai oedd ar Awdurdod mwys iddo, ai Farnedigaeth ef a Orchfygodd, a Nehemiah a lyswyd megy; rhwygwr, a Gelyn i'r Messiah, yr hyn yn ôl hynny a brifiodd yn ddihenydd a Chwymp y Twyllwr hwnnw.
Nehemiah wedi ei siomi felly, ac yn Wr mewn Awdurdod, ac o Yspryd styfnig, ni ymroddodd ei hunan ddim ond ymddial, ac i gyflawni 'r peth yn llawn efe a gymmerodd Daith i Adrianopl, gan wneud y Penaethiaid mewn Awdurdod yno yn gydnabyddus o'r peth a Swyddogion y Llŷs; Y rhai (o herwydd y Budd yr oedd y Tyrciaid yn ei wneud oddiwrth y Carcharor yn y Castell ar Hellespont na chlywsai ddim ynghylch yr holl Luoedd o Bob, ar Prophwydoliaeth ynghylch gwrthgiliad yr Judddwon oddiwrth eu hufudddod ir Grand Signior, a chaen gymmeryd iw Gyngor amryw or Chochams y sawl oedd anfodlongar ac anghredadwy yn hynny o beth, ac oeddynt hefyd bur wresog tros eu Cenedl, ac yn ofni drwg ddibennion yr hir gynnyddiad gwallgofus oedd wedi Cynhyrfu yn eu mysg. Hwy a fuont cyn hyfed a dwyn ar ddeall ir Chocham, (yr hwn oedd yr amser hwnnw yn Rhaglaw ran y Vizier neu Benswyddog y Twrc yn Candia,) fod yr Juddew yr hwn oedd garcharor yn y Castell, a elwyd Sabatai Sevi, yn Ddŷn drygionus, ac a fwriadodd hyd eitha' allu i lygru meddyliau 'r Juddewon, au troi oddiwrth ffordd eu Cyffredin fywiolaeth, au Hufudd-dod i'r Senior mawr; A chan hynny fod yn Angenrheidiol eglurhau i'r Bŷd y fath ddyn o Yspryd Cynnenus a Therfysglyd: Pan glybu 'r Chocham hynny, nid allai ef lai nag yspysu 'r peth i'r Senior mawr, aî holl gyflwr, Ymarweddiad Buchedd ac Athrawiaeth y gwr hwnnw yn gwbl. A chyn gynted ac y Deallwyd hyn, fe a ddanfonw yd Connad yn ddiatreg i gyrchu Sabatai Sevi i Adrianapol. Y Cennadwr y wnaeth i neges ar frys yn ôl arfer y Tyrciaid ac a ddygodd Sabati mewn ychydig Ddyddiau i Adrianopl, heb ddim esgusodion ymmhellach na chaniattai iddo Awr o amser i gymmeryd ei Gennad a'i ffarwell ai Gyfeillion, ai Ddilynwyr, ai Addolwyr, [Page 145] y rhai erbyn hyn oedd wedi dyfod i eitha Anwadalwch eu Gobaith au Disgwyliad.
Y Senior mawr yn y Cyfamser wedi derbyn ychwaneg o Hanesion ynghylch gwallgof yr Juddewon, ac ymgymmyraeth Sabatai oedd yn hir ganddo am gael ei weled: a chyn gynted ac y daeth ef i Adrianopl, fe ai dygwyd ef yr awr honno ger bron y Senior Mawr, Sabatai a ac ymddangosodd yn drist jawn, ar Gwroldeb a ddangosasai yn y Synagôg oedd wedi cilio oddiwrtho, a chwedi gofyn iddo ef amryw ymholiadau 'n Jaith y Twrc gan y Senior mawr; Ni ymddiriedai ef ddim cymmhelled ei Rinwedd ei Fessiah, i ddatcan ei hunan yn Jaith y Tyrciaid, eithr efe a ddymmunodd gael Athraw Physygwriaeth i fod yn Ddeonglwr (yr hwn a droesai o fod yn Juddew yn Dwrc,) yr hyn a gynhwyswyd iddo, eithr nid heb watwargerdd rhai oedd yn sefyll yn ymyl, o aehos iddo ef gymmeryd arno i fod yn Fessiah ac yn Fâb Duw, fel y gwnaethai e or blaen, hwy dybient y dylasai ei Dafod ef fod yn llithrig mewn amryw yn gystal a pherffeithrwydd mewn Jeithoedd, Eithr y Seinior mawr ni fynai roi heibio nes dangos rhyw Wrthiau ger ei fronn, ac un o'i ddewisiad eu hunan; yr hyn oedd ar iddo ef sefyll yn noethlymyn, ai osod yn nodyn neu Farcro flaen ei saethyddion hylaw, ac oni fennai 'r saethau ar ei Gorph, Eithr y byddai iw Gnawd ai Groen dderbyn y saethau megys Llurug heb wneud niwaid yn y Byd iddo, y Senior a gredai mae 'r Messiah oedd ef, ac mai ef oedd yr y yr oedd Duw yn ei fwriadau i'r Arglwyddiaethau a'r mawredigrwydd yr oedd ef yn i gymmerydd arno. Eithr nid oedd gan Sabatai Ffydd hanner digon eref; sefyll y Praw llymd dost hwnnw, Gan hynny efe a wadodd ac a ymwrthododd Hawl i'r Teyrnasoedd a Llywodraethau, gan addef nad oeddi ef ond Chocham cyffredinol, ac Juddew Tlawd, fel eraill, ac nad oedd dim Rhagofaint na Rhinwedd yn perthyn iddo mwy nag i eraill. Y Senior mawr er hynny i gyd ni fodlonodd y Gyffes wael honno monno ef; Gan Ddatgan, o herwydd iddo ef roddi Cyhoedd farhâd i Grefydd a Phroffeswyr Mahomet, a dianrhydeddu Awdurdod ei Fawrhydi gan gymmeryd arno dynu oddiwrtho ef Randir fawr megis Gwlad Palestine; Nis dihuddid y Senior mawr felly am y cyfryw feiau Bradwrus [Page 146] mewn ffordd yn y Bŷd oddîgerth iddo ef wadu ei Grefydd Juddewaidd a throi 'n Fahometan, ac os gommeddai ef wneud hynny yr oedd Pawl yn sefyll yn barod wrth Ddrws y Seraglio (neu lle cadwo 'r Senior mawr eu Ordderchwragedd) iw Ddihenyddio ef, Sabatai erbyn hyn oedd wedi 'mddarostwng hyd yr eitha, a chwedi ei yru at y Ddichell ddiwaetha, heb amau or lleia pa beth y wnae, ei gymmeryd ei Farwolaeth am y peth a wyddai fe fod ar gam, oedd yn erbyn natur, a Marwolaeth Dyn Gwallgofus, Efe a attebodd yn dra [...]iriol, ei fod e'n fodlon i droi i Grefydd y Tyrciaid, ac nid heb yn waetha, Eithr oi fodd ei hunan; gan ddwedyd fod ei Ddymuniad i gofleidio Proffes mo'r Ogoneddus; gan gydnabod i bod yn barch mawr iddo, gael y cyfryw odfa iw Addef ei hunan gynta 'n y Grefydd honno gerbron y Senior mawr. A dyma eitha ergyd yr holl Drwst ar terfysg oedd y wnaeth y siomwr gwael hwnnw a'i ganlynwr. Bellach Ddarllennydd, bydded wiw genit ymattal ychydig, a dyfal ysryriaid y fath ddychryn Ofnadwy, cywilydd a distawrwydd oedd tynghdefen yr Juddewon wedi 'u dwyn eu hunain iddo; a phan ddeallasant yn ddisymwth fod eu Gobaith gwedi myned heibio, ac mo'r Dlodaidd, â salw oedd eu Tebygoliaethau au Haddewydion am Deyrnasoedd newyddion, eu Gwleddoedd, eu swyddau Defosiwnol, aeth heibio megys Hen Chwedl, neu Freuddwyd ynghanol y Nôs, ar cwbl wedi darfod, yr Juddewon a syrthiodd ar frŷs, au Gobaith a ddiflannodd ymaith, heb gymmaint ag un Gair er eu Cyssur, nag Esgus oddiwrth Sabatai, Eithr yn Gyffredinol at ei holl Frodyr: Mai gorau oedd i bawb o honynt ymroi at eu Gorchwylion ai Marchnadoedd, ac eu wasanaethu eu Duw fel cynt, fod pob peth wedi i orphen ac oedd yn perthyn iddo ef, a bod Barn wedi i phasio arno. Newyddion ei fod ef yn Dwrc, ar Messiah yn Fahometan, yn sydyn aeth trwy holl Wlâd y Twrc, yr Juddewon a fu ryfedd aruthrol ganddynt or peth, ac yn gyw [...]lydd arnynt iddynt goello 'r fath resymmau a pha rai y darfu iddynt en perswadio eun hunain ac eraill, ae am y Discyblion a droesant yn eu Teuluodd eu hunain. Hwy aethant yn warth ac yn Wradwydd yn yr Holl Drefydd oddiamgylch lle i'r oeddynt yn Preswylio; I Plant oedd yn gwawdio [Page 147] ac yn chwerthin am eu pennau, Gan fathu gair newydd yn Smyrna yn eu herbyn, Postai, a phawb a ddangosai Juddew ai fŷs draw gyferbyn Pan ddae 'n ei olwg, gan eu dirmygu au diystyru. Felly rhei'ny a hydwyd a thros hir amser wedi hynny a fuant mewn anrhefn, yn ddistaw, ac yn ala [...]us yn eu hysprydoedd; ac etto llaweroedd o honynt a siccraent na throdd Sabatai yn Dwrc, ac nad oedd ond eu Gysgod yn unig ar y Ddaiar, ac yn rhodio a phen Gwynn, ac mewn Gwisg Mahometan Eithr bod ei Gorph a'i Enaid naturiol wedi gymmeryd i'r Nefoedd, yno i breswylio hyd amser Appwyntiedig cyflawniad y Rhyfeddodau hynny; ar dyb honno a ddechreuodd yn Cyffredin gymmeryd gwraidd, ar Bobl hynny gwedi ymroi na byddai i neb byth eu dwyn i jawn wybodaeth, gan arfer yr ffurfiau ar Rheolau Defosionawl a adawsai eu Messiah Mahomedaidd yn eu mysg: yn gymmaint oni orfu ar y Chochams o Gonstantinopl rhag ofn i enbydrwydd y bai hwnnw, ymluscu ar i fynu, a bod cynddrwg ar cynta', Hwy Euog farnasant greduniaeth o Sabatai fod yn Fessiah, yn golledig, gan eu Gorchymmyn hwy i Ddychwelyd iw hên ffordd o wasanaethu Duw tan boen Escymundod, Cynnwysiad yr 'scrifen awdurdodawl sy fel y Canlyn.
I chwi sy a gallu Offeiriadaeth, a sydd wybodel a Dysgedig, a mawrfrydig Lywodraethwyr, a Th wysogeon, y rhai sy 'n byw yn Ninas Smyrna, Bydded i'r Holl [...]lluog Dduw eich amddiffyn chwi Amen; Felly y mae ewyllys.
