TAITH Y PERERIN: NEU SIWRNEU DYN O'R BYD HWN IR BYD A DDAW Dan Gyffelybiaeth BREUDDWYD

Yn yr Hwn a Dangosir,
Yn gyntaf, y Môdd o'i gychwŷnfa ef.
Yn ail, ei Siwrneu ddyrŷs.
Yn drydŷdd, ei ddyfodiad or diwedd i'r wlâd ddymunol, Teŷrnas Nêf,

O wneuthuriad John Bunyan, yn Saesnaeg.

Y Llyfr hwn a Argraphwŷd yn Sasnaeg bym­theg o weithiau, Ac unwaith or blaen yn gymraeg o gyfieuthad cymmŷsg ddwŷlo.

Hwn ŷw'r ail Argraphiad yn gymraeg, a'r cyntaf o gyfieuthad, Thomas Jones.

TAITH Y PERERIN: NEU SIWRNEU DYN OR BYD HWN I'R BYD A DDAW. Dan gyffelybiaeth BREUDDWYD.

AM fi yn Tramwŷ drwŷ anialwch y Bŷd hwn, daethŷm i rŷw fan lle'r oedd ogof, a gor­weddais i lawr yno i gysgu; A phan gysgais Breuddwŷdiais freuddwŷd; yn Fy'mreuddwŷd gwelwn ddŷn llwm i ddillad yn sefŷll ar fy nghyfer a'i wŷneb oddiwrth ei gartref, a llyfr yn ei law, a bauch mawr ar ei gefn; Edrychais a gwelais ef yn egor y Llyfr, ac yn darllain ynddo; A phan ddarllennodd ef, wŷlodd a chrynnodd rhag ofon. Ac am nad alleu ymattal ymhellach, efe a waedd­odd yn uchel, ac a ddywedodd, pa beth a wha [...]if.

Yn y cyflwr hwnnw efe a ddychwelodd adr [...] ac a ymattaliodd hwŷaf ag a gallodd, fel na [...] alleu ei wraig a'i blant mo'i gystudd, ond ni fedre [...] ef mo'r tewi yn hîr; o herwŷdd fôd ei drymder yn chwanegu ynddo, ac o'r diwedd mynegodd ef [Page 2] feddwl a'i helbul wrth ei wraig a'i blant, ac fel hŷn a dechreuodd ddywedŷd wrthŷnt.

Fy anwŷl wraig a'm plant; Myfi eich anwŷl Dâd a amdwŷwŷd, o herwŷdd y bauch mawr sŷdd arnaf agos a'm llethu; Ac heblaw hynnŷ mynegwŷd i mi yn hyspŷs a llosgir ein Dinas hon a thân or Nefoedd; Ac yn y dinistr dychrynllŷd hwnnw, myfi fy hun, a'm gwraig anwŷl, a chwitheu fy 'mhlant bychain, a ddifethir mewn môdd creulon, o ddigerth i ni gael (amgen nag a welai etto) thŷw ffordd i ddiengŷd fel i'n gwaredir.

Ar hŷn, ei dylwŷth, a'i Geraint ef a synnasant yn fawr, heb gredu er hynnŷ fod y pethau a lef­arodd ef wrthŷnt yn wîr. Oblegit eu bôd hwŷ'n tybled, ei fôd ef gwedi gwallgofi; Ac am ei bôd hîyn hwŷrhau, a nhwŷthau yn gobeithio a sefyd. lai cwsc ei ymmennŷdd ef, hwŷ a'i rhoddasant ef vn ei welŷ ar frŷs: Ond yr oedd y nôs mor flin iddo ef a'r dŷdd; Ac am hynnŷ, yn lle cysgu, fe a'i treuliodd hi mewn ocheneidiau a dagrau: A thranoeth pan a mynnent wŷbod pa fôdd yr oedd ef? Fe a'u hattebodd hwŷnt, ei fôd ef yn waeth o lawer nag o'r blaen; Ac fe a ddechreuodd ymddiddan a hwŷnt drachefn; Ond hwŷ a galed­asant eu calonnau yn erbŷn ei gynghorion ef, ac a geisiasant fwrw ymmaith el anhwŷl ef, trwŷ fôd yn afrowŷog ac yn ffyrnig tuag atto. Weith ieu hwŷ a'i gwatworent ef, weithie hwŷ a ymrys. onnent ag ef, ac weithie hwŷ a'i llwŷr ddibrisient ef: Ac am hynnŷ fe a ddechreuodd ymneillduo oddiwrthŷnt, ac a aeth iw stafell i weddio trost­ŷnt, ac i dosturio wrthŷnt, ac i ymosidio hefŷd am ei drueni ei hun. Ac ar rŷw amserau fe a rodiai ar ei ben ei hun yn y meufŷdd, weithiau yn darllain, ac weithiau yn gweddio; Ac fel hŷn a treuliodd ef ei amser tros rai 'dyddieu.

[Page 3]A phan oedd ef rŷw amser yn rhodio yn y meusŷdd, mi a'i gwelwn ef (yn ol ei arfer) yn darllen yn ei lyfr, yn gystuddiedig iawn ei ysprŷd, ac wrth ddarllain fe a dorrodd allan megis o'r blaen, gan ddolefain, Pa beth a wnufi fel a byddwŷf gadwedig? Actau. 16.30.

Mi ai gwelais ef hefŷd yn edrŷch ymma ac accw, fel pe buasai yn ei frŷd ef ffoi ymmaith; Etto fe a safodd yn ddiyscog; Obigit (fel a tyb­ygwn i) nas gwŷddai fe pa ffordd i fyned.

Yno mi a welwn ŵr (a'i enw Esangylwr) yn nesu atto ef, ac yn gofŷn iddo, pa ham yr wŷt ti'n llefain? Yntef a'i hattebodd ef, Sŷr, 'rwifi'n deall wrth y Llyfr lŷdd yn fy llaw, fy môd i gwedi'm bwriadu i farwolaeth, ac ar ôl hynnŷ i ddyfod ir Farn, ac nid wŷfi'n ewŷllysgar i farw, nac yn abl i ymddangos yn y Farn: ( Hebreaid. 9.27. Job. 36.20. Ezeciel. 22.14.)

Yna ebŷr yr Efangylwr, pa ham yr wŷt ti'n an­ewŷllysgar i farw, gan fod y bywŷd hwn mor llawn o helbul, ( Job. 14.1.) A'r Gŵr a'i hat­tebodd ef, am fy môd yn ofni, y gwesgir fi i lawr (gan y Bauch sŷdd ar fy nghefn) yn îs na'r Bêdd, ac a bŷdd i mi syrthio i uffern. ( Esay. 30.33.) Ac Syr, os nid wŷfi gymmwŷs i fyned ir Bêdd, llai o lawer yr wŷ'n barod i fyned ir Farn, ac oddi yno i lê y cospedigaeth. A'r meddyllan ynghŷlch y pethau hŷn sŷ'n peri i mi wŷlo.

Yna ebŷr yr Efangylwr, os ydwŷt ti yn y cyflwr hwnnw, pa ham yr wŷt yn sefŷll yn llonŷdd? Yntef a attebodd am na wn i i ba lê i syned: yna'fo roes iddo rôl o Femrwn, ac yr oedd yn yscrifen­nedig ynthi, ffowch rhag y digofaint a fŷdd. ( Matthew. 3.7.)

Fe ddarlenodd y Gŵr y geiriau, a chan edrŷch ar yr Efangylwr yn grâff, fe a ofynnodd iddo, i [Page 4] ba lê a ffôaf? Yna ebŷr yr Efangylwr, (gan ddang­os a'i fŷs tros Faes mawr) A weli di y porth bychan accw? Na welaf ebŷr y Gŵr. Yna ebŷr y llall, a weli di y Goleini disclair accw? Yntef a'i hattebodd ef, mi dybygwn fy môd yn ei weled ef, Yna ebŷr yr Efangylwr wrtho, cadw dy olwg yn wastol ar y goleini accw, a dôs yn union tuag atto; Ac fellu a cei di weled y porth; A phan gurech wrtho fe ddangosir i ti beth sŷdd raid i ti ei wneuthur. ( Matthew. 7.14. Psalm. 119.105. Joan. 9.39. 2 Peter. 1.19.)

Yna mi a welwn y Gŵr yn dechreu rhedeg; Ac nid aethai fe'n-nhepell oddiwrth ei Dŷ ei hun, ond wele 'roedd ei wraig a'i blant (wrth ganfod hynnŷ) yn gweiddi ar ei ôl ef, gan alw arno i ddychwelŷd: Ond efe a osododd ei fysedd yn ei glustiau, ac a redodd ymlaen, gan grôch-waeddi, Bywŷd, Bywŷd, Bywŷd Tragywŷddol: Ac nid ed­rychodd ef yn ei ôl, ond fe ffôdd tua chanol y Gwastededd. ( Luc. 14.26. Genesis. 19.17.)

Y Cymydogion hefŷd a ddaethant allan iw weled ef yn prysuro ymaith, ac fel yr oedd e'n brysio, rhai a'i gwatwarent, eraill a'i hygwthient, a rhai a waeddent ar ei ôl ef, gan alw arno i ddy. chwelŷd adref: Ac ymhlith y rheini yr oedd Dau, a fwriadasant trwŷ daerni ei berswaedio ef i ddy­chwelŷd yn ôl; Enw un oedd Cyndŷn, ac Enw'r llall oedd Meddal. Ac erbŷn hŷn yr oedd y Gŵr gwedi myned yn o-bell oddiwrthŷnt; Er hynnŷ yn ôl eu pwrpas, hwŷ a'i canlŷnasant ef; Ac ofewn ychydig o amser a'i goddiweddasant ef. Yna ebŷr y Gŵr Fy nghymydogion, pa ham yr ydŷch chwi yn dyfod ar fy ôl i? Hwŷthau a'i hattebasant ef, ich cynghori chwi i ddyfod adref gŷda ni, nid allafi (ebŷr yntef) wneuthur fellu, mewn môdd ŷn y Bŷd. Yr ydŷch chwi'n trigo (ebŷr ef) yn Ninas [Page 5] Distrŷw, (y llê hefŷd i'm ganwŷd inne) y rwi'n gwŷbod fôd y peth yn wîr; Ac os marw a wn­ewch chwi yno, chwi a suddwch yn îs na'r Bêdd, i lê sŷ'n llosci a thân a brwmstan, ( Datcuddiad, 21.8.) Byddwch fodlon gan hynnŷ (fy'nghymy­dogion) a dowch ymlaen gŷda mi.

Bêth ebŷr Cyndŷn, a gadael eln cyfeillion, a'n meddiannau o'n hôl!

CRISTION Ie ebŷr Cristion (canŷs fellu a gelwid ef) oblegit nid ŷw 'r cwbl, ar a adawoch chwi yn ôl yn deilwng iw cystadlu ag ychydig o'r pethau yr wŷfi yn ymegnio i fôd yn gyfrannog o honŷnt, (2 Corinthiaid, 4.18.) Ac os dowch chwi gŷda mi i ben y siwrnai, chwi a gewch fwŷnhau yr unrhŷw bethau daionus ag y fwŷnhâf finne, canŷs i mae digon a gweddill lw gael, yn y llê yr wŷfi yn teithio tuag atto. ( Luc. 15.17.) Dowch a phrifiwch fy'ngeiriau.

Cyndŷn. Pa bethau yr ydŷch yn eu ceisio a alloch eu meddiannu hwŷnt gan eich bôd yn ymadael a'r hôll Fŷd?

CRISTION. Yr wŷfi'n ceisio Etifeddiaeth-an­llygredig, dihalogedig, a di-ddiflannedig; Yr hon sŷ'nghadw yn y Nefoedd, ac yn ddisiomgar yno, iw rhoddi ar yr amser nodedig ir sawl a'i dyfal gei­siant hi. (1 Petr. 1.4. Hebreaid. 11.16.)

Cyndŷn. ffw, ebŷr cyndŷn, ymmaith a'ch llyfr, Attebwch i mi, a drowch chwi'n ôl gŷda ni a'i nis gwnewch?

CRISTION. Na wnaf; (ebŷr Cristion) canŷs mi a osodais fy llaw ar yr Aradr. ( Luc 9.62.)

Cyndŷn. Dowch gan hynnŷ (ebŷr cyndŷn) fy'nghymydog Meddal, a dychwelwn adref hebddo: I mae brawdoliaeth o ddynnion penweinied, y rhain (pan dderbyniant rŷw opiniwn iw pennau) ydŷnt ddoethach yn eu Golwg eu hun na Selth [Page 6] wŷr yn adrodd rheswm.

Meddal. Peidiwch ag ymremial ebŷr Meddal, os gwîr a ddywaid ein cymmydog Cristion, i mae'r pethau a mae efe yn eu ceisio yn well na'r cwbl o'n meddiannau ni; Mi glown ar fy nghalon fyned gydag ef.

Cyndŷn. Pa Beth? mwŷ o ffylied fŷth? cym­mer dy reoli gannifi, a thyred yn ôl; Pwŷ a wŷr, i ba lê i'th dywŷsir gan y fâth ddŷn pen ysgafn a hwn? dychwel dychwel, a bŷdd gall.

CRISTION. Nage ebŷr Cristion, Bithr tyred ti Cyndŷn gyda'th gymydog Meddal, canŷs yn y llê yr wŷfi yn ymgeisio myned iddo i mae'r cyf­rŷw bethau iw cael ag a soniais i am danŷnt, ac amrŷw o bethau gogoneddus heblaw hynnŷ. Oni choeliwch chwi fi, darllennwch ymma, yn y llyfr hwn ynghŷlch y pethau hŷnnŷ; Ac am wirionedd yr hŷn a fynegir yntho, wele y mae'r cwblgwedi eu sicerhau a gwaed yr hwn a'i gwnaeth ef. ( Hebreaid 9.17, 18, 19, 20.)

Meddal. Wele Fy nghymydog Cyndŷn (ebŷr Meddal) 'rwi 'n dechreu ymroi yn fy meddwl i ymdeithio gyda'r Gŵr dâ ymma, a bwrw fy mlot­tiau i mewn gydag ef: Ond Fy 'nghyfaill anwŷl a wŷddoch chwi'r ffordd ir llê dymunol hwn?

CRISTION. Gŵr a'i enw Efangylwr a'm cy­farwŷddodd i, i dynnu tua phorth bychan sŷdd o'n blaen, llê a danghosir i ni y ffordd.

Meddal. Dowch gan hynnŷ Gymydog dâ, gad­ewch i ni gychwŷn: Yna hwŷ a aethant ill dau gydai gilŷdd.

Cyndŷn. Minne a ddychwelaf adrefebŷr Cyn­dŷn, ac ni byddafi Gydymaith ir cyfrŷw ddynnion gwallgofus ag a hudwŷd oddiar yr union ffordd.

A'r ôl i Gyndŷn ddychwelŷd, Mi a welwn Gristion, a Meddal, yn myned ymlaen tan siarad [Page 7] a'i gilŷdd 'rhŷd' y gwastadedd, ac fel hŷn a dech­ruasant eu hymddiddanion.

CRISTION. Fy nghymydog Meddal ebŷr Crlstion, pa fôdd yr ŷch chwi? Mae'n ddâ gennif eich bod chwi wedi'ch perswaedio i fyned gyda mi; Pa teimlaseu Cyndŷn yntho ei hun, nerthoedd a dychrŷniadau y pethau sŷdd etto yn anweledig megis a teimlais i hwŷnt, ni throesai fe mo'i gefn arnom mor ysgafn.

Meddal. Fy nghymydog Cristion, gan nad oes ymma nêb onid nyni 'n dau, mynegwch i mi yr awron ymhellach pa rŷw bethau sŷdd iw cael, yn y llê yr ydŷm ni yn myned tuag atto, a pha fôdd a mwŷnheir hwŷnt.

CRISTION. Gwell a gallaf eu Deall hwŷ yn fy meddwl na'u hadrodd hwŷnt a'm tafod: Etto gan eich bôd yn chwennychu eu gwŷbod, mi a ddarllennaf i chwi am danŷnt yn fy llyfr.

Meddal. A ydŷch chwi'n tybied fôd geiriau'ch llyfr chwi yn wîr.

CRISTION. Ydwŷf yn siccir, canŷs y digel­wŷddog ŷw ei Awdr ef. ( Titus. 1.2. 2 Timotheus. 3.16. 2 Petr. 1.19, 20, 21.)

Meddal. Ond pa bethau sŷdd iw cael pan ddelom i ben ein siwrnai.

CRISTION. Y mae Teŷrnas annherfynol i ni i bresswŷlio ynthi, a bywŷd Tragywŷddol iw roddi i ni, fel a gallom drigo yn y Deŷrnas honno fŷth. ( Matthew. 25.34. Joan. 10.27, 28, 29.) Y mae Coronau o Ogoniant iw cael yno hefŷd, a Gwisg­oedd a bair i ni ddiscleirio fel yr Haul yn ffur­fafen y Nefoedd, (2 Timotheus. 4.8. Dateúddiad. 7.9. Matthew. 13.43.) Heblaw hŷn, ni bŷdd yno na newŷn, na syched. na marwolaeth, na gwŷlo­fain, na thristwch, na phoen, oblegit fe sŷch Arg­lwŷdd y llê bôb Deigrŷn oddiwrth-ein llygaid. [Page 8] ( Datcuddiad. 21. [...] & 7.16.)

Meddal. A [...] Gyfeillon a gawn ni yno.

CRISTIO [...] [...] gawn fôd gyda Seraphiaid a Cherubiaid, sef; Creaduriaid a bair l'n llygaid fr­itho wrth edrŷch arnŷnt, ( Esaŷ. 6.2.) Yno hefŷd y cyfarfyddwn a miloedd, a deng miloedd o rai, a aethant o'n blaen ni ir llê hwnnw; Nid oes yr un o honŷnt yn gwneuthur niweid iw gilŷdd, ond i maent yn bŷw yn gariadus ac yn sanctaidd, bôb un yn rhodio yngwŷdd Duw, ac yn aros yn gymme­radwŷ yn ei wŷdd ef dros fŷth, ( Datcuddiad. 5.9, 10, 11. & 4.5. 1 Thessaloniaid. 4.16, 17.) Yno a cawn ni weled yr Henuriaid a'u Cor­onau aur ar eu pennau, ( Datcuddiad. 4.4.) Yno a cawn ni weled y Gwŷryfon sanctaidd a'u Telynnau aur, ( Datcuddiad. 14.4.) Yno a cawn ni weled y rhai a ddryllwŷd gan y Bŷd yn ddarnau, a loscwŷd yn y Tân, a fwŷttafwŷd gan fwŷstfilod, ac a fodd­wŷd yn y Moroedd (am ei cariad at Arglwŷdd y llê) ôll yn holl-iach, gwedi eu dilladu ag Anfar­woldeb megis a Gwisc, ( Joan. 12.25. Datcuddiad. 7.14, 15. 2 Corinthiaid. 5.1, 2, 3, 4, 5.)

Meddal. Y mae'r pethau hŷn yn ddigon, i ddwŷn calonnau Dynnion ar eu hôl: Ond pa fôdd Attolwg y down ni i fôd yn Gyfrannogion o honŷnt?

CRISTION. Llywŷdd y wlâd a yscrifennodd yn y llyfr hwn, os byddwn ni yn wîr ewŷllysgar iw derbŷn hwŷnt, efe a'u rhŷdd hwŷnt i ni yn rhôdd ac yn rhâd. ( Esaŷ. 55.1. Datcuddiaid. 22.17.)

Meddal. Fy nghydymmaith anwŷl, mae'n hôff gennif glywed y pethau hŷn: Awn rhagom, a cherddwn yn gŷnt.

CRISTION. Y mae'r Baich sŷdd ar fy nghefn yn fy rhwŷstro i fyned cŷn gynted ag a dym­munwn.

[Page 9]Yr awron Mi a welwn, gwedl-iddŷnt orphen eu hymddiddanion, nessau o honŷnt hwŷ at Gors sig­lennog, yr hon oedd ynghanol y Gwaftadedd; A thrwŷ fôd yn wallus, hwŷ, a syrthiasant ill dau yn ddisymmwth ir Gors (a'i Henw hi oedd Cors Anobaith) ac yno a buant hwŷ tros ennŷd yn ym­drybaeddu, gwedi eu diwŷno 'n erchŷll gan y Dom; Ac fe ddechreuodd Cristion suddo yn y siglen, o achos y Baich oedd ar ei gefn ef.

Meddal. Ho! Ebŷr Meddal, fy nghymydog Cristion, ymmha lê yr wŷti yr awron.

CRISTION. Mewn gwirionedd ebŷr Cristion, nis gwn i ymmha lê:

Meddal. Yna a cyffrodd Meddal, ac fe a lefarodd yn ddigllon wrth ei Gydymmaith, gan ddywedŷd; A'l dymma'r Dedwŷddwch a grybwŷllasoch chwi am danno yr hôll amser hŷn? Os cawsom y fâth affwŷdd yn nechreuad ein Taith, pa beth a allwn ni ddisgwŷl am dano rhwng hŷn a phen ein siwr­nau? Os gallafi ond diangc o'r llê hwn yn fŷw, chwi a gewch o'm rhan i, feddiannu 'r wlâd ddâ eich hunan. Ac wedi ymdreinglo yn Egniol un­waith neu ddwŷ fe ddaeth allan o'r siglen, ar yr ystlŷs hwnnw o'r gors oedd yn nessaf iw Dŷ ei hun: Ac fellŷ efe a aeth ymmaith, ac ni welodd Cristion mono mwŷ.

Ac fel hŷn y gadawŷd Cristion i ymdroi yn y pydew Anobaith ar ei ben ei hun: Fellu dan ymwthio fe a ymegniodd i ymlusco tua'r ochr hwnnw o'r Gors oedd bellaf oddiwrth ei Dŷ ei hun, a nessaf i'r Porth cyfing: Ond gwedi gwneu­thur fellu, nid alli fe ddyfod allan o'r Gors o achos y Baich oedd ar ei gefn.

Yna mi a welais ŵr yn dyfod atto, a Elwid Cynorthwywr, ac yn gofŷn iddo, pa beth yr oedd ef yn ei wneuthur yno?

[Page 8] [...] [Page 9] [...] [Page 10] CRISTION. Syr, ebŷr Cristion, Gŵr a elwir Efangylwr a archodd i mi fyned y ffordd ymma, ac fe a'm cyfarwŷddodd i hefŷd ir Porth bychan accw, fel a gallwn ffoi rhag y Digofaint a fŷdd, ac fel yr oeddwn i yn myned tuag yno, mi a syrth­iais i mewn ymma.

Cynorthwywr. Ond pa ham nad edrŷchasech chwi ar y llwŷbrau yn sanylach.

CRISTION. Dychrŷn a harodd i mi ffoi y ffordd nessaf, ac fellŷ mi a syrthiais ymma.

Cynorthwywr. Moes i mi dy law ebŷr cyn­orthwywr, a Christion a roes iddo ef ei law: Ac efe a'i tynnodd ef ir lan, ac a'i gosododd ef ar Dîr caled, ac a barold iddo gerdded ei ffordd ymlaen. ( Psalm. 40.2.)

Gwedi hynnŷ mi nessais at yr hwn a'i tynnasai ef o'r Gors, ac a ofynnais iddo, Syr, gan fôd y ffordd yn ledio o Ddinas Distrŷw ir Porth accw trwŷ 'r llê ymma, pa ham na wellawŷd y man hwn, fel a gallai ymdeithwŷr tylodion siwrneio tuag yno yn ddiofalach? Yntef a'm hattebodd, y mae'r Gors front hon fellu nes a gallir ei gwellhau hi: Canŷs ir Gwaelod hwn, y mae'r hôll fudreddi fŷdd yn canlŷn euogrwŷdd am bechod, yn rhedeg i wared yn Wastadol; Ac am hynnŷ gelwir hi y Gors o Anobaith: Oblegit, er cynted ac y deffroir pechadur i weled ei gyflwr colledig, i mae llawer o Ddychrŷniadau ac Amheuon, a meddyliau anghy­ffarus yn cyfodi yn fynŷch yn ei Enaid ef; A'r rhain ôll sŷ'n ymgasglu ynghŷd, ac yn ymsefydlu yn y man hwn: A dyma i chwi'r rheswm, pa ham y mae'r Llê ymma cynddrwg.

Nid ewŷllŷs y Brenin ŷw, fôd y ffordd hon cynddrwg ac y mae hi, ( Esaŷ. 35.3, 4.) Ei Weith­wŷr ef hefŷd (trwŷ gyfarwŷddiad y rhai oedd gan ei Fawrhydi ef yn Olygwŷr ar y brif-ffordd) a [Page 11] fuant er-ys dau-cant-ar-bymtheg o flynyddoedd yn gweithio ymma, i edrŷch a ellid gwellhau y clwtt Tîr hwn: Ie, ac myfi a wn (ebŷr efe) lyngcu ym­ma o'r lleiaf, fwŷ o lawer nag ugain mîl o Fennau, gwedi eu llwŷtho yn llawn ag hyfforddiadau iach us, a ddygwŷd ymma o amser i amser, o bôb man yn Nheŷrnasoedd y Brenin, i brofi a ellid gwellhau 'r ffordd hon: A'r rhai a wŷddent beth oedd ei deunŷdd, a ddywedent, mae'r pethau goreu oedd­ŷnt, a'r a ellid eu cael, i wneuthur y Tîr hwn yn sŷch ac yn galed. Eithr Cors Anobaith ydwŷ hi fŷth, ac fellu y bŷdd hi er gwneuthur o honŷnt eu goreu iw gwellau hi.

Gwir ŷw, fôd trwŷ gyfarwŷddiad Rhoddwr y gyfraith, rŷw Sarn fawr a chadarn wedi en gosod rhŷd canol y Gors, fel y galleu pobl trwŷ gammu fyned trosti; Ond pan fo'r llê ymma yn chwdu i fynu lawer o'j fudreddi (megis y mae'n gwneuthur ar newid y tywŷdd) yna braidd y gwelir y meini: Ac os canffyddir hwŷ, y mae Dynnion o herwŷdd gwendid eu pennau yn troi oddiarnŷnt, ac yno gwedi syrthio ir Gors a diwŷnir hwŷnt yn rhyfeddol er bôd y cerrig yno fŷth: Ond y mae 'r ffordd yn ddâ gwedi myned i mewn unwaith ir porth.

Yna mi a Welwn, fôd Meddal Erbŷn hŷn, gwedi dyfod yn ôl iw Dŷ ei hun▪ A'i gymmy­dogion a ddaethant i ymweled ag ef: A rhai o honŷnt a'i galwasant ef yn ŵr call am iddo ddych­welŷd adref; A rhai a'i galwasant ef yn ffôl am ei fwrw ei hunan i berŷgl gyda Christion, Ac Eraill a'i gwatwarasant ef am ei fôd ef cŷn Wan­ned ei galon, gan ddywedŷd Wrtho yn ddi [...] gwedi dechreu meiddio, ni ddylasech chwi fod mor ofnus a rhufo am ychydig o anhawsder yn y ffordd. ac fellu dan ostwng ei Wart fel crwŷdryn fe a Eisteddodd Meddal i lawr yn ei plith hwŷnt. [Page 12] Ond o'r diwedd, efe a ymhyfodd, ac a ddech­reuodd gyda ei gymmydogion ddywedŷd yn ddrŵg am Gristion (druan Gŵr) ac o'r tu cefn iddo, hwŷ a gŷd-chwarddasant am ei ben ef. A digon bellach am Feddal.

Yr awron, fel yr oedd Cristion yn myned ymlaen, heb nêb gydag ef, efe a ganffyddai ŵr o hirbell yn croesi'r maes: A digwŷddodd iddŷnt gyfarfod ynghŷd yn y man hwnnw, lle 'r oedd y naill yn croesi ffordd y llall. Enw y Gŵr bonheddig a gyf­arfu ag ef oedd Meistr Bydol Ddoethŷn, a thrigo yr oedd ef yn Ninas Doethineb cnawdol (Trêf fawr iawn) ac yn agos hefŷd ir llê a daethasai Cristion allan o honi. A'r Gŵr hwn a glywsai rŷw sôn am dano, canŷs mynediad Cristion allan o Ddinas Dist­rŷw a dannesid ar Lêd yn fawr, nid yn unig yn y Drêf lle yr oedd ef yn aros ynthi, ond hefŷd mewn amrŷw o Drefŷdd eraill oddiamgŷlch. Meistr Bydol Doethŷn, gan hynnŷ wrth ddal suiw ar ei gerddediad cyflŷm ef, ac ar ei ocheneidiau, a'i ruddfannan ef, A'r cyffelŷb Argoelion eraill, a frith-dybiodd, mai hwn oedd Cristion, ac efe a ddechreuodd siarad ag ef fel hŷn.

Bydol▪Ddoethŷn. Fellu yr awron y Gŵr-dâ, i ba lê yr ydŷch chwi yn myned yn llwŷthog fel hŷn?

CRISTION. Rwi gwedi'm llwŷtho yn ddiau, cŷn dosted (im tŷb i) ac a llwŷthwŷd un creadur truan erioed: Ac yr wŷfi'n myned tua'r Porth hychan accw, sŷ gyferhŷn a mi; Canŷs fe a ddywedwŷd wrthŷf, a cawn i gyfarwŷddiad yno pa fôdd i gael fy nilwŷtho o'm Baich pwŷsfawr.

Bydol▪Ddoethŷn. A oes i ti wraig a phlant?

CRISTION. Oes, Ond yr wŷfi gwedi'm llwŷtho fellu a'r Baich ymma, fel nas gallaf ym­hyfrydu ynthŷnt hwŷ megis gŷnt; Ie mi dybygwn [Page 13] fy môd fel pedfawn hebddŷnt. (1 Corinthiaid 7.29.)

Bydol-Ddothŷn. A gymeri di gyngor gennifi, os rhoddaf ef i ti?

CRISTION. Gwnaf, os dâ ŷw dy gynghor, canŷs digon rhaid i mi wrtho.

Bydol-Ddoethŷn. Mi a fynnwn i ti gan hyn­nŷ, ymegnio i gael rhyddhad oddiwrth dy lwŷth gyntag allech; Oblegit ni byddi di bŷth yn Es­mwŷth yn dy feddwl, ac nid elli di Fwŷnhau lle­shâd oddiwrth y Bendithion a roes Duw i ti nes a gwnelŷch di fellu.

CRISTION. Dyna 'r peth yr wŷfi 'n ymor­chestu am dano, sêf [...] i gael fy nilwŷtho o'm Baich pwŷsfawr: Nis gallafi ei fwrw ef i lawr fy hunan: Ac nid oes nêb yn ein gwlâd a ddichon ei dynnu ef oddiar fy ysgwŷddau; Ac am hynnŷ yr wl 'n teithio ar y ffordd hon fel y gallwŷf gael gwared o hono.

Bydol-Ddoethŷn. Pwŷ a barodd i ti fyned rhŷd y ffordd ymma, i gael ymadel a'th Faich?

CRISTION. Gŵr o wêdd parchedig ac an­rhydeddus (yn fy ngolwg i) a'i Enw ef am yr wŷf yn ei gofio ŷw Efangylwr.

Bydol-Ddoethŷn. Ynghrog a bytho am ei gy­ngor, nid oes yn yr hôll Fŷd un ffordd yn fwŷ peryglus a blin na 'r hon a cyfarwŷddodd ef dydi i ymdeithio ynthi; Ac di a gei brifio hŷnnŷ os di­lyni di ei gyngor ef. Mi a welaf wrth Dom y Gors o Anobaith (sŷdd yn glynu wrth dy ddillad) gael o honot ti beth trwbl eusus; Eithr nid ŷw r Gors honno ond dechreuad y gofudiau sŷ'n canlŷn y fawl sŷ'n siwrneio yn y ffordd ymma. Gwrando arnafi, yr wi'n hŷn nâ thydi, mae 'n debŷg a cyfarfyddi di ar y ffordd yr wŷt ti 'n ymdeithio ynthi, a Lludded, Blinder, newŷn, peryglau, noeth­ni, Cleddŷf, Llewod, Dreigiau, a Thywŷllwch, ac i [Page 14] fôd yn fŷrr, a Marwolaeth, a chystuddiau anneirif eraill, y rhai nis gellir eu hadrodd. ( Actau. 14.22.) Y mae'n ddiame fôd hŷn ôll yn wîr; Canŷs fe siccrhawŷd y cwbl gan lawer o dystion: A pha ham a difethai Ddŷn ei hunan mor ddiofal trwŷ goeilio dŷn dieithr.

CRISTION. Syr, y mae'r Baich hwn sŷdd ar fy nghefn, yn fwŷ brawychus i mi na'r cwbl ôll a grybwŷllasoch chwi am danŷnt; le mi a dy­bygwn nas gwnawn i gyfrif yn y Bŷd o ddim a ddigwŷddai i mi yn y ffordd pa gallwn i gael ond fy nilwŷtho o'm Baich.

Bydol-Ddoethŷn. Pa fôdd y gwŷbuosti ar y cyntaf dy fôd ti yn llwŷthog?

CRISTION. Wrth ddarllain y Llyfr ymma sŷdd yn fy llaw.

Bydol-Ddoethŷn. Fellu yr oeddwn i yn tybied. Ac fe a ddigwŷddodd i ti wallgofi, megis ac y di­wŷddodd i hobl anneallus eraill; Y rhai trwŷ ym­hel a phethau ymmhell uwchlaw eu dealltwriaeth a gollasant eu côf yn ddisymmwth: Ac i mae 'r cynddeiriogrwŷdd hwn, nid yn unig yn eu gosod hwŷnt mewn grâdd is nâ Dynnion (megis im tŷb i yr wŷt ti gwedi'th osod gantho) y mae ef hefŷd yn eu gyrru hwŷnt ymlaen i feiddio ar bethau creulon, mewn amcan i feddiannu nis gwŷddant pa beth.

CRISTION. Myfi a wn beth ydŷw fy nymu­niad i: Sêf cael fy Esmwŷthau o'm Baich trwm.

Bydol Ddoethŷn. Pa ham yr wŷt ti yn ymorol am esmwŷthâd yn y ffordd hon, gan fôd cymmaint o ei bŷdrwŷdd ynthi? Yn enwedig pan allwn ni (pettal gennit Ammynedd i wrando arnaf) dy gy­farwŷddo di i gael y peth yr wŷt yn ei chwen­nychu, heb y peryglon a orfŷdd arnat ti dy daflu dy hunan iddŷnt yn y ffordd hon; Ie i mae 'r [Page 15] Cynnorthwŷad yn agos. Gwŷbŷdd hŷn ym­mhellach, a cei di yn lle'r peryglon ymma lawer o Ddiogelwch a Charedigrwŷdd, a Bodlonrwŷdd os dilyni di fy nghyngor i.

CRISTION. Attolwg Syr Datcuddiwch i mi y dirgelwch hwnnw.

Bydol-Doethŷn. Wele i mae yn y pentref accw, a Elwir Marwolder, ŵr Bonheddig yn trigo a elwir Deddfoldeb; Yr hwn sŷdd ŵr Deallus iawn, a Gair dâ iddo, ac efe a feidr ddilwŷtho pobl or fâth lwŷthau ac ŷw dy lwŷth di: Ie myfi a wn iddo wneuthur llawer o ddaioni yn yr achos ymma eusus: Ac heb law hŷn efe a feidr iachau y sawl sŷ'n agos a gwallgofi oblegid eu llwŷthau; Atto ef meddafi a gelli di fyned, a chael help mewn ychydig o amser; Nid ŷw ei Dŷ êf mor filltir oddlyma; Ac oni bŷdd ef ei hunan gartref, i mae gantho Fâb iefangc glân, yr hwn a elwir Gweddoldeb, ac o ddywedŷd wrthŷt ti 'r gwîr, fe a ddichon dy gynnorthwŷo di cystal ar hên ŵr Bonheddig ei hunan; Yno meddafi a gelli di gael dy esmwŷthau o'th Fauch; Ac onid wŷt ti'n bwriadu dychwelŷd yn ôl ith hên Drigfa (Ac yn ddiau nis mynnwn i ti wneuthur fellu) yna di a elli ddanfon am dy wraig a'th blant i ddyfod i fŷw gyda thi yn y pentref ymma; Llê a mae yr awron Dai heb Drigolion ynthŷnt; A thi a elli gael un o'r rheini am ychydig o Ardreth; I mae yno hefŷd ymborth dâ a newid fawr arno; Ac i wneuthur dy fowŷd yn ddedwŷddach di a elli dy siccrhau dy hunan, a hyddi di bŷwyno ym­mhlith cymmŷdogion gonest, mewn cymmeriad o'r goreu.

Ar hŷn yr oedd Cristion yn Ammeu, ac efe a ymresymmodd yntho ei hunan fel hŷn, os gwir [...] mae'r Gŵr Bonheddig hwn yn i ddywedŷd, [Page 16] gwell i mi gymmerŷd ei gyngor ef? A chyda hynnŷ Ebŷr ef wrth Bydol Ddoethŷn, Syr dangoswch i mi y ffordd i Dŷ y Gŵr gonest hwn.

Bydol-Ddoethŷn. A Weli di y Brŷn uchel accw?

CRISTION. Gwelaf yn eglur ddigon.

Bydol-Ddoethŷn. Rhaid i ti fyned Wrth yst­lus y Brŷn accw; A'r Tŷ cyntaf yr elŷch atto ŷw ei Dŷ ef.

Fellu fe drodd Cristion allan o'i ffordd, i fyned i Dŷ Meistr Deddfoldeb, i geisio cymmorth: Ond gwedi nessu at y Brŷn, wrth ei weled ef mor uchel, a bôd yr ochr nessaf ir ffordd yn crogi allan yn geulan, efe a ofnodd fyned ymhellach, rhag ir Mynŷdd syrthio ar ei ben ef: Ac am hynnŷ fe a safodd yno yn llonŷdd, heb wŷhod pa beth a wnai. Yr oedd ei Fauch hefŷd (yn ei dŷb ef) yn drym­mach yr awron nâ chŷnt, tra yr oedd ef yn ei ffordd. Daeth hefŷd fflammau o Dân allan o'r Mynŷdd, y rhai a wnaethant i Gristion ofni a lloscid ef. ( Exodus 19.16, 18. Hebreaid 12.21.) Ymma gan hynnŷ a chwŷffodd, ac a crynodd ef gan ofon. Ac yr awron roedd yn ddrŵg gantho, am iddo dderbŷn cyngor Meistr Bydol▪Ddoethŷn. A chyda hynnŷ, fe a ganfu Efangylwr yn dyfod iw gyfarfod ef; Ac wrth ei Weled ef, fe ddechreuodd Wrido gan gywilŷdd. Efangylwr gan hynnŷ a ddaeth atto. ac a edrychodd arno ag Wŷneb-prŷd gerwin ac erchŷll, ac a ymresymmodd a Christion fel hŷn.

Efangylwr. Cristion ebŷr ef, pa beth a wnei di ymma? Ond ni Wŷddau Cristion pa beth a at­tebai iddo; Ac am hynnŷ efe a safodd dros ennŷd fechan vn fûd gar ei fron ef. Yna a dywedodd Efangylwr ymhellach wrtho, onid tydi ŷw'r Dŷn a glywais i yn llefain yn gwŷnfanus o'r tu allan [Page 17] i furiau Dinas Distrŷw.

CRISTION. Iê Barchedig Syr, Myfi ydŷw'r Dŷn hwnnw.

Efangylwr. Oni chyfarwŷddais i dydi ir ffordd sŷ'n arwain tua'r porth bychan?

CRISTION. Do Barchedig Syr ebŷr Cristion.

Efangylwr. Pa fôdd gan hynnŷ a cyfeilior [...]st mor fyan; Canŷs yr wŷt yr awron allan o'r ffordd?

CRISTION▪ Er cynted ac i daethŷm allan o▪ Gors Anobaith, mi a gyfarfyddais a Gŵr Bon­heddig, yr hwn a'm perswaediodd i, fôd un yn tario yn y pentref o'm blaen, a allai fy nad­lwŷtho i o'm Bauch.

Efangylwr. Pa fâth ŵr ydoedd efe?

CRISTION. Yr oedd gwêdd Gŵr bonheddig ganddo, ac fe a siaradodd lawer a mi; ac o'r di­wedd, gwnaeth i mi fôd yn fodlon i ddilŷn ei Gyngor ef; Ac fellu mi a ddaethum ymma: Ond pan welais uchder y Mynŷdd hwn, a'r modd y mae 'n crogi uwch-ben y ffordd▪ mi a ymatte [...]iais yn ddisymmwth oddiwrth fyned yn nessach atto, rhag iddo syrthio ar fy mhen.

Efangylwr. Pa beth a ddywedodd y Cŵr bonheddig hwnnw wrthŷch chwi?

CRISTION. Fe a ofynnodd i mi i ba le yr oeddwn yn myned, ac fe a m holodd i a oedd Teulu gennif? Ac mi a fynegais iddo fy môd i yr myned tua Mynŷdd Seion, a bôd ganni Deulu: Ond ebŷr fi, yr wŷfi mor llwŷthog gan y Bauch sŷdd ar fy nghefn fel nas galla ymhyfrydu ynthŷnt megis gŷnt.

Efangylwr. A pha beth a ddywedodd yntef ynghŷlch hynnŷ?

CRISTION. Fe am cynghorodd i geisio ymddilwŷtho yn fŷan; A minneu a'i hattebais ef mai hynnŷ oedd dymuniad fy nghalon i: [Page 18] Ac am hynnŷ ebŷr fi, yr wi'n myned tua 'r porth [...] i gael gwŷbod pa lê a cafi ymwared. Yntef [...] ddywedodd wrthŷf a dangosai ef i mi well a nesach ffordd, ac a llai o beryglon ynddi, nag sŷdd yn y ffordd a gosodasoch chwi fi arni: Ar ffordd hon ebŷr ef a'ch dŵg chwi yn union i Dŷ Gŵr bonheddig a feidr ddilwŷtho pobl o'r fath lwŷthau a hwn, Fellu mi a'i coeliais ef, ac a drois ir ffordd hon, oddiar y ffordd yr oeddwn i arni trwŷ 'ch cy­farwŷddiad chwi, i edrŷch (yn rhŷw fôdd) a gawn i esmwŷthdra oddiwrth fy mauch. Pan ddaethŷm ir llê hwn, a gweled y pethau sŷdd ymma, mi a ymmatteliais oddiwrth fyned ymhellach, rhag ofn perŷgl: Ac yr awron nis gwn i pa beth a wnaf.

Efangylwr. Yna ebŷr Efangylwr, Sâf yn llonŷdd ychydig, a mi a yspysaf i ti eiriau Duw; Ac fellu fe a safodd gar ei fron ef yn ddychrŷn­nedig. A Dywedodd Efangylwr wrtho fel hŷn. Edrychwch na wrthodoch yr hwn sŷdd yn llefaru, oblegid oni-ddiangodd y rhai a wrthodasant yr hwn oedd yn llefaru ar y ddaiar, mwŷ o lawer nis diangwn ni, y rhai ydŷm yn troi ymmaith oddi­wrth yr hwn sŷdd yn llefaru o'r Nêf. ( Hebreaid 12.25.) A'r cyfiawn a fŷdd bŷw trwŷ ffŷdd; Eithr o tŷnn nêb yn ôl, nid ŷw fy enaid yn ymfodloni ynddo, ( Hebreaid 10.38.) Ac fe a gymhwŷfodd yr ysgrythyrau ymma at Gristion fel hŷn; Dydi ydŷw'r Dŷn sŷdd yn rhedeg ir trueni hwn; Di a ddechreuaist ddistyru cyngor y Goruchaf, trwŷ droi oddiar ffordd tangneddŷf, ie o fewn ychydig i berŷgl damnedigaeth.

A'r hŷn fe a syrthiodd Cristion i lawr wrth ei draed ef agos yn farw, gan lefain, Gwae fi! Canŷs darfn am danaf. Ac wrth weled hynnŷ, fe ymaelodd Efengylwr yn ei law ddehau ef, gan ddywedŷd, Pôb pechod a Chabledd a Faddeuir [Page 19] i Ddynnion, onid y cabledd yn erbŷn yr ysprŷd Glâ, ( Matthew 12.31.) Na fŷdd Arghredadŷn ond Credadŷn: Yna yr ymadrŷwiodd Cristion ych­ydig drachefen, ac a safodd yn ddychrŷnedig megis ar y cyntaf o flaen Efangylwr.

A chan fyned rhagddo, fe lefarodd Efangylwr wrth Gristion, fel hŷn, Craffa yn well ar y peth­au a adroddaf wrthŷt, ac myfi a ddangosaf i ti yr awron pwŷ ydoedd yr hwn ath dwŷllodd di, a phwŷ hefŷd ydŷw yntef yr hwn ith ddanfonodd di atto.

Y Gŵr a gyfarfu a thi ŷw Bydol-Ddoethŷn, A dâ iawn a gelwir ef fellu, oblegit Yn gyntaf nid ŷw ef yn clywed b'âs yn y Byd ar un mâth o athrawiaeth, ond yn unig ar athrawiaeth tuaagat y Bŷd hwn; Ac am hynnŷ i mae fe 'n cyrchu yn ddibaid i gynnulleidfa'r moesgar, yn Nhrêf Moes­garwch. (1 Joan 4.5.) Ac yn ail, oblegit ei fôd ef yn caru yr athrawiaeth honno yn oreu, am ei bôd hi yn ei gadw ef yn well na dim arall rhag erlidiad, ( Galatiaid 6.12.) Ac o herwŷdd ei fôd ef o'r dymer gnawdol ymma, i mae fe'n ymdrechu i droi pobl oddiar fy ffŷrdd i er uniawned ydŷnt. I mae tri pheth ynghyngor y Gŵr hwn, ac a ddylit ti eu liwŷr ffieiddio.

Yn gyntaf, Ei waith ef yn dy droi di allan o'r ffordd.

Yn ail, Ei ymdrechiad ef i wneuthur y groes yn gâs yn dy olwg di.

Yn drydŷdd, Ei waith ef yn gosod dy Draed di ar y ffordd sŷdd yn Arwain i weinidogaeth Angeu.

Yn gyntaf, Rhaid i ti ffieiddio ei waith ef yn dy droi di allan o'r ffordd; Ie a'th waith ditheir yn cytuno ag ef yn hynnŷ: Oblegit trwŷ wrando Cyngor Bydol-Ddoethŷn, di a ddistyraist Gyngor [Page 18] [...] [Page 19] [...] [Page 20] Duw. Ymdrechwch mêdd yr Arglwŷdd, am fyned i mewn trwŷ r porth cyfŷng, Sêf y porth tua 'r hwn a cyfarwŷddais i dydi ar y cyntaf; Oblegit cyfŷng ŷw 'r porth sŷdd yn arwain ir Bywŷd, ac ychydig ŷw y rhai sŷdd yn ei chael hl. ( Luc 13.24. Matthew 7.14.) Ac yr awron fe ddarfu ir Dŷn drŵg hwn dy droi di oddiwrth y porth bychan ymma ac oddiar y ffordd sŷdd yn arwain tuag­atto, gan dy ddwŷn di ofewn ychydig i Ddistrŷw. Ca [...]ha gan hynnŷ ei waith ef yn dy droi di allan o'r ffordd, a ffieiddia dy hunan am wrando arno ef.

Yn Ail, Rhaid i ti ffreiddio ei Ddiwŷdrwŷdd ef i wneuthur y Groes yn Ddiystŷr yn dy olwg di; Canŷs di a ddylit farnu fôd Dirmŷg er mwŷn Crîst yn fwŷ golud nâ thryssorau 'r Aipht. ( Hebreaid 11.25, 26.) Heblaw hŷn, Brenin y Gogoniant a fynegodd i ti a caiff yr hwn sŷ'n ewŷllysio cadw ei einios ei cholli hi; Ac mêdd efe, os daw nêb attafi, ac ni chasâo ei Dâd, a'i Fam, a i Wraig, a'i Blant, a'i Frodŷr, a'i Chwiorŷdd, ie a'i Einioes ei hun hefŷd, ni all ef fôd yn Ddyscŷbl i mi. ( Marc 8.34, 35. Luc 14.26.) Ac am hynnŷ meddafi, rhaid i ti ddiflasu ar yr Athrawiaeth honno a dder­byniaist oddiwrth Bydol Ddoethŷn, yr hwn a'th berswaediodd a bydde y peth hynnŷ yn Farwolaeth i ti, heb yr hŷn (mêdd y Gwirionedd ei hun) nid elli di gael bywŷd tragywŷddol.

Yn Drydŷdd, Rhaid i ti gashau ei waith ef yn gosod dy draed ti ar y ffordd sŷdd yn arwain i weinidogaeth Angeu. Ac ynghŷlch hynnŷ, Rhaid i ti ystyried at bwŷ yr anfonodd ef dydi, ac hefŷd mor anabi oedd y Gŵr hwnnw i'th waredu di oddiwrth dy Fauch.

Y Gŵr a elwir Deddfoldeb, (yr hwn i'th anfonwŷd atto, i geisio Esmwŷthâd) ŷw mâb y [Page 21] wasanaeth ferch, yr hon sŷdd yr awron tan gaeth­iwed, (hi a'i phlant) ac mewn dirgelwch: hi ydŷw y Mynŷdd Seinai ymma, yr hwn a ofnaist di rhag iddo syrthio ar dy Ben. ( Galatiaid 4.21. &c.) Yr awron os ydŷw hi a'i phlant yn gaethion, pa fôdd a gelli di ddisgwŷl am gael dy wneuthur yn ŵr rhŷdd ganthŷnt hwŷ? Ac am hynnŷ ni ddichon y Deddfoldeb hwn dy ryddhau di oddiwrth dy Fauch. Nis gwaredodd ef nêb Frioed etto, Ac nid oes tebŷ [...]oliaeth a gwareda ef un Dŷn bŷth rhagllaw, oddiwrth Fauch ei Bechodau. Ni chyfiawnheir nêb trwŷ weithredoedd y ddeddf, canŷs ni ddichon pobl trwŷddŷnt hwŷ gael eu rhyddhau oddiwrth eu bei­chiau, ( Rhufeiniaid 3.20. Actau 13.38, 39.) Ac am hynnŷ, nid ŷw meistr Bydol Ddoethŷn ond Estron, a meistr Deddfoldeb ond Twŷllwr, ac nid ŷw ei Fâb Gweddoldeb ond Rhagrithiwr (er tecced ei olwg a'i ymddygiad oddiallan) ac nis gallant hwŷ mo'th helpu di. Coelia fi, nid oes dim yn hôll drwst a dwndwr y Dynnion angall hŷn, ond amcan i'th siommi di o'th iechudwriaeth, trwŷ dy droi di oddiar y ffordd a gosodais i di arni. Ac wedi hyn­nŷ fe groch-waeddodd Efangylwr am gadarnhâd o'r Nefoedd ynghŷlch y pethau a llefarasal ef am danŷnt: Ac yn y man daeth geiriau a thân allan o'r Mynŷdd, (tan yr hwn yr arhosodd Cristion druan Gŵr) y rhain a wnaethant i wallt ei ben ef sefŷll i fynu. Y Geiriau oedd y rhain, Cynifer ac sŷ o weithredoedd y Ddeddf tan felldith y maent: Canŷs yscrifenwŷd, melldigedig ŷw pôb un nid ŷw yn aros yn yr hôll bethau a yscrifennir yn llyfr y Ddeddf, iw gwneuthur hwŷnt. ( Galatiaid 3.10.

Yr awron nid oedd Cristion yn Edrŷch am ddim ond marwolaeth; Ac fe a ddechreuodd wae­ddi yn alarus, gan felldithio yr amser yn yr hwn [Page 22] a cyfarfu ef a meistr Bydol Ddoethŷn; Gan ei alw ei hunan fil o weithiau yn ffôl, am iddo wrando ar ei gyngor ef: A chywilyddio yn ddirfawr a wnaeth ef hefŷd, wrth feddwl i resymmau cnawdol y Gŵr bonheddig ymma i orchfygu ef yn y fâth fôdd, fel a parent iddo droi oddiar y ffordd un­iawn; Ac ar ôl hynnŷ fe a nesodd drachefn at Efangylwr, gan lefaru wrtho fel hŷn.

CRISTION. Syr Beth a dybygwch chwi? A oes obaith? A allafi ddychwelŷd etto, a myned i fynu at y porth bychan? Oni wrthodir fi am fy nhrosedd, ac oni yrrir fi yn ôl oddiyno drwŷ gywilŷdd? Mae yn ddrŵg gannif i mi wrando ar gyngor y Gŵr hwn; Ond a ellir maddeu fy mhechodau i etto?

Efangylwr. Yna dywedodd Efangylwr wrtho, i mae dy droseddiad di yn fawr iawn; Canŷs di a wnaethost ddau ddrŵg; Di a adewaist y ffordd ddâ, ac a aethost i dramwŷ rhŷd llwŷbrau gwahar▪ ddedig: Er hynnŷ di a gei dy dderbŷn gan y Gŵr sŷdd wrth y porth; Oblegit mae ef yn ewÿllyssio yn ddâ i ddynnion: Yn enwedig ebŷr ef gwilia rhag troi oddiar y ffordd drachefn, rhag dy nagcau o'r ffordd pan gynneuo ei lid ef ond ychydig. ( Psalm 2.12.)

Yna yr ymrôdd Cristion i ddychwelŷd; Ar Efangylwr (wedi iddo ei gusanu ef) a wênôdd arno, ac a ddywedodd Duw yn rhwŷdd wrtho. Fellu efe a aeth ymlaen ar frŷs, heb yngenŷd gair wrth un-dŷn ar y ffordd: Ac os gofynnai nêb ddim iddo, ni chaent atteb yn y bŷd oddiwrtho. Yr oedd e'n cerdded megis un yn troedio o hŷd ar Dîr gwaharddedig; Ac ni allai ef ei dybied ei hun yn Ddiogel mewn un môdd, hŷd oni ddaeth ef drachefn ir ffordd a adawsai ef trwŷ gyngor Meistr Bydol Ddoethŷn; Ac fellu mewn [Page 23] ennŷd o amser, fe a ddaeth o'r diwedd hŷd at y porth, lle'r yscrifenwŷd y geiriau hŷn uwch ei ben Curwch ac fe agorir i chwi, ( Matthew 7.7, 8.) A chwedi curo mwŷ nag unwaith neu ddwŷ, fe a ddywedodd,

Dymmunwn egor y drŵs pur,
I mi bechadur truan.
Sŷ'n dwŷn gofud mawr, a phwŷs,
Nes cael Paradwŷs Wiwlan.
Os Egorŷd i mi a wneir,
I rwŷfi a'r fedeir canu,
Clod, Gogoniant, a mawl bŷth,
I ti'r Gwehelŷth Iesu.

Ymmhen ennŷd, Daeth ir porth ŵr pwŷllog sobr, a elwid Ewŷllyssiwr dâ, ac efe a ofynnodd, pwŷ sŷdd yna? Ac o ba lê yr oedd ef yn dyfod? A pha beth a fynnai ef?

CRISTION. I mae ymma Bechadur truan, trwm lwŷthog; A dyfod yr wŷfi o Ddinas Distrŷw, ond yr wŷf yn myned i fynŷdd Seion, fel i'm gwaredir rhag y Digofaint a fŷdd. Am hynnŷ Syr yn gym­maint a chlywed o honof mae trwŷ 'r porth hwn ŷw'r ffordd tuag yno, myfi a fynnwn wŷbod a ydŷchi 'n ewŷllysgar im gollwng i mewn?

Ewŷllyssiwr-Dâ. 'Rwi'n ewŷllysgar ebŷr E­wŷllyssiwr-Dâ, o'm hôll galon, ac ar hynnŷ fe a agorodd y porth.

A phan oedd Cristion yn myned i mewn, Ewŷllyssiwr-Dâ a'i cippio'dd ef atto.

CRISTION. Yna ebŷr Cristion, beth ŷw hŷn?

Ewŷllyssiwr-Dâ. O fewn ychydig at y porth ymma ebŷr Ewŷllyssiwr-Dâ, yr adeiladwŷd Castell cadarn, a Belzebub sŷdd Gapten arno: Ac oddiyno, [Page 24] I mae efe a'i filwŷr yn seuthu saethau at y rhal sŷ'n dyfod i fynu at y porth hwn, mewn bwriad iw llâdd hwŷnt cŷn yr elont i mewn.

CRISTION. Weithian ebŷr Cristion, i rwi'n ymlawenhau, ac etto yn dychrynu.

Ac wedi dyfod i mewn, gofynnodd y Fothor iddo Pwŷ oedd yr hwn a'i cyfarwŷddodd ef tu­ag yno?

CRISTION Efangylwr a barodd i mi ddyfod ymma a churo (fel a gwnaethum) ac fe a ddy­wedodd wrthŷf a cawn i wŷbod gennŷch chwi Syr, pa beth sŷdd raid i mi eu gwneuthur.

Ewŷllyssiwr-Dâ. I mae drŵs egored wedi osod o'th flaen di, ac ni ddichon nêb ei gau ef.

CRISTION. Yr awron yr wŷfi'n dechreu medi ffrwŷth fy mheryglon.

Ewŷllyssiwr-Dâ. Ond pa fôdd a daethost di heb nêb gyda thi?

CRISTION. Am nad oedd nêb o'm cym­mydogion yn gweled eu perŷgl, fel yr oeddwn i yn gweled fy mherŷgl fy hun.

Ewŷllyssiwr-Dâ. A oedd eich taith chwi yn hyspŷs i nêb o honŷnt?

CRISTION. Oedd, canŷs fy ngwraig a'm plant a'm gwelsant i yn cychwŷn, ac a alwasant ar fy ôl, i geisio gannif ddychwelŷd: Rhai hefŷd o'm cymmydogion a alwasant arnaf i ddychwelŷd. Ond myfi a osodais fy myssedd yn fy nghlustiau, ac a ddilynais fy ffordd.

Ewŷllyssiwr-Dâ. A ganlynodd nêb o honŷnt chwychwi, i'ch perswaedio i ddychwelŷd adref?

CRISTION. Do, Cyndŷn a Meddal a'm can­lŷnasant, ond pan welsant na thycciai mo'u cyngor hwŷnt, dychwelodd Cyndŷn dan lashenwi, ond Meddal a ddaeth gyda mi, nes i ni ddyfod hŷd at Gors Anobaith, ac ni a gwŷmpasom ynddi [Page 25] yn ddisymwth: Ac ar hynnŷ, fy nghymmydog Meddal a ddigalonnodd, ac nis mynnai fe fentro ymmhellach. Ac yna wedi codi o'r Gors, ar yr ochr nesaf at ei Dŷ ei hun, fe a ddywedodd wrthŷf, a gallwn ni erddo ef feddianu y wlâd dêg fy hunan. Fellu fe a aeth iw ffordd ei hun, a minneu a ddae­thum rhŷd fy ffordd inneu, ac yno aeth ef ar ôl Gyndŷn, a m nneu ir porth ymma.

Ewŷllyssiwr-Dâ. Yna ebŷr Ewŷllyssiwr dâ, ocho druan Gŵr! Ydŷw y Gogoniant Nefol mor wael yn ei olwg ef, fel nad ŷw ef yn cyfrif a tâl y gogoniant hwnnw mor ymgais am dano, oblegit bôd ychydig o rwŷstrau yn y ffordd tuag atto?

CRISTION. Myfi a ddywedais ebŷr Cristion y gwîr am Feddal, a phe dywedwn i y cwbl o'r gwirionedd am danaf fy hun, fe gaid gweled, nad wŷfi well nag ynteu. Gwîr ŷw fe a ddychwelodd iw Dŷ ei hun, a minneu hefŷd a drois i'r ffordd sŷ'n arwain i Farwolaeth, wedi fy ngwahadd i hynnŷ, trwŷ gyngor cnawdol Meistr Bydol-Ddoethŷn.

Ewŷllyssiwr-Dâ. Ho! a gyfarfu ef a chwi? Pa beth l Efe a fynnai i chwi fyned at Meistr Dedd­foldeb i geisio esinwŷthdra. Twŷllwŷr ydŷnt hwŷ ill dau. A ddilŷnaloch chwi ei gyngor ef?

CRISTION. Do, cŷn belled ac a meiddiwn: Mi a aethŷm i ymofŷn am Meistr Deddfoldeb, hŷd oni thybiais a syrthiai'r Mynŷdd (oedd wrth ei Dŷ ef) ar fy mhen i: ac am hynnŷ fe orfu i mi ymattal rhag myned ymhellach.

Ewŷllyssiwr-Dâ. Fe fu 'r Mynŷdd hwnnw yn ddinistr i lawer, ac a fŷdd fellu etto i laweroedd. Dâ ydŷw i chwi ddiangc, ac nas malwŷd chwi yn chwilfrŷw gantho.

CRISTION. Yn ddiameu, ni wn i beth a ddigwŷddalai i mi yno, oni bae i Efangylwr ar awr ddâ gyfarfod a mi drachefn, fel yr oeddwn [Page 26] yn athrist iawn yn dwŷs fyfyrio, beth a ddae o honof. Ond trugaredd Duw oedd ei ail ddyfodiad ef attafi; Oni bae hynnŷ ni ddaethwn ni bŷth ymma. Ond yr awron yr wŷf wedi dyfod, y fâth un ac ydwŷf, sêf, Dŷn yn haeddu cael fy nist­rowio, gan y mynŷdd hwnnw, ac ni haeddwn i sefŷll ymma fel hŷn, i ymddiddan a'm Harglwŷdd; O pa ffafor ŷw hŷn, fy môd er hynnŷ yn cael fy­nerbŷn i mewn ir llê hwn.

Ewŷllyssiwr-Dâ. Nid ŷm ni yn edliw dim i nêb, er cymmaint a wnaethant hwŷ cŷn dyfod ymma; Ac nis bwrir monŷnt hwŷ allan er dim. ( Joan 6.37.) Ac am hynnŷ Gristion anwŷl, Tyred gyda mi ychydig ymhellach, a mi a ddyscaf i ti y ffordd, sŷdd raid i ti fyned rhŷd-ddi; Edrŷch o'th flaen, a weli di y ffordd gûl accw? Dyna'r ffordd a dylit fŷnd rhŷd-ddi; Fe a i gwnaed hi gan y Padri­archiaid, Sêf yr uchel Dâdau, megis Abraham, Isaac, &c. ar Prophwŷdi, Crîst a'i Apostolion, ac i mae hi cŷn uniawned ag a gallai Rheol ei gwneuthur hi. Dymma'r ffordd sŷdd raid i ti siwrneio arni.

CRISTION. Ond ebŷr Cristion, a oes yno draws ffŷrdd, trwŷ y rhai a geill Dŷn dieithr golli ei ffordd?

Ewŷllysiwr-Dâ. Oes, i mae amrŷw o ffŷrdd yn dyfod ith ffordd di; Ond i maent hwŷ ôll yn geimion ac yn llydain: Ac wrth hŷn a gelli ddy­nabod yr iawn ffordd oddiwrth y croes▪ffŷrdd; I mae hi yn unig yn union ac yn gûl, a'r lleill yn geimion ac yn llydain. ( Matthew 7.13; 14.)