YR rhain yw 'n Llythyrau ni yr ym yn eu danfon i ganol eich Preswylwyr, o achos rhyw chwedlau Terfysglyd a glywsom ni oddiwrth Ddinas eich sancteiddrwydd. Canys y mae rhyw fath o wyr yn eich mysg chwi, y rhai sy n eu cadarnhau 'u hunain yn y hai hwn, gan Ddywedyd, Bydded fyw 'r cyfryw un, [...]ydd fyw 'n Brenhin, gan ei fendithio ef yn eu Synagogau cyhoeddus bob Dydd Sabbath. Ac hefyd yn cyssylitu Psalmau a Hymnau a ddychmygodd y gwr hwnnw am rai Dyddiau a rheolau llwybreiddiaidd i weddio, y peth ni ddyiae mor bod, ac [Page 148] etto y maent hwy 'n dal yn gyndyniog yn hynny; Ac wele 'n awr yn gydn [...]yddus i chwi. pa ddyf [...]oedd chwyddedig a Lifeiriodd tros ein E [...]eidiau ni o'i blegid ef; Oni basai Drugareddau 'r Arglwydd Dduw, y rhai sydd heb ddiben, a haeddedigaethau ein Cynteidiau ein Cynnorthwyo ni, Troed Israel a fasai wedi ddadwreiddio gan eu Gelynion, A chwithau etto 'n dal yn gyndynniog mewn pethau nad oes Gynnorthwy, eithr yn hyttrach niwaid, yr hyn Lluw ar trotho heibio ymchwelwch chwithai gan hynny, Canys nid dyna 'r jawn ffordd, eithr rhôddwch y goron yn ol ei hên Ddefod ac Arfer eich Tadau och blaen, ar Gyfraith, ac na syflwch oddiyno. Mae gen [...]ym ni Awdurdod i orchymmyn i chwi, na byddo i chwi tan boen Escymmundod a Chospedigaethau eraill ar i chwi Ddiddymmu 'r holl ordinhadau a'r Gweddiau, yn gystal y rhai a roddwyd i chwi o Enau 'r Gwr hwnnw, a'r rhai a gyssylltwyd attynt gan eraill, dirymmwch Hwy, fel na Choffaer monynt mwyach, nac unwaith fyned i mewn i'ch calonnau, Eithr Bernwch yn ol Hên Orchymmynion eich Teidiau▪ gan ail Adrodd yr unrhyw wersi a Gweddiau bob Sabbath, fel y bu Ddefodedig, ac hefyd weddiau tros Frenhinoedd a Rheolwyr Eneiniog, &c. A Bendithwch y Brenhin Sultan Mahomet, canys yn ei Ddyddiau ef y bu Jechydwriaeth mawr yn Israel, ac na wrthry [...]elwch yn erbyn ei Deyrnas ef, natto Duw iwch wneud hynny, Canys er myned y cwbl heibio etto 'r cynnwrf lleia eill fod yn Achosion o Eiddigedd, a eill dynnu difrawd a dinystr ar eich pennau'ch hunain, ac ar eich holl garedigion a'ch cyfntseifiaid. Gan hynny, rhowch heibio feddwl am y Gwr hwnnw, ac na ddeillied cymmaint ai Enw allan och genenau. Gwybyddwch oni ufuddhewch i ni yn hyn, fe geir Gwybodaeth pwy a pheth yw 'r gwyr hynny, y rhai a ommeddo gyd-uno a ni, ac mae 'n ymroad ni îw herlid hwy, megis y mae 'n Dyledswydd, y sawl a'n Gwrandawo ac a ufuddhao i ni, bydded ei Fendithion yr Arglwydd ddi [...]gyn arno ef. Dyma Eiriau 'r sawl sydd yn deusyf eich Tangn [...]efedd a'ch [...]ajoni, y rhai ar Ddydd Sul y pummed o Fis Sevat sy'n 'scrifennu ein Henwau Yng-Hhonstantinopl,
- [Page 149]Joam Tob, Fab Cananiah Ben Jacar.
- Isaac Alnacagna.
- Joseph Kezih,
- Manasseh Barnardo,
- Kaleb Fab Samuel
- Eliezer Castile,
- Eliezer Greison,
- Joseph Accoben,
- Eliezer Aluff,
Tra y parhaodd yr holl Ddamweiniau ar Tramgwyddiadau hynny Yng Honstantinopl, Smyrna, Abydos ar yr Hellespont, ac Adrianopl, ar Juddewon wedi rhoi heibio eu Marsiandiaeth, ac ymofyn pa bris yr oedd Mainach yn ei ddwyn, a Marchnadoedd bethau eraill, eithr llenwi eu Llythyrau i Itali, a mannau eraill, heb ddim ynddynt onid Rhyfeddodau, a Gwrthiau a wnaethau r Gau Fessiah, megis pen ddarfu ir Seignior mawr ddanfon iw gymmeryd ef, efe a wnaeth i'r holl Gennadon farw yn ddisymwyth, ar hynny fe ddanfonwyd Cennadon eraill, hwythau hefyd a syrthiasont yn feirwon wrth un gair o'i Enau, ac ar ddifyfiad eraill, efe au hadfywiodd hwynt, drachefn, eithr yn unig y rhai oedd wir Dyrciaid, ac nid yr rhe'iny a wadent y ffydd ymmha un y gannesid hwynt, ac oeddynt feddiannol o honi. Wedi hyn hwy ddywedent ymmhellach iddo ef fyned ei hunan o'i wir fôdd i'r Carchar, ac er bod y pyrth wedi a Cau a Chloiau cryfion o Heyrn arnynt, etto Sabatai a welsai rai (meddent) yn rhodio ar hyd yr Heolydd a Lliaws yn ei ddilyn. A phan roesant, Hualau ar ei wddf ai Draed, hwy syrthiasant oddiwrtho, a droent hefyd yn Aur, Ar Cymmwynasau hynny efe 'dalodd y pwyth iw ddiscyblion Ffyddlon ai wir Greaduriaid. Yr oedd rhai Gwrthiau a sonid am danynt o eiddo Nathan hefyd, a hynny 'n unig pan Enwid Gwr neu Wraig efe a ddywedai 'n ddiatteg Haneseu holl Fuchedd ai Hymarweddiad, eu Pechodau au Camweddau, ac a roddai unio [...] Benyd yn ôl eu Haeddedigaeth arnynt. Pan ddaeth yr Hanesion hyn i'r Idal a lleoedd eraill. Yr Juddewon o Casel yn Mor [...]serato a ymrodd i ddanfon tri o wyr Ymmherthynas eu Cymdeithas mewn natur Negesseuwyr Rhagorol i Smyrna i ymofyn allan y Gwirionedd amyr holl bethau a glywsent, y rhai 'n ôl hynny a ddaethant i Smyrna yn llawn o ddisgwyliad a Gobaith ar fedr eu cyflwyno 'u hunain trwy ufudd dod a Gostyryeddrwydd mawr ger bron eu Messiah a Nathan ei Brophwyd, Hwy [Page 150] gawsant y newyddion o fôd Sabatai y Messiah wedi troi 'n Dwrc, ac or achos eu Negesseu [...]n oedd ar ben, a phob un a rodd heibio ddull ei swydd, ac a geisiasant lyttyfon cyfaddas a mwya cymmhesur iddynt eu hunain. Fel y gallent hwy pan Ddychwelent yn ôl at eu Brodyr roddi cyflawn Hanes o Lwyddiant eu Taith; Hwy aethant i ymweled a Brawd Sabatai, yr hwn a rynnai 'u perswadio hwy o hyd, mai Sabatai er hynny i gyd oedd y gwir Fessiah ac mai nid efe oedd hwnnw a gymmerasai ddull a Gwêdd Twrc arno 'i hunan, Eithr ei Angel a y [...]pryd, a bod ei Gorph ef wedi ei dderchafu ir Nefoedd, hyd oni welai Duw 'n dda drachefn ei ediryd yn ôl mewn amser cyfaddas, gan ddywedyd ymmhellach y caent hwy weled mwy siccrhad or peth gan y Prophwyd Nathan, yr hwn a ddisgwylient hwy bôb Dydd, yr hwn a wnaethai wrthiau mewn amryw Leoedd, y wnai (meddent) hefyd er eu Cyssur hwythau Ddatcuddio pethau di [...]gel iddynt, bodlondeb yn y cyfryw bethau a fyddai chwith ei weled, Fe arhosodd y negesseuwyr au h [...]ll obaith y byddai i Nathan eu cyssuro hwy ychydig hwy ymroesant i aros ei Ddyfodi [...]d, gan fod ganddynt Lythyr iw gydwyno iw Ddwylo, yn ôl yr Hyfforddiad a gawsent, ir oeddynt i [...]y Hol [...] ef am wybodaeth o'r sylfaen oedd ganddo ef am ei Prophwydo [...]iaeth, a pha siccrha [...] oedd ganddo ef ei fod ef gwedi 'i ysprydoliaethu yn Ddiff [...]yddiol, a pha fodd yr oedd y cyfryw bethau wedi 'n D [...]tcuddio iddo yr hyn a roddasai ef âllan mewn yscrifen, ardant ar led y Bŷd ôll Or diwedd Nathan a ddaeth yn agos i Sm [...]rna [...] ar Ddydd Gwener y trydydd o Fawrth, tua 'r hwy [...]; A thranoeth Ddydd Sul, y negeseuwyr aeth i ymwe [...]e [...] ag ef Nathan p [...]n glybu 'r newydd o aflwyddiant ei [...] Fessia [...], fe a ddechreuodd fyned yn dywedwst ac yn afrywiog, ac yn ddi [...]aw braidd y cynnwysai ef i'r negess [...]yr gennad i ddyfod ger ei f [...]on cymmaint ag [...]edd genddynt iw dd [...]wn ar ddeall iddo, oedd fod ganddynt hwy Byrhyrdd [...] oddiwrth y Brodyr o'r Eidal ag Aw [...]u [...]ion i ymddiddan ag ef y [...]hylch sylf [...]en Awdurdod ei Brophwy [...]iaeth; [...] Nathan a ommeddodd dderbyn y [...] Chocham o'r Ddinas ei Dderbyn ef, [...] a Ddychwels'ant yn [Page 151] Anfodlongar, etto gan obeithio pan ddae Nathan i Smyrna y caent hwy well bodlonrwydd.
Ond tra fu Nathan yn bwriadu myned i mewn i Smyrna, y Chochamiaid o Constantinopl, a glybu ei fod ef wedi ymroi i gymmeryd ei Daith i'r [...]arthoedd hynny, heb wybod pa ffordd a gymmerai ef i fyned yno, hwy a ddanfonasant eu Llythyrau ac eraill i Smyrna; A phob ffordd oddiamgylch i rwystro ei fynediad trwodd, ac i attal ei Daith; gan ofni, a phethau erbyn hyn yn dechreu llaryeiddio, ar Tyrciaid, heb anghofio 'r Anrhefn o'r blaen, a meddyliau 'r Juddewon wedi gwastadtau mewn peth Mesur, rhag o'r siomwr hwn eu hail gynnhyrfu, ac i'r hen Archollion dorri allan o newydd; Gan hynny hwy a ddanfonasant y Llythyr canlynol.
I Chwi Fugeiliaid a Rheolwyr Israel, y rhai sy 'n ymddiriaid yn Nuw mawr yr holl Fŷd, yn Ninas Smyrna, yn hon sydd Fam yn [...]srael; iw Thywysogion ai Hoffeiriadau ai Barnwyr, ac yn Enwedig i'r rhai sydd mewn perffaith Ddoethineb, a mawr synwyr, Bid ir Arglwydd Dduw wneud i chwi fyw ger ei fron. ac ymhoffi yn lliosowgrwydd ei Dangnheddyf, Amen. Felly bydded Ewyllys yr Arglwydd.
EIn Llythyrau yr ym yn eu gyrru attoch, i ddwyn ar ddeall i chwi, fod yn lle 'ch Sancteiddrwydd chwi, 'ni glywsom am y Gwr Dysgedig a fu yn Gaza, a Elwyd Nathan Benjamin, yr hwn a Gyhoeddodd Athrawiaethau ofer ac y wnaeth i'r Bŷd grynu o herwydd ei Eiriau ai Ddychmygion; Ac ni a gywsom y pryd hyn Rybudd, ir Gwr hwnnw rai Dyddiau aeth heibio ymaddael o Gaza ac a gymmerodd ei daith i Scanderoon ar twriad myned i Smyrna, ac oddiyno i Gonstantinopl neu Adrianopl; Ac er i fod yn ymddangos yn Rhyfedd i ni fod neb mor ynfyd ai daflu ei hunan i ffaglau Tân, ag i wreichion Uffern, er hynny i gyd ni allwn ni lai nag ar [...]wydo ac ofni 'r peth; Canys Traed Gwr bob amser fy barodol iw arwain ef i'r ffordd waetha; Gan hynny y scrifenasom artoch chwi o herwyddfod y Gwr hwn yn dyfod oddi tu fewn i'ch Arglwyddiaeth. ar i chwi attal ei Daith, a [...] na chennadoch iddo ef fyned ymlaen ddim ymhellach, eithr ei rwystro ai droi 'n ôl yn ddiattreg; [Page 152] Canys ni fynnwn i chwi wybod mai ar ei Ddyfodiad, efe a ddechreu adnewyddu 'r Terfysg, yr hwn a feddyliwyd trwy fwriadu cael Teyrnas newydd, ac nad yw Gwrthiau iw gwneud bob Dydd.