Yna mi a glywn Gristion yn gofŷn i Ewŷll­ysiwr-Dâ, a allai ef ei ddadlwŷtho o'r llwŷth oedd ar ei gefn; Canŷs hŷd yn hŷn ni chawsai ef wared o hono, ac nis gallai ef mewn môdd yn y Bŷd fwrw ei fauch i lawr heb help.

Yna Ewŷllyssiwr Dâ a'i hattebodd ef gan ddy­wedŷd, [Page 27] ymfodlona i aros dan dy fauch, hŷd oni ddelŷch di ir llê o esmwŷthâd, canŷs fe a gwŷmp oddiar dy gesn di yno o hono ei hun.

Yna dechreuodd Cristion wregysu ei lwŷnau, ac ymbarodtoi iw daith: A dywedodd Ewŷllyssiwr Dâ wrtho, a dae ef at Dŷ y Deongiwr, (pan elai ef ychydig bach ymlaen oddiwrth y porth) Ac fe a barodd iddo guro wrth ei ddrŵs ef; A dywedodd wrtho, a dangosai y Deonglwr iddo bethau rha­gorol. A chwedi hynnŷ fe gymmerodd Cristion ei gennad oddiwrth Ewŷllyssiwr Dâ, ac yntef hefŷd a ddywedodd wrth Gristion, bŷd dâ yr elŷch di.

Yna fe aeth Cristion rhagddo, hŷd oni ddaeth ef at Dŷ y Deonglwr, lle a curodd ef lawer gwaith: O'r diwedd daeth un ir drws ac a ofyn­nodd, pwŷ oedd yno.

CRISTION. Syr ebŷr Cristion, ymdeithŷdd ydwŷf: Ac fe a orchymvnwŷd i mi gan un sŷdd yn gydnabyddus a Gŵr dâ y Tŷ hwn alw ymma er lleshâd i mi; Ac am hvnnŷ myfi a ewŷllyssiwn ymddiddan ag ef: Fellu fe a alwodd ŵr y Tŷ, ac yn y man fe a ddaeth at Gristion, ac a ofynnodd iddo pa beth yr ydŷch yn ei geisio ymma?

CRISTION. Syr ebŷr Cristion, Dŷn wŷfi a ddaeth allan o Ddinas Distŷw, ac yr wi 'n myned tua Mynŷdd Seion; Ar Gŵr sŷ'n sefŷll wrth y porth ymhen y ffordd hon, a ddywedodd wrthŷf os galwn i ymma, a dangosech chwi i mi bethau Godidog, y fâth ag a'm cynnorthwŷent yn fy Nhaith.

Deonglwr Yna ebŷr Deonglwr, Tyred i mewn; Ac mi a ddangosaf yr hŷn a fŷdd buddiol i ti. A chwedi erchi iw wâs oleu canwŷll, fe a harodd i Gristion i ddilŷn ef; Fellu ef a'i can­lynodd i ystafell ddirgel: Ac yn ôl gorchymŷn [Page 28] ei Feistr, fe agorodd y gwâs rŷw ddrŵs, ac yna fe welai Gristion lûn Gŵr sobr iawn, wedi ei osod i fynu wrth y pared, ac fel hŷn yr oedd ei wêdd ef. Yr oedd ei lygaid ef gwedi eu derchafu tua 'r Nefoedd, yr oedd y llyfr goreu yn ei law ef, a chy­fraith gwirionedd yn yscrifenedig ar ei wefusau ef, a'r Bŷd o'r tu cefn iddo; Yr oedd efe yn sefŷll, fel ped fasai fe yn dadleuo a Dŷnnion, ac yr oedd Coron o aur ynghrog uwch ei ben ef.

CRISTION. Yna ebŷr Cristion, Beth ŷw ystyr y peth hŷn?

Deonglwr. I mae'r Gŵr a ddodir allan trwŷ 'r llûn hwn, yn un o fil: Fe a ddichon genhedlu plant, ac esgor arnŷnt, a'u magu hefŷd pan enir hwŷnt. (1 Corinthiaid 4.15. Galatiaid 4.19. 1 Petr 2.2.) Ar llê a gwelaist di ef a'i lygaid gwedi eu derchafu tua'r Nêf, a'r llyfr goreu yn ei laŵ, a chyfraith gwirionedd yn yscrifenedig ar ei wef­usau; I mae hynnŷ yn dangos i ti, mai ei waith ef ydŷw gwŷbod a datcuddio pethau tvwŷll i Be­chaduriaid. Fel a gwelaist di ef yn sefŷll, fel ped fasai yn dadleuo a Dynnion: A llê a gwelaist y Bŷd fel peth wedi ei daflu o'r tu cefn iddo, a bôd Coron yn crogi uwch ei ben ef; Y mae hynnŷ yn dangos i ti, fôd ei ddibrisiad, a'i ddirmŷg ef o'r pethau presenol, o gariad i wasanaeth ei Feistr, yn ei siccerhau ef, a caiff ef ogoniant tragywŷddol yn iawn yn y Bŷd a ddaw. ( Petr 5.4.) Yr awron ebŷr Deonglwr, myfi a ddangosais i ti y llûn hwn yn gyntaf; O herwŷdd y Gŵr a osodir allan trwŷ'r golwg hwn, ydŷw yr unig Ddŷn a awdur­dodwŷd gan Arglwŷd y llê yr wŷt ti yn myned tuag atto, ith arwain, di trwŷ bôb man dyrŷs a gyfarfyddi di yn dy siwrnai: Ac am hynnŷ craffa yn ddwŷs ar yr hŷn a ddangosais i ti, a chofia yn fanwl y pethau a welaist, rhag i ti gyfarfod yn [Page 29] dy daith, a rhai a gymmero arnŷnt dy arwain di yn yr iawn ffordd, er bôd eu ffordd hwŷ yn tywŷso i farwolaeth.

Yna efe a ymaelodd yn ei law ef, ac a'i har­weiniodd ef, i ystafell helaeth iawn, yr hon oedd yn llawn o lŵch, am nad yscŷbesid hi erioed; A chwedi edrŷch arni ennŷd fechan, fe alwodd y Deonglwr am ŵr iw hysgŷbo hi: A phan ddech­reuodd ef ysgŷbo, fe gododd cymmaint o lŵch o amgŷlch, ac a bu Cristion agos a thagu gantho. Yna ebŷr Deonglwr wrth langces oedd yn sefŷll gar llaw, Dŵg ymma ddŵr, a thaenella ef rhŷd yr ystafell; A phan wnaeth hi hynnŷ, fe ysgŷbwŷd ac a lanhawŷd y llê yn hyfrŷd.

CRISTION. Bêth ŷw meddwl hŷn ebŷr Cri­stion?

Deonglwr. A attebodd, yr ystafell hon ŷw calon dŷn, heb ei glâahau erioed gan râs hyfrŷd yr Efengŷl; Y llŵch ŷw ei bechod gwreiddiol ef, a'l lygredigaethau oddi-fewn, y rhain a halogasant yr hôll Ddŷn: A'r hwn a ddechreuodd ysgŷbo ar y cyntaf ŷw 'r Gyfraith: Ond yr hon a ddygodd ddŵr, ac a'i Taenellodd ef rhŷd yr Ystafell ŷw 'r Efengŷl: Yr awrhon llê gwelaist y llŵch yn hedeg fellu o bôb-parth yn y mannau ac a dechreuodd y cyntaf ysgŷbo (fel nad allai ef lanhau yr ystafell, ond ei fôd ef ymron dy dagu di) Sŷ'n dangos i ti, fôd y gyfraith, trwŷ ei gweithrediad, yn llê puro'r Galon (oddiwrth bechod) yn rhoddi achlysur neu achos iddi i ymadfŷwio, i gasglu grŷm, ac i gynyddu yn yr Enaid, ie, y prŷd hynnŷ pan fo hi yn datguddio ac yn gwâhardd pechod, canŷs nid ydŷw hi yn rhoddi gallu iw ostwng ef. ( Rhuf­einiaid 7.8, 12. &c. 1 Corinthiaid 15.56. Rhuf­einiaid 5.20.)

A Thrachefn, megis ac a gwelaist langces yn [Page 30] taenellu Dŵr rhŷd ystafell, trwŷ yr hŷn a glânha­wŷd hi yn hyfrŷd; I mae hynnŷ yn dangos i ti mai pan ddelo 'r Efengŷl ir galon yn ei gweith­rediad hyfrŷd a rhagorol, yna meddafi, megis ac a gwelaist y llangces yn gostwng y dŵst, trwŷ daenelliad y Dŵfr rhŷd y llawr; Fellu hefŷd a gorchfygir, ac a darostyngir pechod, ac a ganheir yr enaid trwŷ ffŷdd yn yr Efengŷl, ac fel hŷn fe a wneir y Galon yn gymmwŷs i Frenin y Gogoniant i breswŷlio ynthi. ( Joan 15.3. Ephesiaid 5.26. Actau 15.9.)

Yna mi a welais y Deonglwr yn dwŷn Cristion erbŷn ei laŵ i ystafell fechan, llê yr oedd dau o blant bychain, yn Eistedd bôb un yn ei gadair, Enw yr hynaf oedd Amhwŷllog, Ac Enw'r llall oedd Ammynedd. Ml a dybygwn fôd Amhwŷllog yn llawn o anfodlonrhwŷdd, ond yr oedd Am­mynedd yn llonŷdd iawn. Yna a gofynnodd Cristion Pa ham yr oedd Amhwŷllog mor an­fodlon? A'r Deonglwr a'i hattebodd ef a mynnai eu' Llywodraethwr hwŷ iddŷnt aros am ei bethau goreu ef, hŷd ddechreuad y flwŷddŷn nessaf; Ond fe fŷn Amhwŷllog gael y cwbl yr awron, Ond i mae Ammynedd yn fodlon i ddisgwŷl hŷd yr amser hwnnw.

Yna mi a welwn un yn dyfod at Amhwŷllog, ac yn dwŷn iddo dryssor mewn cŵd, ac yn bwrw ei gŵd i lawr wrth ei draed ef: Yntef a'i cododd ef i fynu, ac a Lawenodd: Ac Heblaw hynnŷ fe a chwarddodd yn watwarus am hen Am­mynedd: Ond ar ôl gronŷn o amser, mi a welwn ei fôd ef gwedi afradloni 'r cwbl, ac nad oedd gantho ddim wedi ei adel ond brartiau.

CRISTION. Yna ebŷr Cristion wrth y Deonglwr, deonglwch i mi y matter ymma yc eglurach.

[Page 31] Deonglwr. Arwŷddion ŷw y ddau langc hŷn ebŷr y Deonglwr; Amhwŷllog sŷ'n arwŷddo Dynnion y Bŷd hwn, ac Ammynedd sŷ'n arwŷddo Dynnion y Bŷd a ddaw; Ac megis a gweli di ymma, fe fŷnn Amhwŷllog gael y cwbl y flwŷddŷn hon, hynnŷ ŷw yn y Bŷd presenol: Fellu i mae awŷdd Gwŷr y Bŷd hwn i gael ei hôll bethau dâ yr awron; Nis gallant hwŷ aros yn Esmwŷth hŷd y flwŷddŷn nessaf (hynnŷ ŷw hŷd y Bŷd a ddaŵ) am eu cyfran o bethau daionus; I mae'r Ddihareb honno (Gwell Aderŷn mewn llaŵ na Dau yn y coed) a mwŷ o bwŷs ynthi gyda hwŷnt, na r hôll dystiolaethau Duwiol ynghŷlch Daioni y Bŷd a fŷdd: Ac megis ag a gwelaist Amhwŷllog yn gw­ario'r cwbl ymaith yn fŷan, ac nad oedd dim o fewn ychydig o amser wedi adel ganddo ond brat­tiau, fellu a bŷdd hi gyda phawb o'r fâth Ddynnion yn niwedd y Bŷd hwn.

CRISTION. Rwi'n Deall yr awron (Ebŷr Cristion) mai Ammynedd sŷdd ddoethaf; Yn Gyntaf o herwŷdd ei fôd ef yn fodlon i aros am y pethau goreu; Yn Ail oblegit a câiff ef fwŷn­hau ei gyfran gogoneddus pan na bô dim gan y llall ond brattiau.

Deonglwr. Nage, chwi a ellwch anghwan­egu rheswm arall, sêf o herwŷdd bôd Gogoniant y Bŷd a ddaŵ yn parhau dros fŷth; Ond i mae pethau 'r Bŷd hwn yn myned ymaith 'yn ddisym­mwth. ( Diharebion 23.5.) Ac am hynnŷ nid oedd i Amhwŷllog gymmaint o achos i chwerthin am ben Ammynedd, ag oedd i Ammynedd i chwerthin am ben Amhwŷllog, er i Amhwŷllog gael ei bethau dâ yn gyntaf, ac na chafodd Ammynedd monŷnt ond yn ddiweddaf; Canŷs rhaid i Amhwŷllog roddi llê i Ddiweddaf, oblegid rhaid i Ddiweddaf gael yr amser a ddaŵ: Ond nid ŷw diweddaf yn rhoddi [Page 32] i ddim arall, canŷs nid oes peth arall i ddyfod yn ei lê ef; Rhaid gan hynnŷ, ir hwn a gaiff ei ran yn gyntaf, gael amser hefŷd iw dreulio; Ond rhaid ir hwn a gaiff ei gyfran yn ddiweddaf ei chael hi dros fŷth; Ac am hynnŷ a dywedir am Ddeises, di a dderbyniaist dy Wŷnfŷd yn dy fywŷd, ac fellu Lazarus ei Adfŷd, Ac yr awron a diddenir ef, ac a poenir ditheu. ( Luc 16.25.)

CRISTION. Mi a welaf yr awron ebŷr Cristion, mai gwell ŷw disgwŷl am y pethau sŷdd i ddyfod, na thrachwantu y pethau presenol.

Deonglwr. Chwi a ddywedasoch y gwir, canŷs y pethau a welir sŷ tros amser, ond y pethau ni welir sŷ Dragywŷddol, (2 Corinthiaid 4.18.) Ond er bôd y matter fellu, etto gan fôd y pethau presenol a'n Blŷs cnawdol ni yn Gymmydogion agos iw gilŷdd; A thrachefn oblegit bôd y pethau i ddyfod, a'n Synhwŷrau cnawdol ni yn Ddieithraid iw gilŷdd, hynnŷ ŷw y rheswm pa ham a mae y cyntaf o'r rhain yn dyfod mor fŷan i ymgyfeillachu a'u gilŷdd yn garedig, a bôd yr ail yn aros cŷn belled y naill oddiwrth y llall.

Yna mi a welais y Deonglwr yn ymaelŷd yn llaw Cristion, ac yn ei ledio ef i fan llê yr oedd Tân wedi gynneu wrth fagwŷr, ac un yn sefŷll wrtho yn bwrw llawer o ddŵr arno vn wastadol iw ddiffodd ef, etto yr oedd y tân yn fflammio yn uwch ac yn boethach.

CRISTION. Bêth sŷdd i ni iw ddeall wrth▪ hŷn ebŷr Cristion.

A'r Deonglwr a attebodd, y Tân hwn ŷw Grâs Duw wedi ei weithio yn y galon, a'r hwn sŷ'n bwrw Dŵr arno iw ddiffodd ef, ŷw 'r Diaw [...] Ond llê gwelaist y tân yn llosci yn uwch ac yn boe­thach er bwrw'r dŵfr arno, dydi a gei weled hefŷd yr achos o hynnŷ ▪ Ac fellu fe a'i lediodd ef o [Page 33] amgŷlch i ystlŷs arall y fagwŷr; Ac fe a welal yno wr a llestr yn ei law, o'r hwn yr oedd ef yn tywallt allan olew yn wastadol (etto yn ddirgel) ir tân.

CRISTION. Yna ebŷr Gristion, pa beth ŷw ystŷr y pethau ymma.

Deonglwr. Hwn ŷw Crist (ebŷr y Deong­lwr) sŷdd yn wastadol ag olew ei râs yn cynnal y gwaith dâ, a ddechreuodd ef eusus ynghalonau ei bobl; ac am hynnŷ er a allo'r Diawl ei wneuthur, i mae eu heneidiau hwŷnt yn parhau yn rasol fŷth, (2 Corinthiaid 12.9. Philemon 1.6.) Ac llê a gwelaist y Gŵr yn sefŷll o'r tu ôl ir mûr, i faen­tumio y tân, i mae hynnŷ yn dangos i ti mai peth anhawdd ydŷw ir temptiedig weled pa fôdd yr ydŷs yn cynnal y grâs ymma yn eu heneidiau.

Myfi a ganfum hefŷd y Deonglwr yn cymmerŷd Cristion drachefn erbŷn ei law, ac yn ei dwŷso ef i fann hyfrŷd, llê yr adailadwŷd Llŷs gwŷch, a phrydferth ir golwg [...] Ac wrth edrŷch ar y Neuadd-dŷ hwn, fe a ymlawenychodd Cristion yn ddirfawr: Ac fe a welodd hefŷd rai yn rhodio ar nenn y Tŷ, wedi eu dilladu ôll a brethŷn aur: Yna ebŷr Cristion, a allwn ni fyned i mewn ir Tŷ hwn; Ond y Deonglwr a'i cymmerodd ef, ac a'i harweiniodd i fynu tua drws y Plâs; Ac wele yr oedd lliaws mawr o bobl yn sefŷll wrth y drws, megis rhai yn chwennychu myned i mewn, ond nis meiddient: Ac yr oedd Gŵr hefŷd yn eistedd yno yn o-agos ir drws wrth fwrdd, a llyfr a chorn dû yscrifennŷdd o'i flaen ef, i yscrifennu i lawr Enwau y sawl a aent i mewn ir llŷs; Ac fe a welai hefŷd lawer o Wŷr arfog, yn sefŷll ar y ffordd (oedd yn arwain ir Drŵs) iw chadw hi, wedi ymroi i wneuthur cymmaint o ddrŵg, a niweid ac a allent ir Dynnion a fynnent fyned i mewn, ( Actau 14.22. 2 Timotheus 3.12.) A synnu a wnaeth Cristion [Page 34] ar hŷn: O'r diwedd pan oedd pawb yn cillo yn ôl rhag ofon y Gwŷr arfog, fe welai Cristion ddŷn ag wŷneprŷd Gwrol gantho, yn dyfod i fynu at yr hwn oedd yn eistedd yno i yscrifennu, gan ddy­wedŷd wrtho, Syr, rhoddwch i lawr fy Enw i, a phan wnaeth ef hynnŷ, fe welai'r Dŷn yn tynu ei gleddŷf, ac yn gosod helm ar ei ben, ac yn rhuthro tua'r Drŵs ar draws y Gwŷr arfog, y rhai a ymosodasent yn ei erbŷn ef yn gynhwŷnol ag arfau angheuol: Ac nid allent hwŷ ei ddigalonni ef mewn môdd yn y Bŷd, ac am hynnŷ fe ym­laddodd a nhwŷ yn ffyrnig; Ac fellu wedi cael ei glwŷfo ganthŷnt, a rhoddi amrŷw o friwiau idd­ŷnt, sêf ir sawl oedd yn ceisio ei gadw ef allan, fe a wnaeth ei ffordd trwŷddŷnt hwŷ ôll, ac a ym­wthiodd ymlaen ir llŷs: Ac ar hynnŷ clybwŷd llais hyfrŷd y rhai oedd yn y Llŷs, sêf y sawl oedd yn rhodio ar nenn y Tŷ, yn dywedyd,

Tyred, Tyred, i mewn yn wrol,
Ac ennilli fraint tragwŷddol.

Fellu fe a aeth i mewn, ac fe a'i gwiscwŷd ef yno ar un-rhŷw Ddillad a nhwŷthau: Yna a gwe­nodd Cristion ac a ddywedodd; Yn ddiamme mi dybygwn a gwn i beth ŷw yslŷr a meddwl hŷn igŷd.

Yr awron ebŷr Cristion, gadewch i mi fyned oddi-ymma; Nage ebŷr y Deonglwr, Aros hŷd oni ddangoswŷf i ti ychydig ychwaneg, a chwedi hyn­nŷ di a gai fyned ith ffordd; Fellu fe ymaelodd yn ei law ef drachef, ac a'i harweiniodd i ystafell dywŷll iwan, llê yr oedd Gŵr yn eistedd mewn cyffion o haiarn, wedi ei gau i fynu megis Aderŷn mewn rhwŷd.

Yr awron fe ellid tybied wrth edrŷch ar y [Page 35] Dŷn, ei fôd ef yn athrist iawn: Canŷs yr oedd ef yn eistedd a'i olygon tua 'r Ddaiar, a'i ddwŷlo gwedi eu plethu ynghŷd; Ac yr oedd ef yr ochen­eidio, fel pedfasai ef ar dorri ei galon; Yna ebŷr Cristion, pa beth sŷdd i mi iw ddeall wrth hŷn? A'r hynnŷ fe a archodd y Deonglwr iddo ymddi­ddan a'r Dŷn.

CRISTION. Yna ebŷr Cristion wrth y Dŷn, Pwŷ wŷti? yntef a'i hattebodd ef, yr wŷfi yr hŷn nid oeddwn gŷnt.

CRISTION. Pa beth a fuosti gŷnt?

Dŷn. Dywedodd y Dŷn wrtho, mi a fum tros drô yn Broffessor têg blodeuog yn fy ngolwg fy hunan, ac yngolwg eraill hefŷd; Mi a dybiais unwaith fy môd i yn y ffordd ir Ddinas Nefol, ac yr oedd yn llawen gennif y prŷd hwnnw, pan fedd­yliwn yr awn i yno.

CRISTION. Ond pa beth wŷt ti yr awron▪

Dŷn. Yr wŷn yr awron yn Ddŷn sŷdd yn llawn o Anobaith, ac fe a'm cauwŷd i yntho, me­gis yn y cyffion haiarn ymma; Nis gallafi ddyfod allan o hono mewn môdd yn y bŷd.

CRISTION. Ond pa fôdd a daethost ir cyflwr hwn.

Dŷn. Peidio a wneuthum a gwilio a bôd yn sobr: Myfi a adewais garreiau y ffrwŷn i gw­ŷmpio ar wddwf fy nhrachwantau; Mi a drosedd­ais yn erbŷn goleuni y Gair, a Daioni Duw; Myfi a ddigiais yr Ysprŷd glân, ac fe a ymadawodd a mi; Mi a demptiais y Diawl, ac fe a ddaeth attaf; Myfi a gyffrois Dduw i ddigofaint, ac fe a'm gada­wodd i; A chaledais fy nghalon yn y fâth fôdd, fel nas gallaf edifarhau.

Yna ebŷr Cristion wrth y Deonglwr, A oes dim gobaith ir fâth Ddŷn a hwn?

Gofŷn iddo ef ei hun ebŷr y Deonglwr.

[Page 36] CRISTION. Yna ebŷr Cristion wrtho ef, a oes dim gobaith? Ond a gedwir di dros fŷth yn y fagl haiarn hon o Anobaith?

Dŷn. Nid oes ganni obaith yn y bŷd.

CRISTION. Pam hynnŷ? onid ŷw mâb y Bendigedig yn dosturiol iawn?

Dŷn. Myfi a'i hail-groes-hoeliais ef i mi fy hun; Mi a ddirmygais ei berson ef, ac a ddibrisiais ei gyfiawnder ef, ac a fernais ei waed ef yn aflan, ac a lashenwais ysprŷd y grâs; Ac am hynnŷ nid oes un o'r addewidion ynghŷlch trugaredd yn perthŷn i mi; Ac nid oes dim wedi ei adael i mi yr awron ond y bygythion erchill ac ofnadwŷ, ynghŷlch cospedlgaeth siccr, a phoethni tân, yr hwn a'm difa i megis Gwrthwŷnebwr. ( Hebreaid 6.6. Luc 19.24, 27. Hebreaid 10.28, 29.)

CRISTION. Am ba bethau a dygasoch eich hunan ir cyflwr hwn.

Dŷn. Am drachwantau, a melusedd, a golud y Bŷd hwn; Ac myfi a addewais y prŷd hynnŷ i mi fy hun lawer o hyfrydwch trwŷ eu mwŷnhau hwŷnt: Ond yr awron I mae pob un o honŷt yn fy nghnoi, ac yn fy ysu megis pryfed poethion gwenwŷnllŷd.

CRISTION. Oni elli di edifarhau, a dych­welŷd.

Dŷn. Duw a naccaodd i mi edifeirwch; Nid ŷw ei air ef yn rhoddi dim gobaeth i mi i gredu; Ie fe am cauodd i a'i law ei hun yn y rhwŷd haiarn hon: Ac ni ddichon hôll Ddynnion y Bŷd fy-ngollwng i allan oddi ymma. O Tragy­wŷddoldeb! Tragywŷddoldeb! Pa fôdd a diodd­efaf y gofud a fŷdd arnaf, pan ddelwŷf i'th Fôr o dân annherfynol.

Deonglwr. Yna ebŷr y Deonglwr wrth Cristion, cofia ddialedd y Dŷn hwn, a bydded [Page 37] hŷn yn rhybŷdd i ti fŷth.

CRISTION. Wele ebŷr Cristion, I mae hŷn yn ofnadwŷ; Duw a'm cynnorthwŷo i, i wilio [...] bôd yn sobr, ac i weddio fel a gallwŷf ochelŷd yr achos o ddrychineb y Dŷn hwn; Syr, onid ŷw hi'n brŷd i mi fyned i'm ffordd bellach?

Deonglwr. Aros hŷd oni ddangoswŷf i ti un peth ychwaneg, a chwedi hynnŷ di a gai fyned ith ffordd.

Fellu fe ymaelodd yn llaw Cristion drachefn, ac a'i harweiniodd ef i ystafell, llê yr oedd un yn codi o'i welŷ; Ac fel yr oedd ef yn gwisco ei Ddillad, yr oedd e'n crynu ac yn ofni: Yna ebŷr Cristion pa ham a mae 'r Dŷn ymma yn crynu fel hŷn? A'r Deonglwr a barodd iddo fynegu i Gri­stion yr achos o'i ddychryndod; Yntef ar hynnŷ a adroddodd wrtho freuddwŷd a welsai ef y noson honno; Mi a welais ebŷr ef y Nefoedd yn duo yn ddirfawr, ( Matthew 24.29.) Bu hefŷd daranau a mellt mor ofnadwŷ ag a crynais i gan ofn. A chwedi edrŷch i fynu, mi a welais y cymylau yn ymrwŷgo mewn môdd anarferol; Ac ar hynnŷ myfi a glywais uchel lais udcorn, ac a welais ŵr hefŷd yn eistedd ar Gwmwl, a miloedd neu Lu y Nefoedd gydag ef; Yr oeddent hwŷ ôll megis Tân fflamllŷd, Yr oedd y Nefoedd hefŷd ar Dân poethlud. (1 Thessaloniaid 4.16. Daniel 7.10, 13. Judas 14, 15. 2 Thessaloniaid 1.7, 8. 2 Petr 3.10.) Yna mi a glywais lêf yn dywedŷd wrth y Meirw, Cyfodwch a dowch ir Farn▪ A chyda hynnŷ y Creigiau a holltwŷd, y Beddau a agorwŷd, a'r Meirw oedd ynthŷnt a ddaethant allan: Yr oedd rhai o honŷnt yn llawen iawn, ac yn edrŷch tuag i fynu; Ond rhai a geisiasant ymguddio dan y Mynyddoedd, ( Joan 5.28, 29. Luc 21.28. Dat­cuddiad 6.16, 17.) Yna mi a welais y Gŵr, oedd [Page 38] yn eistedd ar y Cwmwl, yn agorŷd llyfrau, ac yn erchi ir Bŷd nesu. ( Matthew 25.32. Datcuddiad 20.12, 13.) Etto yr oedd o achos y fflam danllŷd oedd yn dyfod o'i flaen ef, ennŷd o lê rhyngtho ef a hwŷnt, megis rhwng y Barnwr ar yr orseddfaingc a'r Carcharorion wrth y Barr; Myfi a glywais hefŷd gyhoeddi (ir sawl oedd yn canlŷn y Gŵr oedd yn eistedd ar y Cwmwl) Cesglwch ynghŷd yr Efrau, a'r us, a'r Sofl▪ a bwriwch hwŷnt ir llŷn o Dân, ( Matthew 13 30 & 3.12. Malachi 4.2.) Ac a'r hynnŷ yr ymegorodd y pwll di▪waelod, yn union ynghŷlch y fann yr oeddwn i yn sefŷll arno; A daeth llawer o fŵg, a marwor tanllŷd, a chroch­leisiau dychrynllŷd allan o'i safn; A dywedwŷd hefŷd wrth y gweinidogion, Cesglwch fy 'ngw­enith i'm yscubor, ( Matthew 13.30.) Ac ar hynnŷ mi a welais gippio llawer i fynu, a'u dwŷn ym­maith ir Cymmylau, ond fe a'm gadawŷd i yn ôl, (1 Thessaloniaid 4.17.) Minneu hefŷd a ymdrechais i ymguddio, ond nis gallwn i Oblegid fôd y Gŵr oedd yn eistedd ar y. Cwmmwl yn cadw ei olwg arnaf yn wastadol; Fy mhechodau hefŷd a ddaethant im côf, a'm Cydwŷbod oedd yn fy nghyhuddo am danŷnt ( Rhuseiniaid 2.15.) Ar hŷn Mi a ddeffrois o'm cwsc.

CRISTION. Ond pa beth a wnaeth i chwi fôd mor ofnus wrth weled y pethau hŷn?

Dŷn. Meddwl a wneuthŷm fôd Dŷdd y Farn wedi dyfod, a'm bôd inneu yn amharod erbŷn y Dŷdd hwnnw; Ond hŷn a'm dychrynodd i fwŷaf, ir Angylion gasclu llewer i fynu, a'm gadel i yn ôl; Pwll uffern hefŷd a agorodd ei safn wrth y mann llê yr oeddwn i yn sefŷll; Heb law hŷn yr oedd fy nghydwŷbod yn fy nhrallodi, ac (fel a tebygwn i) yr oedd y Barnwr yn cadw ei olwg arnaf yn wastadol, gan ddangos llidiawgrwŷdd [Page 39] yn ei wŷnebprŷd.

Deonglwr Yna ebŷr y Deonglwr wrth Gri­stion, A ystyriaist di y pethau hŷn ôll?

CRISTION. Do ebŷr Cristion, ac i maent yn perl i mi obeithio, ac ofni.

Deonglwr. Wele, cadw dithau 'r cwbl fellu yn dy gôf, fel a gallont fod megis symbylau yn dy ystlysau, i'th bigo di ymlaen yn y ffordd sŷdd raid i ti fyned rhŷd-ddi: Yna dechreuodd Cristion wregysu ei lwŷnau ac ymbarodtoi i gychwŷn; Yna ebŷr y Deonglwr, Cristion an wŷl! Y Diddanŷdd a fyddo gyda thi bôb amser, i'th gyfarwŷddo di yn y ffordd sŷ'n arwain ir Ddinas Nefol.

Fellu Cristion a aeth ymlaen rhŷd ei ffordd dan ganu.

Ymma gwelais bethau buddiol,
Pethau ymheuthŷn, a rhyfeddol,
Pethau hyfrŷd, ac ofnadwŷ,
Pethau i'm gwneuthur yn safadwŷ.
Glynu a wnelwŷf bôb mynudŷn,
Yn y pethau a ymaelais ynthŷn:
Rhaid im gofio, ac ystyried,
O herwŷdd pam a ces eu gweled.
A bydded i mi bŷth (dan amod
Tra bo ynof Rŷm a chwŷthod)
Roddi Diolch i ti beunŷdd,
Am dy gariad, fy nehonglŷdd.

Yr rwon mi welais yn fy mreuddwŷd, fôd y bri­ffordd (yr hon oedd yn rhaid i Gristion fyned rhŷd-ddi) wedi ei chau o'r ddau tu a mur, ac Enw 'r mur oedd iechŷdwriaeth, ( Esaŷ 26.1.) Cristion gan hynnŷ a redodd i fynu rhŷd y ffordd [Page 40] hon, ond nid heb anhawsder mawr, o achos y Bauch oedd ar ei gefn ef.

Fe a redodd hŷd oni ddaeth ef i lê oedd yn ych­ydig allt, ac yr oedd Cross yn sefŷll ar y mann hwnnw; Ac ychydig bach îslaw hynnŷ, yn y goriwared yr oedd Bêdd: Yna mi a welais yn fy mreuddwŷd (wedi i Gristion ddyfod i fynu at y Groes) fôd ei fauch ef wedi ollwng oddiar ei yse. wŷddau, Ac ar hynnŷ fe a fyrthiodd oddiar ei Gefn ef, ac a ddechreuodd dreinglo, ac a barhaodd yn gwneuthur fellu hŷd oni ddaeth ef i eneu y Bêdd, llê a syrthiodd ef i mewn iddo, ac ni welais i mono mwŷ.

Yna a llawenychodd Cristion, ac fe a lefarodd a chalon gysurus gan ddywedŷd, Trwŷ ei ofud ei hun a'i farwolaeth a rhoddodd ef esmwŷthdra a bywŷd i mi; Yna fe a safodd ennŷd yn llonŷdd, gan edrŷch a rhyfeddu; Canŷs yr oedd yn rhyfedd gantho iw olwg ar y Groes ei esmwŷthau ef o'i Fauch fel hŷn. Am hynnŷ efe a edrychodd, ac a edrychodd drachefn, hŷd oni tharddodd Dyfroedd allan o'i Ben ef i wared rhŷd ei ruddiau ( Zacharia 12.10.) Ac fel yr oedd ef yn edrŷch ac yn wŷlo fe a wele Dri o rai disclair gogoneddus yn dyfod atto, ac yn cyfarch gwell iddo, gan ddywedŷd Tangneddŷf i ti; A dywedodd y cyntaf wrtho, o Gristion! Maddeuwŷd i ti dy bechodau, ( Matthew 9.2.) A'r Ail a ddioscodd ei Frattiau oddiam dano, ac a'i gwisgodd ef a Dillad newŷdd, ( Zacharia 3.4.) A'r Trydŷdd a osododd nôd ar ei dalcen ef, ac a roddodd blŷg-lyfr iddo, a sêl arno; Ac a archodd iddo edrŷch ar hwnnw wrth ymdeithio, a'i roddi ef i mewn ymhorth y Ddinas Nefol, ( Ephesiaid 1.13.) Ac ar ôl hynnŷ hwŷ a aethant ymaith, a Christion a neidiodd dair gwaith o lawenŷdd, ac a aeth ymlaen dan ganu.

Mi ddaethum hŷd yn hŷn mewn gofud,
Dan ddirfawr Fauch fy mhechod enbŷd;
Yn llwŷthog iawn, heb gaffael canfod,
Dim a allai esinwŷtho 'nhrallod.
Daethum ymma dan ofudio;
Ac 'rwi'n cael fy llwŷr gysuro:
A raid ir llê bendigaid ymma,
Ddechrau fy hapusrwŷdd mwŷa?
A'i ymma sŷrth fy mauch aflawen,
Yn rhŷdd, yn rhwŷdd oddiar fy nghefen?
A'i ymma torrir y rheffynnau,
A rwŷmodd hwnnw ar fŷ 'scwŷddau?
Bendigaid Groes, a Beddrod buddiol!
Yn hytrach tra bendigaid bythol
A fo'r Gŵr a aeth yn un-swŷdd,
Er fy mwŷn i oddef gwradwŷdd.

Yna mi a welais Gristion yn myned ymlaen, hŷd am ddaeth ef i oriwared, llê gwelodd ef (ych­ydig allan o'r ffordd) dri o wŷr yn cysgu 'n drwm, a'u Traed a lly ffetheiriau arnŷnt; A'u Henwau oedd Angall, Diog, a Rhyfŷg.

Cristion Wedi eu gweled hwŷnt yn gorwedd fellu, a aeth attŷnt, i edrŷch a allai ef eu dihuno hwŷnt; Ac a waeddodd gan ddywedŷd, yr ydŷch chwi ymma fel rhai yn cyscu ar ben hwŷl-bren, ac i mae y môr marw, sêf y pwll di waelod, oddi­canoch, ( Diharebion 23.34.) Deffrowch gan hynnŷ, a dowch ymaith: Byddwch ewŷllysgar hefŷd, ac myfi a'ch rhŷddhaf chwi o'ch heirn; Dywedodd hefŷd wrthŷnt, os y Diawl sŷ'n rhodio oddiam­gŷlch fel Llew rhuadwŷ, a ddaw heibio, chwi a fyddwch yn ddiammeu yn ysclyfaeth iw Ddannedd [Page 42] ef, (1 Petr 5.8.) A'r hynnŷ hwŷ a edrŷchasant arno, ac a'i hattebasant ef fel hŷn: Angall a ddy­wedodd wrtho, Ni welafi ddim perŷgl; Diog a ddywedodd, etto ychydig heppian; A Rbyfŷg a ddywedodd, Rhaid i bôb llestr sefŷll ar ei waelod ei hun; Ac fellu hwŷ a orweddasant i lawr i gyscu drachefn, a Christion a aeth iw ffordd.

Etto yr oedd yn flin gantho ef feddwl i wŷr oedd yn y perŷgl hwnnw ddibrisio ei garedig­rwŷdd ef, gan iddo gynnig eu helpu nhwŷ mor rhwŷdd ac mor rhâd, trwŷ eu deffroi a'u cyng­hori, a dangos ei Ewŷllŷsgarwch iw rhyddhau nhwŷ o'u heirn; Ac fel yr oedd ef yn ymofudio ynghŷlch hynnŷ, fe ganfu ddau ŵr yn dyfod yn drwsgwl dros y mur, ar y llaw aswŷf ir ffordd gyfŷg; A hwŷ a ddaethant i fynu atto ef yn fŷan; Enw un o honŷnt oedd ffurfiol, ac Enw'r llall oedd Rhagrithiwr; Yntef a ddechreuodd ymddiddan a nhwŷ fel hŷn.

CRISTION. Foneddigion, o ba lê a daethoch chwi, ac i ba lê yr ydŷch yn myned?

Ffurfiol, a Rhagrithiwr. Fe a'n ganwŷd ni yng­wlâd Gwag-ogoniant, a myned yr ydŷm ni tua mynŷdd Seion am glôd.

CRISTION. Pa ham na ddaethoch chwi i m [...]wn trwŷ'r porth sŷdd ymhen y ffordd? Oni wŷddoch chwi fôd hŷn yn yscrifennedig, yr hwn nid ŷw yn myned i mewn drwŷ 'r drŵs, ond sŷdd yn dringo ffordd arall, lleidr ac yspeliwr ŷw. ( Joan 10.1.)

Ffurfiol, a Rhagrithiwr. Hwŷthau a ddywed­asant, fôd eu hôll wlâdwŷr hwŷ yn cyfrif fôd y ffordd ir porth yn rhŷ bell o amgŷlch, ac am hynnŷ eu harfer hwŷ oedd ei chwttogi hi, a dringo dros y m [...]r, fel a gwnaethent hwŷthau.

CRISTION. Oni chyfrifir hŷn yn gamwedd, [Page 43] sêf, i rai droseddu fel hŷn yn erbŷn ewŷllŷs dac­cuddiedig Arglwŷdd y Ddinas, yr hon yr ydŷm ni yn myned tuag atti.

Ffurfiol, a Rhagrithiwr. Hwŷthau a ddywed­asant wrtho Nad oedd raid iddo ef flino ei Ben ynghŷlch hynnŷ; Oblegid fôd ganthŷnt hwŷ ddefod am y peth yr oeddent yn ei wneuthur, ac a gallent (ped-fyddai raid) ddwŷn tystiolaeth a dystiolaethai hynnŷ er ys mwŷ na mîl o flyn­nyddoedd.

CRISTION. Ond ebŷr Cristion, a fŷdd eich gwaith chwi yn gymmeradwŷ, os profir ef wrth y gyfraith?

Ffurfiol, a Rhagrithiwr. Hwŷthau a ddywed­asant wrtho ef a caiff arfer (gan ei bôd yn sefŷll cyhŷd, sef er ys mwŷ na míl o flynnyddoedd) ei chyfrif yr awron yn ddiammeu yn llê cyfraith gan Farnwr annhueddol; Ac heblaw hynnŷ (ebŷr nhwŷ) os daethom ni ir ffordd pa fatter ydŷw pa fôdd a daethom ni iddi; Os ydŷm ni ynthi yr ydŷm ni ynthi; Nid wŷt ti ond yn y ffordd, yr hwn a ddaethost fel a gwŷddom ni tiwŷ'r poith; Ac yr ydŷm ninnau hefŷd yn y ffordd, y rhai a ddaethom iddi yn diwsgwl dros y mûr; Ymha beth bellach a mae dy gyflwr di yn well na'n cyflwr ni?

CRISTION. Yr wŷfi yn rhodio yn ôl Rheol fy Meistr, a chwithau ydŷch yn rhodio yn ôl eich Tŷb gwrthŷn eich hunain; Yr ydŷch yn Lladron eusus ynghyfrif Arglwŷdd y ffordd; am hynnŷ i mae 'n ddiammeu gannif na chair monoch yn wŷr cywir yn ei diwedd hi ( Joan 10.1.) Chwl a ddae­thoch i mewn yn ôl eich cyngor eich hunain heb ei gyfarw ŷddiad ef; A chwi a gewch eich gyrru allan ar eich pen eich hunain, heb ei diugaredd ef. ( Luc 13.25, 26, 27.)

Ond nid attebasant hwŷ nemawr i hŷn; Ond yn [Page 44] hwŷ a archasant iddo ef edrŷch atto ei hun: Yna mi a'u gwelais hwŷnt yn myned rhagddŷnt bôb un rhŷd ei ffordd, heb ymddiddan ond ychydig iawn a'u gilŷdd; Oddigerth dywedŷd o'r ddau ŵr ym­ma wrth Gristion, mai am Gyfreithiau ac Ordin­hadau nad oeddent yn ammeu nas cadwent y rheini mor gydwŷbodol ac vnteu: Am hynnŷ ni wŷddom ni ebŷr nhwŷ, pa ragoriaeth sŷdd rhy­ngot ti a ninneu, ond bod yr hugan yna am dy gefn di, yr hon a roddwŷd i ti (dybygwn ni) gan rai o'th gymmydogion, i guddio dy noethni cywilyddus.

CRISTION. Ni achubir monoch chwi trwŷ Ddeddfau ac Ordinhadau, ( Galatiaid 2.16.) Ni dderbynnir nêb ir Ddinas Nefol, ond y sawl sŷ'n dyfod yno trwŷ'r drŵs ( Joan 10.9. & 14.6.) Ac am y Siacced sŷdd am fy nghefn, hi a roddwŷd i mi gan Arglwŷdd y llê yr wŷf yn myned iddo; A hynnŷ fel a dywedafoch i guddio fy noethni a hi; Ac yr wŷf yn ei chymmerŷd hi fel Arwŷdd o'i garedigrwŷdd ef tuag attaf, canŷs nid oedd gennif ddim ond brattiau o'r blaen: Ac heblaw hynnŷ yr wŷf yn fy nghysuro fy hunan yn y môdd ymma wrth siwrneio, yn ddiammeu dybygaf pan ddelwŷf i Borth y Ddinas, ei Harglwŷdd hi a'm adnebŷdd i yn ddigon dâ, gan fod gennif ei siacced ef am danaf; y siacced a roddodd ef i mi yn rhâd, yn y dŷdd a dioscodd ef fy mrattiau oddiam-danaf. I mae gen­nif hefŷd Nôd ar fy nhalcen (yr hwn, ondodid, ni ddaliasoch sulw arno) a osodwŷd yno gan un o gyfeillion anwŷlaf fy Arglwŷdd, yn y Dŷdd a syr­thiodd fy Mauch oddiar fy ysgwŷddau; Ac mi a ddywedaf i chwi yn ychwanag, roddi i mi y prŷd hynnŷ Blŷg-lyfr wedi ei selio▪ im cyfuro i ŵrth ei ddarllen rhŷd y ffordd: Ac fe a orchymynwŷd i mi hefŷd i roddi ef i mewn ymmnorth y Ddinas [Page 45] Nefol, yn arwŷdd o'm mynediad siccr inneu i mewn ar ei ôl ef ir fann honno; I mae'n Siccr gannif fôd arnoch chwi eisiau y pethau hŷn ôll, ac yr ydŷch chwi hebddŷnt hwŷ am na ddaethoch i mewn trwŷ'r porth.

Nid attebasant hwŷ ddim iddo ef ynghŷlch y matterion ymm [...] ▪ Ond hwŷ a edrŷchasont ar eu gilŷdd, ac a chwarddasant: Yna mi a'u gwelais hwŷ ôll yn myned ymlaen, a bôd Cristion yn cerdded yn galedtach gan eu gadel hwŷthau o'i ôl, ac nid ymddiddanodd ef ddim mwŷ a nhwŷ; Ond yr oedd ef yn myfyrio yntho ei hun, weithiau dan ocheneidio, ac. weithiau dan ymgysuro; Hefŷd fe a fyddai yn darllen yn fynŷch yn ei blŷg-lyfr, ac yr oedd ef yn cael Diddanwch oddiwrtho.

Mi a'u gwelwn hwŷ gwedi hynnŷ yn myned ôll ymlaen, hŷd oni ddaethant i ymmŷl Brŷn dy­rus, ac ŵrth y Brŷn hwnnw yr oedd ffynnon; Ac hefŷd yn yr un llê yr oedd dwŷ ffordd arall, heb law yr hon oedd yn dyfod yn union oddiwrth y porth; Un yn troi ar y llaw aswŷ, ar llall ar y llaw ddeheu wrth droed y mynŷdd; Ond yr oedd y ffordd gyfŷng yn myned yn union i fynu ir Brŷn; Fe aeth Cristion yr awron ir ffynnon, ac a' yfodd o honi iw hybu ei hun, ( Esaŷ 49.10.) Ac yna efe a ddechreuod fyned i fynu ir Brŷn, dan ganu

Rwŷf yn chwennŷch mŷnd yn gefnog,
I benn y Brŷn sŷdd fawr a chribog:
Ac er uched ŷw ei goppa,
Ni'm rhwŷstrir i gan ddim anhawstra.
Am mi wn mai dymma 'r hyfrŷd
Ffordd sŷ'n arwain Dŷn i fywŷd:
Cymraf galon, âf yn wisgi,
Yn fy mlaen, heb rus, nac ofni.
Gwell ŷw cerdded y ffordd union,
Er bôd rhwŷstrau ynddi ddigon:
Na mŷnd rhŷd y traws gam lwŷbŷr,
Er ei fôd e'n hawdd ddirwŷstŷr.

Y ddau eraill hefŷd a ddaethant hŷd troed y Brŷn; Ond pan welsant fôd y Brŷn yn serth, a bôd yno ddwŷ ffordd arall i fyned; A chan dybied hefŷd a cyfarfyddai y ddwŷ ffordd hynnŷ drachefn, a'r ffordd yr aethai Cristion i fynu rhŷd▪ddi (ar yr ystlus arall ir Brŷn) hwŷ a ymroesant am hynnŷ i fynend rhŷd y ffŷrdd ymma (Enw un or ffŷrdd oedd Perŷgl, ac Enw'r llall oedd Distrŷw) Fellu y naill ŵr a gymmerodd y ffordd a elwir Perŷgl, yr hon a'i harweiniodd ef i Goedwig fawr; A'r llall a aeth yn union rhŷd y ffordd oedd yn arwain i Ddistrŷw, yr hon a'i harweiniodd ef i fann eheng yn llawn o fynyddoedd tywŷll, llê a tramgwŷddodd ac a syrthiodd ef, ac ni chyfododd ef mwŷ.

Yna mi a edrychais ar ôl Cristion, iw weled ef yn myned i fynu i ben y Brŷn; Ac mi a'i gwelwn ef (gwedi rhedeg ar y cyntaf) yn cerdded yr awron, ac o'r dlwedd yn crippian i fynu ar ei draed a'i ddwŷlo, oblegid fôd y llê yn serth ac yn llithrig, Ac ynghŷlch hanner y ffordd i ben y Brŷn, yr oedd eisteddle hyfrŷd o goed plann, wedi ei osod gan Arg­lwŷdd y Brŷn, i orffwŷso ymdeithwŷr deffygiol; Ac am hynnŷ fe aeth Cristion yno, ac a eisteddodd i lawr i gymmerŷd gorphwŷsfa yn y llê hwnnw; Yna efe a gymmerodd ei Blŷg-lyfr allan o'i fynwes ac a ddarllenodd yntho, ac a gafodd ddiddanwch oddiwrtho; Efe a ddechreuodd hefŷd yr awron ail-edrŷch ar y siacced a roddasid iddo ef, pan oedd ef yn sefŷll wrth y Groes; A chwedi iddo gael bodlonrhwŷdd yn y pethau hŷn tros ennŷd; O'r diwedd fe a syrthiodd i heppian, ac ar ôl hynnŷ [Page 47] i drwm gyscu; A'r cwsc hwn a'i cadwodd ef yn y man hwnnw hŷd onid oedd hi hwŷr, a'i blŷg­lyfr a syrthiodd o'i law ef wrth gyscu, ( Datcuddiad 3.2. 1 Thessaloniaid 5.7, 8.) Ac fel yr oedd ef yn cyscu, daeth un atto ac a'i deffrodd ef, gan ddy­wedŷd wrtho, Cerdd at y morgrugŷn tydi ddiogŷn, edrŷch ar ei ffŷrdd es, a bŷdd ddoeth, ( Diharebion 6.6.) A chyda hynnŷ neidiodd Cristion i fynu yn frawŵchus, ac a aeth ar ffrwst iw ffordd, ac a ger­ddodd yn chwidir hŷd oni ddaeth ef i ben y Brŷn.

Yr awron pan ddaeth ef i fynu i ben y Brŷn, fe welai ddau ddŷn yn rhedeg yn gydŷm tuag atto: Enw un o honŷnt oedd Osnog ac Euw 'r llall oedd Anhyderus, a Christion a ddywedodd wrthŷnt, Ha-wŷr, pa ham yr ydŷch yn rhedeg tuag ymma? Ofnog a attebodd, mai myned yr oeddent tua Dinas Seion, a darfod iddŷnt ddyfod i fynu o'r rhiw oedd anhawdd ei ddringo; Ond ebŷr ef, pa pellaf yr elem ni, mwŷ a fyddeu y perŷgl a gyfarfyddai a ni: Am hynnŷ ni a droesom, ac yr ydŷm yn myned yn ôl drachefn.

Iê ebŷr Anhyderus, canŷs yr oedd dau Lew yn gorwedd yn union ar y ffordd o'n blaen (pa un a'i yn cyscu, a'i yn effro, nis gwŷddom) ac ni allem dybied llai (os doem ni o fewn eu cyrraedd) na wnaent lai na'n llarpio yn gandrŷll ( Diharebion 22.13. & 26.13.)

CRISTION. Yna ebŷr Cristion, yr ydŷch chwi yn peri i mi ofni: Ond i balâ a ffoâf i fôd mewn diogelwch? Os âf yn ôl i'm Gwlâd fy hun, i mae honno wedi ei pharodtoi i Dân a Brwmstan; Ac fe dderfŷdd amdanaf yno yn ddiammeu; Os gallaf fyned ir Ddinas Nefol, i mae 'n siccr gennif a byddafi yno mewn Diogelwch. Rhaid i mi fen­tro i fyned ymlaen: Nid ŷw myned yn ôl ddim amgen na marwolaeth; Ac nid ŷw myned ymlaen [Page 48] ond ofn marwolaeth: Ond i mae Bywŷd tragy­wŷddol yn ei ganlŷn ef; Ac am hynnŷ myfi a âf rhagof etto; Fellu Anhyderus ac Osnog a redasant i wared rhŷd y dibin, a Christion a aeth rhagddo yn ei ffordd; Ond gwedi meddwl drachefn am yr hŷn a glywsai ef gan y Gwŷr, fe a chwiliodd yn ei fynwes am ei Blŷg-lyfr, fel a gallai ef ddarllain yntho, a chael cysur oddiwrtho; Ac er chwilied am dano ni chafodd mono; Yna yr oedd Cristion mewn cyfyngder mawr, ac ni wŷddai ef pa beth a wnae, am fôd arno eisiau y peth oedd yn arfer o'i adfŷwio ef, a'r peth a ddylasai fôd megis Pass (neu lythŷr) yn ei law ef, fel a byddai iddo gael ei dderbŷn ir Ddinas Nefol; Yn y trallod ymma, fe a gofiodd o'r diwedd iddo gyscu dan y llwŷn oedd ar ochr y Brŷn; A chan syrthio ar ei liniau fe a ofynnodd faddeuant gan Dduw am iddo fôd mor ynfŷd a chyscu yno; Ac wedi hynnŷ fe a ddychwelodd yn ôl i chwilio am ei Blŷg-lyfr; Ond pwŷ a ddichon fynegu faint oedd gofud ei galon ef rhŷd y ffordd yr oedd ef yn dychwelŷd yn ei ôl rhŷd-ddi? Weithieu yr oedd ef yn ocheneidio, weithieu yn wŷlo, ac yn fynŷch yn beio arno ei hun am fôd mor ynfŷd a chyscu yn y llê hwnnw a wnaed yn unig i orffwŷs ychydig arno ef yn ei ludded; Fel hŷn gan hynnŷ a dychwelodd ef yn ôl, gan edrŷch yn ofalus y tu ymma ar tu arall, rhŷd yr nôll ffordd yr oedd ef yn trammwŷ arni; I edrŷch a allai ef gael cyfarfod a'i Blŷg-lyfr, yr hwn a'i cysurodd ef cŷn fynyched yn ei daith; Ac yn y môdd hwn a cerddodd ef nes canfod y Llwŷn drachefn lle a buasai ef yn eistedd ac yn cyscu; Ond yr olwg honno a adnewŷddod ei dristwch ef yn fwŷ, trwŷ ddwŷn ar gôf iddo eilwaith ei gwsc pechadurus; Ac fe a aeth ymlaen dan alaru am y cyscu ymma gan ddywedŷd, truan o ddŷn ydwŷf! [Page 49] Am i mi gyscu liw dŷdd! Am i mi gyscu yng­hanol peryglon! Am i mi foddhau y cnawd cŷn belled, ac arfer yn lle esmwŷthdra ir corph y gor­phwŷsfa hwnnw a bwŷntiasai Arglwŷdd y Brŷn, yn unig i gysuro eneidiau pererinod! Pa sawl cam a gerddais i yn ofer! fel hŷn a digwŷddodd ir Israeliaid am eu pechodau; hwŷ a anfonwŷd yn eu hôl drachefn rhŷd ffordd y môr coch) ac yr wŷf inneu yr awron yn cerdded y llwŷbrau hynnŷ mewn gofud, y rhain a allaswn i eu cerdded mewn hyfrydwch, oni bae y cwsc pechadurus hwnnw.

Pa belled a buaswn i yn fy ffordd erbŷn hŷn; I mae'n gorfod i mi gerdded dair gwaith y camre na basai raid i mi eu cerdded unwaith ond un: Iê yr awron hefŷd i mae hi yn debŷg i fyned yn nôs arnaf, canŷs i mae'r Dŷdd yn darfod; O na baswn i heb gyscu! Erbŷn hŷn yr oedd ef wedi dyfod at yr eisteddle drachefn, ac fe a eisteddodd yno en­nŷd, ac a wŷlodd; Ond o'r diwedd (fel yr oedd Cristion yn ewŷllysio) wrth edrŷch a chalon drom tua'r llawr, fe a ganfu ei Lyfr dan y faingc; Ac yn ddychrynllŷd fe a'i cippiodd ef i fynu ar frŷs, ac a'i rhoddodd ef yn el fynwes; Ond pwŷ a all fynegu mor llawen oedd y Gŵr hwn, pan gafodd ef ei blŷg-lyfr drachefn? Canŷs y llyfr ymma oedd siccrwŷdd ei fywŷd ef, a'i, siccrwŷdd ef yng­hŷlch ei dderbyniad i mewn ir porthladd dym­unol (sêf ir Nefoedd) Am hynnŷ fe a'i gosododd ef i gadw yn ei fynwes, ac a ddiolchodd i Dduw am gyfarwŷddo ei lygaid ef at y mann llê yr oedd y llyfr yn gorwedd; Ac wedi hynnŷ, dan lawenhau, ac wŷlo, fe a aeth ymlaen yn ei ffordd; Ond o mor fŷan a cerddodd ef i fynu rhŷd y rhan ddiweddaf o'r Brŷn! Etto cŷn iddo fyned i fynu fe fachludodd yr Haul ar Gristion; A hŷn a wnaeth iddo alw ei gwsc iw gôf drachefn; Ac fe a [Page 50] ddechreuodd eilwaith gwŷno wrtho ei hun fel hŷn; O dydi Gwsc pechadurus! Mor debygol ŷw hi i nosi arnafi yn fy nhaith o'th achos di! Rhaid i mi rodio heb yr Haul; A thywŷllwch a orchguddia fy llwŷbŷr i! Ac o'th blegit ti (o fy nghwsc pechadurus) fe orfŷdd i mi glywed rhuad creaduriaid blin! Yr awron hefŷd fe a gofiodd ystori a ddywedasai Anhyderus ac Ofnog wrtho ef, y môdd a dychrynnwŷd hwŷnt wrth weled y Llewod; Yna a dywedodd Cristion wrtho ei hun drachefn; Mae'r bwŷstfilod hŷn yn rhodio oddi­amgŷlch yn y nôs i geisio ysclyfaeth; Ac os cy­farfyddant a mi yn y tywŷllwch, pa fôdd a diangaf rhag cael fy llarppio ganthŷnt? Fel hŷn yr aeth ef ymlaen yn ei ffordd; A thra yr ydoedd ef yn galaru oblegid ei gam-ymddygiad anhappus, fe a dderchafodd ei lygaid ac a ganfu yno (yn ymŷl y ffordd o'i flaen ef) Blâs gwŷch iawn, ac enw 'r Plâs oedd prydferth.

Fellu mi a'i gwelais ef yn brysio, ac yn myned ymlaen▪ fel (os bŷddai bosibl) a gallai ef gael llettŷ vno; Ond cŷn iddo fyned yn-hepell fe a ddaeth i lê cul iawn, yr hwn oedd ynghŷlch tair ystad oddiwrth Babell y porthor; A chan edrŷch yn of­alus o'i flaen wrth gerdded, fe a ganfu ddau Lew yn y ffordd; Yr awron ebŷr ef mi a welaf y per­yglon a yrrasant Anhyderus ac Ofnog i ddychwelŷd yn ôl; (yr oedd y Llewod wedi ei cadwŷno, ond nid oedd ef yn gweled y cadwŷni) yna fe a ofnodd, ac a fwriadodd ddychwelŷd yn ôl megis a gwn­aethent hwŷthau; Canŷs yr oedd ef yn meddwl nad oedd dim ond marwolaeth o'i flaen ef; Ond y porthor yr hwn a elwid Gwiliadwrus ( Marc 13.34.) wrth weled Cristion yn ymattal rhag myned ymlaen (fel pe basai ar feddwl troi yn ei ôl) a waeddodd arno ef, gan ddywedŷd; A wŷt ti mor [Page 51] wan-galon a hynnŷ? Nac ofna y Llewod; Canŷs i maent wedi eu cadwŷno, a chwedi eu gosod yn y mann yna i brofi ffŷdd llê a mae hi, ac i ddat­guddio y rhai sŷdd hebddi; Cadw di dy hunan ynghanol y llwŷbŷr ac ni bŷdd niweid i ti. (2. Petr 2.4.

Yna mi a'i gwelais ef yn myned ymlaen dan grynu rhag ofn y llewod; Ond trwŷ ofalu yn ôl hyfforddiad y porthor, fe a'u clybu hwŷnt yn rhuo, ond ni wnaethant hwŷ ddim niwed iddo; Yna fe a gurodd ei ddwŷlo ynghŷd, ac a aeth rhagddo, hŷd oni ddaeth ef a sefŷll oflaen y porth, lle yr oedd y porthor yn aros; Yna a dywedodd Cristion wr­tho, Syr pa Dŷ ŷw hwn? A allafi gael lletŷ ymma heno? A'r porthor a attebodd, y Tŷ hwn a adeil­adwŷd gan Arglwŷdd y Brŷn, er mwŷn cysuro a gorffwŷso Pererinod; Y porthor hefŷd a ofyn­nodd i Gristion, o ba lé yr wŷt ti yn dyfod? Ac i ba lê yr wŷt ti yn myned?

CRISTION. Dyfod yr wŷfi o Ddinas Distrŷw, ac yr wŷfi yn myned tua mynŷdd Seion: Ond oblegit fôd yr Haul wedi machludo, yr wŷf yn dymmuro cael llettŷ ymma dros noswaith.

Porthor. Pa beth ŷw eich Enw chwi?

CRISTION. Fy enw i yr awron ŷw Cristion; Ond fy enw i ar y cyntaf oedd Di-râs: Yr wŷfi yn un o lîn Japheth, yr hwn a ennill Duw i breswŷlio ymmhebŷll Sem. ( Genesis 9.27.)

Porthor. Pa fôdd a digwŷddodd, eich bôd chwi yn dyfod cŷn hwŷred, I mae'r Haul wedi machludo.

CRISTION. Myfi a faswn ymma yn gŷnt; Ond un truan o ddŷn ydwŷf! Mi a gyscais yn yr eisteddle sŷ'n sefŷll ar ystlus y Brŷn; Ac hefŷd mi faswn ymma er hynnŷ yn gŷnt o lawer, oni bae i mi golli fy siccrwŷdd wrth gyfcu, a dyfod [Page 52] hebddo ef hŷd at lechwedd y Brŷn; Ac Yna wedi chwilied am dano ac heb ei gael ef, fe orfu i mi mewn gofud calon droi yn ôl ir llê a cyscaswn i yntho, llê a cefais i ef; Ac o'r diwedd yr wŷfi wedi dyfod ymma.

Porthor. Wele, mi a alwaf ar un o Langcesi y llé ymma, yr hon (os bŷdd hi bodlon i'ch ym­adroddion) a'ch dŵg chwi i mewn at y Teulu yn ôl arfer y Tŷ; A'r hynnŷ fe a ganodd y Por­thor glôch, Ac wrth ei sŵn hi fe ddaeth Llangces sobr brydferth allan ir Drŵs (a'i henw hi oedd Pwŷllog) ac a ofynnodd pa ham yr oeddid yn galw arni hi? A'r Porthor a attebodd, y Dŷn hwn sŷdd yn ymdeithio o Ddinas Distrwŷ i fynŷdd Seion; A chan ei fôd ef yn ddeffygiol, a'i bôd hi gwedi nosi arno, efe a ofynnodd i mi a allai ef gael llettŷ ymma dros nôs; Fellu myfi a ddywed­ais wrtho a galwn i arnat ti, a gelli ar ôl ym­ddiddan ag ef wneuthur fel a byddo dâ yn dy olwg, ac yn ôl arfer y Tŷ.