Natto Duw iw Ddyfodiad ef fod yn Achosion o Ddistrywiad Pobl Dduw ym mhob man ple bynnag y bo'nt, o ba rai efe a fydd y cynta, Gwaed pa un bydded ar ei ben ei hun; Canys or cyfryw Amcanion ychydig fai neu gyflafan a wneir yn fawr, chwi a ellwch gofio enbydrwydd y cythryfwl cyntaf: Ac y mae 'n rhy debyg y bydd e yn achosion o fwy, nag all Tafod i Ddatgan ar Eiriau. Gan hynny trwy rym ein gorchymmyn ni, a'ch Awdurdod eich hunain, yr ydych iw attal ef rhag myned ymmhellach ymmlaen yn ei daith tros boen yr Escymundod a all ein Cyfraith i rhoddi arnoch a gwnewch iddo ddychwelyd elyd yn ol ynghyd a'i Gyfeillion; Eithr os eich gwrthsefyll y wna a Gwrthryfela ich erbyn chwi ach Gair, Y Gyfraith ach Awdurdod sydd ddifai iw hattal; Canys fe fydd hynny da iddo ef a holl Israel.
Er Cariad Duw bydded i'r Geiriau hyn dreiddio i'ch Clustiau, gan nad ydynt bethau gwael; Canys bywyd yr holl Juddewon ai un yntau hefyd, sy 'n sefyll yn hynny, Ar Arglwydd Dduw a edrycho i lawr ôr Nefoedd, ac a gymmero Drugaredd ar eu Bobl Israel, Amen. Bydded felly ei Ewyllys Sanctaidd. Ysgrifenwyd gan y sawl sy 'n chwennych eich Tangnhefedd.
- Joam Tob, Fâb Chanania Jacar.
- Moise Benvenistie,
- Isacc Alcernacagne,
- Joseph Kazabi,
- Samuel Acazsine,
- Caleb Fâb Chocham,
- Samuel,
- Moise Brando,
- Eliezer Aluff.
- Jehoshuah Raphael,
- Benveniste.
Trwy 'r moddion hyn Nathan a fwriwyd heibio iw Daith wibiog, gan frith gywilyddio o herwydd y pethau oedd yn [Page 153] digwydd yn wrthwynebol iw Ewyllys ai Brophwyd [...]liaethau, a ymrodd i dro [...] 'n ôl drachefn cyn myned i Smyrna: [...]a fodd bynnag fe gafodd Gennad i 'mweled Bêdd ei Fam, ac yno i dderbyn maddeuant am ei bechodau (yn ôl trefniad y rhagddywededig Sabatai) Eithr yn gynta' efe a ymolchodd ei hunan yn y môr, yn ol dull Puredigaeth, ac y ddwedodd ei Tephilla. neu ei weddiau wrth y Ffynnon, a elwyd gennym ni Ffynnon Sancta Veranda, yr hon iy 'n agos i fonwent yr Juddewon, ac a ymadawodd i Scio, ynghyd a dau Gyfaill, a Gwas, a thri or Tyrciaid iw Lwybreiddio, heb ganiadhau i'r negesswyr gael Gwrandawiad nag atteb o'r Llythyr a ddanfonasid iddo oddiwrth y Gymdeithas Iddewaidd yn yr Eidal, Ac felly dibennwyd Cennadwri y Negesswyr hynny, a hwy a ddychwelasant i'r lle y Daethent o hono, Ar Juddewon iw Gof a'i synwyr drachefn; i ddilyn eu Marchnadyddiaeth megis cynt, âmwy o lonyddwch a Mantais, ar moddion o ail ynnill eu meddiannu 'n Nhir yr Addewid. Ac fel hyn y diweddodd y Cynddeiriogrwydd ym mysg yr Juddewon, yr hyn a allasai fod yn ddrud iddynt, oni basai i Sabatai, wadu swydd Messiah wrth Draed Mahomet.
Y pethau aeth ymlaen fel hyn yn y Flwyddyn 1665. er y Flwyddyn 1666. yn y Cyfamser Sabatai a fwriodd ei amser yn Crefyddol yn Llys y Twrc, gan gymeryd ei Addysgeidiaeth wrth Draed Gamaliel yng-Hyfraith y Tyrciaid, hwnnw oedd Vanni Effendi, Pregrethwr i'r Seraglio neu Siaplan i'r Sultan, un mo'r Ddyscedig mewn cymmeriad megys yn Oracl mawr o'i Crefydd ac yn ei dyb yn gywraint ac yn Gyfrodo o'i Sancteiddrwydd ei hunan megys Pharisead mor Ofergoel, nad oedd dim awnai fwy llygredigaeth yn ei Addoliant, na chyflwrdd neu ddyfod o Gristion yn agos atto. Ir perwyl hwnnw Sabatai oedd bur Addfed Ysgolhaig, ac a ddaeth ym mlaen, fel y gallwn ni feddwl tu hwnt i fesur yn yr Athrawiaeth [...]wrciaidd; Felly yn ffair newid i'r cyfryw Argraph, ni thybiodd Vanni yn ogan yn y Byd iddo oddiwrth y cyfryw Athraw mawr i Ddiscybl newydd, i ddysgu rhyw faint o Ddefodau 'r Juddewon, ac i wellhau peth o'r wybodaeth lymrig a dderbyniasai ef oddiwrth Gyfraith Moesen; Fel hyn y bwriodd Sebatai heibio ei amser yn Llys y Twrc, fel ac y bu Moses [Page 154] gynt yn Llys yr Aipht, ac nid hwyrach iw ddynwaredd ef yn hynny o beth; [...]e fwriodd olwg yn ami ar Drallod ei Frodyr, i ba rai efe a gymmerodd arno ei fod yn waredwr hyd ei Ddydd Marwolaeth, eithr trwy 'r fath ofal gochelgar, rhag rhoddi dim anair i'r Tyrciaid, ac a Gyhoeddodd oni ddae eu Meddyliau 'n debyg iddo ef hynny ydyw ymwrthod ar Cysgodion, ac ammherffe [...]thrwydd Elfennau Cyfraith Moesen, yr hon y wnaed yn berffaith drwy ymgyssylltu ar Grefydd Mahometaidd, a chynnulliadau eraill a debygai ei ysprydol Ddoethineb yn gymmhessur. Ond nid oedd ef a allu i foddhau Duw, trostynt hwy, neu eu Llwybreiddio i Dir Sanctaidd eu hên Deidiau: Ar hynny llawer o'r Juddewon a ddaeth yn finteioedd atto, rhai cymmhelled a Babylon, Caersalem a lleoedd Anghysbell eraill; a Gwersyllu ar hyd y Ddaiar gerbron y Senior mawr. y rhai ou griw fodd a Addefent eu hunain yn Fahometanaid: Sabatai 'i hunan a ynniliodd Dir yngolwg y Tyrciaid o herwydd eu Ddiscyblion newyddion, Efe a gafodd y Rhagorfraint a chaniattad i ymweled yn garedig ai Frodyr, ac efe a ymroddodd ei hunain enwaedu eu Plant yn wyth Ddiwrnod oed, yn ol Defod Moesen, gan Bregethu ei Hathrawiaeth newydd, trwy ba un efe a siccrahaodd amryw yn y Ffydd mai ef oedd y Messiah, a rhyfeddu y wnaethant gan ddisgwiliaid y pethau Dieithr hynny a p [...]eth y ddae o honynt, Eithr ni feiddiai neb yn gyhoeddus i Addef, rhag iddynt anfodloni y Tyrciaid ar Juddewon, rhag tynnu am y pennau Escymmundod oddiwrth un, a Chrogpren gan y llall.
Pa fodd bynnag yn Jonawr 1671. Fe 'mddangosodd siommwr hyf arall ymmhlith yr Juddewon yn Smyrna, o Morea meddent hwy, neu ni wyddid yn dda o bale, yr hwn heb yn waetha i Sabatai ai Lywodraethwyr, efe a gymmerodd arno mai ef oedd y Messiah, Eithr am y cyfryw siomwr gwael a Thylodaidd [...] hwnnw yr Juddewon a fwriadodd wneud ei waith e'n sydyn; Gan fod arnynt gywilydd ar y Cynta o ddyfod Messiah i siomi Pobl, [...]thr trwy Arian hwy ai cyhuddasant e [...] am Odineb; Ac a fynnasant Farnedigaeth yn ei erbyn oddiwrth y Cadi, Fe ai Barnwyd i Carchar Llongau, a thra y bu ef yn aros myned yno, ac am ei ymarweddiad da [Page 155] yno, ac a fu dro yn y Carchar; Yn y cyfamser fe gadd odfa iw glirio ei hunan, or bai hwnnw trwy Dystion i'r gwrthwyneb, ac a fasai 'n diaingc allan o allu 'r Synagôg, oni basai fod eu Hawdurdodau au Harian yn tyccio 'n fwy 'n ei erbyn, nal chyfeillion a Disgyb [...]n y siommwr hwnnw; Er hynny fe ai Cadwyd ef yn Gyfannedd yn Garcharor. A Sabatai Sevi, a arhosodd yn Nhŷ Pharoah, neu 'r Semor Mawr, ac yno ei canlynodd hyd y Flwyddyn 1676. Ac a fu farw.
Y Dynghedfennol a therfynol ddiwreiddiad, a llwyr ddifroad yr Juddewon, o Ymerodraeth Persia, yr hwn a ddechreuodd yn y Flwyddyn 1663, ac y barhawyd hyd y flwyddyn 1666, ar Achos yn peri hynny.
CHWI a glywsoch yn yr Hanes uchod, o ba Ogoneddus obeithion, gwthiwyd yr holl Genedl Iuddewaidd, trwy ei Swyn-gyfareddol, etto anllwyddiannus ddrygioni eu diweddar Gau Fessiah, chwy chwi trwy 'r Hanes ymma a gewch ddeall ymhellach, mo'r hynod yr ystynnasid Llaw 'r Hollalluog Dduw (ynghylch yr un amser) er rhagor eu Cywilydd au Distryw. O byddai dim yn annog i ymchwelyd a dwyn yn ol y bobl druenus siomedigol hyn. Yn ddiau tebygai un ar ei gwastadol lidiawgrwydd hyn, ac Arwyddion o'i ddigofaint ef yn erbyn eu holl amcanion hwynt, megis ac y gweddiai i gadarnhau y Gre [...]ydd Grist'nogol, felly y dylid eu cymhell hwynt hwy i frysio atti; canys digofaint a syrthiodd arnynt hyd yr eithaf.
Yn Nheyrnasiad y Clodfawr Abas, Sophy Persia, a Thaid y Presennol Ymherodwr, a'r Deyrnas yn isel, ac yn agos wedi dispyddu ô'i Thrigolion, ê ddigwyddodd i feddwl y Tywysog yma, (Gwr synhwyro) a Doeth, ac un a oedd yn bwriadu yn rhagorol lesiant, ei Doeiliaid, i chwilio allan ryw gymmwysder i adfywio ac i amlhau y Marsiandiaeth, ac Annog Cenhedloedd eraill cyfagos i Negeseua ac i Farchnatta yn eu plith hwy, trwy bob math o rydd-did; a thrwydded ddidreth. Ai amcan hyn a ddiogelodd trwy gynnifer o drwyedau Didrethol, ac y driniai rhai a ddelent mo'r Gariadus, [Page 156] nes ymgynnull a Bobl yno o bob Parthau 'r Byd i'w wlâd ef, a llanwodd ei holl Deyrnas mewn amser bychan, ac amlder o bobl a Diethriaid dyfal, y rhai a gyffiniant o un tuedd o'î amgylch.
Fe ddigwyddodd frysio yno ym mhlith yr rhai a ddaethent Liaws anneirif or Juddewon ou holl wascarfaoedd yn y Dwyrain, rhai a lithiwyd trwy'r Elw a wnaent ymhob mann trwy 'r byd yn ei wneuthur lle y cant ossod eu Traed unwaith; trwy eu cynhwynol gyfrwysedd, au melldigedig Gy [...] ydd dod a thrachwant, au Hoccreth gorthrymmus yr hyn y maent yn ymarfer yn wastadol. Nid aeth llawer o Flynyddoedd heibio, nes trwy 'r moddion hyn dlodi o honynt eraill, yn enwedig genedigol ddeiliaid Persia, nes dyfod o'u cwynfan i glusti [...]u 'r Ymherawdwr. Ac yn ddiau i'r oedd hyn yn annoddefadwy, canys ei dryssordŷ ef ei hun a ddechreuodd fod yn synniol o hono, yn gystal a Chodau, a meddiannau ei bobl rhai agos a lwyr ormeswyd ganddynt.
Pa'r fodd i attal yr afreolaeth ymma, a diwygio 'r anghymwysder heb roddi cynwrf i'r Estroniaid llesol eraill yn preswylio yn ei diroedd ef, trwy syrthio yn ddisymmwth yn greulon ar yr Juddewon, ymgynghorodd yn fynych. Ac i'r perwyl hynny galwodd i ymgynghori ei Weinidogion Penaf, ei Lŷs, y Mussti, a'r Esponwyr y Gyfraith: Ynôl hir ymddadl, yn eglur o'r diwedd ê gafwyd hyspysrwydd, golsi o'r Juddewon er ys llawer o amser fraint eu Fywyd wrth Eiriau yr Alcoran; yno 'r amlygir y destrywid hwynt, oni ddaent yn gyffredinol, oddifewn chwe chant o flynyddoedd yn ol cyhoeddiad y Grefydd honno, i mewn iddi, a chyfaddef ffŷd y Mahomet. Yr ymheradwr eiddigus a fynnai yn ddiatreg gwplau 'r Ordinhâd hon; Eithr trwy gyfryngiad y Myssti, ac eraill o'r Athrawon, hwy a welsant yn gymmwys oedi tros y cyfamser: Eithr mal y gallai y cynyddol ddrygioni yma mewn amser derfynu; Ei Fawrhydi a Orchmynnoddi'r holl Chochami, Rabiniaid a Phenaethiaid yr Juddewon, i ymddangos ei hunain yn ddiattreg ger bron ei Orseddfaingc▪ ac atteb o honynt y gwrthddadleuon a osodid attynt.
Ar Juddewon yn gynlynol wedi ymgynull, y Sophi au holodd hwynt ynghylch amryw a Byngciau ou Cyfraith, ac yn [Page 157] neilltuol ynghylch Moysen ei Prophwyd, a'r Deddfau a Orchymynodd efe, y rhai ymddengys megis ped fuassent wedi eu dirymmu er ys llawer o amser, yn eu plith hwy yn ôl dyfod o Isai, (canys felly galwant Jesu) yn ol yr hwn ymhonnent gymmeryd ou Mahomet hwy y lle, a therfynu o holl Brophwydoliaethau eraill y gyd.
Brawychwyd yr Juddewon yn ddirfawr a dull yr Holiadau hyn, ac yn ammheûs pa beth a allai eu bwriadau hefyd hwn arwyddoccâu attebasant yr ymherawdwr; O herwydd Crîst, ni chredent hwy ynddo, eithr disgwyl o honynt am Fessiah ou heiddo eu hunain i ddyfod, yr hwn trwy ei ryfeddol allu au gwaredai hwynt rhag eu gorthrymwyr, a darostwng yr holl Fŷd i ufuddhau iddo.
Ar yr atteb yma y Sephi ymddangosodd ei hun yn llidiog jawn; Pa beth? ebr efe, ai nid ydych yn credu Crist, am yr hwn i mae 'r Alcoran ei hun y gwneuthur coffadwriaeth anrhydeddus. Mal i'r oedd efe yn yspryd Duw a iddanfonwyd attom oddiwrtho ef, ac a ddychwelodd yn ôl atto ef. Os credwn ni ef, pam nas credech chwi pa 'r beth a ddywedwch eich hunain, gresynolion digred? A'r ymsynnedig Juddewon yn deall fod yr ymherawdwr yn llidio yn ddiattreg syrthiasant i lawr ar eu hwynebai, gan ymbil arno yn ostyngedig trugarhau ar eu gaeth weision, rhai a gyfaddefant eu hunain yn llwyr anheilwng i ymddaddan ai Fawrhydi ef, ao o herwydd y Cristnogion, i'r oeddent yn eu tŷb hwy yn llwyr Eulyn addolwyr; Pobl nas addolent Dduw, ond drygddyn croeshoeliedig, a thwyllwr: Yr hyn ymhellach a anfodlonodd y Sophi yn fwy; gan nas gallai ymmhellach oddeu iddynt gablu Dŷn, yr hwn yr oedd gan eu Alcoran Anrhydedd mawr: Pa fodd bynnag tros yr amser hwnnw efe a ddirgelodd ei lîd, o'r goreu, ebr ef, os nid ydycn yn Credu Duw 'r Cristnogion: Eithr llefarwch, pa beth yw 'ch tŷb chwi am ein Prophwyd mawr Mahomet? Yr ymofyniad hwn ai synnodd hwy [...]t, heb roddi dim eiddigedd na dryg dyb ir Estroniaid eraill y rhai a farchnattent yn ei wlâd ef, o amryw Grefydd, Eithr y rhai ar nad oeddent yn y lleia yn Euog oi anfodlonrwydd ef.
Yn ôl hir ennyd, ac ymddiddan dirgel ymhlith eu gilydd, [Page 158] fe gydgordiwyd o'r diwedd rhyngddynt. Er ymwadu o honynt Grist, etto nis dywedent ddim yn bennodol yn erbyn Mahomet: O herwydd hynny, lletarasant wrth yr Ymherawdwr, er gwahardd eu Crefydd hwy i gredu un Brophwyd ond Moysen, Etto nis cyfrifent Mahomet yn gau Prophwyd, O herwydd i fôd e [...]e yn dyfod o Ismael Fâb Abraham. Ac eu bod hwy yn dymuno fôd yn weision gostyngedig iw Fawr hydi ef, Ac yn erfyn ei Drugaredd ef arnynt.
A'r Sophi yn deall yn hawdd eu cyfrwysdra au hystrywiau ymocholiad hwy, a ddywedodd wrthynt; na wasanaethai hyn mo'u tro hwynt: A'i bôd hwy yn Bobl o Afreoius amcanion, a than liw o ddisgwyl, eu hir ymaros Fessiah, yn parhâu yn eu gau Grefydd, ac yn ymattal eu hunain rhag troi i'r wîr Grefydd; Ac o herwydd hynny ymgeisiodd ganddynt ossod amser pennodol, pa bryd yr ymddangosai eu Messiah; Canys ni achlesai efe mo honynt yn hwy, y rhai a dwyllasant y Bŷd, ac a siommasant ei Bobl ef er ys cŷd o amser; Eithr hefyd gan siccrhau iddynt, maddeu o hono iddynt, ac yr ymddyffynnai hwynt, tros yr amser a bennodent hwy, os hwy ni ymegnient i siommi ef ai annilus oediad, eithr pennodi o honynt yn ddilys y flwyddyn oi ddyfodiad ef: Ac os yn ol hynny ni ymddengys yn y flwyddyn a bennodasent, Meibion Marwolaeth a fyddent, ac y [...]caent naill au gwadu 'u Ffŷdd, neu yn ddiau gael eu difethu, au meddiant yn fforffet.
Er synnu o'r Juddewon yn anfeidrol a'i annisgwyledig erfyniad yma, a meddylfryd y Sophi: Yn ôl ail ymgynghori ymhlith eu gilydd, (yr hyd a ganiattâodd yr Ymerawdwr) bwriadasant roddi 'r Atteb hwn, yn ôl eu Llyfrau au Prophwydoliaethau, byddai i'r Messiah ymddangos yn ddisiom, tu fewn i drigain a deng mlynedd; Yn ddoeth jawn yn credu, mal y tybygent i gyd yn feirw cyn 'r amser hynny; A byddai yn y cyfamser amryw gyf [...]ewidiadau i ddamwein [...]o, Anghofio hyn i gyd, neu ddibystyrid; Ac ar y gwaethaf gwrthdroir y farn o Swm fawr o Arian: Eithr ir oedd yn anghenrhaid addaw rhyw beth er bodloni ei ymchwant persennol ef.
Yr Ymherawdwr a dderbynnodd, eu hatteb hwynt, ac ai fynnodd ei scrifennu lawr ar frys, mewn dull Cyfammod [Page 159] rhyngddynt; Ac os ni byddai hanes am eu Messiah tu fewn i'r deng mlynedd a thrigain pennodedig, (at yr [...]yn, trwy ei Ras ef chawanegodd bum mlynedd yno byddai iddynt naill a throi yn Eahometiaid, neu eu holl genedl gaei tu llwyr ddiretha trwy holl Bersia, ad meddiant i gyd yn Anrhaith: Eithr a'r geiriau hyn hefyd yn y Cyfammod scrife [...]asau od ymddengys eu Messiah, tu fawn yr amser pennodedig, yno 'r ymherawdwr ei hun a ymrwymid i droi 'n Juddew, a gwneathur o hono ei holl Ddeiliaid droi gydag ef: A hyn yn 'scrifennedig (mai y dywedsom) mewn dull Rhwym weithred, a nodwyd ac y seliwyd ar bob ochor ganddynt, a'r Juddewon a ollyngwyd ymaith tros y tro hynny; er hynny, cawsant tafu or fann Pe [...]a ddwy Fyrddiw [...] o Am, (mal y gwiriai f' Awdwr) am y Gymmwynas oi hir ymod [...]ef
Er amser yr Amherawdwr hwn Abas, i'r presennol Sophy yn awr yn Teyrnasu, nid yn unig ddeng mlynedd a thrigain aeth heibio, Eithr pum ugain a phymtheg mlynedd addarfuant, yn yr host amser hynny gormesid y Persiad gan y Twrciaid felly, a Rhyfel gwastadol yn y ddwyrain India mal nas meddyliau 'r Tywysogion canlynol am y cyttundeb a'r Cyfammod a wnaethai eu Henafiaid, hyd oni trwy ryfeddol ddamwain yn Nheyrnasiad yr ail Abas, fôd yr hwn sydd yn Rheol i' yr wân, Gwr manol hyd yr eithaf am Henadwriaethau. Ac efe yn chwilio un diwrnod ymmysg scrisennadau ei Lŷs, cafodd afel yn hon ynghôf Lyfr ei Dad a Phenaethiaid yr Juddewon, yn Enw eu holl Genedl.
Ar hyn gwfiodd y Sophy ar frŷs Gymmanfa i ymgynghori, ac oso [...]odd y Rhwym scrifen ger eu bron, gan ddymuned eu Cynghor, pa 'r beth a wneid, Ac yn hytrach, canys dechreuwyd yr amser ymma sibrwdo yn aml, a llythyrau rai a scrife [...]nasid attynt oddiwrth Farsiandwyr o Twrci, ynghylch cynnwr [...]a wnaerhai rhyw Ddyn yr hwn oedd yn cymmeryd arno mai 'r Messiah oedd efe, A Sabatai enwog oedd hwnnw. A hyn a bwysodd felly gyda 'r Ymherawdwr ai Gynghor, mal yn un lais, ac heb h [...]mdden ymhellach, bwriadasant ar frŷs ar ddinistrio yr Juddewon, ac nas gellid goddeu y cyfryw ddrygionus Genedl o Hwdolyddion a Gorthrymwyr ei Bobl yn hwy ar Dddaiar.
[Page 160]Mewn goddeu i'r ymroad ymma Cyhoeddiad a roddwy [...] allan i'r Bobl, ac i'r holl Estroniaid a Thrigohon yn eu plith hwy, gan roddi Awdurdod iddynt i osod ar frys ar yr holl Juddewon yn Nheyrnas Persia a sladd a mîn y Cleddyf, Wŷr, Gwragedd a Phlant, ond y cyfryw ac y droent ar frŷs i Grefydd Mahomet: Ae a dalid eu cyfoeth au meddiant yn anrhaith heb drueni na thosturi.