Hithau a wenodd ar Gristion, ond yr oedd y Dŵr yn sefŷll yn ei llygaid hi; A chwedi sefŷll ychydig heb ddywedŷd un gair, hi a ddywedod, myfi a alwaf allan ddau neudri ychwaneg o'm Teulu; Fellu hi a redodd i ddrŵs y Tŷ, ac a al­wodd am Ddoethineb, Duwioldeb, a Chariad, i ddyfod allan; Y rhain wedi ymddiddan ac ef ychydig ymhellach, a'i dygasant ef i mewn ir Tŷ; A llawer o honŷnt (gan ei gyfarfod ef wrth riniog y drŵs) a ddywedasant wrtho, Tyred i mewn dydi fendigedig yr Arglwŷdd; Fe adelladwŷd y Tŷ hwn gan Arglwŷdd y Brŷn ir diben ymma, sêf i groesawu Pererinod yntho; Yna fe gyfarchodd iddŷnt, ac a'u canlynodd hwŷnt ir Tŷ Ac wedi dyfod i mewn ac eistedd i lawr, hwŷ a roddsant iddo rŷwbeth iw yfed, ac a gyttunasant ynghŷd, [Page 53] hŷdoni byddal swpper yn barod, a cae rhai o honŷnt, er mwŷn gwneuthur denfŷdd dâ o'r amser, ymddiddan a Christion yn neilltuol ynghŷlch peth­au crefyddol: A hwŷ a ordeiniasant Ddoethineb, Duwioldeb, a Chariad, i chwedleua ag ef, a hwŷ a ddechreuasant fel hŷn.

Duwioldeb. Pa beth a'ch cynghorodd chwi ar y cyntaf i fôd yn Bererin? A pha fôdd a di­gwŷddodd i chwi ddyfod allan o'ch gwlâd y ffordd ymma?

CRISTION. Fe am gyrwŷd i allan o wlâd fy 'nganedigaeth gan sŵn ofnadwŷ oedd yn fy'nghluff­iau, sêf bôd Distrŷw anocheladwŷ yn fy nghanlŷn, os trigwn i yn y mann lle 'r oeddwn; A phan ddychrynwŷd fi ag ofn y Distrŷw ymma, ni wŷdd­wni i ba lê yr awn; Trwŷ ragluniaeth Duw (fei yr oeddwn yn crynu ac yn wŷlo) fe ddaeth Gŵr attafi, a elwid Efangylwr, ac fe a'm cyfarwŷddodd i ir porth cyfŷng; Ac fellu fe am gosododd i ar y ffordd a'm dygodd i yn union ir Tŷ hwn.

Duwioldeb. Oni ddaethoch chwi heibio i Dŷ y Deonglwr?

CRISTION. Daethŷm, ac a welais yno y fâth bethau, ag a glŷn eu coffadwriaeth hwŷ wr­thŷf tra fyddwŷf bŷw, yn enwedig tri pheth, sêf y môdd a mae Crist (er gwneuthur o Satan ei waethaf) yn cynnal gwaith ei râs yng-halonau ei bobl: A'r môdd a pechodd rhŷw Ddŷn mor greulon, hŷd onid oedd ef yn gwbl allan o obaith a'm drugaredd Duw; Ac hefŷd Breuddwŷd yr hwn a dybiasai fôd Dŷdd y Farn wedi dyfod▪ Yr oedd fy nghalon i yn crynu pan adroddodd y Dŷn ei freuddwŷd, etto i mae 'n ddâ gennif i mi ei glywed ef; Llawer o bethau eraill a welais i ar y ffordd; Ond un peth oedd fwŷaf nodedig, sêf pan welais i un yn crogi, ac yn gwaedu ar y Groes, [Page 54] fe a wnaeth yr olwg arno ef i'm Bauch i syrthio oddiar fy nghefn▪ A'r Bauch hwnnw a fu yn flin­der mawr i mi. ( Zecharia 12.10. & 13.1.)

Doethineb. Onid ydŷch chwi yn meddwl weithie am y wlâd o'r hon a daethoch allan.

CRI [...]TION. Ydwŷf, ond trwŷ lawer o gywllŷdd a ffi [...]dd-dra; Yn wir pedfaswn i yn meddwl (drwy hyfrydwch) am y wlâd honno, o'r hon a daethŷm allan, mi a allaswn gael amser i ddychwelŷd yn ôl; Ond yr awron, Gwlâd well yr wŷfi yn ei chwennŷch, hynnŷ ydŷw un Nefol. ( Hebreaid 11.15, 16.)

Doethineb. Onid ydŷch chwi etto yn canfod ynoch eich hunan rai o'r pethau yr oeddech y prŷd hwnnw yn gynefin a hwŷnt.

CRISTION. Ydwŷf, ond i mae 'r pethau hynnŷ ynof yn erbŷn fy wŷllŷs yn fawr iawn, yn enwedig fy meddyliau cnawdol, y rhai oeddŷnt yn dra hyfrŷd gennif gŷnt; Ond yr awron i mae'r meddyliau hŷn ôll yn flinder i mi; A phe gallwn i ddewis yr hŷn sŷdd ddâ, myfi a ddewiswn nas meddyliwn i y fâth feddyliau bŷth mwŷ; Ond pan fyddwŷf yn ewŷllysio gwneuthur yr hŷn sŷdd oreu, i mae yr hŷn sŷdd waethaf yn bresennol gyda mi. ( Rhufeinaid 7.21.)

Doethineb. Onid ydŷchwi yn edrŷch ar y pethau hŷn weithian fel pedfaent wedi eu gorch­fygu, y rhai sŷ brŷdiau eraill yn wrthwŷnebus a blin i chwi?

CRISTION. Ydŷwf, ond nid ŷw hynnŷ ond yn anfynŷch iawn; Ond oriau euraid ŷw y rheini i mi, yn y rhai a digwŷdd i mi gael gorescyn­niad ar fy llygredigaethau.

Doethineb. A ellwch chwi gofio trwŷ ba fodd­ion, a mae y llygredigaethau blinderus hŷn yn cael eu darostwng ynoch, fel pedfaent wedi eu gorchfu.

[Page 55] CRISTION. Gallaf, yn gyntaf pan feddyliwŷf am yr hŷn a welais i wrth y Groes; Yn ail pan edrychwŷf ar fy fiacced fraith; Yn drydŷdd pan ddarllenwŷf yn y plŷg-lyfr yr wŷf yn ei ddwŷn yn fy mynwes; Ac yn bedwerŷdd pan fyddo fy meddyliau ynghŷlch y llê yr wŷf yn myned tuag atto yn ymwresogi, fe rŷdd hynný ergŷd marwol i'm llygredigaethau

Doethineb. A pha beth sŷ'n peri i chwi fôd mor chwanog i fyned i Fynŷdd Seion.

CRISTION. Yr wi'n gobeithio cael gweled yr hwn a fu farw ar y Groes, yn fŷw yno; Ac yr wŷf yn gobeithio a rhŷddheir fi yno oddiwrth yr hôll wendid sŷdd yn fy aflonyddu i hŷd y dŷdd hwn; I maent yn dywedŷd hefŷd nad oes dim marwolaeth yno; Ac mi a gâf drigo yno gyda'r fâth Gymdeithion ar sŷdd oreu gennif; Ac o ddy­wedŷd wrthŷch y gwir, yr wŷf yn caru yr hwn a fu farw ar y Groes, am iddo fe fy esmwŷthau i o'm Bauch ( Luc 7.47.) ac i mae fy aflendid oddi­fewn yn ofudus i mi; Ac yr wŷf yn ewŷllyssio bôd yn y mann hwnnw llê na fŷdd nac afiechŷd na marwolaeth mwŷ; A chyda'r Cymdeithion a fyddant yn crio yn wastadol, Sanct, Sanct, Sanct. ( Esaŷ 6.3.)

Yna gofynnodd Cariad i Gristion, a oes i chwi dylwŷth? A ydŷch chwi yn ŵr priod?

CRISTION. I mae gennif Wraig, a phedwar o Blant bychain.

Cariad. A phaham na ddygasech chwi hwŷnt o hŷd gyda chwi?

CRISTION. Ar hynnŷ fe wŷlodd Cristion, ac a ddywedodd, O mor ewŷllysgar yr oeddwn i iddŷnt hwŷ ddyfod gyda mi! Ond yr oeddent hwŷ ôll yn gwbl anfodlon I'm pererindod.

Cariad. Ond chwi a ddylesech ymddiddan [Page 56] a nhwŷ, a dangos iddŷnt y perŷgl o aros yn ôl.

CRISTION. Fellu a gwneuthŷm, ac mi a fynegais iddŷnt hefŷd yr hŷn a ddangosodd Duw i mi am Ddinistr ein Dinas ni: Ond yr oeddwn i yn eu golwg hwŷ fel un yn cellwair, ac ni choel­ient monof ( Genesis 19.14.)

Cariad. A ddarfu i chwi weddio ar Dduw am fendithio eich cyngor iddŷnt?

CRISTION. Do, a hynný o wir ewŷllŷs calon; Rhaid i chwi feddwl fôd fy ngwraig a'm plant truain yn anwŷl iawn gennif.

Cariad. Ond a fynegasoch chwi iddŷnt hwŷ eich gofud eich hun, a'ch ofn o gael eich dinistrio.

CRISTION. Do drachefn a thrachefn; A hwŷ a allasent ganfod fy ofn i yngwêdd fy wŷneb­prŷd, yn fy nagrau, ac hefŷd yn fy nychrŷn wrth ystyrled y Farn oedd ynghrôg uwch ein pennau: Ond nid oedd y cwbl yn ddigon iw hynnill hwŷ i ddyfod gyda mi.

Cariad. Ond pa beth a allent hwŷ ei ddy­wedŷd trostŷnt eu hunain, am na ddaethant hwŷ gyda chwi?

CRISTION. Yr oedd fy ngwraig yn ofni colli ei meddiannau, a chariad Dynnion y Bŷd presennol; A'm plant oeddŷnt yn ymroddi i ynfŷd ddigrifwch ieuengctid; Ac fellu hwŷ a rwŷst­rwŷd, rhai gan un peth, a rhai gan beth arall, hŷd onis gadawsant hwŷ fi i siwrneio fy hunan yn y môdd ymma.

Cariad. Oni ddarfu i chwi ddiwŷno a halogi (a'ch ymddygiad ofer) yr hŷn ôll a ddywedasoch chwi mewn ffordd o gyngor iw hannog hwŷnt i ddyfod gyda chwi?

CRISTION. Mewn gwirionedd nid allafi gan­mol fy ymddygiad; Canŷs myfi a wn fy môd▪i yn llithro mewn llawer o bethau ( Iaco 3.2.) myfi a [Page 57] wn hefŷd a geill Dŷn trwŷ ei fywŷd drŵg, ddym­chwelŷd mewn ychydig o amser, yr hŷn a osodo ef mewn ffordd o Addŷsc, Rheswm, Cyngor a Cherŷdd, oflaen pobl iw troi nhwŷ at yr hŷn sŷdd ddâ; Etto mi a allaf ddywedŷd hŷn, fy môd i yn ofalus iawn na byddai i mi roddi iddŷnt achos trwŷ un weithred anweddus, iw gwneuthur hwŷnt yn wrthwŷnebus i ddyfod i bererindod: Iê yn y matter ymma hwŷ a ddywedent wrthif fy môd i yn rhŷ fanwl, ac fy môd i yn fy ngwadu fy hunan (er eu mwŷn hwŷ) o ran rhŷw bethau, yn y rhai nid oeddent hwŷ yn gweled dim drŵg ynthŷnt; Nage yr wŷf yn tybled a gallaf ddywedŷd hŷn; Os ydoedd dim a welsant hwŷ ynofi yn rhwŷstr iddŷnt, mai fy ofn mawr i rhag pechu yn erbŷn Duw, a rhag gwneuthur cam a'm Cymmydogion ydoedd hynnŷ.

Cariad. Cain yn wir a gasâodd ei Frawd am fôd ei weithredoedd ei hun yn ddrŵg, a gweith­redoedd ei Frawd yn ddâ; Ac os hŷn a fu yn rhwŷstŷr i'th Wraig a'th Blant, ac a wnaeth iddŷnt ddigio wrthit, i maent trwý hynnŷ yn dangos eu bôd yn anghymmodol i ddaioni, a thl a ware­daist dy Enaid oddiwrth eu gwaed hwŷnt (1 Joan 3.12. Ezeci [...]l 33.9.)

Yr awron mi a'u gwelais hwŷ yn eistedd fel hŷn, gan ymddiddan a'u gilŷdd hŷd onid oedd swpper yn barod; A chwedi iddŷnt ei barodtoi ef, hwŷ a eisteddasant i fwŷdta; Ac yr oedd y Bwrdd wedi ei Lenwi a phascedigion, ac a Gwîn, ie gloŷw wîn puredig ( Esaŷ 25.6. Matthew 22.4.) A'u hôll ymddiddan hwŷ wrth y Bwrdd oedd yng­hŷlch Arglwŷdd y Brŷn, yn enwedig ynghŷlch yr hŷn a wnaeth ef, a phaham a gwnaeth ef yr hŷn a wnaethpwŷd gantho, a phaham yr adeil­adodd ef y Tŷ hwnnw; Ac wrth yr hŷn a lefar­asant [Page 58] hwŷ, myfi a wŷbum, ei fôd ef yn rhyfelwr mawr; Ac iddo ef ymladd a'r hwn oedd a nerth Angau gantho, a'i ddinistro ef, ond nid heb berŷgl dirfawr iddo ei hun, yr hŷn a wnaeth i mi ei garu ef yn fwŷ ( Hebreaid 2.14, 15.)

Ac megis a dywedasant hwŷ, ac yr wŷf finneu yn credu, Efe a gollodd lawer o waed wrth wneu­thur hynnŷ; Ond y peth sŷ'n gogoneddu ei râs ef ydŷw hŷn, sêf iddo wneuthur y cwbl o wir gariad iw wlâd: Ac heblaw hynnŷ yr oedd yno rai o'r teulu yn dywedŷd eu bôd yn ymddiddan ag ef ar ôl ei Farwolaeth ar y groes, a'i adgyfodiad oddiwrth y meirw; A hwŷ a dystiolaethasant iddŷnt glywed allan o'i enau ef ei hun fôd gantho gariad mawr tuag at Bererinod truain, fel a gellir dywedyd nad oes gyffelŷb iddo iw gael o'r Dwŷrain ir Gorllewin.

Drachefn, hwŷ a roddasant esampl o'r hŷn a ddywedasant; A honno oedd, iddo ef ym ddiosc o'i Ogoniant fel a gallai ef wneuthur hŷn dros y tlawd; A dywedasant iddŷnt hwŷ ei glywŷd ef yn dywedŷd, Na phreswŷliai ef ymmynŷdd Seion yn unig, ond a mynnai ef eraill i breswýlio gydag ef yno ( Philemon 2.6, 7, 8. Joan 17.24.) A hwŷ a fynegasant ymhellach iddo ef dderchafu llawer o Bererinod i fôd yn Dwŷsogion, er eu bôd hwý wrth natur wedi eu geni yn dlodion, a'u dechreuad o'r dommen (1 Samuel 2.8. Datcuddiad 1.6.)

Ac fel hŷn yr ym ididdanasant hŷd onid aeth hi yn llawer o'r nôs; Ac wedi iddŷnt eu gorch­ymŷn eu hunain i gadwraith eu Harglwŷdd, hwŷ a aethant iw hesmwŷthdra; A rhoddasant y Per­erin i orwedd mewn ystafell eheng, a'i ffenest yn agored tua chodiad yr Haul (enw'r ystafell oedd Tangneddŷs) lle a cysgodd ef hŷd y wawr-ddŷdd, ac yna fe a ddeffrodd, ac a gańodd; [Page 59]

Ymhle yr wŷf yn awr yn gorwedd?
O i dymma ddirfawr gariad rhyfedd,
A gofal Iesu Grist am ddynnion,
Y rhai sŷdd yn bŷw yn ffyddlon;
Yn rhagddarbod, a thosturio,
Fel a cawn fy arbed gantho,
Ac anneddu o fewn y gwiw-lwŷs
Riniog nesaf i Baradwŷs!

Fellu hwŷ a gyfodasant ôll y boreu dranoeth, ac wedi iddŷnt ymddiddan ynghŷlch rhŷw bethau ychwaneg, hwŷ a ddywedasant wrtho, na chae ef ymadel hŷd oni ddangosent iddo wŷch ddodrefn y Tŷ; Ac yna hwŷ a'i harweinasant ef ir Stydi, lle a gosodasant hwŷ o'i flaen ef y llyfrau Coffad­wriaethau hynaf yn y Pŷd; Yn y rhai a dongos­asant hwŷ iddo ef, yn gyntaf Achau Arglwŷdd y Brŷn, sef ei fôd ef o Dragywŷddoldeb yn Fâb ir Hên ar hynaf ei ddyddiau; A chwedi hynnŷ ei weithredoedd ef, y rhai oeddŷnt wedi eu byscri­fennu ymma yn gyflawn, gydag enwau llawer cant a gymmeraseu ef iddo iw wasanaeth; A'r môdd a cyfleuaseu ef hwŷnt yn y cyfrŷw Breswŷlfŷdd▪ na allai heneidd-dra mo'u gwaethygu, (2 Corin­thiaid 5.1.)

Yna hwŷ a ddarllennasant iddo ef rai o'r Gwei­thredoedd anrhydeddus a wnaethai rhai o'i weision ef: megis y môdd a gorescŷnnasent Deŷrnasoedd, a gwnaethent gyfiawnder, a cawsent addewidion, a cauasent safnau Llewod, a diffoddas [...]nt boethni y tân, a diangasent rhag mîn y cleddŷf a nerthwŷd, o wendid y môdd besŷd a gwnaethpwŷd hwŷ yn gryfion mewn rhysel, ac a gyrrasent fyddinoedd yr estroniald i gilio, ( Hebreaid 11.33, 34.)

Wedi hynnŷ hwŷ a ddarllennasant mewn rhan [Page 60] arall o lyfrau coffadwriaethau'r Tŷ; A dangos­wŷd yno mor ewŷllysgar oedd eu Harglwŷdd i dderbŷn iw ffafor bôb un, ie pôb un er iddŷnt gŷnt amherchi ei Berson a'i ffŷrdd ef, os troent, ac os deuant yr awron atto es▪ ( Joan 6.37.) Yr oedd ymma hefŷd amrŷw o Hŷstoriau am lawer o beth­au enwog eraill, y rhai a gafodd Cristion eu gweled ôll, sef Hŷstoriau hên a newŷdd ynghŷd a phrophwŷdoliaethau ynghŷlch pethau a gyflaw­nir yn eu hamser yn siccr, er dychrŷn a syndod i elynion Arglwŷdd y Brŷn, ac er cysur a diddan­wch i Bererinod.

Dranoeth hwŷ a'i tywŷsasant ef ir Arf-dŷ, ac a ddangosasant iddo yno bôb mâth o Arfogaeth, y rhai a barodtoisai eu Harglwŷdd hwŷnt i Berer­inod, megis Cleddŷf, Tarian, Helm, Dwŷfronneg; Pôb rhŷw Weddi, ac Esgidiau na heneiddient; Ac yr oedd yno ddigon o honŷnt i arfogi cymaint o gwŷr i wasanaeth eu Harglwŷdd, ac sŷdd o Sêr yn y Nefoedd. ( Ephefiaid 6.14 &c.)

Hwŷ a ddangosasant iddo hefýd rai o'r Peir­lannau, a'r rhai a gwnaethau rhŷw wŷr enwog ymŷsc ei weision ef ryfeddodau; Megis Gwialen Moses, y Morthwŷl a'r Hoel a'r rhai a lladdasai Jael Sisera; Y Pisserau, yr Udcŷrn. a'r Lampau, a'r rhai a gyrfasai Gideon Fyddinoedd y Midianiaid i ffoi; Yr Irai ychen, a'r hon a lladdasai Samgar, chwe­chan-ŵr; Gên Assŷn, a'r hon a gwnaethai Sampson bethau aruth; Y Dafl a'r Garreg, a'r rhai a lladdasai Dafŷdd Goliah; A'r Cleddŷf hefŷd, a'r hwn a llâdd eu Harglwŷdd hwŷnt Fâb y Golled­igaeth yn y dŷdd a cyfodo ef ir ysclyfaeth: Hwŷ a ddangosasant lawer o Bethau rhagorol i Gristion heblaw yr hŷn a henwŷd, y rhai oedd ddâ iawn gantho eu gweled, a chwedi hynnŷ hwŷ a aethant iw gorphwŷsfa drachefn.

[Page 61]A chwedi cyfodi yn foreu mewn bwriad i fyned rhagddo, fe attolygodd y Teulu arno ef aros hýd dranoeth; Ac yna (ebŷr nhwŷ) Nyni a ddangoswn i chwi (os bŷdd y diwrnod yn eglur) y Mynyddoedd hyfrŷd, y rhai (ebŷr nhwŷ) a chwanegant at eich cysur chwi, am fôd y myn­yddoedd hynnŷ yn nâs at y Porthladd dymunol na 'r mann yr ydŷch yntho yn bresennol; Fellu fe a gŷdsynniodd, ac a arhosodd yno y noson honno; A'r boreu nesaf hwŷ a aethant ag ef i Nen y Tŷ, ac a archasant iddo edrŷch tua'r Dehau, ac fe a wnaeth fellu; Ac wele fe a ganfu ymhell oddiwr­tho wlâd hyfrŷd, wedi ei harddu a choedŷdd, gwinllanoedd, ffrwŷthau hyfrŷd o bôb rhŷw, a blodau hefŷd, a ffynhonnau hyfrŷd iawn ( Esaŷ 33.16, 17.) Yna fe a ofynnodd henw'r wlâd; A nhwŷthau a'i hattebasant ef mai Tir Emmanuel oedd el henw hi; Ac i mae hi (ebûr nhwŷ) mor gyffredin ir hôll Bererinod i ddyfod iddi, ac i gael croeso ynthi ag ydŷw 'r Brŷn ymma; A phan ddelŷch di i'r wlâd honno di a elli ganfod Porth y Ddinas Nefol oddiyno, trwŷ gyfarwŷddiad y Bugeiliaid sŷ'n bŷw yn y lle hwnnw.

Yna fe a ymbarodtodd i gychwŷn, ac yr oeddŷnt hwŷthau yn fodlon i hynnŷ, Ond yn gyntaf (ebŷr nhwŷ) Awn drachefn ir Arf-dŷ, a hwŷ a aethant fellu, ac a'i gwiscasant ef yno o wadn y troed hŷd y pen ag Arfau profedig, fel a gallai ef ymddiffŷn ei hunan os digwŷddeu i nêb ruthro arno ar y ffordd; A chwedi ei Arfogi ef fel hŷn, fe a rodiodd gyda ei gyfeillion ir porth, ac a ofynnodd ir porthor a welsai ef un Pererin yn myned heibio? A'r Porthor a'i hattebodd ef, Do.

CRISTION. Attolwg a adwaenoch chwi ef ebŷr Cristion?

[Page 62] Porthor. Myfi a ofynnais ei enw ef, ac yntef a ddywedodd wrthif mai Ffyddlon oedd ei enw.

CRISTION. O! (ebŷr Cristion) 'rwi'n ei ddynabod ef, i mae fe 'n Gymmydog agos i mi, Fe ddaeth o'r Drêf i'm ganwŷd i ynthi; Pa faint yr ydŷch chwi yn tybied a gall ef fôd o'm blaen?

Porthor. I mae ef erbŷn hŷn wedi myned islaw y Brŷn.

CRISTION. Wele Borthor anwŷl (ebŷr Cristion) yr Arglwŷdd a fyddo gyda thi, ac a anghwanego gynnŷdd mawr at dy hôll fendithion di, am y caredigrwŷdd a ddangosaist i mi.

Yna dechreuodd Cristion fyned rhegddo; A Phwŷllog, Duwioldeb, Cariad, a Doethineb a aethant gydag ef, dan ymddiddan drachefn ynghŷlch y matterion a darfu iddŷnt hwŷ chwedleua o'r blaen amdanŷnt, nes dyfod hŷdat lechwedd y Brŷn; Yna (ebŷr Cristion) megis yr oedd yn anhawdd escŷn i fynu, Fellu hefŷd (am a welaf) i mae 'n beryglus ddiscŷn i wared; I mae'r peth fellu (ebŷr Doethineb) canŷs matter caled ydŷw i Ddŷn fyned i wared i Ddyffrŷn Darostyngiad (fel yr wŷt ti yr awron yn myned) ac heb gael cwŷmp ar y ffordd; A dyna 'r rheswm pa ham yr ydŷm ni 'n dyfod gyda thi i droed y rhiw; Fellu fe a ddech­reuodd fyned i wared, ond yn araf iawn, er hynnŷ efe a lithrodd unwaith neu ddwŷ.

Yna mi a welais y cymdeithion dâ hynnŷ, yn rhoddi i Gristion (wedi iddo ddyfod i wared o'r brŷn) Dorth o Fara, Costreleid o wîn, a swp o Resins, a chwedi hynnŷ fe a aeth iw ffordd.

Ond yn y Dyffrŷn ymma o Ddarostyngiad, hi fu'n galed iawn ar Gristion; Canŷs nid aethai ef yn-hepell ymlaen, ond wele fe a ganfu ysprŷd drŵg yn dyfod rhŷd y maes iw gyfarfod ef, a'i [Page 63] enw ef oedd Apol-lyon: A gwnaeth y golygiad hwnnw i Gristion ofni, ac i feddwl yntho ei hunan pa un oedd oreu iddo ef a'i dychwelŷd yn el ôl, a'i myned ar ei Daith; Ond efe a ystyriodd eil­waith nad oedd gantho ddim harnes iw gefn; Ac o herwŷdd hynnŷ fe a feddyliodd a gallai troi ei gefn tuagat Apol.lyon, roddi iddo fwŷ o rydd did iw frathu ef yn haws a'i Biccellau; Ac am hynnŷ fe a roes ei frŷd i fentro, ac i gadw ei sefyllfa; Canŷs ebŷr ef, pedfawn i heb edrŷch ar ddim amgen na chadw fy einioes, gwell ŷw i mi sefŷll na chilio.

Fellu fe a aeth ymlaen, ac Apol-lyon a gyfarfu ag ef: Yr awron yr oedd yr Anghenfil yn arw ei wêdd; Canŷs yr oedd ef wedi ymwisco a chenn fel Pyscodŷn (y rhain oedd falch ganddo ef) yr oedd gantho adenŷdd fel Draig, a thraed fel traed Arth, a thân a mŵg oedd yn dyfod allan o'i fol ef, a'i safn oedd fel safn Llew; A phan nesodd ef at Gristion, fe a edrychodd arno a chuwch ddirmygus, ac a'i holodd ef fel hŷn.

Apol.lyon. O ba le a daethochi, ac i ba le yr ydŷch yn yn myned?

CRISTION. Yr wi'n dyfod o Ddinas Dist­rŷw, yr hon ŷw trigfa pob dryg-ddŷn, ac yr wŷf yn myned tua Dinas Seion.

Apol-lyon, Myfi a wn wrth hŷn, mai un o'm Deiliaid i wŷt ti, canŷs myfi a blau'r holl wlâd honno, ac myfi ŷw ei Thwŷsog a'i Duw hi (2 Cor­inthiaid 4.4. Ephefiaid 2.2.) Pa fódd gan hynnŷ a rhedaist ymaith oddiwrth dy Frenin? Oni bae fy môd i yn gobeithio a gwnei di etto i mi fwŷ o wasanaeth, myfi a'th darawn di yn fŷan ag un dyr­nod ir llawr.

CRISTION. Fe a'm ganwŷd i yn wîr o fewn eich Arglwŷddiaeth chwi: Ond yr oedd eich gwas­anaeth [Page 62] [...] [Page 63] [...] [Page 64] chwi yn galed, a'ch cyflog yn dost, nas galleu Ddŷn fŷw arno; Canŷs cyflog pechod ŷw marwolaeth ( Rhufeinied 6.23.) ac am hynnŷ pan ddaethŷm i beth oedran, myfi a ystyriais fel a gwnaeth dynnion pwŷllog eraill, a allwn i well­hau fy nghyflwr.

Apol-lyon. Nid oes un Tywŷsog a gŷll ei Ddeiliaid cŷn ysgafned a hŷn; Ac myfi a wnaf fy­ngoreu nas collwŷf inneu monot titheu; Ond gan dy fôd ti yn achwŷn am dy wasanaeth a'th gyflog (bŷdd fodlon i fyned yn ôl) ac yr wŷfi'n addaw ymma roddi i ti ran o'r pethau goreu sŷdd yn ein gwlâd ni.

CRISTION. Myfi a ymroddais fy hunan i fôd yn wasanaethwr i Frenin y Brenhinoedd, a pha fôdd a gallafi drwŷ onestrwŷdd dorri ag ef i ddy­chwelŷd gyda thi?

Apol-lyon. Tydi a wnaethost yn hŷn yn ôl y Ddihareb, Newid Drŵg am Waeth; Ond i mae'n arferol ir rhai sŷ'n eu haddef eu hunain eu bôd hwŷnt yn weision iddo ef, ar ôl ennŷd fechan ei adel ef, a dychwelŷd attafi; Gwna ditheu fellu a bŷdd pôb peth yn ddâ.

CRISTION. Myfi a roddais iddo ef fy nghrêd, ac a dyngais a byddwn i ufudd iddo; A pha fôdd a gallafi dynnu'n ôl oddiwrth hŷn, heb gael fy nghrogi fel Bradwr?

Apol-lyon. Tydi a wnaethost yr un peth i minneu, Ac etto nis cofiaf fi dy waith di yn gadel fy ngwasanaeth os dychweli di yr awron dra­chesn, a myned yn ôl.

CRISTION. Yr hŷn a addewais i ti oedd yn fy ieuengctid, Ac heblaw hynnŷ myfi a wn a gall y Tywŷsog (dan faner yr hwn yr wi yr awron yn rhyfela) fy rhŷddhau i oddiwrth fy rhwŷmedig­aethan, ie a maddeu i mi hefŷd fy 'ngwaith yn [Page 65] ymrwŷmo i fôd yn wâs i ti, ac o ddywedŷd y gwîr O Apol-lyon, gwell gennifi ei wasanaeth, ei gyflog, ei weision, ei Lywodraeth, ei Gyfeillach a'i Wlâd ef na'r eiddoti; Ac am hynnŷ na themptia monofi mwŷ i ddychwelŷd i'th wasanaeth di; Canŷs ei wâs ef wŷfi ac mi a'i canlynaf ef.

Apol-lyon. Ystria drachefn pan fyddi yn Bwŷllog o Gristion, pa beth yr wŷti yn debŷg i gyfarfod ag ef yn y ffordd yr wŷti yn myned; Dydi a wŷddost fôd Gweision yr hwn yr wŷt ti yr awron wedi ei gymerŷd yn lle'th Arglwŷdd, y rhan mwŷaf yn dyfod i ddiwedd drŵg, am eu bôd nhwŷ yn fy ngwrthwŷnebu i a'm ffŷrdd; Pa sawl un o honŷnt hwŷ a roddwŷd i farwolaeth gywil­yddus? A lle yr wŷt yn cyfrif ei wasanaeth ef yn well na'r eiddo fi: Gwŷhŷdd hŷn, na ddaeth ef erioed etto o'r mann a mae fe yntho. i waredu nêb (o'r rhai a'i gwasanaethasant ef) o'm dwŷlo i; Ond amdanafi, Pa sawl gwaith (fel y gŵŷr y Bŷd yn ddigon dâ) a gwaredais i, naill a'i trwŷ nerth, neu trwŷ ddichell (y rhai a'm gwasanaethasant i yn ffyddlon) odditan ei ddwŷlo ef a'i eiddo, er iddŷnt eu dal hwŷnt yn eu rhwŷdau; Ac fellu i'th waredaf ditheu os mynni

CRISTION. Ei bwrpas ef trwŷ beidio yn bresennol, a gwaredu rhai o'i bobl o'th garcharau a'th gadwŷnau di, ydŷw er mwŷn cael prawf a ydŷnt hwŷ yn ei garu ef, ac a lynant hwŷ wrtho ef hŷd y diwedd ( Datcuddiad 2.10.) Ac am y drŵg ddihenŷdd yr wŷti yn dywedŷd fôd rhai o honŷnt yn dyfod iddo, i mae hynnŷ yn dra gogon­eddus yn eu golwg hwŷnt; Canŷs nid ydŷnt hwŷ yn disgwŷl nemmawr am warediad presennol; Oblegit eu bôd yn aros am eu gogoniant; Yr hwn a gânt hwŷ yn ddiammeu ei fwŷnhau, pan ddelo eu Tywŷsog yn ei ogoniant gyda ei Angylion go­goneddus [Page 66] ( Rhufeiniaid 8.18. Colosiaid 3.4.)

Aol-lyon. Dydi a fuast anffyddlon eusus yn ei wasanaeth ef, a pha fôdd yr wŷti 'n meddwl cael cyflog gantho ef?

CRISTION. Ymha beth (o Apol-lyon) a bum i yn anffyddlon iddo ef?

Apol-lyon. Dydi a wanhychaist yn dy fynediad cyntaf allan, pan oeddŷt ymmron suddo yn y Llyngc-lŷn o Anobaith; Dydi a amcenaist trwŷ y gau foddion, i ymddilwŷtho oddiwrth dy fauch, lle dylasit ti aros hŷd oni basai i'th Dwŷsog ei gymmerŷd ef ymaith; Di a gollaist dy dlysau mewn cwsc pechadurus; Di a fuost hefŷd o fewn ychydig i ddychwelŷd yn dy ôl wrth ganfod y Llewod; A phan wŷti 'n sôn ac yn llefaru am dy Daith, a'r hŷn a glywaist ac a welaist, i mae dy Galon yn chwennychu gwag ogoniant, yn y cwbl yr wŷti yn ei ddywedŷd, ac yn ei wneuthur.

CRISTION. I mae hŷn ôll yn wîr, a llawer mwŷ nag a adroddaist; Ond i mae y Tywŷsog, yr hwn yr wŷfi yn ei wasanaethu, ac yn ei anrhyd­eddu, yn Drugarog, ac yn harod i faddeu gwendid ei bobl; Ond cofia hŷn (o Gyhuddwr y brodŷr) mai yn dy wlâd di a dyscais i bechu, ac yno a sug­nais i bôb drŵg i'm calon; Ond o'r diwedd mi a ruddfanais dan lwŷth fy mhechodau, gan fôd yn ofudus o'u plegŷd hwŷnt, a'm Tywŷsog a fadd­euodd i mi'r cwbl.

Apol-lyon. Yna llefarodd Apol-lyon mewn cynddeiriogrwŷdd mawr, gan ddywedŷd yr wŷfi yn elŷn ir Tywŷsog ymma, ac yr wi'n cashâu ei Berson, ei ddeddfau, a'i bobl ef: Ac myfi a ddae­thŷm allan mewn llawnfrŷd i'th wrthwŷnebu di.

CRISTION. Gwilia di Apol-lyon pa beth a wnelŷch, canŷs yr wŷfi yn teithio ar brif ffordd y Brenin, sef yn y ffordd o sancteiddrwŷdd, ac [Page 67] am hynnŷ edrŷch attad dy hunan ( Esaŷ 35.8.)

Apol-lyon. Yna lledodd Apol-lyon ei draed tros lêd y ffordd, ac a ddywedodd, nid oes arnafi ofn yn y matter ymma, Ymbarodtoa i farw; Canŷs mi a dyngais i'm Ogof uffernol, nad ei di ddim pellach; Ac mi fynnaf weled gwaed dy galon di yn y lle hwn; A chyda hynnŷ fe a daflodd biccell danllŷd tuagat ei ddwŷfron ef; Ond yr oedd gan Gristion Darian yn ei law, ac efe a ymddiffynnodd ei hunan a honno; Ac fellu fe a ymgadwodd rhag niwed y prŷd hwnnw ( Ephesiaid 6.16.) Yna tynnodd Gristion ei gleddŷf allan, canŷs yr ef yn ei gweled hi 'n brŷd iddo edrŷch atto ei hunan; Ac Apol-lyon ar frŷs a ymosododd yn filain yn ei erbŷn ef eilwaith, gan daflu piccellau cyn amled a'r cenllŷsg tuag atto ef; Ac a'r rhain (er cymmaint a allodd Cristion ei wneuthur, i ymgadw rhagddŷnt) fe 'i clwŷfwŷd ef gan Apol­lyon yn ei Ben, yn ei Law, ac yn ei Droed, yr hŷn a wnaeth i Gristion gilio ychydig; Ac am hynnŷ fe a gurodd Apol-lyon arno yn fwŷ nerthol; Ond fe gymmerodd Cristion galon drachefn, ac a'i gwrthwŷnebodd ef mor wrol ac a gallai; Yr ym­ladd tost ymma a barhâodd fwŷ na hanner di­wrnod, ie hŷdonid oedd Cristion ymron deffygio; Canŷs rhaid i chwi wŷbod ei fôd ef o achos▪ ei friwiau yn myned wannach wannach.

Apol-lyon ar hŷn (wedi cael y fâth gyfleu) a ddaeth nesnes at Cristion; A chan ymryson ag ef, a'i taflodd ef i lawr mewn môdd creulon, a chyda hynnŷ fyrthiodd cleddŷf Cristion allan o'i law ef; Yna ebŷr Apol.lyon wrth Gristion 'rwi'n siŵr o honoti yr awron; A chan gwŷmpio arno ef, fe a'i llethodd ef agos i farwolaeth, hŷdoni ddechreuodd Cristion ofni am ei fywŷd; Ond fel yr oedd Duw yn mynnu, tra yr ydoedd Apol.lyon ar roddi [Page 68] ei ddyrnod diwaethaf iw lâdd ef, fe a estynnodd Cristion ei law allan yn egniol, ac a ymaelodd yn ei gleddŷf, ac a ddywedodd, Na lawenhycha i'm herbŷn O fy Ngelŷn! Pan syrthiwŷf mi a gyfodaf drachefn ( Mica [...] 7.8) A chyda hynnŷ efe a ro­ddodd frâth dwŷs i Apol-lyon, yr hwn a wnaeth iddo gilio▪ megis un wedi derbŷn ei friw marwol: Cristion wrth weled hynnŷ, a gurodd arno ef drachefn, gan ddywedŷd; Yn y pethau hŷn ôll, yr ŷm ni yn fwŷ nâ choncwerwŷr trwŷ'r hwn a'n carodd ni; Ac ar hynnŷ Apol-lyon fel Draig a dan­nodd ei adenŷdd ar lêd, ac a frysiodd ymaith, fel na welodd Cristion mono mwŷ ( Rhufeinaid 8.37. Iaco 4.7.)

Yn yr ymdrech hwn, ni ddichon calon Dŷn feddwl (oni basai iddo weled a chlywed fel a gwneuthŷm i) mor ofnadwŷ yr oedd Apol-lyon, trwŷ hôll amser yr ymdrech, yn rhuo, gan leisio fel Draig: Ac o'r tu arâll, pa ocheneidiau a grudd­fannau oedd yn dyfod allan o galon Cristion; Ni welais i mono ef trwŷ gydol yr amser, yn edrŷch cymmaint ag unwaith yn siriol, hŷdoni wŷbu ef iddo glwŷfo Apol-lyon a'i Gleddŷf dau finiog, ( Ephesiaid 6.17. Hebreaid 4.12.) Ond gwedi Deall hynnŷ, fe a wenodd ac a chwarddodd.

A chwedi gorphen yr ymdrech hwn fe a ddy­wedodd Cristion, myfi a ddiolchaf yn y lle ymma ir hwn a'm gwaredodd i o safn y Llew, ac a'm nerthodd i yn erbŷn Apol-lyon; Ac ar hynnŷ fe a ganodd fel hŷn,

Belzebub, pen Tywŷsog hŷll,
Y diffaith Ellŷll ymma,
(Am ei fôd ar feddwl frŷd,
O'm bywŷd fy nifetha)
A yrrodd ymma mewn gwifg gref;
Y gwrthŷn gene gwaethaf,
Mewn tanllŷd ac uffernol fôdd,
A chwimwth ruthrodd arnaf.
Ond Michael fendigedig borth,
A ddaeth i'm cynnorthwŷo:
Ac mi a'i gyrrais (gwŷch ŷw'r wêdd)
A mîn y clêdd i gilio.
Am hynnŷ bŷdd i mi roi mawl,
A diolch bythawl iddo,
A bendithio a llafar lêf
Ei enw ef heb peidio.

Wedi hynnŷ daeth atto ef Law, gan ddwŷn iddo rai o ddail pren y bywŷd; A Christion a'u cymmerodd, ac a'u rhoddodd wrth y clwŷfau a gawsai ef yn yr ymladdfa; Ac fe a iachawŷd yn fŷan ( Datcuddiad 22.2.) Ac fe a eisteddodd yno hefŷd i fwŷdta Bara, ac i yfed o'r Gostrel a roddasid iddo ychydig o'r blaen; Fellu wedi ymadfŷwio, fe a ymdaclodd i fyned ymlaen, gan ddwŷn ei gleddŷf noeth yn ei Law; Canŷs ebŷr efe, ni wn i nad oes rhŷw Elŷn arall ger llaw; Ond ni ruthrodd Apol-lyon mwŷ arno trw 'r hôll ddyffrŷn ymma.

Yr awron ynghwrr y Dyffrŷn hwn, yr oedd Dyffrŷn arall a elwŷd Dyffrŷn cyscod Angeu, ac yr oedd yn rhaid i Gristion fyned trwŷddo, am fôd y ffordd ir Ddinas Nefol yn myned trwŷ ei ganol ef; Ond lle anghyfanedd iawn ydwŷ'r lle hwn, megis yr anialwch yr aeth yr Israellaid gŷnt drwŷddo ( Jeremiah 2.6.) Yr awron hi a fu gwaeth ar Gristion yn y Dyffrŷn ymma nag yn ei ymdrech ag Apol-lyon.

[Page 70]Yna mi a welwn, wedi ei Gristion ddyfod i odreu Dyffrŷn cyscod Angeu, ddau ŵr yn cyfarfod ag ef, meibion i rhai a roesant anglod gŷnt i wlâd Canaan, yn brysio i fyned yn ôl ( Numeri 13.32.) Wrth y rhai a llefarodd Cristion fel hŷn.

CRISTION. I ba le yr ydŷch chwi yn myned?

Gwŷr. Hwŷthau a attebasant, yn ôl, yn ôl, ac nyni a fynem i chwithau hefŷd wneuthur fellu, os ŷw eich einioes na'ch heddwch yn werthfawr gennŷch.

CRISTION. Pa beth ŷw 'r matter ebŷr Cristion?

Gwŷr. Matter ebŷr nhwŷ, yr oeddem ni yn myned fel yr ydŷch chwithau rhŷd y ffordd ymma; Ac ni a aethom cŷn belled ag a meiddiem; Ac yn wîr pe basem yn myned ychydig ymhellach, ni allesem ni bŷth ddyfod yd ôl, ac ni chlywsit ti bŷth y newŷddion ymma allan o'n geneuau ni.

CRISTION. Ond pa beth a welsoch ac a glywsoch chwi ebŷr Cristion?

Gwŷr. Nyni a welsom Ddyffrŷn cyscod Angeu; Canŷs ni a ddaethom o fewn ychydig iddo, ac ir peryglon sŷdd yntho; Ond trwŷ ddigwŷddiad dâ, Nyni a edrŷchasom o'n blaen, ac a ganfuom y perŷgl cŷn dyfod iddo ( Psalm 23.4. & 107.18.) I mae'r Glŷnn cŷn dywŷlled ar Pŷg; Nyni a welsom yno Ellyllon a Dreigiau y pwll uffernol; Ac a glywsom udo a Gwŷlofain dibaid yn dyfod o'r Dyffrŷn hwnnw, megis oddiwrth Ddynnion yn gorwedd yn rhwŷm yno, mewn heirn a thrueni anrhaethadwŷ; Ac i mae cymylau tewion iawn (y rhain a allent fagu dychrŷn mewn pobl) yn crogi uwch ben y Glŷnn ymma, ac i mae Angeu hefŷd yn lledu ei adenŷdd trosto ef yn wastadol: Ac o fôd yn fŷrr i mae pôb mymrŷn [Page 71] o hono iw arswŷdo, gan ei fôd ef igŷd yn wrthŷn ac yn hagar.

CRISTION. Er hŷn igŷd ebŷr Cristion, dyma fy ffordd i tua'r porthladd dymunol.

Gwŷr. Bydded hi 'n ffordd i ti, ni ddewiswn ni moni yn ffordd i ni▪ Fellu hwŷ a ymadawsant; A Christion a aeth ymlaen, ond yn wastadol a'i Gleddŷf noeth yn ei law, rhag ofn i neb ruth­ro arno.

Wedi hynnŷ mi a welais yn fy mreuddwŷd, fôd ffôs ddŵfn iawn ar yr hôll ystlus dehau i'r Dy­ffrŷn hwn, ac ir ffôs hon a bu 'r Dall yn tywŷso 'r Dall ymhob oes; Ac ynthi hi a darfu am y ddau mewn môdd erchŷl. ( Matthew 15.14.) A thra­chefn, Wele ar yr ochr aswŷ yr oedd Cors beryglus iawn, ie ir hon os syrthiai Gŵr dâ, ni chai ef un gwalod caled ynthi iw draed i sefŷll arno; Ir Gors honno a syrthiodd y Brenin Dafŷdd unwaith; Ac yn ddiammeu fe ddarfasai amdano ef yno, oni bae ir hwn sŷdd Alluog ei dynnu ef ir Lann. ( Psalm 69.2, 14)

Yr oedd y llwŷbr hefŷd yn y Dyffrŷn hwn yn gyfŷng iawn, ac am hynnŷ a bu hi yn galed iawn ar Christion yn y lle ymma▪ Oblegit pan geisiai ef yn y tywŷllwch ochelŷd y ffôs ar y naill law, fe a fyddai yn barod i syrthio drofodd ar y llaw arall: A phan geisiai ef hefŷd ymgadw rhag y clai o'r naill du, oni byddai ef yn gofalus iawn, fe a fyddai yn barod iawn▪i syrthio ir ffôs; Ac fel hŷn yr oedd ef yn myned ymlaen; Ac mi a'i clywais ef ymma yn ocheneidio yn doft; Canŷs heblaw y perŷgl a grybwŷllwŷd amdano uchod, yr oedd y llwŷbr mor dywŷll, fel na wŷddai ef yn fynnŷch, pan godai ef ei droed i fyned ymlaen, ym mha le, nac ar ba beth a gosodai ef ei droed drachefen.

Heblaw hŷn, yr oedd safn uffern ynghanol [Page 72] y Dyffrŷn hwn, ac yr oedd hi hefŷd yn agos iawn at fin y ffordd; A phan wŷbu Cristion hynnŷ, efe a ddywedodd Pa beth a wnafi yr awron? Ac yr oedd y fflam a'r mŵg, a'r Gwreichion, ynghŷd a lleisiau creulon ac erchŷll yn dyfod allan yn fynŷch, ac yn aml iawn oddiyno; Ac oblegit nad allai Cristion a'i gleddŷf wneuthur niweid ir peth­au hŷn, fel a gwnaethai o'r blaen i Apol lyon, efe a'i dododd yn ei wain; Ac a gymmerodd Arf arall yn ei law, a elwid Pôb rhŷw weddi ( Ephesiaid 6.18.) Ac mi a'i clywn ef yn gweddio, Attolwg Arglwŷdd gwared fy enaid ( Psalm 116.4.) Ac er myned o hono ymlaen fel hŷn dros grŷn ennŷd, etto yr oedd y fflam yn ymgyrchu tuag atto ef yn wastadol; Ac efe a glywai hefŷd leisiau yn grudd­fan, a thrwst mawr ymma a thraw, megis pedfasal rhai yn nesu tuag atto, a hynnŷ dros amrŷw fill­tyroedd; A'r golwg creulon, a'r lleisiau ofnadwŷ ymma, a wnaeth iddo ofni a cai ef ei larpio yn ddrylliau, neu ei sathru fel y dom yn yr heolŷdd; Ac wedi dyfod i fynu lle a tebŷgasai ef ei fôd yn clywed bagad o Ellyllon, yn dyfod ymlaen iw gyf­arfod ef, fe a safodd ac a ddechreuodd feddwl pa beth oedd oreu iddo wneuthur; Weithiau yr oedd yn ei frŷd ef droi yn ôl; Wedi hynnŷ efe a ystyr­lodd ei fôd ef gwedi dyfod ynghŷlch hanner y ffordd trwŷ 'r Dyffrŷn; Ac yn ddiweddaf fe a feddyliodd ddarfod iddo eusus orchfygu llawer o beryglon; Ac a gallal y perŷgl o fyned yn ôl fôd yn fwŷ o lawer nag o fyned ymlaen; Ac ar hynnŷ fe a ymrodd i fyned ymlaen; Ond yr oedd yr ysprydion drŵg yn dyfod nes-nes, a phan ddae­thant o fewn ychydig o ffordd atto, fe a waeddodd a llêf uchel iawn, gan ddywedŷd; Myfi a rodiaf yn nerth yr Arglwŷdd Dduw; A chyda hynnŷ hwŷ a droesant eu cefnau, ac ni ddaethant ymhellach

[Page 73]Fe a ddigwŷddodd un peth i Gristion, nad allafi adel heibio heb ei adrodd; Mi a ddeliais sulw ei fôd ef (druan Gŵr) trwŷ y gorthrymderau hŷn, megis un yn agos a gwallgofi, oblegit nid ad­waenai ef mo'i leferŷdd ei hun; Ac fel hŷn a gwŷbum i hynnŷ: Gyntaf ac a daeth ef dro­sodd gyferbŷn a safn y llŷn sŷdd yn llosci a thân a brwmstan, fe ddaeth un o'r ysprydlon drŵg y tu cefn iddo, ac a nesodd atto yn araf, ac a hyrddodd lawer o gableddau blîn iw enaid ef, y rhai a deb­ŷgasai Cristion mai allan o'i galon ei hun yr oeddent hwŷ yn dyfod; A gwasgodd hŷn arno ef yn fwŷ na dim arall ar a ddigwŷddodd iddo o'r blaen, sef i feddwl iddo ef yr awron gablu yr hwn yr oedd ef yn ei fawr garu yn yr amser gŷnt; Etto yr oedd ef yn ystyried pe gallasai ef beidlo, na wnaethasai fe mo hynnŷ; Ond nid oedd gantho ef mor doethineb yr awron, nac i gau ei glustiau, nac i Ddeall o ba le yr oedd y cableddau hynnŷ yn dyfod.

Wedi i Gristion ymdeithio grŷn ennŷd yn y cyflwr anghysurus hwn, fe glywodd leferŷd rhŷw ŵr, yr hwn oedd yn myned o'i flaen ef, yn dywedŷd fel hŷn, Pe rhodiwn rhŷd glŷnn cyscod Angeu nid ofnaf niwed, canŷs yr wŷt ti gyda mi ( Psalm 23.4.) Yna fe a gymmerodd galon a chysur; A hynnŷ o herwŷdd y rhesymmau a ganlynant.

Yn Gyntaf, Am ei fôd ef yn casclu oddiwrth hynnŷ, fôd rhai ar a oeddŷnt yn ofni Duw yn ym­deithio yn y Dyffrŷn hwn yn gystal ac ef ei hun.

Yn Ail, Am ei fôd ef yn deall fôd Duw gyda hwŷnt (er eu bôd nhwŷ mewn tywŷllwch, a chy­flwr anghyssurus tros yr amser presennol) Ac onid ŷw ef gyda minnau hefŷd (ebŷr Cristion) er nad wŷfi yn ei weled ef, o achos y rhwŷstrau sŷ ynglŷn wrth y llê ymma ( Job 9.11.)

[Page 74]Yn Drydŷdd, Am ei fôd yn gobeithio (os gallai ef ei goddiwes hwŷ) a cai ef gyfeillion ymhen ennŷd; Fellu fe a aeth ymlaen, ac a alwodd ar yr hwn oedd yn myned o'i flaen ef; Ond ni wŷddai hwnnw pa beth a attebai, am ei fôd ynteu hefŷd yn tybied ei fôd ef ar ei ben ei hun; A gwawriodd y Dŷdd ymhen ychydig ar ôl hynnŷ: Yna a dywedodd Cristion, Duw a drodd gyscod Angeu yn foreu-ddŷdd ( Amos 5.8.)

A phan ddaeth y Borau, fe a edrychodd o'i ôl Ond nid o chwant dychwelŷd, ond i weled wrth liw Dŷdd y peryglon yr aethal ef trwŷddŷnt yn v tywŷllwch: Ac wele fe a ganfu yn eglurach y ffôs oedd ar y naill law, a'r Gors oedd ar y llaw arall; Ac hefŷd gyfynged oedd y ffordd, yr hon sŷdd yn arwain rhyngthŷnt trwŷ 'r Dyffrýn; Efe a welodd hefŷd yr awron yr ysprydion drŵg, a dreigiau 'r pwll di-waelod, ond ôll o hirbell; Canŷs ni ddeuent hwŷ yn agos gwedi ir Dŷdd wawrio; Etto hwŷ a amlygwŷd iddo ef, yn ôl yr hŷn a yscrifenwŷd, Duw sŷ'n datcuddio pethau dyfnion allan o dywŷllwch, ac yn dwŷn cyscod Angeu allan i oleini ( Job 12.22.)

Yr awron yr oedd yn hôff gan Gristion gael o hono ei waredu o ddiwrth hôll beryglon ei ffordd anial; Y peryglon hŷn, er ei fôd yn eu hofni yn fwŷ o'r blaen, etto yr oedd ef yn eu gweled hwŷ yn eglurach yr awron, am fôd goleuni y Dŷdd yn eu gwneuthur hwŷ yn amlwg iddo; Ac ynghŷlch y prŷd hŷn a codasai yr Haul; Ac yr oedd hynnŷ yn drugaredd arall i Gristion: Canŷs rhaid i chwi wŷbod er bôd y rhan gyntaf o Ddyffrŷn cyscod Angeu yn berŷgl; Etto yr oedd yr ail rhan, ir hon yr oedd ef yn myned yr awron (pettai bossibl) yn beryclach o lawer; Canŷs o'r mann yr oedd ef yn sefŷll arno yr awron, hŷd at gwrr eithaf y Dyffrŷn, [Page 75] yr oedd yr hôll ffordd cŷn llawned o fagiau, o gyn­llwŷnion i dwŷllo, ac o rwŷdau, a chŷn llawned o Byllau a thyllau dyfnion, ac o fannau yn pwŷso tuag i wared, fel ped fasai hi yn dywŷll yr awron, megis yr oedd hi pan ddaeth ef y rhan gyntaf o'r ffordd, pedfasai gantho fil o Eneidiau (yng-olwg rheswm) fe'u collasai nhwŷ bodygun; Ond yr oedd yr Haul (megis a dywedals i) yr awron yn codi; Yna a dywedodd Cristion, Duw a wnaeth iw oleuni lewŷrchu ar fy mhen, wrth oleuni yr hwn yr aethŷm trwŷ dywŷllwch ( Job 29.3.) Ac wrth y goleuni hwn a daeth ef i gwrr eithaf y dyffrŷn.

Wedi hynnŷ mi a welais yn fy mreuddwŷd, ac wele yn y mann eithaf o'r Dyffrŷn ymma, yr oedd Gwaed, Escŷrn, Lludw, ac aelodau 'cŷrph rhŷw Ddynnion, ie Pererinod (y rhai a aethent y ffordd ymma gŷnt) yn gorwedd ar wŷneb y ddaiar; A thra yr oeddwn i yn meddwl pa beth a allai fôd yr achos o hŷn, myfi a ganfum ogof ychydig o'm blaen, lle a basai Dau Gawr yn trigo yn yr hên am­ser, trwŷ awdurdod a chreulondeb pa rai, a rhodd­wŷd y Dynnion hynnŷ i farwolaeth boen-fawr: Ond Cristion a aeth heibio ir llê hwn heb fawr berŷgl, yr hŷn a fu yn lled-ryfèdd gennifi; Ond myfi a wŷbum wedi hynnŷ fôd un o'r Cawri, sef Pagan wedi marw er ys talm: Ac am y llall, sef Máh y golledigaeth, er ei fôd ef etto yn sŷw, i mae ef er hynnŷ o achos ei henaint, a'r amrŷw friwiau atgas a gafodd ef o brŷd i brŷd, mor ysig, ac mor anystwŷth yn ei gymalau, fel na ddichon ef yr awron wneuthur nemmawr gydag eistedd yng enau ei ogof, a chwrnu ar y Pererinod a fyddo yn myned heibio, a chnoi ei ewinedd am nad ŷw ef yn gallu dyfod attŷnt hwŷ (2 Thessaloniaid 2.3.)

Yna mi a welwn Gristion yn myned rhŷd ei [Page 76] ffordd; Etto wrth ganfod yr hên ŵr oedd yn eiffedd yng-enau'r ogof, Ni wŷddai ef pa beth i dybied, yn enwedig am ei fôd yn llefaru wrtho (er na alleu ddyfod ar ei ôl ef) gan ddywedŷd, Ni pheidiwch chwi bŷth, ac ni wellewch, hŷd oni loscir llawer mwŷ o honoch; Ond fe a dawodd a sôn, ac a edrychodd arno ef ag wŷnebprŷd gwrol; Ac fellu fe a aeth heibio, ac ni chafodd ddim niwed oddiwrtho; Yna a canodd Cristion fel hŷn,

Ni allaf ddywedŷd llai o'm genau,
Nad crŷn Fŷd o ryfeddodau,
Oedd fy achub a'm gwaredu,
O'r gofudiau a'm cyfarfu.
Tra fum yn y Dyffrŷn ymma,
Dyfn dywŷllwch o'r perycla,
Diawlaid, Uffern, pechod gwrthŷn,
A'm cwmpaseu hôb mynudŷn.
Pyllau, Rhwŷdau, a chrog-prennau,
Oedd yn llawn o▪bôb-tu 'm llwŷbrau;
Y fi druan gwael, fe allasid,
Dal a maglu fy' enaid hefŷd.
O! Bendigaid bŷth heb derfŷn,
A fo'r llaw a'm cadwodd rhagddŷn:
A chan fy môd yn fŷw yr awron,
Bŷdd ir Iesu wisco'r Goron.

Ac fel yr oedd Cristion yn myned ymlaen, fe a ddaeth i allt fechan; Yr hon a godasid ir diben hwn, fel a galleu Bererinod ganffod o'u blaen; Ag wedi dyfod i fynu yno, ac edrŷch o'i flaen, fe a ganfu Ffyddlon ar ei daith; Yna Cristion a wae­ddodd a llêf uchel, Hai, Hai, Hai-how, arhoswch, [Page 77] a mi a fyddaf gydymaith i chwi; Ar hynnŷ ffyddlon a edrychodd o'i ôl, a gwaeddodd Cristion arno ef drachefn, gan ddywedŷd Arhoswch Arhoswch, hŷd oni ddelwŷf i fynu attoch; Ond▪ Ffyddlon a attebodd, Na wnaf, yr wŷfi'n rhedeg am fy mywŷd, i mae Dialwr y gwaed yn fy nilŷn i; A Christion â gyffrowŷd ychydiġ ar hŷn; A chan ymegnio a'i hôll nerth, fe a oddiweddodd Ffyddlon yn fŷan, ac a redodd hefŷd yn gŷnt nag ef, fellu yr olaf a fu flaenaf; Yna chwarddodd Cristion yn wag [...]aw, o­blegid iddo gael y blaen ar ei Frawd; Ond heb ofalu 'n ddâ ar ei draed, fe a dripiodd yn fŷan ac a syrthiodd, ac nis gallai gyfodi drachefn hŷdoni ddaeth Ffyddlon i fynu iw gynnorthwŷo ef.

Yna mi a'u gwelwn hwŷ yn myned ynghŷd yn garedig iawn, gan ymddiddan yn hyfrŷd a'u gilŷdd am yr hôll bethau a ddigwŷddaseu iddŷnt yn eu Pererindod; A Christion a ddechruodd fel hŷn.

CRISTION. Fy anwŷl Frawd Ffyddlon, i maen 'n ddâ gennif i mi 'ch goddiweddŷd chwi, ac fôd Duw wedi cŷdtymheru ein Hysprŷdoliaeth ni yn y fâth fôdd, fel a gallom rodio ynghŷd megis Cymdeithion yn y llwŷbŷr ymma yr hwn sŷdd mor hyfrŷd.

Ffyddlon. Gyfaill anwŷl, myfi a obeithiais gael eich cymdeithas chwi o'n trêf ni o hŷd, Ond chychwi a gawsoch y blaen arnafi; Ac am honnŷ fe orfu i mi ddyfod hŷdymma fy hunan.

CRISTION. Pa hŷd yr arosasoch chwi yn Ninas Distrŷw, cŷn i chwi ddyfod allan ar fy ôl i ar eich Pererindod.

Ffyddlon. Hŷd nad allwn i aros dim yn hwŷ, canŷs yr oedd yno sôn mawr (yn y mann gwedi i chwi ymadel a ni) a byddai i'n Dinas ni ar fyrder gael ei llosci a thân o'r Nefoedd hŷd y llawr.

CRISTION. A oedd eich cymydogion chwi [Page 78] yn siarad fellu? Ac a ddaeth nêb o honŷnt hwŷ allan o'r Ddnias ond chwychwi, i ddiangc rhag y perŷgl ymma?

Ffyddlon. Er bôd yno, ac oddiamgŷlch mewn lleoedd eraill sôn mawr, a difethid ein Dinas ni a Thân a Brwmstan oddi uchod; Etto nid wŷfi 'n tybied, fôd ein Dinasyddion ni yn coelio hynnŷ; Canŷs myfi a glywais rai o honŷnt (pan oeddid yn siarad fwŷaf am y matter hwn) yn dywedŷd yn watwarus amdanoch chwi, a'ch taith rhyfygus (canŷs fellu a galwasant hwŷ eich pererindod chwi) ond yr oeddwn i, ac yr wŷfi fŷth yn credu mai fellu a difethir ein Dinas ni; Ac am hynnŷ myfi a ddiangais allan o honi.

CRISTION. A glywsoch chwi ddim sôn am fy nghymydog Meddai? Ac os do, pa fôdd yr oedd pobl yn ymddwŷn eu hunain tuag atto ef?

Ffyddlon. Myfi a glywais iddo ef eich canlŷn chwi hŷdoni ddaeth ef i Gors anobaith, yn yr hon a syrthiodd ef (meddai rhai) ond ni fynnai ef i neb wŷbod hynnŷ; Ond myfi a wn ei fôd ef wedi ei ddiwŷno yn fŷdŷr a thom y Gors honno; A chwedi iddo ddychwelŷd yn ôl, i mae pôb mâth o bobl yn ei watwar, ac yn ei ddirmygu ef; A phrin a gesŷd neb ef ar waith, ac i mae ef yr awron yn saith waeth nag a bu ef erioed o'r blaen.