Y Gwaedlyd a'r creulon Ruthr hwn a wnaed yn ganlynol, yn gyntaf yn Ispahan, ac ar frŷs yn ol hynny yn yr hofl Ddinasoedd a Threfydd Persia. Dedwydd oedd y Dŷn a ddiangai rhag cynddeiriogrwydd y Bobl ynfydiog, y rhai trwy rym y Farn gyhoeddus seliedig ar y cyttundeb a hyspyswyd ychod, ac ynawr au hannogafid yn fwy trwy ddifniad eu gau Fessiah, ni ddangosant ddim to [...]turi iddynt. Ond eu llâdd au Hanrheithio, pa le bynnag ac y caent afel mewn Juddew trwy eu holl wledydd helaeth; Gan syrthio ar yr Anrhaith a pharhau y lladdafa, hyd oni lwyr ddinistrwyd hwynt; Ac nis attaliwyd yr ymlid tros amryw o flynyddoedd, gan ddechreu o hono yn y flwyddyn, 63. a pharhau hyd. 66. Yn Isaphan; y Dinasoedd ar Addaloedd Seira, Chelan, Humadan, Ardon, Tauris, ac yn fyrr, trwy 'r holl ymherodreth heb arbed na rhyw nac oedran; Ond yn unig cyfryw (mal y dywedwyd) ac y drôent yn Fahumediaid neu ddiangent trwy 'r Anialwch i Dwrci, India, ac Ardaloedd pêll eraill, a hynny heb obaith yn y bŷd o adsefydlu eu hunan byth yn ol llaw ym Mhersia. O herwydd digasedd y Bobl hynny oedd greulon ac anheddychol yn eu herbyn. Ac yn wir y weithred ddiweddar a'r Erthyliad eu gau Fessiah ai gwnaeth hwynt yn llwyr ddibris trwy 'r Bŷd, fal nid oes dim ond cyndynrwydd dynghedfol, ac amlwg a barnol felldith o'r Nêf a allai eu sefydlu hwynt yn y rhyfeddol ddallineb, o'r hwn etto, bydded i r Arglwydd ryw ddiwrnod oi anfeidrol Drugaredd eu gwared hwynt, mal y gallent o'r diwedd, gan fod a chredu ynddo ef, rhwn y a wnassant; Fal y byddo i'r Juddewon yn gystal a'r cenedloedd wneuthur un Ddiadell tan un Bugail ac Escob ein Heneidiau Jesu Grist, y gwir Fessiah. Amen.
Helynt yr Juddewon yn Lloegr yn y Flwyddyn 1655.
YN y Flwyddyn 1655. yn amser y Gwrthryfelwr Oliver Cromwell, pan oedd ef yn Gwrthreoli 'r Tair Teyrnas, Manasseh Ben Israel, yr athraw Ardderchog ymmhlith yr Juddewon a Soniwyd am dano o'r blaen, a ddaeth yn Gennadwr o Holand i wneud ei orau ar gael Cennad i Adblanu 'r Juddewon yn Lloegr, ac a wnaeth y cynnygion canlynol i'r Gwrthryfelwr, am ba un [fe ddywedyd yr amser hwnnw] iddynt gynn yg Dau Canmil o Bunnau.
1. Gael o Genedl yr Juddewon eu derbyn yma, au hymddiffyn rhag pob cam yn gystal a'r Saeson eu hunain. 2. Cael o honynt Synagogau Cyhoeddus yn Lloegr, i gynnal eu Crefydd fel y dylaent. 3. Gael o honynt Le Claddu allan o'r Dre, heb neb rhyw rwystr iddynt ynghylch eu Cladde [...]igaethau. 4. Fod iddynt gael yr un rhydd-did yr eu masnach au Marchnadyddiaeth ym mhob math fel Dieithriaid Eraill. 5. Fely gallo eu Dyfodiad trosodd fod er Budd i'r Deyrnas, ac heb anfoddhau nêb. Fod ir Gwrthryfelwr Raddio rhyw wr enwog i dderbyn eu Llythyrau Diogelwch i fyned a dyfod, ac i Gymmeryd eu Llw o ufudd-dod iddo ef, 6. I attal Trallod na Rhwystr i'n Barnwyr ac eraill, fod i Fatterion o ymrafael ac anghydfod ymmhlith yr Juddewon gael eu Barnu, au Terfynu gan Bendod eu Synagogau ac eraill o honynt yn ei plith eu hunain. 7. I Ddiddymmu Gyfreithiau a wnaethyd yn erbyn yr Juddewon (os oedd dim or fath) er mwyn cadarnhau eu Diogelwch.
Pan ddarllenwyd y Cynnygion hyn, y Gwrthryfelwr a ddywedodd, od oedd fwy wedi 'i gymmell yn y Cynnygion nag oedd gymmhessur iw Ganiattau; Mai dyna 'r amser iw ystyriaid. 1. Pa un y wnae ai bod yn Gyfreithlon ai peidio dderbyn yr Juddewon. 2 Od oedd yn Gyfreithlon, ar ba Ammodau oedd gyfaddas eu cynwys au derbyn: Ar hynny efe a ddefynnodd neu a wysiodd amryw Ddifinydion, Cyfreithwyr [Page 162] a Marsiandwyr; I ddisgwyl arno ef ai Ddirgel Gyngor ac i Gyhoeddi eu Tŷb a'i meddwl yn y peth.
Y Pregethwyr a ddarfu i'r Swyddogion Anfon Llythyrau attynt i ymgyfarfod, oedd Dr. Tuckney, Dr. Whitcoot, Mr. Newcomen, Dr. Wilkison, Mr. Row, Mr. Phil. Nye. Mr. Carter, Mr, Caryl, Mr Cudworth, Mr. Bridge. Mr. [...]en. o Dorchester, Mr T. Goodwin, Mr. Jessey, Mr. Dyke o Essex, Y Cyfre thwyr oedd Arglwydd Brif ynad Glynn. ar Arglwydd Prif Farwn Steel. Marsiandwyr Llundain Henadur [...]eth [...]k, Arglwydd a Phen Llywodraethwyr Llundain, Hennadur Pa [...]k Y Ddau Uchelfaer, Henadur, Tickburn Mr. Cresset a Mr. Kiffin neu K [...]ffin.
Rhai or rheiny a haerodd i fod o yn beth iw arswydo, os Dychwelent, y camdywysyd ac yr budyd llawer ganddynt, ac er eu bod hwy 'n difrifol ddymuned Troedigaeth yr Juddewon, etto 'r oedd mawr Achosion i ofni y gallai ef ddigwydd yn dramgwydd i lawer yma, O herwydd fod Pobl yn y Ddyddiau hynny yn rhy hawdd eu droi o'r naill dui gau Opiniwnau newyddion.
I hyn yr Arglwydd Lawrence, ar Penllywydd Lambert, a wrthattebasant fod Pobl yn y Ddyddiau hyn, yn cael eu harwain i Amgenach Gwybodaeth, tueddiadau eglurach o Grist a'r Efengyl. Ond o'r tu arall nad oeddynt debygol i gymmeryd i fynu 'r Grefydd Juddewaidd a gwadu Christ ar Efengyl, a hwythau heb ddim yn eu Gwasanaeth cyffredin ac oedd lithiedig i'w gwahodd hwy i'w Haddollaeth, eithr yn fwy tebyccach ei wa [...]th neu wradwydd.
Mr. Mat. Newcomen, o Essecs a ymresymmodd, fod Offrymmu Aberthu plant i Moloch, ac Eulunaddoliaeth, a debygid na byddai [...] i ho [...]i etto yn hyn i gyd, ni allwn Ddarllain pa fodd yr ymgofleidiodd yr Juddewon y Pechod hwnnw. A rhyw debygoliaethau naill yn ddiweddar a hyrddwyd i mewn, er bod Christnogion pwyllig yn ei barnu 'n beth annuwiol Anghenfiliaidd; ac er hynny a gyd fe gafwyd Go [...]modedd o Ddilynwyr a Derbynwyr y rhei'ny.
Rhai a Farnodd gan fod yr Juddewon ai swydd Bendant ym Marsiandiaeth, ac nid mewn Hwsmonaeth, neu Brynu Tai a Thiroedd▪ y [...]asnach fawr y ddae ganddynt i mewn a alla [...] fod yn Achosion i ostwng y Farchnad ar bob Cyffiriau achelfi [Page 163] a ddae oddi tros y Moroedd, a chodi i fynu brisiau 'n Marchnadyddiaeth ninnau a ddanfonem trosodd i wledydd Dieithr, a hefyd a allai fod yn foddion Effeithiol iw troi hwy i'r Grefydd Gristnogol.
Yr Arglwydd Prif Farwn Steel, a roddodd gyfri helaeth o Hen Hanesion a Choffadwriaethau am Gyflwr yr Juddewon gynt yn Lloegr, au tost Ddiodd [...]faint yma yn amser Cwflenyn Fawr, a rhai brenhinoedd o flaen y Goresgynniad, Hefyd i William Oresgynwr ddyfod a rhai o honynt o Roan yn Normandi i Loegr, au Hiliogaeth yn Preswylio 'n 'Llundaim â P [...]rif Ddinasoedd eraill, a gyhuddwyd ar Gam arnynt (meddant Hwy) eu bod yn Arfere [...]ig o Ladratta Plant Gwryfaid Christnogion oddiar eu Rhieni au Cymmydogion, y rhai a Enwaedant arnynt, eu Coroni a Drain Fflangellu, Cy [...]uddio, au Croeshoelio er gwarth. A Gwradwydd i'n Harglwydd ni Jesu Grist, y cyfryw Hanesion a fu 'n aml Achosion o fawr niwa [...]d a thrallod i syrthio arnynt, fol y mae 'r byrr Hanes Canlynol yn gw [...]rio 'r peth.
William Rufus Ragder [...]y [...]odd neu Appwyntiodd Ddadlwriaeth neu Gynnad [...]iw chadw yn Llundain, rhwng y Christnogion ar Juddewon; Eithr cyn dyfod o'r Dydd Cyfarfod, yr Juddewon a Anrhegasant y Brenhin a rhyw berheu Gw [...]rthfawr▪ i'r diben y b [...]dai iddynt gael eu Gwran [...]o yn ddinuedd. Y Brenhin a dderbyniodd eu Hanrheg, gan eu cefnogi hwy a pheri iddynt eu hyn [...] cyn eu [...] fel Gwyr, Can Dyngu mynn Wyneb St. Luc. (yr hwr. oedd ei gyne [...]in Lw) os hwyntwy a Orchfygai yn y Ddadiwrnaeth, y rroe ef ei hunan i fod yn uddew, o'r un Grefydd a 'n hwythau, yn y cyfamser hwnnw yr Gwr Jeuaingc newydd droi i'r Grefydd Gristnogol, ai Dâd o [...]dd yn [...] jawn i'r peth, a Anrhego dy [...]re [...]hin a 60 Marc, Gan dde [...]yfu arno annog ac ei [...]ol ei Fâb i Ddychwedyd i'r Grefydd Judd ewaidd, ar hynny y Brenhin a Ddanfo [...]odd am ei Fâb ac a Orchymmy [...]od iddo ei Ddychwelyd yn ddinag i Grefydd eu Wlâd a'i Genedl. Eithr y Gwr Jeu [...]gc a a [...]tebodd, fod yn rhyfedd ganddo ef iw Fawrhydi roi 'r cyfryw [...]riau atto ef, Y dy [...]asai e' [...] amgenachi Annog ei i Gristianowgrwydd. A cyfryw atteb y wnaeth y Brenhin yn y fath A [...] rhefn, [Page 164] ac a Orchymmynodd y Gwr Jeuaingc o'i wydd. A phan gydnabu Tâd y Llangc nad allai 'r Brenhin wneud dim dajoniuag at Ddychweliad ei Fâb, fe ddymunodd gael ei Arian yn ôl Draehefn; Nage (Ebr y Brenhin) mi a gymmerais ddigon o boen oddiwrtho, ac etto di a gei weled fy mod i yn deg wrthiti, chwi a gewch y naill hanner, ac nideilwch chwi'n gydwybodol fyngommedd i o'r hanner arall, ac felly ymadawsant.
Yn y Flwyddyn 1235 y 19 o Harri y Trydydd, Saith o Juddewon a ddyged gerbron y Brenhin i Westminister, y rhai a brofwyd arnynt Ladratta Bachgen, ac ai cadwasant Flwyddyn yn ddirgel heb wybod i neb ond eu Cenedl eu hunain, ac a Enwaedasant arno, gan Amcanu ei Groeshoelio ef hefyd ar wyl y Pasc; ac or achos eu cyrph a'i holl Eiddo, oedd at Ewyllys y Brenhin. Yn y 39 Flwyddyn o Deyrnasiad y Brenhin hwnnw, Tachwedd 22 Dydd. Fe ddygwyd 102 o'r Juddewon o Lincoln i Westminister ac au cyhuddwyd yno am Groeshoelio Bachgen wyth Mlwydd Oed a ewyd Hugh, Yr Juddewon hynny yn ôl eu Holi, a ddanfonwyd i Dŵr Llundain, 18 a Grogwyd o honynt, ar lleill a drigodd yn hir yn y Carchar.
Yn Nheyrnasiad Harri yr ail, yr oedd nifer mawr o'r Juddewon trwy holl Wlâd Lloegr; Etto ym mha le bynnag y trigent yr oeddent yn rhwymedig i ddwyn yr holl Gyrph meirw iw Claddu i Lundain, yr hyn oedd anghyfleustra mawr weithiau i rai oedd yn byw ymmhell iawn oddiyno. Y Brenhin a ganiattaodd iddynt gladdu eu meirw yn y lleoedd lle ir oeddynt yn byw. Yn y Flwyddyn 1189. Ar Goroniad Brenhin Ri [...]hard y Cyntaf yn Westminister, yn y Cyfamser y digwyddodd Trychineb mawr ar yr Juddewon, nid oedd y Brenhin yn eu Caru hwy fel y gwnaethai ei Dâd, efe a roddodd allan Orchymmyn Sarrug, na byddai i neb o'r Juddewon fod yn gydrychiol na bod yn Bressennol yn edrych ar ei Goroni ef; er hynny llawer o'r Juddewon a ymhyrddodd i mewn [...] ar Swyddogion gan ufuddhau i Orchymyn y Brenhin yn eu rhwystro, ac or achos efe a gododd Cythryfwl rhwng y ddwyblaid, o Eiriau i Ddyrnodiau, hyd oni Anafwyd llawer or Juddewon, ac eraill a laddwyd o honynt, ar [Page 165] Gair aeth allan o amgylch mo'r sydyn i'r Brenhin Orchymmyn Distrywio 'r holl Juddewon; Ar ba un y mae 'n Anhygoel ganlyn y fath Anrheithio yn ddiymarbed ar Dai 'r Juddewon, gan dori gwythi eu Gwaed: Ac er ir Brenin Arwyddoccau trwy amryw yspysol Gyhoeddiadau, ei fod ef yn Anfodlonus dros ben i'r peth y wnaethpwyd; Etto nid allent lonyddu 'r lliaws hyd y Dydd dranoeth; Ac amryw o'r Terfysg wyr a dderbyniodd eu haeddedigol Gospedigaeth Cyfreithlon yn ôl hynny.
Yn Nhernasiad y Brenhin John 1202. Casgliadau mawr o Arian a ofynned gan yr Juddewon, ymmhlith pa rai yr oedd un yngommedd Talu 'rhyn yr oeddid yn i geisio ganddo, hyd oni wnaeth y Brenhin dynnu un o'i Gilddannedd ef bob Dydd tros saith niwrnod ynghyd; O'r diwedd gorfu iddo ymadael a Deng mil o Forciau yn Arian i'r Brenhin, fel na thynnid dim amgenach o'i Ddanedd ef, ac yntau heb fod ganddo ond un wedi Adael yn ei ben.
Brenhin Harri 'r Trydydd wrth fod yn wastraffus a ddygasid yn dra isel eisiau Arian, hyd oni orfu arno fenthyccio, i. e. agos Gardotta ymmysg ei Ddeiliaid, Eithr yr Juddewon yr rhai oedd bob amser yn rhwymedig i ymostwng iw Ewyllys, a deimlodd bwys ei Angenrheidiau. Ac un Abraham Juddew yn Llundain yr hwn a gafwyd yn Droseddwr a orfu iddo roddi 730 Morc am ei ryddhad ei hun. Ac Aaron Juddew arall a Dystioliaethodd i'r Brenhin gymmeryd oddiarno ef wedi dyfod adre o Ffraingc ar amryw weithiau 30000 Morc yn Heblyw 100 Morc i'r Frenhines. Ar amser arall y Brenhin Harri hwnnw a wasgodd rifedi Bridwerth mawr o Arian o'r Juddewon, efe au Gwystlodd hwy hefyd iw Frawd Richard am Rifedi mawr o Arian, yr hwn adalodd ei Frawd iddo, ac yr oedd ynteu i fynnu yr maint a wele fe 'n dda yn ychwaneg oddiarnynt. Efe a Adailadodd Eglwys ir Juddewon a ddychwelai yn Llundain, fe a ddigwyddodd ynghylch yr amser hwnnw, i Juddew Syrthio i fewn Cachdy ar Ddŷdd Sadwrn, ac ni fynnai ei neb i gymmeryd ollan y diwrnod hwnnw oherwydd ei fod yn Ddŷdd Sabbath yr Juddewon, Ar hynny Duwc Caerloyw a roddodd Orchymm yn na chymmeryd mono ef allan ar Ddŷdd Sul, o [Page 166] herwydd mai 'r Dydd Sabbath Christnogol oedd, ac ar Ddydd Llun y Bore, fe ai cymmerwyd ef allan yn tarw.
Yn seithfed Flwyddyn o Deyr [...]asiad Edward y Cynta', yr Juddewon yn Northampton, a achwynwyd arnynt am Groeshoelio Bachgen o Gristion ar Ddydd Gwener y Croglith, ac heb ei ladd e'n gwbi, am ba weithred llawer or Juddewon yn Llundain, Ac ol y Pasc a lusgwyd wrth Glorennau Ceffyl [...]u ac a Grogwyd Yn yr un Flwyddyn, y Bre [...]hin Edward a alwodd i mewn yr holl bên Arian, iw Bathu o newydd, o herwydd eu bod wedi 'u [...]occio a'i gwrthuno 'n A [...]afus gan yr Juddewon, am ba achos fe Ddihenyddiwyd 297 o honynt ar unwaith yn Llundain Ac yn y Ddeunawfed Flwyddyn o'i Deyrnasiad, yr holl Juddewon a Ddeolwyd allan o Llundain a Loegr, yr oedd yr amser hwnnw yn y Deyrnas, o Juddewon fwy na 15000. [...]u holl Eiddo a gymmerwyd yn rhaid y Brenhin, ond yn unig cymmaint ac a ddygai eu Cô [...]t i fynd o'r Deyrnat, A chyn hynny efe a Orc [...]ymmynasaid'r Juddewon wi [...]o rhyw nodyn hynodol o'r tu allan iw. Dillad, wrth ba un yr Adwae [...]yd hwy ac iw hattal hwy i gymmeryd Llog Anghymmedrol, fe Ddihenyddiwyd amryw o honynt yn Stamfford a Lleoedd eraill yn Lloegr
Y ddau Yna [...] Glynn a Steel a ddywedodd, nad oedd un Gyfraith i attal yr Juddewon rhag Dychwelyd i Lloegr; Ac am hynny yn sefyll arnynt y galle [...]t hwy ddyfod trwy Ammodau a Chyttu [...]deb, ac a allid ar y cy [...]ta' eu cynnwys heb fawr ddal sul [...] arnynt, yr hyn a ellid drachefn i lu [...]dias os digwyddai dim Anghym messar ac y dy [...]d cymmeryd gofal arbe [...]nig rhag iddynt Gablu ein Harglwydd Jesu Grist, Addoll 'r Gyfraith, a chamdywys eraill o'r Ffydd.
Mr. Nye, a Mr. T. Goodwi [...] oedd o'r meddwl hwn, fod, Achosion tra siccr o'r Scrythyr Lân with ddal sulw arnynt fod yn ddy [...]edus arnom ymroi iw Dymuniad, wrth ystyriaid y Fod Ewyllys Duw ar i ni ymddwyn ei hunain yn Garedig tuag Ddieithriaid ac eraill mewn Adfyd. 2. Y Dylae fo [...] gofal Ar [...]nnig am yr Juddewon, o herwydd ein bod ni yn [...] iddynt, Rhuf 14.37. Ac yn gyfrannogion o'r [...] yr hyn [...] naturiol o'r [Page 167] Oliwydden. 3. O herwydd ein bod ni 'n Frodyr o'r un [...] Araham, hwy 'n naturiol yn ôl y [...]nawd, A hithau 'n Gredadwy yn ôl yr Yspryd. 4. O [...]d o herwydd ein bod ni yn Credu y bydd i'r Cangennau Naturiol Dychwelyd, ac y bydd hynny er Gogoniant i'r Cenhedloedd, l [...]e i bont y [...] Preswylio i fod yn garedig wrthynt. 5. Mae llawer o'r juddewon y pryd hyn mewn caledfyd ym Mhela [...], Lithuania, Prussia. &c. O achos y Rhyfeloedd yn y Gwledydd hynny; wedi 'u Difeddiannu eu Preswylfeuydd; Gan hynny y mae 'i [...]usen Blynydd [...]wl wedi eu attal a fyddent arferedig o'i dd [...]on i'r Brodyr, yr Juddewon Tlodion, yn Synagog yr [...], yng Nghaersalem; Ac o 700 or Juddewon Tlodion a Gweddwon, fe newynodd uwchlaw 400 o honynt; a [...] Tyrci [...] [...]u herlidiodd hwy 'n greulon. [...]el y mae Llythy [...] o G [...]salem at rai ou ca [...]edigion yn gwirio. 6. Yr [...]uddewo [...] sy 'n byw yn Ffraingc, Spaen, Portugal, Itali, a Spaen Orl [...]ew [...]nol India; Os Juddewon y fyddant wrth ei Pro [...]es, rhaid [...]ddynt wisgo nod o Arwyddoccad o hynny, or achos y m [...]e [...]t yn barod i bob R [...]uthr, Gwatworgerdd, a chreu [...]ondeb. I geisio eu cadw eu hunain rhag hynny, mae l [...]awer yn gorfod cymmeryd arnynt fod yn Babyddion, ac os ymddangosant byth ar ôl hynny fod yn proffessu 'r Grefydd Juddewaidd. mae'nt yn Fforffetio eu holl Eiddo; ac ondodid eu Bywyd hefyd. A rhai o'r rhei'ny a ddarfu attolygu Athraw Man [...]sseh i fod yn Gennadwr trostynt, i ddymuned cael cennad iddynt. Ddy [...]od trossodd i Loegr i fyw a masnach yno; Ac fe allai fod yn gymmeradwy gan Dduw, os dangosid Ewyllys iddy [...]t, cymmhelled ac yr oedd yn Gyfreith [...]on yn hynny o beth.
Mr. Joseph Caryl a ddywedodd i'r ddiben hyn, er bod yr Juddewon y pryd hynny tan Galon galedrwydd, ac yn haeddu o Gospedigaeth etto nyni a ddylem gymmeryd gofal rhag bod yn Achosio [...] ou Calon Galedrwydd ymmhellach neu fod yn Offerynnau i hynny wrth eu Cospi hwy. Fod Bobl orau 'n Lloegr yn credu yn gyffredin yn yr Addewydion a Galwad yr Juddewon Ac yn Gweddio 'n fwy difrifol am hynny na neb arall. I amryw or Protestaniaid y rhai a Erlidwyd yn Nheyrnas [...]a [...] y Frenhi [...]es Mari, a chwedi a gadd eu derbyn yn garedig gan Ddieithriaid mewn Gwledydd eraill; Gan [Page 168] hynny ni ddylaem ninnau dosturio ac Achlesu y Dieithriaid Alltud, yn Enwedig. yr Juddewon Erlidiedig. Fod y creulon ddirdra a'r Annaturiolwch a ddangoswyd tuag at y Genedl honno; (y rhai ni ymwthiasant eu hunain eu mewn,) eithr a wahoddwyd gan ein Brenhinoedd a'n Llywodraethwyr; lle y lladdwyd ac y Boddwyd lliaws o honynt, yn y Thames ac ar y Mor, &c. hyn a eill orwedd yn bechod ar y Teyrnasoedd hyn, Eithr ein Caredigrwydd iw Dilynwyr au Heppil, a eill wneud rhyw fath ar gyflawniad a diwygiad am Esceulustra ein Rhieni.