CRITSION. Ond pa ham a maent hwŷ wedi ymosod yn ei erbŷn ef fellu, gan eu bôd nhwŷthau hefŷd yn dibrisio 'r ffordd a trôdd ef oddiarni.

ffyddlon Ow meddant hwŷ! Crogwch ef crogwch ef, Rhagrithiwr ŷw ef; Ni bu ef gywir iw ffŷdd ei hun: Ie yr wi'n tybied fôd Gelynion Duw wedi eu gosod ar waith iw annoss ef, ac iw wneuthur ef yn Ddihareb, am iddo gilio allan o'i ffordd a dychwelŷd yn ôl i Ddinas Distrŷw ( Jeremi 29.18.19.)

[Page 79] CRISTION. A fu dim ymddiddan rhyngochi ac ef cŷn eich dyfod oddicartref?

Ffyddlon. Myfi a gyfarfum ag ef unwaith yn yr heol, ond efe a giliodd ymaíth i ystlus arall yr heol, fel un a chywilŷdd arno am yr hŷn a wnae­thai; Fellu nid yngenais i air wrtho.

CRISTION. Pan ddechreuais i fy nhaith, yr oeddwn yn gobeithio 'n ddâ am y gŵr hwnnw; Ond yr awron yr wi 'n ofni a derfŷdd amdano ef yn nistrŷw y Ddinas; Canŷs digwŷddodd iddo ef yn ôl y wir Ddihareb, Y Ci a ymchwelodd at ei chwdiad ei hun, a'r Hŵch wedi ei golchi iw hymdreiglfa yn y dom (2 Petr 2.22.)

Ffyddlon. Yr wŷf inneu yn ofni hynnŷ (ebŷr ffyddlon) ond pwŷ a all rwŷstro yr hŷn a fŷdd?

CRISTION. Ond y cymydog ffyddlon ebŷr Cristion, gan adel Meddal, siarad wn am y matterion a berthŷn i ni ein hunain yn fwŷ yr awron; Myne­gwch i mi gan hynnŷ, pa bethau a ddigwŷddasant i chwi ar y ffordd wrth ddyfod; Canŷs myfi a wn i chwi gyfarfod a rhŷw ddrygau; Onidto gellir­yscrifennu hynnŷ yn lle rhyfeddod.

Ffyddlon. Myfi a ymgedwais rhag y Gors, ir hon a syrthiasoch chwi iddi; Ac a ddaethŷm i fynu ir porth heb gael prawf o'r perŷgl hwnnw; Ond myfi a gyfarfum ag un a elwid Trythŷll, yr hon a fu debŷg i wneuthur i mi niwed.

CRISTION. Dâ a fu i chwi ddiangc rhag ei rhwŷd hi; Y fâth un a honno a fu caled iawn i Joseph, ond ynteu a ddiangodd rhagddi, er iddo agos golli ei fywŷd o'i phlegid hi ( Genesis 39.) Ond pa beth a wnaeth hi i chwi?

Ffyddlon. Chwi a ryfeddech (oni bae eich bôd chwi 'n gwŷbod rhŷwbeth), pa fâth dafod gwen­heuthus oedd gan y Faeden: Hi a fu daur wrthŷf am droi gyda hi, gau addo i mi bôb mâth [Page 80] o Fodlonrhwŷdd cnawdol, ond nid y bodlon­rhwŷdd sŷ'n dofod allan o gydwŷbod ddâ

CRISTION. Diolchwch i Dduw a'ch cadwodd chwi rhagddi: Y nêb a byddo 'r Arglwŷdd yn ddig wrtho, a sŷrth yn y ffôs honno ( Diharebion 22.14)

Ffyddlon. Nage, ni wn i pa un a wnaethŷm a'i diangc yn gwbl oddiwrthl a'i peidio.

CRISTION. Ow! Yr wi 'n gobeith na rodd▪ asoch chwi lê iw hudoliaeth hi?

Ffyddlon. Na ddo i'm halogi fy hun yn gor­phorol gyda hi, canŷs yr oeddwn yn cofio hên yscrifen a welswn i, yr hon oedd yn dywedŷd, ei thraed hi a ddescynnant i Angeu, a'i cherddediad a sang uffern ( Diharebion 5.5.) Am hynnŷ mi a geuais fy llygaid, rhag ofn cael fy hudo gan el golygon hi ( Job 31.1.) Yna hi a'm difenwodd i, a minneu a aethŷm i ffordd,

CRISTION. A gyfarfuoch chwi ag un brofe­digaeth arall wrth ddyfod tuag ymma?

Ffyddlon. Wedi i mi ddyfodd i odreu y Brŷn a elwid Anhawstra, myfi a gyfarfum a Gŵr oedran­nus lawn, yr hwn a ofynnodd i mi pwŷ oeddwn i, ac i ba le yr oeddwn yn myned? A minneu a'i hattebais ef, mai Pererin oeddwn yn myned tua 'r Ddinas Nefol: Yna ebŷr yr hên ŵr yr wŷti yn edrŷch fel Dŷn gonest; A fyddi di fodlon i aros gyda mi; Os gwnei di fellu mi a roddaf i ti gyffog; Yna mi a ofynnais iddo ei enw, a pha le yr oedd ef yn trigo? Yntef a'm hattebodd i, mai ei enw ef oedd Adda y cyntaf, a'i fôd ef yn aros yn y Drêf a elwir Twŷll ( Ephesiaid 4.22. Jeremi 17.9.) Wedi hynnŷ mi ofynnais iddo pa beth oedd ei waith ef, a pha gyflog a roddai ef? Yntef a'm hattebodd i, mai hêla am olud, ac am feluswedd buchedd, ac am bôb mâth o bethau hyfrŷd a ddichon gyflawni trachwantau 'r cnawd oedd ei [Page 81] waith ef, ac yn lle cyflog a cawn i fôd yn etifedd iddo yn y diwedd; Mi a ofynnais iddo ymhellach pa fâth Dŷ yr oedd ef yn ei gadw, a pha weision eraill oedd gantho ef? Ac fe a'm hattebodd i fôd yn ei Dŷ ef hôll ymheuthundod y Bŷd hwn, ac mai y rhai a genhedlasai ef ei hun oedd ei weision ef; Yna mi a ofynnais pa fawl un o blant oedd gantho? A dywedodd yntef wrthŷf, nad oedd gantho ond tair o ferched, sef Chwant y cnawd, Chwant y llygaid, a Balchder y bywŷd, ac a cawn i eu priodi nhwŷ ill tair os mynnwn (1 Joan 2.16.) Yna mi a ofynnais iddo, pa hŷd a mynnai ef i mi fŷw gydag ef? Ac fe a'm hattebodd i cyhŷd o amser ac a byddai ef bŷw ei hun.

Wedi clywed hyn, yr oeddwn i ar y cyntaf yn gogwŷddo peth i fyned gyda 'r hên ŵr, canŷs yr oedd ef yn dywedýd yn dêg iawn; Ond wrth edrŷch yn ei dalcen ef, mi welwn yno yn yscrifen­nedig, Dôd heibio yr hên Ddŷn a'i weithredoedd ( Ephesiaid 4.22. Rhufeiniaid 13.12.)

Yna yr oedd hŷn yn rhedeg yn fy meddwl (er tegced oedd ei eiriau ef) a gwerthe ef fi yn lle caeth-wâs, os awn iw Dŷ ef i drigo; Ac am hyn­nŷ mi a archais iddo dewi a sôn, oblegid na ddown i yn agos i Ddrŵs ei Dŷ ef; A'r hynnŷ fe a'm llashenwodd i, ac a ddywedodd wrthif, a gyrai ef y fâth un ar fy ôl, ac a wnai fy ffordd yn chwerw i'm Henaid i; Yna mi a drois i ymadel ag ef; Ond cŷn gyntaf ac yr ymdroesŷm i fyned oddlyno, mi a'i clywn ef yn ymaelŷd ynofi, ac yn rhoddi i mi y fâth dynnfa creulon, mewn amcan i'm tynnu'n ôl, hŷdoni thybiais iddo gippio ym­aith ran o'm cnawd i; A gwnaeth hŷn i mi waeddi allan, O truan o Ddŷn wŷfi! ( Rhufeiniaid 7.24.) Ac ar ôl hynnŷ mi a aethŷm rhŷd fy ffordd tua phen y Brŷn; A chwedi i mi fyned ynghŷlch [Page 82] hanner y ffordd i fynu, mi a edrychais yn ôl, a gwelwn un yn dyfod ar fy ôl i yn chwimmwth fel y gwŷnt; Ac fe'm goddiweddodd i yn union yn yn man lle 'r oedd llwŷn wedi blanu; A chŷn gynted ag a darfu iddo fy 'ngoddiwes i, nid oedd ei chware ef a'm fi ond gair a dyrnod; Canŷs fe 'm curodd i lawr, ac a'm gosododd i orweddodd ar y ddaiar fel Dŷn marw; Ond pan ddaethŷm i ych­ydig attaf fy hun drachefn, mi a ofynnais iddo pa ham a gwnaethai ef fellu a mi? Yntef a ddy­wedodd o achos fy 'ngogwŷddiad dirgel i at yr Adda Cyntaf; A chyda hynnŷ fe a roddodd i mi ddyrnod erchŷll arall ar fy nwŷfron, ac am bwriodd i lawr ar fy nghefn; Fellu mi a orweddais i lawr wrth ei draed ef fel Dŷn marw megis orblaen; A phan ddadebrais i eilwaith mi a lefais arno am drugaredd; Ond fe a'm hattebodd i nas medrai ef ddangos trugaredd, ac ar hynnŷ fe a'm curodd i lawr drachefn; Ac yn ddiammeu fe 'm lladdasai i oni bae i un ddyfod heibio, ac erchi iddo beidio.

CRISTION. Pwŷ oedd yr hwn a archodd iddo ef beidio?

Ffyddlon. Ni adwaenwn i mo hwnnw ar y cyntaf, ond wrth el fynediad ef heibio mi a ganfum dyllau yn ei ddwŷlo ac yn ei ystlŷs ef; Yna mi a wŷbam mai 'n Harglwŷdd ni ydoedd ef; Fellu mi a aethŷm i ben-y Brŷn.

CRISTION. Y Gŵr hwnnw a'ch goddiwe­ddodd chwi oedd Moses; Nid ŷw ef yn arbed neb; Ac ni feider ef ddangos trugaredd ir rhai a drose­ddant ei gyfraith ef.

Ffyddlon. Mi a'i hadwaen ef yn ddigon dâ; Nid y prŷd hwnnw a cyfarfu ef a mi gyntaf; Efe oedd yr hwn a ddaeth attafi pan oeddwn yn trigo yn ddiofal gartref, ac a ddywedodd wrthŷf a llos­cal ef fy nhŷ a'm fy mhen os aroswn yno.

[Page 83] CRISTION. Oni welsoch y Tŷ oedd ar ben y Brŷn, yn agos ir lle a cyfarfu Moses a chwi?

Ffyddlon. Dô, a'r Llewod hefyd; Ond i'm tŷb i yr oeddent hwŷ'n cyscu; Canŷs ynghŷlch hanner dŷdd ydoedd hi: Ac am fôd gennif gymaint o'r Dŷdd o'm blaen, mi a aethŷm heibio ir porthor ac a ddaethŷm i wared o'r Brŷn.

CRISTION. Ond attolwg a gyfarfuoch a neb yn Nyffrŷn Darostyngiad?

ffyddlon Do, mi a gyfarfŷm a Gŵr a elwir Anfodlonrwŷdd, yr hwn a fynnai fy mherswaedio i i ddychwelŷd yn ôl drachefn gydag ef am y rheswm hwn, sef oblegit nad oedd dim Anrhydedd iw gael yn y Dyffrŷn hwnnw; Ac heblaw hynnŷ ebŷr ef, os byddwch chwi mor ffôl a myned y ffordd honno, chwi a ddigiwch eich hôll gyfeillion, megis Balchder, Uchder, Hunan dŷb, Gogoniant by­dol, gyda llawer eraill.

CRISTION. Pa fôdd yr attebasoch ef?

Ffyddlon. Mi a'i hattebais ef, mai er gallu o rhai ôll a enwasai ef fy holi o ran carennŷdd (canŷs fy ngheraint i oeddŷnt yn ôl y cnawd) etto er pan aethŷm i 'n Bererin, hwŷ a'm gwadasant i, a minne a'u gwrthodais hwŷthau: Ac am hynnŷ mi a ddywedais nad oeddent hwŷ yr awrôn ddim mwŷ i mi na phe basent erioed heb fôd o'm cen▪ hedl; Ac heblaw hynnŷ mi a ddywedais wrtho, iddo lwŷr gamosod allan y Dyffrŷn ymma; canŷs oflaen Anrhydedd yr a Gostyngeiddrwŷdd, ond Balchder sŷdd yn myned oflaen dinistr, ac uchder ysprŷd oflaen cwŷmp; Ac am hynnŷ ebŷr fi gwell genni fyned trwŷ 'r Dyffrŷn ymma, i feddiannu y peth y mae 'r doethaf yn ei gyfrif yn anrhydedd, na dewis yr hŷn yr wŷti yn ei gyfrif yn deilwng o'm serchiadau ( Dibarebion 15.33. & 16.18.)

CRISTION. A gyfarfuochi a neb arall yn [Page 84] Dyffrŷn hwnnw?

Ffyddlon. Dô mi a gyfarfum ag un a elwir Digwilŷdd; Ac fe a lefarodd lawer yn erbŷn crefŷdd, gan ddywedŷdd mai peth gwael iawn ydoedd i ddŷn feddwl am grefŷdd, ac nad oedd cydwŷbod dyner ond peth anwrol; Ac nad oedd gwilio ar ein gelriau a'n gweithredoedd (fel a bom dan rwŷmedigaeth i ymgadw oddiwrth y rhydd­did gwrol-wŷch, yr hŷn i mae Gwŷr calonnog y Bŷd presennol yn y marfer ag ef) ond gwatwar ir amseroedd; Efe a ddywedodd hefŷd nad oedd nemmawr o'r rhai Galluog, nac o'r rhai cyfoethog, a'r Doethion o'r▪ un feddwl a mi; Ac nad oedd neb o honŷnt hwŷ ychwaith o'm barn i, nes eu denu yn gyntaf i fod yn ffyliaid, trwŷ feiddio yn ewŷllysgar i golli 'r cwbl ar a feddant i feddiannu nis gwŷr neb pa beth (1 Corinthiad 1.26. & 3.18. Philemon 3.8.) Heblaw hynnŷ efe a osododd ger fy mron i wael ac ifel o râdd a chyflwr, y rhai oeddŷnt yn fwŷ enwedigol yn Bererinod ymhôb oes; Ae fe ddarfu iddo edliw hefŷd i mi eu han­wŷbodaeth, a'u hanneallgarwch hwŷ ymhôb mâth o Ddysceidiaeth naturiol ( Joan 7.48, 49.) lê efe a ddywedodd ymhellach, mai Cywilŷdd oedd fôd neb yn wŷlo ac yn gruddfan wrth wrando ar Brege­thiad y Gair, a dyfod wedi hynnŷ oddi-yno dan ocheneidio; mai cywilŷdd oedd ceisiio maddeuant gan Gymmydog am feiau bychain, a thalu adref yr hŷn a laðradtawŷd neu a gamattaliwŷd oddi­wrth nêb; Dywedodd hefŷd, fôd Crefŷdd yn peri i Ddŷn ymddieithro oddiwrth y Gwŷr mawr, o­blegid ychydig o feiau (ir rhai er eu bôd yn feiau annafus, thoes ef enwau tegcach) a dywedodd fôd crefŷdd yn peri i rai ystyried a derbŷn wŷneb Dyn­nion gwael, am eu hôd nhwŷ o'r un brawdoliaeth grefyddol a nhwŷthau; Ac onid ŷw hŷn ebŷr [Page 85] ef yn gwilyddus?

CRISTION. A pha beth a ddywedasoch chwi­thau wrtho ef?

Ffyddlon. Ni wŷddwn i pa beth iw ddywedŷd ar y cyntaf; Ie efe a'm cyffrôdd i yn y fâth fôdd, fel a cododd fy ngwaed yn fy wŷneb, a braidd na'm dygwŷd i ymaith oddiwrth grefŷdd, trwŷ'r pethau a adroddodd y Dŷn Digwilŷdd hwn wr­thif; Ond o'r diwedd mi a ystyriais fôd yr hŷn sŷdd uchel gyda Dynnion yn ffiaidd ger bron Duw ( Luc 16.15.) Ac mi a feddyliais drachefn, mai y Dŷn digwilŷdd hwn, a fynnai daro cywilŷdd ynof i'm hattal i trwŷ hynnŷ▪ rhag myned ymlaen i fôd yn grefyddol; Mi a feddyliais fôd y dŷn hwn yn mynegu i mi pa beth ŷw Dynnion: Ond nad oedd ef yn dywedŷd dim wrthŷfi pa beth oedd Duw na'i air; Ac mi a ystyriais heblaw hynnŷ, na fernir ni yn Nŷdd y Farn i farwolaeth, nac i Fy­wẏd yn ôl Barn ysprŷd gwrol-wŷch y Bŷd, ond yn ôl Doethineb a Chyfraith y Goruchaf; Am hyn­nŷ (ebŷr fi) yr hŷn a mae Duw yn ei ddywedŷd ei fôd yn oreu, sŷdd oreu yn wîr, er bôd hôll Ddynnion y Bŷd yn ei erbŷn; Yr awron gan fôd Duw yn gwneuthur gwell cyfrif o'r Grefŷdd a ap­pwŷntlodd ef ei hun, ac o Gydwŷbod dyner, nag yr wŷt ti yn ei wneuthur o honŷnt o Ddŷn Di­gwilŷdd; A chan fôd y rhai sŷ 'n eu gwneuthur eu hunain yn ffyliaid (er mwŷn Teŷrnas Nefoedd) yn Ddoethach na neb arall ym-marn yr. Arglwŷdd; A chan fôd y Gŵr tlawd sŷ'n caru Crist, yn gyf­oethogcach na 'r Gwŷr mwŷaf yn y Bŷd sŷ 'n ei gasau ef; Dôs ymaith gan hynnŷ o Ddŷn Di­gwilŷdd oddiwrthif; Canŷs Gelŷn wŷt ti i'm iechŷdwriaeth i; A wrandawafi arnati trwŷ fôd yn wrthwŷneb i'm Harglwŷdd goruchaf? Os fellu a gwnafi, pa fôdd yr edrychaf yn ei wŷneb ef [Page 86] yn ei ddyfodiad? A Gywilyddiafi yr awron o her­wŷdd ei ffŷrdd a'i weision ef? Os fellu a gwnaf, pa fôdd a gailafi ddisgwŷl am ei fendith ef ( Marc 8.34. Matthew 10.32.) A braidd a gellais i (a'r ymadroddion hŷn) yrru ymaith o'm cyfeillach y Dihirwr digwilŷdd hwn, a fynnai weithio cy­wilŷdd ynof, i ymwrthod a Duw a'i ffŷrdd a'i Bobl; Iê fe a lefarai yn ddistaw yn fy nghlustiau, yn fynŷch amrŷw o bethau, y rhai yr oedd pobl grefŷddol yn dangos llawer o wendid ynthŷnt: Ond o'r Diwedd mi a ddywedais wrtho ef, na fyddai ei drafferth ef yn y gorchwŷl hwn rhagllaw ond gwaith ofer; Canŷs yn y pethau (ebŷr fi) yr ŷch chwi yn eu diystyru, yr wŷfi 'n gweled y Gogoniant mwŷaf; A chwedi gyrru 'r Dŷn taer hwn ymaith, a chael gwared o hono; Myfi a genais fel hŷn.

Y profiadau sŷ 'n cyfarfod,
Pawb sŷ'n teithio mewn ufudd-dod,
Ir wîr alwad Nefol hyfrŷd,
ŷnt yn aml, ac yn enbŷd.
Wedi eu trefnu, a'u gweddeiddio,
I'n drŵg nattur sŷdd yn effro:
Delant a'm ein pennau beunÿdd,
Delant, delant fŷth o newýdd.
Fel y gallom yn aflawen,
Naill a'i 'nawr, a'i rhŷw brŷd amgen,
Trwŷddŷnt gael ein dal, a'n gorfod,
Ac o'u plegid gael ein gwrthod.
O gan hynnŷ Nac anghofied,
Pererinod fôd yn gwilied,
I wrthnebu twŷll drŵg Ddynnion,
Cŷn wroled ag y gallon.

[Page 87] CRISTION. I mae 'n ddiammeu a dylem ni alw ar yr hwn a fynnei i ni fôd yn wrol ar y ddaiar gyda 'r gwirionedd, am gymmorth i wrth­wŷnebu y cyfrŷw Ddynnion digwilŷdd, ar a fynnent i ni gywilŷddio i ymwrthod a'r hŷn sŷdd ddâ; Ond a ddigwŷddodd i chwi ddim drŵg arall yn y Dyffrŷn hwnnw?

Ffyddlon. Na ddo, canŷs yr oedd yr Haul yn ll wŷrchu arnaf yn yr hôll ran arall o'r ffordd trwŷ 'r Dyffrŷn hwnnw, ac hefŷd trwŷ Ddyffrŷn cyscod Angeu.

Ac arôl i Gristion a ffyddlon fyned ymlaen oddiyno, mi a welwn yn fy mreuddwŷd ŵr a el­wir Chwedleugar yn cyfarfod a nhwŷ; Yr oedd ef yn ŵr mawr o gorpholaeth, ac yn degcach yr olwg arno o bell nag yn agos; A gofynnodd ffyddlon iddo ef, y cyfaill i ba le yr ewch chwi? A ydŷch chwi yn siwrneio tua 'r wlâd Nefol?

Chwedleugar. Yr wŷfi yn myned tua 'r wlâd honno.

Ffyddlon. Os fellu, rwi 'n gobeithio cael eich cyfeillich chwi.

Chwedleugar. Mi a fyddaf o ewŷllŷs fy nghalon yn gydymaith i chwi.

Ffyddlon. Awn gydan gilŷdd gan hynnŷ, a threuliwn ein hamser mewn ymddiddannion yng­hŷlch rhŷw bethau llesol.

Chwedleugar. I mae 'n ddâ iawn gennifi siarad a chwi am bethau dâ; Ac yr wi'n llawenhychu i mi gyfarfod ag un sŷ'n tueddu i chwedleua am fat­terion crefyddol; O ddywedŷd wrthŷch y gwîr, nid oes nemmawr yn gofalu am dreulio eu hamser fel hŷn wrth ymdeithio, ond dewisant yn hyt­trach o lawer ymddiddan am bethau anfuddiol; A bu hŷn yn flinder i mi.

Ffyddlon. I mae hynnŷ yn beth iw dosturio, canŷs [Page 88] pethau Duw yn haeddu adroddiad ein tafodau am danŷnt ymma ar y ddaiar oflaen dim arall.

Chwedleugar. Yr wi 'n dra bodlon i chwi, canŷs i mae 'ch ymadroddion yn llawn o reswm dâ: Pa beth sŷ mor hyfrŷd, ac mor fuddiol ag ymddi­ddan am bethau Duwiol?

Pa beth sŷ mor hyfrŷd (os ydŷw Dŷn yn cym­merŷd hyfrydwch mewn pethau rhyfeddol) os bŷdd yn hyfrŷd gan Ddŷn chwedleua am Historiau, neu Ddirgeledigaethau mowrion; Neu os bŷdd Dŷn yn caru ymddiddan am Wrthiau, Rhyfedd­odau, neu Arwŷddion; Ym mha le a caiff ef y pethau hŷn wedi eu coffau mor hyfrŷd, a'i hyscrif­ennu mor lluniedd, ag yn yr yscrythur lân.

Ffyddlon. Etto wrth siarad ynghŷlch y fâth bethau dâ, ein diben ni a ddylai fôd i dderbŷn lleshâd i'n heneidiau oddiwrth y cyfrŷw ymddi­ddanion.

Chwedleugar. Dyna 'r hŷn a ddywedais i; Canŷs i mae ymddiddanion ynghŷlch pethau Duw­iol yn llesol, oblegid trwŷ hynnŷ fe ddichon Dŷn ddyfod i wŷbod llawer ynghŷlch gwagedd pethau daiarol, ac ynghŷlch godidowgrwŷdd pethau nefol: Ond yn fwŷ neilltuol, oddiwrth hŷn a gall Dŷn ddyscu, Mor angenrheidiol ŷw 'r Ail-anedigaeth, mor annigonol ŷw'n gweithredoedd goreu ni i haeddu Bywŷd Tragywŷddol, a pha fâth ddiffŷg sŷdd arnom ni am Gyfiawnder Iesu Grîst, i guddio ein noethni ysprydol; Heblaw hynnŷ, trwŷ hŷn a dichon Dŷn ddyscu pa beth ŷw Edifarhau, Credu, Gweddio, Dioddef dros Grîst, a chyffelib bethau eraill: Trwŷ hŷn a dichon Dŷn ddyscu beth ŷw sylwedd, a nattur Addewidion mawr yr Efengŷl, er cysur iw enaid ei hun; A pha fôdd hefŷd i ym­gadw rhag▪ twŷllodrus opiniwnau, ac i amddiffŷn y gwirionedd, ac i roi Addŷsc ir anwŷbodol.

[Page 99] Ffyddlon. I mae hŷn ôll yn wîr; Ac i mae 'n ddâ gennif glywed y pethau hŷn oddiwrthŷch.

Chwedleugar. Och o esceulusdra pobl i ym­ddiddan am y cyfrŷw fatterion, hŷn ŷw 'r achos fôd cŷn lleied yn deall yr Angenrhaid o ffŷdd, ac o waith grâs yn eu heneidiau, iw cymmhwŷso nhw i feddiannu Bywŷd tragywŷddol: Ac o eisiau chwedleua am y fâth betbau a hŷn, i mae pobl yn bŷw mewn anwŷbodaeth, gan hyderu ar weith­redoedd y Gyfraith am gael Teŷrnas Nefoedd trwŷddŷnt, er na cheir moni y ffordd honno.

Ffyddlon. Ond trwŷ'ch cenad Rhodd Duw ŷw Gwŷbodaeth Nefol o'r pethau hŷn; Ac ni all neb eu gwŷbod hwŷnt trwŷ eu dyfalwch eu hun, neu yn unic trwŷ ymddiddan amdanŷnt.

Chwedleugar. Mi a wn hynnŷ yn ddigon dâ: Oblegid ni ddichon Dŷn dderbŷn dim oni bŷdd wedi ei roddi iddo o'r Nêf; O râs i mae 'r cwhi, ac nid o weithredoedd; Mi a allwn roddi i chwi gant o Scrythyrau i dystiolaethu hynnŷ.

Ffyddlon. Am ba beth gan hynnŷ yn neilltuol (ebŷr ffyddlon) a chwedleuwn ni yr awron.

Chwedleugar. Mi a siaradaf a chwi am y pethau a fynnoch; Pa un bynnag a'i pethau Nefol, a'i pethau Daiarol; Pethau Moesol, a'i pethau Ef­angylaidd; Pethau Cyssegredig, a'i pethau Halog­edig; Pethau a Fu, a'i pethau a Fŷdd; Pethau mewn Gwledŷdd dieithr, a'i pethau yn ein Gwlâd ein hun; Etto rhaid ŷw gwneuthur y cwbl er adeiladaeth i'n heneidiau.

ffyddlon Wedi clywed hŷn a ryfeddodd, a chan droi at Gristion efe a ddywedodd wrtho ef yn ddistaw: Pa fâth Gydymaith dâ a gawsom ni! Yn ddiammeu fe fŷdd y Gŵr hwn yn Bererin rhagorol.

CRISTION. Ar hynnŷ gwenodd Cristion [Page 90] yn bwŷllog, ac a ddywedodd; Y Gŵr ymma yr hwn yr ydŷch yn ei ganmol, a dwŷlla a'i dafod ugain o rai sŷ heb ei ddynabod ef.

Ffyddlon. A ydŷch chwi yn ei ddynabod ef?

CRISTION. Ydwŷf yn well nag a mae ef yn ei ddynabod ei hun.

Ffyddlon. Attolwg pwŷ ydiw ef?

CRISTION. Ei enw ef ŷw Chwedleugar, i mae ef yn aros yn ein Dinas ni; Ac oni bae fy môd i yn ystyried fôd ein Trêf ni yn fawr iawn, myfi a ryfeddwn nad ŷw ef yn gydnabyddus a chwithau hefŷd.

Ffyddlon. Mâb i bwŷ ŷw ef? Ac ynghŷlch pa fann a mae fe'n trigo?

CRISTION. Mâb ŷw ef i un a elwir Ymadro­ddwr-dâ, ac yr oedd ef yn trigo yn Heol y Siarad: Ond er tegced ŷw ei dafod ef, nid ŷw ef ond Cyd­ymaith drŵg.

Ffyddlon. Ow! Fe debygid ei fôd ef (o ran crefŷdd) yn ddŷn gwŷch.

CRISTION. Hynnŷ ŷw gan y rhai sŷ heb ei gwbl ddynabod ef; Canŷs oddi-cartref a mae ef yn oreu; Gerllaw gartref mae fe 'n ddigon ffiaidd; A lle'r ŷch chwi yn dywedŷd mai Dŷn gwŷch ŷw ef, i mae hynnŷ yn dwŷn ar gôf i mi, yr hŷn a greffais i arno yngwaith Paentiwr; I mae'r Lluniau y mae ef yn eu Paentio yn ymddangos yn oreu o bell, ond yn amhrydferth yn agos.

Ffyddlon. Yr wi 'n barod i dybied nad ŷch chwi ond cellweir, am i chwi wenu.

CRISTION. Na adto Duw i mi gellweir yn y fâth fatter a hwn, na cham-achwŷn ar neb (er i mi chwerthin ar eich gwaith chwi yn can­mol y Dŷn ymma) myfi a yspysaf i chwi ymhellach pa fâth ŵr ydŷw ef; I mae ef yn Ddŷn sŷdd am bôb mâth o gyfeillach, ac am bôb mâth o siarad; [Page 91] Fel i mae ef yn chwedleua a chwi yr awron, fellu a chwedleua ef pan fo yn y dafarn ymŷsg y medd­won; A pha mwŷaf o gwrw a fyddo yn ei ben es, mwŷaf ôll a fŷdd y pethau hŷn yn ei enau ef: Nid oes i grefŷdd lê yn ei Galon ef, nac yn ei Dŷ ef, nac yn ei ymddygiad ef; Ond i mae hi yn sefŷll yn unic ar ei dafod ef; A'i Grefŷdd ef ŷw gwneuthur sŵn am bethau yr Arglwŷdd ar tafod hwnnw.

Ffyddlon. A ddywedwch chwi fellu? Yna fe a'm twŷllwŷd i 'n fawr yn y Gŵr ymma.

CRISTION. Do yn ddlammeu; Cofiwch y Ddihareb; Dywedant ac nis gwnant; Ond nid mewn ymadrodd a mae teŷrnas Dduw (yn sefŷll) Ond mewn gallu ( Matthew 23.3. 1 Corinthiaid 4.20.) I mae ef yn chwedleua am Weddi, am Edifeirwch, am Ffŷdd, ac am yr Ad-anedigaeth; Ond nid oes gantho yn ei enaid ei hun brofiad yn y Bŷd o honŷnt; Fe feidr yn unic chwedleua am danŷnt; Myfi a fum yn ei Deulu ef, ac a ddellais sulw arno ef Gartref ac oddi-cartref; Ac mi a wn mai gwîr ydŷw 'r hŷn yr wŷfi yn ei ddywedŷd amdano ef; I mae ei Dŷ ef cŷn wagced o grefŷdd ag ŷw gwŷnn ŵŷ o flâs; Nid oes yno na Gweddi, nac arwŷdd o Edifeirwch am bechod; Iê i mae'r Anifail yn ei Rŷw yn gwasnaethu Duw yn llawer gwell nag ef ( Esaŷ 1.3.) I mae Crefŷdd yn dio­ddef Gogan, Gwarthrŷdd, a Chywilŷdd o'i achos ef; Ac i mae'n anhawdd iddi gael Gair dâ yn yr hôll ran hwnnw o'r Drêf lle mae ef yn aros ynthi, am fôd ei fuchedd ef yn ei diwŷno hi ( Rhufeiniaid 2.23, 24.) Fel hŷn a dywed y Bobl amdano sŷ 'n ei ddynabod ef, Angel pen ffordd Diawl cîl pen­tan ydŷw; Mae ei Deulu wedi cael profiad o hŷn; I mae ef yn llashenwi, ac mor anfwŷn, mor Dauog, ac mor anrhefymmol wrth ei weision, fel na wŷdd▪ [Page 92] ant hwŷ pa fôdd iw fodloni ef yn eu Gwaith a'u Gorchwŷlion, na pha fôdd i lefaru wrtho heb gyffroi ei Ddigofaint ef; I mae 'r rhai sŷdd yn gwerthu pethau iddo, ac yn prynu pethau gantho yn dywedŷd mai gwaeth ŷw iddŷnt farchnadta ag ef nag a Thwrciaid; am fôd y rheini yn onestach nag ef yn eu bargenion a'u haddewidion; Fe a dwŷlla bawb os geill ef; Ac heblaw hynnŷ, i mae fe 'n dyscu iw Feibion ganlŷn ei Lwŷbrau ef: Ac os cenfŷdd ef yn un o'i Blant ddim amheuon ynfŷd (canŷs fellu a mae fe 'n galw yr ymddang­osiad cyntaf o gydwŷbod dyner, sŷ'n ei gogwŷddo nwŷ at onestrwŷdd) fe a'i geilw hwŷnt yn yn­fydion ac yn ddwl; Ac ni esŷd ef un o honŷnt, mewn môdd yn y Bŷd, i drin llawer o'i fusnesau ef, os bŷdd ef yn deall fôd arnŷnt ofn siommi neb arall: Ac ni chanmol ef un o honŷnt yngŵŷdd eraill, os bŷdd hwnnw yn tueddu at onestrwŷdd cyffredinol; O'm rhan i, yr wi 'n tybied iddo ef trwŷ ei fuchedd annuwiol, beri i lawer dram­gwŷddo a syrthio; Ac fe a fŷdd (oni lestŷr Duw hynnŷ) yn achos o ddistrŷw i laweroedd mwŷ.

Ffyddlon. Wele fy mrawd, yr wŷf yn rhwŷm i'ch coelio chwi; Nid yn unic am eich bôd yn dy­wedŷd yr adwaenoch ef, ond hefŷd am eich bôd chwi fel Cristion yn datcuddio beth ŷw 'r Dŷn ymma; Canŷs ni allafi feddwl eich bôd chwi 'n dyweded y pethau hŷn o ddrŵg ewŷllŷs, ond am fôd y peth fellu, fel yr ydŷch chwi'n dywedŷd.

CRISTION. Pe baswn i heb ei ddynabod ef ddim gwell na chychwi, mi a allaswn ondodid fel chwithe dybied mai Gŵr dâ rhagorol ydoedd ef; Ie pe basai fe yn cael yr Anair ymma oddiwrthŷnt hwŷ yn unic, sŷdd yn Elynion i Grefŷdd, mi a debŷgaswn, mai malais oedd hynnŷ; Anglod sŷdd yn dyfod yn fynŷch yn ddiachos allan o eneuau [Page 93] y rhai drygionus, ar enwau Dynnlon dâ a'u proffes; ond yr hôll bethau a adroddais i amdano ef, a llawer mwŷ o rai cynddrwg a hwŷnt, a allafi o'm gwŷbodaeth fy hun brifio ei fôd ef yn euog o hon­ŷnt; Heblaw hynnŷ i mae ar wŷr dâ gywilŷdd oi blegid ef; Ni allant hwŷ na'i alw ef yn Frawd nac yn Gyfaill: Os henwir ef ymhlith y rhai crefyddol sŷdd yn ei ddynabod ef, hwŷ a wridant gan gy­wilŷdd o'i herwŷdd ef.

Ffyddlon. Myfi a welaf yr awron, mae un peth ŷw dywedŷd, a pheth arall ŷw Gwneuthur: Ac o hŷn allan mi a graffaf yn well ar y rhagor sŷdd rhwng y naill a'r llall.

CRISTION. I maent yn ddau beth yn wîr, ac mor wahanedig y naill oddiwrth y llall, ac ŷw 'r Enaid a'r Corph; Canŷs megis nad ŷw 'r Corph heb yr Enaid, fellu hefŷd nid ŷw dywedŷd yn ddâ heb wneuthur yn ddâ, ond celain farw; Enaid crefŷdd ŷw Buchedd ddâ, crefŷdd bur a dihalog­edig ger bron Duw ŷw hŷn, ymweled a'r ymddifaid a'r gwragedd gweddwon yn eu hadfŷd; A'i gadw ei hun yn ddifrycheulŷd oddiwrth y Bŷd ( Iaco 1.27.) Nid ŷw meistr Chwedleugar yn meddwlam hŷn; I mae fe yn tybied fôd gwrando a dywedŷd yn ddigon i wneuthur Dŷn yn Gristion dâ, er nad ŷw gwrando heb ddwŷn ffrwŷth ond megis derbŷn yn ofer yr hâd a hauer, Ac sel hŷn a mae fe 'n twŷllo ei enaid ei hun, Nid ŷw gwaith Dŷn yn chwedleua am Grefŷdd yn ddigonol i brifio fôd gantho Galon a Buchedd ffrwŷthlon a Daionus; Gwŷbyddwn yn siccr mai yn ôl eu ffrwŷthau neu weithredoedd (ac nid yn ôl eu geiriau yn unic) a bernir Dynnion yn nŷdd y Farn ( Datcuddiad 22.12. Matthew 16.27.) Ni fŷdd cymalnt o holiad y prŷd hwnnw, A ddarfu i chwi gredu a dywedŷd yn ddâ ac a fŷdd a ddygasoch chwi ffrwŷthau dâ yn ei [...]h [Page 92] [...] [Page 93] [...] [Page 94] buchedd a'ch ymddygiad; Dymma a fŷdd yn gwe­stiwn mawr ar y Dŷdd hwnnw, pa un ai Gwneu­thurwŷr y Gair, a'i ynteu Chwedleuwŷr yn unic am y Gair a fuoch chwi? Ac yn ôl hynnŷ hernir Dynnion; Diwedd y Bŷd a gyffelydir i'n cynhaiaf ni, a chwi a wŷddoch nad ŷw Dvnnion yn y cynhaiaf yn edrŷch ar ddim ond ffrwŷth (nid all dim fod yn gymeradwŷ gyda Duw oni bŷdd ef yn dyfod allan o ffŷdd ( Galatiaid 5.6.) Ond dywedŷd yr wŷfi hŷn, i ddangos i chwi mor aflesol a bŷdd Proffes Meistr Chwedleugar yn y dŷdd hwn­nw, heb fôd yn wneuthurwr y Gair.

Ffyddlon. I mae hŷn yn dwŷn ar gôf i mi y peth a ddywedodd Moses am yr Anifail glân; I mae ef yn y fâth un, ar sŷdd yn hollti 'r ewin ac yn cnoi ei gîl ( Leviticus 11.3.) Nid yr hwn sŷ 'n hollti 'r ewin yn unic, neu yn cnoi ei gîl yn unic sŷdd lân, ond yr hwn sŷ 'n gwneuthur y ddau; I mae'r yscyfarnog yn cnoi ei chîl, ond er hynnŷ i mae hi 'n aflan, am nad ŷw hi yn hollti yr ewin; Ac mewn gwirionedd i mae Meistr Chwedleugar yn gyffelib ir yscyfarnog; I mae ef yn cnoi 'r cil, i mae fe'n ceisio gwŷbodaeth trwŷ fyfyrio ar y Gair; Ond nid ŷw ef yn Forchogi'r ewin, nid ŷw ef yn ymado a ffordd pechaduriaid; Ond megis yr yscy­farnog, i mae gantho droed Cî neu Arth, ac am hynnŷ mae ef yn aflan.

CRISTION. Myfi a anghwanegaf un peth arall; I mae Paul yn galw Chwedleuwŷr mawr (y rhai sŷdd heb râs yn eu calonnau) yn Efŷdd yn seinio, a Symbal yn tingcian; Hynnŷ ŷw, fel i mae fe yn deonglu y geiriau mewn lle arall, Pethau di-enaid ydŷnt, sef yn rhoddi sain yn unic, a dim ond hynnŷ: Pethau di-enaid ydŷnt, hynnŷ ŷw Dynnion ydŷnt heb wîr ffŷdd, a grâs yr Efengŷl yn eu calonnau; A thrwŷ ganlyniaeth I maent yn [Page 95] gyfrŷw rai, na chyfrifir monŷnt hwŷ bŷth yn Nheŷrnas Nefoedd, ymhlith y rhai sŷdd yn Blant y Bywŷd; Er ei bôd nhwŷ'n seinio wrth chwed­leua, Fel pedfai dafodau neu Leferŷdd Angylion ganddŷnt (1 Corinthiaid 13.12. & 14.7.)

Ffyddlon. I mae ei Gymdelthas ef yr hŷn a fu ar y cyntaf yn fatter o hoffder, yr awron yn fatter o flinder i mi, pa beth a wnawn ni i gael gwared o hono ef?

CRITSION. Cymmerwch fy nghyngor i, ac yna (megis yr ydŷch chwi 'n blino ar ei gym­delthas ef) a blina yntef hefŷd yn fŷan ar elch cymdeithas chwitheu, oddieithr i Dduw droi ei Galon ef; A'm cyngor i ŷw hŷn; Ewch atto, ac ymddiddanwch ag ef yn ddifrifol ynghŷlch Grŷm Crefŷdd, a gofynnwch iddo, a ydŷw y peth ymma wedl ei weithio yn ei Galon ef, ac a ydŷw hynnŷ yn ymddangos yn ei ymddygiad ef.

Yna yr aeth ffyddlon drachefn at Chwedleugar, ac a ofynnodd iddo, pa fôdd yr oedd ef?

Chwedleugar. Diolch i chwi, ebŷr yntef, yr wi 'n siongc; Mi a obeithiais a cawsem ni erbŷn hŷn lawer mwŷ o gŷd-ymddiddan.

Ffyddlon. Wele, os mynnwch chwi, nyni a ddechreuwn eilwaith; A chan eich bôd chwi wedi gosod arnafi i ofŷn y cwestiwn, mi a fyddaf cŷn hyfed a gofŷn i chwi, pa fôdd a gall dŷn wŷbod, fôd Duw wedi Gweithio Grâs iachusol yn ei galon ef?

Chwedleugar. Mi a welaf wrth hŷn, a rhaid i'n hymddiddan ni fôd ynghŷlch Crefŷdd; Dâ lawn ŷw eich cwestiwn; Ac yr wŷfi yn ewŷllysgar i'ch hatteb chwi, ac yn fŷrr fy Atteb i ŷw hŷn; Yn gyntaf lle bo Grâs Duw yn y Galon, i mae hyn­nŷ yn peri i ddŷn waeddi yn erbŷn pechod. Yn ail

Ffyddlon. Nage, digon ydŷw i ni ystyried un [Page 96] peth ar un waith; 'Rwi'n tybied a dylasech ddy­wedŷd yn hyttrach, fôd Grâs yn ei amlygu ei hun, trwŷ ogwŷddo'r enaid i ffieiddio pechod.

Chwedleugar. Pa ragoriaeth sŷ rhwng gwaeddi yn erbŷn pechod, a'i ffieiddio ef?

Ffyddlon. Ow! Llawer iawn; Fe eill dŷn waeddi yn erbŷn pechod trwŷ gyfrwŷstra; Ond ni eill ef gashâu pechod, ond trwŷ rinwedd dduw­iol (hynnŷ ŷw grâs Duw) sŷdd wrthwŷneb iddo; Myfi a glywais lawer yn gwaeddi yn erbŷn pechod yn eu pregethau, y rhain er hynnŷ a gŷd-ddygent ag ef, ac a ymfodlonent yntho (yr hŷn oedd hawdd ei ddeall wrth eu ffrwŷthau nhw) yn eu calonnau, eu Tai, a'u hymddygiad; Gwaeddodd Meistres Joseph a llêf uchel yn erbŷn pechod, fel ped fasel hi yn sanctaidd: Ond er hynnŷ hi a fynnasei yn ewŷll­yscar fôd yn aflan gydag ef ( Genesis 39.7. &c.) I mae rhai yn gwaeddi yn erbŷn pechod, megis ag y mae Mam yn gwaeddi yn erbŷn ei phlentŷn ar ei harffed, gan roddi drŵg-henwau ir plentŷn, a chwe­di hynnŷ cofleidio a chusanu'r plentŷn.

Chwedleugar. Mi debygwn eich bôd chwi'n amcanu fy machellu, am dal mewn rhwŷd.

Ffyddlon. Nagydwŷf yn wîr; Ond ceisio'r wŷfi 'n unig drefnu pôb peth yn ei iawn le; Ond pa beth ydŷw 'r ail arwŷdd sŷdd gennŷch, trwŷ yr hwn a mynnech chwi dystiolaethu fôd Grâs yn y galon?

Chwhdleugar. Gwŷbodaeth fawr yn Nirgel­edigaethau 'r Efengŷl.

Ffyddlon. Dylasei'r arwŷdd hwn fôd yn gyntaf; Ond os cyntaf neu olaf, i mae hwn hefŷd yn ffals: Canŷs fe ddichon dŷn gyrhaeddŷd gwŷbodaeth, ie llawer o wŷbodaeth yn Nirgeledigaethau'r Efengŷl ac etto hôd heb râs yn ei Galon; Ie pedeai gan ddŷn bôb mâth o wŷbodaeth, fe alleu er hynnŷ [Page 97] fôd yn Ddŷn anrasol, a thrwŷ hynnŷ heb fôd yn blentŷn i Dduw (1 Corinthiaid 13.2.) Pan ofyn­nodd Crîst iw Ddyscyblion; A ydŷch chwi'n gwŷ­bôd y pethau hŷn ôll? Hwŷthau a'i hattebasant ef ydŷm; Yntef a ddywedodd wrthŷnt, os gwŷ­ddoch y pethau hŷn, Gwŷn eich bŷd os gwnewch hwŷnt ( Joan 13.17.) Nid ŷw Crîst yn dywedŷd, fôd y fendith yn perthŷnu ir sawl sŷ'n gwŷbod ewŷllŷs Duw; Ond ir sawl sŷ 'n ei wŷbod ac yn gwneuthur: Canŷs i mae mâth o wŷbodaeth heb weithredoedd dâ yn ei chanlŷn ( Luc 12.47.) Gall fôd gan ŵr gymaint o wŷbodaeth ac sŷdd gan un o'r Angylion, ac etto heb fôd yn wîr Gristion; Ac am hynnŷ, nid ŷw gwŷbodaeth fawr yn nirgel­edigaethau yr Efengŷl yn Arwŷdd didwŷll o râs yn y galon; I mae gwŷbodaeth yn wîr yn bodlôni siaradwŷr ac ymffrostwŷr: Ond gwneuthur yn ôl ein gwŷbodaeth ydŷw 'r hŷn sŷdd yn rhyngu bôdd Duw; Gwir ŷw, ni eill y galon fôd yn ddâ, ond i mae hi 'n ddrŵg heb wŷbodaeth ( Diharebion 19.2.) I mae gan hynnŷ wŷbodaeth▪ a gwŷbodaeth; â mae gwŷbodaeth yn gyntaf, yr hon sŷ'n ymfod­loni yn unic i edrŷch ar bethau er mwŷn deall eu nattur; Ac yn all i mae gwŷbodaeth yr hon i mae'r grâs o ffŷdd a chariad ynglun wrthi; ac i mae hi 'n gofod dŷn ar wneuthur ewŷllŷs Duw o'r galon; Y cyntaf o'r rhain a Fodlona 'r chwdleugar; Ond ni fodlonir mo'r gwîr Gristion heb yr all; Gwna i mi ddeall (ebŷr Dafŷdd) a chadwaf dy gyfraith; Ie cadwaf hi a'm hôll galon ( Psalm 119 34.)

Chwedleugar. 'Rŷchi'n ceisio fy rhwŷdo i drachefn; Nid ŷw hŷn er adeiladaeth yn y Bŷd.

Ffyddlon. Wele, os mynnwch chwi rhoddwch arwŷdd arall o'r môdd a mae grâs yn ei ddatcuddio ei hun lle i mae ef.

Chwedleugar. Na wnaf, canŷs mi a welaf nac [Page 98] allwn ni gyttuno a'n gilŷdd.

Ffyddlon. Wele, oni wnewch chwi, a roddwch chwi genad i mi i wneuthur hynnŷ.

Chwedleugar. Gwnewch yn y matter ymma fel a gweloch yn oreu.

Ffyddlon. I mae gwaith grâs yn yr enaid yn ei ddatcuddio ei hun, naill a'i i'r hwn sŷdd yn ei feddiannu ef, neu i eraill.

Ir hwn sŷdd a'r Grâs ymma gantho i mae yn ei ddatcuddio ei hun fel hŷn; I mae'n argyhoeddi dŷn am ei bechod, yn enwedig am lygredigaeth ei nattur, a'r pechod o Anghrediniaeth am ba un i mae 'n gweled yn eglur a bŷdd ef colledig, oddi­gerth cael o hono drugaredd ar law Duw, trwŷ ffŷdd yn Iesu Grist ( Joan 16.8, 9. Rhufeiniaid 7.24. Psalm 51.5. Marc 16 16.) Y golwg a'r yff­yriaeth ymma sŷdd yn gweithio yntho dristwch, a chywilŷdd am hechod ( Psalm 38.18. Jeremi 31.19.) Ac ymhellach i mae lachawdwr y Bŷd wedi el wneuthur yn gydnabyddus iddo, a'r llwŷr-gwbl Anghenrheidrwŷdd hefŷd o lynu wrtho ef am fywŷd; Ac o herwŷdd hynnŷ i mae fe'n newŷnu ac yn sychedu am Grist; Ac ir newŷn a'r syched ymma i mae addewidion Duw yn perthynu ( Gal­atiaid 1.16. Actau 4.12. Matthew 5.6. Dat­cuddiad 22.16.) Yr awron yn ôl cadernid, neu wendid ei ffŷdd ef yn ei Achubwr, fellu i mae ei lawenŷdd a'i heddwch ef, a'i serch hefŷd at sanct­eiddrwŷdd, a'i ddymuniad i ddynabod. Crîst yn well, ac iw wasanaethu ef yn y Bŷd presennol; Ond er fy môd yn dywedŷd fôd gwaith grâs yn ymddangos fel hŷn lle a bytho; Etto ni eill un ond yn anfynŷch iawn farnu, mai gwaith Grâs ydŷw'r peth a mae fe'n el gymmerŷd tan yr enw hwnnw: Oblegid ei lygredigaethau weithieu, a'i [...]eswm wedi ei gam arfer ar brydiau eraill a nadant [Page 99] iddo iawn farnu ynghŷlch y matter ymma; Ac am hynnŷ rhaid ŷw bôd barn bwŷllog iawn yn yr hwn sŷdd a'r gwaith ymma cŷn a gallo ef wŷbod yn ddiammeu mai gwaith grâs ydŷw'r peth.

I mae 'r grâs ymma mewn dŷn yn ymddangos i eraill fel hŷn.

Yn gyntaf, Trwŷ gŷfaddefiad prûdd difrifol o'i ffŷdd yng-Hrist ( Rhufeiniaid 10.10.) Yn Ail, Trwŷ fuchedd gyfattebol ir gyffes honno, gan fôd yn sanctaidd yn ei ymddygiad, ac yn ei galon, gan ymegnio hefŷd i wneuthur ei Deulu 'n sanctaidd (os bŷdd gantho Deulu) yr hŷn yn gyffredinol sŷ'n dyscu iddo gashâu pechod o'i Galon, ei ffiei­ddio ei hunan yn y dirgel amdano, ac i ymegnio iw ddarostwng ef yn ei Deulu; Ac i dderchafu Sancteiddrwŷdd yn y Bŷd; Nid trwŷ siarad yn unic, megis a gwna y Chwedleugar a'r Rhagrith­wŷr; Ond trwŷ ymddarostyngiad beunyddiol, mewn ffŷdd a chariad i nerth gair yr Arglwŷdd, gan ymorchestu bŷw yn ei ôl ef; Ac yr awron Syr, os oes gennŷch ddim iw ddywedd yn erbŷn yr eg­lurhâd bŷrr ymma, ynghŷlch gwaith grâs, neu yn erbŷn y môdd y mae yn ei ddatcuddio ei hunan lle a bytho, mynegwch i mi hynnŷ; onide rhoddwch gennad i mi i ofŷn i chwi ail gwestiwn.

Chwedleugar. Nage, nid fy rhan i yr awron ydŷw gwrth-ddadleu, ond gwrando: Moswch gly­wed gan hynnŷ eich cwestiwn arall.

Ffyddlon. Fy nghwestiwn i ŷw hŷn; A oes gennŷch chwi brofiad ynoch eich hunan o'r rhan gyntaf o'r eglurhâd ymma o waith grâs yn y galo [...] Ac a ydŷw eich buchedd a'ch ymddygiad chwi yn tystiolaethu hynnŷ? Canŷs lle bo calon lân, i mae buchedd lân ( Matthew 12.35.) Neu ytneu a ydŷw 'ch crefŷdd chwi yn sefŷll yn unic mewn Geiriau ac ymadroddion, ac nid mewn Gweithred [Page 100] a Gwirlonedd? Attolwg os ydŷchl ar fedr fy atteb i yn y matter ymma, na ddywedwch ddim mwŷ nag a wŷddoch a bŷdd i'r Goruchaf ddywedŷd a­men gydag ef: Na dim hefŷd ond y peth a allo eich Cydwŷbod eich Cyfiawnhau chwi yntho; Canŷs nid yr hwn sŷdd yn ei ganmol ei hun sŷdd gymmeradwŷ, ond yr hwn a mae'r Arglwŷdd yn ei ganmol (2 Corinthiaid 10.18.) Heblaw hynnŷ, anwiredd mawr iawn ydŷw i ddŷn ddywedŷd, yr ydwŷf fel hŷn ac fel hŷn, pan fyddo ei ymddygiad a'i hôll gymmydogion yn dywedŷd mai celwŷddog ydŷw ef.

Chwedleugar. Yna a dechreuodd Chwedleugar wrido; Ond wedi dyfod o hono ychydig atto ei hun, efe a attebodd fel hŷn; Chwi a ddaethoch yr awron at brofiad, at gydwŷbod at Dduw, ac i appelio atto ef am gyfiawnhâd o'r hŷn a lefarir: Nid oeddwn i yn disgwŷl am y fâth ymddiddanion a hŷn; Ac nid oes yn fy mrŷd i roddi atteb ir fâth gwestiwnau; Oblegit nad wŷf yn fy nghyfrif fy hun yn rhwŷm i hynnŷ, oddigerth eich bôd chwi yn cymmerŷd arnoch fôd yn ymholwr; A phed­faech chwi y fâth ŵr, etto mi a allwn wrthod eich cymmerŷd chwi yn Farnwr arnaf; Ond attolwg, a gafi wŷbod gennŷch, pa ham yr ydŷch chwi yn gofŷn i mi y fâth gwestiwnau.

Ffyddlon. Am fy môd yn eich gweled chwi yn barod iawn i siarad; Ac oblegit fy môd yn tybied, nad oes dim ynoch ond gwŷbodaeth yn unic; Ac o ddywedŷd i chwi yr hôll wirionedd, mi a glywais amdanoch mai Gŵr ydŷchi sŷdd a'i grefŷdd yn sefŷll yn unic mewn geiriau, a bôd eich ymddy­giad yn anghyfattebol i'ch proffes; Dywedant hefŷd mae blottŷn ydŷch ymblith Cristionogion; A bôd crefŷdd yn dioddef llawer o wradwŷdd o­blegit eich annuwiol ymddygiad; A bôd rhai eusus [Page 101] wedi tramgwŷddo o herwŷdd eich ffŷrdd drygio­nus chwi; A bôd bagad etto mewn perŷgl, i gael eu colli trwŷ eich siampl ddrŵg chwi, eich Crefŷdd, a'ch meddwdod yn y Tafarnnau, a Chybydd.dod, ac Aflendid, a Thyngu, a Rhegu, a dywedŷd Celwŷdd, a chadw cymdeithas ofer &c A gŷd-safasant gyda chwi; I mae'r Ddihareb yn wir amdanochi yr hon a ddywedir am buttain, sef ei bôd hi'n gwilŷdd ir hôll wragedd, fellu yr ydŷch chwitheu'n gwilŷdd ir hôll broffesswŷr.

Chwedleugar. Gan eich bôd cŷn barodted i goelio pôb chwedl, ac i farnu mor fyrbwŷll, ni allafi dybied llai nad rhŷw ŵr anhywaith pen­drwm ydŷch, ac anghymwŷs i neb ymddiddan a chwi; Ac am hynnŷ byddwch wŷch.

Yna a nesodd Cristion at ffyddlon, ac a ddy­wedodd wrtho; Fy Mrawd! mi a fynegais i chwl ymlaen llaw yr hŷn a ganlynai eich ymddiddanion grasol chwi a'r dŷn ymma; Mi a wŷddwn yn ddigon dâ, na chydtunai eich geiriau chwi a'l Drachwantau ef; Gwell oedd gantho ymadel a'ch cymdeithas chwi, na gwellhau dim ar ei fuchedd; Ond fe a aeth ymaith; Gadewch iddo fyned; Nid oes colled i neb ond iddo ef ei hun: NI roes ef mo'r trwbwl i ni, i ymadel ag ef yn gyntaf; Os parheiff ef (megis yr wŷfi'n tybled a gwna) yn y cyfiwr drŵg a mae yntho, ni basel ef ond blottŷn yn ein cwmpeini ni; Ac medd yr Apostol gochel y rhai sŷdd a rhîth duwioldeb, ond wedi gwadu ei grŷm hi (2 Timotheus 3.5. 2 Thessaloniaid 3.6.

Ffyddlon. Ond i mae'n ddâ gennif gael o honof yr ychydig ymmddiddan ymma ag ef; Fe ddaw'r pethau hŷn ysgadffŷd iw gôf ef drachefn; Pa fôdd bynnag, myfi a osodais bethau yn eglur o'i flaen ef; Ac fellu yr wi'n ddi-euog oddiwrth ei waed ef os bŷdd ef colledig.

[Page 102] CRISTION. Dâ iawn a gwnaethoch, gan i chwi yn eich ymddiddan ddangos iddo mor eglur, y drŵg gyflwr a mae ef yntho; Nid oes nemmawr yn y dyddiau hŷn, mor ffyddlon iw cymmydogion yn y matterion ymma: A dyna un achos pa ham a mae crefŷdd mor ddrewllŷd yn ffroenau llawer­oedd; Canŷs y siaradwŷr ynfŷd hŷn (crefŷdd pa rai sŷ'n sefŷll yn unic ar flaen eu Tafodau, gan fôd yn frwnt ac yn ofer yn eu hymddygiad) ydŷnt yn peri ir Bŷd synnu yn y fâth fôdd, fel na wŷddant hwŷ pa beth iw dybied am ddynnion crefyddol, gan fôd bagad o'r gwâg siaradwŷr hŷn wedi eu derbŷn iw cymdeithas hwŷnt; Ac i mae'r Bŷd yn mesur eraill wrth y rhain; Ac fellu o achos diffeith­dra y fâth ddynnion mawr eu siarad, i mae crefŷdd yn cael ei diwŷno, a'r rhai diragrith yn cael eu diystyru; Mi fynnwn pe cyhoeddai pawb hwŷnt, megis a darfu i chwi argyhoeddi'r Clapci hwn; Canŷs trwŷ wneuthur fellu a'r fâth ddynnion, fe'i gwneid hwŷ naill a'i'n fwŷ cŷdffurfiol a chrefŷdd, neu fe fyddai cymdeithas y Sainct yn rhŷ boeth iddŷnt; Yna canodd ffyddlon fel hŷn.

Dechreuodd y Chwedleugar serfŷll,
Ar y cyntaf ddercha ei escŷll,
Gan ryfygu cwŷmpo, a gorfod
Pawb o'i flaen wrth nerth ei dafod.
Mor hŷawdlaidd a chweleuodd!
Ond hwŷ'n gyntaf a dechreuodd
Ffyddlon sôn am râs iachusol,
F'aeth y cyfaill yn ei wrthol.
Fel y Lloer o'i llawn oleuni,
Sy'n mŷnd lai lai hŷd ei geni;
Fellu hefŷd â yr hôll ddynnion,
Ond sŷ'n dynabod gwaith y galon.

[Page 103]Ac fel hŷn hwŷ a aethant ymlaen dan siarad ynghŷlch y pethau a welsent yn eu taith; A thrwŷ hynnŷ, hwŷ a wnaethant y ffordd hono yn ddifŷr, yr hon yn ddiammeu heb y fâth ymddiddanion a faseu'n anhyfrŷd iddŷnt; Canŷs mewn Anialwch yr oeddŷnt hwŷ yr hôll amser hŷn.

Yr awron wedi dyfod agos allan o'r Anialwch, hwŷ a ganffuant Efangylwr yn eu canlŷn hwŷnt: A chwedi iddo eu goddiwes, fe a gyfarchodd well iddŷnt, ac a ddywedodd wrthŷnt, Tangneddŷf i chwi fy anwŷl Garedigion, ac i bawb o'ch cyn­northwŷ-wŷr.

CRISTION, a ffyddlon Croesaw, a chan croe­saw i ti garedig Esangylwr; Wrth weled eich wŷnobprŷd, nid ailwn ni lai na chofio eich hên garedigrwŷdd, a'ch llafur diflin er ein daioni tra­gywŷddol; O mor ddymunol ŷw'ch Cymdeithas i ni y Pererinod truain! Ac wedi mynegi iddo y cwbl ôll a ddigwŷddasei iddŷnt yn eu taith, a pha fôdd, ac mor anhawsed a daethent hwŷ ir lle yr oeddent yr awron yntho, fe lefarodd Efangylwr wrthŷnt hwŷ fel hŷn.

Efangylwr. Rwi'n llawenychu'n ddirfawr, nid am i chwi gyfarsod a phrofedigaethau, ond am i chwi eu gorchsygu hwŷnt; Ac hefŷd am barhau o honoch i ymdeithio yn y ffordd hon hŷd y dŷdd presennol, er bôd ynoch lawer o wendid, 'Rwi n dra llawen (meddaf) am y pethau hŷn, yn gystal er fy mwŷn fy hun, ac er eich mwŷn chwitheu: Myfi a heues, a chwetheu a fedasoch; Ac mae'r dŷdd yn dyfod, yn yr hwn a caiff y sawl a hauodd a'r sawl a fedodd gŷd-lawenhau (hynnŷ ŷw os parhewch chwi hŷd y diwedd yn eich ffordd) canŷs yn ei iawn brŷd a medwch oni ddeffygiwch; I mae Coron anllygredig o'ch blaen chwi, fellu the­dwch fel a caffoch afael arni; I mae rhai yn myned [Page 104] allan i geisio meddiannu y Goron hou, ac wedi myned ymhell amdani, i mae arall yn dyfod ac yn ei dwŷn hi oddiarnŷnt; Deliwch gan hynnŷ yr hŷn sŷdd gennŷch, fel na ddygo neb eich Coron chwi ( Datcuddiad 3.11) Nid ydŷchi etto allan o gyrraedd ergŷdion Satan; Ni wrthwŷnebasoch etto hŷd at waed, gan ymdrech yn erbŷn pechod ( Hebreaid 12.4.) Bydded Teŷrnas Nefoedd yn wastadol oflaen eich llygaid; A bydded gennŷch ffŷdd gadarn ynghŷlch y pethau sŷdd anweledig; Na choeliwch fôd eich happusrwŷdd yn sefŷll mewn dim ar sŷdd y tu ymma l'r Nefoedd; Ac yn ben­difaddeu, edrychwch yn fanwl at eich calonnau eich hunain, a'u trachwantau; Canŷs maent yn fwŷ eu twŷll na dim, ac yn ddrŵg ddiobaith; Gosodwch eich wŷnebau fel fflint yn eu herbŷn: I mae'r hwn sŷ'n Holl-Alluog yn y Nêf, ac ar y ddaiar yn eich plaid chwi.

CRISTION. Yna a diolchodd Gristion iddo am ei gyngor, gan ddymuno arno (yn ei enw ei hunan, ac yn enw ffyddlon) eu hyfforddi nhw ymhellach, pa fôdd i fyned y rhan ddiweddaf o'u ffordd; Oblegit (ebŷr ef) ni a wŷddom yn ddi­ammeu, mai Prophwŷd ydŷch, ac a gellwch chwi ragfynegu y pethau a ddigwŷddant i ni rhagllaw yn ein Taith, ac hefŷd yspysu i ni, pa fôdd a gallwn wrthwŷnebu, a gorchfygu y profedigaethau a gyfarfyddwn a hwŷnt.

Efangylwr. Yna ebŷr Efangylwr, fy mhlant anwŷl, Chwi a glywsoch allan o'r yscrythur, mai trwŷ lawer o orthrymderau a mae yn rhaid i ni fyned i Deŷrnas Dduw; Ac hefŷd fôd rhwŷmau a blinderau ymhôb Dinas yn ein haros ni; Ac am hynnŷ na Ddisgwŷliwch fyned ymhell ar eich Pereindod hebddŷnt yn rhŷw fôdd neu gilŷdd; Chwi a gawsoch beth tystiolaeth am y gwirionedd [Page 105] ymma yn barod; A chwi a gewch anghwaneg ar fŷrr; Canŷs yr ydŷch yr awron megis a gwel­wch, ar fyned allan o'r Anialwch hwn; Ac chwi a ddowch yn fŷan i Drêf, yr hon a ganffyddwch chwi o'ch blaen; Ac yn y Drêf honno a gwarchaeir chwi'n galed gan elynnion, y rhai a ymdrechant a'u hôll nerth i'ch llâdd chwi; A byddwch sicer o hŷn, a gorfŷdd ar un o honoch oni orfŷdd ar y llall, sello a'i waed y dystiolaeth yr ydŷch yn ei ddal: Ond byddwch ffyddlon hŷd Angeu, A'r Brenin a rŷdd i chwi Goron y bywŷd ( Datcuddiad 2.10.) A'r hwn a fyddo marw yno (er bôd ei farwolaeth ef yn annaturiol, a'i boenau ondodid yn ddirfawr) a gaiff y goreu er hynnŷ ar ei Gyd­ymaeth; Nid yn unic o herwŷdd a derbynnir ef yn gyntach ir Ddinas Nefol, ond hefŷd oblegit a bŷdd iddo ddiangc rhag llawer o gledi, y rhai a ddigwŷddant ir llall cŷn ei ddyfod ef i ben ei siwrnai; Ond pan ddeloch ir Drêf, a gweled yn hŷn ôll a ragfynegais i chwi ymma wedi eu cyfl­awni; Yna cofiwch fi eich cydymaith; Ac ym­wrolwch, a Gorchymmynnwch Gadwedigaeth eich eneidiau i Dduw, megis i Greawdwr ffyddlon, gan wneuthur yr hŷn sŷdd ddâ yn ei olwg ef (1 Petr 4.19.)

Yna mi a welais yn fy mreuddwŷd, yn gyntaf ac a daethant allan o'r anialwch, ganfod o honŷnc Drêf ar eu cyfer, a'i Henw hi ŷw Gwagedd, ac ynthi hi a cedwir ffair trwŷ'r hôll flwŷddŷn, yr hon a elwir ffair Gwagedd, am fôd y Drêf lle yr ydŷs yn ei chadw hi yn yscafnach na Gwaged: Ac befŷd am nad ŷw y cwbl a werthir yno, neu sŷ'n dyfod yno, ddim amgen na Gwagedd, megis a dy­wedodd y Gŵr Doeth, Gwagedd ŷw'r cwbl ( Esaŷ 40.17. Pregethwr 1.2.)

Nid ffair newŷdd, ond hên ffair ydŷw hon▪ [Page 106] Mi a ddangosaf i chwi ei dechreuad hi.

Er ys agos i bum mil o flynnyddoedd, yr oedd Pererinod yn ymdeithio tua'r Ddinas Nefol; A Belzebub, Apol-lyon, ynghŷd a'r Cythreuliaid eraill a wŷbuant wrth y llwŷbr a wnaetheu y Pererinod, fôd eu ffordd hwŷ ir Ddinas Nefol yn myned trwŷ ganol Trêf Gwagedd; Ac am hynnŷ hwŷ a ddy­feisiasant godi ymma ffair, i barhau trwŷ'r flwŷddŷn, yn yr hon a gwerthid pôb mâth o Wa­gedd; Am hynnŷ fe werthir ynddi bób mâth o farsiandaeth, megis Arlan, Aur, Perlau, Trach­wantau, Plant, Gweinidogion, Gwragedd, Gwŷr, Meistred, Celfŷddydau, uchel Swŷddau, Anrhy­dedd, Tai, Tiroedd, Gwledŷdd, Teŷrnasoedd, Try­thillwch o bôb mâth, megis Putteiniaid a'u Llet­teion; Gwaed, Cŷrph, Bywŷd, ac Eneidiau pobl, a pha beth nas ceir ar werth ymma.

Ac heblaw hynnŷ, ceir gweled yn y ffair hon bób amser, Hudolwŷr, Twŷllwŷr, Chwar­yddion, Ynfydion, Cnafiaid o bób mâth; Lladron, Llofruddion, Godinebwŷr, ac Anudonwŷr wedi eu diwŷno a gwaed gwirion.

Ac megis i mae mewn ffeiriau eraill (llai eu bri) fellu hefŷd i mae ymma amrŷw Heolŷdd, tan eu henwau cymwŷs, lle a gwerthir y cyfrŷw farsiandaeth; I mae ymma Heol y Brittaniaid, Heol y Ffrancod, Heol yr Italiaid, Heol yr His­paenwŷr, a Heol y Germaniaid, lle mae amrŷw fâth o wagedd ar werth; Ond megis mewn ffeiriau eraill i mae rhŷw bethau yn fwŷ enwedigol iw cael ar werth, fellu Marsiandaeth Rhufain sŷ'n cerdded orau yn y ffair ymma, ond bôd y Brit­taniaid a rhŷw Bobloedd eraill yn dibrisio'r Marsiandaeth hwnnw.

Yr awron fel a dywedais, i mae'r ffordd ir Ddlnas Nefol yn myned yn union trwŷ'r Drêf hon; [Page 107] A'r neb a fynno fyned ir Ddinas honno, heb fyned trwŷ'r Drêf ymma, rhaid iddo fyned allan o'r Bŷd (1 Corinthiad 5.10.) Fe orfu ar Dywŷfog y Tywŷsogion, pan oedd ef ar y Ddaiar, fyned trwŷ'r Drêf a'i ffair hon iw wlâd ei hun; Ac fe'i gwahoddwŷd ef gan Belzebub Pen llywodraethwr y ffair, i brynu o'i wagedd ef: Ie cynnygiodd i wneuthur ef yn Arglwŷdd y ffair, pe hasai ef ond ymgrymmu iddo, a'i addoli ef wrth fyned trwŷ'r Drêf; Ac oblegid bôd Tywŷsog y Tywŷsogion yn dra anrhydeddus, dygodd Belzebub ef o Heol i Heol, gan ddangos iddo hôll Deŷrnasoedd y Bŷd mewn munŷd awr; Fel a gallai ef (pedfasal bossibl) ddenu'r Bendigedig hwnnw i bryuu peth o'i wagedd ef; Ond nid oedd gantho ef ddim serch at y fâth farsiandaeth, ac am hynnŷ fe a aeth ymaith o'r Drêf, heb wario cymaint ac un hatling ar y Gwagedd ymma ( Matthew 4. Luc 4.)

Yr awron fel a dywedais i, yr oedd yn rhaid ir Pererinod hŷn fyned trwŷ'r ffair ymma; Ond gyntaf ag a daethant yno, fe gyffrodd yr hôll bobl oedd yn y ffair; A'r hôll Drêf a ymgaf. clasant o'u hamgŷlch hwŷnt, fel pedfalent mewn terfŷsg; A hynnŷ o herwŷdd amrŷw ref­ymmau.

Yn Gyntaf, Yr oêdd y Pererinod wedi eu dilladu a'r fâth wiscoedd, nad oedd gan neb yn y drêf a'r ffair honno mo'i bath: Ac oblegid hynnŷ yr oedd Llygadrythu yn rhyfeddol arnŷnt; Rhai a ddywedent mai Ynfydion oeddent, rhai mai Bedlemmod, ac eraill a ddywedent mai Gwŷr o wlâd ddieithr oeddŷnt.

Yn Ail, Megis yr oeddŷnt yn rhyfeddu wrth weled eu Dillad; Fellu hefŷd yr oeddŷnt yn rhy­feddu wrth glywed eu hiaith hwŷnt; Canŷs nid oedd nemmawr yn deall yr hŷn a lefarent; eu [Page 108] hiaith hwŷ oedd iaith Gwlad Canaan; Ond Gwŷr y Bŷd hwn oedd pobl y ffair; Canŷs yr oeddent yn Tyngu, ac yn Rhegu, ac yn eu hoffrwm eu hunain ir Diawl yn fynŷch; Ac fellu o'r naill ben ir ffair ir llall, yr oedd y Pererinod a'r sawl oedd yn marchnadta yno, megis Barbariaid y naill ir llail (1 Corinthiaid 2.7, 8.)

Yn Drydŷdd, Y peth mwŷaf rhyfeddol gan y Marsiandwŷr oedd, fôd y Pererinod ymma yn llwŷr ddibrisiio eu hôll Farsiandaeth hwŷ; Canŷs ni wnaent hwŷ gymaint ac edrŷch ar y pethau oedd ar werth yno; Ac os gelwid arnŷnt i brynu dim, hwŷ a osodent eu bysedd yn eu clustiau, ac a waeddent, Trô heibio fy llygaid rhag edrŷch ar wagedd; Ac a edrychent i fynu, gan arwŷddo trwŷ hynnŷ, fôd y wâr ar pethau yr oeddŷnt hwŷ yn ymofŷn amdanŷnt, iw cael yn unic yn y Nefoedd ( Psalm 119.37. Philippiaid 3.19, 20.)

Digwŷddodd i rŷw watwarwr (wrth ddal sulw ar eu hymddygiad) ofŷn iddŷnt, Pa beth a brynwch chwi? A hwŷthau yn Sobor iawn a'u hattebasant ef, ein hewŷllŷs ni ŷw prynu'r Gwir­ionedd ( Diharebion 23.23.) Ac ar hŷn cymerwŷd mwŷ o esgus iw dirmygu hwŷnt: Canŷs rhai yr awron a'u gwatwarent, rhai a'u enllibient, a rhai a annogent eraill iw curo nhwŷ; O'r diwedd, yr oedd yr hôll ffair mewn Terfŷsc a chythryfwl, hŷdonid oedd pôb peth allan o drefn; Yna a my­negwŷd y cwbl i Arglwŷdd y ffair; Ac yntef a ddaeth i wared yn fŷan, ac a archodd i rai o'i gymdeithion ffyddlonaf i holi hwŷnt yn sanwl, o achos pa rai yr oedd y fâth gynnwrf yn yr hôli ffair.

Fellu fe ddygwŷd y Gwŷr oflaen y Sawl a appwŷntiwŷd iw Holi nhw; A gofynnwŷd iddŷnt, o ba le yr oeddent yn dyfod, ac i ba le yr oeddent yn myned, ac I ba bwrpas [Page 109] a daethant yno yn y fâth wiscoedd anarferol? Hwŷthau a'u hattebasant, mai Dieithraid a Pher­erinod oeddent yn y Bŷd hwn, a'u bôd nhw'n myned tua eu Gwlâd eu hun, sef Caerselem Nefol; Ac na roesent hwŷ ddim achos, nac i wŷr y Drêf, nac ir Marsiandwŷr ychwaith, iw hamharchu ac iw rhwŷstro hwŷ yn eu siwrnai; Oddieithr bôd hŷn yn achos, sef pan ofynnodd un iddŷnt pa beth a brynnent, atteb o honŷnt hwŷ­thau mai'r gwîr a brynnent.

Ond ni choelieu y Swŷddogion eu bôd nhw ddim amgen na Bedlemmod, a Dynnion allan o'u côf, neu mai pobl oeddŷnt a ddaethai yn bwr­pasol i wneuthur cynnwrf yn y ffair; Am hynnŷ hwŷ a gurasant y Pererinod, gan eu trybaeddu nhw a thom. ac wedi hynnŷ hwŷ a'u gosodasant mewn Cyffion, fel a byddent yn amlwg ir hôll ffair; Ac yno buant dros ennŷd yn wrth-ddrychau i wat­warwŷr a maleuswŷr; Ac Arglwŷdd y ffair oedd yn y cyfamser yn chwerthin wrth weled eu hamher­chi nhw yn y môdd ymma; Ond yr oedd y Gwŷr yn ammynedd iawn, heb roi gair drŵg am air drŵg, ond yr oeddŷnt yn bendithio, gan rol geir▪ iau dâ am rai drŵg, a pharch am amhrch.

Ond rhai o'r ffair, wrth graffu yn well ar y Pererinod, ac heb farnu yn fyrbwŷll amdanŷnt megis eraill, a ddechreuasant geryddu a beio'r bobl gyffredin, am eu bôd nhw'n wastadol yn gwneuthur cam a'r Dieithriaid ymma yn y fâth fôdd dirmygus: Hwŷthau yn llidiog a attebasant y sawl oedd yn eu ceryddu nhw, gan ddywedŷd wrthŷnt, eu bôd nhw cynddrwg a'r Gwŷr oedd yn y Cyffion, a'u bôd hefŷd (mewn pôb tebŷgoliaeth) mewn cyttundeb a hwŷnt, am eu bôd yn pledio trostŷnt; Ac o herwŷdd hynnŷ, a caent fôd yn gŷd-gyfranogion o'u haflwŷdd hwŷnt; A'r lleill [Page 110] a dywedasant, am ddim ar a welsent hwŷ, fôd y dynnion yn llonŷdd ac yn sobor, heb chwennŷch drŵg i neb; A bôd bagad yn marchnadta yn y ffair, y rhai a haeddent eu carcharu, ie a'u gosod yn y Pilwri yn hytrach na'r Dieithraid ymma; A chwedi ymgegu digon a'i gllŷdd (a'r Pererinod trwŷ'r hôll amser yn eu dwŷn eu hunain yn ddoeth, ac yn bwŷllog iawn ger eu bron hwŷnt) pobl y ffair a rŷthrasant y naill ar y llall, gan guro a chlwŷfo'r naill y llall.

Yna a dygwŷd y ddau Bererin drachefn ofiaen y Swŷddogion, iw holi'n fanylach; Ac achwŷn­wŷd arnŷnt, mai hwŷnt a fu'r achos o'r Terfŷsc diweddar a fasai yn y ffair; Ac am hynnŷ, fe'u curwŷd hwŷ yn anrhugarog, a gosodwŷd hwŷ mewn heirn, a dygwŷd hwŷ mewn tidau i fynu ac i wared trwŷ'r hôll ffair, er siampl a dychrŷn i eraill, rhag dywedŷd o neb ddim yn eu plaid, neu ymgyfeillachu ac ymgyssylltu a hwŷnt; Ond Cristion a ffyddlon a ymddygasant eu hunain yn ddoethach etto, gan dderbŷn yr amharch a'r dirmŷg a gawsant, mor ammynedd a llarieidd, hŷdoni yn­nillasant trwŷ hynnŷ lawer o bobl y ffair iw plaid, er nad oeddŷnt ond nifer fechan i ymdrechu a'r lleill; A gwnaeth hŷn i'r blaid arall ymgynddeir­iogi yn fwŷ; A dywedasant wrth y ddau ŵr, na chai Carchar a Heirn wasanaethu moi trô, ond caent eu rhoddi i Farwolaeth am y cynnwrf a wnaethant, ac am hudo rhai o'r ffair i fôd o'u tu hwŷnt.

Yna a danfonwŷd hwŷ drachefn ir Carchar, hŷdoni chymmerid cwrs ymhellach a hwŷnt; Ac yn y carchar, fe ddodwŷd eu traed hwŷnt yn gaeth mewn heirn.

Ac yno daeth iw côf hwŷnt yr hŷn a ddywed­asei eu ffreind Efangylwr wrthŷut; A hwŷ a gadarn­hawŷd [Page 111] yn fwŷ yn eu ffŷrdd a'u dioddefiad, gan iddo ef ragfynegu yr hŷn a ddigwŷddasai iddŷnt; Dechreuasant hefŷd yr awron gysuro y naill y llall, gan farnu mai'r hwn a ddioddefai farwolaeth yn gyntaf, a gae'r gorau ar y llall; Ac am nynnŷ yr oedd pôb un yn chwennŷch yn ei galon gael y rhagorfraint hwnnw; Ond gan eu gorchymŷn eu hunain i ddoeth ragluniaeth yr hwn sŷ'n llywod­raethu pôb peth, hwŷ a ymroesant drwŷ lawer o Fodlonrhwŷdd i ddwŷn eu croes, hŷdoni threfnid iddŷnt rŷw gyflwr arall.

Yna wedi ordeinio amser cyfaddas, fe'u dyg­wŷd hwŷ allan ir Frawdle, i gael eu barnu gan eu gelynion: Enw'r Barnwr oedd Gaswr pob Daioni; Eu hendeitment oedd un mewn sylwedd, er ei fôd yn ddau mewn ffurf a dull; Y matter cynnwŷs­edig yntho ydoedd hŷn.

Fôd y Pererinod ymma yn Elynion iw crefftau a'u marsiandaeth hwŷnt; A gwneuthur o honŷnt hwŷ derfŷsc ac ymryson yn y Drêf, gan hudo llaw­eroedd i dderbŷn eu peryglus a'u ffals▪ opiniwnau hwŷnt mewn matterion crefŷdd, gan ddiystyru a dirmygu cyfraith eu Tywŷsog trwŷ wneuthur fellu.

Yna ffyddlon a attebodd trosto ei hun, gan ddywedŷd, Ni wrthwŷnebais i neb, ond y sawl oedd yn wrthwŷnebus ir hwn sŷdd uwch na'r uchaf ar y ddaiar; Ac ni wnaethum i ddim Terfŷsc, gan fy môd fy hun yn ŵr heddychlon; Ac am y rhai a ennillwŷd i'n plaid, fe'u hennillwŷd hwŷ trwŷ ystyried y gwirionedd a'r diniweidrwŷdd sŷdd ynom; Ac i maent wedi eu troi, yn unig oddiwrth y gwaetha at y gorev; Ac am y Brenin yr ydŷchi yn sôn amdano, gan mai Belzebub ydŷw ef (sef Gelŷn mawr i'n Harglwŷdd ni) yr wi'n ei ddi­ystyru ef a'i hôll Angylion.

Yna a Cyhoeddwŷd, od ydoedd gan neb ddim [Page 112] iw ddywedŷd ymhlaid eu Harglwŷdd Frenin Belzebub, yn erbŷn y Carcharwr wrth y barr, ym­ddangos o honŷnt ar frŷs, i roddi eu Tystiolaeth ir Cowrt; Ac ar hynnŷ daeth Tri o Dystion i mewn, a'u henwau oedd Cynfigen, Gau-grefŷdd, a Cham-gyhuddwr: Yna gofynnwŷd iddŷnt, a ad­waenent hwŷ y Carcharwr wrth y barr? A pha beth oedd ganthŷnt iw ddywedŷd yn ei erbŷn ef, tros eu Harglwŷdd Frenin.

Yna safodd Cynfigen i fynu, ac a ddywedodd fel hŷn, fy Arglwŷdd Ustus, myfi a adwaen y Gŵr ymma er ys talm o amser, ac mi a dystiolaethaf ar fy llŵ oflaen yr Orseddfaingc anrhydeddus hon ei fôd ef —

Barnwr Arafwch, rhoddwch ei Lŵ iddo ef; Ac wedi gwneuthur fellu, efe a ddywedodd, nid ŷw'r Gŵr hwn er tegced ŷw ei enw, ond un o'r dynnion diffeithaf yn ein Gwlâd: Nid ŷw ef yn gwneuthur pris yn y Bŷd, nac o'n Tywŷsog, nac o honom ninnau eu Ddeiliaid ef, nac o Gyf­reithiau, nac o arferion; Ond i mae'n gwneuthur a allo i lenwi pennau pobl a rhŷw opiniwnau melltigedig, fŷ'n wrthwŷnebus i ufudd-dod, ir Awdurdodau goruchel; Y rhain opiniwnau y mae efe yn eu galw, yn wŷddorion ffŷdd a sancteidd­rwŷdd; Ac yn neilltuol myfi a'i clywais ef a'm clustiau fy hun yn taeru, fôd Cristionogaeth, ac arferion ein Trêf ni, yn gwbl wrthwŷnebus iw gilŷdd, ac nas gellir eu cymmodi hwŷnt: A thrwŷ'r ymadrodd hwn fy Arglwŷdd Ustus, i mae ef ar unwaith yn condemnio nid yn unic ein hôll weithredoedd canmoladwŷ ni, ond y ninneu hefŷd sŷdd yn eu gwneuthur hwŷnt.

Barnwr. Yna a gofynnodd y Barnwr iddo, a oes gennŷch ddim mwŷ iw ddywedŷd?

Cynfigen. Fy Arglwŷdd, Mi a allwn ddy­wedŷd [Page 113] llawer mwŷ; Ond ni fynnwn i filno'r Cowrt; Etto os bŷdd rhaid (wedi ir Gwŷr bon­eddigion eraill roddi eu tystiolaeth i mewn) yn amgen nag a bo dim yn eisiau iw grogi neu iw loscl ef, myfi a helaethaf fy nhystiolaeth yn ei orbŷn ef; Yna fe archwŷd i Cynfigen sefŷll heibio, a galwŷd Gau-grefŷdd; a gorchymynwŷd iddo edrŷch ar y Carcherwr wrth y barr; A gofynnwŷd iddo, pa beth a allai ef ddywedŷd, dros eu Harglwŷdd Frenin yn ei erbŷn ef? Ac wedi rhoddi ei lŵniddo, efe a lefarodd fel hŷn.

Gau.grefŷdd. Fy Arglwŷdd Ustus, nid yd­wŷf hanner cydnabyddus â'r Gŵr hwn, ac nid wi'n chwennychu bôd yn fwŷ cydnabyddus ag ef; Er hynnŷ mi a wn hŷn, oddiwrth rŷw yddiddan a fu rhyngofi ag yntef y dŷdd arall yn y Drêf ymma, Mai Dŷn diriaid a pheryglus ydŷw ef; Canŷs myfi a'i clywais ef y prŷd hwnnw yn dy­wedŷd fôd ein crefŷdd ni yn ddrŵg, sef yn y fâth un, ac nad ŷw bossibl i neb foddhau Duw trwŷddi; Ac oddiwrth yr ymadroddion ymma, fy Argiwŷdd Ustus, chwi a wŷddoch yn ddigon dâ fôd hŷn yn canlŷn, sef mai ofer ŷw'n haddoliad ni'n wastadol, A'n bôd ni etto yn ein pechodau, Ac a byddwn ni damnedig yn y Diwedd; A hŷn sŷ genif iw ddywedŷd.

Yna a rhoddwŷd Cam-gybuddwr iw lŵ, ac fe archwŷd iddo ddywedŷd yr hŷn ôll a wŷddai, ymhlaid ei Arglwŷdd Frenin, yn erbŷn y Carchar­wr wrth y barr.

Cam-gyhuddwr. Fy Arglwŷdd Ustus, a chwi­thau wŷr boneddigion ôll, myfi a adwaen y cyfaill ymma er ys talm o amser, ec a'i clywais ef yn llasenwi ein hardderchog Dywŷsog Belzebub, ac yn llefaru yn ddlrmygus am ei Gyfeilllon anrhydeddus ef, sef am yr Arglwŷdd Hên-ddŷn; yr Arglwŷdd [Page 114] Hyfrŷdwch cnawdol‘ yr Arglwŷdd Gloddest, ar Arg­lwŷdd Trachwantus am Wâg-ogonians, yr hên Arg­rwŷdd Anlladrwŷdd, ynghŷd a phawb eraill o'n Pendefigion ni; Ac efe a ddywedodd ymhellach, pedfai bawb o'r un feddwl ag ef, os byddai bossibl, na chai un o'r rhain aros yn hwŷ yn y Drêf ymma; Heblaw hynnŷ fy Arglwŷdd Ustus, ni rusodd ef eich llafenwi chwithau hefŷd, yr hwn sŷ yr awron wedi ei appwŷntio i fôd yn Farnwr arno ef, gan eich galw chwi yn fulaen annuwiol, wrth roddi allan lawer o eiriau cynfigenus eraill amdanoch chwi, ac am y rhan fwŷaf o uchelwŷr ein Trêf ni; Ac yno wedi i Gam-gyhuddwr ddywedŷd ei chwedl, fe drodd y Barnwr at y Carcharwr wrth y barr, gan ddywedŷd wrtho; Tydi'r Crwŷdrad, yr Her­etic, a'r Traetur, a glowaist beth a dystiolaethodd y gwŷr gonest hŷn i'th erbŷn di?

Ffyddlon. A gâf i gennad i ddywedŷd ychydig drosof fy hun?

Barnwr. Syre, Syre, 'rŷchi'n haeddu cael eich rhoddi i farwolaeth yn ddimaros, yn y mann ymma; Ond etto fel a gallo pawb weled ein gwedd-eidd-dra ni tuag attoch, moswch glowed beth sŷdd gennŷch (y crwŷdrŷn brwne) iw ddywedŷd trosoch eich hunan.

Ffyddlon. Yn gyntaf, Am yr hŷn a lefarodd Meistr Cynfigen, 'Rwi'n atteb, Na ddywedais i ddim ond hŷn, am y Rheolau, y Cyfreithiau, y Defodau, a'r Bobl hynnŷ sŷ'n wrthwŷnebus i air Duw, fôd y rheini i gŷd yn wrthwŷnebus i Gristionogaeth; Os dywedais i ar fai yn hŷn, 'rwi'n barod (ond i chwi ddangos i mi fy ngham­gymeriad) i aiw y geiriau'n ôl, ac i ymddarostwng ymma o'ch blaen chwi o'i plegid hwŷnt.

Yn ail Am y peth a dyngodd Meistr Gau▪grefŷdd l'm herbŷn, 'rwi'n atteh, mai hŷn yn unic a ddy­wedais [Page 115] i, sef y dylai ein ffŷdd ni ynghŷlch y peth­au yr ŷm yn eu gwneuthur, yn addoliad Duw, fôd y fâth un ar sŷ wedi ei gosod ar Air Duw; Canŷs yno a mae fe'n datcuddio y pethau, y mae ef yn eu ewŷllysio i ni eu cyflawni, yn ei addoliad ef; A gelwir y ffŷdd ymma yn ffŷdd dduwiol, yr hon heb warant allan o Air Duw nid all mor bôd yn neb; Ac am hynnŷ os dygir dim i mewn i Addoliad Duw, nad ydŷw gyttunol a'r datcuddiad sŷdd o'i ewŷllŷs ef yn yr yscrythur, nid ellir cyfi­awni hynnŷ ond a ffŷdd ddynol, yr hon nid ŷw fuddiol i fywŷd tragywŷddol.

Yn drydŷdd Am yr hŷn a dyngodd Meistŷr Camgyhuddwr, 'rwi u atteb (heb ddal sulw ar ei waith ef yn taeru, fy môd i'n difenwi &c.) fôd Belzebub Tywŷsog y Ddinas hon, a'r hôll dyrfa o'i welsion ef, yn gymhwŷsach i fôd yn uffern, nag yn y wlâd neu'r Ddinas ymma; Fellu Duw a drug­arhâo wrth fy enaid i.

Yna dywedodd y Barnwr wrth y Cwest (y rhai, tros yr hôll amser, a safasant gyferbŷn, i wrando ac i ddal sulw) Chwychwi wŷr Benedd­igion o'r cwest a welwch y Gŵr ymma, o achos pa un a bu cymmaint o gynnwrf yn ddiweddar yn ein Trêf ni; Chwi a glywsoch pa bethau a dystiol­aethodd y Gwŷr boneddigion hŷn yn ei erbŷn ef; Ac hefŷd ei attebion a'i gyfaddefiad yntef; Arnoch chwi yr awron a mae'n sefŷll, ei fwrw neu ei gadw ef; Ond etto 'rwi'n gweled hŷn yn beth cymwŷs, sef i'ch haddyscu chwi, ynghŷlch nattur ein cyfreithau ni.

Yn nyddiau Brenin Pharao (Gweinidog l'n Tywŷsog Belzebub) a gwnaethpwŷd Cyfraith, yn yr hon a gorchmynwŷd bwrw plant gwrw yr Israeliaid ir afon, rhag ofn ir rhai oedd o grefŷdd wrthwŷnebus iw grefŷdd ef amlhau, a myned yn [Page 116] dreeh nag ef; Gwnaed Act hefŷd yn nyddian Nebuchudnezar fawr (Gwâs arall i'n Tywŷsog ni) a byddai i bwŷ bynnag ni lyethlai i lawr, i addoll ei ddelw Aur ef, gael eu bwrw i ffwrn o dân poeth; Gwnaethpwŷd Act hefŷd yn nyddiau Darius, a byddai ir sawl a alwai ar un Duw (tros rŷw amser tersŷnnedig) ond yn unic arno ef, gael eu taflu i ifau'r Llewod ( Exodus 1. Daniel 3. Daniel 6.) Yr awron i mae'r Rebel ymma wedi troseddu y cyf­reichiau hŷn igŷd, nid yn unic mewn meddwl, ond hefŷd mewn gair a gweithred, yr hŷn nis gellir ei ddioddef mewn môdd yn y Bŷd.

Phario a wnaeth ei gyfraith i ragflaenu, ac i rwŷstro anghydfod a niweid; Canŷs nid oedd un bai etto ŷn weledig, fel y mae beiau yn weledig ymma 1 Am yr ail a'r drydŷdd gyfraith, chwi a glywfoen fel a mae'r Carcharwr yn dadleu yn eu herbŷn, trwŷ ddywedŷd yn erbŷn ein crefŷdd ni; Ac yr awron i mae'n haeddu marwolaeth am y trae [...]uriaeth a gyffesodd ef.

Yna yr ymnailltuodd y cwest, a'u henwau ydoedd, Meistir Dall, Meistir Di-ddaioni, Meistir Maleusus, Meistir Anllad, Meistir Ofer-ddŷn, Meistir Pen-galed, Meistir Uchel ei olwg, Meistir Gelyniaeth yn erbŷn pôb daloni, Meistir Celwŷddog, Meistir Greulondeb, Meistir Casswr y Goleuni, Mei­stir Anghymmodol; A'r rhain igŷd a roesant eu ferdid yn benodol yn erbŷn y carcharwr yn eu plith eu hunain; A chwedi hynnŷ hwŷ a gytrun­asant yn un frŷd iw ddwŷn ef i mewn yn euog o farwolaeth oflaen y Barnwr; Ac yn gyntaf yn eu plith eu hunain, ebŷr Meistir Dall y fforman; myfi [...] wel [...] yn eglur mai Heretic ydŷw'r Dŷn ymma; Ymaith a'r cyfrŷw un oddiar y ddaiar ebŷr Mei­stir [...]; Ie ebŷr Meistir Maleusus ymaith ag ef, canŷs y mae'n gâs gennif yr olwg arno; [Page 117] Ni ellais i erioed aros mono ebŷr Meistir Anliad; Na minneu ychwaith ebŷr Meistir Ofer. ddŷn, canŷs fe fyddai bôb amser yn beio, ae yn condemnio fy ffŷrdd i; Crogwch ef crogwch ef ebŷr Meistir Pen-gled; Nid ŷw ef ond yscerbwd sâl ebŷr Meistir Uchel ei olwg: Mae'nghalon i yn codi yn ei erbŷn ef ebŷr Meistir Gelyniaeth yn erbŷn pûb daioni; Dihirŷn brwnt ŷw ef ebŷr Meistir Celwŷddog; mae crogi yn rhŷ ddâ iddo ebŷr Meistir Creulondeb; Moswch i ni yn fŷan ei ddanfon ef allan o'r Bŷd ebŷr Meistir Casswr y Goleuni; Pe rhoddid i ml yr hôll Fŷd, ni allwn i ymheddychu ag ef ebŷr Meistir Anghymmodol: Gadewch i ni gan hynnŷ, yn fŷan ei ddwŷn ef i mewn yn euog o farwolaeth; Ac fellu gwnaethant: Ac am hynnŷ barnodd y Barnwr i garrio ef oddiwrth y barr ir Carchar drachefn, ac oddlyno i le y cospedigaeth, I ddio­ddef y farwolaeth greulonaf ar a ellid ei dyfeisio.

Yna hwŷ a'i dygasant ef allan iw ddihenyddu yn ôl eu cyfraith hwŷnt; Ac yn gyntaf hwŷ a'i chwip­iasant ac a'i curasant ef; A chwedi hynnŷ hwŷ a borcciasant ei gnawd ef a chyllill, ac a'u pwniasant ef a meini; Ac yn ddiweddaf, wedi ei frathu ef trwŷddo a'u cleddyddau, hwŷ a'i llosgasant ef yn ulw wrth bost; A dymma i chwi ddiwedd ffyddlon; Ond mi a welais (o'r tu ôl ir fintai, oedd yn bre­sennol wrth ei losel of) Gôuts a chwpwl o gyffylau yn disgwŷl amdano; Ac yn gyntaf ag a bu ef farw trwŷ'r poenau hŷn, dygwŷd ef ir couts; Ac yn ddisymmwth clppiwŷd ef i fynu trwŷ'r cymmylau (gyda Sŵn udcorn) y ffordd nessaf ir Ddinas Nefol.

Ffyddlon enwog am dduwiol-frŷd,
Dâ mewn galr a gweithred hefŷd,
Ni allai Barnwr, cwest, na thyftion,
Wneud i'th enaid ddim nlweidion
[...] [...]
Yn lle dy lâdd di yn dragywŷdd,
Dangosasant gynddeiriogrwŷdd:
Pan font hwŷ, a'u henwau'n feirwon,
Byddi bŷw ymhlith Angylion.

Ond hwŷ a arbedasant Gristion y tro ymma, gan ei ddanfon ef yn ôl ir Carchar; Lle a gadawsant ef dros rŷw amser; Ond Duw, yr hwn sŷ'n goruwch-reoli pôb peth (gan fod gantho allu i ffrwŷno eu cynddeiriogrwŷdd hwŷnt) a wnaeth ffordd iddo i ddiangc y prŷd hwnnw, rhag malais ei elynion; Ac fellu fe a aeth rhŷd ei ffordd dan ganu▪

Ffyddlon, cywir a fuost ti,
I'th unig Ri rhagorol;
Gyda'r hwn cai ar ôl hŷn,
Fawr wnfŷd yn dragywŷddol.
Pan fyddo'r Anffyddlonlaid trwch,
A'u hôll ddigrifwch ofer,
Yn uffern boeth yn udo'n brudd,
It titheu bŷdd uchelder.
Can ffyddlon, bŷdd ith enw o hŷd,
Barch yn y Bŷd tragywŷddol:
Er cael dy lâdd, gwirionedd ŷw
Dy fôd yn fŷw'n wastadol.

Yr awron mi a welais yn fy mreuddwŷd, nad aethau Cristion ymaith yn unig ar ei ben ei hunan; Canŷs yr oêdd yno un a elwid Gobeithiol, (calon pa un a gyffyrddwŷd, ac a wnaethpwŷd yn obei­thiol, trwŷ ddal sulw ar eiriau ac ymddygiad Cristion a ffyddlon dan en dloddefaint yn y ffair) yr hwn a lynodd wrth Gristion, ac a wnaeth gyf­ammod brawdol ag ef, gan ddywedŷd wrtho, a [Page 119] bŷddal ef gydymaith iddo yn ei siwrnai; Fel hŷn a bu un farw i ddwŷn tyffiolaeth o'r gwirionedd; Ac wele un arall yn cyfodi allan o'i briddin ef, i fôd yn Gydymaith i Gristion yn ei Bererindod; A dywedodd Gobeithiol wrth Gristion, fôd llawer o bobl yn y ffair honno y rhain mewn amser oeddent debygol iw canlŷn hwŷnt.

A chŷn gynted ag a daethant allan o'r ffair, hwŷ a ddaethant o hud i ŵr, a elwid Neilltuol-fwriad; A hwŷ a ofŷnnasant iddo, Syr, gŵr o ba wlâd ydŷch chwi? A pha bellter yr ydŷch chwi'n teithio rhŷd y ffordd hon? Yntef a'u hattebodd hwŷnt, ei fôd ef yn dyfod o Drêf Têg-Ymadrodd, a'i fôd ef yn myned tua'r Ddinas Nefol, ond ni fynegodd iddŷnt moi henw.

CRISTION. A ddichon dim dâ ebŷr Crist­ion ddyfod allan o Drêf Têg-Ymadrodd ( Dihar­ebion 26.25.)

Neilltuol-fwriad. Dichon 'rwl'n gobeithio ebŷr Neilltuol-fwriad.

CRISTION. Attolwg Syr, beth ŷw'ch enw chwi?

Neilltuol-fwriad. 'Rwi'n ddieithr i chwi, a chwitheu i minneu; os ydŷch yn trafaelio y ffordd hon, fe fŷdd dâ iawn gennif gael eich cwmpeini; Onid ydŷch rhaid i mi fôd yn fôdlon.

CRISTION. Myfi a glywais sôn am y Drêf ymma Têg-Ymadrodd (ebŷr Cristion) ac hŷd yr wŷfi yn ei gofio, hwŷ a ddywedant ei bôd hi'n lle cyfoethog.

Neilltuol-fwriad. Ydŷw ar fy ngair i, ac mae i mi lawer iawn o geraint cyfoethogion yn bŷw yno.

CRISTION. Pwŷ ŷw'ch Ceraint chwi yno?

Neilltuol-fwriad. Yr hôll Drêf agos, ond yn enwedigol yr Arglwŷdd Anwadal; yr Arglwŷdd [Page 120] Gwasanaethwr-amser; yr Arglwŷdd Teg-ymadrodd, (oddiwrth Henafiaid yr hwn a cafodd y Drêf ei hênw) ac hefŷd Meistir Tafod-aur, Meistir Dau-wŷnebog, Meistir Dau dafod ŷw fy ewŷthr brawd fy Mam, hefŷd Meistir Pûb peth; Ac o ddywedŷd i chwi'r gwîr, 'rwifi yr awron yn ŵr Bonheddig o gymmeriad mawr ac enw dâ; Er nad oedd fy Hên▪daid i ond Moriwr, yn rhwŷfo un ffordd, ac yn edrŷch ffordd arall; Ac wrth y gelfyddŷd honno yr ennillais inneu y rhan fwŷaf o'm Golud.

CRISTION. A ydŷch chwi'n ŵr priodol?

Neilltuol fwriad. Ydwŷs, ac i mae fy ngwraig i yn llawn o rinweddau dâ, a merch ydŷw hi, ir Arglwŷddes Rhagrithiol; A chan fôd ei thylwŷth hi'n anrhydeddus, hwŷ a roesant y fâth ddyg­iad i fynu iddi, fel a meidr hi ei hymddwŷn ei hunan yn weddaidd, yn gystal oflaen y Tywŷsogion ac oflaen y cyffredin; Gwir ŷw, fôd rhagor mewn crefŷdd rhyngom ni a'r gwŷr or grefŷdd ddiwŷdiaf▪ Etto nid ŷw hynnŷ ond mewn dau o byngciau bychain; Yn gyntaf, nid ydŷm ni yn ymdrechu un amser i rwŷfo yn erbŷn y gwŷnt ar Llanw; Yn Ail, yr ydŷm ni bôb amser yn dra awuddus i fôd yn grefyddol, pan fo crefŷdd yn myned yn ei gwisg Arian; Canŷs dâ iawn gennŷm rodio gyda hi yn yr heolŷdd, os bŷdd yr Haul yn tywŷnnu arni, a'r bobl yn ei chlodfori.

Yna Cristion a drôdd ychydig o'r neilltu at ei gydymaith Gobeithiol, ac a ddywedodd wrtho, rwi'n tybied mai Meistir Neilltuol-fwriad o Drêf Teg­ymadrodd ŷw'r dŷn hwn; Ac os efe ydŷw'r Gŵr, i mae gennŷm yn ein cwmpeini cŷn benned cnâf a'r pennaf yn y wlâd hon; Yna ebŷr Gobeithiol gofynnwch iddo beth ŷw ei enw ef; Yn siwr mi debygwn nas dylai ef gywilyddio o ddatcuddio [Page 121] ei enw; Fellu Cristion a aeth atto drachefn; ac a ddywedodd, Syr, yr ydŷch chwi'n siarad megis un a fai'n tybied ei fôd yn deall rhŷw bethau yn well na llaweroedd eraill: Ac onid wŷf yn eich camgymmerŷd▪ mi debygwn fy môd yn eich brith ddynabod chwi; Ond Meistir Neilltuol-fwriad ydŷw'ch henw chwi? Ac ond ydŷch yn bŷw yn nhrêf Teg-ymadrodd?

Neilltuol fwriad. Nid Neilltuol fwriad ŷw fy henw i: Ond gwîr ydŷw fôd rhai o'm caseion yn fy llashenwi fellu; Ac mae'n rhaid i mi ym­fodloni i ddioddef eu hamharch, megis a diodde­fodd gwŷr dâ eraill o'm blaen.

CRISTION. A roesoch chwi ddim achos er­ioed i nêb i'ch galw chwi wrth yr henw hwn.

Neilltuol fwriad. Naddo erioed; Ond fe gymmerodd pobl gennad i'm galw i wrth yr henw hwnnw, am fy môd i yn tueddu yn wastadol i rodio yn y ffŷrdd yr oedd pobl yn arfer o rodio ynthŷnt, beth bynnag a fyddent, os arfer a ffasiwn y wlâd oedd hynnŷ; Ac yr oeddwn i yn lwccus iawn i ennill yn ddâ wrth y gwaith ymma; Ac os digwŷddodd i mi gasclu cyfoeth yn y môdd hwn, rhaid i mi eu cyfrif yn fendith; Ond na amhar­ched y maleusus fi am hŷn o beth.

CRISTION. Yr oeddwn i'n tybied yn wîr mai chwi oedd y gŵr a clywais i sôn amdano; Ac o ddywedŷd wrthŷch fy meddwl, 'rwi'n ofni, fôd yr enw hwn yn perthŷn i chwi yn fwŷ nag a mynnech i ni dybied ei fôd.

Neilltuol fwriad. Wele os coeliwch y pethau fellu Ni allafi wrthŷch; Ond os byddwch cŷn fwŷned a'm cymmerŷd i'ch cymdeithas, chwi a'm cewch i yn gydymaith glân.

CRISTION. Os dowchi gyda ni, rhaid i chwi fyned yn erbŷn Gwŷnt a Llanw, yr hŷn fŷ'n [Page 122] wrthwŷnebus i'ch opiniwn chwi; A rhaid i chwi hefŷd ymddangos tros gefŷdd, pan fo hi yn ei hên gadachau, yn gystal a phan fo hi yn ei gwisg arian; A'i chyfaddef hi hefŷd pan fytho hi yn rhwŷm mewn cadwŷnau, yn gystal a phan fytho hi'n rhodio'r heolŷdd mewn anrhydedd.

Neilltuol-fwriad. Nid oes i chwi arglwŷddi­aethu ar fy ffŷdd i; Gadewch fi i'm rhydd-did, a dôf gyda chwi.

CRISTION. Na ddowch gam ymhellach gyda ni, onis gwnewch fel yr ŷm ninneu yn gwneuthur.

Yna ebŷr Neilltuol fwriad, ni ymadawaf i bŷth a'm hên brif-byngciau, a'm pwrpas, gan eu bôd yn ddiniweid ac yn fuddiol; Oni chafi dei­thio gyda chwi, rhaid i mi fyned ar fy mhen fy hunan, fel a gwneuthum cŷn eich goddiwes chwi, nes a delwŷf ymŷsc rhai a fŷdd dâ ganthŷnt fy nghwmpeini.

Yr awron mi a weiwn (yn fy mreuddwŷd) Gristion a Gobeithiol yn ei adel ef ar eu hôl; Ond digwŷddodd i un o honŷnt edrŷch yn ôl ei gefn; Ac efe a welai dri o wŷr yn dyfod ar ôl Meistir Neilltuol fwriad; Ac wele, pan ddarfu iddŷnt nesu atto, fe a ymgrymmodd iddŷnt hŷd y llawr, a hwŷthau hefŷd a ymgrymmasant iddo yntef; Henwau'r gwŷr oedd Meistir Awudd y Bŷd, Meistir Chwant yr Arian, a Meistir Eiriach y cwbl, sef gwŷr a baseu Meistir Neilltuol-fwriad gŷnt yn gydnabyddus a hwŷnt; Canŷs cŷd-yscolheigion a fasent yn eu hieuengctid, a'u Meistir hwŷ oedd Mei­stir Dal-gafael ar y Bŷd, yn nhrêf Câer-elw, yr hon sŷdd Drêf farchnad yn Sîr Trachoeant yn y Gogledd; A'u hathro a ddyscodd'iddŷnt y gelfyddŷd o elwa, naill a'i trwŷ drais, twŷll, gweniaeth, dywedŷd celwŷdd, neu trwŷ wneuthur esgus o grefŷdd; A'r pedwar Pendefig ymma a ddyscasant gymaint [Page 123] o gelfyddŷd eu Hathro, hŷdoni fedrai pôb un o honŷnt gadw yr un.rhŷw yscol ag yntef.

Ac a'r ôl iddŷnt (fel a dywedais) gyfarch gwell iw gilŷdd, gofynnodd Meistir Chwant yr Arian I Meistir Neilltuol-fwriad, pwŷ ydŷw'r rhai accw sŷdd o'n blaen ar y ffordd? Canŷs yr oedd Cristion a Gobeithiol etto o fewn golwg iddŷnt.

Neilltuol-fwriad. Dau ŵr o wlâd bell ydŷnt, y rhai sŷ'n myned ar bererindod.

Chwant yr Arian. Och! Pa ham nas arhosent, fel a cawsem eu cwmpeini dâ hwŷ; Canŷs i maent hwŷ, a ninneu, a chwitheu Syr, rwi'n gobeithio yn mynd ar Bererindod.

Neilltuol-fwriad. Rŷm ni fellu yn wîr, ond i mae'r gwŷr accw sŷdd o'n blaen ni, mor ystyf­nig, ac mor anystwŷth, trwŷ garu eu opiniwnau eu hunain, gan ddibrisio opiniwnau rhai eraill; Bydded gŵr mor dduwiol ag y mynno, etto oni bŷdd ef yn cyttuno a hwŷnt ymhôb pwngc, nid ymgyfeillachant hwŷ ag ef.

Eiriach y cwbl. Drŵg iawn ŷw hynnŷ; 'Rŷm ni 'n darllen am rai a'r sŷdd yn rhŷ Gyfiawn, ac mae styfnigrwŷdd y fâth wŷr yn eu gyrru hwŷnt i farnu, a chondemnio pawb ond eu hunain; Ond attolwg pa fâth, a pha sawl un oedd y pethau yr oeddech yn anghyttuno a hwŷnt yn eu cŷlch.

Neilltuol-fwriad. Yr oeddent hwŷ yn ôl eu pengaledrwŷdd, yn barnu mai eu dyledswŷdd hwŷ ydoedd i deithio drwŷ bôb tywŷdd, a min­neu wŷf yn disgwŷl am wŷnt a Llanw, Y maent hwŷ am fentro y cwbl ôll ar a feddont dros Dduw mewn munŷd, a minneu ydwŷf yn diswŷl pôb odfa i siccrhau fy enioes, a'm golud; I maent hwŷ am ddadlu eu crefŷdd, pe byddei'r hôll Fŷd yn eu herbŷn; Ond rwŷf innau am grefŷdd cŷn [Page 124] belled, ac a bytho'r amseroedd, a'm diogelwch sy hun yn rhoddi lle i hynnŷ; I maent hwŷ am ymlynu wrth grefŷdd, pan fytho hi mewn dirmŷg a diystyrwch; Ond yr wŷf inneu am lynu wrthi pan fytho hi 'n rhodio yn eu gwisg euraid, a'r Haul yn Llewyrchu arni, a'r hôll Bobl yn ei chlodfori.

Awuddy Bŷd. Dâ iawn a gwnewch chwi Meistir Neilltuol-fwriad, os parhewch fellu hŷth; Canŷs i'm tŷb i mae'r Dŷn hwnnw yn ynfŷd, yr hwn a gŷll ei feddlannau, pan allo eu cadw nhwŷ; byddwn ddoeth fel Sarph; Da cweirio'r Gwair tra fo'r Haul yn llewŷrchu; Chwi a welwch fel a mae'r wenynen yn llechu yn y gaiaf, ac yn llaf­urio yn unig pan allo hi gael ennill gyda phleser; I mae Duw yn rhoddi glaŵ weithiau, a Thegwch weithiau; Os bŷdd neb mor ynfŷd a myned trwŷ'r dymhestl, gadewch iddo fyned; Etto o'n rhan ein hunain, gadewch i ni fôd yn fodlon ei orphwŷs hŷdoni chaffom y tywŷdd vn dêg, a'r hîn yn dawel; O'm rhan i, yr wŷfi 'n caru 'r Grefŷdd honno yn oreu ar a safo gyda'r siccrwŷdd mwŷaf, a bŷdd i ni feddiannu y bendithion a rodd yr Arg­lwŷdd i ni; Canŷs i mae 'n hawdd i ni ddeall (onid ŷm ni wedi gwallgofi) a mŷn Duw i ni gadw er ei fwŷn ef, yr hôll bethau daionus a gawsom oddiwrtho; I'n cynnal ni yn y Bŷd hwn; Abraham a Solomon a ymgyfoethogasant er eu bôd yn grefyddol; Ac mae Eliphaz yn dywedŷd a rhŷdd Gŵr dâ aur i gadw fel llŵch ( Job 22.24.) Nid fellu a dywaid y gwŷr o'n blaen, os ydŷnt y fâth rai ag a dywedasoch chwi eu bôd.

Eiriach y cwbl. Rwi'n meddwi ein bôd ni ôll wedi cyttuno yn y matter ymma, ac am hynnŷ nid oes achos siarad ymhellach amdano.

Chwant yr Arian. Nid rhaid yn ddiammeu [Page 125] ddywedŷd gair ymhellach ynghŷlch y matter ym­ma; Canŷs yr hwn nid ŷw'n credu na Scrythur, na rheswm (a chwi a welwch fôd y ddau ar ein plaid ni) nid ŷw hwnnw'n cydnabod moi rydd-did, nac yn c [...]isio ei siccrwŷdd ei hun.

Neilltuol-fwriad. Fy mrodŷr, yr ydŷm ni ôll yr awron (fel a gwelwch) yn myned ar Bererindod; Ac o ran difyrru'r amser yn well, rhowch gennad i mi i ofŷn i chwi y cwestiwn hwn.

Bwriwch fôd Gweinidog neu Grefftwr, mewn cyfle a ffordd i ennill bendithlon daionus y bywŷd hwn; Etto fel na allo mewn môdd yn y Bŷd fôd yn gyfrannog o honŷnt, oddigerth iddo ymddangos yn dra gwresog, tiwnt i gyffredin arfer y wlâd mewn rhai Pyngciau crefŷdd, y rhai nad oedd ef erloed o'r blaen yn eu canlŷn; Onid eill ef dde­wis y ffordd ymma, er mwŷn cael ei fwriad, ac etto fôd yn ŵr gonest iawn.

Chwant yr Arian. Rwi'n deall eich meddwl yn eglur; A thrwŷ gennad y pendefigion ymma, myfi a wnâf fy ngoreu i roddi atteb i'ch cwestiwn; Am y Crefftwr, Bwriwch nad oes gan Grefftwr ond ychydig iw gynnal ei hun yn y Bŷd; Ond trwŷ ddyfod i broffesu crefŷdd, fe a eill gael odfa i wellhau ei gyflwr; Naill a'i trwŷ gael gwraig gyfoethog, neu trwŷ ennill mwŷ, a gwell prynwŷr iw Siop; O'm rhan i, nid wŷf yn gweled Rhe­swm yn y Bŷd, nas gellir gwneuthur hŷn yn gy­freithlon; Canŷs Yn gyntaf, Rhinwedd ŷw bôd yn grefyddol, trwŷ ba fôdd bynnag a delo dŷn i fôd fellu; Yn ail, Nid ŷw'n anghyfreithlon i geisio Gwraig gyfoethog, neu fwŷ o gwsmeriaid iw Siop; Yn drydŷdd, Heblaw hynnŷ, i mae'r Gŵr a ennillo'r pethau hŷn, trwŷ fôd yn grefyddol, yn ennill yr hŷn fŷ'n ddâ oddiwrth y sawl sŷdd ddâ, trwŷ ddyfod ei hun i fôd yn ddâ; Fellu dymma [Page 126] wraig ddâ, Cwsmeriaid dâ, ac Elw dâ, a'r rhain i gŷd wedi eu hynnill, trwŷ ddyfôd i broffesu cre­fydd, yr hŷn sŷdd beth dâ; Ac am hynnŷ, gwaith dâ a buddiol ydŷw bôd yn grefŷddol, er mwŷn ennill yr hôll bethau ymma.

Wedi i Chwant yr Arian. roddi'r atteb hwn i Gwestiwn Meistir Neilltuol fwriad, hwŷ a gan­molasant ei Atteb ef yn ddirfawr, ac a farnasant fôd y cwbl a lefarodd ef yn dra buddiol a iachus; Ac oblegid eu bôd nhwŷ'n tybied, nad oedd nêb a alleu ddywddŷd dim yn wrthwŷnebus ir atteb ymma; Ac o herwŷdd fôd Cristion a Gobeithiol o fewn clŷw, hwŷ a gyttunasant yn un frŷd, cŷn gynted ag a byddai iddŷnt eu goddiwes, i osod y cwestiwn hwn iddŷnt; Yn enwedig oblegid iddŷnt hwŷ or blaen wrthwŷnebu Meistir Neilltuol-fwriad yn y matterion ymma; Fellu hwŷ a alwa­sant ar y Pererinod, a hwŷthau a safasant yn yr un man, hŷdoni ddaeth y lleill hŷd attŷnt; Ond wrth ddyfod tuag attŷnt, hwŷ a gyttunasant mai nid Meistir Neilltuol-fwriad, ond yr hên ŵr Mei­stir Awudd y Bŷd, a gai ofŷn y cwestiwn iddŷnt, o herwŷdd eu bôd nhwŷ yn tybied a byddent dyn­nerach wrtho ef, ac nas byddent mor danbaid ac a buant ychydig or blaen, wrth ymadel a Neilltuol-fwriad.

Fellu hwŷ a ddaethant hŷd attŷnt; Ac wedi iddŷnt gyfarch gwell iw gilŷdd, Awudd y Bŷd a osododd y cwestiwn ger bron Cristion a'i gyd­ymaith, gan ddymuno arnŷnt ei atteb os gallent.

CRITSION. Yna ebŷr Cristion, fe all paban mewn crefŷdd atteb deng Mîl o'r fâth Gwestiwn­nau a'r rhain; Canŷs gan ei bôd hi yr awron fel yr oedd hi gŷnt, yn anghyfreithlon i ddilin Crist am y Torthau bara ( Joan 6.) Pa faint mwŷ ffiaidd ydŷw ei wneuthur ef a chrefŷdd i fôd megis [Page 127] March cynfas, i ennill a mwŷnhau'r Bŷd? Ac ni bn nêb ond Cenhedloedd, Rhagrithwŷr, Diawlaid, a Swŷnwŷr, o'r meddwl hwn.

Yn gyntaf, Cenhedloedd, Canŷs pan ewŷllysiai Hamor a Shechem gael Merch ac anifeiliaid Jacob, a phan welsant nad oedd môdd yn y Bŷd iw mwŷnhau hwŷnt, ond trwŷ dderbŷn yr Enwaediad; Hwŷ a ddywedasant wrth en cyf­eillion, Os enwaedir ein hôll wrwod ni fel a maent hwŷ wedi eu henwaedu, oni fŷdd eu hanifeiliaid, a'u cyfoeth, a'u hôll yscrubliaid hwŷnt yn eiddom ni? Y Ferch a'r Annifeiliaid oedd y cwbl yr oeddent hwŷ yn eu ddisgwŷl amdanŷnt, a'u Crefŷdd oedd y march-cynfas a arferasant iw mwŷnhau hwŷnt ( Genesis 34.20. &c.)

Yn Ail, Y Phariseaid rhagrithiol oeddŷnt hefŷd o'r Grefŷdd ymma, canŷs tan rîth hir weddio, eu diben hwŷ oedd i lwŷr fwŷdta tal gwragedd gweddwon, Ac am hynnŷ a bygwth­iodd Crist nhw a damnedigaeth mwŷ creulon na damnedigaeth trosseddwŷr eraill ( Luc 20.47.)

Yn drydŷdd, Yr oedd Judas y Cythrael hefŷd o'r Grefŷdd ymma; 'Roedd ef yn Grefyddol er mwŷn y gôd, Gan obeithio a gallai ef trwŷ hyn­nŷ feddiannu yr arian oedd yn y pwrs; Ond ese a gollwŷd, ac a swriwŷd ymaith, ac yr oedd ef yn wîr fâb i'r golledigaeth.

Yn bedwaredd, Seimon y Swŷnwr oedd hefŷd o'r grefŷdd ymma, Canŷs efe a fynnai gael yr Ysprŷd glân fel a gallai wneuthur elw o hono, a'i farn o eneu Peter oedd yn ôl hynnŷ (▪ Actau 8.18. &c.)

Yn bumed, Ac nis gallaf dybied llai, nas gwerth hwnnw ei Grefŷdd am y Bŷd, yr hwn a'i proffesodd hi er mwŷn y Bŷd; Canŷs cŷn siccred ac yr oedd Suddas yn amcanu ennill arian trwŷ fôd yn grefyddol, mor siccir a gwerthodd ef gre­fŷdd, [Page 128] a'i Feistir am arian; Ac o roddi atteb i'ch cwestiwn, gwŷbyddwch hŷn, pe dywedwn i gyda chwi yn y matter ymma, mai da a gellid fy ngalw i megis a gellir galw pôb un o honoch chwithieu yn Bagan, yn Rhagrithiwr, ac yn Gythrael, y rhain a bŷdd eu cyflog iddŷnt yn ôl eu gweithredoedd.

Yna hwŷ a safasant yn sŷnn, gan lygadrythu y naill ar y llall, Ac nid allent hwŷ roddi atteb yn y Bŷd i Gristion ynghŷlch y peth ymma; Gobeithi [...] hefŷd a ymfodlonodd yn yr hŷn a lefarodd Cristion wrthŷnt: Ac fellu a bu distawrwŷdd mawr yn eu plith hwŷ: Ar hŷn Meistir Neilltuol-fwraid a'i gymdeithion a safasant yn ôl, fel a gallai Cristion a Gobeithiol gael y blaen arnŷnt, am eu bôd yn chwennychu cael gwared o'u cwmpeini; Yna ebŷr Cristion wrth ei gydymaith, Oni all y gwŷr hŷn sefŷli oflaen barn dynnion, pa fôdd a safant hwŷ oflaen Duw yn y farn? Ac os ydŷnt yn fud­ion pan eu teimler gan lestri pridd, pa beth a wnant pan geryddir hwŷnt a fflamm [...] o dân ysol?

Yna Cristion a Gobeithiol a'u [...]aenasant hwŷ drachefen, nes iddŷnt ddyfod i wastadedd hyfiŷd, yr hwn a elwid Esmwŷthdra: A hwŷ a deithiasant yno mewn hodlonrhwŷdd mawr: Ac am nad oedd y gwastadedd ymma ond bychan iawn, hwŷ a ae­thant droslo yn fŷan; Yr awron yr oedd ynghwrr eithar y Gwastadedd hwn frŷn bychan a elwid Elw▪ Ac yn y brŷn hwn yr oedd Mŵn arian; I weled yr hwn gwŷrdroefeu bagad yn yr amser gŷnt, wrth fyned heibio; O herwŷdd bôd y fâth leoedd yn anaml iawn, Ond wrth fyned yn rhŷ agos at ym­mŷl y pwll: Y tîr gan ei fôd yn dwŷllodrus oddi­tanŷnt a dorrodd, a hwŷthau a ddifethwŷd, Ac eraill o honŷnt a ddaethant ymaith yn anafus, y rhai ni lwŷr iachawŷd hŷd ddŷdd eu marwolaeth.

[Page 129]Yna gwelwn yn fy Mreuddwŷd ychydig dros y ffordd, ar gyfer y Mŵn glawdd arian, Demas yn sefŷll fel gŵr Bonheddig, i alw trafaelwŷr i droi tuag yno; Ac fe a ddywedodd wrth Cristion a'i gydymaith; Ho, Trowch ymma, Ac myfi a ddangosaf i chwi rŷw beth godidawg (2 Timoth­eus 4.10.)

CRITSION. Pa beth sŷdd yn y lle yna mor odidawg, ar a allai ein hudo ni i droi oddiar y ffordd iw weled?

Demas. Dymma Fŵn arian, a rhai yn clo­ddio yntho am Drysor; Os dowch chwi ymma Chwi a ellwch ymgyfoethogi wrth gymmerŷd ychydig o boen.

Gobeithiol. Yna ebŷr Gobeithiol awn i weled y peth ymma.