Eithr y Marsiandwyr y safodd yn eu herbyn hyd eitha 'u Hawdurdod, Gan ddal os yr Juddewon a gae'nt eu Cynhwysiad felly, Hwy a Gyfoethogent Drigolion Gwledydd dieithr, ac a Dylodent Frodorion y wlâd yr hyn oedd un achos o rwystr eu Dyfodiad
A chwedi clywaid o Gromwel y Gwrthryfelwr eu holl ymmadroddion ar yr Achosion hynny, efe gyhoeddodd, Nad oedd ar no ef ddim Rhw [...]mediga [...]th i'r Juddewon yn ei ddal; A chan fod Addewyddion o'u Troedigaeth, rhaid oedd arfer y moddion i'r [...]en hwnnw, sef Pregethiad yr Efengyl; Ac nid oedd hynny iw gael, oddigerth iddynt hwy gael eu Cynnwys i Wladych [...]lle 'r oedd Pregethiad yr Efengyl. Fod eu Obaith trwy'r cyfryw Pregethwyr gael mwy eglurhâad ar yr Achosion, ymmherthyna [...] [...]y [...]ybod; Gan weled na Chyttunodd y rhain ddim, a [...] bod A [...]fael [...]ŷb, Fe adawyd y peth yn fwy Ammheus iddo ef ai [...]y [...]ger, nag o'r blaen: Ac yr oedd e'n Gobeithio na wnae e' ddim yn fyrrbwyll nag yn ddigyngor. Ac yr oeddyn An [...]enrheidiol gael eu Gweddiau at yr Arglwydd, ar iddo ef eu Hyfforddio hwy ir peth a fyddai iw Ogoniant ef, a Dajoni 'r Deyrnas.
Felly 'r Gymmanfa fechan honno yn ôl iddynt gydymgyfarfôd tros 14 Diwrnod ynghyd, a ollyngwyd ymaith; ac amryw o'r Marsiandwyr Juddewig a ddaeth o Wledydd pell mewn Gobaith au sefydlu eu hunain yma, pan gydnabuant eu bod gwedi eu siommi y rhai a ddychwelasant yn alaethus yn ol drachefn, ac ni adfywiwyd byth drachefn amcanion yr Juddewon yn hynny o beth.
Epistol y Brenhin Agbarus at ein Jachawdwr Jesu Grist, gydag Atteb ein Jachawdwr.
NI ŵn i pa fôdd i gyflawni y gwâg ddail canlynol yn wĉll na chan ychwanegu o honof ymadrodd hynod hyspysedig gan yr enwog Hanesydd Eusebius, yn ei Lyfr cyntaf o' Eglwysol Histori, yr hon a ganlyn yn y Geiriau yma.
Yn ôl gwneuthur o Dduwdod ein Harglwydd a'n Jachawdwr Jesu Grîst yn amlwg i bôb Dŷn, trwy weithredu gwrthiau tynnodd atto Liaws aneirif o Estroniaid y rhai a breswylient ymhell oddiwrth Iudea, ac y flinwyd gan amryw o Glefydon a doluriau, mewn gobaith adnewyddu o honynt eu Jechyd trwyddo ef: Ymhlith y nifer yma y Brenin Agbarus llywydd y Cenedloedd enwog yn preswylio tu hwnt i'r Afon Euphrates, yn flinedig an hwylus yn ei Gorph, ac y farnid yn aniachol trwy gelfyddyd dynion, ac yn clywed Ogoneddus glôd Jesu, a'r Gweithredodd Rhyfeddol a wnaeth efe ymhob lle, efe erfyniodd trwy Lythyrau gan ymbil arno yn ostyngedig ymwared oddiwrth ei Glefyd. Ar Jesu (nid ar frŷs) yn ufuddhau iw erfyniad ef, a Ddilyngodd iw Atteb ef trwy Epistol, y byddai iddo ef ar fyrr amser yrry un oi Deisgyblion yr hwn ai jachau ef oi Glefyd, ac nid yn unig ei glefyd ef, Eithr pob un oi heiddo yr hyn a gyflawnodd efe mewn byrr amser. Canys yn ol ei Adgyfodiad oddiwrth y Meirw, ai Escyniad i'r Nefoedd, Thomas un o'r dauddeg Apostol a yrrodd ei frawd Thaddeus, yr hwn a gyfrifid ymhlith y deng Niscybl a thrigain trwy ysprydoliaeth, i Ddinas Edessa, i fod yn Bregethwr ac Efangylwr o Athrawiaeth Crîst, trwy 'r hwn y cyflawnwyd pob beth a berthynent i Addwid ein Jachawdwr, ac a siccrhau hyn ymmhellach y Llythyrau eu hunain a scrifenwyd ynghof Lyfrau Tywysogol Ddinas Edessa, a yn rholiedig ymmhysg Gof Lyfrau yno gyda ac Henadwriaethau eraill, a [Page 170] weithredwyd yn amser Brenin Agharus, ac ddiogelwyd hyd y dydd heddyw; Ac ni wn ni Reswm yn y byd, pa nam nas rhoddem i chwi y Llythyrau eu hunain, megis ac y scrifennwyd hwy allan o'r Cof Lyfrau au Cyfieithu genin o'r Jaith Syriaeg.
Llythyr Brenhin Agbarus at ein Jachawdwr.
AGbarus Llywydd Edessa at Jesu ein Jachawdwr [...] yn ymddangos ei hùn Yng=Haersalem yn danfon Annerch. clywai [...] am danat ac am y ymwared ar Jachaad a wnaethost, heb Feddeginiaethau a llysieiau, Canys y Gair sydd allan, gwnaethost ir deillion weled, i'r cloffion gerdded glanhae y G [...]n [...]glwyfus, bwra [...]st alla [...] ysprydion drwg a'r diawlaid, i'r hir anwylus adferaist eu cyflawn je [...]ny [...], ac adgyfodaist y meirw i fywyd, pan y clywswn yr hanes ryfeddol hwn am danat, bwriadais yn fy Meddwl, un o'r ddau beth yma, ar Dy fod ti naill ai yn Dduw yn Dyfod o'r Nefoedd, i gyflawni y pethau hyn, neu yn Fab Duw, yr hwn fydd yn peri y pethau, ddigwyddo. O herwydd pa hain, yr ydwyf yn ymbil trwy 'r Llythyrau hyn ar i ti gymmeryd y blinder arnat i ddyf [...]d allaf, ac im jachau am clefyd poenus, yr hwn sydd yn i'm gofidio yn dôst iawn. Clywais hefyd gwryg [...]ach o'r Iddewon yn dy erfyn di; gan chwenychu dy ladd, y mab yma gennif Ddinas fechan, ac Onest, yr hon a'n bodlona ni ein diwedd.
Atteb ein Jachawdwr i Agbarus.
BEndigedig wyt ti Agbarus, o herwydd credu o honot yno fi, pan ni welaist mo honof, canys scrifennwyd am danafi, na chred rhai a'm gwelant ynnosi, a rhai na'n gwelant, allant gredu â bod yn gadwedig; Herwydd y peth a scrifcnaist at a fi, ar ini neges iw cael eu [Page 171] cyflawni yma, ac yn ôl cyflawni ohonynt, bydd i mi ddymchwelyd yn ôl drachefn at yr hwn am danfo [...]odd; eithr yn ôl fy Nerchafiad danfonaf un o'm Disgyblion attat, yr hwn a'th ymweryd di o'th glefyd, ac a edfryd [...]ywyd i ti, a'r rheiny a fydd gyd a thi.
Euse [...]ius a siccrhâ gyfieithu o hono y Llythyrau hyn o GofLyfrau Edessa scri [...]enned [...] yn Jaith Syriaeg, yn y rhain yn canlyn, Ar [...] Ju [...]ius yr hwn a elwir. Hefyd yn Thomas, yn ol derchafn o'n Jachawdwr, ddanfon Thaddeus yr Apostol un o'r dêg a thrigain atto ei, yr hwn pan y daethai yno, a ymarosodd gyd ac un Tobias Fab Tobias; pan aeth y Gair allan ar lêd am dano, a gwneuthur o hono ei hun yn gyhoedd trwy 'r Gwrthiau a wnaethai efe, er hyspysrwydd i Agbarus, ddyfod o Thaddeus Apostol yr Jesu, am yr hwn scrifen nasai e [...] yn ei Lythyr. A dechreu o Thaddeus hwn trwy allu Dduw Jachau pôb Clefyd ac anhwyl, nes fynnu yn ddirfawr ar bawb: Ac Agbarus yn clywed y Galluog a rhyreddol Weithredodd a wnaeth efe, a iachau o hono yn Enw a Gallu, yr Jesu a siccrhawyd mai hwn oedd ef, am ba un a scrifenasai 'r Jesu. Gan ddywedyd; yn ôl fy Nesgyniad, danfonaf un o'm disgyblon artat ti, yr hwn a jachâa dy Glefyd. yno danfonodd am Tobias gyddir hwn i'r oedd Thaddeus yn lletty [...]an ddywedyd ymdeirhiodd o rhyw wr gal [...]uoggyd a thi yr hwn a ddaethai o Gaersalem, ac yn jachau llaweroed [...] yn Enw'r Jesu▪ Attebodd Tobias▪ [...]e fy Arglwydd, fe dd [...]eth rhyw wr die [...]thr ac y lettyodd yn sy Nhy, yr hwn a wnaeth lawer o bethau Rhyfeddo [...]: A'r Bre [...]in a Lefarodd, du [...]wch ef yma atta fi. A Thobias yn dychwe [...]yd yn ôl at Thaddeus, a ddyweddodd wrtho, Ag [...]arus y Llywydd a ddanfonodd am da [...]at a [...] orchmynodd i mi dŷ ddwyn di atto ef mal yr [...] ei glefyd ef, Attebodd Thaddeus mi â canys er ei fwyn ef da [...]fonwyd fi yn y modd yma i w [...]thredu yn Allun [...] a Thob [...]s yn cy [...]odi yn [...]ore y dydd nessaf aeth gyd ac ef at Agbarus; [...] i'r oedd ef yn dyfod i mewn ar y cyntedd, wy [...]ebpry [...] Thaddeus ymddangosodd yn Ogoned [...]us iawn i Agbarus [...] ei Benaethiaid, Ar hyn rhoddes y Brenhin gymmaint a ba [...]ch iddo, nes rhyfeddu or holl rai oedd yno canys nis [...] honynt yr Ogoniant ond Agbarus ei hun yn unig, yr [...] [Page 172] ymddadleuodd a Thaddeus, gan ddywedyd, ai ydwyt ti mewn gwirionedd Ddisgybl Jesu Mâb Duw, yr hwn a wnaeth yr addewyd yma i myfi, Danfonaf un o'm Disgyblon, attat ti yr hwn a'th jachâa di o'th glefyd, ac y ddengys fywyd [...]'ti a'th holl eiddo? Attebodd Thaddeus, a herwydd credu o honot yn fawr yn yr Arglwydd Jesu, yr hwn a'm danfonodd, oblegid hynny i danfowyd i attai ti, ac od wyt ti yn parhâu i gredu ynddo, mwynhêi dy ddymunol Ddesyfiad yn ôl dy ffydd; Attebodd, credais ynddo ef môr ddiogel, nes ewyllysio o honof a chlywn ar f' nghalon lwyr distrywio 'r Juddewon, am i Groeshoelio ef, oni buassai i ymherodraeth Rhufain fod yn rhwystyr i'm hancanion, eithr Thaddeus a ddywedodd, cyflawnodd ein Harglwydd Dduw Jesu Grist ewyllys ei Dâd, yn ol terfynu o hono hynny, derchafodd atto ef; Attebodd Agbarus, credais ynddo ef ai Dâd; O herwydd hynny ebr Thaddeus, yn Enw 'r un rhyw Arglwydd Jesu, gosodaf f' nwylaw arnat: Yn ôl gwneuthur o hono hyn, jachâodd efe yn ddidorr o'i glefyd ac ai gwaredodd ef oi holl flinder y rhai ai gofudiai ef yn dôst. Oblegid hyn synodd ar Agbarus, ac megis ac y mynegwyd am Jesu; felly efe a welodd fôd y peth yn wîr, trwy ei ddisgybl ai Apostol Thaddeus. Ar gael o hono ei jachâu heb rinwedd Llyssieuau a meddyginiaethau, ac nid yn unig efe, eithr hefyd Abdus Fâb Abdus yn flinderus gan y Gymalwst, yr hwn gan syrthio wrth draed Thaddeus, yr un wedd jachâwyd llaweroedd oi gyd Ddinasyddion, ac y wnaeth bagad o Ryfeddodau, gan Bregethu Gair Duw.