CRISTION. Naga fi ddim ebŷr Cristion; Myfi a glywais sôn am y lle ymma cŷn hŷn, a pha rifedi a ddifethwŷd ymma; Ac heblaw hŷn, mae'r Trysor accw vn fagl i'r rhai sŷ'n ei geisio ef; Canŷs i ma [...] [...]f yn eu rhwŷstro nhwŷ yn eu Per­erindod; Yna Cristion a alwodd ar Demas, gan ddywedŷd wrtho, onid ŷw'r lle yna yn beryglus.

Demas. Nagydŷw yn beryglus iawn, oddigerth i rhai sŷ'n ddiofal; Ac wrth ddywedŷd hynnŷ efe a wridodd.

CRISTION. Yna ebŷr Cristion wrth Obeithiol, gadewch i ni gadw'n ffordd, ac nac yscown droedfedd oddiarni.

Gobeithiol. Yn ddiammeu, pan ddelo Neilltuol­fwriad heibio, os gwahoddir ef fel a gwahodd­wŷd nyni, fe a drŷ accw.

CRISTION. Diammeu ŷw hynnŷ, Canŷs i mae opiniwnau Neilltuol fwriad yn ei dwŷso ef at y cyfrŷw deganau; A chan punt i geiniog a difethir ef.

[Page 130] Demas. Yna Demas a alwodd arnŷnt drachefn gan ddywedŷd oni ddowchi drosodd, a gweled yr hŷn sŷdd ymma?

CRISTION. Yna Cristion a'i hattebodd ef yn dra sarrug, gan ddywedŷd, Demas yr wŷt ti yn Elŷn i uniawn ffŷrdd yr Arglwŷdd, wedi'th euog­farnu eusus gan un o Farnwŷr ei Fawrhydi ef; A pha ham yr wŷt ti yn ceisio n denu ninneu i'r un ddamnedigaeth▪ Ac heblaw hynnŷ os trown ni fymiŷn oddiar y ffordd, fe glŷw ein Brenin ni hynnŷ; Ac yna a cawn ni ddioddef cywilŷdd, lle a gallasem sefŷll yn ei wŷdd ef yn hyderus.

Yna Demas a waeddodd drachefn arnŷnt, ac a ddywedodd mai un o'u brawdoliaeth hwŷ oedd yntef, ac os arhosent ychydig a dae ef gyda hwŷnt.

CRISTION. Yna ebŷr Cristion ond Dema [...] ŷw dy Enw di?

Demas. Ie Demas ŷw fy enw, ac yr wŷf yn fab i Abraham.

CRISTION. Mi a'th adwaen di Gehaz [...] oedd dy hên-daid, a Suddas oedd dy dâd▪ A thi a rod­iaist yn eu llwŷbrau hwŷnt (2 Brenhinoedd 5.20.) Gwaith y Cythrael yr wŷt ti yn ei wneuthur, trwŷ geisio hudo pobi oddiar ffordd yr Arglwŷdd; Fe grogwŷd dy Dâd di am deŷrn-sradwriaeth; Ac nid wŷt titheu yn haeddu gwell; Bydded hysbŷs i ti mai pan ddelom at y Brenin, a gwnawn ef yn gydnabyddus o'th ymddygiad ti tuagattom▪ Ac ar ôl hynnŷ hwŷ a aethant i ffordd.

Erbŷn hŷn, Neilltuol fwriad a'i Gymdeithion; oeddŷnt wedi dyfod drachefn mewn golwg, Ac ar yr amnaid gynaf hwŷ a aethant trosodd at Demas: Yrawron pa un a wnaethant wrth edrŷch dros ymŷl y pwll ai syrthio iddo, ai myned i lawr i gloddio'r Mŵn arian, neu gael o honŷnt eu taf [...] [Page 131] gan y tarth sy'n arferol o godi or mannau hynnŷ nis gwnn i; Ond hŷn a ddeliais sulw arno, sef na welsom ni monŷnt mwŷ ar y ffordd.

Yna daeth y Pererinod i rŷw fann, lle'r oedd hên Golofn fawr yn sefŷll ar fin y brif-ffordd; A hwŷ a ryfeddasant yn fawr wrth weled ei dull a'i môdd hi; Canŷs yr oedd hi'n ymddangos megis gwraig wedi ei throi yn biler▪ A hwŷ a safasant yno dros dro, gan edrŷch yn fynŷch arni: Ond nis gwŷddent dros enn [...]d pa beth a dybient o honi; Ond o r diwedd Gobeithiol a ganfu beth yn scrif­ennedig ar ei phen hi, mewn llaw anarferol; Ond o herwŷdd ei fôd ef yn ŵr anllythrennog, fe a alwodd ar Gristion atto (canŷs yr oedd ef yn ŵr dyscedig) i edrŷch a fedr [...] ef ddeall yr yscrifen: Ac wedi ei Gristion gysyll [...]u y llythyrennau ynghŷd, fe a ddeallodd mai hŷn oedd y geiriau; Cofiwch wraig Lot; Ac efe a'n darllennodd hwŷnt iw gyd­ymaith; Yna a gwŷbuant mai honno y doedd y golofn o halen ir hon a troed Gwraig Lot am ed­rŷch yn ôl a chalon chwantus am y pethau a adawsai hi o'i hol yn Sodom, pan oedd hi'n diangc allan o honi am ei bywŷd ( Genesis 19.26.) A'r Golofn ymma a wnaeth iddŷnt hwŷ ymddiddan fel hŷn.

CRISTION. Ah! fy mrawd, dymma olwg a welsom mewn amser, ychysig ar ôl i Demas ein gwahodd ni i ddyfod i weled y brŷn lle yr oedd y Mŵn arian yntho; A pha basem ni yn myned yno, fel yr oedd efe yn dymuno a thithen fy mrawd yn ewŷllysio, fe a'n gwnaethid ninneu fel a gwnaed hitheu am ddim ag a wnn i, yn ddrŷch ir rhai a ddelant ar ein hôl i edrŷch arnom.

Gobeithiol. Mae'n edifar gennif fy môd i mor ynfŷd; Ac 'rwi'n rhyfeddu nad ydwŷf yr awron fel gwraig Lot; Canŷs pa ragoriaeth sŷdd [Page 132] rhwng ei phechod hi a'm pechod inneu? Yn unig hi a edrychodd o'i hôl, a minneu a ewŷllysiais fyned i weled; Diolch sŷ'n ddyledus i Dduw am fy nghadw i rhag myned i Frŷn yr Arian; A chy­wilŷdd i minneu am fôd y fâth ewŷllŷs erioed yn fy nghalon i fyned yno.

CRISTION. Cymmerwn hŷn yn rhybŷdd rhagllaw; Y wraig hon a ddiangodd rhag un farnedigaeth; Canŷs ni ddinistrwŷd moni wrth ddinistr Sodom; Etto difethwŷd hi trwŷ farnedi­gaeth arall, megis ag a gwelwn hi ymma heddiw wedi ei throi yn golofn o haien.

Gobeithiol. Gwîr ŷw hi a all fôd yn rhybŷdd, ac yn siampl i ni rhagllaw; Yn rhybŷdd i ni i ochelŷd ei phechod, neu yn arwŷdd or farnedi­gaeth a ddigwŷdd i'r sawl na chymerant rybŷdd oddiwrthi; Fellu Corah, Dathan, ac Abiram, a'r Dengwŷr a deugain a dau cant, a ddifethwŷd yn eu pechod ( Numeri 16.) A wnaed yn rhybŷdd neu'n esampl i ni i ochelŷd eu drŵg weithredoedd hwŷnt; Ond 'rwi'n rhyfeddu'n fawr am un peth tuwnt i ddim arall, sef pa fôdd a gall Demas a'i Gymdeithion sefŷll accw mor hyderus, I chwilio am y trysor hwnnw, am ba un a cafodd y wraig ymma (yr hon ni wnaeth ond edrŷch yn ôl gan ei serchu ef) ei throi yn Golofn o halen (canŷs nid ŷm ni'n darllen iddi fyned droedfedd oddiar y ffordd) yn enwedig gan ir farnedigaeth a'i goddiweddodd ei gwneuthur hi yn esampl, gyf­erbŷn a'r mann lle maent hwŷ yn bŷw yntho; Canŷs ni allant lai nai chanfod hi os derchafant eu golygon i fynu.

CRISTION. Gwîr ŷw ei fôd e'n beth rhy­feddol, ac i mae'n dangos fôd eu calonnau hwŷ wedi eu caledu yn ddrŵg yn y cyflwr hwnnw, Ac nis gwni i bwŷ a gellir eu cyffelybu nhw [Page 133] yn well nag ir rhai a fo'n pigo poccedau ger bron y Barnwr, neu i rai a dorrant byrsau dan y crog-pren; Fe ddywedir am b [...]bl Sodom mai pechaduriaid mawr oeddŷnt, Am eu bôd yn bechaduriaid ger bron yr Arglwŷdd ( Ge [...]esis 13.10, 13.) Hynnŷ ŷw yn ei wŷdd ef, [...]r cymaint o garedigrwŷdd a ddangosodd ef tuag attŷnt; Canŷs yr oedd tir Sodom y prŷd hwnnw megis Gardd Eden gŷnt; Yr hŷn a wnaeth i Dduw fod yn fwŷ eiddigus, a'u Cospedigaethau hwŷthau cŷn boe­thed ag a galleu Tân yr Arglwŷdd o'r Nefoedd [...] gwneuthur hwŷnt: I mae'n sefyll gan hynnŷ gyda rheswm, a bŷdd i'r fâth bobl a hŷn fôd yn gyfran­nogion o'r barnedigaethau tostaf; Sef y fâth bobl ar sŷdd yn pechu yn ei wŷdd ef; A hynnŷ hefŷd mewn dirmŷg i'r fâth esamplau, y rhai sŷdd wedi eu gosod yn wastadol ger bron eu llygaid iw hattal hwŷ rhag pechu yn-erbŷn Duw.

Gobeithiol. Yn ddiammeu di a ddywedaist y gwîr; Ond pa drugaredd fawr ydŷw hŷn, nad wŷt ti, ac yn enwedig myfi, wedi fy ngwneuthur yn Esampl yn y môdd ymma? I mae'r matter hwn yn rhoddi i ni achos i fôd yn ddiolchgar ir Arglwŷdd, ac i arswŷdo gar ei fron ef, gan gofio gwraig Lot yn wastadol.

Wedi hynnŷ, mi a'u gwelais hwŷnt yn myned ymlaen hŷdoni ddaethant at Afon hyfrŷd, yr hon a alweu y Brenin Dafŷdd Afon Duw ( Psalm 65.9. Datcuddiad 22.1. Ezeciel 47.) Ond Joan, ai geilw hi Afon dŵfr y bywŷd; Yr awron yr oedd eu ffordd hwŷ yn myned yn union rhŷd glan yr afon ymma, gan hynnŷ yr ymdeithiodd Cristion a'i gydymaith yn ddifŷr iawn; A hwŷ a yfasant hefŷd o Ddŵr yr afon, Yr hwn oedd ddymunol, am iddo adfŷwio eu heneidiau deffygiol hwŷnt▪ Ac heblaw hynnŷ, yr oedd rhŷd glan yr afon ymma [Page 134] o bôb tu Goed iraidd, yn dwŷn pôb mâth o ffrwŷ­thŷdd; A hwŷ a fwŷdtasant o ddail y coed, i lestŷr glothineb a chlefydau eraill, y rhai sŷ ar­ferol o ddigwŷdd i drafaelwŷr yn ôl gwresogi eu gwaed wrth drafaelio; Yr oedd hefŷd o ddeutu glan yr afon weirglodd yn llawn o Lili; Ac yr oedd hi'n lâs twŷ'r hôll ffwŷddŷn; Yn y weir­glodd ymma a gorweddasant, ac a cyscasant; Canŷs hwŷ a allent gyscu ymma mewn diosaiwch ( Psalm 4.8.) A phan ddeffroesant, hwŷ a fwŷdtasant drachefen o ffrwŷthau'r coed, ac a yfasant eilwaith o ddŵr yr afon; Ac wedi hynnŷ hwŷ a orwe­dd-sant i lawr i gyscu drachefn; Fel hŷn a gwnae­thant dros amrŷw ddyddiau a nosweithiau, Yna hwŷ a ganasant y gân hon.

Gwelwch fel a rhêd yn rhwŷdd,
Y ffrydau hylwŷdd heini,
I gysuro ar eu taith,
Bôb glân gydymaith difii.
Y gweirgloddiau Têg eu gwêdd,
A'r rhogleu hafedd hefŷd.
I bôb Pererin sŷdd yn rhâd,
Wrth fynd i wlâd y bywŷd.
A wŷddo fawr werth y rhain ôll,
A'u ffrwŷthau didoll, dywedaf
A gwerth ei hôll ddaiarol fraint,
I brynnu'r ennaint ymmaf.

A chwedi myned ychydig ymlaen (canŷs nid oeddŷnt wedi dyfod etto i ben eu siwrneu) hwŷ a ganffŷant fôd yr Afon yn ymadel a'r ffordd dros ennŷd; Yr hŷn a su drwm dros ben ganthŷnt; Ond etto ni feiddient fyned oddiar y ffordd: [Page 135] Yr awron yr oedd y ffordd (yr hon oedd yn myned oddiwrth yr afon) yn arw ac yn garregog; Ac yr oedd eu Traed hwŷ'n ddolurus o herwŷdd eu teithiau; A blin oedd ar y Pererinod o herwŷdd y ffordd ( mumeri 21.4.) Ac am hynnŷ, yr oeddent yn wastadol wrth fyned ymlaen, yn dymuno cael gwell ffordd; Yrawron ychydig o'u blaen hwŷ, yr oedd ar y llaw asswŷ i'r ffordd weirglodd, a chamfa i fyned trosodd iddi; A'r weirglodd honno a elwir Gweirglodd y Traws Lwŷbr: Yna ebŷr Cristion wrth ei gydymaith, os ydŷw y weirglodd hon yn gorwedd o hŷd ar yst [...]s y ffordd, gadewch i ni droi iddi; Yna efe a aeth i ben y gamfa i edrŷch; Ac fe a welai lwŷbŷr yn myned o hŷd o'r tu fewn i'r weirglodd gydag ymŷl y ffordd; I mae hŷn yn ôl fy wŷllŷs i ebŷr Cristion; Gobeithiol fy ffrŷnd anwŷl tyred tr [...]sodd ymma, Canŷs dym­ma'r ffordd esmwŷtha

Gobeithiol Ond pa beth os tywŷs y llwŷbŷr ymma ni dros y ffordd?

CRISTION. Nid ŷw hynnŷ yn debygol obŷr Cristion; Gwêl fel a mae'n myned o hŷd gydag ymŷl y ffordd; Fellu Gebeithiol wedi ei bers­waedio gan Gristion, a aeth ar ei ôl ef dros y gamfa; Ac wedi iddŷnt fyned trosodd a dyfod ir Llwŷbŷr, hwŷ a'u cawsant yn esmwŷth iawn iw traed; Ac wrth edrŷch o'u blaen, hwŷ a ganffuant ŵr yn teithio yno megis nhwŷthau (a i enw ef oedd Gwâg-Hyder) fellu hwŷ a alwasant arno, ac a ofŷnnasant iddo I ba le yr oedd y ffordd honno'n myned? Yntefa ddywedodd tua'r Porth Nefol; Gwelwch ebŷr Cristion, oni ddy­wedais i fellu wrthŷch? Wrth hŷn a gellwch weled ein bôd ni ar yr uniawn ffordd; Fellu hwŷ a'i canlŷnasant ef; Ond hi a hwŷrhaodd arnŷnt yn y mann, ac a aeth yn dywŷll iawn, hŷdoni [Page 134] [...] [Page 135] [...] [Page 136] chollasant eu golwg ar y Gŵr yr hwn oedd o'u blaen hwŷnt.

Gwâg-Hyder gan hynnŷ (eisieu gweled y ffordd o'i flaen) a syrthiodd ar ei ben i bwll dwfn ( Esaŷ 9.16.) Yr hwn a gloddwŷd yno o hwrpas, gan Arglwŷdd y tiroedd hynnŷ, i ddal ynfydion gwâg­ymffrostus yntho; A thrwŷ ei gwŷmp efe a fri­wŷd yno yn chwilfriw.

Yr awron Cristion a'i gydymaith a'i clywsant ef yn syrthio, a hwŷ a alwasant arno, i wŷbod beth oedd y matter; Ond nid attebodd ef ddim iddŷnt; Ond hwŷ a'i clywsant ef yn grudd­fan yn y pwll; Yna ebŷr Gobeithiol Ymha le yr ydŷm ni yr awron? A chyda hynnŷ yr aeth Cristion yn fud, gan ofni iddo ddwŷn ei Gydy­maith oddiar y ffordd; Ac yr awron yr oedd glaw, a tharanau, a mellt, a llif mawr yn yr afon, yn eu brawychu hwŷnt.

Yna a gruddfannodd Gobeithiol yntho ei hun, gan ddywedŷd, oh na baswn i yn cadw fy ffordd.

CRISTION. Pwŷ a alleu dybied a basai y Liwŷbŷr ymma yn ein dwŷn ni allan o'r ffordd?

Gobeithiol. Yr oeddwn ni yn ofni hŷn ar y eyntaf; Ac oblegid hynnŷ a rhybuddiais i chwi vn garladus, myfi a ddywedaswn fy meddwl yn eg­lurach wrthuch, oni bae'ch bôd yn hynach na mi.

CRISTION. Fy mrawd anwŷl na ddigia wrthif; I mae'n ddrŵg gennif i mi dy ddwŷn di allan o'r ffordd, ac ir fâth beryglon mawr: maddeu i mi, canŷs nid o ddrŵg swriad a gwneu­thŷm i hŷn.

Gobeithiol. Bŷdd gysurus fy mrawd, canŷs rwi'n maeddeu i ti; Ac yr wŷfi'n credu hefŷd, a bŷdd hŷn er daioni i ni.

CRISTION. I mae'n ddâ gennif fôd gyda mi Frawd trugarog; Ond ni ddylem ni [Page 137] sefŷll fel hŷn; Edrychwn a allwn ni fyned yn ein hôl.

Gobeithiol. Ond fy mrawd anwŷl gadewch i mi fynned o'ch blaen.

CRISTION. Nage, os rhynga bôdd i chwi Gadewch i mi fyned ymlaenaf, Fel (os bŷdd dim perŷgl) a gailwŷfi fôd yntho ef yn gyntaf; Canŷs trwŷ fy nghamgymeriad i yr aethom ni'n dau allan o'r ffordd.

Gobeithiol. Nage ebŷr Gobeithiol, ni chewch chwi fyned ymlaenaf, Canŷs fe ddichon trwbl eich meddwl eich tynnu chwi dros y ffordd dra­chefn; Yna er mawr gysur iddŷnt, hwŷ a glyw­sant leferŷdd un yn dywedŷd wrthŷnt, gosod dy galon tua'r brîf-ffordd; Y ffordd yr aethoft dy­chwel ( Jeremi 31.21.) Erbŷn hŷn yr oedd y dyfroedd wedi codi yn uchel; Ac o herwŷdd hynnŷ yr oedd y ffordd i fyned yn ôl yn berŷgl iawn (yna mi a feddyliais mai hawsach ydŷw myned allan o'r ffordd pan fyddom arni, na dyfod iddi pan fo'm ni allan o honi) etto hwŷ a feiddi­asant fyned yn ôl; Ond yr oedd bi cŷn dywŷlled, a'r llîf cŷn uchêd, fel a buant agos a boddi ddêng-waith wrth ddychwelŷd.

Methasant y noson honno (er cymaint eu hym­gais) ddyfod yn ôl at y gamfa; Ond o'r diwedd wedi cael ychydig o gysgod, hwŷ a eisteddasant i lawr hŷdoni wawriodd y dŷdd; Ond gan eu bôd yn ddeffygiol hwŷ a gyscasant yno; Yr awron yr oedd o fewn ychydig i'r mann lle roeddent yn gorwedd, Gastell a elwid Castell Amheus; A'r Gawr Anobaith oedd ei Berchennog, Ac ar ei dîr ef yr oeddent hwŷ yr awron yn cyscu; Yr hwn­wrth rodio yn ôl ei arfer ar y boreu-ddŷdd rhŷd ei gaeau, a gafodd Gristion a Gobeithiol yn cyscu ar ei Dîr ef; Yna a lleferŷdd garw a Sarrug, efe [Page 138] a archodd iddŷnt ddeffroi; A gofynnodd hefŷd iddŷnt gwŷr o ba wlâd oėddent? A pha beth yr oeddent yn ei wneuthur ar ei Dîr ef? Hwŷthau a fynegasant iddo mai Pererinod oeddŷnt, ac iddŷnt golli eu ffordd; Yna ebŷr y Cawr wrthŷnt, Fe ddarfu i chwi Neithiwr drespasu arnafi trwŷ sathru fy nhîr i a gorwedd arno; Ac am hynnŷ mae'n rhaid i chwi ddyfod gyda myfi; Fellu fe orfu ar­nŷnt fyned gydag ef, o herwŷdd ei fôd ef yn drech na hwŷnt; Ac hefŷd nid oedd ganthŷnt nemmawr iw ddywedŷd yn ei erbŷn ef; Canŷs yr oeddŷnt yn gwŷdod eu bôd ar fai: Y Cawr gan hynnŷ a'u gyrrodd hwŷ o'i flaen, ac a'u gosododd yn ei Gastell ( Psalm 107.16, 17.) Mewn Daiar-dŷ Tywŷll iawn, yr hwn oedd ffiaidd a drewllŷd i'r ddau Bererin; Yno a buont yn gorwedd o'r borau ddŷdd Mercher hŷd nôs Sadwrn, heb gymaint a thammeid o fara, na defaŷn o ddŵr, nac un mâth o oleuni, na dŷn na dynes i ofŷn pa fôdd yr oeddŷnt; Ymma gan hynnŷ yr oeddent yn ddrŵg eu cyflwr, ymhell oddiwrth eu carennŷdd, a'u cyfathrach, a phôb math o gydnabyddiaeth; Ymma hefŷd a cafodd Cristion dristwch dau ddyblig; Un am eu bôd nhw yn Garcharorion, a'r llall oblegid mai trwŷ ei gyngor angall ef a dygasid hwŷnt i'r dyr­ysni hwn.

Yr awron yr oedd gan y Cawr Anobaith wraig, a'i henw hi oedd Anhyder; Ac wedi iddo fyned iw welŷ efe a fynegodd iddi hi yr hŷn ôll a wnaethai, sef iddo ddal dau Garcharwr, a'u taflu nhw iw Ddaiar-dŷ am iddŷnt drespasu ar ei dîr ef; Ac efe a ofynnodd hefŷd iddi pa beth oedd oreu iddo wneuthur iddŷnt ymhellach; Hitheu a ofyn­nodd pwŷ oeddent, o ba le yr oeddent yn dyfod, ac i ba le yr oeddŷnt yn myned? Ac yntef a fyne­godd iddi; Yna hi a'i cynghorodd ef, pan gyfoden [Page 139] fe'r boreu eu curo nhwŷ yn anrhugarog: Fellu pan gyfododd ef y boreu drannoeth, fe a gym­merodd gwlbren mawr cnycciog o ddraenen ddu, ac a aeth i wared attŷnt i'r daiar dŷ; Ac yno yn gyntaf efe a ddechreuodd eu llasenwi nhw, megis pedfasent Gŵn (er na roddasent hwŷ erioed iddo ef air anweddus) ac wedi hynnŷ efe a ruthrodd arnŷnt, ac a'u curodd yn y fâth fôdd, fei nas gallent na chŷnnorthwŷo y naill y llall, nac ymdroi ar y llawr; Wedi iddo wneuthur fellu efe a aeth ymaith, ac a'u gadawodd hwŷnt yno i gŷd gwŷno eu gofud, ac i alaru dan eu cystŷdd; Fellu hwŷ a dreuliasant yr hôll ddiwrnod hwnnw mewn ocheneidiau a galarnadau chwerw; Yr ail nôs Anhyder a ymddiddanodd a'i Gŵr yn eu cŷlch drachefn; A chan ddeall eu bôd nhw yn fŷw etto, hi a'i hannogodd ef iw cynghori hwŷnt i wneu­thur diwedd o honŷnt eu hunain: Fellu pan ddaeth y boreu, efe a aeth attŷnt mewn môdd sarrug megis o'r blaen; A chan wŷbod eu bôd nhw yn glwŷfus iawn, gan y cleisiau a roddalel ef iddŷnt o'r blaen, efe a ddywedodd wrthŷnt fel hŷn; Gan nad oes tebŷgoliaeth a dowch chwi bŷth allan o'r lle ymma, goreu peth a wnewch chwi ŷw gwneuthur diwedd o honoch eich hunain yn fŷan; Naill a'i a chyllill, Cebystrau, neu a Gwen­wŷn; Canŷs pa ham ebŷr ef yr ydŷch chwi yn dewis bywŷd, gan weled fod cymaint o flinderau ynglŷn wrtho? Ond hwŷ a attolygasant arno ef eu gollwng hwŷnt ymaith; A chyda hynnŷ fe a edrychodd arnŷnt a golwg erchill; A chan ruthro arnŷnt, diammeu a basai ef ei hun yn gwneuthur diwedd o honŷnt y prŷd hwnnw, oni bae iddo syrthio mewn llewŷg (canŷs yr oedd efe weithieu ar dywŷdd tesog yn cael ymbell lesmair a cholli grŷm ei law dros amser) Am hynnŷ efe a aeth [Page 140] ymaith, ac a'u gadawodd hwŷnt (megis or blaen) i ystyried pa beth a wnaent; Yna'r Carcharo­rion a ymgynghorasant rhyngthŷnt eu hunain, pa un oreu oedd cymmerŷd cyngor y Cawr a'i peidio, ac fel hŷn a dechreuasant ymddiddan.

CRISTION. Fy mrawd ebŷr Cristion pa beth a wnawn; I mae'r bywŷd yr ydŷm ni yn bŷw ymma yn ofudus iawn, O'm rhan i nid wŷf yn gwŷbod pa un oreu ŷw bŷw fel hŷn, ai gwneuthur diwedd o honom ein hunain yn fŷan; I mae fy enaid yn dewis ymdagu yn fwŷ na hoedl ( Job 7.15.) Ac i mae'r bêdd yn esmwŷthach mi na'r daiardŷ Tomlŷd hwn; A wnawn ni gyngor y Cawr, ai nis gwnawn?

Gobeithiol. Mewn gwirionedd i mae'n cyflwr presennol yn ofnadwŷ; A gwell o lawer a fyddei gannif farw na bŷw fel hŷn dros fŷth; Ond er hynnŷ ystyriwn i Arglwŷdd y wlâd (tua'r hon yr ydŷm ni'n teithio) ddywedŷd Na lâdd, ie na lâdd un arall ( Exodus 20.13.) Mwŷ o lawer gan hynnŷ i mae fe'n gorafun i ni dderbŷn cyngor y Cawr, sef i'n llâdd ein hunain; Heblaw hŷn ni all yr hwn sŷ'n llâdd un arall ond llâdd ei Gorph ef; Ond i mae'r hwn a'i llâddo ei hun yn llâdd ei enaid a'i gorph ar unwaith; Ac ymhellach fy mrawd, yr wŷti'n sôn am esmwŷthdra yn y Bêdd; Ond a anghofiaisti'r uffern lle a gorfŷdd ar y llei­ddiaid yn ddiammeu aros ynthi tros fŷth? Canŷs ni chaiff un lleiddiad etifeddu bŷwŷd tragywŷddol ( Datcuddiad 21.8. 1 Joan 3.15.) Ystyriwn he­fŷd nad ŷw'r hôll Gyfraith ynghŷlch bywŷd a rhydd-did pobl, yn sefŷll yn llaw'r Cawr Anobaith; Fe ddalwŷd eraill (cŷn helled ac yr wŷfi'n deall) yn ei rwŷdau ef yn gystal a ninneu, ac etto hwŷ a ddiangasant o'u ddwŷlo ef; Pwŷ a wŷr na symmŷd Duw y Cawr hwn (trwŷ farwolaeth) [Page 141] allan o'r Bŷd ymma? Neu nad all efe rŷw brŷd neu gilŷdd anghofio cloi y drŵs arnom; Neu nas geill ef ar fyrder syrthio eilwaith mewn llewŷg ger ein bronnau, a cholli grŷm ei aelodau: Ac os digwŷdd y fâth beth iddo drachefn, O'm rhan i mae yn fy mrŷd gymerŷd calon a bod yn wrol, i ymegnio a'r eithaf o'm gallu i ddiangc oddi tan ei law ef; Mi a fum yn ffol iawn nas gwneuthum hynnŷ eusus: Er hynnŷ fy mrawd byddwn am­myneddgar, a dioddefwn ychydig; Fe alleu a cawn ni ddedwŷddol ymwared oddiwrtho mewn amser; On [...] na lâddwn monom ein hunain mewn môdd yn y Bŷd; Ac a'r geiriau hŷn a llonyddodd Gobeithiol drom galon ei frawd Cristion; Ac fellu hwŷ a arosasant ynghŷd yn y carchar tywŷll y diwrnod hwnnw, yn eu cyflwr athrist a galarus.

A phan hwŷrhaodd hi, fe aeth y Cawr i wared ir Daiardŷ drachefn, i edrŷch oedd ei Garcharorion wedi gwneuthur yn ôl ei gyngor ef; Ond wedi iddo ddyfod yno, fe a'u cafodd hwŷnt yn fŷw, Ac yn siccir dyna'r cwbl; Canŷs yr awron o eisieu ymborth, ac o achos y doluriau a gowsent pan gurodd ef hwŷnt, braidd yr oedd anadl yn eu gen­euau; Ond fe a'u cafodd (megis a dywedais) yn fŷw; Ac ar hynnŷ fe a aeth yn gynddeiriog, ac a ddywedodd wrthŷnt; Mae yn gymmaint ag nad ufuddhasant iw gyngor ef, a cai eu cyflwr hwŷ fôd yn waeth na pha basent erioed heb eu geni.

Ar hŷn, hwŷ a ddychrŷnasant yn fawr; Ac yr wŷf yn tybied i Gristion syrthio mewn llewŷg; Ond pan ddadebrodd ef ychydig, hwŷ a adnewŷdd­asant eu hymddiddanion ynghŷlch cyngor y Cawr; Ac a ddechreuasant ystyried pa un oedd oreu idd­ŷnt a'i dilŷn ei gyngor ef ai peidio; Yr oedd Cristion drachefn am wneuthur yn ôl ei gyngor ef, ond Gobeithiol eilwaith a'i gwrthwŷnebodd fel hŷn.

[Page 142] Gobeithiol. Fy mrawd ebŷr ef, onid wŷti'n cofio mor ddewr-wŷch a buosti gŷnt? Methodd ar Apol-lyon dy orchfygu di; Methodd hefŷd ar yr hôll bethau a welaist, a glywaist, ac a deimlaisti yn Nyffrŷn cyscod Angeu dy orchfygu di; Pa gledi, dychrŷn, a syndod yr aethosti eusus trwŷ­ddŷnt; Ac a wŷti yrawron mor ofnus? Di a well fy môd i yn y Carchar gyda thi, Yr hwn ydwŷf (wrth nattur) yn wanach Gŵr o lawer na thi; Fe a'm briwŷd gan y Cawr ymma yn gystal a thithau; Fe a'm cadwŷd hefŷd oddiwrth bôb ymborth a lluniaeth yn y Bŷd, ac yr ydwŷf yn galaru ymma yn y tywŷllwch gyda thi; Ar tolwg gâd i ni fôd yn ammyneddgar tros ennŷd bach etto; Cofia fel a chwareusti'r Gŵr yn ffair Gwagedd, ac nad oeddŷt yn ofni na'r Tidau, na'r Carchar, nac un mâth o farwolaeth waedlŷd ychwaith: Gâd i ni gan hynnŷ rhag cywilŷdd (yr hwn nid ŷw gymhesur clywed fôd Cristion yn gorwedd tano) ddioddef trwŷ ammynedd hŷd yr eithaf o'n gallu.

Yrawron wedi'r nôs ddyfod, drachefn, a mŷned o'r Cawr a'i wraig iw gwelŷ, hi a ofyn­nodd iddo beth a ddaethai o'r Carcharorion? Ac a wnaethent hwŷ yn ôl ei gyngor ef ai peidio? Yntef a'i hattebodd hi, mai dihirwŷr pengaled oeddŷnt; A gwell oedd ganthŷnt ddioddef pôb mâth o gledi, na'u difetha eu hunain; Yna ebŷr hi, cymmer hwŷnt y foru i gyntedd y Castell, a dangos iddŷnt Escŷrn a phenglogau y rhai a ddife­thaslti eusus; A gwna iddŷnt goelio a bŷdd i ti cŷn pen yr wŷthnos eu rhwŷgo nhwŷthau yn ddar­nau, fel a rhwŷgaist eu cyfeillion o'u blaen hwŷnt.

Fellu pan ddaeth y boreu, y Cawr a aeth attŷnt drachefn, ac a'u cymmerth i gyntedd y Castell; Ac a ddangosodd iddŷnt yr Escŷrn a'r pengiogau, megis a gorchymŷnnasai ei wraig iddo: [Page 143] Yr oedd y rhain ebŷr ef yn Bererinod unwaith fel chwithau; Ac fe ddarfu iddŷnt drespasu ar fy nhîr i megis a gwnaethoch chwithau; A phan welais i fôd yn ddâ, mi a'i dryiliais hwŷ yn chwil­friw; A chŷn pen deng niwrnod, mi a'ch drylliaf chwithau yn yr un môdd: Ewch i wared i'ch lloches drachefn, a chyda hynnŷ fe a'u curodd hwŷ o hŷd, nes iddŷnt ddyfod iw gwâl: Ac yno buant yn gorwedd yr hôll ddŷdd Sadwrn mewn cyflwr gofudus, megis a buant o'r blaen; Yrawron gwedi iddi nosi, a myned o meistres Anhyder a'r Cawr ei Gŵr iw gwelŷ, hwŷ a ddechreuasant ym­ddiddan drachefn a'i gilŷdd, ynghŷlch y Carchar­orion; A rhyfeddu yn fawr a wnaeth yr hên Gawr ei fôd ef yn methu, yn gystal trwŷ ei ddyrnodiau a thrwŷ ei gynghorion eu dwŷn hwŷ i ddiwedd drŵg: Ac ar hynnŷ ei wraig a ddywedodd wrtho; Rwi'n ofni ebŷr hi eu bôd nhwŷ'n gobeithio a daw rhŷw rai iw gwaredu hwŷnt; neu mae gan­thŷnt rŷw offerŷn i agorŷd y clo▪ ag ef, trwŷ ba foddion y maent yn gobeithio diangc; A wŷti'n dywedŷd fellu fy Anwŷlŷd ebŷr y Cawr? Myfi a ddyfal c hwillaf eu poccedau a'u dillad hwŷnt y boreu foru, i edrŷch oes ganthŷnt y fâth bethau.

Ac wele nôs Sadwrn ynghŷlch hanner nôs, hwŷ a ddechreuasant weddio; Ac a barhaesant mewn gweddi agos hŷd y wawr ddŷdd.

Yrawron ychydig cŷn ei bôd hi'n ddŷdd, Cristion fel un wedi hanner amhwŷllo, a wae­ddodd ac a ddywedodd fel hŷn; Pa fâth gydafel (ebŷr ef) ydwŷfi, i orwedd yn y môdd ymma mewn Daiardŷ drewllŷd, pan allwŷf rodio mewn rhydd-did? I mae gennif agoriad yn fy mynwes, a elwir Addewid, yr hwn a mae'n ddlammeu gennif, a ddatcloia bôb clo ynghastell Amheus; Yna ebŷr Gobeithiol dymma newŷdd dâ fy mrawd anwŷl. [Page 144] Tŷnn ef allan o'th fynwes, a threiwn ef; Yna Cristion a'i cymmerodd ef allan o'i fynwes, ac a ddechreuodd ar ddrŵs y Daiardŷ; A chynted ac a troes yr agoriad yn y clo, f'aeth y bollt yn ôl; A'r drŵs a agorodd yn fŷan; A Christion a Gobeithiol a ddaethant allan ill dau; Yna daethant at y drŵs nesaf▪i gyntedd y Castell, yr hwn hefŷd a agorodd Cristion a'i egoriad yn ddiattreg; Wedi hynnŷ efe a ddaeth at y porth haiarn, canŷs yr oedd yn rhaid agor hwnnw hefŷd; Ond peth anodd iawn oedd agorŷd clo y porth hwnnw; Etto fe a'i hagorwŷd ef ar ygoriad hwnnw: A chwedi hynnŷ hwŷ a wthiafant y porth i egorŷd ddiftawaf ag a medrent, fel a gallent ddiangc ar ffrwst; Ond y porth wrth ei agor a wnaeth y fâth drŵst, fel a deffrodd y Cawr: Yna fe a geisiodd gyfodi'n ddisymmwth i ddal y Carcharorion; Ond ei Aelodau a ballasant, Canŷs ei lesmeiriadau a'i cymmerasant ef drachefn, fel na alleu mewn môdd yn y Bŷd fyned ar eu hôl hwŷnt; Yna hwŷ a aethant ymaith, ac a ddaethant i brif-ffordd y Brenin: Erbŷn hynnŷ yr oeddent mewn diofalwch, gan eu bôd wedi dyfod allan o feddiannau'r Cawr.

Yrawron wedi iddŷnt fyned dros y gamfa yn en hol, hwŷ a ddechreuasant ddyfeisio ynddŷnt eu hun­ain, pa beth a osodent ar y gamfa i rwŷstro'r sawl a ddolent ar eu hôl i ddyfod dan ddwŷlo'r Cawr An­gbaith: A hwŷ a gyttunasant i gyfodi yno Golofn, ac i yscrifennu ar ei hystlus hi yr yscrifen ymma: Dyma'r gamfa sy'n tywyso i Castell Amheus, lle a mae'r Cawr-Anobaith yn tario, yr hwn sŷ'n dirmygu Brenin y wlâd Nefol, ac yn ceisio hefŷd ddifetha y Sanctaidd Bererinod (Llawer gan hynnŷ o'n rhai a'u canlŷnasant hwŷ; a ddarllennasant yr yscrifen, ac a ddiangasant rhag y perŷgl ymma) Ac ar-ôl gwneuthur hynnŷ Cristion a Gobeithiol a ganasant'fel hŷn.

[Page 145]Trwŷ droi o'n ffordd, nyni 'brofasom,
Beth ŷw rhodio'n anghyfreithion:
Gocheled y rhai a'n canlynant,
Osgoi, a phrofi'r un aflwŷddiant.

Gwedi hynnŷ hwŷ a aethant ymlaen, hŷdoni ddaethant i'r mynyddoedd hyfrŷd, y rhai a ber­thynent i Arglwŷdd y Brŷn, am yr hwn a soniais i o'r blaen: fellu hwŷ a aethant i fynu ir mynydd­oedd, i weled y Gerddi, a'r Perllannau, a'r Gwin­llannoedd, a'r Ffynhonnau dyfroedd oedd yno; Lle'r yfasant o'r dŵr, ac yr ymolchasant, ac a fwŷdtasant o'r grawn-wîn yn rhâd; Yrawron yr oedd ar bennau y mynyddoedd hŷn Fugeiliaid, yn cadw eu Defaid; Ac yr oeddŷnt yn sefŷll yn agos i fîn y ffordd fawr: Y Pererinod gan hynnŷ a aethant attŷnt, a chan bwŷso ar eu ffŷnn (fêl a mae'n arferol i Bererinod deffygiol, pan fyddant yn sefŷll i ymddiddan a neb ar y ffordd) hwŷ a ofŷnnasant iddŷnt, eiddo pwŷ ŷw'r mynyddoedd hyfrŷd ymma? A phwŷ a bia'r Defaid sŷ'n pori arnŷnt.

Bugeiliaid. Y mynyddoedd ymma ydŷnt D [...] Immanuel, ac i maent hwŷ yngolwg ei Ddimas ef; Ei eiddo ef ydŷw'r Defaid hefŷd, Ac efe a roes ei Einioes ar lawr drostŷnt.

CRITSION. Ai dymma'r ffordd i'r Ddinas Nefol?

Bugeiliaid. Yr ydŷch chwi yn union ar eich ffordd.

CRISTION. Pa bellder ydŷw hi oddiymma yno?

Bugeiliaid. Rhŷ bell i nêb, ond l'r fawl sŷ'n myned tuag yno mewn gwirionedd.

CRISTION. A ŷdŷw'r ffordd yn ddiberygl, neu yn beryglus?

Bugeiliaid. Diberŷgl i'r cyfiawn, ond [...] [Page 146] wŷr a dramgwŷddant ynddi ( Hosea 14.9.)

CRISTION. Oes yn y lle ymma lettu ac ym­geledd i Bererinod llesc lluddiedig iw gael?

Bugeiliaid. Fe orchymynnodd Arglwŷdd y lle hwn i ni nac anghofiem Letugarwch; Ac am hynnŷ chwi a ellwch gael rhan o'r pethau dâ sŷdd ymma ( Hebreaid 13.1, 2.)

Mi a welais hefŷd yn fy mreuddwŷd, mai pan wŷbu'r Bugeiliaid, mai trafaelwŷr oeddŷnt; Hwŷthau hefŷd a ofŷnnasant Gwestiwnau iddŷnt, megis gwŷr o ba wlâd ydŷch? A pha fôdd a dae­thoch i'r ffordd? A thrwŷ ba foddion a darfu i chwi ddilŷn ynthi fel hŷn? Canŷs nid oes ond ychydig o'r rhai sŷ'n dechreu dyfod tuag ymma, yn dangos eu hwŷnebau ar y mynyddoedd hŷn; A'r Pererinod a roddasant yr un fâth attebion idd­ŷnt hwŷ, ac a roesent i eraill; Ond pan glybu y Bugeiliaid eu hattebion hwŷnt, fe'u bodlonwŷd hwŷ'n fawr; A hwŷ a edrŷchasant yn gariadus arnŷnt, ac a ddywedasant wrthŷnt, Croesaw i'r mynyddoedd hyfrŷd.

A'r Bugeiliaid (meddaf) y rhai a elwid, Gwy­bodaeth, Profiad, Gwilaidwrus, a Phurdeb, a'u cymmerasant erbŷn eu dwŷlo, ac a'u dyg­asant hwŷ iw pebŷll; Ac a osodasant gar eu bron yr hŷn oedd barod ganthŷnt; A hwŷ a ddywed­asant ymhellach wrthŷnt; Nyni a ewŷllysiem i chwi aros gyda ni ychydig o amser, fel a galloch fôd yn gydnabyddus a ni; Ac hefŷd fel a caech ychydig o esmwŷthfŷd a diddanwch, trwŷ fôd yn gyfrannogion o'r pethau daionus sŷdd iw cael yn yr hyfrŷd Fynyddoedd ymma: A'r Pererinod a ddywedasant wrthŷnt eu bôd nhwŷ'n fodlon i aros; Ac fellu hwŷ a aethant iw gorphwŷsfa y nofon honno, canŷs yr oedd hi'n hwŷr iawn.

A'r horcu drannoeth mi glywn y Bugeiliaid [Page 147] yn galw ar Cristion a Gobeithiol, i ddyfodd gyda nhwŷ i rodio ar y mynyddoedd; Fellu hwŷ a aethant allań gyda hwŷnt, ac a rodiasant ennŷd, ac a ganffuant fôd y Tîr yn ffrwŷthlon a hyfrŷd ar bôb tu; Yna ebŷr y Bugeiliaid wrth ei gllŷdd, a gawn ni ddangos rhŷw ryfeddodau i'r Pererinod hŷn; Ac wedi iddŷnt gyttuno i wneuthur fellu, hwŷ a'u dygsasant hwŷnt yn gyntaf i ben y brŷn a elwid Cyfeiliorni, yr hwn oedd yn serth iawn ar yr ystlus pellaf oddiwrthŷnt; A'r Bugeiliaid a archasant iddŷnt edrŷch tua'r gwaelod: Fellu Cri­stion a Gobeithiol a edrŷchasnt tua'r gwaelod tan y Brŷn; A hwŷ a welent wrth droed y Brŷn fintau fawr o ddynnion wedi eu dryllio yn ddarnau gan gwŷmp a gawsent yno; Yna ebŷr Cristion pa beth ŷw hŷn? A'r Bugeiliaid a attebasant; Oni chly­wsochi sôn am y rhai a gwnaed iddŷńt gam gredu yn eu crefŷdd, trwŷ goelio athrawlaeth Hymeneus a Philetus, y rhai oddiwrth y gwirionedd a gyf­eillornasant, gan ddywedŷd ddarfod yr adgyfodiad eusus (1 Timotheus 1.19, 20. 2 Timotheus 2.17, 18.) A thrwŷ ddywedŷd na bŷdd adgyfodiad ir meirw drachefn: A'r Pererinod a ddywedasant Do, ni a glywsom sôn am danŷnt; Yna ebŷr y Bugeiliaid wrthŷnt, y rhai a gwelwch chwi eu haelodau nhw yn gorwedd yn ddarnau wrth odreu y Brŷn ymma, ydŷw'r bobi hynnŷ: Ac fe'u gad­awŷd hwŷ heb eu claddu hŷd y dŷdd hwn (fel a gwelwch) er siampl i eraill i ochelŷd na ddring­ont yn rhŷ uchel, ac na ddelont yn rhŷ agos i ymylau y mynŷdd hwn.

Yna mi a'i gwelais nhw yn eu dwŷn hwŷ i ben mynŷdd arall, yr hwn a elwid Gocheliad, a'r Bugeiliaid a archasant iddŷnt edrŷch ymhêll oddi­wrthŷnt: Yr hŷn pan wnaethaut-hwŷ a dybygent eu bôd yn canfod llawer o ddynnion yn rhodio [Page 148] i fynu ac i wared ymŷsc y beddau y rhai oedd yno; A hwŷ a ddeallasant fôd y gwŷr yn ddei­llion, am eu bôd yn syrthio weithieu ar draws y beddau, ac am eu bôd yn methu dyfod allan oddiyno; Yna ebŷr Cristion pa beth sŷdd i ni iw ddeall wrth hŷn.

A'r Bugeiliaid a attebasant, oni welsochi gamfa ychydig islaw y mynyddoedd hŷn, yr hon sŷ'n arwain i weirglodd, o'r tu asswŷ i'r ffordd ymma? A'r Pererinod a attebasant gwelsom: Yna ebŷr y Bugeiliaid i mae Llwŷbŷr yn myned o'r gamfa honno, yr hwn sŷ'n tywŷs yn union i Gastell Amheus, yn yr hwn a mae'r Gawr Anobaeth yn trigo; A'r Gwŷr accw (sef y rhai a welwch ymŷsc y Beddau) a fuant yn Bererinod fel yr ydŷchi yrawron, hŷd oni ddaethant at y gamfa honno, Ac o herwŷdd bôd yr iawn ffordd yn arw yn y mann hwnnw, hwŷ a droesant l'r weirglodd honno, Ac yno a dalwŷd hwŷ gan y Gawr Ano­baeth, ac efe a'u carcharodd hwŷnt yn ei Gastell: Ac wedi iddo eu cadw nhw dros ennŷd o amser yn ei Ddaiardŷ, efe o'r diwedd a dynnodd allan eu llygaid hwŷ, ac a'u gyrrodd i blith y beddau accw; Lle a gadawodd ef hwŷnt i frwŷdro hŷd y dŷdd heddiw, fel a cyflawnid ymadrodd y Gŵr doeth, Dŷn yn myned ar gyfeiliorn oddiar ffordd deall, a orphwŷs ynghynulleidfa y meirw ( Dihar­ebion 21.16.) Yna Cristion a Gobeithiol a edrŷch­asant y naill ar y llall, a'r dagrau yn diferu rhŷd eu griddiau, er hynnŷ ni ddywedasant hwŷ ddim wrth y Bugeiliaid.

Wedi hynnŷ, mi a welwn y Bugeiliaid yn myned a hwŷnt i le arall, mewn pant lle'r oedd drŵs yn ochor Brŷn; A hwŷ a agorasant y drŵs, ac a barasant iddŷnt edrŷch i mewn, a hwŷ a wnaethant fellu; Ac wele yr oedd y lle oddifewn [Page 149] yn dywŷll, ac yn fyglud iawn: Ac wele hwŷ a dybygent hefŷd eu bôd yn clywed megis sŵn rhŷw Dân, a lleisiau rhai yn dioddef poenau mawr, a'u bôd hefŷd yn rhogleuo rhogleu brwmstan; Yna ebŷr Cristion, pa beth ŷw hŷn? A'r Bugeiliaid a at­tebasant, Traws-lwŷbŷr i uffern ŷw hwn, Dyma'r ffordd a mae Rhagrithwŷr yn myned i mewn yno, yn enwedig, y sawl fŷ'n gwerthu eu ganedigaeth fraint gydag Esau; Y rhai a werthant eu Meistir gyda Suddas; A rhai sŷ'n cablu'r Efengŷl gydag Alexander; A rhai sŷ'n dywedŷd celwŷdd, ac yn rhagrithio gydag Ananias a Saphira ei wraig ef.

Yna ebŷr Gobeithiol wrth y Bugeiliaid yr wŷfi'n deall fôd gan y rhain, ie gan bôb un o honŷnt enw o Bererindod, megis a mae gennŷm ninnau yr­awron; Ond oedd y peth fellu?

Bugeiliaid. Oedd yn ddlammeu, a hwŷ a barhaesant fellu hefŷd yn hîr o amser.

Gobeithiol. Pa bellder a gallent hwŷ (sŷdd yrawron wedi eu colli yn greulonedd yn y môdd ymma) fyned mewn Pererindod yn yr amser gŷut?

Bugeiliaid. Rhai a aethant ymhellach, a rhai ni ddaethant cŷn belled a'r mynyddoedd ymma.

Yna ebŷr y Pererinod wrth eu gilŷdd, rhaid i ni alw ar yr Hôllalluog am nerth.

Bugeiliaid. Gwîr ŷw hynnŷ, a rhaid i chwi wneuthur deunŷdd dâ o hono hesŷd wedl ei gael ef.

Erbŷn hŷn yr oedd y Pererinod yn ewŷllysio myned ymlaen; A'r Bugeiliaid oeddent fodlon i hynnŷ: Fellu hwŷ a rodlasant ynghŷd hŷd ochor eithaf y mynyddoedd; Yna ebŷr y Bugeiliaid wrth eu gilŷdd, gadewch i ni ddangos oddiymma bŷrth y Ddinas Nefol i'r Pererinod; Os medrant edrŷch trwŷ'n Drŷch-golwg ni: A'r Pererinod oeddŷnt fodlon i hynnŷ, fellu hwŷ a'u cymmer­asant i ben brŷn uchel, yr hwn a elwld Eglur, ac [Page 150] a roddasant iddŷnt y drŷch i edrŷch trwŷddo: Yna hwŷ a brofasant edrŷch trwŷddo, ond wrth gofio y peth diweddaf a ddangosasai y Bugeiliaid iddŷnt, yr oedd eu dwŷlo nhw'n crynu gan ofn; Ac o herwŷdd hynnŷ, methodd arnŷnt edrŷch yn ddi­yscog trwŷ'r drŷch; Er hynnŷ yr oeddent yn tybied eu bôd yn gweled rhŷw beth tebŷg i'r porth, ac hefŷd peth o ogoniant y lle.

Pan oeddent ar ymadel, un o'r Bugeiliaid a roddodd iddŷnt yscrifen o yspysrwŷdd ynghŷlch eu ffordd; A'r llall a archodd iddŷnt ochelŷd y dŷn gwenheuthus: A'r trydŷdd a archodd iddŷnt ochelŷd rhag cyscu ar y Tîr a felldithwŷd: A'r pedwaredd a ddywedodd wrthŷnt, Duw a fo'n rhwŷdd i chwi.

Yna mi a welwn y ddau Bererin yn myned i wared o'r mynyddoedd, rhŷd y ffordd-fawr tua'r Ddinas Nefol; Yrawron ychydig islaw'r myn­yddoedd ymma, ar y llaw asswŷ, yr oedd Gwlâd Cellwair yn sefŷll; Ac o'r wlâd hon yr oedd hwŷlfa gam fechan, yn dyfod i'r ffordd yr oedd y Pererinod ynthi: Ac ymma a cyfarfuant a llangc fionc a ffraeth, yr hwn oedd yn teithio o'r wlâd honno, a'i Enw ef oedd Anwŷbodaeth; Fellu Cristion a ofynnodd iddo, o ba le yr oedd ef yn dyfod? Ac i ba le yr oedd ef yn myned?

Anwŷbodaeth. Syr fe'm ganwŷd i yn y wlâd accw, ychydig ar y llaw asfwŷ; Ac yr wŷfi'n myned tua'r Ddinas Nefol.

CRISTION. Ond pa fodd yr ydŷch chwi'n meddwl myned i mewn trwŷ'r porth, canŷs chwi a ellwch gyfarfod a rhŷw anhawsder yno?

Anwŷbodaeth. Fel a mae pobl ddâ eraill yn myned ebŷr yntef.

CRISTION. Ond pa beth sŷdd gennŷch iw ddangos yno, fel a bo iddŷnt agor y porth i chwi?

[Page 151] Anwŷbodaeth. Mi a wn ewŷllŷs fy Arglwŷdd, ac a fum yn Fucheddwr dâ, yr wŷf yn talu i bawb eu heiddo; Yr wŷfi'n Gweddio, yn Ymprydio, yn Talu fy Negymmau, ac yn rhoddi elusenau, ac mi a adewais fy ngwlâd er mwŷn y lle yr wŷf yn myned iddo.

CRISTION. Ond ni ddaethost di i mewn trwŷ'r porth cyfŷng, yr hwn sŷ ymhen y ffordd ymma; Ond dydi a ddaethost i mewn i'r ffordd hon trwŷ'r Llwŷbŷr cam accw; Ac am hynnŷ yr wŷf yn ofni pa beth bynnag yr wŷt ti yn ei dybied amdanat dy hun; pan ddelo'r Dŷdd cyfrif a rhoddir i'th erbŷn, mai lleider ac yspeiliwr wŷt, yn lle cael myned i mewn i'r Ddinas.

Anwŷbodaeth. Foneddigion, yr ydŷchl yn ddieithriaid i mi, nid adwaen i monoch; Byddwch fodlon i ddilŷn crefŷdd eich Gwlâd chwl, a minneu a ddilynaf grefŷdd fy ngwlâd inneu, Ac yr wŷfi yn gobeithio a bŷdd pôb peth o'r goreu: Ac am y porth a sonlasoch amdano, fe ŵŷr yr hôll Fŷd fôd hwnnw ymhell o'n Gwlâd ni: Nid wŷfi chwaith yn tybied fôd nêb yn ein hôll barthau ni yn gwŷbod y ffordd tuag yno; Ac nis gwaeth pa un ai bôd yn ei gwŷbod hi ai peidio, gan fôd gennŷm (fel a gwelwch) Lwŷbŷr glâs hyfrŷd yn dyfod o'n Gwlâd ni, yn uniawn i'r ffordd ymma.

Pan welodd Gristion fôd y gŵr yn ddoeth yn ei olgwg ei hun, efe a ddywedodd wrth Obeithiol yn ddistaw; Gwell ŷw'r gobaith am ffôl nag amdano ef ( Dîharebion 26.12.) Ac fe a ddy­wedodd ymhellach, y ffôl pan rodio ar y ffordd, sŷdd a'i galon yn pallu, ac i mae'n dywedŷd wrth bawb ei fôd yn ffôl ( Progethwr 10.3.) Pa beth a wnawn ni? A siarad-wn ag ef ymhellach? Neu ynteu myned o'i flaen ef yrawron, i adel iddo [Page 152] fyfyrio ar yr hŷn a glywodd eusus, ac yna i aros ef drachefn, i edrŷch a allwn bôb yn ychydig wneu­thur dim daioni iddo ef; 'Rwi'n tybied ebŷr Gobeithiol, nad ŷw'n ddâ dywedŷd y cwbl ar un­waith wrtho ef, gadewch i ni ei adel ef y prŷd ymma os mynnwch; A siaradwn ag ef yn y mann, pan fô yn aplach i dderbŷn ein haddŷsc a'n cynghorion.

Fellu hwŷ a aethant ymlaen ill dau, ac An­wŷbodaeth a ddaeth ar eu hôl; Yrawron gwedi iddŷnt ei ragflaenu ef ychydig, hwŷ a ddaethant i Heol fechan dywŷll iawn, lle a cyfarfuant a Gŵr wedi ei rwŷmo gan saith Gythrael, a saith o raffau cedŷrn; Ac yr oeddent yn ei garrio ef yn ôl, i'r Drŵs a welsent ar ochor y Brŷn: Cristion yrawron a'i gydymaith Gobeithiol a ddechreuasant arswŷdo a chrynu yn aruth; Etto fel yr oedd y Cythreul­iaid yn dwŷn ymaith y Gŵr; Cristion a ed­rychodd yn graff arno, i weled a oedd ef yn ei ddynabod ef; Ac fe a dybiodd, mai un Tor-broffes, ydoedd y Gŵr, yr hwn oedd yn bŷw yn Nhrêf Gwrth-giliad: Ond ni allei ef weled ei wŷneb ef yn amlwg, am ei fôd yn gostwng ei ben i lawr fel lleidr a f [...]e wedi ei ddal; Ond wedi iddo fyned heibio, Gobeithiol a edrychodd ar ei ôl ef, ac a ganfu Bapŷr ar ei gefn ef, lle yr oedd yr yscrifeniad hwn, Proffeswr anllad, a gwrthgiliwr damnedig; Yna a dywedodd Cristion wrth ei gydymaith, yr­awron yr wŷf yn ailgofio yr hŷn a fynegwŷd i mi, am beth a ddigwŷddodd i ŵr dâ ynghŷlch y mann ymma; Ei enw ef oedd Ychydig ffŷdd, ond Gŵr dâ rhinweddol ydoedd ef, ac yr oedd ef yn trigo yn Nhrêf Diragrith. Hŷn oedd y matter; Ymhen y ffordd ymma i mae Heol sechan, yn dyfod i wared o Borth y ffordd Lydan, a elwir Heol y dŷn Marw; A hi a elwir fellu o achos y lladdiad a [Page 153] wneir yno yn fynŷch: A'r Gŵr ymma (yr hwn a elwir Ychydig ffŷdd) oedd yn myned ar Berer­indod megis yr ydŷm ninnau yrawron; Ac fe ddigwŷddodd iddo eistedd i lawr a chysgu yno; Yrawron fe ddigwŷddodd y prŷd hwnnw, i dri o williaid cryfion ddyfod i wared rhŷd y ffordd o Borth y ffordd-Lydan, a'u henwau oedd Gwan-galon, Gwan grêd, ac Euogrwŷdd, tri brawd oeddŷnt; a phan ganffuant hwŷ meistir Ychydig ffŷdd yn gorwedd yno, hwŷ a ddaethant atto ar ffrwft; Yrawron yr oedd y Gŵr dâ wedi newŷdd ddihuno o'i gwsc, a'i frŷd ar gyfodi i fynd iw daith; Fellu hwŷ a ddaethant ôll i fynu atto, a chan fygwth yn arw archasant iddo sefŷll; Ar hŷn Ychydig ffŷdd a gollodd ei liw, ac a aeth cŷn wnned a'r foled, ac nid oedd vntho na chalon i ymladd, na gallu i ffoi; Yna ebŷr Gwan-galon delifrwch eich pwrs; Ond ni frysiodd ef i wneuthur fellu (canŷs yr oedd yn anodd gantho golli ei Arian) Gwan grêd gan hynnŷ a redodd i fynu atto, a chan wthio ei law iw boc­ced ef, fe a dynnodd allan byrsed o Arian; Yna efe a waeddodd yn groch, Lladron, Lladron; Ar hynnŷ Euogrwŷdd a drawodd Ychydig ffŷdd ar draws ei ben a ffon fawr, yr hon oedd gantho yn ei law; Ac a'r dyrnod hwn [...]w fe a'i bwriodd ef i lawr, lle a bu ef yn gwaedu, a'i waed yn ffrydio fel un a fae'n gwaedu hŷd Angeu, A'r lladron yn y cyfamser yn sefŷll yn ei ymŷl ef: Ond o'r diwedd hwŷ a glowent megis trwst rhai yn dyfod i wared rhŷd y ffordd, a chan ofni mai un Grâs-Mawr oedd un o honŷnt, sŷ'n trigo yn Nhrêf Cydwŷ­bod ddâ, hwŷ gymmerasant y traed, ac a adawsant Ychydig ffŷdd i ymdaro drosto ei hun fel a gallai; Ac yno ymhen ennŷd fe a ddaeth atto ei hun, a chan gyfodi ar ei draed, efe a ymegniodd i ymgrippio i fyned ymaith.

[Page 154] Gobeithiol. Ond a ddygasant hwŷ oddiarno gymaint ôll ar a feddai?

CRISTION. Naddo, ni anrheithiasant hwŷ'r mann lle'r oedd ei Dlyfau ef; Fellu efe a gadwodd y rheini o hŷd; Ond mi a glywais fôd yn gyfŷng iawn ar y Gŵr dâ hwn o herwŷdd ei golled; Canŷs y lladron a'u hyspeiliasant ef o rhan fwŷaf o'i arian; Yr hŷn a ddiangodd eu dwŷlo nhwŷ (fel a dywedais i o'r blaen) oedd ei dlysau ef (1 Peter 4.18.) Ac nid oedd yr ychydig arian oedd gantho, ond prin ddigon iw ddwŷn ef i ben ei daith; Ac (oni cham ddywedwŷd wrthŷfi) fe orfu iddo gardotta, a hel i fywŷd ar y ffordd (canŷs ni allai ef werthu moi dlysau) ond er cardotta a gwneu­thur a allai, efe a aeth (fel a dywedwn ni) a'i fol yn wâg y rhan fwŷaf o'r ffordd oedd yn ôl i ben ei siwrnai.

Gobeithiol. Ond rhyfedd ŷw, na ddygasent hwŷ yscrifen ei siccrwŷdd oddiarno, trwŷ hwn yr oedd ef i gael ei dderbŷn i mewn ymhorth y Ddinas Nefol.

CRISTION. Mae hynny yn rhyfeddod, ond ni chawsant hwŷ mo'r yscrifen hwnnw; Er na chollasant moni, trwŷ gyfrwŷstra Meistir Ychydig ffŷdd; O herwŷdd nid oedd gantho ef allu na meder i guddio dim, gan ei fôd mewn syndod a braw trwŷ eu dyfodiad hwŷ atto: Fellu trwŷ ragluniaeth Daionus yr Arglwŷdd (yn fwŷ na thrwŷ ei ddyfalwch a'i ofal ef) methasant gael y peth dâ hwnnw (2 Timotheus 1.14.)

Gobeithiol. Ond yr oedd yn gysur mawr iddo, na ddygasant ei dlysau oddiarno?

CRISTION. Fe allasai hynnŷ fôd yn gysur mawr idddo, pa basai yn gwneuthur deunŷdd o hono fel a dylasai; Ond y rhai a adroddasant wrth­ŷfi yr ystori ymma, a ddywedasant, na wnaeth ef ond ychydig ddeunŷdd o'r peth, yr hôll ran arall [Page 155] o'r ffordd; A hynnŷ o herwŷdd y braw a gawsei ef, pan ddygasant ymaith ei Arian ef: Gwîr ydŷw, fe anghofiodd yr hŷn a'i cysurai ef, y rhan fwŷaf o'r ffordd oedd yn ôl o'i daith; Ac heblaw hynnŷ pan ddigwŷddai ar un amser iddo ei ailgofio, ac a byddeu yn dechreu cael cysur oddiwrtho; Yna me­ddyliau newŷdd ynghŷlch ei golled am ei Arian, a orchfygau bôb mâth o fyfyrdodau eraill.

Gobeithiol. Ocho druan gŵr, nid oedd fôdd nad oedd hynnŷ yn dristwch, mawr iddo.

CRISTION. Mae hynnŷ yn ddiammeu; Oni basai yn dristwch i ni, pa gwnaethid a ni megis a gwnaethpwŷd ag ef, trwŷ ei yspelio (a'i glwŷfo ef hefŷd) a hynnŷ mewn lle mor ddieithr, ag yr oedd ef yntho? Rhyfeddol ydŷw, na basei ef (druan Gŵr) yn marw gan ofud! Myfi a glywais, ei fôd ef yn llefain ac yn cwŷnfan yn alarus, y rhan fwŷaf o'r ffordd gwedi hynnŷ; Gan achwŷn wrth bawb ar a'i goddiwesasant ef, ac wrth y sawl yr oedd yntef yn eu goddiwes ar y ffordd; Gan ach­wŷn (meddafi) ymha le yr yspelwŷd ef; A pha fôdd; A phwŷ oedd y gwŷr a wnaethant hynnŷ; A pha beth a gollasei; A'r môdd a clwŷfwŷd ef; Ac mai prin a diangodd ef yn fŷw.

Gobeithiol. Ond peth rhyfeddol ydŷw, na pharodd ei angen iddo ef werthu, neu wŷstlo rhai o'i dlysau; fel a gallai ef ei ddianghenu ei hun yn ei daith.

CRISTION. Yr wŷti'n siarad megis un o'r ynfydion: Canŷs am ba beth a gwŷstlai ef ei dlysau? Neu i bwŷ a gwerthai ef hwŷnt? Nid oeddid yn gwneuthur cyfrif yn y Bŷd o'i dlysau ef yn yr hôll wlâd honno, yn yr hon yr yspeiliwŷd ef ynthi; Ac nid oedd arno ef eisau dim o'r fâth gymmorth ar a oedd gan bobl y wlâd honno, iw wasanaethu fe; Heblaw hynnŷ pa [...] ei [Page 156] dlysau ef yn eisiau wrth Borth y Ddinas Nefol, fe'i cauesid ef allan o'r etifeddiaeth oedd yno (a hynnŷ a wŷddai ef yn ddigon dâ) a gwaeth a fasai hynnŷ iddo ef nag ymddangosiad a chreulondeb myrdd­iwn o ladron.

Gobeithiol. Pa ham yr wŷt mor chwerw fy mrawd? Fe werthodd Esau ei anedigaeth fraint, a hynnŷ am phiolaid o frowes ( Hebreaid 12.16.) A'r anedigaeth honno oedd ei Dlws pennaf ef, Ac os gallai ef, pa ham na allai Ychydig ffŷdd wneuthur fellu hefŷd?

CRISTION. Gwîr ŷw, Esau a werthodd ei anedigaeth fraint, Yr hŷn a mae llawer o rai eraill yn i wneuthur; A thrwŷ hynnŷ maent yn eu cau eu hunain allan oddiwrth feddiannu y fendith bennaf, megis a gwnaeth yr yscerbwd hwnnw; Ond i mae'n rhaid i chwi fwrw fôd peth rhagor­iaeth rhwng Esau ac Ychydig ffŷdd, ac hefŷd rhwng eu cyflwr hwŷnt: Ganedigaeth Esau oedd gys­codawl, ond Tlysau Ychydig ffŷdd nid oeddent fellu; Bol Esau oedd ei Dduw, ond nid fellu yr oedd bol Ychydig ffŷdd; Eisieu Esau oedd yn ei flŷs naturiol, ond eisieu Ychydig ffŷdd nid oedd fellu; Heblaw hynnŷ, nid oedd Esau yn edrŷch am ddim ond am gyflawni ei chwant; Canŷs wele fi yn myned i farw, ebŷr ef ( Genesis 25.32.) A pha lês a wna'r Anedlgaeth fraint hon i mi? Ond Ychydig ffŷdd a dybiodd mai rhan o'i etifeddlaeth ef oedd ei ffŷdd ef er gwanned oedd hi; A thrwŷ y ffŷdd honno efe a gadwŷd rhag y fâth afradlondeb, ac a'i dyscwŷd i iawn brissio ei dlysau, yn lle eu gwer­thu hwŷnt, megis a gwerthodd Esau ei anedigaeth fraint; Nid ydŷch yn darllen yn yr yscrythur, fôd gan Esau ffŷdd yn y mesur lleiaf; Ac am hynnŷ nid ŷw'n rhyfedd, lle bo'r cnawd yn bennaf yn dwŷn rhwŷsc (megis a gwna yn y dŷn hwnnw, [Page 157] lle na bo yntho ffŷdd iw wrthwŷnebu ef) os gwerth ef ei anedigaeth fraint, a'i Enaid, a'r cwbl ôll sŷdd gantho, a hynnŷ hefŷd i'r diawl o uffern; Canŷs mae'r fâth ddynnion yn debŷg ir Assŷn wŷllr, yr hon wrth ei hachlyssur nis gellir ei throi ymaith ( Jeremi 2.24.) Fellu nhwŷthau pan font wedi gosod eu brŷd ar gyflawni eu Trachwantau, a fynnant y pethau a maent yn eu blysio pa beth bynnag a gostiont iddŷnt; Ond meistir Ychydig ffŷdd oedd o dymmer arall, yr oedd ei feddwl ef ac bethau Nefol; A phethau ysprydol ac oddiuchod yr oedd ei gynhaliaeth ef; I ba bwrpas gan hynnŷ a gwerthai ef (yr hwn oedd o'r fâth dymmer) ei dlyfau (pa basai yno un a'i prynnasau hwŷnt) i borthi ei drachwantau a phethau gweigion? A ddyru gŵr geinlog er cael lloned ei fol o wair? Neu a ellwch wneuthur i'r glomen ymborthi ar furgŷn, megis a gwna'r gigfran? Ac er gallu o rhai di grêd wŷstlo, neu werthu'r hŷn ôll a feddont, er mwŷn cyflawni eu trachwantau cnawdol, etto ni ddichon y rhai sŷdd ganthŷnt ffŷdd (sef ffŷdd iachulol) wneuthur fellu, er nad ŷw eu ffŷdd ond ffŷdd wann iawn; A dymma dy gam-gymmeriad di fy mrawd.

Gobeithiol. 'Rwŷfi'n cydnabod hynnŷ; Etto eich gwaith chwi yn troi arnaf mor sarrug, a lu agos a pheri i mi ddigio wrthŷch.

CRISTION. Pa ham, ni wneuthŷm i ond dy gyffelybu di i rai o'r adar gwŷlltion, y rhai a red­ant ymma a thraw rhŷd lwŷbrau anhyffordd, a'r blisg ar eu pennau: Ond gâd heibio hynnŷ fy mrawd; Ac ystyria y peth sŷdd mewn llaw gennŷm; Ac fe fŷdd pôb peth o'r goreu rhy­ngoti a mi.

Gobeithiol. 'Rwi'n credu yn fy nghalon, nad oedd y tri chyfaill hynnŷ ond gwŷr di galon, onide [Page 158] a redasent hwŷ ymaith dybygechi, fel a gwnaeth­ant wrth glywed trŵst rhŷwun yn dyfod rhŷd y ffordd fawr? Pa ham na basai Ychydig ffŷdd, yn cymerŷd gwell calon? Yr wŷfi'n tybied a gallasai ef sefŷll un ymladdfa a hwŷnt, a rhoddi'r maes iddŷnt pan fasent yn myned yn rhŷ galed iddo.

CRISTION. Clywais lawer megis chwitheu yn eu barnu nhwŷ'n llyrfion; Ond nid oes ond ychydig ar a brofasant y peth fellu mewn awr o brofedigaeth; Ac am fôd yn fwŷ gwrol, nid allai Ychydig ffŷdd fôd a'r fâth galon a hynnŷ; Ac mi a dybygwn wrthit titheu fy mrawd, pa basiti yn ei le ef, ni fasiti gwell nag yntef; Canŷs nid ydwŷt ti ond tros un trawiad, ac wedi hynnŷ ni wnai di ond cilio; Ac yn ddiammeu, mae uchder dy feddwl sŷ'n peri i ti siarad yn y môdd ymma (am eu bôd nhw yrawron ymhell oddiwrthŷm) pa digwŷddai iddŷnt ymddangos i ti, megis a gwnaethant iddo ef, hwŷ a allent beri i ti newid dy feddyliau.

Ond ystyria drachefn, mae lladron ar gyflog ydŷnt, yn gwasanaethu Tywŷsog y pwll diwaelod; Yr hwn os bŷdd rhaid, a ddaw ei hun iw cynnor­thwŷo hwŷnt, a'i lais ef, sŷdd fel rhuad Llew (1 Petr 5.8.) Mi a fum fy hun yn yr ymladdfa ymma, fel a bu meistir Ychydig ffŷdd, a dychrynllŷd iawn oedd y peth yn fy marn i; Y tri dihirŷn ymma a ruthrasant arnaf, a minneu a ddechreuais fel Crist­ion eu gwrthsefŷll hwŷ; Ond ni wnaethant ond rhoddi un galw, A'u meistir a ddaeth ar droead llaw attŷnt: Yna (megis a mae'r Ddihareb) a rhoeswn fy mywŷd er ceiniog; Ond fel yr oedd Duw yn mynnu yr oeddwn wedi fy ngwisco ag Arfogaeth brofedig; Ac etto er fy môd wedi fy arfogi fellu, fe fu anhawdd iawn i mi ymgadw fy hun fel Gŵr; Ni ddichon un Dŷn draethu pa fôdd a bu arnom yn yr ymladdfa honno, ond y [Page 159] sawl a fu yn y frwŷdŷr ei hun.

Gobeithiol. Ond hwŷ a ffoesant pan dybi­asant fôd Gŵr a elwir Grâs mawr ar y ffordd.

CRISTION. Gwîr ŷw, hwŷnt a'u meistir hefŷd a ffoesant yn fynŷch, pan ymddangosei Grâs Mawr; Ac nid rhyfedd, Canŷs rhyfelwr pybŷr y Brenin ŷw ef: Ond rwi'n tybied a cyfrifwch bêth rhagoriaeth rhwng Ychydig ffŷdd a Champiwr y Brenin: Nid Campwŷr y Brenin ŷw ei hôll ddei­liaid ef; Ac nis gallant ychwaith pan brofir hwŷnt wneuthŷd y fâth waith hynod mewn Rhy­fel ac a eill ef ei wneuthur; Ai gwiw coelio a gallasai rhŷw fachgenŷn bychan drîn Goliab fel a gwnaeth Dafŷdd? Neu fôd nerth ŷch mewn Drŷw? I mae rhai yn Gryfion, a rhai yn weiniaid; I mae rhai a llawer o ffŷdd ganthŷnt, ond nid oes ond ychydig gan rai eraill; Un o'r▪ Gweiniaid oedd y Gŵr hwn; Ac am hynnŷ a syrthiodd ef ir clawdd.

Gobeithiol. Mi a ddŷmunwn pa basei Grâs Mawr yno er eu mwŷn hwŷ:

CRISTION. Pedfasai ef yno, gallasai gael ei lawn waith; Canŷs rhaid i mi ddywedŷd hŷn wrthŷchi, er bôd Grâs Mawr yn dra medrus a'i arfau, iw amddiffŷn ei hunan; Ac er gwneuthur o hono lawer; Ac er gallu o hono ef etto wneu­thur llawer yn erbŷn y gelynnion hŷn, tra cadwo ef hwŷnt wrth flaen ei gleddŷf; Er hynnŷ, os geill Gwan galon, Gwan grêd, ac Euogrwŷdd ddyfod i mewn atto, a chael gafael arno; Deugain i un a trippiant ei sodlau ef; A phan elo Gŵr i lawr, pa beth a all ef wneuthur.

Pwŷ bynnag a edrycho'n graff yn wŷneb Grâs Mawr, fe a gaiff weled y fâth greithiau a thor­riadau yno, y rhai a wiriant yr hŷn a lefarais i amdano; Ie mi a glywais unwaith iddo ddywedŷd (a hynnŷ pan oedd ef yn yr ymladdfa, iddo ddy­wedŷd [Page 160] meddafi) yr wi'n ofni a collafi fy mywŷd: Pa fôdd a gwnaeth y dihirwŷr cyndŷn ymma a'u cyfeillion i Ddafŷdd ruddfan, galaru, a rhuo? Ie fe orfu i Hezeckiah a Heman hefŷd er eu bôd yn Gampwŷr yn eu dyddiau, ymdrechu'n gáled pan ruthrodd y rhain arnŷnt? Ac er hŷn igŷd hwŷ a gawsant eu tryhaeddu ganthŷnt; Peder a chwennychodd ar amser brofi beth a allai ef ei wneuthur; Ond er bôd rhai yn dywedŷd amdano mai ef oedd Tywŷsog yr Apostolion, etto'r gwŷr hŷn a'u trinasant ef fellu, fel a gwnaethant iddo o'r diwedd ofni morwŷn wael.

Heblaw hŷn, mae eu Brenin hwŷ'n barod wrth eu chwibanniad, Nid ŷw ef un amser allan o glŷw iddŷnt; Ac os ar rŷw amser a digwŷdd gael o honŷnt y gwaethaf (os bŷdd possibl) efe a ddaw ei hun i mewn iw cynnorthwŷo hwŷnt; Ac am dano ef a gellir dywedŷd gyda yr hŷn a ddywedir am y Lefiathan; Cleddŷf yr hwn a'i carawo ni ddeil; Y waŷw-ffon, y biccell, na'r llurig; Efe a gyfrif haiarn fel gwellt, a phrês fel pren pwdr; Ni phâr saeth iddo ffoi; Cerrig tafl a droed iddo yn sofl; Piccellau a gyfrififf fel soflŷn, ac efe a chwardd wrth ysewŷd Gwaŷw-ffon ( Job 41.26. &c) Pa beth a all Gŵr wneuthur yn y cyflwr hwn? Gwîr ŷw, pedtai gan ŵr farch Job bôb amser, a medr a grymmusder iw farchogaeth ef, fe a allai wneuthur pethau nodedig ( Job 39.20. &c) Ni ddychryna ef fel ceiliog y rhedŷn: Dychrŷn ydŷw ardderchawgrwŷdd ei ffroen ef; Ei draed ef a gloddiant yn y Dyffrŷn, ac efe a lawenycha yn ei gryfdwr; Ac efe a allan i gyfarfod Arfau; Efe a ddiystyra arswŷd Ac ni ddychryn ef; Ac ni ddychwel yn ei ôl rhag y cleddŷf: Y cawell saethau a drystia yn ei erbŷn ef, y ddisclair waŷwffon ar Dorian; Efe a lwngc y Ddaiar gan greulondeb a [Page 161] chynddaredd, ac ni chrêd ef mai llais yr Udcŷrn ŷw; Efe a ddywed ymhlith yr Udcŷrn, ha, ha, ac a arogla ryfel o bell, Sŵn Tywŷsogion a'r bloeddio.

Ond am y fâth wŷr traed a thi a minneu, na fydded i ni bŷth. ddymumo cyfarfod a Gelŷn, nag ymffrostio (fel pa gallem ni wneuthur yn well) pan glywom i eraill gael eu maeddu; Nag ym­falchio wrth feddwl a'm ein gwroldeb ein hunain; Canŷs y cyfrŷw rai yn fynnychaf a orchfygir pan brofir hwŷnt: I mae'r Apostol Peder yn esampl yn y matter ymma, am yr hwn a crybwŷllais i o'r blaen; Efe a swagreu, ie a pha beth nis gwnai? Efe a wnai (megis yr oedd ei galon dwŷllodrus yn ei annog ef i ddywedŷd) swŷ na nêb, ac a sasai gyda'i feistir pan adawai pawb ef: Ond pwŷ a gafodd y fàth wrthwŷnebiad, a phwŷ a orchfygwŷd gan y dihirwŷr hŷn, fel a gorchfygwŷd ef?

Nyni a ddylem gan hynnŷ gyflawni dau ddyled­swŷdd, pan glywom wneuthur y fâth anrheithiadau ar ffordd fawr y Brenin; Yn gyntaf Ein harfogi ein hunain pan elom allan ynghŷlch ein gorchwŷl­ion, a bôd yn siwr i gymmerŷd ein Tarian gyda ni; Canẏs dymma'r achos (sef am ei fôd heb y Darian hon) paham a methodd yr hwn a osododd mor gefnog ar y Leviathan ei orchfygu ef; Canŷs mewn gwirionedd os bŷdd honno yn eisiau, nis ofna ef monom ni: Am hynnŷ dywedodd yr hwn oedd fedrus, Uwch law pôb dim cymmerwch Darian y ffŷdd, âr hwn a gellwch ddiffoddi hôll Biccellau tanllŷd y fall ( Ephesiaid 6.16.)

Dâ fyddai, i ni hefŷd alw ar y Brenin am help; Ie ar iddo ddyfod ei hun gyda ni: Canŷs dyna'r peth a wnaeth i Ddafŷdd orfoleddu pan oedd ef yn Nyffrŷn Cyscod Angeu; A gwell oedd gan Fo [...]n farw yn y fann lle'r oedd ef yn sefŷll, na myned [Page 162] cymmaint ag un cam heb ei Dduw gydag ef: O fy mrawd! Os efe â gyda ni, nid rhaid i ni ofni Myrdd. iwn o rai a ymosodo yn ein herbŷn; Ond hebddo ef y cynnorthwŷwŷr beilchion a grynant, ac a syrthiant ( Psalm 23.4. & 27.1, 2, 3. Exodus 33.15. Job 9.13.)

O'm rhan i, myfi a fum yn yr ymladdsa hon cŷn hŷn, ac er diangc o honof yn fŷw (trwŷ ddai­oni a gallu yr Holl Alluog) etto, nid oes achos gennif i ymffrostio am fyngwroldeb; Fe fŷdd dâ gennif oni chysarfyddaf yn ôl hŷn a'r fâth ym­driniaeth; Er fy môd yn tybied nad aethom ni etto tuhwnt i bôb peryglon; Pa fôdd bynnag, gan na ddarfu ir Llew na'r Arth mo'n disa hŷd yn hŷn, yr wŷf yn gobeithio hefŷd a gwared Duw ni oddiwrth y Philistiaid dienwaededig nessaf; Yna a canodd Cristion fel hŷn.

Ychydig ffŷdd, pa le buost di?
Ai ynghwmpeini lladron?
Ai fellu 'gwnaeth yr enwir blâ,
Ai'th bocced a 'speiliason?
Cais gan hynnŷ ychwaneg ffŷdd,
Os mynni dorfeudd orfod;
Fel hŷn dros ddengmîl yr âl di,
Onide mae tri yn ormod.

Fellu hwŷ a aethant ymlaen, ac Anwŷbodaeth a'i canlynodd hŷdoni ddaethant lle yr oedd ffordd arall yn dyfod iw ffordd hwŷnt, yr hon a ymddang­osai mor uniawn ar ffordd oedd ganthŷnt hwŷ i fyned rhŷd-ddi: Ac ni wŷddent hwŷ ymma pa un or hdwŷ a gymmerent: Canŷs yr oedd pôb un yn union o'u blaen hwŷnt; Ac am hynnŷ hwŷ a safasant ymma dro i ystyried; Ac fel yr oeddŷnt [Page 163] yn myfyrio ynghŷlch y ffordd; Wele ŵr o wŷneb­prŷd gô-ddû yn dyfod attŷnt, wedi ei ddilladu a gwîsc wen iawn; Ac yn gofŷn iddŷnt pa ham yr oeddŷnt yn sefŷll yno? Hwŷthau a'u hattebasant ef, eu bôd yn myned tua'r Ddinas Nefol, ond nis gwŷddent pa un o'r ddwŷ ffordd a gymmerent: Dilynwch fi ebŷr y Gŵr, canŷs yno yr ydwŷfinneu yn myned: Fellu hwŷ ai canlŷnasant ef rhŷd y ffordd newŷdd, yr hon oedd yn arwain ir brif ffordd, A'r ffordd ymma bôb yn ychydig a osgôodd ac a drodd, ac a'u dygodd hwŷn oddiwrth y Ddinas, Yr hon yr oeddent yn chewnnychu myned iddi; Hŷd onid oeddent mewn ychydig amser wedi troi eu hwŷnehau oddiwrthi; Er hynnŷ hwŷ ai canlŷnasant ef; Ond ymhen ennŷd fe a'u tywŷ­sodd hwŷ i rwŷd heb wŷbod iddŷnt; Yn yr hon a maglwŷd hwŷ ill dau, fel na wŷddent pa beth a wnaent; Ac ar hynnŷ y wisc wen a syrthiodd oddi­am Gefn y Gŵr dû; Yna gwŷbuant ymha le yr oeddŷnt; Ac yno a buont dros rŷw amser yn cwŷno, ac yn ocheneidio, canŷs i roeddent yn methu dyfod allan o rhwŷd.

CRISTION. Yna ebŷr Cristion wrth ei gyd­ymaith, yrawron yr wŷf yn gweled fy nghamgym­eriad; Oni archodd y Bugeiliaid, i ni ochelŷd y Gwenheithwr? I mae gennŷm brofiad yrawron mai gwir a ddywedodd y Gŵr doeth. sef, y dŷn a ddywedo weniaith wrth ei gymydog, sŷdd yn tanu rhwŷd iw draed ef ( Diharebion 29.5.)

Gobeithiol. Hwŷ a roddasant i ni hefŷd yscrifen o gyfarwŷddiad am y ffordd, fel a gallem ei chadw hi yn siccrach; Ond fe ddarfu i ni ollwng dros gôf ddarllen yn honno hefŷd, ac nid ymgadwasom rhag llwŷbrau yr yspeiludd; Yn hŷn yr oedd Dafŷdd yn ddoethach na ni; Canŷs ebŷr ef; (an­weithredoedd dynnion) wrth eiriau dy wefusau yr [Page 164] ymgedwais rhag llwŷbrau yr yspeiludd ( Psalm 17.4.) Fel hŷn a buant yn cwŷno ac yn ymofudio, am eu bôd mewn cyflwr caeth yn y rhwŷd: O'r diwedd, hwŷ a ganffuant ŵr mewn gwisc ddifclair, yn dyfod tuagattŷnt a chwip o gŷrt mân yn ei law; Ac wedi iddo ddyfod attŷnt fe ofynnodd iddŷnt, o ba le yr oeddŷnt yn dyfod? A pha beth yr oedd­ŷnt yn ei wneuthur yno? Hwŷthau a ddywedasant, mai Pererinod tlodion oeddŷnt yn myned tua Seion, ond wedi eu hudo allan o'u ffordd gan ŵr dú, wedi ei ddilladau mewn gwisc wen; Yr hwn (ebŷr nhw) a archodd i ni ei ganlŷn ef; Canŷs yr oedd yntef (meddai ef) yn myned tuag yno hefŷd: Yna ebŷr hwn oedd a'r chwip yn ei law, Gwenheithiwr ydŷw ef a gau Apostol, yr hwn a ymrithiodd i rith Angel goleuni ( Diharebion 29.5. Daniel 11.32. 2 Corinthiaid 11.13, 14.) Fellu efe a dorrodd y Rhwŷd, ac a'u gollyngodd hwŷnt allan: Yna ebŷr ef wrthŷnt hwŷ, canlynwch fi, fel a gosodwŷf chwi ar eich ffordd drachefn; Fellu fe a'i dyg­odd yn eu hôl i'r ffordd, yr hon a adawsent hwŷ i ganlŷn y Gwenheithiwr: Yna fe a ofynnodd idd­ŷnt ymha le a lletteuasoch neithiwr? Hwŷthau a attebasant gyda'r Bugeiliaid ar y mynyddoedd hyfrŷd: Gofynnodd iddŷnt ymhellach oni chaw­soch gan y Bugeiliaid yscrifen o hyspysrwŷdd am y ffordd? Hwŷthau a attebasant cawsom; Ond ebŷr ef pan oeddech yn ameu ynghŷlch y ffordd, a edrŷchasoch chwi yn yr yscrifen honno i gael cyf­arwŷddiad amdani? Na ddo ebŷr nhwŷthau; Pa ham nas gwnaethoch fellu ebŷr yntef? Ni a ang­hofiasom wneuthur hynnŷ ebŷr y Pererinod: Yna gofynnodd ef iddŷnt ymhellach, Oni rybuddiodd y Bugeiliaid chwi i ochelŷd y Gwenheithiwr? Do ebŷr nhw; Ond nid allem ni dybied mai'r Gŵr tafod-bêr ymma ydoedd ef ( Rhufeiniaid 16.18.)

[Page 165]Yna yn fy mreuddwŷd, mi a glywn yr un disclair yn gorchymŷn iddŷnt orwedd i lawr; Yr hŷn pan wnaethant, efe a'u curodd hwŷ'n dost, i wneuthur iddŷnt gofio yn well y ffordd ddâ, yn yr hon a dylas­ent rodio ynthi; Ac wrth eu chwipio hwŷnt, efe a ddywedodd, Yr wŷfi yn argyoeddi, ac yn ceryddu y sawl yr wŷf yn eu caru: Am hynnŷ bydded Zêl gennit, ac edifarha: Ac wedi iddo wneuthur fellu, efe a archodd iddŷnt fyned iw ffordd; Ac i fôd yn fwŷ gofalus i ddal sulw rhagllaw ar Hyfforddiadau eraill y Bugeiliaid ( Deuteronomium 25.2. 2 Chro­nicl 6.26, 27. Datcuddiad 3.19.) Fellu hwŷ a ddiolchasant iddo am ei holl garedigrwŷdd, ac a aethant yn araf rhŷd y ffordd union dan ganu.

Y sawl sŷ'n rhodio llwŷbrau'r Saint,
Edrychwch faint iw'r archoll,
A gafodd Pererinod gwâr;
Am fyned ar gyfyrgoll.
Mewn rhwŷdau, maglau, myglŷd maith,
Eu dal yn gaeth a wnaethwŷd,
Am eu gwaith nhw'n gwrthod gwîr
Gynghorlon difŷr, dofwŷd.
Gwîr ydŷw iw gwaredŷdd pûr,
Eu dwŷn o'u cûr, a'u cysludd:
Ond derbŷniasant fflangell drwch,
Am hŷn cymerwch rybŷdd.

Ac yno ymhen ennŷd, hwŷ a ganffuant o hirbell un yn dyfod yn araf ei hunan rhŷd y ffordd fawr iw cyfarfod hwŷnt: Yna ebŷr Cri­stion wrth ei gydymaith, Daccw ŵr a'i gefn tua Seion, ac i mae ef yn dyfod i'n cyfarfod ni.

Gobeithiol. Mi a'i gwelaf ef yn dyfod, edrychwn [Page 166] attom ein hunain yrawron, rhag iddo yntef fôd yn Wenheithiwr hefŷd; Fellu fe a ddaeth nes nes, ac o'r diwedd a ddaeth i fynu attŷnt; A'i enw ef oedd Athŷst (hynnnŷ ŷw dŷn nad ŷw'n credu fôd Duw) ac efe a ofynnodd iddŷnt i ba le yr oeddent yn myned?

CRISTION. Yr ydŷm ni'n myned ebŷr Cri­stion i Fynŷdd Seion.

Yna chwarddodd yr Athŷst yn uchel iawn.

CRISTION. Pa ham yr ydŷchi yn chwerthin ebŷr Cristion?

Athŷst. Yr ydwŷf yn chwerthin wrth weled eich anwybodaeth; Ac am i chwi gymmerŷd cŷn flined siwrnai, Pan nad ydŷch debŷg i gael dim ond eich poen am' eich llatur.

CRITSION. Pa ham Ddŷn? Ai tybied yr wŷti na dderbynir monom ir Ddinas Nefol?

Athŷst. Eich derbŷn! Nid oes mor fâth le ac yr ydŷch chwi'n breuddwŷdio amdano yn yr hôll fŷd ymma.

CRISTION. Ond mae ef yn y Bŷd a ddaw.

Athŷst. Pan oeddwn i gartref yn fy ngwlâd fy hun, myfi a glywais rai yn siarad megis yr ydŷchi yrawron am y fâth Ddinas, ac wrth glywed hynnŷ, mi a ymadewais a'm Gwlâd, Ac a fum yn ymofŷn am y Ddinas hon er ys ugain mlynedd, Ond ni bum i ddim cymhennhach ( Pregethwr 10.3.) Ac ni welais i fwŷ o honi na'r dŷdd cyntaf yr aethum allan.

CRISTION. Nyni a glywsom, ac yr ŷm ni yn credu fôd y fâth le iw gael.

Athŷst. Oni basai i minneu gredu hynnŷ pan oeddwn gartref; Ni ddaethwn i cŷn belled a hŷn i ymofŷn amdani; Ond gan na chefais i'r fâth le (ac etto myfi a'i cawswn pedfasai iw chael; Canŷs mi a aethŷm i ymofŷn am y Ddinas hon [Page 167] ymhellach na chwi) yr wŷfi'n myned yn ôl drachefn, Ac mi a ymegniaf im cysuro fy hun ar pethau a fwriais i ymaith y prŷd hwnnw, mewn Gobaith i fwŷnhau y pethau yr ydwŷf yn gweled yrawron nad ydŷnt iw cael

CRISTION. Yna ebŷr Cristion wrth ei gyd­ymaith Gobeithiol, a'i gwir ŷw'r hŷn a ddywaid y Gŵr ymma.

Gobeithiol. Gwiliwch, un o'r gwenheithwŷr yd­ŷw ef; Cofiwch beth a gostiodd i ni eusus am wran­do ar y fâth gy [...]ndeithion a rhain; Mai ef yn dywed­ŷd nad oes mor fâth le a mynŷdd Seion? Oni welsom ni Bŷrth y Ddinas oddiar bennau y mynyddoedd hyfrŷd? Ac hefŷd onid ydŷm ni yrawron i fŷw wrth ffŷdd, ac nid wrth olwg (2 Corinthiaid 5.7.) Awn rhagom ebŷr Gobeithiol, rhag i'r Gŵr a'r chwip ein goddiwes ni drachefn.

Chwychwi a ddylasech ddyscu'r wers ymma I mi, yr hon a ddyscafi yraw ron i chwi; Fy mâb, paid a gwrando yr addŷsc a bair i ti gyfeillorni oddiŵrth eiriau gwŷbodaeth ( Diharebion 19.27.) Fy mrawd (meddafi) Paid a gwrando arno ef, a chredwn i gadwedigaeth yr enaid ( Hebreaid 10.39.)

CRISTION. Fy mrawd, ni ofynnais i mo'r ewestiwn ymma i ti, o herwŷdd fy môd yn ammeu dim o'r gwirionedd, yr hŷn yr ŷm ni yn ei gredu, ond i'th brofi di; Ac i gael gweled ffrwŷth gon­estrwŷdd dy galon: Ac am y Gŵr ymma, myfi a wn ei fôd ef gwedi ei ddallu gan Dduw'r bŷd hwn: Awn rhagom, gan wŷbod ein bôd yn credu'r Gwirionedd, yn yr hwn nid oes gelwŷdd (1 Joan 2.21.)

Gobeithiol. Yr wŷf yn llawenychu yrawron, mewn gobaith i feddianu gogoniant Duw: Fellu hwŷ a droesant eu cesnau ar Athŷst; Ac yntef a aeth i ffordd dan chwerthin.

[Page 168]Yna a gwelwn y Pererinod yn myned ymlaen, hŷdoni ddaethant i rŷw wlâd, lle yr oedd yr awel yn naturiol yn peri i ddynnion gyfcu (yn enwedig os Dieithraid fyddent) Ac ymma a dechreuodd Gobeithiol fôd yn farwedd iawn, ac yn drwmluog gan gyscu; Am hynnŷ ebŷr ef wrth Gristion, yr wŷfi yrawron mor gyscedig, fel mai prin yr ydwŷf yn gallu cadw fy llygaid yn agored; Gorweddwn ymma a chymmerwn gyntŷn.

CRISTION. Na wnawn (ebŷr ef) mewn môdd yn y Bŷd, rhag wedi cyscu na ddeffrôm mwŷ.

Gobeithiol. Pa ham fy mrawd, melus ŷw hûn y gweithwr, fe allai yr hybir ni os cyscwn ychydig.

CRISTION. Onid ydŷch chwi'n cofio i un o'r Bugeiliaid beri i ni ochelŷd rhag y tîr a felltith­wŷd? Ei feddwl ef wrth ddywedŷd fellu oedd, am i ni ochelŷd cyscu, am hynnŷ na chyscwn fel rhai eraill, ond Gwiliwn a byddwn sobor (1 Thesoloniaid 5.6.)

Gobeithiol. Yr wŷf yn cydnabod fy môd i ar fai; A pha baswn ymma yn unig, baswn debŷg i gyscu hŷd Angeu: Mi a welaf mai gwîr a ddy­wedodd y Gŵr doeth, Gwell ŷw dau nag un; Trugaredd mawr a fu dy gymdeithas di i mi hŷd yn hŷn; A thi a dderbynni wobr am dy lafur ( Pregethwr 4.9.)

CRISTION. Yna ebŷr Cristion, gadewch i ni ymddiddan ynghŷlch rhŷw beth buddiol, fel a bo i ni trwŷ hynnŷ ymgadw ein hunain yn effro.

Gobeithiol. O wŷllŷs fy nghalon ebŷr Gobeithiol.

CRISTION. Pa le a dechreuwn.

Gobethiol. Dechreuwn os gwelwch fôd yn ddâ ynghŷlch y môdd a dechreuodd Duw weithio Grâs ynom ni.

CRISTION. Ond ebŷr Cristion, mi a ganaf i chwi'n gyntaf y gân hon.

Pan fyddo'r Duwiol werin,
A chŵsc iw trwblo'n dra-blin;
Gwrandawant yr ymddiddan clau,
Sŷdd rhwng y ddau Bererin.
A dyscant gymrŷd cyffro,
A'u cadw eu hun yn effro;
Rhag cael arnŷnt ormod gwall,
A bôd i'r fall eu twŷllo.
Am hŷn, i'r sawl sŷ berffaeth,
Cwmpeini'r Saint sŷdd odiaeth,
I gadw eu llygaid rhag cau ynghŷd:
Er gwaetha'r ysprŷd diffaith.

CRISTION. Yna Cristion a ddechreuodd, ac a ddywedodd, myfi a ofynnaf i chwi un cwestiwn; Pa fôdd a daethoch chwi ar y cyntaf i feddwl am y pethau yr ydŷch chwi yrawron yn eu gwneuthur?

Gobeithiol. Ai meddwl yr ydŷch pa fôdd a daethŷm ar y cyntaf i ymofŷn am iechŷdwriaeth fy Enaid?

CRISTION. Ie, hynnŷ ŷw fy meddwl i.

Gobeithiol. Myfi a fum ennŷd o amser yn cymmerŷd hyfrydwch yn y pethau a welid, ac a werthid yn ein ffair ni; Pethau 'rwŷf yn credu yrawron (pa baswn yn eu canlŷn yn wastadol) a fasent yn fy nwŷn i golledigaeth a distrŷw.

CRISTION. Pa bethau oeddent hwŷ?

Gobeithiol. Hôll drysorau a chyfoeth y Bŷd; Ac hefŷd mi a gymmerais hyfrydwch mawr mwen Glothineb, Meddwdod, Tyngu, Rhegu (gan offrwm fy enaid ir Diawl) dywedŷd Celwŷdd, Aflendid, Torri'r Sabboth; A pha beth nis gwnawn i er go sod o honof fy enaid mewn cyflwr o ddamnedigaeth [Page 170] trwŷ hynnŷ? Ond deallais o'r diwedd wrth wrando ac ystyried geiriau Duw, y rhai a glywais i allan o'ch genau chwi, ac hefŷd o enau ffyddlon fendigedig (yr hwn a ddioddefodd farwolaeth yn ffair Gwagedd am ei ffŷdd a'i fuchedd Dduwiol) sef, Mai diwedd y pethau hŷn ŷw marwolaeth ( Rhufeiniaid 6.21.) Ac mai oblegid y pethau hŷn, i mae digofaint Duw yn dyfod ar blant yr anufudd­dod ( Ephesiaid 5.6.)

CRISTION. A ymroesoch chwi yn ddioed i dderbŷn yr argyoeddiad hwnnw?

Gobeithiol. Na ddo, nid oeddwn yn ewŷllys­gar yn ddiatreg, i ddynabod y gwenwŷn a'r drŵg sŷdd mewn pechod; Nar ddamnedigaeth sŷdd yn ei ddilin ef; Ond pan ddechreuodd fy nghalon grynu dan y gair; Mi a ewŷllysiwn gau fy llygaid yn erbŷn goleuni'r gair.

CRISTION. Ond pa beth oedd yr achos pa ham yr ymddygasoch fel hŷn, tan weithredoedd cyntaf yr ysprŷd glân ynoch chwi?

Gobeithiol. Yr achosion oeddŷnt,▪ Yn gyntaf em nas gwŷddwn i mai gwaith ysprŷd Duw oedd yr argyhoeddiad ymma; Ac ni wŷbum i erioed o'r blaen mai trwŷ ddeffroad am bechod yr oedd Duw yn dechreu gweithiô troiadigaeth pechadur; Yn ail yr oedd pechod yn felus etto i'm cnawd; Ac yr oedd yn anodd gennif ymadel ag ef; Yn drydŷdd Ni wŷddwn i pa fodd yr ymadawn a'm hên gym­deithion, gan mor ddymunol yr oedd eu cwm­peini, eu hymadroddion, a'u gweithredoedd gennif; Yn bedwaredd yr oedd yr oriau hynnŷ, yn y rhai yr argyhoeddid fi am fy mhechod, mor gyffrous, ac mor ddychrynllŷd i mi, fel na allwn gymaint a meddwl amdanŷnt heb arswŷd yn fy nghalon.

CRISTION. Mae'n debygol wrth hynnŷ eich bôd weithieu yn cael esmwŷthdra oddiwrth [Page 171] y trwbwl yr oedd yr argyhoeddiadau ymma yn ei weithio ynoch.

Gobeithiol. Oeddwn yn ddiammeu, ond hwŷ a ddaent i'm côf drachefn; Ac yna a byddwn cynddrwg, ie yn waeth fy nghyflwr nag erioed o'r blaen.

CRISTION. Pa ham, beth oedd yn peri i chwi ailgofio'ch pechodau drachefn?

Gobeithiol. Llawer o bethau, Megis pan gyfarfyddwn a Gŵr Duwiol ar y ffordd, Y go­lwg arno ef (yr hwn oedd wedi troi oddiwrth ei bechodau) oedd yn fy argyhoeddi i, yr hwn ni throeswn etto oddiwrthŷnt; Ac yn nesaf pan glywn rŷwun yn darllain y Bibl, Neu pan glywn fôd rhai o'm cymmydogion yn gleifion; Neu fôd clôch yn canu Clul rhŷw un wedi marw: Ac hefŷd pan fyddwn clâf fy hunan, ac a meddyliwn a delai'r amser, yn yr hwn a gorfyddai i mi farw megis eraill, Ac yn enwedig pan glown i am Angeu disyfed a ddigwŷddodd i rai o'm cym­mydogion; Ond tiwnt i ddim pan feddyliwn a gorfyddai i mi fy hun ddyfod ir Farn ar fŷrder.

CRISTION. Ond a allechi un amser fwrw ymaith Euogrwŷdd pechod yn hawdd, pan gymerai afel arnoch trwŷ un o'r pethau hŷn?

Gobeithiol. Na allwn; Canŷs y prŷd hynnŷ, hwŷ a wascent yn drymach ar fy nghydwŷbod; Ac yna os meddyliwn am droi yn ôl at fy mhech­odau (er bôd gennif fwriad i ymadel a hwŷnt) fe fyddai hynnŷ boen dau ddyblig i mi.

CRISTION. A pha fôdd a gwnaech y prŷd hwnnw?

Gobeithiol. Mi a feddyliais fôd yn rhaid i mi wellhau fy muchedd; Onide ebŷr fi i mae'n siccir gennif a byddaf damnedig.

CRISTION. A ddarfu i chwi ymegnio i [Page 172] wellhau eich buchedd?

Gobeithiol. Do, gan droi nid yn unig oddi­wrth fy mhechodau, Ond hefŷd oddiwrth bôb cwmpeini annuwiol a drygionus; Ac mi a ym­roddais i gyflawni dyledswŷddau crefyddol; megis Gweddio, Darllain, Galaru am fy mhechodau, dywedŷd y Gwîr wrth fy nghymydogion &c. Dym­ma'r pethau a wneuthum, a llawer eraill gormod iw hadrodd yn y man ymma.

CRISTION. A oeddŷch yn tybied eich bôd weithiau mewn cyflwr daionus?

Gobeithiol. Oeddwn dros ennŷd, Ond o'r diwedd daeth gofud ar fy ngwartha bendram­wnwgl drachefn; A hynnŷ wedi i mi wellhau fy muchedd.

CRISTION. Pa fôdd a digwŷddodd hynnŷ, gan eich bôd yrawron wedi adnewŷddu eich buchedd.

Gobeithiol. Yr oedd amrŷw o bethau yn peri ir gofud hwnnw ddyfod arnaf drachefn; Yn en­wedig y cyfrŷw ymadroddion a'r rhain, Ein hôll gyfiawnderau ydŷnt megis brattiau budron; Ni chyfiawnheir un cnawd trwŷ weithredoedd y ddeddf: Wedi i chwi wneuthur y cwbl ôll ag a orchymmynwŷd i chwi, dywedwch Gweision an­fuddiol ydŷm ( Esaŷ 64.6. Rhufeiniaid 3.20. Luc 17.10.) Ynghŷd a llawer mwŷ o'r fâth ymad­roddion; Ac oddiwrth hynnŷ yr oeddwn yn ymresymmu ynof fy hun fel hŷn: Os ydŷw fy hôll gyfiawnderau i fel brattiau budron, os ni chy­fiawnheir un cnawd trwŷ weithredoedd y Ddeddf; Ac os nad ydŷm ond gwelsion anfuddiol wedi i ni wneuthur y cwbl ôll ag a orchymynnwŷd; Yna ffolineb mawr ŷw ceisio'r Nefoedd trwŷ weithred­oedd y Ddeddf: Mi a feddy liais hefŷd ymhellach fel hŷn; Os â gŵr mewn dyled i sioppwr gant o bunau; A thalu am yr hŷn ôll a elo gantho o'r [Page 173] siop yn ôl hynnŷ▪ Etto er hynnŷ os bŷdd ei hên ddyled yn aros ar y Llyfr yn wastadol heb ei groesi, fe eill y sioppwr gwŷno arno am ei hên ddyled, a'i fwrw yngharchar hŷdoni thalo ef y ddyled honno.

CRISTION. Wele pa ddeunŷdd a wnaethoch o'r pethau hŷn?

Gobeithiol. Mi a feddyliais ynof fy hun fel hŷn; Myfi trwŷ fy mhechodau a redais ar yscôr ymhell yn Llyfr Duw; Ac nad oedd fy ngwellhâd presennol yn talu mo'r Dyled hwnnw; Ac am hynnŷ a dylwn i feddwl yn wastadol (dan fy hôll gyfnewidiadau) pa fôdd a rhyddheid fi oddiwrth y ddamnedigaeth oedd ddyledus i mi am fy nhross­eddiadau o'r blaen.

CRISTION. Deunŷdd dâ ydoedd hynnŷ, er­tolwg ewch rhagoch.

Gobeithiol. Y peth arall am blinodd (er pan ddechreuais yn hwŷr wellhâu fy muchedd) ydoedd hŷn; Sef pan edrychwŷf yn fanwl ar y pethau goreu yr ydwŷf yn eu gwneuthur yrawron; yr wŷf yn canfod pechod yn wastadol (ie pechodau newŷdd) ynghymŷsc a'm gweithredoedd goreu; Hŷd onid ydwŷf yn rhwŷm yrawron i farnu (er fy hôll feddyliau angall, a baich amdanaf fy hun, a'm Dyledfwŷddau o'r blaen) ddarfod i mi droseddu digon wrth geisio cyflawni un dyledswŷdd, i beri fy nanfon i Uffern, ped fasai fy muchedd gŷnt yn ddifai.

CRISTION. A pha beth wedi hynnŷ a wnaethoch?

Gobeithiol. Nis gwŷddwn pa beth a wnawn, hŷdoni adroddais fy meddwl wrth ffyddlon; Canŷs yr oeddem ni yn gydnabyddus iawn a'u gilŷdd: Ac efe a ddywedodd wrthif, Oddigerth i mi gael Cyfiawnder un na phechasai erioed; Nas gallai na'r elddof fy hun, na chyfiawnderau'r hôll Fŷd [Page 174] mo'm hachub.

CRISTION. A oeddechi'n tybied ei fôd ef yn dywedŷd y wir?

Gobeithiol. Pedfasai'n dywedŷd fellu wrthif pan oeddwn yn ymhyfrydu, ac yn ymfodloni yng­wellhâd fy muchedd: Mi a'i galwaswn ef yn ynfŷd am ei boen; Ond yrawron, gan fy môd yn gweled fy ngwendid fy hun, a'r pechodau sŷ'n glynu wrth fy nyledswŷddau goreu, fe orfŷdd i mi fôd o'r un feddwl ac yntef.

CRISTION. Ond a oeddechi yn tybied (pan ddywedodd ef gyntaf hynnŷ wrthŷch) fôd y sâth ŵr iw gael; Am yr hwn a gellid dywedŷd yn hŷf na wnaeth ef bechod erioed?

Gobeithiol. I mae'n rhaid i mi gyfaddef fôd yn o ryfedd gennif glywed y geiriau hŷn ar y cyn­taf; Ond yn ôl ymddiddan ag ef ymhellach, a chael o honof ychydig anghwaneg o'i gymdeithas, fe a rodd i mi gyflawn fodlonrhwŷdd am y peth.

CRISTION. A ofŷnasochi iddo ef pwŷ oedd y Gŵr hwn; A pha fôdd a caechi eich cyfiawnhau trwŷddo ef?

Gobeithiol. Do, ac efe a ddywedodd mai'r Arglwŷdd Jesu oedd, yr hwn sŷ'n eistedd ar dde­heulaw y Goruchaf ( Hebreaid 10. Rhufeiniaid 4. Colossiaid 1. 2 Peter 1.) Ac fel hŷn (ebŷr ef) a cyfiawnheir chwi trwŷddo ef; Sef trwŷ ymddi­ried yn yr hŷn a wnaeth ef yn nyddiau ei gnawd­oliaeth, a'r hŷn a ddioddefodd ef ynghrog ar bren: Mi ofynnais iddo ymhellach, pa fôdd a gallai cyfi­awnder y gŵr hwn fôd yn effeithiawl i gyfiawn­hau un arall ger bron Duw? Ac fe a ddywedodd mai y Daw Hôllalluog ydoedd ef; Ac iddo wneu­thur yr hyn a wnaeth, a marw hefŷd, nid trosto ei hun, ond trosofi; Ac a cyfrifid ei ufudd-dod ef, a'i haeddedigaethau i mi os credwn i-yntho.

[Page 175] CRISTION. A pha beth a wnaethoch gwedi hynnŷ.

Gobeithiol. Myfi a wrth-ddywedais nas gallwn i gredu fôd Crist yn ewŷllysgar i'm hachub.

CRISTION. Pa bêth a ddywedodd ffyddlon am hynnŷ?

Gobeithiol. Efe a archodd i mi fyned atto, a threio pa un a wnai ef a'i f'achub i ai peidio; Yna minneu a'i hattebais, mai rhyfŷg oedd hynnŷ ( Matthew 11.28.) Yntef a ddywedodd nage; Canŷs fe'th wahoddwŷd i ddyfod atto: Yna fe a roddodd i mi lyfr o argraphiad Jesu ei hun, i'm hannog i ddyfod atto yn hyfach; Ac efe a ddy­wedodd am y Llyfr hwnnw, fôd pôb mymrŷn o hono ef yn fwŷ parhaus a safadwŷ na'r Nefoedd a'r Ddaiar ( Matthew 24.35.) Yna mi a ofynnais iddo, pa beth a wnawn pan ddelwn atto? Yntef a ddywedodd wrthŷf, fôd yn rhaid i mi grefu (ar fy ngliniau a'm hôll galon, ac a'm hôll Enaid) ar y Tâd, am ei ddatcuddio ef i mi ( Psalm 95.6. Jeremi 29.13.) Wedi hynnŷ mi ofynnais iddo ymhellach, ymha le a gallwn i gael cyfarfod ag ef? Ac yntef a'm hattebodd; Dôs, a thi a gai ei gyf­arfod ef ar orseddfa Trugaredd ( Exodus 25.22.) Lle y mae'n eistedd trwŷ'r hôll flwŷddŷn, i roddi gollyngdod a maddeuant i'r sawl a ddelant atto; Minneu a ddywedais nas gwŷddwn i pa beth iw ddywedŷd wrtho, pan ddown atto: Yna ebŷr ef, dywed wrtho i'r pwrpas hwn; Duw bŷdd dru­garog wrthif Bechadur; A phar i mi ddynabod Jesu Grist. a chredu yntho: Canŷs mi welaf, ped­fasai ei gyfiawnder ef heb fôd, ac oni bŷdd gennif inneu ffŷdd i gredu y cyfiawnheir fi, trwŷ ei gy­fiawnder ef, ddarfod amdanaf yn dragywŷdd: Arglwŷdd mi a glywais dy fôd di yn Dduw tru­garog, ac i ti ordeinio dy Fâb Iesu Grist i fôd [Page 176] yn lachawdwr y Bŷd: Ac ymhellach, dy fôd di yn ewŷllysgar iw roddi ef, i fôd yn Achubwr i'r fâth Bechadur truan ag ydwŷfi (ac yn wîr yr wŷfi yn Bechadur mawr) Cymmer gan hynnŷ Arglwŷdd yr odfa hon, a gogonedda dy râs ynghadwedigaeth fy Enaid i, trwŷ dy fâb Iesu Grîst. Amen.

CRISTION. A wnaethoch chwi fel a gorch­ymynwŷd i chwi?

Gobeithiol. Do drachefen, a thrachefn.

CRISTION. A ddarfu i Dduw ddatcuddio ei Fâb i chwi?

Gobeithiol. Na ddo y tro cyntaf na'r ail, na'r drydŷdd, na'r bedwaredd, na'r bummed, nac etto ar y chweched waith.

CRISTION. Pa beth a wnaethoch yn ôl hŷnnŷ▪

Gobeithiol. Pa beth a wneuthŷm? Nis gwŷ­ddwn i pa beth a wnawn.

CRISTION. Oni feddyliasochi roddi heibio weddio?

Gobeithiol. Dô gantoedd o weithiau.

CRISTION. A phaham nas gwnaethoch fellu?

Gobeithiol. Am fy môd yn credu mai gwir oedd yr hŷn a ddywedwŷd wrthif; Sef heb gyfi­awnder Crist nas gallai'r hôll Fŷd fy achub i: Ac am hynnŷ mi a feddyliais ynof fy hunan; Os rho­ddaf heibio weddio, marw a fyddaf; Ac nis gallafi ond marw, os gweddiaf o flaen Gorseddfaingc y Grâs: Ac ar hynnŷ fe ddaeth y geiriau hŷn im côf; Os erys y weledigaeth, disgwyl umdani; Canys gan doyfod a daw, ac nid oeda ( Habac­cuc 2 3.) Fellu mi ddyfal barhais yn gweddio, hŷd oni ddatcuddiodd Duw ei Fâb i mi.

CRISTION. A pha fôdd a datcuddiodd Duw ef i chwi?

Gobeithiol. Ni welais i mono ef a'm llygaid corphorol, ond a golwg o ffŷdd, Gan fôd llygaid [Page 177] fy meddwl wedi goleuo ( Ephesiaid 1.18.) Ac fel hŷn a bu: Yr oeddwn ar Ddiwrnod yn athrist iawn (i'm tŷb i yn dristach nag a hum i un amser o'm heinioes) ar tristwch hwn a ddaeth arnaf wrth weled o newŷdd fawredd a ffieidd-dra fy mhech­odau: A phan nad oeddwn y prŷd hwnnw yn disgwŷl am ddim ond am Uffern, a damnedigaeth Tragywŷddol i'm henaid; Mi a dybiais yn ddisym­mwth weled o honof yr Arglwŷdd yn edrŷch i lawr o'r Nefoedd arnaf, ac yn dywedŷd wrthif Crêd yn yr Arglwŷdd Iesu, a chadwedig fyddi ( Actau 16.30, 31.)

Ond myfi a attebais, Arglwŷdd yr wŷf yn Bechadur, O yn Bechadur mawr dros ben: Yntef a attebodd, Digon i ti fy 'ngras i; Yna a dywedais inneu, Arglwŷdd pa beth ŷw Credu? Ac wedi hynnŷ a deallais i oddiwrth yr ymadrodd ymma, Yr hwn sŷ'n dyfod attafi ni newŷna; A'r hwn sŷ'n credu ynofi ni sycheda un amser ( Joan 6.35.) Yr un peth ŷw credu Yng Hrist a dyfod atto: A bôd yr hwn sŷdd yn dyfod atto, Sef sŷ'n fychedu yn ei galon yn ôl Iechŷdwriaeth trwŷ Grîst, mae hwnnw (meddafi) yn credu yntho mewn gwirionedd: Yna a'r dwfr yn sefŷll yn fy llygaid, mi a ofynnais iddo ymhellach; Arglwŷdd, a ddichon y fâth Bechadur mawr ag wŷfi gael ei dderbŷn gennit, a bôd yn gadwedig trwŷddot? Ac yntef a attehodd, Yr hwn a ddel attaf nis bwriaf ef allan ddim ( Joan 6.37.) Yna mi a ddywedais, Pa fôdd Arglwŷdd a mae'n rhaid i mi dy ystyried di wrth ddysod attad; Fel a bvddo fy ffŷdd wedi ei gosod yn union arnati? Yna fe a ddywedodd, Crist Iesu a ddaeth i'r Bŷd i gadw'r pechaduriaid (1 Timotheus 1.15.) Crist ŷw di­wedd y ddeddf er cyfiawnder i bôb un sŷ'n credu ( Rhufeiniaid 10.4.) Efe a draddodwŷd tros ein pech­odau [Page 178] ni, ac a gyfodwŷd i'n cyfiawnhau ni ( Rhuf­einiaid 4.25.) Efe a'n carodd ni, ac a'n golchodd ni oddiwrth ein pechodau a'i waed ei hun ( Datcu­ddiad 1.5.) Efe ŷw y cyfryngwr rhwng Duw a ny­ni (1 Timotheus 2.5.) I mae ef yn fŷw bôb amser l weddio trosom ni ( Hebreaid 7.24, 25.) Oddi­wrth yr hŷn ôll cesglais a bŷddai rhaid i mi ddisgwŷl am gyfiawnder yn unig yn ei Berson ef, ac am iawn tros fy mhechodau trwŷ ei waed ef, ac nid trwŷ ddim arall: Ac mi a gesglais ymhellach, fôd yr hŷn a wnaeth ef mewn ufudd-dod i gyfraith ei Dâd, a'i ddarostyngiad ef i ddioddef cospedig­aethau, am waith rhai yn troseddu'r gyfraith honno (fôd hŷn ôll meddafi) wedi ei wneuthur, nid trosto el hun, Ond tros y sawl a'i derbyniai ef yn iachawdwr iddŷnt, ac a fyddai diolchgar iddo; Ac yrawron yr oedd fy nghalon yn llawn o lawenŷdd, fy llygaid yn llawn o ddagrau, ac yr oedd gennif serch rhyfeddol tuagat Enw, a Phobl, a Ffŷrdd yr Arglwŷdd Iesu Grîst.

CRISTION. Dymma ddatcuddiad o Grîst i'ch Enaid mewn gwirionedd; Ond dywedwch i mi yn fwŷ neilltuol, pa beth a weithiodd hŷn yn eich ysprŷd chwi.

Gobeithiol. Fe wnaeth hŷn i mi weled fod yr hôll Fŷd, (er eu hôll gyfiawnderau) mewn stâd o ddamnedigaeth: Fe wnaeth i mi weled er bôd Duw'r Tâd yn gyfiawn, a geill ef er hynnŷ igŷd gyfiawnhau y pechadur a ddêl atto; Fe wnaeth hŷn i mi gywilŷddio yn fawr am fryntni fy muchedd gŷnt; Ac fe a'm gwradwŷddwŷd i'n fawr, wrth feddwl faint oedd fy hên Anwŷ­bodaeth; Canŷs ni feddyliodd fy nghalon i erioed o'r blaen, fôd Iesu Grîst mor brydferth, a'm hôd i yn sefŷll (fel a mae pawb eraill) mewn diffŷg o hono, l'm glanhau a'm cyfiawnhau, a'm cadw [Page 179] rhag uffern, ac i roi i mi fywŷd tragywŷddol: Fe wnaeth hŷn i mi garu buchedd sanctaidd, a hiraethu am wneuthur rhŷw-beth, er Anrhydedd a Gog­oniant i Enw'r Arglwŷdd Iesu; Ie yr wŷfi'n tyb­ied yrawron, pa bae bossibl fôd gennifi Fil o Alwŷni o waed yn fy ngorph, a gallwn i golli pôb dafn o hono er mwŷn yr Arglwŷdd Iesu.

Yna gwelwn (yn fy mreuddwŷd) Obeithiol yn edrŷch o'i ôl, ac efe a ganfu y Gŵr a elwid Anwŷbodaeth (yr hwn a adawsent ar eu hôl) yn eu canlŷn hwŷnt; Gwelwch ebŷr ef wrth Gristion, fel a mae y glâs-iangc accw yn loetrio ar ein hôl.

CRISTION. Ie, mi a'i gwela ef, ond ni waeth gantho fawr am ein cwmpeini ni.

Gobeithiol. Ond yr ydwŷfi'n tybied na chaw­sei ef niweid yn y Bŷd o'n canlŷn ni hŷd yn hŷn.

CRISTION. Gwir iawn ŷw hynnŷ, ond mi a wrantaf i chwi ei fôd e'n meddwl yn amgen.

Gobeithiol. Fellu yr wŷf inneu yn tybied hefŷd; Ond er hynnŷ gadewch i ni aros amdano ef, Ac fellu a gwnaethant: Yna Cristion a alwodd arno, gan ddywedŷd wrtho, Dowch ymlaen ŵr, paham yr ydŷch yn sefŷll o'r ôl yn y môdd yna?

Anwŷbodaeth. I mae'n fwŷ dewisol gennifi rodio ar fy mhen fy hunan, na chyda cwmpeini, oni bae fy môd yn caru y cwmpeini hwnnw yn well na'ch cwmpeini chwi.

Yna ebŷr Cristion yn ddistaw wrth Obeithiol; Oni ddywedais i wrthŷch chwi, nad oedd fatter gantho ef am ein cymdeithas ni? Ond pa fôdd bynnag ebŷr ef, dowch a siaradwn a'i gilŷdd i ddifyrru'r amfer yn y lle anghyfannedd hwn: Yna gan ymroi i ymadrodd ag Anwŷdodaeth, fe a ddy, wedodd wrtho; Pa fôdd yr ydych? Pa fôdd a mae'r matter yn sefŷll rhwng Duw a'ch Enaid chw i yrawron?

[Page 180] Anwŷbodaeth. O'r goreu rwŷl yn gobeithio; Canŷs yr wŷf bôb amser yn llawn o gynhyrfiadau Duwiol, y rhain a redant ar fy meddyliau i'm cysuro yn fy nhaith. ( Dinarebion 28.26.)

CRISTION. Attolwg dywedwch i mi pa gynhyrfiadau dâ ydŷw'r rheini?

Anwŷbodaeth. Yr ydwŷf yn meddwl am Dduw, ac am y Nefoedd.

CRISTION. I mae'r Diawlaid, ac eneidiau'r damnedig yn gwneuthur hynnŷ hefŷd.

Anwŷbodaeth. Ond yr ydwŷfi yn meddwl am danŷnt, ac yn dymuno cael eu mwŷnhau hwŷnt.

CRISTION. Fellu a mae llawer yn dymuno er nad ydŷnt debygol fŷth i ddyfod ir Nefoedd: Enaid y Diog a ddeisŷf ac ni chaiff ddim ( Luc 13.24. Diharebion 13.14.)

Anwŷbodaeth. Ond yr ydwŷfi yn meddwl am danŷnt, ac mi a ymadewais a'r cwbl er mwŷn cael eu mwŷnhau hwŷnt.

CRISTION. Yr wŷf yn ammeu hynnŷ; Canŷs matter caled ydŷw ymadel a'r cwbl; Ie i mae'n beth anhawsach iw wneuthur nag a mae llawer yn ei dybied: Ond pa beth sŷdd yn dy berswaedio di i goelio dy fôd ti wedi ymadel a'r cwbl er mwŷn Duw a'r Nefoedd?

Anwŷbodaeth. I mae fy nghalon yn tystio­laethu i mi hynnŷ.

CRISTION. Y gŵr doeth a ddywed, y neb a ymddiriedo yn ei Galon ei hun sŷdd ffôl ( Dihar­ebion 28.26.)

Anwŷbodaeth. I mae fe'n sôn (yn y mann hwnnw) am Galon ddrŵg; Ond i mae fy nghalon i yn galon ddâ.

CRISTION. Pa fôdd a gwŷddosti hynnŷ?

Anwŷbodaeth. Am fôd fy nghalon yn fy nghy­ssuro i, mewn gobaith a cafi'r Nefoedd.

[Page 181] CRISTION. Fe eill hynnŷ fôd trwŷ dwŷll dy galon di; Canŷs fe all calon Dŷn ei gysuro ef mewn gobaith o rŷw beth, na bo gantho ddim Sail i obeithio am dano ( Jeremi 17.9.)

Anwŷbodaeth. Ond i mae fy nghalon i am buchedd yn gyfattebol iw gilŷdd, ac am hynnŷ i mae gan fy ngobaith i sylfaen ddâ.

CRISTION. Pwŷ a ddywedodd wrthit ti fôd dy galon a'th Fuchedd yn cydtuno a'u gilŷdd?

Anwŷbodaeth. Fy nghalon sŷ'n dywedŷd fellu wrthif.

CRISTION. Os gofynnir i Fam pwŷ sŷ Leidr? Hi a atteb, nid fy mâb i (er ei fôd ef yn Ileidr) fellu os dywaid dy galon di, ei bôd hi a'th fuchedd yn cydtuno a'u gilŷdd; Oni bŷdd gair Duw yn dwŷn yr un tystiolaeth yn y matter­ymma, ni thâl tystiolaeth dy galon di ddim.