Yno yr aeth Agbarus rhagddo yn ei ymddadleu ac ef, gan ddywedyd tydi Thaddeus trwy allu Duw a wnaethost y pethau hyn, ac yr ydym ni yn dy fawrygu di, yr ydwyf yn erfyn arnat ti oblegid hynny egluro o hynot i ni Ddyfodiad Jesu; pa 'r fôdd a gwnaed efe yn Ddŷn, a thrwy ba allu a nerth y daeth efe a'r cyfryw bethau, y rhai a glywsom ni, i ddigwyddo; ar y cyfamser yma, ebr Thaddeus, tawaf Sôn, er fy Nanfon i Bregethu 'r Gair, eithr y foru, ymgynull dy bobl ath' Ddinasyddion eu gŷd ynghŷd, ac yno Pregethaf' ac y ddangosaf iddynt Air Duw, ac a heuaf Air y bywyd, ac y ddysgaf iddynt y wedd o'i Ddyfodiad, pa fodd gwnaed efe yn ddŷn, [Page 173] ac am ei gennadwri ef, ac i ba oddeu y danfonwyd ef oddiwrth y Tad, ac am ei Wrthiau ai Ddirgeledigaethau hyspysedig i'r Bŷd, ai allu i beri llawer o bethau i ddigwyddo; hefyd ei Bregethad newydd, ac môr isel, gwael a gystyngedig yr ymddangosai ei hun oddiallan, mal yr ymostyngodd efe ei hun, bu farw ac a orchguddiodd ei dduwdod, pa bethau trymion a addefodd gan 'r Juddewon, mal y croeshoeliwyd ef, ac y Ddescynodd i Uffern, ac y rwygodd y clawdd a'r canol fur, yr hon ni wahanwyd erioed o'r blaen, ac yr adgyfododd y Meirw, rhai a hunasant yn hir o'r blaen, mal y desgynodd ef yn unig, eithr derchafodd ei hun at y Tâd yn gyfeillediga llaweroedd eraill, mal y mae efe yn Eistedd ar ddeheulaw Dduw Tâd yn y Nefoedd, ac yn ddiweddaf, mal y daw efe drachefn gyd a gogoniant a gallu i farnu 'r hyw a'r Meirw.
Pan ddaeth y Boreu, gorchymynnodd Agbarus iw Ddinasyddion ymgynnull i glywed Pregeth Thaddeus, yn ol terfynu o honi, Gorchymmynodd roddi iddo Aur bathedig ac anfathedig, eithr efe ni dderbyniodd ddim ohonynt, gan ddywedyd, yn gymaint ac ymwrthod o hônom a'm heiddo 'n hunain, pa fodd y gallwn dderbyn eiddo rhai eraill.
Y pethau hyn a ddigwyddasant medd Eusebius. yn y drydydd flynedd a deugain, yn ôl Crîst, y rhai a gyfieithwyd Air yngair o'r Jaith Syriaeg, ac welodd a yn llesol eu cyhoeddi.
Epistol St PAUL yr Apostol at y Laodiceaid
1. PAUL Apostol, nid o Ddŷn, na thrwy Ddŷn, eithr trwy Iesu Grist 2. At y Brodyr y rhai Sy'n Laodicea Grâs a thangnheddyf a fyddo i chwi oddiwrth Dduw 'r Tad, ar Arglwydd Iesu Grist,
3. Yr wy'n diolch iti fy Nuw yn fy holl Weddiau, ar i chwi ymgadw yn ddiysgog ynddo ef ai holl weiithredoedd; g [...]n hyde [...]u ar ei Addewydion ef hyd Ddydd y Farn.
4. Na chymmerwch eich cam dwyso gan rai Annheilwng Siaradus, y rhai Sy'n rhodio [Page 174] oddiamgylch [...] geisio 'ch [...] yr Efengyl a [...] ichwi.
5 Oh na bae i'r rhai a [...] wn [...]ethwyd geni fod yn [...] er llesahd Efeng [...] y Gw [...]rionedd, a nod yn ddIwyd mewn Gweithredoe [...]d da i Fywyd tragywyddol.
6 O hyn allan, y mae fy [...]ymau gwedi 'u amlygu, y rh [...] a ddioddfais er mwyn Christ
7 Gan hynny yrwy 'n ll [...]ennychu'n ynghalon, ac yn er gyfri' ef yn Jachydwriaeth.
8. Fod y cyfryw wedi i wneud trwy 'ch Gwedd [...]au, trwy weithrediad yr Yspryd glan pa un bynnag ai trwy Fywyd ai Angau.
9. Canys y mae geni ewyllys, a llawen yw gem Farw Yng Hrist, yr hwn tr [...]y'r 'r un Druga [...]edd a roddo i chwi 'r unrhyw Gariad, ac i fod o'r un meddwl,
10. Gan hynny fyngh [...]redigol Frodyr, fel y clywsoch chwi yn fyngwydd, cedwch hyd y diben yn ofn Duw, felly chwi a gewch Fywyd Tragywyddol, Canys Duw a'i gweithia, ac ai perffeithia ynoch ynddi ymaros.
11. Fyngharedigon Llawenychwch yn yr Arglwydd; gochelwch y rhai sydd au deisyfiadau yn ol budr Elw.
12. Bydded eich Gweddiau yn ddiogel ar Dduw, ac ymgedwch mewn disigl wybodaeth o Grist.
13. Gwnewch y peth sydd addas, Cymmedrol, uniawn a rhesymmol, a'r peth y g [...] soch ac a dderbyniasoch, [...]edwch hynny yn eich calonnau, a chwi a gewch glôd.
14. Grâs ein Harglwydd Jesu Grist, a fyddo gyda chwi.
[...]arnwch Darllenwch yr Ep [...]stol hwn i'r Colossiad, a darllenwch hwnnw sy wedi'i 'scrifennu at y Colosiad.
Yr Epistol hwn o [...]iddo Paul a gafwyd yn y a Bibl hyn [...] a Argraphwyd yn Ninas Worms Ardderchog yn Germanio, Darllen. Col. 4.16. Ac wedi Darllain yr Epistol hwn gyda âch vi [...] perwch ei Ddarllen hefyd yn Eglwys y Laodi [...]aid: A Darllen o honoch chwithai yr un o Laodicea.
Ynghylch Marwolaeth Paul yr Apostol.
AR Apostol Paul wedi ei ddanfon yn Rhwym [...]ig gan Nero at Longinus, a Magistus y [...] ac Acestus y Canwriad, gan [...] i'r Ddinas, i dorri ei Ben; a Phaul yn llawn o'r [...] a Lefarodd eiriau Bywyd Tragwyddo [...] [...] phawb eraill gredu yn Jesu Grist, yr [...] Nêf a Daiar, yr hwn a Anrheithia Ogonia [...] [...] ddygasant hwy ef allan, Longinus, [...] a ddechreuodd ddywedyd wrtho, Dywed i [...] Paul, y [...] m [...]ale y mae y Brenhin hwnnw. ac ym mhale' [...] ymddengys [...] i ni? A pha fodd yr Adwaenoch ef? A pheth a [...]ydd ef i chwi? Pa fudd neu Ddajoni a wna ef chwi Gristnogion, a chwithai yn ei garu ef cymmaint, ac na chydsy [...]ch chwi mewn ffordd yn y Byd a'n Crefydd ni, fel y gal [...]och chwi fyw, a meddiannu lleshad y Bywyd hwn, Eithr yn amgenach na holl lawenydd a hyfrydwch, y dewiswch gael eich arwain i Farwolaeth o'i achos ef, Arteithiau a Thrallodion; Y peth sy 'n ymddangos i ni yn Fai mawr, i gashau Llawenydd y Bywyd hwn, ac ymgôfleidio a'ch holl Ddymuniant, Cospedigaeth, a Marwolaeth? Paul gan hynny a ddywedodd, o chwi wyr Doethion, ac sy 'n blode [...]o mewn Gwybodaeth, Ewch allan o Dywyllwch a chamsyniad, lle y mae holl Ardderchowgrwydd eich Gwybodaeth tan Gwmmylau mewn tywyllwch, rhag i chwi ganfod y Gwirionedd, yr hyn sy 'n llechu 'n guddiedig yn eich Meddyliau, i'r Tragwyddol ar gwir oleuni, fel y galloch chwi'n gynta gydnabod a chwi 'ch hunain, a felly Ddyfod i wybodaeth or Brenhin hwnnw mewn hyfrydwch, a chael eich achub oddiwrth y Tân sy ddyfod i oresgyn y Byd, ac i fod yn ddifriw; Canys nid ym ni 'n Rhyfela fel yr ydych chwi yn tybiaid tros Frenhin Daiarol, eithr y bywiol Dduw, y Deyrnasa heb drangc, na gorphen; yr hwn o herwydd y Drygioni y wneler yn y Bŷd, efe a ddaw ir Farn, ac a Farna trwy Dan; Dedwydd a fŷdd y Dŷn hwnnw a gredo ynddo ef, efe a gaiff Fywyd Tragwyddol, ac â fydd byw byth; A dedwyddol y fŷdd. Eithr pwy bynnag a ddirmygo Gyfoethogrwydd ei Haelioni, ai Hir ymaros, ae na thry atto ef, Fe a dderfydd [...]m dano yn Dragwyddol
Cofrestr or Scrythyrau a grybwyllir am danynt, eithr heb eu cyfleu yn y Bibl.
PRophwydoliaeth Enoch a grybwyllir yn Jude 14. Llyfr Jehu. a sonir am dano yn 2 Chron. 20.34. Llyfr Rhyfeloedd yr Arglwydd a sonir am dano yn Num. 21.14. Llyfr Nathan y Prophwyd, Llyfr Iddo, Prophwydo [...]aeth Abijah, a sonir am danynt yn 2 Chron. 9.19. Llyfr Shemaiah y Prophwyd grybwyllir yn 2 Chron. 12.15. Llyfr J [...]ser, a Grybwyllid yn 2 Sam. 1.8. Llyfr Gâd, 1 Chron. 19.9. Un Epistol at y Corinthiaid a grybwyllir yn 1 Cor. 5.9. Yr Epistol cynta at yr Ephesiaid. Eph. 3.3. Epistol at y Laodiceaid a grybwyllir yn Col. 4.16. Llyfr Henoch a grybwyllir 'am dano ym Mhistol Thaddeus, Origen, a T [...]ertulian, Llyfrau Solomon a Thair Mil o Ddiharebion, ai Fil o Ganiadau, Ai Lyfrau ynghylch Coed, Planhigion, Anifeiliaid a Physgod, a grybwyllir am danynt yn y 1. Bren. 4.32.33. Epistol a Dadwyd ar Barnabas, Datcuddiad Pedr, Athrawiaeth dan E [...]w 'r Apostolion a grybwyllir am danynt yn Nhrydydd Llyfr Eusebius L. 3. Ch. 22.
Fe Ddarfu i mi gymmeryd peth poen i lyfnhau'r Jaith ac i gyfleu ymbell Air yn nes i Dafodiaith Gwynedd nag y wnaethai 'r Cyfieithydd, ac hefyd efe a adawodd amryw fannau o'r Llyfr heb ei Gyfieithu, sef, y rhann fwya or Gwiwgof Amlygol. Hanesion byrr ynghyl [...]h yr Juddewon. Holl Hanes Gau Fessiah yr Juddewon yn Smyrna, Helynt yr Juddewon yn Lloegr yn y Flwyddyn 1655. Epistol Paul at y Laodiceaid, ac o hynny i ddiwedd y Llyfr. Beth bynnag oedd meddwl y Cyfieithydd [...] i adel y mannau hynny allan, i'm tyb i ni byddai 'r Llyfr ond Cloff ac anorphen hebddynt; ac or Achos mi au Cyfieithiais ac a'i cyfleuais yn eu lleoedd Priodol yn y Llyfr.