Anwŷbodaeth. Onid ydŷw'r Galon honno yn ddâ, yn yr hon a mae meddyliau dâ? Ac onid Buchedd ddâ ydŷw'r hon sŷ wedi ei threfnu yn ôl Gorchymynnion Duw?

CRISTION. Gwîr ydŷw, mae calon ddâ ydŷw'r galon honno, ymha un a mae meddyliau dâ yn aros; A buchedd ddâ ydŷw'r fuchedd honno, sŷdd yn gyfattebol i orchymynion Duw; Ond un peth ŷw bôd y rhain mewn gwirionedd ynom, a pheth arall ŷw tybied eu bôd nhw gennŷm.

Anwŷbodaeth. Ertolwg pa feddyliau yr ŷdŷch chwi yn eu cyfrif yn feddyliau dâ? A pha fuchedd yr ydŷchi yn cyfrif ei fôd yn gyfattebol i orch­ymynion Duw?

CRISTION. I mae amrŷw sâth o feddyllau dâ, rhai yn perthŷn i ni ein hunain, rhai i Dduw, a rhai i Grîst, a rhai i bethau eraill.

Anwŷbodaeth. Pa rai ŷw'r meddyliau dâ, sŷdd yn perthŷn i ni ein hunain?

[Page 182] CRISTION. Y rhai sŷdd yn gytunol a gair Duw.

Anwŷbodaeth. Pa brŷd a mae'n meddyliau amdanom ein hunain yn gydtunol a gair Duw?

CRISTION. Pan fyddom yn rhoddi yr un farn arnom ein hunain ag i mae'r Gair yn ei roddi: Ond i wneuthur y peth yn eglurach, i mae gair Duw yn dywedŷd am ddynnion (yn eu cyflwr natuaiol) fel hŷn; Nid oes neb cyfiawn nag oes un: Nid oes un yn gwneuthur daioni ( Rhufeiniaid 3.10, 12. Genesis 6.5. & 8.21.) Mae'r gair yn dywedŷd hefŷd fôd hôll feddylfrŷd calon dŷn yn unig yn ddrygionus bôb amser; A thrachefn, fôd calon dŷn yn ddrygionus o'i ieuengctid; Yrawron pan fo gennŷm y fâth dŷb a hŷn amdanom ein hunain (gan fôd teimlad o hynnŷ yn ein calon­nau) yna mae'n meddyliau yn ddâ, o herwŷdd eu bôd yn gydtunol a gair Duw.

Anwŷbodaeth. Ni choeliaf i bŷth fôd fy nghalon i cynddrwg a hŷn.

CRISTION. Am hynnŷ ni bu gennie erioed yn dy hôll fywŷd gymmaint ag un meddwl dâ am danat dy hun; Ond dyro gennad i mi i ddywedŷd hŷn wrthit ymhellach; Megis y mae Gair Duw yn rhoddi Barn ar ein calonnau; Fellu hefŷd i mae'r un gair yn rhoddi barn ar ein ffŷrdd; A phan fyddo ein barn ni ein hunain ynghŷlch ein calonnau a'n ffŷrdd, yn cydtuno a'r farn y mae gair Duw yn ei roddi arnŷnt, yna mae'r ddau yn ddâ, am eu bôd yn cydtuno a gair Duw.

Anwŷbodaeth. Eglurhewch eich meddwl yn well.

CRISTITN. I mae gair Duw yn mynegi fôd ffŷrdd dŷn yn geimion; Ac nid yn ddâ, ond yn llygredig; A bôd dynnion (trwŷ naturiaeth) allan o'r ffordd ddâ, heb'ei dynabod hi ( Diharebion 2.15. Rhufeiniaid 3.12.17.) Yrawron pan fo dŷn [Page 183] wedi cael prawf o hŷn ôll yntho el hunan; A phan fo'n ostyngedig yn barnu fel hŷn amdano el hun a'i ffŷrdd; yna i mae'n meddwl yn ddâ am ei galon a'i ffŷrdd; oblegid fôd ei farn ef yrawron yn cyd. tuno a barn gair yr Arglwŷdd.

Anwŷbodaeth. Pa beth ŷw meddyliau dâ am Dduw?

CRISTION. Pan fyddom (megis a dywedais am danom ein hunain) yn meddwl am Dduw, yn ôl yr hŷn a mae ei air yn ei osod allan; hynnŷ ŷw, pan fyddom yn meddwl ei fôd ef yn Bôd, a'i brio. dolaethau ef, megis a'n dysgir gan ei air; Am yr hŷn nis gallaf yrawron draethu yn helaethach: Ond o ddywedŷd amdano mewn perthyniad i ni ein hunain, i mae gennŷm y prŷd hwnnw dŷb dâ, a chymmwŷs am Dduw, pan fyddom yn meddwl ei fôd ef yn ein dynabod ni yn well nag yr ŷm ni yn ein dynabod ein hunain; Ac a geill ef weled pechod ynom, y prŷd ar man na chanffyddom ni mono ynom ein hunain, a phan ydŷm yn cydnabod ei fôd ef yn gwŷbod ein meddyliau dirgelaf, a bôd ein calonnau, a'u hôll ddwfn fwriadau bôb amser yn noeth, ac yn agored iw olygon ef: Ac hefŷd pan ydŷm yn tybied fôd ein hôll gyfiawnderau ein hunain yn drewi yn eu ffroenau ef; Ac am hynnŷ nas geill ef aros ein gweled ni yn sefŷll yn ei wŷdd ef, pan fôm yn hyderu ar ein cyfiawnderau ein hunain, ie neu ar ein dyledswŷddau goreu i gael iechŷdwriaeth trwŷddŷnt.

Anwŷbodaeth. Ydŷchi'n tybied fy môd i mor ynfŷd, a meddwl nad eill Duw weled dim pellach nag a gallafi weled? Neu a down i at Dduw drwŷ hyderu ar fy Nyledswŷddau fy hun er cystal a font hwŷ?

CRISTION. Pa fôdd yr wŷt ti yn meddwl yn y pwngc ymma?

[Page 184] Anwŷbodaeth. Wele, o fôd yn fŷrr, yr wŷfi'n meddwl fôd yn rhaid i mi gredu yng-Hrîst am gyfiawnhâd.

CRISTION. Pa fôdd! Tybied yr wŷt fôd yn rhaid i ti gredu yng-Hrîst, cŷn gweled o honot ei eisieu ef? Nid wŷti yn gweled ynot na phechod gwrelddiol, na phechod gweithredol; Ond mae gennit y fâth dŷb dâ amdanat dy hunan a'th weith­redoedd, a'r sŷ'n dangos yn eglur dy fôd ti'r fâth un na wŷbu erioed fôd yn rhaid i ti wrth y cyfi­awnder a gyflawnodd Crîst yn ei Berson ei hun, i gyfiawnhau pechaduriaid ediseiriol trwŷddo ger bron Duw; Pa fôdd gan hynnŷ a llyfesi di ddy­wedŷd dy fôd ti'n credu, neu fôd yn rhaid i ti gredu yng-Hrîst.

Anwŷbodaeth. Yr wŷfi'n credu yntho yn ddâ ddigon er hynnŷ.

CRISTION. Pa fôdd yr wŷti'n credu?

Anwŷbodaeth. Yr wŷfi'n credu i Grist farw dros Bechaduriaid; Ac a cyfiawnheir fi ger bron Duw oddiwrth y felltith, trwŷ ei rasol dderbyniad ef o'm hufudd-dod i iw gyfraith: Neu fel hŷn; I mae Crîst yn gwneuthur fy nyledswŷddau cre­fyddoli, yn gymmeradwŷ gyda ei Dâd, Trwŷ rin­wedd ei haeddedigaethau ei hun, a dyna'r môdd a câf fy nghyfiawnhau.

CRISTION. Yr wŷf yn atteb i'r gyffes ymma o'th ffŷdd di.

Yn gyntaf, Nid ŷw dy ffŷdd di ond ffŷdd dwŷllodrus; Ac nid ŷw hi'n gynnwŷsedig mewn un rhan o air Duw.

Yn all, Ffŷdd ffals ŷw dy ffŷdd di am dy fôd ti yn ymwrthod a chyfiawnhâd, trwŷ'r cyfiawnder a gyflawnodd Crîst yn ei Berson ei hun; Ac am dy fôd ti hefŷd yn disgwŷl am gael dy gyfiawnhau, trwŷ dy weithredoedd dy hunan.

[Page 185]Yn drydŷdd, Nld ŷw dy ffŷdd di yn gwneuthur Crîst yn gyfiawnwr o'th Berson, ond o'th weith­redoedd di, Ac yn gyfiawnwr o'th Berson di er mwŷn dy weithredoedd, Yr hŷn sŷdd ffals.

Yn bedwerŷdd, Am hynnŷ mae dy ffŷdd di yn dwŷllodrus; Ie i mae hi'n y fâth un, ac a'th âd di dan ddigofaint yn nŷdd y Duw Hôll alluog; Canŷs i mae y wîr ffŷdd (trwŷ ba un i'n cyfiawnheir) yn perl ir eneldiau (sŷ'n deimladwŷ o'u cyflwr colledig trwŷ'r gyfraith) redeg am noddfa at gyfiawnder Crîst, i gael eu cyfiawnhau trwŷ hynnŷ▪ A'r cy­fiawnhâd ymma nid ŷw weithred o râs, trwŷ ba un a mae Crîst yn gwneuthur dy ufudd-dod di yn gymmeradwŷ gyda Duw i'r diben hwn; Fel a bo i ti gael dy gyfia wnhau trwŷ dy ufudd-dod dy hun: Ond gweithred o râs ŷw'r cyfiawnhâd hwnnw, Trwŷ ba un a mae'r enaid yn cael ei gyfiawnhau er mwŷn yr ufudd-dod a gyflawnodd Crîst yn ei Ber­son ei hun, gan wneuthur a dioddef trosom ni, yr hŷn ôll a mae'r gyfarith yn ei ofŷn ar ein dwŷlo ni) y cyfiawnder hwn (meddafi) o eiddo Crîst, i mae gwir ffŷdd yn ei dderbŷn; Tan aden pa un y mae'r enaid yn llechu; A chwedi ei gyflwŷno yn ddi frycheulŷd, yn y cyfiawnder ymma ger bron Duw, i mae'n cael ei dderbŷn yn gymmeradwŷ gydag ef; Ac yn cael ei waredu oddiwrth ddam­nedigaeth tragywŷddol.

Anwŷbodaeth. Pa beth! A fynnwchi i ni ym­ddiried yn yr hýn a wnaeth Crist yn ei Berson ei hun hebom ni? Y cyfrŷw dŷb a hon a ollyngai attaliadau ein hawŷdd yn rhŷddion; Ac a oddefai i bôb un fŷw fel a mynno: Canŷs ni waeth pa fôdd a byddom bŷw, ós cawn ni ein cyfiawnhau trwŷ gyfiawnder personol Crist, oddiwrth ein hôll feiau, ond i ni gredu hynnŷ.

CRISTION. Anwŷbodaeth ŷw dy enw; Ac [Page 186] fel a mae dy enw, fellu hefŷd i mae dy ddeallt­wriaeth; A'th attebion di a wiria yr hŷn yr wŷf yn ei ddywedŷd: Yr wŷt ti yn anghydnabyddus a chyfiawnder Crist, trwŷ ba un i'n cyfiawnheir; Ac yr wŷt ti'n Anghydnabyddus hefŷd ar môdd i gadw dy enaid trwŷ ffŷdd yntho ef, oddiwrth bwŷsfawr ddigofaint Duw: Ie yr wŷt ti yn Anghydnabyddus a gwir ffrwŷthau bŷwiol ffŷdd ynghyfiawnder Crîst, sef i blygu ac i en­nill y galon at Dduw yng-Hrist, i garu ei enw, ei air, ei ffŷrdd, a'i bobi ef; Ac nid fel yr wŷt ti yn dy Anwŷbodaeth yn tybled.

Gobeithiol. Gofvnnwch a ddatcuddiwŷd Crist erioed iddo ef o'r Nefoedd.

Anwŷbodaeth. Pa beth? Gŵr ydŷchi am ddat­cuddiadau! Yr wŷf yn coelio nad ŷw'r hŷn a ddywedasoch chwi eich dau, a'r hŷn a mae pawb eraill o honoch yn ei ddywedŷd ynghŷlch y matter ymma, ond ffrwŷth eich ynfydrwŷdd, a gwendid eich pennau.

Gobeithiol. Paham ŵr! Y mae Crîst mor guddiedig yn Nuw, oddiwrth ddealltwrlaeth naturiol yr hôll ddynnion cnawdol; Fel nas geill un dŷn ei ddynabod ef iw iechŷdwriaeth ei hun, oddigerth i Dduw'r Tâd ei ddatcuddio ef iddo.

Anwŷbodoeth. Hynnŷ ŷw'ch ffŷdd chwi, ac nid fy ffŷdd i; Ac etto nid wŷf yn ammeu nad ŷw fy ffŷdd i cystal a'ch ffŷdd chwithau;-Er nad oes yn fy nghoppa i gymmaint o opiniwnau gweigion ag sŷdd yn eich pennau chwi.

CRISTION. Rhoddwch gennad i minneu i lefaru un gair; Ni ddylechi siarad mor ysgafn am y pwngc ymma: Canŷs hŷn a ddywedaf i yn hŷf (megis a dywedodd fy nghydymaith anwŷf o'r blaen) nad eill un dŷn ddynabod Iesu Grist, [Page 187] oddigerth i'r Tâd ei ddatcuddio ef iddo ( Matthew 11.25.) Ie, ffŷdd hefŷd (a'r hon y mae'r enaid yn dal gafael ar Grist os gwir ffŷdd ŷw hi) a weithir ynghalon dŷn, trwŷ ryfeddol, a mawr allu Duw ( Ephesiaid 1.18.19. & 2.8.) Ond rwi'n deall o Anghydnabyddus, na wŷddosti (druan gŵr) ddim yn y Bŷd, ynghŷlch gweithrediad y ffŷdd ymma yn dy enaid dy hun: Deffro gan hynnŷ, a dwŷs ystyria dy drueni dy hun; A dôs at yr Arglwŷdd Iesu; A thrwŷ ei gyfiawnder ef, yr hwn ŷw cyfiawnder Duw (canŷs mae ef ei hun yn Dduw) fyth waredir di rhag damnedigaeth.

Anwŷbodaeth. Yr ydŷch chwi yn cerdded mor gyflŷm fel nad allafi gŷd-gerdded a chwi, Ewch rhagoch; I mae'n rhaid i mi aros ychydig o'r ôl; Yna y Pererinod a ganasant fel hŷn.

Anwŷbodaeth, Ow! Pa hŷd?
A byddi ynfŷd eilwaith?
A wrthodi gyngor ffri,
A'l gynnig i ti ganwaith?
Os gwrthodi mewn môdd sŷnn,
Cydnebŷdd hŷn yn fanwl,
Cŷn pen nemmawr, cel'n ddinam
Roi cyfrif am y cwbwl.
Mewn prŷd ac amser cofia hŷn,
Darostwng ddŷn, nag ofna
Gyngor dâ; Os cymri fo
A'th achub; Gwrando arnaf.
Os byddi bŷw mewn cyflwr caeth,
Mewn Anwŷbodaeth rhyfedd:
Gwŷbŷdd hŷn, a byddi'n siwr
Golledwr yn y diwedd.

[Page 188]Yna Cristion a lefarodd wrth ei Gydymaith fel hŷn.

CRISTION. Tyred fy nghydymaith Gobeith­iol, mi a welaf fôd yn rhaid i ni ymdeithio ein hunain drachefn.

Fellu mi a welwn Gristion a Gobeithiol yn cer­dded ymlaen yn fuan; Ac Anwŷbodaeth a ddaeth dan gyrchneitio ar eu hôl: Yna ebŷr Cristion wrth ei gydymaith, Mae'n ddrŵg iawn gennif dros y Gŵr truenus ymma; Mae'n ddiammeu gennif a bŷdd hi caled arno yn y diwedd.

Gobeithiol. Och! Och! Mae llaweroedd o'n Trêf ni yn ei gyflwr ef, sef Teuluoedd, ie Ystryd­oedd cyfan, a rheini mewn proffes yn Bererinod hefŷd, ao od oes cymmaint yn ein parthau ni; Pa sawl un dybygwch sŷdd yn y mann lle ganwŷd hwn yntho?

CRISTION. Yn wir mae'r Gair yn dywedŷd, Efe a ddallodd eu llygaid fel na welent; &c. Ond yrawron yr ydŷm ni ymma ein hunain; Pa beth a feddyliwn ni am y fâth ddynnion a hwn? A ydŷnt hwŷ ar rŷw amseroedd dybygech chwi, dan Argyoeddiadau am bechod, a thrwŷ ganlyniaeth mewn ofn fod eu cyflwr yn beryglus.

Gobeithiol. Nage, attebwch y cwestiwn hwn­nw eich hunan; Canŷs yr ydŷchi'n hŷn na myfi.

CRISTION. Yr wŷf yn atteb gan hynnŷ, eu bôd nhwŷ weithieu (im tŷb i) dan argyoeddiadau, ac arswŷd; Ond o herwŷdd eu bôd wrth naturiaeth yn anwŷbodus, nid ydŷnt yn deall fôd mo'r argy­oeddiadau hynnŷ er daioni iddŷnt; Ac am hynnŷ i maent yn ddewr yn ymdrech iw mygu a'u llethu hwŷnt; Ac maent yn parhau yn rhyfygus, i rodio yn ffŷrdd eu calonnau Twŷllodrus, gan ddywedŷd heddwch wrth eu heneidiau eu hunain yn y cyflwr hwnnw.

[Page 189] Gobeithiol. Yr ydwŷf yn credu fôd y peth megis yr ydŷch yn dywedŷd; Sef bôd ofn yn gwasanaethu yn fawr, i weithio (trwŷ help ysprŷd Duw) ddaioni mewn dynnion, ac iw cymhwŷso nhw i fyned ar Bererindod pan ddechreuant eu Taith.

CRISTION Diammeu ŷw hynnŷ, os bŷdd ef fel a dyleu fôd; Canŷs fellu y mae'r Gair yn dy­wedŷd, Dechreuad doethineb ŷw ofn yr Arglwŷdd ( Diharebion 9.10.)

Gobeithiol. Pa fôdd a deallwn ni beth ydŷw gwir ofn yr Arglwŷdd?

CRISTION. Gwir ofn Duw a adwaenir wrth y tri phethau ymma.

Yn Gyntaf, Wrth ei ddechreuad, yr ydŷw ar­gyoeddiad iachusol am bechod; Sef y fâth argy­oeddiad ag sŷ'n gwaseu'n galed ar ddŷn, i ymofŷn am iechŷdwriaeth trwŷ Grîst, ac nid i gilio oddi­wrth Grist.

Yn Ail, I mae'n gyrru'r Enaid i ddal gafael yn dŷnn ar Grist am iechŷdwriaeth.

Yn Drydŷdd, I mae'n gweithio, ac yn cynnai i fynu (yn yr enaid) barch mawr tuagat Dduw a'i Air, a i Ffŷrdd, gan gadw yn yr Enaid dyner­wch calon ynghŷd a gofal ac arswŷd, rhag troi oddiwrthŷnt ar y llaw ddeheu, na'r asswŷ at ddim ar a eill Ddianrhydeddu Duw, neu a Dor­ro heddwch yr enaid, neu a dristhâo yr ysprŷd glân; neu a roddo fantais i Elynnion yr Arglwŷdd i gablu ( Rhufeiniaid 2.23. Psalm 51.8. Ezeciel 63.10. 2 Samuel 12.14.)

Gobeithiol. Chwi a ddywedasoch yn ddâ, yr wŷfyn credu i chwi ddywedŷd y gwir; A ydŷm ni yrawron yn agos i fyned dros y Tîr a felltithwŷd▪

CRISTION. Pam yr ydŷch yn gofŷn hynnŷ, a ydŷchi'n blino ar yr ymddiddanion ymma?

[Page 190] Gobeithiol. Nagydwŷf yn wir, ond dym­unwn wŷbod ymha lê yr ydŷm ni.

CRISTION. Nid oes i ni yrawron oddiar ddwŷ Filltir o'r Tîr a felltithwŷd i fyned trosto: Ond dychwelwn at y matter oedd gennŷm mewn llaw; Nid ŷw'r dynnion anwŷbodol yn deall fôd yr argyoeddiadau ymma (fŷ'n peri ofn a braw yn­thŷnt) er daioni iddŷnt; Ac am hynnŷ i maent yn ceisio eu mygu hwŷnt.

Gobeithiol. Pa fôdd a maent yn ceisio eu mygu hwŷnt.

CRISTION. Yn gyntaf, maent yn tybied mai'r Cythrael sŷ'n gweithio'r dychrŷniadau hŷn ynthŷnt, (▪ er yn ddiammeu oddiwrth Dduw a maent) ac o herwŷdd eu bôd nhw'n tybied fellu, i maent yn eu gwrthod, megis pethau a fae yn rhag-ddarparu eu dinistr hwŷnt. Yn ail, Maent hwŷ o'r oplniwn ymma hefŷd, fôd y dychrŷniadau hŷn yn tueddu i anrheithio eu ffŷdd hwŷ (er nad oes ganthŷnt ffŷdd yn y Bŷd!) ac am hynnŷ, maent yn caledu eu calonnau yn eu herbŷn hwŷnt. Yn drydŷdd, Heblaw hŷn, i maent yn meddwl na ddy­lent ofni un amser; Ac am hynnŷ gan ddirmygu, a thagu y fâth ddychrŷniadau, i maent yn digwŷdd i fôd yn bobl ryfygus a thra hyderus, er nad oes ganthŷnt refwm yn y Bŷd am yr hyder hwnnw. Ac yn ddiweddaf, I maent yn gweled fôd y dych­rŷniadau hŷn yn rhag▪ddarparu dwŷn oddiarnŷnt eu gwael sancteiddrwŷdd eu hunain; Ac am hynnŷ maent yn eu gwrthwŷnebu hwŷnt a'u hôll egni.

Gobeithiol. Yr wŷf yn gwŷbod peth o hŷn trwŷ brofiad; Canŷs cŷn i mi fy nynabod fy hun, dymma fel yr oedd hi gyda mi.

CRISTION. Gadawn heibio yr ymchwedleua hwn ynghŷlch ein cymydog Anwŷbodaeth, a moswch i ni ymddiddan am rŷw beth arall a fo buddiol.

[Page 191] Gobeithiol. O wîr ewŷllŷs fy nghalon; Ond mae'n rhaid i chwi ddechreu.

CRISTION. Oni adwaenechi er ys deng mhly­nedd i yrawron, ŵr o'ch gwlâd chwi a elwid Amserol, yr hwn oedd yn dangos (yngolwg dyn­nion) lawer o Zêl mewn crefŷdd y prŷd hwnnw ( Matthew 13.20, 21.)

Gobeithiol. Ei ddynabod ef! Oeddwn yn ddâ ddigon; Yr oedd ef yn bŷw yn nhrêf Dirâs; Yr hon sŷdd ynghŷlch dwŷ Filltir oddiwrth y Drêf a elwir Gonestrwŷdd; Ac yr oedd ef yn bŷw y drŵs nesaf i un Gwrthgiliwr.

CRISTION. Gwîr a ddywedwch chwi; Yr oeddent hwŷ ill dau yn bŷw dan yr un Tô: Wele yr oedd y gŵr hwn (yr amser hwnnw) wedi ei ddeffroi yn fawr iawn; Canŷs yr wŷf yn credu iddo gael peth golwg y prŷd hwnnw ar ei bech­odau, ac ar y cyflog sŷdd ddyledus iddo amdanŷnt.

Gobeithiol. Yr wŷf o'r un feddwl a chwitheu; Canŷs fe a ddae yn fynŷch attafi (o herwŷdd nid oedd fy Nhŷ i oddiar dair milltir oddiwrtho ef) a'r dagrau yn diferu i lawr rhŷd ei ruddiau; Yn wîr yr oeddwn i yn tosturio drosto ef; Ac yr oedd gennif beth gobaith dâ amdano: Ond gan iddo droi ei gefn ar Grefŷdd, mi allwn ddeall wrth hynnŷ mai nid pôb un ar sŷdd yn dywedŷd Arglwŷdd, Arglwŷdd, a ddaw i Deŷrnas Nefoedd.

CRISTION. Efe a ddywedodd wrthif unwaith, el fôd ef yn bwriadu myned ar Bererindod, megis yr ydŷm ninneu yrawron: Ond yn ddisymmwth, efe a gafodd gydnabyddiaeth ag un Hunan gadw, Ac yna efe a aeth yn ddieithr i mi.

Gobeithiol. Yrawron, gan ein bôd ni yn siarad amdano ef, gadewch i ni ystyried beth a allai fôd yr achosion, o'i ymchweliad disymmwth ef, a llawer eraill o'i fâth ef.

[Page 192] CRISTION. Fe eill hynnŷ fôd yn fuddiol iawn, ond dechreuwch chwi.

Gobeithiol. I mae (yn fy marn i) bedwar o resymmau am hynnŷ.

Yn Gyntaf, Er bôd Cydwŷbod y fâth ddynnion wedi eu deffroi, etto er hynnŷ nid oes dim cyfne­widiad yn eu calonnau nhw; Ac am hynnŷ pan fo grŷm Euogrwŷdd eu pechodau wedi ei wisco ym­maith oddiar eu cydwŷbod, fe ddarfu am yr hŷn oedd yn eu cyffroi nhw i fôd yn grefyddol; Ac yna troant yn naturiol iw hên ffŷrdd llygredig dra­chefn; Megis a gwelwn ni Gi pan fo yr hŷn a fwŷdtaodd ef yn gwasgu arno, Tra parhao ei gle­fŷd ef mae'n chwdu, ac yn bwrw'r cwbl i fynu; Nid ei fôd ef yn gwneuthur hynnŷ o'i fôdd, ond o herwŷdd bod y peth a fwŷdtaodd ef yn gorwedd yn drwm ar ei ddwŷfron ef; Ond pan wellhâo ef, a phan glywo ei gylla yn ysgafn ac yn esmwŷth, nid ŷw ef ronŷn llai ei awŷdd er hŷn igŷd at ei chwdiad; Ond i mae'n troi atto drachefn, ac yn llyfu'r cwbl i fynu: Ac am hynnŷ gwir ŷw'r hŷn sŷdd scrifenedig, y cî a ymchwelodd at ei chwdiad ei hun (1 Peter 2.22.) Fellu mae'r peth yn sefŷll gyda'r dynnion ymma; I maent hwŷ yn wressog am y Nefoedd, yn unic rhag ofn poenau Uffern; Ac megis a bytho eu hystyriaeth am Uffern ac ofn damnedigaeth yn oeri, ac yn lleihau; Fellu mae eu dymuniadau i'r Nefoedd ac i iechŷdwriaeth yn oeri hefŷd.

Ac fel hŷn, pan ddarfyddo eu harswŷd mae eu dymuniadau am y Nefoedd, a happusrwŷdd Tra­gywŷddol yn marw hefŷd; Ac maent hwŷ yn dychwelŷd at eu drŵg arferion drachefn.

Yr Ail Rheswm ŷw hŷn, mae ofn slafaidd yn arglwŷddiaethu arnŷnt; Yr wŷf yn dywedŷd yr­awron am eu gwaith yn ofni dynnion; Canŷs ofn [Page 193] dŷn sŷdd yn dwŷn magl ( Diharebion 29.25.) Ac am hynnŷ er eu bod yn ymddangos yn fywiog, ac yn wresog am y Nefoedd, prŷd a byddo Tân Uffern o amgŷlch eu clustiau (sef o herwŷdd eu bod yn llawn o ddychrŷniadau oblegid eu pechodau) etto pan êl yr arswŷd hwnnw ychydig heibio, hwŷ a fyddant o feddwl arall, sef mai dâ ŷw bod yn ddoeth, ac nid rhedeg (am na wŷddant pa beth) i berŷgl o golli'r cwbl a'r a feddant er mwŷn crefŷdd; Neu or lleiaf iw bwrw eu hunain i ofudiau anoch­eladwŷ ac afreidiol; Ac fellu maent yn syrthio i ymgyfeillachu ar Bŷd drachesn.

Yn Drydŷdd, I mae'r cywilŷdd sŷdd ynglŷn wrth grefŷdd, yn gorwedd megis maen tramgwŷdd yn eu ffordd hwŷnt: I maent hwŷ yn uchel ac yn feilchion; Ac mae crefŷdd yn beth gwael a dir­mygus yn eu golwg hwŷnt; Ac am hynnŷ pan anghofiant boenau Uffern, a'r llid a fŷdd; Hwŷ a ddychwelant at eu drŵg fucheddau drachefn.

Yn Bedwerŷdd, Mae myfyrlo am euogrwŷdd pechod, a'r cospedigaethau dychrynllŷd, a orfŷdd ar yr annuwolion eu dioddef yn Uffern yn flinder­us iddŷnt; Nid ydŷnt hwŷ fodlon i ddwŷs ystyried eu trueni cŷn a delo arnŷnt; Er a gallai y golwg arno osgadffŷdd (pedfaent yn caru'r olwg honno) beri iddŷnt ffoi i'r lle a mae'r cyfiawn yn ffoi iddo, ac yn cael diogelwch: Ond o herwŷdd eu bod nhw (fel a dywedais i o'rblaen) yn casau myfyrdodau am Euogrwŷdd a dychrŷn; Am hynnŷ pan gaffont wared unwaith o'u myfyr­dodau, a'r braw sŷ'n canlŷn hynnŷ, ynghŷlch digofaint Duw; I maent yn ewŷllysgar yn caledu eu calonnau, ac yn dewis y fâth ffŷrdd a moddion ag a'u caledo nhw fwŷfwŷ.

CRISTION. Yr ydŷchi yn amcanu'n agos at y marc; Canŷs sylfaen y cwbl ŷw diffŷg cyf­newidiad [Page 194] yn eu dealltwriaeth a'u hewŷllŷs; Ac am-hynnŷ, nid ydŷnt ond megis y lleidr sŷ'n sefŷll oflaen y Barnwr, yr hwn sŷ'n crynu, ac yn arswŷdo yn fawr, ac yn ymddangos fel pedfae ef yn edif­eiriol o'i galon am ei ddrygioni: Ond nid ŷw'r cwbl ond rhag ofn y cebŷst; Ac nid o herwŷdd ei fod yn casnau ei ddrŵg weithredoedd, megis y mae'n eglur, oblegid os ceiff y gŵr hwn ei rydd-did, efe a fŷdd yn lleidr, ac yn Rôg drachefn; Ond pa bae cyfnewidiad grasol yn ei feddwl a'i ewŷllŷs ef, fe a fyddai yn amgenach gŵr.

Gobeithsol. Yrawron myfi a ddangosais i chwi yr achosion o'u hymadawiad a chrefŷdd; Dang­oswch chwithau i minneu y modd o'u hymadawiad hwŷnt.

CRISTION. Hynnŷ a wnaf yn ewŷllysgar.

Yn Gyntaf, Maent yn gwŷrdrol eu meddyliau, cŷn belled ag a gallont oddiwrth feddwl am Dduw, am farwolaeth, ac am y Farn a fŷdd.

Yn Ail, Wedi hynnŷ maent bob yn ychydig yn rhoddi heibio Ddyledswŷddau neilltuol, megis Gweddi ddirgel, Ffrwŷno eu Trachwantau, Gwillo, Galaru am bechod ar cyffelŷb.

Yn Drydŷdd, Maent yn ymgadw rhag cwm­peini Cristionogion bywŷog, a gwresog mewn crefŷdd, a Duwioldeb.

Yn Bedwaredd, Maent yn myned yn ddifraw ac yn oerllŷd, ynghŷlch Dyledswŷddau cyhoeddus, megis gwrando, Darllain, ymddiddanion Duwiol, a'r cyfrŷw.

Yn Bumed, Hwŷ a bigant dyllau (megis a dywedwn) ymheisiau rhai o'r gwŷr Duwiolaf, fel a gallont gael esgus o herwŷdd rhŷw wendid, yr oe­ddent yn ei weled mewn gwŷr dâ, i daflu crefŷdd o'r tu ol iw cefnau.

Yn Chweched, Hwŷ a ddechreuant lynu wrth, [Page 195] ac ymgyfeillachu a Dynnion cnawdol, ofer, ac anllad.

Yn Seithfed Gwedi hynnŷ, hwŷ a roddant lê yn ddirgel i ymddiddanion cnawdol, a hôff iawn a fŷdd ganthŷnt os gallant weled y fâth bethau mewn rhai a gyfrifir yn onest; Fel a gallont siarad yn hyfach am y fâth faswedd trwŷ eu siampl hwŷ.

Yn Wŷthfed, Hwŷ a ddechreuant chwareu a phechodau bychain yn gyhoeddedig.

Ac yn ddiweddaf, Wedi eu caledu, hwŷ a ym­ddangosant yn eu llun eu hun; Ac yn ôl llithro o honŷnt fel hŷn ir llyngclŷn o drueni (oddigerth i ryfeddol râs Duw eu hachub) fe dderfŷdd am danŷnt yn dragywŷdd, yn eu twŷll a'u hudoliaethau eu hunain.

Yrawron mi welais yn fy mreuddwŷd, fod y Pererinod erbŷn hŷn wedi myned tros y Tîr a fell­tithwŷd, ac yn dechreu myned i wlâd Beulah ( Esaŷ 62.4.) yr hon sŷdd wlâd iachus a hyfrŷd; Ac yr oedd y ffordd yn myned yn uniawn trwŷddi; Ac ymma hwŷ a gymerasant eu hesmwŷthdra tros rŷw ennŷd o amser.

Yr oeddent ymma yn wastadol yn clywed yr adar yn canu ( Caniadau 2.10, 11, 12.) Ac yn gweled y Blodau o ddŷdd i ddŷdd yn ymddangos ar y ddaiar; Ac yr oeddŷnt yn clywed llais y Durtur yn y Tir ymma; Yn y wlâd hon hefŷd yr oedd yr haul yn tywŷnnu Nôs a Dŷdd; Ac erbŷn hŷn yr oeddent ymhell oddiwrth Ddyffrŷn Cysgod Angeu; Ac hefŷd allan o gyrraedd y Cawr Ano­baith; Ac ni allent ychwaith gymmaint a gweled Castell Ambeus o'r mann hwn: Yr oeddent hwŷ ymma wedi dyfod mewn golwg i'r Ddinas, yr oeddŷnt yn myned iddi; Hwŷ a gyfarfuant ymma hefŷd a rhai o drigolion y wlâd; Canŷs yr oedd y rhai disclair yn rhodio yn gyffredinol yn y wlâd [Page 196] hon, am ei bod hi ar duedd y Nefoedd; Yn y wlâd hon hefŷd yr adnewŷddwŷd cyfamod rhwng y Priod-fab ar Briod-ferch; Ie a Llawenŷdd y Priod-fab am y Briod-ferch, a llawenychodd eu Duw o'u plegid hwŷnt ( Esaŷ 62.5.)

Nid oedd arnŷnt eisiau na Gwîn, nac ŷd; Canŷs hwŷ a gawsant ymma ddigonolrhwŷdd o'r cwbl oll a fuasent yn ymofŷn amdanŷnt yn eu holl Bererindod; Hwŷ a glywsant ymma uchel leferŷdd yn dyfod allan o'r Ddinas yn cyhoeddi ( Esaŷ 62.11, 12.) Dywedwch wrth Ferch Seion, wele dy iachawdwr yn dyfod, wele ei gyflog gydag ef: A holl drigolion y wlâd a'u galwasant yn Bobl sanct­aidd, gwaredigion yr Arglwŷdd.

Yrawron wrth ymdeithio yn y wlâd hon, hwŷ a gawsant fwŷ o ddiddanwch, nag a gawsant mewn mannau oedd bellach oddiwrth y Deŷrnas, yr oe­ddent yn myned iddi; Ac fel-yr oeddŷnt yn nesu at y Ddinas, yr oedd hi'n ymddangos yn Eglurach iddŷnt nag o'r blaen; Yr oedd hi wedi ei hadeiladu a Pherlau, ac a Meini gwerthfawr: Yr oedd ei holl heolŷdd hi wedi eu Palmantu ag Aur; Cri­stion wrth weled gogoniant naturiol y Ddinas, a thywŷniad Penŷd yr Haul arni, a glafychodd o wir serch iddi. Gobeithiol hefŷd a gafodd wasgfa neu ddwŷ o'r un clefŷd; Ac am hynnŷ buant ymma dros dro yn gorwedd, ac yn gwaeddi allan yn eu Llesmelriadau, Os gwelwch fy anwŷlŷd mynegwch iddo fy môd yn glâf o gariad.

Ond gwedi iddŷnt wellhau a chryfhau ychydig, hwŷ a aethant iw ffordd; Ac a ddaethant yn nes­nes i fann lle'r oedd Perllannau, a Gwinllanoedd, a Gerddi, a'u pŷrth yn agored tua'r Brif-ffordd; Yrawron wedi dyfod o honŷnt i fynu at y lleoedd ymma, gwelent y Garddwr yn sefŷll ar y ffordd; A'r Pererinod a ofŷnnasant iddo eiddo pwŷ ŷw'r [Page 197] Gwinllanoedd a'r Gerddi hyfrŷd hŷn? Yntef a at­tebodd eiddo'r Brenin ydŷnt; A hwŷ a blanwŷd ymma er mwŷn difyrrwch iddo ei hun, a di­ddanwch i Bererinod; Fellu'r Garddwr a'u dygodd hwŷnt i mewn i'r Gwinllanoedd; Ac a archodd iddŷnt eu hybu eu hunain a'r dainteithion oedd yno: Efe a ddangosodd iddŷnt hefŷd Rodfŷdd y Brenin, a'r Llwŷnau lle yr oedd ef yn hoffi rhodio ynthŷnt a thanŷnt; Ac ymma yr arosasant ac a cysgasant.

Yrawron, deliais sulw yn fy mreuddwŷd, eu bôd nhw'n siarad mwŷ trwŷ eu cwsg y prŷd hwnnw, nag un amser arall yn eu holl Daith; Ac fel yr oeddwn yn rhyfeddu eu clowed; Dywedodd y Garddwr wrthif, paham yr wŷti yn rhyfeddu ynghŷlch y matter hwn? Mae grawn y gwinllaoedd ymma mor feius, fel a parant i wefusau y rhai sŷdd yn cysgu lefaru.

Fellu wedi iddŷnt ddeffroi mi a'u gwelwn yn ymdacclu i fyned tua'r Ddinas Nefol; Ond fel a dywedais i, yr oedd tywŷniad yr Haul ar y Ddinas (canŷs yr oedd hi o Aur pûr) yn ogoneddus dros ben ( Datcuddiad 21.18. 1 Corinthiaid 13.12.) Fel nas gallent etto edrŷch arni a'u llygaid, ond trwŷ offerŷn a wnaethwŷd i'r pwrpas hwnnw: Fellu fel yr oeddent yn myned ymlaen, mi a welwn ddau ŵr yn cyfarfod a hwŷnt mewn gwiscoedd yn discleirio fel Aur; A'u hwŷnebau yn llewyrchu fel yr haul.

Y Gwŷr hŷnnŷ a ofŷnnasant i'r Pererinod o ba lê yr oeddent yn dysod? A hwŷ a fynegasant iddŷnt y gwirionedd; Gofŷnnasant hefŷd, ymha lê a buasent yn lletteua? Pa anhawster a pheryglon, pa gysur a difyrrwch a gawsent hwŷ yn eu ffordd? Hwŷthau a adroddasant y cwbi ôll wrthŷnt: Yna ebŷr y Gwŷr a gyfarfu a hwŷnt, nid oes i chwi [Page 198] mwŷ ond dau anhawsder i fyned trwŷddŷnt, ac ar ôl hynnŷ yr ydŷchi yn y Ddinas.

Yna Cristion a'i Gydymaith a attolygasant ar y Gwŷr ddyfod gyda hwŷnt; Hwŷthau a'u hatteb­asant, a daent hwŷ gyda nhw; Ond ebŷr y Gwŷr mae'n rhaid chwi ennill hynnŷ trwŷ eich ffŷdd eich hun: Fellu mi a'u gwelwn hwŷ yn myned gyda'u gilŷdd hŷdoni ddaethant mewn golwg i'r porth.

Yrawron mi a welwn ymhellach, fôd Afon rhyngthŷnt a'r porth, heb un Bont i fyned trossi; A'r afon oedd yn ddwfn iawn: A'r Pererinod pan ŵelsant yr afon ymma, a synnasant yn fawr; A'r Gwŷr a ddaethai gyda hwŷnt a ddywedasant, mae'n rhaid i chwi fyned trwŷ'r afon ymma, Onide ni ellwch chwi ddyfod at y porth.

Yna'r Pererinod a ddechreuasant ymofŷn, a oedd un ffordd arall i fyned at y porth; Hwŷthau a attebasant, oes; Ond ni chafodd neb ond dau, sef Enoch ac Elias droedlo'r llwŷbŷr hwnnw, en pan seilwŷd y Bŷd ( Genesis 5.24. 2 Brenhinoedd 2.11. Hebreaid 11.5. Ecclesiasticus 44.16.) Ac ni chaiff neb ei throedio hŷdoni synnio'r Udcorn diweddaf (1 Corinthiaid 15.51, 52.) yna'r Per­erinod (yn enwedig Cristion) a ddechreuasant ddigalonni yn fawr, gan edrŷch ymma a thraw, ond ni fedrent gael ffordd yn y Bŷd i ochelŷd yr afon; Yna hwŷ a ofŷnnasant i'r Gwŷr, oedd yr afon ymhôb mann o'r un ddyfnder▪ Nagydŷw ebŷr nhw; Etto ni allent moi cynnorthwŷo hwŷnt yn y matter ymma; Canŷs ebŷr nhw, chwi a'i cewch hi yn ddyfnach neu yn fasach, fel a bo'ch yn credu ym Mrenin y lle.

Yna hwŷ a ymbarodtousant i fyned ir Dwfr; A phan aethant i mewn iddo, Cristion a ddech­reuodd suddo; A chan waeddi ar ei gydymaith [Page 199] Gobeithiol, efe a ddywedodd wrtho, yr wŷf yn suddo mewn dyfroedd dyfnion; Y Tonnau a'r llifeiriant a aethant trosofi ( Psalm 42.7. & 69.1, 2, 3.)

Yna ebŷr y llall, bŷdd gefnog fy mrawd, myfi a glowaf y gwaelod, ac mae'n galed▪ ac yn ddâ; Yna ebŷr Cristion, O fy ffrind! Gofudiau angeu am cylchasant, Ni chafi weled y Tir sŷ'n llifeirio a llaeth a mêl; A chyda hynnŷ, Tywŷllwch mawr a dychryndod a syrthiodd ar Gristion, fel nad allai weled yr hŷn oedd o'i flaen ef: Ymma hefŷd a pallodd eu synhwŷrau ef mewn messur mawr, fel na fedrai gofio, nac ymddiddan yn dref­nus, am ddim o'r hôll bethau a cawsei ef ei lawen­ychu trwŷddŷnt yn ei Bererindod: Ond cymaint ac a ddywedai ef ydoedd yn arwŷddo ei fôd ef mewn dychrŷn meddwl, ac arswŷd calon, rhag iddo foddi yn yr Afon; Ac nas cai ef bŷth fyned i mewn i'r porth; Ymma hefŷd a deallodd y rhai oedd yn sefŷll ger llaw iddo, ei fôd ef yn ddych­rynllŷd yn ei feddwl, o herwŷdd y pechodau a wnaethai ef cŷn a chwedi iddo ddechreu ei Berer­indod; Fe ddalwŷd sulw hefŷd, ei fôd yn cael ei flino wrth weled (fel a tebygai ef) Ellyllon ac Ysprydion drŵg, fel a gellŷd deall yn fynŷch wrth ei eiriau ef: Gobeithiol gan hynnŷ a gafodd ymma ei lawn waith, i gadw pen ei Frawd uwchlaw'r dŵr; Ie weithiau efe a suddeu yn gwit dan y dŵr, ac ymhen ennŷd efe a gyfodei i fynu drachefn yn hanner marw; Gobeithiol hefŷd a geisiei ei gy­suro ef, gan fynegu iddo, fy mrawd mi a welaf y Porth, a Gwŷr yn sefŷll wrtho i'n derbŷn ni i mewn: Ond Cristion a attebai, amdanochi, am­danochi y maent yn disgwŷl; Canŷs yr oeddechi yn obeithiol er pan i'ch dynabum chwi; Fellu a buoch chwitheu ebŷr ef wrth Gristion; O fy mrawd ebŷr yntef, diammeu ŷw pa bawn i wir [Page 200] Gristion, fe a ddae Crîst yrawron i'm cynnorthwŷo i; Ond o herwŷdd fy mhechodau efe am dygodd i'r fagl, ac am gadawodd i ynthi: Yna ebŷr Gob­eithiol fy mrawd, ti a lwŷr anghofiaist y Testŷn, lle a dywedir am yr Annuwollon; Nid oes Rwŷ­mau yn eu marwolaeth, a'u cryfder sŷdd heini; Nid ydŷnt mewn blinder fel dynnion eraill; Ac ni ddialeddir arnŷnt hwŷ gyda Dynnion eraill, ( Psalm 73.4, 5.) Nid ŷw'r gofudiau a'r blin­derau yr ydŷchi yn myned trwŷddŷnt yn y dyf­roedd ymma, yn arwŷdd yn y Bŷd fôd Duw wedi'ch gadel chwi; Ond hwŷ a ddanfonwŷd i'ch profi chwi, i edrŷch a gofiwchi y daioni a'r trugar­eddau a dderbŷnasoch ar ei law ef eusus, a bŷw arno ef yn eich cyfyngderau.

Yna gwelwn Gristion yn sŷnn feddylgar dros ennŷd; A Gobeithiol a ddywedodd hŷn yn ychwaneg wrtho, Bŷdd gyssurus, i mae'r Arglwŷdd Iesu yn dy iachau di ( Esaŷ 40.1, 2.) Ar hynnŷ gaweddodd Cristion a llêf uchel; O myfi a'i gwelaf ef drachefn! Ac i mae'n dywedŷd wrthŷf, Pan elŷch trwŷ'r dyfroedd myfi a fyddaf gyda thi; A thrwŷ'r Afonŷŷdd fel na lifont trosot ( Esaŷ 43.2.) Yna hwŷ a ymwrolasant ill dau, a'r gelŷn gwedi hynnŷ a fu mor llonŷdd ac mor ddlysgog a'r garreg hŷdonid aethant trosodd; Yna Cristion a gafodd Dîr caled i sefŷll arno; Ac fe ddigwŷddodd nad oedd y rhan arall o'r Afon ond bâs; Ac fel hŷn yr aethant trosodd: Yrawron ar lan yr Afon o'r tu arall, hwŷ a ganffuant y ddau ŵr mewn gwiscoedd disclair drachefn, yn disgwŷl amdanŷnt hwŷ yno; Yn gynted ac a daethant allan o'r afon, hwŷ a gyfarchasant well iddŷnt; Gan ddywedŷd Ysprydion gwasanaethgar ydŷm ni, wedi ein danfon i wasanaethu er mwŷn y rhai a gânt etifeddu iechŷd­wriaeth ( Hebreaid 1.14.) Fel hŷn yr aethant [Page 201] ynghŷd tua'r porth. Yrawron mae'n rhaid i chwi wŷbod fôd y Ddinas yn sefŷll ar frŷn uchel; Ond y Pererinod a aethant i fynu i'r Brŷn hwnnw yn esmwŷth, am fôd y ddau ŵr yn eu tywŷso erbŷn eu dwŷlo; A hwŷ a adawsent hefŷd eu gwiscoedd marwol o'u hôl yn yr Afon; Canŷs er eu bôd wedi eu gwisco a'r dillad hynnŷ pan aethant ir afon; Etto hwŷ a ddaethant allan o honi heb­ddŷnt: Hwŷ a aethant i fynu gan hynnŷ yn chwi­mwth iawn, er bôd y sylfaen ar yr hon yr oedd y Ddinas wedi ei hadeiladu yn uwch na'r Cymylau; Hwŷ a aethant gan hynnŷ trwŷ Ardaloedd yr awŷr, dan ymddiddan yn ddifŷr, ac yn gyssurus; Oblegid iddŷnt ddyfod trwŷ'r afon yn ddiberŷgl, a bôd ganthŷnt y fâth gyfeillion gogoneddus i wasan­aethu iddŷnt.

Yr ymddiddan rhyngthŷnt a'r rhai Disclair oedd ynghŷlch gogoniant y llê; A'r gwŷr a ddy­wedasant fôd ei Brydferthwch, a'i ogoniant yn anrhaethadwŷ; Yno ebŷr nhw a mae mynŷdd Seion, a Chaerselem Nefol ( Hebreaid 12.22, 23, 24.) Yno a mae minteu Luosog o Angylion, ac o yspryd­ion y rhai Cyfiawn a berffeithwŷd; Yr ydŷchi yrawron (ebŷr nhwŷ) yn myned i Baradwŷs Duw ( Datcuddiad 2.7.) Lle a cewch weled pren y Bywŷd, a bwŷdta o'i ffrwŷth aniflanedig ef: A phan ddelochi yno, fe roddir i chwi wiscoedd gwŷnion; A chwi a gewch gŷd rodio ac ymddi­ddan a'r Brenin beunŷdd; Ie a hynnŷ dros hôll Ddyddiau Tragwŷddoldeb. Ni chewch weled yno mwŷ y fâth bethau ac a welsoch pan oeddech yn y parthau isaf, yn Ardal y Ddaiar, sef Tristwch, Clefŷd, Blinder a Marwolaeth ( Datcuddiad 21.4.) Canŷs y pethau cyntaf a aethant heibio; Yr ydŷchi yn myned yrawron at Abraham, Isaac, a Jacob, ac at y Prophwŷdi ( Esaŷ 57.1, 2.) Y rhai a gym­merodd [Page 202] merodd Duw ymaith cŷn y drygfŷd oedd i ddyfod; y rhai ydŷnt yrawron yn gorphwŷs yn eu ystafell­oedd, bôb un yn rhodio yn ei uniondeb; yna y Pererindod a ofŷnnasant iddŷnt, Pa beth a allwn ni ddisgwŷl amdano, a pha beth sŷdd i ni iw wneuthur yn y lle Sanctaidd hwnnw? Hwŷthau a attebasant, yno a derbyniwch ffrwŷth eich hôll lafur; yno cewch Lawenŷdd yn lle Tristwch ( Gal­atiaid 6.7, 8.) Yno a medwch yr hŷn a hauasoch, sef ffrwŷth eich hôll Weddiau, eich Elusenau, eich Dagrau, a'ch Dioddefiadau tros y Brenin rhŷd y ffordd: Yno cewch wisco Coronau o aur▪ a mwŷn­hau tragywŷddol Bresennoldeb y sanctaidd hwnnw (1 Joan 3.2.) Canŷs yno chwi a gewch ei weled ef megis ag a mae. Yno hefŷd a gwasanaethwch ef yn wastadol a Mawl, Llawenŷdd, a Diolchgarwch yr hwn yr oeddechi'n chwennychu i wasanaethu yn y Bŷd; Er bôd hynnŷ drwŷ lawer o anhawsder, o herwŷdd gwendid eich cnawd.

Yno bŷdd hôff gan eich llygaid weled, a'ch clustiau glywed hyfrŷd lais yr Holl-alluog: Yna cewch fwŷnhau eich ffrŷns drachefn; Y rhai a aethant ir Ddinas o'ch blaen chwi; Ac yno der­byniwch yn groesawus gyda llawenŷdd mawr, bôb un ag a ddelo ar eich hôl ir lle sanctaidd hwnnw; yno hefŷd a'ch gwisgir a Gogoniant, ac Ardderch­awgrwŷdd; A chwi a gewch y fâth wiscoedd trwssiadus ar a'ch gwna chwi'n gymmwŷs i farch­ogaeth gyda Brenin y Gogoniant: A phan ddel ef gyda sŵn Udcorn yn y Cymylau, megis ar adenŷdd y gwŷnt (1 Thessaloniaid 4.) Chwi a gewch ddyfod gydag ef; A phan eisteddo ef ar orseddfa Barn, chwi a gewch eistedd yn ei ymŷl ef ( Jud 14. Dan­iel 7.9, 10.) Ie a phan roddo ef Farn ar weithred. wŷr anwiredd, chwithau hefŷd a gewch roddi eich gair yn ei blaid ef yn y Farn honno (1 Corinthiaid [Page 203] 6.2.3.) O herwŷdd eu bôd yn elynnion iddo ef, ac i chwithau hefŷd; A phan ddychwelo ir Ddinas, chwithau hefŷd a gewch fyned gydag ef, a sŵn Udcorn, lle a cewch aros yn dragywŷdd yn ei wŷdd ef.

Yrawron tra yr oeddent fel hŷn yn nesu tua'r porth, wele minteu o'r llu Nefol a ddaeth allan iw cyfarfod hwŷnt; Wrth ba rai'a dywedodd y ddau ŵr disclair; Dymma'r gwŷr a garasant ein Har­glwŷdd ni pan oedddent yn y Bŷd; Ac a ymadaw­sant a'r cwbl er mwŷn ei enw sanctaidd ef; Ac efe a'n danfonodd ni iw cyrchu hwŷnt; A nyni a'u dygasom hwŷnt hŷd ymma yn eu Taith ddymunol, fei a gallent fyned i mewn, ac edrŷch yn wŷneb eu Prynwr mewn llawenŷdd; Yna y Llu Nefol a floe­ddiasant yn uchel gan ddywedŷd, Bendigedig ŷw y rhai a elwir i Neithior Swpper yr Oen ( Dat. cuddiad 19.9.)

Daeth allan hefŷd ar yr amser hwnnw amrŷw o Udcanwŷr y Brenin iw cyfarfod hwŷnt, wedi eu gwisco mewn dillad gwŷnion disclair, y rhain a'u peraidd-gerdd, a'u hyfrŷd lais uchel, a wnae­thant i'r Nefoedd ddatseinio: Yr Udcanwŷr hŷn a gyfarchasant well i Gristion a'i Gydymaith, ac a ddywedasant, Croeso wrthŷch siloedd o weithiau o'r Bŷd; A hŷn a wnaethant gyda Bloedd a sŵn Udcŷrn.

Ar ôl hŷn, hwŷ a'u cylchasant hwŷ o bôb tu; Rhai a aethant ymlaen, a rhai yn ôl, rhai ar y llaw ddeheu, a rhai ar y llaw asswŷ (megis iw gwarchad a'u cadw nhw trwŷ'r parthau uchaf) dan seinio yn ddibaid, a phôb rhŷw felus-gerdd hyfrŷd; Hŷd oni thybieu'r sawi a allai eu gweled hwŷnt, ddiscŷn o'r Nefoedd ei hun iw cyfarfod hwŷnt ▪ Ac fel hŷn hwŷ a aethant ymlaen ynghŷd; Ac fel yr oe­ddent yn rhodio, yr oedd yr Udcanwŷr yn canu yn [Page 204] fynŷch a llais llawen a hyfrŷd, gan eu hymddwŷn eu hunain yn dirion, ac yn garedig tuagat Gristion a'i Frawd, gan arwŷddo trwŷ eu hymddygiad hyfrŷd tuagttŷnt y croesaw oedd iddŷnt iw eym­deithas, ac mor llawen a daethent iw cyfarfod hwŷnt: Ac yrawron yr oedd y ddau ŵr megis yn y Nefoedd, cŷn iddŷnt ddyfod atti; Ac yr oeddent yn ymfodloni yn fawr, wrth weled yr anneirif Lu o Angylion oddiamgŷlch; Ac wrth wrando ar eu melus-gerdd, a'u peraidd gân Soniarus; Erbŷn hŷn yr oeddent mewn golwg i'r Ddinas; A hwŷ a dybygent glowed o honŷnt yr hôll glŷch yn canu, iw croesawu hwŷnt yno: Ond uwchlaw'r cwbl, yr oedd eu calonnau nhw wedi eu llenwi a llawen­ŷdd, pan feddylient a caent aros yn y Ddinas hon yn Dargywŷddol, gyda'r fâth gymdeithion: O Pa bin a ysgrifenna, neu pa Dafod sŷdd abl i ddatgan eu gogoneddus Lawenŷdd hwŷnt yn y matter ymma: Ac fel hŷn a daethant i fynu at y porth.

Yrawron pan ddaethant at y porth, yr oedd yn yscrifennedig uwch ei ben ef mewn llythyrennau Aur, Gwŷn eu Bŷd y rhai sŷ'n gwneuthur eu orchymynion ef, fel a byddo iddŷnt fraint ymhren y Bywŷd, ac a gallont fyned i mewn trwŷ'r pŷrth i'r Ddinas ( Datcuddiad 22.14.)

Yna clywais y Gwŷr disclair yn erchi iddŷnt guro wrth y Porth; A phan wnaethant fellu, rhai o'r gwŷr oddifewn a edrŷchasant dros y Porth, sef Enoch, Moses, ac Elias, ctc. Ac fe ddywedwŷd wr­thynt, dymma Bererinod wedi dyfod o Ddinas Dist­rŷw, o herwŷdd y cariad oedd ganthŷnt at Frenin y lle ymma: Ac ar ôl hynnŷ y Pererinod a roddasant iddŷnt bôb un ei Dystiolaeth, y rhai a dderbŷn­sasant yn nechreuad eu Taith; Hwŷthau a'u dyg­asant i mewn, ac a'u dangosasant i'r Brenin; Ac wedi iddo eu darllain, efe a ofynnodd pa le y mae'r [Page 205] Gwŷr? Nhwŷthau a attebasant i maent yn sefŷll wrth y Porth; Yna'r Brenin a orchymynodd agor y Porth, fel a dêl (ebŷr ef) y genedl gyfiawn i mewn, yr hon a geidw wirionedd ( Esaŷ 27.2.)

Yrawron gwelwn yn fy mreuddwŷd, y ddau ŵr yn myned i mewn trwŷ'r Porth; Ac wele cŷn gynted ag yr aethant i mewn, fe a newidwŷd eu gwêdd, ac fe'u gwiscwŷd hwŷnt a dillad yn dis­cleirio fel Aur; Yno hefŷd a cyfarfu a hwŷnt rai a Thelynnau, a Choronau ganthŷnt; Y rhai a rodd­asant iddŷnt (y Telynnau i ganu mawl, a'r Coronau yn arwŷdd o anrhydedd) Yna mi a glowais hôll Glŷch y Ddinas yn canu drachefn o wîr Lawenŷdd; A dywedwŷd wrth y Pererinod, Ewch i mewn i La­wenŷdd eich Arglwŷdd; Mi a glowis hefŷd y gwŷr eu hunain yn canu a llyferŷdd uchel, gan ddywedŷd; I'r hwn sŷdd yn elstedd ar yr Orseddsaingc, ac i'r Oen a byddo y Fendith, a'r Anrhydedd, a'r Gogon­iant, a'r Gallu yn oes oesoedd ( Datcuddiad 5.13.)

Yrawron, cŷn gynted ag yr agorwŷd y Porth i ollwng y Pererinod i mewn, mi a edrychais ar eu hôl hwŷnt; Ac wele yr oedd y Ddinas yn discleirio fel yr Haul; Yr Heolŷdd hefŷd oeddŷnt wedi Pal­mantu ag Aur, a Rhifedi mawr o wŷr yn rhodio ynthi, a Choronau ar eu pennau, a phalmwŷdd yn eu dwŷlo, a Thelynnau Aur i ganu mawl a hwŷnt.

Yr oedd yno rai hefŷd ag adenŷdd ganthŷnt; Ac yr oeddent yn atteb y naill y llall, heb orphwŷs ddŷdd na nôs, gan ddywedŷd, Sanct, Sanct, Sanct ŷw Arglwŷdd y lluoedd ( Esaŷ 6.2, 3.) Ac o'r diwedd, hwŷ a gauasant y pŷrth; A phan welais i hynnŷ, mi a ddymunais fy môd yn eu mŷsg hwŷ.

Yrawron fel yr oeddwn yn meddwl ynoffy hun, am yr hôll bethau a welswn, mi a edrychals o'm hôl, ac a ganffŷm Anwŷbodaeth yn dyfod i lann yr afon; Ond fe a ddaeth trosodd yn fŷan, oblegid ni [Page 206] chafodd ef hanner y rhwŷstŷr a gawsau y ddau ŵr eraill wrth ddyfod trwŷddi; Canŷs fe ddigwŷ­ddodd y prŷd hwnnw fôd yno Fotiwr, yr hwn a elwid Gwag-Obaith, yr hwn a'i dygodd ef trosodd yn ei gasan; Fellu efe a escynnodd i'r Brŷn i ddyfod tua'r porth fel y lleill; Ond efe a ddaeth ar ei ben ei hunan; Canŷs ni ddaeth neb iw gyfarfod ef, gan roddi iddo'r cysur lleiaf yn y Bŷd: A phan ddaeth i fynu at y porth, fe a edrychodd ar yr yscri­fen yr hon oedd uwch ben; A chwedi hynnŷ, fe a ddechreuodd guro, gan dybied a cawsei ei dderbŷn i fewn yn ddiaros: Ond y gwŷr a edrŷchasant dros y porth, a ofŷnnasant o ba le yr oedd ef yn dyfod? A pha beth a fynnei? Yntef a attebodd, mi a fwŷd­teis ac a yfais gyda'r Brinin, ac efe a ddyscodd yn ein Heolŷdd ni ( Luc 13.26.27.) Yna hwŷ a ofŷn­nasant iddo am ei Dystiolaeth, fel a gallent fyned i mewn, a'i ddangos i'r Brenin; Fellu fe a chwiliodd yn ei fynwes, ond ni chafodd ef yr un: Yna ebŷr nhwŷ a oes un gennŷch? Ond nid attebodd ef idd­ŷnt un gair; Fellu hwŷ a fynegasant y cwbl i'r Brenin; Ond efe a naccaodd ddyfod i wared iw weled ef; Ond efe a orchymynnodd i'r ddau ŵr disclair (y rhai a fasent yn cyfarwŷddo, ac yn cyn­northwŷo Cristion a Gobeithiol i ddyfod i'r Ddinas) i fyned allan a chymmerŷd Anwŷbodaeth, a rhwŷmo eu Draed a'u ddwŷlo, a'i ddwŷn ymaith ( Matthew 22.13.) A hwŷ a'i cymerasant, ac a'i dygasant ef trwŷ'r Awŷr, ir Drŵs a welswn ar ochor y Brŷn, ac a'i bwriasant ef i mewn yno; Yna mi a welais fôd ffordd i Uffern o Bŷrth y Nefoedd, yn gystal ac o Ddinas Distrŷw: Fellu mi a ddeffrois, ac wele Breuddwŷd oedd.

DIWEDD.

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this EEBO-TCP Phase II text, in whole or in part.